Adra

Ciw-restr ar gyfer Arwel

(Lisa) Ia?
 
(Lisa) Ia.
(1, 0) 60 Ffyc mi am dywydd.
(1, 0) 61 O, sori, o'n i'n meddwl na fi o'dd y cynta yma.
(1, 0) 62 Arwel dwi.
(Lisa) Lisa.
 
(Aaron) Aaron.
(1, 0) 65 Da chi'n iawn gobeithio?
(1, 0) 66 Wel, cystal a medar rhywun fod ia?
(Aaron) Ia.
 
(Aaron) Ia.
(1, 0) 68 Criw da doedd?
(Aaron) O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn.
 
(Aaron) O'n i jesd yn deud hynny, criw da iawn.
(1, 0) 70 Cystal teyrnged â'r un doedd.
(Aaron) Oedd.
 
(Lisa) O'dd dy un di yn un dda... Arwel?
(1, 0) 74 Ia, diolch.
(1, 0) 75 Fyddai'm yn un am sgwennu ond chwara teg, o'n i'n ffrindia gora... o'dd a ni'n ffrindia ers ysgol feithrin.
(Aaron) Felly o'n i'n dallt.
 
(Aaron) Da o'dd stori'r tedi.
(1, 0) 78 Ia, rhen Ted.
(1, 0) 79 Mae o dal gen i, y tedi.
(1, 0) 80 Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd.
 
(1, 0) 82 Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does.
(1, 0) 83 Ella basia'i o'n mlaen.
(1, 0) 84 Y tedi.
(1, 0) 85 Dwi'n deud tedi lot braidd.
(1, 0) 86 Sori.
(Lisa) Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr.
 
(Lisa) Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr.
(1, 0) 88 Heblaw am 'i fam, ia, ella.
(1, 0) 89 Gollodd o'i dad, ond da chi'n gwbod hynny masiwr...
(1, 0) 90 Hen dlawd, oddi'n ffwc o sioc.
(Aaron) Debyg iawn.
 
(Aaron) Debyg iawn.
(1, 0) 92 I bawb deud gwir.
(1, 0) 93 Ta waeth, ma' 'na fwy ar y ffordd.
(1, 0) 94 Mai'n oer 'ma braidd, rhoswch funud.
 
(1, 0) 96 Ffyc it, tri bar am danni.
 
(Aaron) Dwi heb weld un o'r rheina ers blynyddoedd.
(1, 0) 99 Naddo?
(1, 0) 100 Da 'di letrig ffeiar.
 
(1, 0) 103 Yws.
 
(1, 0) 105 Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla...
(Ywain) O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn?
 
(Ywain) O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn?
(1, 0) 107 Eitha de.
(1, 0) 108 Sori, dwi'm yn nabod, y...
(Megan) Megan.
 
(Megan) Megan.
(1, 0) 110 A dachi'n...?
(Megan) O, na, digwydd rhannu ymbarél wnaethon ni.
 
(Ywain) Ywain.
(1, 0) 117 Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi?
(Lisa) O'dd 'na restr?
 
(Lisa) O'dd 'na restr?
(1, 0) 119 Mewn ffordd.
(1, 0) 120 Hon ydi'r wêc.
(1, 0) 121 Yn ôl be dwi'n ddallt does 'na neb arall.
 
(1, 0) 123 A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij.
(Aaron) O, wel, dwnim.
 
(Lisa) A fi, gwylnos de.
(1, 0) 129 Ia.
(Aaron) Gwylnos?
 
(Lisa) Neith corff ddim byd i chdi.
(1, 0) 139 Dwi'n gwbod fod o'n fyr rybudd, ac yn niwsans mewn ffordd, ond ffycin niwsans ydi'r busnas ma o un pen iddo fo i'r llall.
(1, 0) 140 N'de?
(1, 0) 141 Tasa ni'n onast lly.
(1, 0) 142 Siŵr dduw fod na'm rhaid chi aros, ond do's na'm llawar ohona ni yma fel ma'i a peth lleia fedra i neud beth bynnag ydi ista 'ma heno am sbel.
(Megan) Sut na jesd ni sy 'ma?
 
