Rhywun wrth y Drws (John Lasarus Williams)


Rhagymadrodd

Iaith llefaru

Wrth drafod yr iaith briodol ar gyfer drama, tua thri degau'r ugeinfed ganrif, mynegodd rhywun, mewn cylch trafod, ei farn mai iaith siarad naturiol y bobol a ddylai gael ei hysgrifennu ond yr oedd yr Athro T. Gwynn Jones yn bresennol a rhoddodd gaead ar y piser hwnnw yn bur sydyn drwy ofyn, Pa bobol? Hyd yn oed oddi fewn i ranbarth Gwynedd ceir amrywiadau. Petha medd pobol Môn ond Y Pethe yw enw llyfr Llwyd o'r Bryn, dyn o Benllyn.

Sgript ar gyfer actorion yw drama yn y lle cyntaf ac mewn drama ryddiaith gyfoes mae'n wir bod angen i'r deialog fod yn gredadwy fel iaith siarad naturiol. Yn gefndir i'r iaith yn y cyfieithiad/addasiad hwn mae tafodiaith Môn ac Arfon, cartref y cyfieithydd, ond eto nid iaith lafar yr ardal honno yw iaith y ddrama. Er enghraifft ydych chi sydd wedi'i argraffu ond yr hyn a glywir oddi ar wefusau trigolion yr ardal uchod yw ydach chi, neu dach chi. Yr un modd bydd yr ynteu llenyddol a argraffwyd yma yn ynte wedi'i gwtogi i ta. A dyma enghreifftiau eraill: d'wedwch - deudwch ; dod - dŵad; nac ydy - nâc di neu nâg di; nac oes - nâg oes; nac e - nâc i. Gwell dweud gair am yr enghraifft ddiwethaf. Dylid sylwi bod yr a, wrth lefaru, yn hir yn y tair enghraifft fel yn na yn syml a rhoddwyd acen grom, uchod, yn groes i'r arfer, i ddangos hynny. Yr anhawster yw bod nage, sydd yn iaith lenyddol y Beibil (Iago 5.12), hefyd yn naturiol mewn tafodiaith ond nâc i a glywir ym Môn ac Arfon. Ceir ie, y ffurf lenyddol, yn rhai o'r tafodieithoedd ond ia a glywir yng Ngwynedd. Gennyn ni a gennych chi sydd wedi'i argraffu yma am gynnon ni a gynnoch chi er bod ganddo ni a ganddo chi i'w clywed yn amal. Gwelir yma lawer o enghreifftiau o argraffu geiriau gydag e yn y terfyniad, fel sydd yn yr iaith lenyddol a rhai o'r tafodieithoedd, lle disgwylir i actorion, os ydyn nhw am lefaru yn null Môn ac Arfon, eu troi'n naturiol i a, e.e. adre, gartre, rhyfedd, roedden, f'asech, f'asen. Ond yn y ddwy ferf ddiwethaf newidir yr a yn y hefyd. Ceir yr a hefyd yn wrthych wrthyt wrthyf ac edrych, ac yn lle -au yn tithau, gorau, dechrau; yn diodde, eiste , amser, gallaf a'r berfau tebyg gyda mi o'u blaen; yn nesaf, fwyaf, eithaf, a'r ffurfiau lluosog megis pethau, weithiau, cynlluniau, planiau, grisiau, pennau, holau, hwyliau, amgylchiadau, syniadau, ysgwyddau ac ati.

Bu'n rhaid derbyn ffurf lafar rhai geiriau, e.e. ewyrth a diarth, eisio, wnes a nes, gwrandwch lle mae'r acen wedi symud i'r sill gyntaf nid fel gwrandewch, ond argraffwyd deall yn hytrach na dall am fod deall yn bur eang yn y tafodieithoedd. Gwelir wrtha i am wrthyf fi.

At ei gilydd, yr egwyddor y gweithiwyd ami wrth ystwytho geiriau oedd rhoi collnod i ddynodi colli llythyren, llythrennau neu air o'r ffurf lenyddol, fel hyn: be', ynte', 'newch chi?, 'na' i, d'eud, g'neud, ie'nctid, 'mod i, 'mo'u, 'nhad, 'ngwely, 'dydy o ddim, on'd ydy o. Ni welir cysondeb hollol yn hyn o beth. Ni ddangosir collnod yn roedden, rydw gan eu bod yn gyffredin yn yr iaith lenyddol bellach, a cheir y 'dw i llafar ychydig weithiau gan gynnwys y collnod. Gan mai cymyd a glywir ym Môn ac Arfon gadawyd cymryd yn hytrach na dilyn yr arferiad o geisio gwella'r dafodiaith gyda'r gair cymeryd drwy gydweddiad â rhediad y ferf, cymeraf ac ati.

