Adar o'r Unlliw

Ciw-restr ar gyfer Dici

(Twm) Hylo, Dici!
 
(1, 0) 24 Hylo, Twm!
(Twm) Ydi'r cwrw gen ti?
 
(Twm) Ydi'r cwrw gen ti?
(1, 0) 26 Ydi, siwr.
(Twm) Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia!
 
(Twm) Estyn y cwrw 'na i mi, Dici.
(1, 0) 40 A─!
(1, 0) 41 Hym!
(1, 0) 42 Hyfryd!
(1, 0) 43 Ych chi wedi gosod y "lines " nos, Twm?
(Twm) Ydw.
 
(1, 0) 49 Mae'r ast fach yn anesmwyth iawn.
(Twm) Ydi.
 
(1, 0) 53 Gorwedd di yn dawel, Fflos fach.
(1, 0) 54 Bydd yn saffach ini.
 
(1, 0) 56 Taw dy swn!
 
(1, 0) 58 Ble mae'r asyn?
(Twm) Mae e' wedi 'i rwymo lawr yna wrth y bont.
 
(1, 0) 62 Nedi!
(Twm) Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus.
 
(1, 0) 67 Ia─a mae gen i eitha ffordd o drafod stêc a winwns hefyd.
(Twm) "Hold on," Dici bach, cymer bwyll, 'machgen i.
 
(1, 0) 71 Gadael peth?
(Twm) Ia─rhag ofn.
 
(1, 0) 76 Wel─falle y byddai pobl yn barod i gredu hynny, falle─
(Twm) 'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i.
 
(Twm) Welaist ti Price pan o't ti nol y cwrw?
(1, 0) 80 Do.
 
(1, 0) 82 Gofynnodd i mi roi hwn i chi.
(Twm) Ynghylch y samwn, debig.
 
(Twm) Fe garwn i pe bai'r 'ffeiradon 'na'n rhoi luncheon iddo fe ac yn dechreu drwy arllwys dos dda o wenwyn llygod i lawr corn gwddw'r hen gythraul!
(1, 0) 91 Clywch, clywch, Twm!
(1, 0) 92 'Does gen i ddim ond ceiniog a dimai yn y byd─ond fe rown nhw'n galonnog am gael dal y botel wrth 'i ben e'.
(Twm) {Yn parhau i ddarllen.}
 
(Twm) Yn gywir, Robert Price."
(1, 0) 96 Deg ceiniog y pound?
(1, 0) 97 Diawch Twm, dyna arian da!
(Twm) {Yn dodi y llythyr yn ei boced.}
 
(Twm) Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin.
(1, 0) 107 Ydi wir.
(1, 0) 108 Glywch chi e'?
(1, 0) 109 Gwynt y gorllewin─hen wynt iawn am gario cymylau.
(1, 0) 110 Dere di â difon o gymylau gen ti, 'rhen wynt.
(1, 0) 111 Dyna dyna, gyrr nhw i fyny i sau llygaid yr hen leuad.
(1, 0) 112 Dere lawr at yr afon, Twm; alla' i ddim dal yn hwy.
(Twm) Ia.
 
(1, 0) 117 'Rwy'n 'i gladdu e', Twm.
(1, 0) 118 'Rwy'i wedi 'i gladdu e'.
(1, 0) 119 Oes gennych chi ddefnydd ffagal?
(Twm) Oes, fe guddiais i bopeth sydd eisieu tu cefn i'r clawdd 'ma.
 
(1, 0) 126 Hist!
 
(Twm) Beth glywi di?
(1, 0) 129 Swn traed.
(Twm) Ble?
 
(1, 0) 132 Yn y coed.
(1, 0) 133 Jenkins y Cipar sy 'na, Twm.
(Twm) Fe?
 
(Twm) Dwed wrth yr ast fach am fod yn dawel.
(1, 0) 139 Reit.
 
(1, 0) 148 Dyma fe.
(Twm) {Yn hyglyw.}
 
(Twm) Noswaith dda, Jenkins.
(1, 0) 156 Noswaith dda, Mistar Jenkins.
(1, 0) 157 TwM
 
(1, 0) 159 Cymryd tro bach ar ol swper?
(Jenkins) 'Dwy' i am ddim o'ch sebon chi 'ch dau.
 
