Y Llyffantod (Huw Lloyd Edwards)


Clawr

Ar lawer cyfrif dramodydd y mae'r gorffennol yn ei swyngyfareddu yw Huw Lloyd Edwards. Nid i ddianc iddo rhag gorfod wynebu dyryswch, ac ing yn wir, ein bywyd cyfoes ond er mwyn ceisio eì amgyffred yn well ac o'r herwydd canfod hwyrach fod 'na obaith am ffordd ymwared o ganol y trybestod i gyd.

Alegorïau yw ei ddramâu Y Gŵr o Wlad US ac Y Gŵr o Gath Heffer a'u cymysgedd o eironi deheuig a theimlad diffuant yn un ffordd o danlinellu'r berthynas rhwng doe a heddiw. Ond dychan a ddewisodd Huw Lloyd Edwards yn bennaf yn Y Llyffantod, fel petai wedi penderfynu y talai chwerthin a gwawdio lawn cymaint â cheisio argyhoeddi drwy fod yn ddifrifol ddwys.

Man cychwyn Y Llyffantod yw drama o'r un enw gan Aristoffanes, un o ddramodwyr enwocaf Athen, "gwlad" fach arall a ddigwyddai fod yn ei amser ef yn prysur colli pob hunan-barch. Manteisiodd Huw Lloyd Edwards ar fframwaith drama'r Groegwr ond sylwadaeth ar lawer agwedd ar hurtrwydd, twpdra, anghyfiawnder a ffaeleddau ein Cymru ni sy'n ei gwneud yn ddrama wreiddiol. Ys dywed yr awdur: "Drama newydd sbon yw hon ... ond mae'n syndod mor debyg oedd argyfwng Athen yn y cyfnod cynnar hwnnw i'n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw".

Rhan o foddhad darllen y ddrama nodedig hon fydd sylwi pa mor wir yw hynny; ond y pennaf boddhad mae'n sicr fydd gwybod fod dyn yn profi llenyddiaeth o werth.