Angel Pen Ffordd

Ciw-restr ar gyfer Beti

 
(1, 0) 11 Dyma'r bywyd yntê, Doris?
(1, 0) 12 Tydi'n braf heb Charles?
(Doris) Yn tydi, meistres.
 
(Doris) Yn tydi, meistres.
(1, 0) 14 Mi fydd yn ôl yfory.
(Doris) Yn ôl i'r rwtîn.
 
(Doris) Yn ôl i'r rwtîn.
(1, 0) 16 Ia, treulio gyda'r nos yn gwrando ar simffoni neu gwrando arno fo yn darllen Shakespeare.
(Doris) Dim teledu.
 
(Doris) Dim teledu.
(1, 0) 18 Na, dim ond pan mae o isio gweld y Proms.
(1, 0) 19 O, mae Charles yn medru bod yn boring.
(Doris) A chas.
 
(Doris) Mi rydan ni wedi cael amser da ers pan aeth o.
(1, 0) 22 Codi am un ar ddeg,..
(Doris) ...âr ôl brecwast yn y gwely.
 
(Doris) ...âr ôl brecwast yn y gwely.
(1, 0) 24 Ie, mi 'rwyt ti wedi cael gormod o'r rheini.
(1, 0) 25 Fi ydi'r feistres cofia.
(Doris) A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'.
 
(Doris) A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'.
(1, 0) 27 A gadael dim dŵr poeth i mi.
(Doris) Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol.
 
(Doris) Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol.
(1, 0) 29 Ac ar ôl pryd bach ysgafn o salad "smoked salmon," yn ôl i'r tŷ i orffwys cyn cinio nos.
(Doris:) Ia, dach chi wedi'i chael hi'n braf iawn ac wedi anghofio pob dim am golli pwysa.
 
(1, 0) 32 Colli pwysa?
(Doris) Wel, ia.
 
(Doris) {Yn stopio pedlo.}
(1, 0) 40 Hy!
(1, 0) 41 Colli fasat ti!
(1, 0) 42 Mae 'mhwysa i yn iawn, beth bynnag.
(Doris) Hy!
 
(Doris) Dach chi wedi gweld eich pen-ôl yn ddiweddar?
(1, 0) 45 Paid â bod mor bersonol.
(Doris) Wel cerwch i jecio ar y glorian.
 
(Doris) Wel cerwch i jecio ar y glorian.
(1, 0) 48 Ew, ti'n iawn ─ mi rydw i wedi rhoi lot o bwysau ymlaen.
(1, 0) 49 O diar, mi wnaiff o hanner fy lladd i am hyn.
(1, 0) 50 Symud o'r ffordd.
(Doris) Hwre!
 
(Doris) Be dach chi'n feddwl o'n ffigwr i, meistres?
(1, 0) 57 Ew, ti'n lwcus.
(Doris) Gofalus, dim lwcus.
 
(1, 0) 69 Arian?
(1, 0) 70 Pa arian?
(Doris) Wel yr holl arian dach chi wedi'i wario ers pan aeth o.
 
(Doris) Ac oedd rhaid i chi roi tips mor uchel?
(1, 0) 74 Uchel?
(1, 0) 75 Be wyt ti'n feddwl?
(Doris) Wel, deg punt i'r hogan fach 'na am ddeud wrthach chi lle roedd y lle chwech, a deg punt i'r waiter 'na jest am i fod o'n debyg i'ch tad.
 
(1, 0) 78 O taw, Doris!
(1, 0) 79 Ti'n siwr 'mod i wedi gwario'r holl arian 'na?
(Doris) Do, dros fil o bunnau mewn pythefnos.
 
(Doris) Hei, dewch o'na ─ dim slacio!
(1, 0) 84 O diar, be wna' i?
(1, 0) 85 'Ches i ddim gwisgo fy ngôt ffyr ora' gynno fo am i mi orwario y tro diwetha' roedd o i ffwrdd.
(1, 0) 86 Mi fydd y gosb yn waeth y tro yma.
(Doris) A dach chi'n gwybod amdano fo.
 