(Megan) Sut na jesd ni sy 'ma?
(1, 0) 144 Mi sgwennodd o betha i lawr.
(1, 0) 145 Ddim byd swyddogol, ond mi oedd 'na damad o bapur a rhyw fanion erill.
(Aaron) O'dd o isio ni yma lly?
 
(Aaron) O'dd o isio ni yma lly?
(1, 0) 147 Oedd, ni'n benodol.
(1, 0) 148 Ond chi bia deud.
(Lisa) Dwi'n gêm.
 
(Megan) O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl.
(1, 0) 183 Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic.
(1, 0) 184 A chitha fyd.
(Ywain) Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc?
 
(Ywain) Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc?
(1, 0) 188 O'n, rhyw fardd ne wbath ia?
(1, 0) 189 Fydda fo'n sôn weithia, dwi'm yn dallt rhyw betha fel'na.
(1, 0) 190 Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia?
(Ywain) Mond i ben bont o'dd isio fo fynd.
 
(Megan) Na, gyrru.
(1, 0) 194 Ffeif and dreif ydi hi pen yma.
(1, 0) 195 Ond chwara teg i chdi.
(1, 0) 196 Ma' 'na sgwash yma'n rwla os leci di.
(Megan) Diolch.
 
(Megan) A na, dwi'n iawn.
(1, 0) 200 Think, don't drink and drive.
(Lisa) Honna'n gynghanedd.
 
(Lisa) Honna'n gynghanedd.
(1, 0) 202 Hawdd gweld sut es di'n ffrindia efo fo.
(1, 0) 203 Dwi'n dallt dim am betha fel'na.
(Ywain) Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar.
 
(Aaron) Gymra'i un bach efo chi, er cof.
(1, 0) 210 Da iawn, reit.
(Ywain) Be dduda ni?
 
(Ywain) Be dduda ni?
(1, 0) 213 Er cof dwi'n meddwl.
(Pawb) Er cof.
 
(Ywain) O'dd o'n wahanol doedd.
(1, 0) 221 M.
(Aaron) Sut lly?
 
(Ywain) Dwnim, meddwl de, ia?
(1, 0) 225 Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd.
(1, 0) 226 Yn wahanol lly, ac yn cîn yn r'ysgol de.
(Megan) O'dd o'n glyfar doedd.
 
(Megan) O'dd o'n glyfar doedd.
(1, 0) 228 Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly?
(Lisa) Ddim rili.
 
(Lisa) Doni'm yn weld o'n od fatha chi.
(1, 0) 235 Ddudish i od?
(Lisa) Ddim yn uchal, naddo.
 
(Lisa) Ddim yn uchal, naddo.
(1, 0) 237 Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath.
(Lisa) So od di hynna de.
 
(Lisa) So od di hynna de.
(1, 0) 239 Nace!
(1, 0) 240 Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di.
(Ywain) O'dd o bach yn od.
 
(Ywain) O'dd o bach yn od.
(1, 0) 243 Ffyc sêc.
(Ywain) Ddim mewn ffordd ddrwg.
 
(Ywain) Ond pan odda ni'n blant, dwnim.
(1, 0) 246 Thalith hi ddim i siarad fel'ma.
(1, 0) 247 Cradur.
(Aaron) Doni'm yn gwbod fod o/
 
(Megan) /na fi, ddim rili.
(1, 0) 251 Ia, wel.
(Lisa) Sut...
 
(Lisa) Sori.
(1, 0) 262 Na.
(1, 0) 263 Na, ma'n iawn i chdi holi, oni'n cymryd fod pawb yn gwbod ne ddim isio gwbod.
(Lisa) Wel, dwisio.
 
(Aaron) A finna.
(1, 0) 266 Megan?
 
(1, 0) 268 Reit, wel.
(1, 0) 269 Y, ia.
(1, 0) 270 Crogi.
(1, 0) 271 Crogi nath o.
(Aaron) Shit.
 