(Twm) Pwy sy ar 'i hen dir e'?
(1, 0) 176 Ia─pwy sy arno?
(Twm) Y ffordd fawr yw hon, ontefe?
 
(Twm) Sipsiwns ddwedsoch chi?
(1, 0) 196 Cwilydd iddo, Twm─a chitha'n Fethodist hefyd.
(Jenkins) Yn y wyrcws y dylet ti fod, y llechgi bach.
 
(Jenkins) Yn y wyrcws y dylet ti fod, y llechgi bach.
(1, 0) 198 Nage.
(1, 0) 199 Yfi y tu fewn i hen wal fawr─dim byth!
(Jenkins) Ac am danat ti, Twm Tincer, dy le di yw'r 'jail'─a bydd yn bleser mawr gen i dy gael di yno.
 
(Twm) 'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny.
(1, 0) 205 Na, dim eiliad cyn hynny, Twm.
(Twm) 'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma.
 
(1, 0) 213 Ach yfi!
(1, 0) 214 Os oes na greadur mwy ffiaidd ar y ddaear 'ma na wenci, cipar yw hwnnw.
(Twm) 'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio.
 
(Twm) 'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio.
(1, 0) 216 'Roedd e'n dweyd 'i fod e'n mynd tua thre.
(1, 0) 217 Sh!
(1, 0) 218 Ydi, mae e'n mynd 'nol drwy'r allt.
(1, 0) 219 Dewch mlaen, Twm.
(1, 0) 220 Nawr am dani.
(1, 0) 221 Alla' i ddim aros rhagor.
(1, 0) 222 Ych chi ddim yn teimlo'r afon yn eich tynnu chi, ia'n tynnu a thynnu?
(1, 0) 223 Mae'r lleuad yn mynd, Twm.
(Twm) O'r gora, fe'i mentrwn hi.
 
(1, 0) 229 Ha, ha, ha!
(1, 0) 230 Noswaith dda i ti'r hen ddyn yn y lleuad.
(1, 0) 231 Ffarwel, chi'r ser bach gwynion!
(1, 0) 232 Ac os digwydd i chi bipo mas, 'rwy'n gobeithio na welwch chi ddim llai na samwn un pound ar bymtheg─
(1, 0) 233 Ha, ha!
(1, 0) 234 Ho, ho!
(Twm) {Yn estyn y taclau i Dici.}
 
(1, 0) 239 Nawr am y paraffin.
(Twm) Oes matches gen ti?
 
(1, 0) 242 Oes, digon.
(Twm) O'r gora 'ta.
 
(Twm) O'r gora 'ta.
(1, 0) 244 Ha, ha, ha!
(1, 0) 245 Tryfer a ffagal unwaith eto─
(1, 0) 246 O, dyna'r pryd 'rwy' i wrth modd.
(1, 0) 247 O darro, alla' i ddim dweyd wrthoch chi, Twm, ond mae fel pe bai llond 'nghalon i o adar bach yn canu.
 
(1, 0) 249 Alla' i ddim bod yn llonydd─na alla' wir.
 
(1, 0) 251 Ond, Twm, mae'r son 'ma am fy nodi i yn y wyrcws yn fy nychryn i'n ofnadw.
(1, 0) 252 Tasa' nhw'n 'nodi i yn y wyrcws, Twm, a tasa rhywun yn dod ata' i ar noson fel hon a dweyd y gair "samwns "─dim ond yn dawel fach─
(1, 0) 253 O'r mawredd, Twm, baswn i'n siwr o dorri 'nghalon a marw.
(Twm) Wel, machgen i, gobeithio 'rwy' i na fydd yr un o honom ni yn y jail cyn brecwast bore fory.
 
(1, 0) 258 'Rhoswch.
(1, 0) 259 Mae rhywun arall yn dod nawr.
(Twm) Darro'r bobol 'ma!
 
(1, 0) 267 'Dwy' i ddim yn nabod swn 'i droede'.
(1, 0) 268 Dyn diarth yw e'.
 
