Adra

Ciw-restr ar gyfer Lisa

 
(1, 0) 19 Ia?
(Aaron) Hei.
 
(Aaron) Hei.
(1, 0) 22 Hei.
(Aaron) Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd.
 
(Aaron) Ges di'r blaen ar y gweddill ohona ni braidd.
(1, 0) 25 Pobol.
(Aaron) M?
 
(Aaron) M?
(1, 0) 27 Pobol, gormod ohonyn nhw.
(1, 0) 28 Dwi'm yn, y, rhy hoff o bobol.
(Aaron) O.
 
(Aaron) O.
(1, 0) 30 Ia.
(Aaron) Ti'n cadw'n iawn?
 
(Aaron) Ti'n cadw'n iawn?
(1, 0) 32 Ddim yn bad de, prysur...
(1, 0) 33 Chditha?
(Aaron) Prysur.
 
(Aaron) Ddim digon o oria mewn wsos.
(1, 0) 37 Ddois di fyny'n iawn?
(Aaron) Do, do, fawr ddim traffig, lori tua Ganllwyd ond o'n i 'di dechra'n ddigon buan.
 
(Aaron) Sa ti 'di sôn swni 'di cynnig lifft.
(1, 0) 41 Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di.
(Aaron) Ddoth na griw da do.
 
(Aaron) Ddoth na griw da do.
(1, 0) 44 Do.
(Aaron) Wyddwn i ddim...
 
(Aaron) Wyddwn i ddim...
(1, 0) 46 Be?
(Aaron) Wel, fod o'n nabod cymaint.
 
(Aaron) Wel, fod o'n nabod cymaint.
(1, 0) 48 Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng.
(Aaron) Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint.
 
(Aaron) Siŵr fod o'n gysur, i'r teulu lly, i weld cymaint.
(1, 0) 51 Ia, o'dd 'na olwg wrth eu bodda arnyn nhw doedd.
(Aaron) Wel, ddim dyna o'dd gen i.
 
(Aaron) Wel, ddim dyna o'dd gen i.
(1, 0) 53 Wn i.
(Aaron) Biti am y tywydd.
 
(Aaron) Biti am y tywydd.
(1, 0) 56 Ia.
(Arwel) Ffyc mi am dywydd.
 
(Arwel) Arwel dwi.
(1, 0) 63 Lisa.
(Aaron) Aaron.
 
(Aaron) Wir.
(1, 0) 73 O'dd dy un di yn un dda... Arwel?
(Arwel) Ia, diolch.
 
(Arwel) Sori.
(1, 0) 87 Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr.
(Arwel) Heblaw am 'i fam, ia, ella.
 
(Megan) Hei.
(1, 0) 115 Lisa.
(Ywain) Ywain.
 
(Arwel) Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi?
(1, 0) 118 O'dd 'na restr?
(Arwel) Mewn ffordd.
 
(Ywain) Rosa i Tanci.
(1, 0) 128 A fi, gwylnos de.
(Arwel) Ia.
 
(Aaron) Gwylnos?
(1, 0) 131 Fydda pobol yn ista efo cyrff 'stalwm, drwy nos ar ôl iddyn nhw farw.
(Aaron) Pam?
 
(Aaron) Pam?
(1, 0) 133 Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw.
(Ywain) Ffwc o beth di ca'l dy gladdu'n fyw.
 
(Ywain) Ffwc o beth di ca'l dy gladdu'n fyw.
(1, 0) 135 Nain o'dd yn sôn, ac am olchi'r corff a ballu, a sut bydda nhw'n gneud sŵn weithia.
(1, 0) 136 Hyd yn oed y meirw ddim yn ddistaw medda hi.
(Megan) Ffycin cripi, eistedd hefo corff.
 
(Megan) Ffycin cripi, eistedd hefo corff.
(1, 0) 138 Neith corff ddim byd i chdi.
(Arwel) Dwi'n gwbod fod o'n fyr rybudd, ac yn niwsans mewn ffordd, ond ffycin niwsans ydi'r busnas ma o un pen iddo fo i'r llall.
 