Gan fod manylu fel hyn yn gallu mynd yn feichus, gwell egluro'r bwriad. Yn ein siarad bob dydd byddwn yn cwtogi geiriau yn ddidrugaredd, er enghraifft, te, sti, sgin ti? A byddwn yn dotio at ymadrodd godidog tafodiaith gwŷr De Cymru, onco sda fi. Ac eto tueddwn i gondemnio'r bachgen ysgol am ddweud Wmbo neu Mbo gan godi'i ysgwyddau i gyfleu Dydw i ddim yn gwybod. Yn y ddrama yma ceir enghraifft Saesneg Americanaidd sef, Hiya. Yn neialog Cymraeg y ddrama rhoddwyd collnodau i ddangos llythyren, llythrennau neu eiriau ar goll, er mwyn cadw mewn cof y ffurf lenyddol, neu ysgrifenedig o leiaf, gan mai honno, bellach, yw sylfaen yr iaith lafar safonol. Mae'r ystyriaeth yn berthnasol hefyd i'r iaith, wedi'i hystwytho, mewn llyfrau poblogaidd, ac yn arbennig, llyfrau ysgol a llyfrau ar gyfer plant yn dechrau dysgu. Byddai Mary Vaughan Jones, awdur y gyfres sy'n cynnwys Sali Mali, yn bur ofalus rhag plygu'n ormodol at ffurfiau tafodieithol. Dyma rai enghreifftiau o'i gwaith hi: ffenest, cadair, pry, garej, a'r brawddegau hyn, Beth sydd yna? a Peintio'r theatr bypedau ydy gwaith Dewi. Dangosir yr un gofal am eirfa a ffurfiau yn Rala Rwdins a llyfrau eraill Angharad Thomas. Er mor ddifyr yw'r tafodieithoedd, maen nhw'n debyg i geffyl heb ei ddal ac y mae peryg iddyn nhw ruthro i'r drain neu'r gors a ninnau i'w canlyn.

Yn ogystal â bod yn sgript ymarferol ar gyfer actorion gall fersiwn argraffedig o ddrama fod yn llyfryn i'w ddarllen yn ddistaw neu'n uchel sef stori mewn deialog. A gall fersiwn felly fod yn ddefnyddiol mewn ysgol a choleg, mewn dosbarth gwirfoddol neu glwb. Mae yn un ffordd o ennyn diddordeb mewn dramâu a theatr ac yn gyfrwng hwylus i ymarfer darllen yn uchel yn ystyrlon ac, yn wir, yn ddramatig yn ogystal â bod yn fan cychwyn trafodaeth ar y cymeriadau, troadau'r stori a phwyntiau iaith. Dyna gyfle i ddysgwyr yn ogystal â siaradwyr iaith gyntaf.

Oherwydd yr ystyriaethau uchod, sy'n addysgol eu natur, y tynnwyd sylw at iaith y ddrama ac y bu defnydd trwm o'r collnod i ddangos cwtogi. Ac yn yr un ysbryd y cadwyd mewn cof rai geiriau ac ymadroddion llenyddol a'u defnyddio pan oedd cyfle. Eto, pobol yn siarad mewn sefyllfaoedd naturiol yw cymeriadau mewn drama o'r math yma ac nid yw addasu ychydig ar yr iaith lafar naturiol yn dibrisio gwerth a diddordeb tafodiaith. Y dyddiau hyn, pryd y mae cymaint o ganu lle mae'n anodd deall y geiriau, a'u bod yn ddibwys o'u cymharu â'r gerddoriaeth, mewn dramâu a rhaglenni siarad dylid anelu at fod yn glir a dealladwy. Mae honno'n her i'w hwynebu pan fo gofyn am siarad distaw iawn, uchel iawn neu gyflym iawn.