(1, 0) 270 Dyma fe.
(1, 0) 271 Diawch, Twm, ciwrat yw e'.
(Twm) Ciwrat?
 
(Twm) Ciwrat?
(1, 0) 273 Ie, a het silk ar 'i ben e' a legins am 'i goese'.
(Twm) Ciwrat?
 
(1, 0) 292 Noswaith dda, syr.
(Esgob) A fyddwch chwi cystal â dywedyd wrthyf os ydwyf rywle'n agos i'r Ficerdŷ?
 
(Esgob) Beth?
(1, 0) 301 Ydi, syr─bedair milltir oddiyma.
(Esgob) Pedair milltir?
 
(Esgob) Alla' i byth mo'u cerdded nhw.
(1, 0) 305 Colli'ch ffordd ddaru chi, syr?
(Esgob) Ie siwr.
 
(Esgob) Ond 'rwyf newydd ddod o hyd i'r llythyr yn fy llogell.
(1, 0) 317 Twm, falle y leiciai'r gwr bonheddig eiste' lawr?
(Twm) Eisteddwch chi, syr, a chroeso.
 
(1, 0) 322 Dyma chi, syr.
(1, 0) 323 Cymrwch spel.
(1, 0) 324 Mae'ch traed chi'n siwr o fod wedi blino.
(Esgob) {Yn ffroeni.}
 
(Esgob) Wel yn wir, mae yma, oes yn siwr─arogl hyfryd.
(1, 0) 328 Y badell ffrio, syr─stêc a winwns.
(Esgob) {Yn awchus.}
 
(1, 0) 337 Rhaid, siwr iawn, Twm.
(Esgob) {Yn protestio'n ffurfiol ond yn wanaidd.}
 
(Twm) Estyn y plat 'na, Dici.
(1, 0) 344 Dyna fe, Twm, y grafi a chwbl.
 
(1, 0) 346 Dyna chi, syr.
(1, 0) 347 Nawr, tafellan o fara.
(Esgob) Diolch i chwi, diolch yn fawr i chwi.
 
(Esgob) {Dechreua fwyta'n awchus.}
(1, 0) 352 Leiciech chi ddiferyn o gwrw, syr?
(Esgob) {Yn gwenu o foddhad.}
 
(Twm) Yh─Dici─
(1, 0) 357 Mae'n olreit, Twm.
(1, 0) 358 Perthyn i'r Eglwys nid i'r capel mae'r gwr bonheddig.
 
(Twm) Wel, Twm Tincer mae' nhw 'ngalw i.
(1, 0) 372 Dici Bach Dwl yw'r enw sy gennyn' nhw arno' i, syr.
(Esgob) Dici Bach D─?
 
(Twm) Fyswn i ddim yn dweyd wrth bawb, tawn i'n eich lle chi, syr.
(1, 0) 378 Na.
(1, 0) 379 Chi'n gweld, syr, mae enw drwg i ni─rywsut.
(Esgob) Enw drwg?
 
(Esgob) Enw drwg?
(1, 0) 381 Ia, am botsio, syr.
(Twm) {Yn ceisio ei rybuddio.}
 
(Twm) Ynh─hym─
(1, 0) 384 Peidiwch bod ag ofn, Twm.
(1, 0) 385 Ond gallwch chi weld wrth wyneb y gwr bonheddig fod 'i galon e' yn 'i lle.
(Twm) I fod yn onest â chi, falle dylswn i ddweyd un peth wrthoch chi, syr.
 
(1, 0) 390 Yn mwynhau, syr?
(Esgob) Ydwyf.
 
(Esgob) Rhaidi mi egluro i mi ddod ar fy union o Gynhadledd yn Llandrindod.
(1, 0) 393 Beth mae' nhw'n wneud mewn c'nadledd, syr?
(Esgob) {Gydag atgofion diflas.}
 
(Esgob) Wedi holl ffwdan y Gynhadledd, mae'n brofiad hyfryd i mi i fod yma, a dim ond tri ohonom wrth ein hunain.
(1, 0) 401 Wrth ein hunain, syr?
(1, 0) 402 O, na, 'dym ni ddim wrth ein hunain.
(Esgob) {Yn craffu yma ac acw.}
 
(Esgob) Ond─
(1, 0) 406 Mae' nhw o'n cwmpas ni ym mhobman, syr, yn ein gwylio.
(Esgob) Yn ein gwylio?
 