(Aaron) Shit.
(1, 0) 278 Dwi'm yn dallt bob dim cofiwch, jesd digwydd bod o'n i o gwmpas.
(1, 0) 279 Dwi'm yn byw yn bell a mi a'th y ffôn, rhif tŷ fama o'dd o ac o'n i'n gweld hynny'n od braidd achos os bydda fo'n cysylltu ar me enger ne wbath fydda fo.
(1, 0) 280 Ond i fam o o'dd yno, o'dd i mewn bach o stad deud gwir.
(1, 0) 281 Oni'n methu dallt hi'n siarad.
(1, 0) 282 A dwnim os na achos bo hi'n crio ac yn gweiddi o'dd hynny ta jesd achos na fi o'dd o.
(1, 0) 283 Oni'n gwbod be o'dd.
 
(1, 0) 287 Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi.
(Lisa) Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio.
 
(Lisa) Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio.
(1, 0) 290 Dwi 'di dechra wan.
(1, 0) 291 A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo.
(Ywain) Tŷ gwair o'dd o medda chdi.
 
(Ywain) Tŷ gwair o'dd o medda chdi.
(1, 0) 296 Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly.
(1, 0) 297 Dwn i'm lle ffwc gath o honno.
(1, 0) 298 O'dd 'na fwcad ar i hochor.
(1, 0) 299 Ffycinhel fedrai weld o rŵan.
(1, 0) 300 Bwcad o dan i draed o.
(1, 0) 301 Rhaff am ei wddw fo, dwi'n gwbod bod hynna'n amlwg lly ond...
(1, 0) 302 O'dd 'na olwg arno fo de, oddi wynab o'n ddu fel tasa fo di ca'l stîd.
(1, 0) 303 O'dd o di bod yno ers sbel medda nhw wedyn.
(1, 0) 304 Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a...
 
(1, 0) 308 Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer.
(1, 0) 309 O'dd o'n ffycin oer.
(Megan) Doni'm yn gwbod fod o.
 
(Ywain) Na fina chwaith rili.
(1, 0) 315 Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic.
(Ywain) Soniodd neb 'tha i.
 
(Ywain) Soniodd neb 'tha i.
(1, 0) 317 Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd.
(1, 0) 318 Sut fedra ti beidio.
(Ywain) Ia ond, nes i 'rioed...
 
(Lisa) Nathom ni'm siarad llawar.
(1, 0) 329 Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo.
(Lisa) O'dd o isio help dachi'n feddwl?
 
(Aaron) Waeth ni heb a meddwl fel'na.
(1, 0) 332 Mai'n anodd iawn peidio.
(Megan) Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf?
 
(Megan) Chi be, gymra'i ddrinc, ga'i aros yn fam'a caf?
(1, 0) 335 Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir.
(Ywain) Be gymri di?
 
(Megan) Mai'n win ne'n rym.
(1, 0) 338 Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori.
(Megan) Ma' 'na siop yn y pentra oes?
 
(Megan) Ma' 'na siop yn y pentra oes?
(1, 0) 340 Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg.
(Megan) Siop Magi Ann?
 
(Ywain) Yr OmniSaver ma'n feddwl.
(1, 0) 344 Be?
(Lisa) Siop Magi Ann, ma' fatha bochi'n byw mewn rhyw raglan S4C shit ne Midsummer Murders ne wbath.
 
(Lisa) Magi Ann.
(1, 0) 347 Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw.
 
(1, 0) 349 A ma'n bwysig cadw'r petha ma.
(Ywain) Hen gont oddi.
 
(Ywain) Hen gont oddi.
(1, 0) 351 Sut wydda ti?
(Ywain) Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud.
 
(Ywain) A ma'r siop jips yn siop gebabs.
(1, 0) 358 Ei di yno'r un fath.
(Ywain) Sgin i fawr o ffycin ddewis nagos!
 