(Arwel) Ond chi bia deud.
(1, 0) 149 Dwi'n gêm.
(Ywain) Un sesh eto de.
 
(Megan) Brifysgol?
(1, 0) 164 Sori?
(Megan) O brifysgol odda chdi'n nabod o?
 
(Megan) O brifysgol odda chdi'n nabod o?
(1, 0) 166 O ia, yr un fflat flwyddyn gynta, a'r un cwrs.
(Megan) O.
 
(Megan) O.
(1, 0) 168 Chditha?
(Megan) Gwaith, cyn iddo fo roi'r gora iddi.
 
(Ywain) O'dd mam 'di sôn wbath.
(1, 0) 180 Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc?
(Megan) O, god, y, rhyw fardd dwi'n meddwl.
 
(Arwel) Think, don't drink and drive.
(1, 0) 201 Honna'n gynghanedd.
(Arwel) Hawdd gweld sut es di'n ffrindia efo fo.
 
(Ywain) Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar.
(1, 0) 205 Posh/
(Aaron) /Sori, oddi'n anodd ca'l signal hyd yn oed ar ben y bont.
 
(Pawb) Er cof.
(1, 0) 216 Be nawn ni wan?
(Ywain) O'dd o'n wahanol doedd.
 
(Aaron) Sut lly?
(1, 0) 223 Deud ti 'tha ni.
(Ywain) Dwnim, meddwl de, ia?
 
(Arwel) Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly?
(1, 0) 229 Ddim rili.
(Aaron) Na, ddim yn y ffordd da chi'n feddwl eniwe.
 
(Ywain) Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam.
(1, 0) 234 Doni'm yn weld o'n od fatha chi.
(Arwel) Ddudish i od?
 
(Arwel) Ddudish i od?
(1, 0) 236 Ddim yn uchal, naddo.
(Arwel) Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath.
 
(Arwel) Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath.
(1, 0) 238 So od di hynna de.
(Arwel) Nace!
 
(Arwel) Ia, wel.
(1, 0) 253 Sut...
(1, 0) 254 Sut nath o?
 
(1, 0) 256 Sut ddigwyddodd o?
(Ywain) Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na.
 
(Ywain) Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na.
(1, 0) 259 Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw?
 
(1, 0) 261 Sori.
(Arwel) Na.
 
(Arwel) Na, ma'n iawn i chdi holi, oni'n cymryd fod pawb yn gwbod ne ddim isio gwbod.
(1, 0) 264 Wel, dwisio.
(Aaron) A finna.
 
(Arwel) Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi.
(1, 0) 289 Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio.
(Arwel) Dwi 'di dechra wan.
 
(Ywain) Ia ond, nes i 'rioed...
(1, 0) 321 Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...
(Aaron) Be ddudodd o?
 
(Aaron) Be ddudodd o?
(1, 0) 325 Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd.
(1, 0) 326 Be o'n i'n neud a ballu.
(1, 0) 327 Tywydd, dwni'm.
(1, 0) 328 Nathom ni'm siarad llawar.
(Arwel) Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo.
 
(Arwel) Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo.
(1, 0) 330 O'dd o isio help dachi'n feddwl?
(Aaron) Waeth ni heb a meddwl fel'na.
 
(Arwel) Be?
(1, 0) 345 Siop Magi Ann, ma' fatha bochi'n byw mewn rhyw raglan S4C shit ne Midsummer Murders ne wbath.
(1, 0) 346 Magi Ann.
(Arwel) Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw.
 
(Arwel) Nace.
(1, 0) 368 Ia, pitsa di blygu tha pasti.
(Arwel) Wel dio'm yn bitsa felly nacdi.
 
(Ywain) Achos na ffycin pacis 'dy nhw!
(1, 0) 394 Be?
(Megan) Fedrai'm coelio bo chdi di deud hynna.
 
(Arwel) Nacdw, jesd/
(1, 0) 399 /ti'n ei amddiffyn o!
(Arwel) Na!
 