(Esgob) Yn ein gwylio?
(1, 0) 408 Ia, mae'r twllwch yn llawn o lygaid bach disglair.
(Esgob) Llygaid yn y tywyllwch?
 
(Esgob) Diar mi!
(1, 0) 411 Mae 'na wningod wrth yr ugeiniau.
(Esgob) {Yn dechreu teimlo diddordeb.}
 
(1, 0) 415 Hip.
(1, 0) 416 B-r-r-r!
(1, 0) 417 Ffwrdd a chi, 'r cwningod bach!
 
(1, 0) 419 Ffwrdd a nhw, syr, bob un a'i gwt bach i fyny, yn rhedeg fel tae'n ddiwedd y byd arnyn' nhw.
(1, 0) 420 Clywir llwynog yn cyfarth yn y pellter ar yr aswy.
(Esgob) Dyna gi.
 
(Esgob) Dyna gi.
(1, 0) 422 Ci?
(1, 0) 423 Nage, cadno yw hwnna.
(Esgob) Yn wir?
 
(Esgob) Cadno?
(1, 0) 426 Ia, yn snecio fel cysgod ar hyd godre'r allt, yn 'i gwneud hi am ffowls rhywun, siwr gen i.
(Esgob) Llygaid yn y tywyllwch─ni feddyliais erioed o'r blaen am danynt.
 
(Esgob) Nid yn unig mae'n ddymunol yma ond mae─mae yma rywbeth cyfareddol hefyd.
(1, 0) 431 Dyna'r hen regen 'r yd lawr 'na ar y gors.
(1, 0) 432 Dim ond iddi ddechreu arni o ddifri, dyn a wyr pryd gwnaiff hi dewi.
(Esgob) Mae hynny yn fy atgofio i o Landrindod.
 
(Esgob) Mae hynny yn fy atgofio i o Landrindod.
(1, 0) 434 Ar y fron 'na 'rwy'n eitha siwr fod 'na gwpwl o ddraenogod yn chwilota o gwmpas; a fan hyn, yn y cae llafur mae'r gwichwrs bach.
(Esgob) A phwy yw'r gwichwrs bach?
 
(Esgob) A phwy yw'r gwichwrs bach?
(1, 0) 436 Y llygod, wrth gwrs.
(1, 0) 437 Dyna lle mae' nhw wrthi o hyd yn pigo 'u tamad bach.
(1, 0) 438 O, mae gen i olwg fawr ar y gwichwrs bach 'na.
(1, 0) 439 Rhyw bigo fy nhamad 'rwy' innau.
(Esgob) Fe wn i beth yw honna; dylluan.
 
(Esgob) Fe wn i beth yw honna; dylluan.
(1, 0) 442 Ia.
 
(1, 0) 444 Look out, gwichwrs bach.
(1, 0) 445 Mae'r hen gwdihw ar eich ol chi.
(1, 0) 446 'Rwy'n leicio rhoi notis iddyn' nhw, syr.
(Esgob) Da machgen i!
 
(Esgob) Tendiwch atoch.
(1, 0) 450 Ach yfi, yr hen gwdihws na!
(1, 0) 451 'Dyn' nhw damad gwell na Jenkins y Cipar a Powel y Polis.
(Esgob) {Yn ymdeimlo a swyn ei amgylchoedd.}
 
(1, 0) 456 Ha, ha, ha!
(1, 0) 457 'R ych chitha'n 'i deimlo fe hefyd.
(1, 0) 458 Dyna ysbryd y nos, syr.
(1, 0) 459 Mae'r gwynt a'r twllwch yn cymryd gafael ynoch chi.
(Esgob) {Braidd yn anesmwyth er ei fwynhad.}
 
(Esgob) Wel, mae rhywbeth yn cymryd gafael ynof; mae hynny'n sicr.
(1, 0) 462 Ha, ha!
(1, 0) 463 'Rhoswch, chi, syr, 'rhoswch chi funud.
(Twm) Ciwrat neu beidio, syr, wnaiff hi mo'r tro i chi wrando gormod ar Dici Bach Dwl.
 
