Dyma'r Ddrama Gomisiwn gyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i sgrifennwyd ar gais Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Môn, a'i llwyfannu yn Llangefni trwy wythnos yr Eisteddfod, Awst 5—10, 1957, a Mr. Dewi Llwyd Jones yn ei chynhyrchu gyda chwmni o Fôn a'r ardaloedd cyfagos.
Dymuna'r awdur ddiolch yn ddiffuant i'r Pwyllgor am yr ymddiriedaeth ddiamodol ac am yr anrhydedd. Dymuna hefyd fynegi ei werthfawrogiad o barodrwydd y Mri. Hugh Evans a'i feibion, fel hen gyfeillion yr Eisteddfod, i anturio ar yr argraffiad arbennig hwn o'r gwaith fel drama i'w darllen, a'u mawr ofal hwy am y diwyg. Dyledwr ydyw hefyd i'r Archdderwydd William Morris am y gymwynas o gyd-ddarllen y proflenni.
Cedwir pob hawlfraint gan yr awdur, ac ato ef yn uniongyrchol y dylid anfon ymlaen llaw bob ymholiad ynghylch hawl chwarae'r ddrama neu unrhyw ran ohoni.
Cynan
Penmaen, Porthaethwy (Menai Bridge), Sir Fôn