Adra

Ciw-restr ar gyfer Ywain

(Lisa) Ia?
 
(Arwel) Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla...
(1, 0) 106 O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn?
(Arwel) Eitha de.
 
(Lisa) Lisa.
(1, 0) 116 Ywain.
(Arwel) Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi?
 
(Megan) Fydd rhaid i mi fynd, fedrai'm yfed, gen i gar...
(1, 0) 127 Rosa i Tanci.
(Lisa) A fi, gwylnos de.
 
(Lisa) Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw.
(1, 0) 134 Ffwc o beth di ca'l dy gladdu'n fyw.
(Lisa) Nain o'dd yn sôn, ac am olchi'r corff a ballu, a sut bydda nhw'n gneud sŵn weithia.
 
(Lisa) Dwi'n gêm.
(1, 0) 150 Un sesh eto de.
(Aaron) Fedra i aros hefyd, masiwr, am sbel.
 
(Aaron) Sa signal 'ma?
(1, 0) 158 Ar pwy wyt ti mêt?
(Aaron) Foda.
 
(Aaron) Foda.
(1, 0) 160 Rhaid ti fynd allan, os ei di lawr stryd de, at y bont, gin ti jans go lew yn fa'no.
(Aaron) Oce, diolch, fyddai'm yn hir gobeithio.
 
(Megan) Be am dana chdi Owain?
(1, 0) 172 Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati.
 
(1, 0) 174 O'dd 'i fam o mor falch pan a'th o i coleg, cynta o'r teulu.
(1, 0) 175 Heblaw am mrawd na'th sports science am bwl ond dodd hynny'm yn cyfri.
(1, 0) 176 Digri efo gafal ynddo fo, o'dd o'n gneud wbath wan fyd doedd?
(Megan) PhD rhan amsar.
 
(Megan) PhD rhan amsar.
(1, 0) 178 Cinhel ia?
(1, 0) 179 O'dd mam 'di sôn wbath.
(Lisa) Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc?
 
(Arwel) A chitha fyd.
(1, 0) 187 Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc?
(Arwel) O'n, rhyw fardd ne wbath ia?
 
(Arwel) Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia?
(1, 0) 191 Mond i ben bont o'dd isio fo fynd.
(1, 0) 192 Ti'n siŵr na chymri di ddim Megan?
(Megan) Na, gyrru.
 
(Arwel) Dwi'n dallt dim am betha fel'na.
(1, 0) 204 Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar.
(Lisa) Posh/
 
(Arwel) Da iawn, reit.
(1, 0) 212 Be dduda ni?
(Arwel) Er cof dwi'n meddwl.
 
(Lisa) Be nawn ni wan?
(1, 0) 220 O'dd o'n wahanol doedd.
(Arwel) M.
 
(Lisa) Deud ti 'tha ni.
(1, 0) 224 Dwnim, meddwl de, ia?
(Arwel) Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd.
 
(Megan) O'dd o'n gleniach na lot.
(1, 0) 232 Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam.
(Lisa) Doni'm yn weld o'n od fatha chi.
 
(Arwel) Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di.
(1, 0) 242 O'dd o bach yn od.
(Arwel) Ffyc sêc.
 
(Arwel) Ffyc sêc.
(1, 0) 244 Ddim mewn ffordd ddrwg.
(1, 0) 245 Ond pan odda ni'n blant, dwnim.
(Arwel) Thalith hi ddim i siarad fel'ma.
 
(Lisa) Sut ddigwyddodd o?
(1, 0) 258 Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na.
(Lisa) Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw?
 
(Arwel) A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo.
(1, 0) 292 Tŷ gwair o'dd o medda chdi.
(Arwel) Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly.
 
(Megan) Doni'm yn gwbod fod o.
(1, 0) 313 Na fina chwaith rili.
(Arwel) Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic.
 
(Arwel) Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic.
(1, 0) 316 Soniodd neb 'tha i.
(Arwel) Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd.
 
(Arwel) Sut fedra ti beidio.
(1, 0) 319 Ia ond, nes i 'rioed...
(Lisa) Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...
 
(Arwel) Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir.
(1, 0) 336 Be gymri di?
(Megan) Mai'n win ne'n rym.
 