(Twm) Ar brydiau fe allai wneud eitha gang o botsiars o'r Deuddeg Apostol 'u hunain.
(1, 0) 466 Ych chi'n leicio tipyn o sport, syr?
(Esgob) Sport?
 
(Esgob) Wel, 'r oeddwn yn dipyn o athlete pan oeddwn yn Rhydychen.
(1, 0) 472 Falle leiciech chi dipyn o sport yn yr afon heno?
(Twm) {O'r neilltu, yn bryderus.}
 
(Twm) Dici, Dici!
(1, 0) 475 Ond, Twm, 'dych chi ddim yn gweld?
(1, 0) 476 Mae e' bron â bod yn un o honom ni'n barod.
(1, 0) 477 Gwrandewch, syr.
(1, 0) 478 'Rwy' i am ddweyd rhywbeth yn eich clust.
 
(1, 0) 480 Mae Twm a finna'n mynd ar ol samwn heno.
(Esgob) Samwn?
 
(Esgob) Samwn?
(1, 0) 482 Ia, lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones.
 
(1, 0) 484 Dyma'r taclau.
 
(1, 0) 486 Nawr, cymrwch chi'r dryfer.
(Esgob) Ond, 'machgen i─
 
(Esgob) Beth gaf fi wneud â hi?
(1, 0) 492 Bwriwch ein bod ni'n mynd i mewn i'r dwr.
(Esgob) {Wedi anghofio ei esgobaeth.}
 
(Esgob) Diar mi!
(1, 0) 496 A dim ond y ffagal yn y twllwch a'r cysgodion mawr, mawr yn chware mic o'n cwmpas ni.
(1, 0) 497 A chitha'n disgwyl fel hyn─sh─mor ddistaw â'r marw.
(1, 0) 498 Ac yna─dyna'r samwn!
(Esgob) Ie, dyna'r samwn.
 
(Esgob) Ie, dyna'r samwn.
(1, 0) 500 Ciwrat neu beidio, meddyliwch am dano.
(1, 0) 501 Allwch chi ddim gweld 'i drwyn e'n tynnu at y gole?
(Esgob) Ei drwyn─ie!
 
(Esgob) Ac yna?
(1, 0) 504 Yna dyna chi'n codi'r dryfer─{yn dangos sut}─yn araf a charcus fel hyn.
(Esgob) {Yn ei ddynwared.}
 
(1, 0) 510 Dyna fe'n dod─yn nes ac yn nes.
(1, 0) 511 Welwch chi 'i gefn e'n fflachio yn ydwr?
(1, 0) 512 Dyna'r man─tu ol i'w ben e'.
 
(1, 0) 514 Nawr!
 
(1, 0) 516 Lawr â'r dryfer.
(1, 0) 517 Swish!
(Esgob) {Yn ei ddynwared eto.}
 
(1, 0) 521 Ac yna, hwb, i fyny ag e' i'r lan.
(Esgob) {Yn ei ddynwared.}
 
(Esgob) I'r lan ag e' fel hyn?
(1, 0) 524 O syr, dyna sport i chi!
(1, 0) 525 Sport, syr?
(1, 0) 526 Ia'n ddigon da i frenhinoedd y ddaear.
(1, 0) 527 Chi ddewch gyda ni?
(Esgob) Myfi?
 
(Esgob) Wel yn wir, efallai y─
(1, 0) 530 Dewch, syr, dewch yn wir, dim ond i'n gweld ni wrthi.
(Esgob) Wrth gwrs, pe bai dim ond i hynny─ie.
 
(Esgob) A-─llais cydwybod a Llandrindod!
(1, 0) 538 'Rych-chi'n dod gyda ni, syr, ond ych chi?
(1, 0) 539 'R ych chi yn dod?
(Esgob) Nac ydwyf, Dici, ddim ar un cyfrif.
 