(Ywain) Pam?
(1, 0) 403 Achos ma'n ffycin hiliol!
(Ywain) Dwi'm yn rêsist!
 
(Ywain) Dwi'm yn rêsist!
(1, 0) 405 Wyt os ti'n iwsio geiria felna!
(Ywain) Ond dyna ydyn nhw!
 
(Arwel) Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/
(1, 0) 408 /So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/
(Megan) /Dwi'm yn meddwl na dyna o'dd o'n/
 
(Aaron) Waw.
(1, 0) 417 Fedrai'm coelio fod pobol fel'na'n bodoli.
(1, 0) 418 Be o'dd o'n weld yn rheinia duda?
(Aaron) Dwi'm yn gwbod, wel, yndw.
 
(Aaron) A ti'n madda petha fel'na iddyn nhw.
(1, 0) 422 Be sgin ti griw fel'ma yn y pentra chwaral na nes di adael?
(Aaron) God nagoes, peth cynta nes i odd deud ta-ta wrth rheiny ond 'di pawb ddim.
 
(Megan) Sgynoch chi'm syniad nagos.
(1, 0) 425 Be?
(Megan) Y lol bo chdi'm yn gwbod fod pobol fel'na'n bodoli.
 
(Megan) A 'di dy fam a dy dad rioed di deud dim byd doji naddo masiwr?
(1, 0) 429 Naddo.
(Megan) Ma nhw'n wahanol ar y diawl i'n rhei i ta.
 
(Megan) Eniwe dwi am fynd i siop Jini Bach Penclawdd ne be bynnag 'di enw hi.
(1, 0) 435 Sa well taswn i heb aros.
(Aaron) Sa'n shit tasa ni heb, ac ydi'r ni a nhw ma'n helpu?
 
(Aaron) Dwi'n gwbod na fi a nhw di dy default di.
(1, 0) 439 Dos i halio Aaron.
(Aaron) Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni.
 
(Aaron) Jesd yma o ran parch ma pawb, yn ffyicn hics a nazis a be bynnag da ni.
(1, 0) 442 Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu.
(Aaron) Nacdi.
 
(Aaron) Meddylia sut dwi'n teimlo ma ta, dwi ofn y byddai mewn rhyw ffycin wicker man cyn bora.
(1, 0) 445 Yr un gwreiddiol, nid fersiwn Nic Cage gobeithio.
(Aaron) Y, ia.
 
(Y ddau) Aaah!
(1, 0) 450 Rhaid ni gal noson ffilms shit eto.
(Aaron) Bydd, mai'i 'di bod yn flynyddoedd.
 
(Aaron) Dwi'm yn gwbod pryd neith o.
(1, 0) 456 O'n i'n golchi'n nannadd bora ddoe a nath o jesd dod o nunlla.
(1, 0) 457 O'n i'n llanast.
(1, 0) 458 Gweld fi'n hun yn y drych o'dd o dwi'n meddwl.
(1, 0) 459 Dyna nath y drwg.
(Aaron) Nes i 'rioed feddwl lot am lle gath o'i fagu, dodd o'm yn trafod y lle.
 
(Aaron) Ma'n siwtio fo mewn ffordd, er na faswn i byth 'di meddwl am y lle fel'ma.
(1, 0) 463 Soniodd o am y goedan?
(Aaron) Coedan?
 
(Aaron) Coedan?
(1, 0) 465 O'dd ganddo fo rhyw goedan yn cefn medda fo lle o'dd o'n gallu gweld y môr, mi alla ni drio ffendio hi.
(Aaron) Ia, sa hynna'n braf basa deud gwir.
 
(Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd.
(1, 0) 476 Do.
(Ywain) Sori.
 
(Ywain) Ga nhw brynu tŷ efo llwyth o snobs erill a dod yn ôl i'r tylla tin pentrefi 'ma nhw 'di adal bob hyn a hyn i weld mam a dad sy'n mynd yn hen, yn colli'u lliw fatha'r adeilada, ac yn colli nabod arnyn nhw, a mi ddo nhw a rhyw blant sydd efo acan wahanol i weld nain a taid.
(1, 0) 509 'Di hynna'm yn deg.
(Ywain) Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do.
 