Mater arall yw'r iaith lafar i bwrpas ffurfiol megis darllen rhagolygon y tywydd a'r newyddion ar radio a theledu sy'n ddarpariaeth ar gyfer Cymru gyfan. Bellach dyna'r cyfle gorau sydd ar gael i glywed iaith lafar safonol gan nifer mawr o bobol ac y mae rhai o'r darlledwyr, yn ddynion a merched, yn haeddu eu canmol am y graen sydd ar eu hiaith. Wrth gwrs, fe ddylid anelu at Gymraeg cyfoes ystwyth ond wrth bwysleisio neu wthio rhai elfennau tafodieithol, heb sôn, ar hyn o bryd, am arfer ffurfiau gwallus, tueddir i golli urddas ac awdurdod. Canmolodd Gwenallt William Morgan, am roi i'r genedl, yn ei gyfieithiad o'r Beibil, Gymraeg cyffredinol a hardd, cymorth mawr i feithrin undeb yn ein plith. Dyna sylfaen yr iaith lenyddol ysgrifenedig. O'r pulpud a'r llwyfan ac mewn ysgol a choleg yn ogystal ag ar y radio a'r teledu mae angen Cymraeg llafar ffurfiol sy'n gyffredinol a derbyniol a'r ymdeimlad bod y gynulleidfa yn haeddu hynny.

Henrik Ibsen a chefndir y ddrama

Pan oedd Henrik yn fachgen bach, hyd saith oed, roedd y teulu'n weddol gyfoethog ond y pryd hwnnw aeth mentrau masnachol ei dad yn fethiant. O hynny ymlaen roedd hi'n galed arnyn nhw. Chwerwodd y tad, ni allai'r fam ddygymod â thlodi ac oerodd y berthynas briodasol. Bachgen unig ac anodd oedd Henrik a thrwy gyfnod ei lencyndod, fel prentis mewn siop fferyllydd, yr oedd yn dlawd iawn. Darllenai lawer a chyfansoddai farddoniaeth a bu'n ffodus yn cael ychydig gyfeillion a hyrwyddai ei ymdrechion trwy wrando a thrafod. Yn wir, byddent yn trafod pob math o destunau gan gynnwys drama ac yr oedd y gwmnïaeth yn ddifyr. Pan oedd Henrik yn ddeunaw oed aeth un o'r morynion lle'r oedd yn gweithio yn feichiog ac ef oedd yn gyfrifol. Bu'n rhaid iddo dalu tuag at fagu'r plentyn nes oedd yn bedair ar ddeg oed. Daliodd Ibsen ati am flynyddoedd yn cyfansoddi a gweithio yn y theatr yn wyneb anawsterau a diffyg llwyddiant gyda'i ddramâu.

Yr oedd yr awdur yn dri deg wyth mlwydd oed pan ddaeth llwyddiant o'r diwedd gyda'i gerdd ddramatig hir, Brand. Mae adleisiau o'r gwaith mawr hwnnw yn y ddrama, Bygmester Solness. Dilynwyd Brand gan y ddrama fydryddol enwog, Peer Gynt. Cyfansoddodd amryw o ddramâu yn trafod problemau cymdeithasol mewn rhyddiaith. Tua diwedd ei yrfa aeth ati i gyfansoddi dramâu gwahanol yn treiddio i mewn i'r bersonoliaeth ddynol a'r is-ymwybod a gwau i mewn ddelweddau symbolaidd. Enghraifft o'r math hwnnw yw Bygmester Solness a gyhoeddwyd yn 1892. Cawn amcan pa mor boblogaidd oedd Ibsen erbyn hynny o'r ffaith i ddeng mil o gopïau gael eu cyhoeddi yn yr argraffiad cyntaf, iddi fod ar gael yn fuan mewn amryw o ieithoedd ac iddi gael ei pherfformio'n fyd-eang.

Honnai Ibsen fod sail i bopeth a ysgrifennodd yn ei brofiad ef ei hun ac ni ellir gwadu nad oes elfennau o hunangofiant yn stori'r adeiladwr, Solness. Oherwydd crefft ac adeiladwaith ei ddramâu cyfeirid ato fel saer a phensaer ac yr oedd ef ei hun yn arddel yr enw hwnnw. Felly, i raddau, Ibsen yw Solness, neu yn y fersiwn yma, Isaac Ryan Morris, ac er ei fod yn adeiladwr a datblygwr go iawn mae o hefyd yn artist sy'n edrych yn ôl dros ei fywyd, yn troi pethau drosodd yn ei feddwl, yn gorfod sylweddoli a chydnabod ei gamweddau ond er hynny yn cael ei reoli gan hunanoldeb sy'n peri poen i bobol o'i gwmpas.