(Twm) Ond fe fu bron â'ch cael chi, syr.
(1, 0) 546 Am fod yn garedig 'rown i.
(1, 0) 547 Os na ddewch chi ar ol samwn, syr, wel, falle'ch bod chi'n leicio pryd bach o frithyllod?
(Esgob) Brithyllod?
 
(Esgob) Ie, maent yn chwaethus iawn i frecwast.
(1, 0) 550 Twm, y "lines" nos 'na─wrth fon y pren helyg ddwedsoch chi ynte?
(1, 0) 551 'Rhoswch funud syr, os ych chi'n leicio brithyllod.
(Twm) Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'.
 
(Esgob) Gwn ddigon i wneud cymaint â hynny a phobl y buasech yn synnu clywed eu henwau.
(1, 0) 565 Dyma nhw, syr.
(1, 0) 566 'Drychwch arnyn' nhw.
(1, 0) 567 Brithyllod bach hyfryd, syr─yn syth oddiar y bach.
(1, 0) 568 I chi mae' nhw, syr.
(1, 0) 569 Cymrwch nhw.
(Esgob) 'Rydwyf yn ofni mai lladrad yw hyn, Dici.
 
(Esgob) 'Rydwyf yn ofni mai lladrad yw hyn, Dici.
(1, 0) 571 Chymrwch chi ddim o honyn' nhw, syr?
(Esgob) Gwell─gwell i mi beidio.
 
(Twm) {Cymer y pysgod a rhydd hwy yn ei boced.}
(1, 0) 578 Wnewch chi fadde i fi am 'u cynnig nhw, syr?
(1, 0) 579 'Rown i'n meddwl falle na fysech chi ddim mor grefyddol ar noson waith.
(1, 0) 580 Ciwrat ych chi, syr, ontefe?
(Esgob) Wel, fe fum yn giwrat unwaith.
 
(Esgob) Wel, fe fum yn giwrat unwaith.
(1, 0) 582 Unwaith?
 
(1, 0) 584 Gesoch chi'r sac, syr?
(Esgob) Naddo, nid yn hollol felly.
 
(Esgob) Bum yn ficer hefyd.
(1, 0) 588 Wel, beth ych chi nawr, syr?
(Esgob) Ar hyn o bryd, yr wyf yn Esgob.
 
(Twm a Dici) Yh─Beth?
(1, 0) 592 Esgob?
(Twm) Wel, ar fy─
 
(Twm a Dici) Noswaith dda, syr.
(1, 0) 611 A gofalwch beidio cwympo i'r afon, syr.
(Esgob) Os oes yna afon ar y ffordd y gall dyn fynd iddi, 'rwyf yn bur debig o gael fy hun yn ei chanol hi.
 
(Twm a Dici) Noswaith dda, syr.
(1, 0) 617 Mawredd, Twm, bydd gennym ni rywbeth i'w ddweyd wrthyn' nhw yn yr efail yfory.
(1, 0) 618 Beth yw'r enw sy genyn' nhw ar Esgob, Twm?
(1, 0) 619 Eich Anrhydedd?
(Twm) Nage.
 
(Twm) Mae' nhw'n dweyd hynny am faer cyffredin.
(1, 0) 622 Fe wn i beth wy' i'n mynd i'w alw e'.
(Twm) Beth?
 
(Twm) Beth?
(1, 0) 624 Ei Fawredd Grasol.
(Twm) 'Dyw hynny ddim yn ffol, wir, Dici.
 
(1, 0) 627 A nawr, Twm, beth am y samwn 'na?
(Twm) {Yn estyn y dryfer a'r ffagl ac yn rhoi'r ffagl i Dici.}
 
(Twm) Beth yw'r swn 'na?
(1, 0) 632 Dim ond Ei Fawredd Grasol.
(1, 0) 633 Mae fe wedi tarfu'r asyn.
(Twm) 'Rwy'n gobeithio nad yw'r hen foi ddim wedi cwympo i'r afon.
 
(1, 0) 637 Ha, ha, ha!
(1, 0) 638 Tryfer a ffagal a'r afon unwaith eto.
 