(Ywain) 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar.
(1, 0) 362 O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... /
(Megan) /Reis crispies/
 
(Megan) /Reis crispies/
(1, 0) 364 /Reis crispies, ffyc off, calzone.
(1, 0) 365 Dyna o'dd gen i.
(Aaron) Pitsa ydi calzone.
 
(Aaron) Pitsa ydi calzone.
(1, 0) 367 Nace.
(Lisa) Ia, pitsa di blygu tha pasti.
 
(Lisa) Ia, pitsa di blygu tha pasti.
(1, 0) 369 Wel dio'm yn bitsa felly nacdi.
(1, 0) 370 Eniwe, ma' 'na ddewis, dyna o'dd gen i.
(1, 0) 371 A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath.
(Ywain) Dio'm r'un fath.
 
(Ywain) Dio'm r'un fath.
(1, 0) 373 Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio.
(Ywain) Nace.
 
(Ywain) Nace.
(1, 0) 375 Garantîd.
(Ywain) Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath.
 
(Ywain) Dio'm cin neisiad, a ma'r chips yn deneuach, chips pacad.
(1, 0) 380 Gwranda/
(Ywain) /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad.
 
(Ywain) /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad.
(1, 0) 382 Sut wyddost ti?
(Ywain) Achos ma nhw fatha ffycin pys tun!
 
(Ywain) Dio ddim r'un fath!
(1, 0) 385 Ma'n ddigon agos.
(Ywain) Nacdi!
 
(Ywain) Nacdi!
(1, 0) 388 Wel yndi!
(1, 0) 389 Ma'n iawn.
(Ywain) Nacdi!
 
(Ywain) Nacdi!
(1, 0) 391 O pam Sbic?
(Ywain) Achos na ffycin pacis 'dy nhw!
 
(Megan) Fedrai'm coelio bo chdi di deud hynna.
(1, 0) 396 Hold on rŵan.
(Aaron) Ti'm am ei amddiffyn o?
 
(Aaron) Ti'm am ei amddiffyn o?
(1, 0) 398 Nacdw, jesd/
(Lisa) /ti'n ei amddiffyn o!
 
(Lisa) /ti'n ei amddiffyn o!
(1, 0) 400 Na!
(1, 0) 401 Chei di'm deud petha fel'na Sbic.
(Ywain) Pam?
 
(Ywain) Ond dyna ydyn nhw!
(1, 0) 407 Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/
(Lisa) /So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/
 
(Ywain) /Dwi'n mynd am ffag.
(1, 0) 414 A'i ar ei ôl o.
(Aaron) Waw.
 
(Megan) Dwi 'di ca'l gair efo nhw, ma nhw ar 'u ffordd i fewn.
(1, 0) 470 Ma' gin Ywain wbath i ddeud.
(Ywain) Dwi'n sori am weiddi'r petha 'na, ac am ddeud y gair 'na, dio'm yn un ddylia fod neb yn iwsio.
 
(Aaron) Ma'n naturiol siŵr.
(1, 0) 481 Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.
(Ywain) Na, dio ddim yn iawn.
 
(Ywain) Odda ni'n ffrindia, yn ffrindia gora, mots be ddudi di Arwel, ni o'dd y dybyl act, ni o'dd y ffrindia gora/
(1, 0) 486 /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/
(Ywain) /Ella bod hi i fi.
 
(Ywain) Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i...
(1, 0) 494 Yws/
(Ywain) /Dwi'm 'di gorffan eto.
 
(Ywain) E?
(1, 0) 506 Ma' pobol yn newid.
(Ywain) Yndyn, a ma nhw'n gadal ac yn ca'l jobsus ac yn gneud pres a grêt de.
 
(Ywain) Ywain di'n enw fi!
(1, 0) 525 Yws, callia.
(Ywain) Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg.
 
(Lisa) Ma'n oce.
(1, 0) 533 Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach?
(Lisa) Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath?
 
(Aaron) God.
(1, 0) 537 Syniad da.
(Lisa) Be gawn ni 'di peth?
 
(Ywain) Ofn ca'l stîd mae o.
(1, 0) 548 Sa ddigon o gowntars a ballu?
(Lisa) Dria ni.
 