(Megan) Siop Magi Ann?
(1, 0) 342 Yr OmniSaver ma'n feddwl.
(Arwel) Be?
 
(Arwel) A ma'n bwysig cadw'r petha ma.
(1, 0) 350 Hen gont oddi.
(Arwel) Sut wydda ti?
 
(Arwel) Sut wydda ti?
(1, 0) 352 Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud.
(Megan) Ffycin hel Owain.
 
(Megan) Ffycin hel Owain.
(1, 0) 354 Taid ddudodd ddim fi, a OmniSaver 'di hi rwan efo bîns own brand a congol i bobol pen yma werthu moron cam a wya' efo cachu arnyn nhw.
(1, 0) 355 Llanast de.
(Aaron) Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl.
 
(Aaron) Diolchwch fod ganddoch chi siop o gwbwl.
(1, 0) 357 A ma'r siop jips yn siop gebabs.
(Arwel) Ei di yno'r un fath.
 
(Arwel) Ei di yno'r un fath.
(1, 0) 359 Sgin i fawr o ffycin ddewis nagos!
(1, 0) 360 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar.
(Arwel) O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... /
 
(Arwel) A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath.
(1, 0) 372 Dio'm r'un fath.
(Arwel) Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio.
 
(Arwel) Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio.
(1, 0) 374 Nace.
(Arwel) Garantîd.
 
(Arwel) Garantîd.
(1, 0) 376 Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath.
(Aaron) Be'dio Goldffish?
 
(Aaron) Be'dio Goldffish?
(1, 0) 378 Y ffycin batyr de coc oen!
(1, 0) 379 Dio'm cin neisiad, a ma'r chips yn deneuach, chips pacad.
(Arwel) Gwranda/
 
(Arwel) Gwranda/
(1, 0) 381 /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad.
(Arwel) Sut wyddost ti?
 
(Arwel) Sut wyddost ti?
(1, 0) 383 Achos ma nhw fatha ffycin pys tun!
(1, 0) 384 Dio ddim r'un fath!
(Arwel) Ma'n ddigon agos.
 
(Arwel) Ma'n ddigon agos.
(1, 0) 387 Nacdi!
(Arwel) Wel yndi!
 
(Arwel) Ma'n iawn.
(1, 0) 390 Nacdi!
(Arwel) O pam Sbic?
 
(Arwel) O pam Sbic?
(1, 0) 392 Achos na ffycin pacis 'dy nhw!
(Lisa) Be?
 
(Arwel) Chei di'm deud petha fel'na Sbic.
(1, 0) 402 Pam?
(Lisa) Achos ma'n ffycin hiliol!
 
(Lisa) Achos ma'n ffycin hiliol!
(1, 0) 404 Dwi'm yn rêsist!
(Lisa) Wyt os ti'n iwsio geiria felna!
 
(Lisa) Wyt os ti'n iwsio geiria felna!
(1, 0) 406 Ond dyna ydyn nhw!
(Arwel) Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/
 
(Megan) /Dwi'm yn meddwl na dyna o'dd o'n/
(1, 0) 410 /Dwi'n mynd am ffag.
(Arwel) A'i ar ei ôl o.
 
(Arwel) Ma' gin Ywain wbath i ddeud.
(1, 0) 471 Dwi'n sori am weiddi'r petha 'na, ac am ddeud y gair 'na, dio'm yn un ddylia fod neb yn iwsio.
(1, 0) 472 Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos.
(Aaron) Ma'i 'di bod yn wsos anodd.
 
(Lisa) Do.
(1, 0) 477 Sori.
(1, 0) 478 Dwi'm i fod i deimlo felma, dio'm yn iawn.
(Aaron) Ma'n naturiol siŵr.
 
(Arwel) Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.
(1, 0) 484 Na, dio ddim yn iawn.
(1, 0) 485 Odda ni'n ffrindia, yn ffrindia gora, mots be ddudi di Arwel, ni o'dd y dybyl act, ni o'dd y ffrindia gora/
(Arwel) /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/
 
(Arwel) /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/
(1, 0) 487 /Ella bod hi i fi.
(1, 0) 488 Ar y pryd, ella'i bod hi.
(1, 0) 489 O'dd gin ti frodyr a chwiorydd doedd, ffrindia erill, fo o'dd y mrawd i a'n ffrind gora fi.
(1, 0) 490 Jesd gadwch fi ddeud hyn plîs.
(1, 0) 491 Odda ni'n gneud bob dim efo'n gilydd, ma'r rhes o gerrig rotho ni'n r'afon rhyw ha' pan odda ni tua deuddag dal yna.
(1, 0) 492 Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i...
(Arwel) Yws/
 
(Arwel) Yws/
(1, 0) 495 /Dwi'm 'di gorffan eto.
 