Thema ganolog yw ofn y genhedlaeth newydd. Yr oedd rhywfaint o gythraul y ddrama rhyngddo a dramodwyr eraill ac yn 1891 yr oedd beirniad ieuanc o'r enw Knut Hamsun wedi beirniadu ei waith yn hallt. Yr oedd Hamsun yn casáu Ibsen, a cholyn ei feirniadaeth oedd condemniad ar ddramâu problem, ar destunau cymdeithasol, ond yn anffodus iddo ef, yr oedd Ibsen wedi symud o'r maes hwnnw ers blynyddoedd a chyfansoddi dramâu seicolegol, yr union fath yr oedd Hamsun yn ei ffafrio. Adlais o'r beirniad hwnnw yw'r cynllunydd ieuanc, Elwyn Meredith yn Rhywun wrth y drws.

Fel yn ei fywyd personol yr oedd lle amlwg i ferched yn nramâu Ibsen. Honnir nad oedd llawer o hapusrwydd yn ei briodas â'i wraig Suzannah ac eto yr oedd yn ofalus ohoni. Er bod y dramodydd yn dibynnu llawer arni, dywedir mai dwy ynys ar wahân oedden nhw. Efallai bod adlewyrchiad o'r siomedigaeth a'r diffyg cariad oedd ym mam Ibsen ac yn ei wraig yng nghymeriad Mrs Gladys Morris yn y ddrama hon. Eto, yn ôl Edmund Gosse, bu Susannah yn wraig ardderchog i Henrik Ibsen. Meddai ef:

Mrs Ibsen, his faithful guide, guardian and companion for half a century, will live among the entirely successful wives of difficult men of genius.
Ac eto:
By her watchfulness, her adroitness, and, when necessary, her firmness of decision, she smoothed the path for the great man whom she adored.
Ar hyd ei oes yr oedd Ibsen yn hoff o ferched ieuainc ac nid oedd prinder o edmygwyr ac yntau'n fyd-enwog ac yn gefnogwr hawliau merched. Gadawodd Ibsen, ar ei ôl, lawer o lythyrau oddi wrth ferched, a'r rheini yn ceisio cysur o ryw fath ganddo ac atebion i'w problemau meddyliol ac ysbrydol. Yn ei ragymadrodd i'w gyfieithiad, dyfynna William Archer wraig Ibsen:
Ibsen, (I have often said to him), Ibsen, keep these swarms of overstrained womenfolk at arm's length. Oh no, (he would reply), let them alone. I want to observe them more closely.
Roedden nhw'n sbardun ac yn ddeunydd crai ar gyfer ei ddramâu. Un arbennig oedd Emilie Bardach, geneth ddeunaw oed o Fienna y bu carwriaeth rhyngddyn nhw am gyfnod byr o ddau fis yn ystod haf 1889, yn Gossensass yn ardal y Tyrol yn Awstria. Roedd Ibsen yn chwe deg un. Erbyn cyfnod y ddrama hon roedd ef yn chwe deg pedair oed; dau ddeg tair yw oed Helen yn y ddrama. Adlewyrchir y ffaith syml, bod dyn yn gwanio wrth heneiddio a bod yr ifanc yn naturiol gryf, yn y berthynas ryfedd a'r cydymdeimlad cyfriniol rhwng Morris a Helen. Honnir bod y garwriaeth rhwng Ibsen ac Emilie Bardach yn ddigon angerddol ar y pryd i beri i Ibsen ystyried ceisio ysgariad a mynd i ffwrdd i grwydro'r gwledydd gyda'r ferch. Ond wedi iddo ddod ato'i hun yn y byd real mae'n amlwg iddo sylweddoli nad oedd y cynllun ond ffantasi hen ŵr oddi cartref ac na allai wynebu'r problemau ymarferol. Yn ôl ei dyddiaduron hi ymddiddan â hi gydag angerdd am bethau dyfnion bywyd, meddyliau artist a'u serch rhwystredig oedd natur y profiad ac yntau'n ei hedmygu'n fawr am fod ei gwrando a'i hymateb serchog yn wynfyd eneidiol iddo. Un arall oedd Hildur Andersen, geneth yr oedd Ibsen wedi ei chyfarfod gyntaf pan oedd hi'n ddeg oed. A hithau'n saith ar hugain ac yn bianydd o fri, newydd ddychwelyd o daith gerdded yn y mynyddoedd, dechreuodd cyfeillgarwch Platonaidd rhyngddyn nhw a barhaodd am naw mlynedd. Cafodd dyddiad y cyfarfyddiad hwn ei roi ar gof a chadw yn gyhoeddus drwy ei ddefnyddio yn y ddrama hon, 19 Medi, y dyddiad y daw Helen O'Reilly yn ôl i fywyd Morris ar derfyn deng mlynedd. Pan oedd Ibsen, tua diwedd ei yrfa, wedi ymneilltuo oddi wrth gymdeithas, gwerthfawrogai yn fawr ei gyfeillgarwch â Hildur Andersen oedd yn artist fel yntau.