(Doris) Mae o'n tjecio'ch cyfri banc chi yn gyson.
(1, 0) 89 Rhaid i mi fenthyg o rywle.
(Doris) Peidiwch ag edrych arna' i.
 
(1, 0) 94 Mae'n rhaid fod y sŵp 'na yn wynias ─ roedd o'n gweiddi fel dyn o'i go'.
(Doris) {Yn chwerthin.}
 
(Doris) Hei, dim slacio ddeudais i.
(1, 0) 100 O, rydw i wedi blino.
 
(1, 0) 102 O diar, dw i heb golli dim!
(Doris) {Yn chwerthin.}
 
(Doris) Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma.
(1, 0) 107 Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer.
(Doris) Dach chi'n meddwl bod honno yn bwll diwaelod.
 
(Doris) Faint sydd arnoch chi iddi ers y llynedd?
(1, 0) 110 Dim ond tair mil.
(Doris) Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall...
 
(Doris) Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall...
(1, 0) 112 O taw, Doris bach, ─ ti'n ddigon i godi dychryn ar rywun.
(Doris) {Yn pwyntio at gylchgrawn ar y bwrdd.}
 
(1, 0) 116 Tenerife...
(1, 0) 117 Fan'no faswn i yn hoffi mynd, ond 'ddaw o byth gyda fi.
(Doris) Fan'no dach chi yn mynd, meistres...
 
(1, 0) 120 Haul drwy'r dydd... gorwedd ar dywod melyn...
(1, 0) 121 Be' ddeudaist ti?
(Doris) Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith.
 
(Doris) Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith.
(1, 0) 123 Paid â chellwair, Doris.
(1, 0) 124 Pryd wnes i hynny?
(Doris) Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi.
 
(Doris) Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi.
(1, 0) 126 Dw i ddim yn cofio.
(Doris) Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd.
 
(Doris) Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd.
(1, 0) 128 Fydda i byth yn yfed gormod o win.
(Doris) Mi wnaethoch y diwrnod hwnnw.
 
(Doris) Ar ôl cinio yn y Grand, mi aethoch chi'ch dwy i'r "Travel Agent" mewn tacsi i roi blaendal ar wyliau yn Tenerife.
(1, 0) 131 O diar, be wna i?
(1, 0) 132 Wnaiff o byth adael i mi fynd.
(Doris) Twt, mi feddyliwn ni am rhywbeth.
 
(Doris) Dewch, meistres.
(1, 0) 137 O fedra i ddim, Doris.
(1, 0) 138 Dw i'n poeni, wsti.
(Doris) {Gafael yn ei llaw a'i thynnu'n ei blaen.}
 
(1, 0) 160 Heno!
(1, 0) 161 Paid â 'nychryn i Ben.
(Ben) Cŵl down meistres.
 
(Ben) 'Fory mae o'n dŵad siŵr.
(1, 0) 164 Ers faint wyt ti gyda ni rŵan, Ben?
(Ben) Ugain mlynedd meistres, a rydw i'n dal i aros am y watsh aur roedd o wedi'i gaddo i mi.
 
(1, 0) 169 Mae o yn gas hefo ni i gyd yn tydi?
(Ben) Rydw i newydd gofio rhywbeth pwysig.
 
(Doris) {Y ddwy yn chwerthin.}
(1, 0) 174 O, paid wir.
(1, 0) 175 Mae'n 'sennau i yn brifo wrth feddwl am y peth.
(Doris) Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud?
 
(Ben) Rhaid i mi gael practis.
(1, 0) 183 Ydi o'n chwaraewr da?
(Ben) Mae o'n dipyn gwell na'i dad!
 
(Ben) Mae o'n dipyn gwell na'i dad!
(1, 0) 185 Beth am ddechrau tacluso ychydig.
(1, 0) 186 Dan ni ddim isio gadael pethau tan y funud ola'.
(Doris) Mi ddechreua i gyda'r llestri 'ma.
 