(1, 0) 497 O'n i'n disgwl y basa petha'n newid chydig wrth i fi adal ysgol ond odda ni'n dal i fynd i dai'n gilydd a wedyn mynd allan a ballu ac yn ca'l laff.
(1, 0) 498 Ond wedyn dyma fo'n mynd i ffwrdd a iawn oce, weld o bob holides, do'm ots gen i am hynny.
(1, 0) 499 Ond wedyn... fwya sydyn o'dd o fel tasa ni'n bagio o wrth yn gilydd.
(1, 0) 500 Rhyw Ddolig, dyma fi'n weld o'n dre, a do'dd o'm 'di deud fod o allan.
(1, 0) 501 A dyma ni'n siarad am y tywydd a prisia cwrw a be da ni'n neud mewn rhyw ffordd fel tasa ni'n mart lly.
(1, 0) 502 Odda ni'n ddiarth.
(1, 0) 503 A rhyw sgwrs llawn tylla, sgwrs sati'n gal hefo rhywun tu ôl i gowntar ne wrth dorri dy wallt oddi.
(1, 0) 504 Sut ddigwyddodd hynna?
(1, 0) 505 E?
(Arwel) Ma' pobol yn newid.
 
(Arwel) Ma' pobol yn newid.
(1, 0) 507 Yndyn, a ma nhw'n gadal ac yn ca'l jobsus ac yn gneud pres a grêt de.
(1, 0) 508 Ga nhw brynu tŷ efo llwyth o snobs erill a dod yn ôl i'r tylla tin pentrefi 'ma nhw 'di adal bob hyn a hyn i weld mam a dad sy'n mynd yn hen, yn colli'u lliw fatha'r adeilada, ac yn colli nabod arnyn nhw, a mi ddo nhw a rhyw blant sydd efo acan wahanol i weld nain a taid.
(Lisa) 'Di hynna'm yn deg.
 
(Lisa) 'Di hynna'm yn deg.
(1, 0) 511 Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do.
(1, 0) 512 Tydw i ddim.
(1, 0) 513 O'dd gin i'm dewis, o'n i'n unig blentyn, mi o'dd 'na dir a dyna fo, tyff shit.
(1, 0) 514 Ddudodd neb hynny ond yn y fynwant 'na fedri di weld o'r iard ma na ddega o gyrff a'th i'r ddaear yn gynt fel fod y tir yna i fi, so pa ddewis o'dd gen i?
(1, 0) 515 Ma' nhw'n deud na rhaid ydi symud i ffwrdd ond ffycin lycshyri 'dio.
(1, 0) 516 Fedrith pawb ddim codi pac, chawn ni ddim.
(1, 0) 517 Da ni ar ôl.
(1, 0) 518 A dwi'm isio piti neb na gneud rhyw esgus jesd deud dwi.
(Aaron) So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o?
 
(Aaron) So be, odda chdi'n dal hyn yn ei erbyn o?
(1, 0) 520 Nagon i, ond dodd o'm o'i blaid o chwaith.
(1, 0) 521 Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr.
(Megan) Owain.
 
(Megan) Owain.
(1, 0) 524 Ywain di'n enw fi!
(Arwel) Yws, callia.
 
(Arwel) Yws, callia.
(1, 0) 526 Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg.
 
(1, 0) 531 Sori bois.
(Lisa) Ma'n oce.
 
(Megan) Hangman?
(1, 0) 541 Ffycin hel.
(Megan) Shit, sori nes i'm meddwl, oni, ffyc.
 
(Megan) Na, gwo on.
(1, 0) 547 Ofn ca'l stîd mae o.
(Arwel) Sa ddigon o gowntars a ballu?
 
(Arwel) Collwr gwael.
(1, 0) 554 Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio?
(Arwel) O, iesu do, a gweiddi.
 