(Megan) O ia?
(1, 0) 553 Collwr gwael.
(Ywain) Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio?
 
(Ywain) Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio?
(1, 0) 555 O, iesu do, a gweiddi.
(Aaron) O'dd o'n chwara twister?
 
(Ywain) Parti pwy o'dd o?
(1, 0) 559 Dwnim.
(1, 0) 560 Cain ella?
(Aaron) Fydda fo'n cicio'n nhin i ar Cluedo.
 
(Lisa) Shit, neidar eto.
(1, 0) 568 Felly weli di hi'n amal iawn {yn ysgwyd y deis} a dyma fina lawr efo chdi.
(Aaron) Jesd lwc ydi hon de.
 
(Megan) Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio.
(1, 0) 573 Fel'na ma'i gneud hi!
(Ywain) Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o.
 
(Megan) Shit.
(1, 0) 581 Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti.
(Lisa) Be 'di honno?
 
(Lisa) Be 'di honno?
(1, 0) 583 Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da.
(Ywain) Jesd cymyd y pi newch chi.
 
(Ywain) Jesd cymyd y pi newch chi.
(1, 0) 585 Na, nawn ni ddim.
(Ywain) Iawn, oce, so.
 
(Ywain) A dydyn nhw ddim r'un peth Tanc, dwi 'di deud o'r blaen, so ffyc off, ma David Attenbrough 'di deud.
(1, 0) 592 Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu.
(Lisa) Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de.
 
(Aaron) Pam fod gan chimps ddim cynffona?
(1, 0) 597 Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama.
(Ywain) Ia, a ffyc off eto achos adar a shit felna mae o'n lecio.
 
(Ywain) Eniwe so Ryshans/
(1, 0) 602 /ffoc mi/
(Ywain) /Chdi o'dd isio.
 
(Megan) {Megan yn gwneud wyneb mwnci ac yn chwerthin}
(1, 0) 615 Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn.
(Ywain) Ffycin ma' nhw!
 
(Ywain) Ffycin ma' nhw!
(1, 0) 617 Sa pobol yn sylwi!
(Ywain) Aaron!
 
(Megan) Ond jesd lliw gwahanol dio, ddim blas.
(1, 0) 621 Diolch!
(Ywain) Mae o'n fwy rich.
 
(Ywain) Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd.
(1, 0) 627 O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa.
(Lisa) Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd.
 
(Megan) Nath o'm sôn lot am ddyddia coleg wrtha fi.
(1, 0) 630 Dyddia gora dy fywyd di medda nhw.
(Lisa) Dodda nhw ddim, ddim bob tro.
 
(Lisa) I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna.
(1, 0) 637 Do?
(Aaron) Doni'm yn gwbod.
 
(Lisa) Do'dd o byth ddim byd penodol rili, jesd rhyw syniad fod 'na wal ynddo fo'n rwla neu garpad lle odd petha'n cael eu stwffio.
(1, 0) 655 O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn.
(Lisa) Un peth fedra ni gytuno arno fo.
 
(Lisa) Dwi am fynd i biso.
(1, 0) 696 Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc.
 
(1, 0) 699 Deud hanas wrtha fi am dano fo.
(Aaron) Dwnim.
 
(Aaron) Dwnim.
(1, 0) 701 Plîs.
(Aaron) Wel, nath o'm golchi'i lestri am fisoedd yn y tŷ oedd ganddo fo a mi dyfodd na fyshrwms arnyn nhw.
 
(Aaron) Odd hynny'n reit ffyni mewn ffordd.
(1, 0) 705 Sut odda chdi'n nabod o ta?
(Aaron) Brifysgol.
 
(Aaron) O'n i ddwy flynadd yn hŷn na fo, cyfarfod pan odda ni allan.
(1, 0) 708 O.
(1, 0) 709 Peint yn ddrud yno medda fo 'tha ni.
(Aaron) Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/
 
(Aaron) /y?
(1, 0) 713 Reffryns o'dd o, paid â phoeni.
(Aaron) Ia, wedyn yfad yn y fflat cyn mynd allan...
 
