Rhywun wrth y Drws (John Lasarus Williams)


Diolch

Roeddwn i wedi darllen The Master Builder, cyfieithiad William Archer, flynyddoedd yn ôl ac wedi rhoi cynnig ar gyfieithiad o'r fersiwn hwnnw i Gymraeg ac yna'i gadael, er i mi fynd i Lerpwl i weld ei llwyfannu. Yn ddiweddar cymerais olwg arall arni a'm cael yn hoff iawn ohoni. Wedi cael gweld perfformiad o Ddoe yn ôl, cyfieithiad campus Griffith Parry o Ghosts Ibsen, penderfynais fod mor hyf ag addasu The Master Builder ar gyfer Cymru heddiw.

Felly mae arnaf ddyled i William Archer a Griffith Parry. Darllenodd yr actor adnabyddus, J. O. Roberts, y gwaith a chymeradwyo a dweud yr hoffai weld y ddrama yn cael ei llwyfannu. Rhoddodd William Lewis, Adran Ddrama, Coleg Prifysgol Bangor, ganmoliaeth ac ychwanegu at fy hyder. Derbyniais gymwynas arbennig gan y Parchedig John Gwilym Jones, sef darllen y fersiwn derfynol. Gwnaeth hynny fel llenor ysgolheigaidd, prawf bellach o'i drylwyredd. Sylwodd ar lithriadau a hynny'n gymorth i orffen y gwaith gyda graen. Beti, fy ngwraig, a fu'n gyfrifol am gywiro fy nheipio a'r cysodi, gan ofalu nad oedd gwallau ar ôl.

Ni allaf ddiolch digon i staff Wasg y Bwthyn, Caernarfon ac yn arbennig i Maldwyn Thomas a Mrs June Jones am ymgymryd â'r argraffu, am eu meddylgarwch a'u gofal tyner ar amser anodd.