(Aaron) O'dd o'n chwara twister?
(1, 0) 557 Ia, tua pump o'dd o cofiwch.
(1, 0) 558 Parti pwy o'dd o?
(Arwel) Dwnim.
 
(Aaron) Jesd lwc ydi hon de.
(1, 0) 570 Fatha' rhan fwya o betha.
(Megan) Reit, bob tro dachi'n cal neidar rhaid chi ddownio.
 
(Arwel) Fel'na ma'i gneud hi!
(1, 0) 576 Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o.
(1, 0) 577 Ma' nhw'n trefnu'r petha 'ma.
(Aaron) Ma'n gneud sens.
 
(Arwel) Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da.
(1, 0) 584 Jesd cymyd y pi newch chi.
(Arwel) Na, nawn ni ddim.
 
(Arwel) Na, nawn ni ddim.
(1, 0) 586 Iawn, oce, so.
(1, 0) 587 Adag y Cold War, oddi'n ras fawr i fynd i sbês doedd/
(Lisa) /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/
 
(Lisa) /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/
(1, 0) 589 /taw.
(1, 0) 590 Felly odd y Ryshans a'r Mericans yn trio cal pobol yn y gofod doedd, a cŵn a mwncis a ffycin... dwni'm... chimps a ballu.
(1, 0) 591 A dydyn nhw ddim r'un peth Tanc, dwi 'di deud o'r blaen, so ffyc off, ma David Attenbrough 'di deud.
(Arwel) Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu.
 
(Megan) A fi, chos sgin i'm parlwr.
(1, 0) 595 Ma' gin ffycin, y, ma' gin fwnci gynffon reit, i falansio mewn briga a ballu, sgin chimps ddim.
(Aaron) Pam fod gan chimps ddim cynffona?
 
(Arwel) Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama.
(1, 0) 598 Ia, a ffyc off eto achos adar a shit felna mae o'n lecio.
(1, 0) 599 A ma' nhw yn gneud fwy ar lawr na mwncis.
(Aaron) Hen dinna' hyll sgynyn nhw de.
 
(Aaron) Hen dinna' hyll sgynyn nhw de.
(1, 0) 601 Eniwe so Ryshans/
(Arwel) /ffoc mi/
 
(Arwel) /ffoc mi/
(1, 0) 603 /Chdi o'dd isio.
(1, 0) 604 Felly ma'r Ryshans yn deud, 'o, dani di gyrru Yuri Gagarin i'r gofod a ma di landioi'n ôl yn saff, ma'n coc ni'n fwy na un neb arall.'
(1, 0) 605 A ma Merica'n mynd 'o shit lle ma Stanley Kubrick i ni gal cogio landio ar y lleuad'/
(Megan) /o Iesu/
 
(Megan) /o Iesu/
(1, 0) 607 /Ia, ond y point ydi de.
(1, 0) 608 Fod 'na fwy o bobol, a cŵn a ballu 'di cal eu hel i fyny 'na ond bo nhw heb ddod yn ôl ne 'di llosgi.
(1, 0) 609 So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw.
(Aaron) Fedrai goelio hynna deud gwir.
 
(Arwel) Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn.
(1, 0) 616 Ffycin ma' nhw!
(Arwel) Sa pobol yn sylwi!
 
(Arwel) Sa pobol yn sylwi!
(1, 0) 618 Aaron!
(Aaron) Ma nhw'n llai, ac yn blasu'n wahanol.
 
(Arwel) Diolch!
(1, 0) 622 Mae o'n fwy rich.
(Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.
 
(Lisa) Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.
(1, 0) 626 Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd.
(Arwel) O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa.
 
(Aaron) Oedd, fydda ni'n yfad yn tŷ/
(1, 0) 711 Fejiterian Tecs/
(Aaron) /y?
 
(Arwel) Deffra twat!
(1, 0) 880 Ffyc off.
(Aaron) Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn.
 
(Aaron) Fydd rhaid i mi throi hi'n o fuan ma'rnai ofn.
(1, 0) 882 Sa well i minna fynd adra fyd.
(Megan) Be sgwennodd o, Arwel?
 
(Megan) O'dd 'na tha llythyr ne wbath?
(1, 0) 887 Ia, be o'dd hynny?