Yr oedd teimladau crefyddol cryfion yn y teulu pan oedd Ibsen yn fachgen ac ymddengys ei bod yn debyg yn Norwy i'r sefyllfa yng Nghymru yn yr un cyfnod sef diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd pwyslais ar Y Farn ac yr oedd cyfiawnder Duw yn golygu cosb. Er hynny anfoddhaol oedd crefydd gyfundrefnol yn ôl Kierkegaard, athronydd y bu Ibsen yn darllen rhywfaint o'i waith. Yr oedd angen penderfyniad personol pendant ac ymrwymiad digyfaddawd yn hytrach na drifftio gyda'r haid. Porthai syniadau fel hyn y teimladau o feirniadaeth ar gonfensiynau ei gyfnod a'r ysbryd protestio yn erbyn awdurdod oedd yn naturiol yn y rebel, Ibsen. Clywn adlais o hyn oll yng ngeiriau'r adeiladwr ar ben tŵr yr eglwys yn herio Duw a chwyno nad oedd lle i ychydig hapusrwydd dynol a chariad yng nghynlluniau'r Hollalluog.

I geisio dal ysbryd y ddrama gall fod yn gymorth i'r cynhyrchydd a'r actorion ystyried mai ymgais i ddadorchuddio enaid y prif gymeriad yw stori'r ddrama ac i raddau'r cymeriadau eraill hefyd, yn enwedig Helen. Gellir meddwl amdani hefyd fel barddoniaeth mewn deialog o eiriau plaen, oherwydd yr awgrymiadau, yr adleisiau a'r delweddau sydd drwyddi. Yn nechrau'r act gyntaf ceir darlun bychan realistig o fygythiad y genhedlaeth ieuanc yn ymgais Owen Meredith i gael cydnabod gallu a gwerth ei fab, un o themâu canolog y ddrama. Ac yn niwedd y ddrama cawn enghraifft o symboliaeth lle gwelir Helen yn chwifio siôl wen Mrs Morris, arwydd o amdo. Yn union cyn hynny a hithau'n gorfoleddu wrth weld ei harwr yn cyrraedd y copa ac yn concro, dywedir bod ei geiriau, yn y gwreiddiol, yn adlais clir o Gorffennwyd Crist ar y groes er nad oes, yn sicr, gyfatebiaeth rhwng yr adeiladwr a Christ. Nid cyfatebiadau penodol fel mewn alegori sydd yma ond symbolau. Un o deulu'r barcud a'r hebog yw Helen yn ôl ei geiriau ei hun, aderyn peryglus iawn i adar eraill. Amwys iawn ond diddorol yw arwyddocâd y tŵr a'r dewin oddi mewn a'r cyfeiriadau at yr adeiladwr neu'r artist sy'n sâl neu'n wallgo neu wedi d'rysu. Dangosir diddordeb yn yr afreal, mewn breuddwydion, a'r profiad iasol o ddisgyn drwy'r awyr, a sonnir llawer am gastell yn yr awyr a'r ddau brofiad dychmygol yn troi yn wirionedd creulon yn y diwedd. I fyd myth a hud a lledrith y perthyn y dewin a'r tylwyth teg a'r ysbrydion drwg ond byd dirgelion tywyll y meddwl dynol a'i ofergoeledd a'i ofnau yw hwnnw yn y pen draw. Gofyn cwestiynau am y natur ddynol a wnâi Ibsen, nid rhoi atebion rhesymegol.

John L. Williams