(Ywain) Sori bois.
(1, 0) 532 Ma'n oce.
(Arwel) Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach?
 
(Arwel) Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach?
(1, 0) 535 Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath?
(Aaron) God.
 
(Arwel) Syniad da.
(1, 0) 538 Be gawn ni 'di peth?
(Megan) Hangman?
 
(Megan) Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc.
(1, 0) 544 Snakes and ladders.
(Aaron) Be 'da ni, plant?
 
(Arwel) Sa ddigon o gowntars a ballu?
(1, 0) 549 Dria ni.
 
(1, 0) 551 Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda.
(Megan) O ia?
 
(Aaron) Taclus di rheiny de, ffendio bai pwy o'dd o ar y diwadd.
(1, 0) 567 Shit, neidar eto.
(Arwel) Felly weli di hi'n amal iawn {yn ysgwyd y deis} a dyma fina lawr efo chdi.
 
(Arwel) Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti.
(1, 0) 582 Be 'di honno?
(Arwel) Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da.
 
(Ywain) Adag y Cold War, oddi'n ras fawr i fynd i sbês doedd/
(1, 0) 588 /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/
(Ywain) /taw.
 
(Arwel) Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu.
(1, 0) 593 Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de.
(Megan) A fi, chos sgin i'm parlwr.
 
(Aaron) Fedrai goelio hynna deud gwir.
(1, 0) 612 Ia, a fi, odd Chernobyl yn hysh hysh am fisoedd doedd.
(Megan) Yr holl fwncis heb gynffonna druan 'na 'di rhewi uwch yn penna ni.
 
(Ywain) Mae o'n fwy rich.
(1, 0) 624 Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.
(Ywain) Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd.
 
(Arwel) O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa.
(1, 0) 628 Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd.
(Megan) Nath o'm sôn lot am ddyddia coleg wrtha fi.
 
(Arwel) Dyddia gora dy fywyd di medda nhw.
(1, 0) 631 Dodda nhw ddim, ddim bob tro.
(Aaron) Wel, di hynny'm yn/
 
(Aaron) Wel, di hynny'm yn/
(1, 0) 634 /mi driodd o o'r blaen.
(Megan) Be?
 
(Megan) Be?
(1, 0) 636 I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna.
(Arwel) Do?
 
(Aaron) Doni'm yn gwbod.
(1, 0) 640 O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin.
(1, 0) 641 Flwyddyn gynta odda ni, odda ni'n blant o hyd ne'n bobol ifanc be bynnag ffwc o'dd hynny.
(1, 0) 642 Dodd yn hannar ni ddim yn gwbod pwy, ne be odda ni, ond mi oedd o.
(1, 0) 643 Dwi'n meddwl fod o di ca'l ei eni yn gwbod be'n union oedd o a be o'dd am ddigwydd iddo fo.
(1, 0) 644 Diawl o beth 'di nabod chdi dy hun, ddigon a dy ddychryn di.
(1, 0) 645 R'adag honno oedd bob dim yn newydd, a chyfla i fod yn pwy bynnag odda chdisio a rhyddid ond mi oedd 'na ochor arall hefyd.
(1, 0) 646 Y gwaith, y stre, y ffraeo sdiwpid rhwng criwia a'r pwysa i fod yn rwbath, i fwynhau, i fynd allan, i fynd yn ffycd.
(1, 0) 647 Dodd hynna'm yn siwtio pawb ac yn washing mashîn y strydoedd lliw chwd na mi gafodd y ddau ohona ni'n taflu at ein gilydd, dwy hosan o'dd ddim yn matsio.
(1, 0) 648 Iawn de.
(1, 0) 649 Oddi'n braf gallu deud na wrth griw y drydedd pan odda nhw'n coinio dy beint di yn gwbod fod na oleia un person arall fasa'm yn meddwl bo chdi'n jibar.
(1, 0) 650 Felly ddaetho'n ni'n ffrindia.
(Aaron) O'dd pawb yn meddwl bo chi efo'ch gilydd.
 