(Aaron) Ma' 'na ogla panic mewn pybs a clybia rŵan pan dwi yna efo criw r'un oed a fi sti, beioleg dio, ogla hormons o'dd o ddeg mlynadd nol.
(1, 0) 726 Lot yn fa'ma r'un fath.
(1, 0) 727 Diawl mi o'n i.
(Aaron) Oia?
 
(Aaron) Oia?
(1, 0) 729 Ai, jesd ddim 'di gneud lot rioed os ti'n dallt be sgin i.
(1, 0) 730 Methu cychwyn arni ne o'dd wbath yn teimlo'n chwithig, dwnim.
(1, 0) 731 Dwi efo rhywun wan lly, a ma'n grêt.
(1, 0) 732 Jesd oni'n poeni weithia.
(Aaron) Poeni?
 
(Aaron) Poeni?
(1, 0) 734 Ia, fedrai'm deud pam, o'dd pawb arall doedd efo rhywun lly.
(1, 0) 735 Pwysa ella?
(1, 0) 736 Ond nace chwaith.
(1, 0) 737 O'dd 'na rhywun yn byw wrth ymyl ni stalwm, ben 'i hyn.
(1, 0) 738 Hen lanc, fydda fo'n dod heibio nain bob hyn a hyn, jesd i weld rhywun am wn i, ac o'dd o wastad bach yn od wsti.
(1, 0) 739 Fydda ni'n mynd draw efo bagia Kwics gwag yn yr haf i hel eirin i'w ardd o.
(1, 0) 740 Welist ti rioed le taclusach, Saeson sy 'na rŵan a mai'n gwilydd i weld.
(1, 0) 741 Fydda ni'n hel yr eirin 'ma, a rhei ohonyn nhw mor barod i'w byta nes bo nhw'n bystio wrth i chdi dwtsiad nhw, fydda ni'n cal llond bag bob un mond fod y dyn ma'n ca'l pot ne ddau o jam.
(1, 0) 742 O'n i fymryn o ofn y boi ma, un tro o'n i'n chwara mewn rhyw hen doman dywod, o'dd dad di prynu tywod i neud sment ond 'di adal o a'i lond o o gachu cath erbyn diwadd.
(1, 0) 743 Ta waeth o'n i'n chwara yn y tywod 'ma, ac o'dd y dyn 'ma, Robat odd i enw fo, yn siarad efo dad wrth ymyl.
(1, 0) 744 A dyma fo draw a llenwi'n welingtons i efo'r tywod 'ma a chwerthin, o'n i'n gwisgo nhw gyda llaw.
(1, 0) 745 A chwerthin o'dd o.
(1, 0) 746 Fatha fod o'r peth fwya hileriys ac o'n i ofn am mywyd.
(1, 0) 747 Dwi di anghofio'n mhoint wan.
 
(1, 0) 749 O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly.
(1, 0) 750 Dwi'm isio bod fel'na sti.
 
(1, 0) 752 Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan.
(1, 0) 753 Da ni'n meddwl ca'l tŷ, ne oleia llun o un i roi ar wal wrth i ni safio pres am yr ugian mlynadd nesa.
(Aaron) Be 'di enw'r cariad?
 
(Aaron) Be 'di enw'r cariad?
(1, 0) 755 Sian.
(Aaron) Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi.
 
(Aaron) Enw neis, enw cyfarwydd lly, fel soffa ti di arfar efo hi.
(1, 0) 757 Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy.
 
(1, 0) 759 Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn.
(1, 0) 760 Tynnu ar ein gilydd yda ni, dio'm yn gas sti.
(Aaron) Pam?
 
(Aaron) Pam?
(1, 0) 762 Fel'na ma'i.
(1, 0) 763 Rhan o'r hwyl am wn i.
(Aaron) Dwi'n weld o'n annifyr, fydda fo sti yn deud rhyw betha weithia, petha annifyr mond fod o 'di newid pitj y frawddeg fel bo hi'n jôc.
 