(Doris) {Gafael mewn llestri a mynd allan.}
(1, 0) 189 Fe wna inna glirio'r papura 'ma.
(1, 0) 190 Tyrd i helpu Ben.
(Ben) Oes eisiau cael gwared ar y papurau 'ma i gyd?
 
(Ben) Well i ni adael un neu ddau o gwmpas iddo fo gael rhywbeth i'w ddarllen.
(1, 0) 194 Ie, wrth gwrs, gad un neu ddau.
(Ben) Beth am hwn?
 
(Ben) Beth am hwn?
(1, 0) 196 'Rargian' fawr ─ ddim y 'News of the World'!
(1, 0) 197 Llosga fo'n reit sydyn!
(1, 0) 198 Lle mae'r 'Times'?
(Ben) Alla i mo'i weld o.
 
(Ben) Alla i mo'i weld o.
(1, 0) 201 Paid â deud ─ mae o'n siŵr o ofyn amdano fo.
(Doris) 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma.
 
(Doris) 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma.
(1, 0) 203 Ben, plîs dos i'w nôl o y munud 'ma.
 
(1, 0) 207 O diar, bydd yn ofalus Doris bach.
(Doris) Sori, meistres.
 
(Ben) Dyma fo, ond mae golwg blêr iawn arno fo.
(1, 0) 212 Dos i'w smwddio fo.
(Ben) Smwddio fo?
 
(Ben) Smwddio fo?
(1, 0) 214 Ia, smwddio ddeudais i.
(Ben) {Gwenu.}
 
(Doris) {Yn dringo i ben cadair.}
(1, 0) 221 O, bydd yn ofalus Doris bach.
(1, 0) 222 Os torri di honna mi fydd y byd ar ben.
(1, 0) 223 Mae hi'n gant oed ─ wedi ei chael hi ar ôl ei Nain.
(Ben) Ac yn werth mil o bunnau medda fo.
 
(Doris) Nac oes, sgen i ddim math o'i ofn o.
(1, 0) 229 O diar ─ tyrd i lawr Doris bach.
(1, 0) 230 Gad i Ben drio.
(Doris) Na rydw i'n iawn.
 
(Doris) Na rydw i'n iawn.
(1, 0) 235 Daria di Doris, mi rwyt ti yn lletchwith.
(1, 0) 236 Ben bach, rydw i yn dy ddyled di am y gweddill o'm hoes.
(1, 0) 237 Rwyt ti'n haeddu codiad yn dy gyflog.
(Ben) Mi fasa well gen i y watsh aur.
 
(Ben) Mi fasa well gen i y watsh aur.
(1, 0) 239 Rho di hi i fyny 'ngwas i.
(1, 0) 240 Rydw i wedi colli ffydd yn Doris ─ mae hi'n nyrfs i gyd.
(Ben) Dyna ni.
 
(Doris) Beth am gêm arall o tidli wincs?
(1, 0) 247 Ddim eto.
(1, 0) 248 Mae gen i ofn iddo fo ddod yn ôl yn gynt wsti.
(1, 0) 249 Jest fel fo i drio rhyw dric fel yna.
(Doris) Ddaw o ddim tan yfory ─ peidiwch â phoeni.
 
(Doris) Ofn cael cweir 'dach chi 'te?
(1, 0) 253 Naci wir!
(1, 0) 254 Mi fu bron i mi dy drechu di tro dwytha.
(Doris) Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma.
 
(Doris) Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma.
(1, 0) 258 Dyro record arall i droi.
(1, 0) 259 Rhywbeth hefo dipyn o fynd ami.
(Doris) {Chwerthin.}
 
(Doris) Methu bob tro.
(1, 0) 265 Gna di yn well 'ta.
 
(1, 0) 267 Ti ddim gwell na fi.
(Doris) Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben?
 