(Aaron) O'dd pawb yn meddwl bo chi efo'ch gilydd.
(1, 0) 652 Naethon ni rioed, dwi'm yn meddwl.
(1, 0) 653 Ond mi o'dd o yno i fi pan gafodd n'chwaer ddamwain ac oni... jesd yno.
(1, 0) 654 Do'dd o byth ddim byd penodol rili, jesd rhyw syniad fod 'na wal ynddo fo'n rwla neu garpad lle odd petha'n cael eu stwffio.
(Arwel) O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn.
 
(Arwel) O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn.
(1, 0) 656 Un peth fedra ni gytuno arno fo.
 
(1, 0) 661 Ond fuodd na bwl lle o'dd o'n hyd'n oed gwaeth... a...
(1, 0) 662 O'dd o'm di bod yn y darlithoedd, ddim di bod yn dangos llawar ar ei wynab rili o gwbwl.
(1, 0) 663 Nes i gynnig siarad droeon ond ches i'm atab.
(1, 0) 664 Iawn de.
(1, 0) 665 Ffain.
(1, 0) 666 Ond un noson dyma fo'n gweiddi'n enw fi.
(1, 0) 667 Odd o'n gwaedu, ond heb neud job iawn ohonni.
(1, 0) 668 Ac, odd o'n ofn dwi'n meddwl?
(1, 0) 669 Ne yn difaru?
(1, 0) 670 Dwi'm yn gwbod.
(1, 0) 671 Ond gorish i gwffio am y rasal efo fo.
(1, 0) 672 Gorish i thynnu hi o'i ddwylo fo.
(1, 0) 673 Nes o'n i'n goch i gyd.
 
(1, 0) 675 Ges i hi, a mynd a hi i'm mathrwm a'u rhoi hi yn y bin tampons.
(1, 0) 676 Wedyn nes i llnau'i waed o o'n nwylo fi ar ôl ca'l warden ato fo.
(1, 0) 677 Pam nes i'm hynny'n gynt, dwi'm yn gwbod.
(1, 0) 678 Panic.
(1, 0) 679 O'dd rhaid mi ll'nau...
(1, 0) 680 Wedyn es i i shower a chrio am awr.
(1, 0) 681 Jesd toriada bach odda nhw, ond o'dd o'n deud fod o am neud mwy.
(1, 0) 682 Ma' toriada bach yn gwaedu lot.
 
(1, 0) 684 Doni'm yn gwbod be'i neud.
(1, 0) 685 Na wedyn chwaith, ond ma'n rhaid mi goelio fod o'm isio gneud go iawn.
(1, 0) 686 No we swni di gallu tynnu nhw o'i fysadd o sa fo 'di trio cwffio'n iawn.
(1, 0) 687 Ond naethon ni rioed sôn am y peth wedyn.
(1, 0) 688 A dwi 'di bod yn meddwl, am y ffordd nes i ymatab a taswn i di bod yn gallach ella fasa hyn ddim 'di digwydd, ella basa fo 'di gweiddi arna'i eto.
(Aaron) Sa ti di gallu sôn...
 
(Aaron) Sa ti di gallu sôn...
(1, 0) 690 Sa fo hefyd.
(Megan) Helpu nes di Lisa, dim byd arall.
 
(Megan) Helpu nes di Lisa, dim byd arall.
(1, 0) 692 Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia.
 
(1, 0) 694 Faint o gloch di?
(1, 0) 695 Dwi am fynd i biso.
(Arwel) Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc.
 
(Arwel) Dwi'n meddwl hynna lot fy hun.
(1, 0) 798 Bob dim yn iawn 'ma?
(Arwel) Yndi tad.
 
(Megan) Feddyliodd o am dana ni ti'n meddwl?
(1, 0) 876 Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel?
(Arwel) Ma na weatherspoons yn dre, ne os ddowch chi acw na'i wbath i chi.
 
(Arwel) Dyma ni.
(1, 0) 898 Ni 'di...