(1, 0) 640 Ha, ha!
(1, 0) 641 O darro, Twm─fe leiciwn i ddawnsio bob cam o'r ffordd at yr afon.
(Twm) Gan bwyll, boi bach, gan bwyll!
 
(1, 0) 785 O!
 
(1, 0) 790 Dim ond Ei Fawredd Grasol sy 'ma, Twm.
(Esgob) Mae'n flin gennyf aflonyddu arnoch chwi eto, ond syrthiais i'r afon.
 
(1, 0) 796 Wel, chi'n gweld, syr, 'rym ni wedi cael cynnig─
 
(1, 0) 798 Twm?
(Twm) Wel?
 
(Twm) Wel?
(1, 0) 800 Mae Jenkins y Cipar draw fanna.
(Twm) Jenkins?
 
(Esgob) Y creadur yna yma eto?
(1, 0) 804 A mae rhywun wrth y glwyd acw.
(1, 0) 805 Powel y Polis yw e'.
(Twm) Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni.
 
(Twm) Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni.
(1, 0) 807 Gaf fi guddio'r samwn?
(Twm) {Yn ei atal.}
 
(Twm) Falle nag yn' nhw ddim wedi ei weld e' eto.
(1, 0) 811 Beth wnawn ni?
(Twm) Wn i ddim.
 
(Twm) Wn i ddim.
(1, 0) 813 Mae' nhw'n dod tuag yma.
(1, 0) 814 la─dyma Jenkins.
(Esgob) 'R ydwyf yn cashau y dyn yna.
 
(Twm) Ia, a mae llythyr Price gen i yn rhywle.
(1, 0) 820 Mae' nhw'n cauad arnom ni.
(Twm) Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici.
 
(Twm) Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici.
(1, 0) 822 Y Wyrcws?
(1, 0) 823 O, na, na, na!
 
(1, 0) 825 Allwch chi ddim ein helpu ni?
(Esgob) Myfi?
 
(Esgob) Myfi?
(1, 0) 827 O syr, meddyliwch am dana' i y tu fewn i'r hen wal fawr 'na.
(Esgob) {Yn dod i benderfyniad.}
 
(Esgob) Y pysgodyn yma fydd y dystiolaeth yn eich erbyn?
(1, 0) 831 Ia.
(Esgob) {Yn mynd at y bocs yn agos i'r samwn.}
 
(Esgob) {Yn gwneud felly.}
(1, 0) 839 Wel?
(Esgob) A'i ddal o flaen y tân i sychu─fel hyn.
 
(Esgob) A'i ddal o flaen y tân i sychu─fel hyn.
(1, 0) 841 Wel?
(Esgob) A'i ollwng dros y pysgodyn─fel hyn.
 
(Esgob) {Mae'n cloi'r samwn a'i grys nos yn ei fag.}
(1, 0) 849 Mae fe'n saff yn 'i fag e─wel tawn i byth o'r fan!
(Esgob) Ni faidd yr un cipar chwilio bag esgob.
 
(1, 0) 878 Ei Fawredd Grasol, Esgob Canolbarth Cymru.
(Jenkins) {Yn synnu.}
 
(1, 0) 889 Mawredd, Twm─Arglwydd!
(Jenkins) {Yn gorfod cydnabod hyn.}
 
(Esgob) Gyda llaw, gwahoddiad oddiwrtho i ginio yfory ydyw un o'r llythyrau hyn.
(1, 0) 895 Beth?
(1, 0) 896 Ha, ha, ha!
(1, 0) 897 Twm, yn y Castle Hotel.
(1, 0) 898 Yn ol a glywa' i mae' nhw'n prynu samwn mawr erbyn y wledd.
 
(1, 0) 900 Twm, ha, ha, ha!
(1, 0) 901 Y samwn!
(Esgob) Mae'n ddiau gennyf, Dici, y carech chwi ennill swllt yn onest.
 
(Esgob) A wnewch chwi gymryd gofal y bag yma i mi?
(1, 0) 904 Gofalu?
 
(1, 0) 906 O gwna', fe ofala' i am y bag!
(Twm) {Yn codi'r llusernau.}
 
(1, 0) 916 Noswaith dda, Mistar Jenkins.