(Doris) Mi wna i yn iawn fy hun.
(1, 0) 286 Rydw i wedi cael tair i mewn ar ôl ei gilydd.
(Doris) {Yn penlinio wrth ochr Beti.}
 
(2, 0) 328 Be ga' i 'neud i chi, Charles?
(Charles) Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau.
 
(Charles) Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job.
(2, 0) 331 Ond Charles...
(Charles) Dwi ddim isio esgusion.
 
(Charles) Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd.
(2, 0) 394 Wrth gwrs, Charles.
(Charles) Rho nhw ar fy nhraed i.
 
(Charles) Mae'ch breichiau chi ymhob man.
(2, 0) 408 Sori, Charles.
(Doris) 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr.
 
(Charles) Bowler!
(2, 0) 425 Pardwn.
(Charles) Yr het bowler.
 
(Ben) Car yn barod syr!
(2, 0) 436 Welwn ni mono fo am rai oriau gobeithio.
(2, 0) 437 Ti'n cofio ein bod ni wedi gwadd mam a'i chwaer drosodd am baned a sgwrs.
(Doris) Cofio?
 
(Doris) A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw.
(2, 0) 441 Well i ti osod y bwrdd yn barod.
(Doris) Iawn.
 
(Doris) Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw?
(2, 0) 451 Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud.
(Doris) Sut maen nhw'n dod?
 
(Doris) Sut maen nhw'n dod?
(2, 0) 458 Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros.
 
(2, 0) 461 Dyma nhw!
(Doris) Mi a' i i'w ateb o.
 
(Doris) Dowch â nhw i mi.
(2, 0) 473 Sut 'dach chi mam?
(2, 0) 474 Hylo, Anti Jên.
 
(2, 0) 477 Dewch at y bwrdd.
(2, 0) 478 Mae'n siŵr bod chi isio paned.
(Mam) A thamaid o darten afalau, Doris.
 
(Jên) Ia wir, rydan ni ein dwy wedi mynd heb frecwast i fwynhau honno.
(2, 0) 482 Does 'na neb i guro Doris am darten 'fala.
(Mam) Rydw i jest â chlemio.
 
(Ben) Mae o yn ei ôl.
(2, 0) 491 Yn barod?
(Ben) Ia, mae o wedi trefnu i ddau ffrind ddod i'r tŷ.
 
(Ben) Ia, mae o wedi trefnu i ddau ffrind ddod i'r tŷ.
(2, 0) 493 Wel, mi gaiff o fynd i'r rŵm ffrynt.
(2, 0) 494 Dan ni ddim yn symud.
(Doris) Da iawn, meistres.
 
(Ben) {Yn mynd allan.}
(2, 0) 504 Gwrandwch arna' i, Charles.
(Charles) Allan!
 
(Charles) Allan!
(2, 0) 506 Ond...
(Charles) Allan ddeudais i.
 
(Charles) Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth.
(2, 0) 521 Wrth gwrs, Charles.
(2, 0) 522 Yn mynd allan.}
(Charles) Hylo, Seimon.
 
(2, 0) 589 Falch o'ch cyfarfod chi.
(Charles) Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd.
 
(2, 0) 594 Ia, Charles.
(Charles) Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag.
 
(2, 0) 603 Dach chi'n meddwl?
(Charles) Wel, lawr â fo gyfeillion.
 
(Doris) Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei.
(2, 0) 622 Wyddost ti beth nath y cena?
(2, 0) 623 Fy nghusanu i o flaen y dynion 'na.
(Doris) Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly.
 
(Doris) Mae o wedi gadael ei blan ar ôl.
(2, 0) 630 Pa blan?
(Doris) Hwn fan hyn.
 
(Ben) Mae 'mrawd wedi rhoi cais i mewn i fod yn bensaer.
(2, 0) 636 'Chaiff o mohoni mae'n debyg.
(2, 0) 637 Os nad ydi o yn nabod y bobol iawn.
(Ben) Dyna'r gwir amdani.
 
(Ben) 'Ron i yno pan welodd o y mistêc ar ei gopi o.
(2, 0) 646 Be ddylai o fod?
(Ben) 18.
 