(Aaron) Nes i drio helpu fo efo hynny.
(1, 0) 768 Odda chi'n agos lly?
(Aaron) Odda ni efo'n gilydd, Arwel, am ddwy flynadd.
 
(Aaron) Dwi'm yn synnu fod o heb sôn.
(1, 0) 771 O, wel, naddo.
(1, 0) 772 Doni'm yn... ond iawn de, chwara teg.
(Aaron) M.
 
(Aaron) M.
(1, 0) 774 Biti fod o heb sôn deud gwir.
(Aaron) Sut galla fo?
 
(Aaron) Sut galla fo?
(1, 0) 776 Y?
(Aaron) Sut galla fo sôn wrtha chdi, a'r cefndar 'na a gweddill criw pen yma.
 
(Aaron) Os tisio ffendio lle ddechreuodd hyn dos yn ôl i'r ysgol na lle odda chi gyd.
(1, 0) 781 'Di hynna'm yn deg.
(Aaron) Deud ti.
 
(Aaron) Deud ti.
(1, 0) 783 Iawn oce, ma na lot o betha gwirion yn cal 'u deud ond no wê, no wê na jesd 'pobol pen yma' be bynnag ffwc ydi hynny sydd wrthi.
(1, 0) 784 Ma' 'na bobol yn bob man, a ma' 'na lot mwy sydd yn dal i feddwl y petha ma'i gyd mond bo nhw di dysgu peidio'u deud nhw, ne dysgu sut ma'i ddeud o mewn ffordd sy'n dal yn iawn.
(1, 0) 785 Jesd, paid a'n meirniadu fi plîs.
(1, 0) 786 Gawn ni drafod a ma hynny'n iawn, ond dwi'm isio ffraeo.
(1, 0) 787 Yr unig wahaniath rhyngtha chdi a Yws yn fana ydi cyfla, a lwc mul bo chdi di cal mynd i rwla i ddysgu sut ma' bihafio.
(1, 0) 788 A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth.
 
(1, 0) 790 Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu.
(Aaron) Dio'm ots gen i, dio'm ots gen i am ddim byd heno ma.
 
(Aaron) Pam fod o 'di goro gneud hynna Arwel?
(1, 0) 795 Dwn i'm.
(1, 0) 796 Dwi'n meddwl hynna lot fy hun.
(Lisa) Bob dim yn iawn 'ma?
 
(Lisa) Bob dim yn iawn 'ma?
(1, 0) 799 Yndi tad.
(Aaron) Ydi.
 
(Lisa) Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel?
(1, 0) 877 Ma na weatherspoons yn dre, ne os ddowch chi acw na'i wbath i chi.
 
(1, 0) 879 Deffra twat!
(Ywain) Ffyc off.
 
(Megan) Be sgwennodd o, Arwel?
(1, 0) 884 Y?
(Megan) Nes di sôn fod 'na bapura.
 
(Ywain) Ia, be o'dd hynny?
(1, 0) 888 Dwni'm os dio werth...
(Aaron) Swni'n lecio gwbod fyd.
 
(Aaron) Swni'n lecio gwbod fyd.
(1, 0) 890 Doddna'm llythyr, na esboniad, heblaw am betha o'dd o'n sgwennu eniwe.
(1, 0) 891 O'dd ei fam o'n confinsd fod rheiny'n wbath ond dodda nhw ddim, jesd sgwennu, ond fod 'na wreiddia go iawn iddo fo.
(1, 0) 892 Ond gafo ni betha'n ôl, ei ddillad o a ballu.
(1, 0) 893 Ac yn bocad ei drwsus o, rhoswch mae o gen i yn fy walat, dwnim pam, jesd, odd isio fo fod yn rwla saff.
 
(1, 0) 895 Dyma ni.
(Lisa) Ni 'di...
 
(Lisa) Ni 'di...
(1, 0) 899 Enwa a rhifa ffôn y pump ohona ni.
(1, 0) 900 Ma'raid fod o di meddwl... ond ddath na'm byd o hynny.