(Ben) Ac mi aeth fy mrawd i'r swyddfa i nôl y plan i'w gywiro fo ar ôl sylweddoli hynny.
(2, 0) 649 Ac mi roedd rhywun wedi copio y plan pan oedd o yn y swyddfa?
(Ben) Oedd, ac wedi copio y mistêc hefyd.
 
(Doris) Reit ─ dyma'n cyfle ni.
(2, 0) 655 Be wyt ti'n feddwl?
(Doris) Ein cyfle ni i dalu'n ôl.
 
(Doris) Ein cyfle ni i dalu'n ôl.
(2, 0) 657 I Charles?
(Doris) Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni.
 
(Doris) Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni.
(2, 0) 659 Ond does 'na ddim wedi'i brofi.
(Doris) Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser.
 
(Doris) Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser.
(2, 0) 661 Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo.
(Doris) Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo.
 
(Doris) Reit meistres, beth am bractis bach.
(2, 0) 664 Practeisio be?
(Doris) Beth i'w ddweud wrth y meistr.
 
(Doris) Beth i'w ddweud wrth y meistr.
(2, 0) 666 Well gen i beidio.
(Doris) 'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres.
 
(Doris) Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus.
(2, 0) 672 Reit, be wyt ti isio imi ei wneud?
(Doris) Gwych, meistres.
 
(2, 0) 676 Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(Doris) Twt, twt, meistres.
 
(2, 0) 683 Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(Doris) Peidiwch â gweiddi gormod.
 
(2, 0) 687 Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(Doris) Da iawn.
 
(Charles) Lle mae'r merchaid 'ma?
(2, 0) 714 Charles, rydan ni...
(Doris) Lle mae o?
 
(Doris) Lle mae o?
(2, 0) 718 Wn i ddim.
(2, 0) 719 Ella ei fod o wedi mynd i'r ystafell ffrynt.
(Doris) Ar ei ôl o meistres.
 
(Doris) Ar ei ôl o meistres.
(2, 0) 721 Rydw i yn dechrau cael traed oer wsti.
(Doris) {Yn ei thywys yn araf at y drws.}
 
(Doris) Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres.
(2, 0) 741 Ydw.
(2, 0) 742 Mi wrthododd o wrando, a'n anfon i oddi yna bron yn syth.
(Ben) Be ddeudodd o am y plan?
 
(Ben) Be ddeudodd o am y plan?
(2, 0) 744 Deud mai ei blan o ydi o, a neb arall.
(Doris) Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo.
 
(Doris) Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo.
(2, 0) 746 Be fedar o'i wneud?
(Doris) Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o.
 
(Ben) Dim ond drws nesa ond un mae o'n byw.
(2, 0) 751 Iawn.
(Doris) Paid.
 
(Doris) Ffordd hyn.
(2, 0) 778 Snwcer?
(2, 0) 779 Na, mae'n rhaid eich bod chi wedi gwneud camgymeriad ─ dydi Charles ddim yn chwarae snwcer.
 
(2, 0) 781 O, sori.
(2, 0) 782 Ben 'dach chi isio.
(2, 0) 783 Pwy sy'n siarad.
 
(2, 0) 785 Sion Powys, ia.
(2, 0) 786 Sut ydach chi, Mr Powys.
(2, 0) 787 Daliwch y lein, mi a'i i'w nôl o i chi rŵan.
 
(2, 0) 789 Sion Powys sydd yna isio trefnu gem snwcer.
(Ben) Ew, dw i heb gael cyfle i bracteisio.
 
(Ben) Dywedwch wrtho fo y gwna i ei ffonio fo'n ôl.
(2, 0) 792 Gaiff o ffonio chi'n ôl Mr Powys?
(2, 0) 793 Diolch yn fawr.
 
(Doris) Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na.
(2, 0) 803 O diar, gobeithio na fydd yna ymladd.
(Doris) Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar.
 
(Ben) Mrs. Pryce-Smith sydd yna.
(2, 0) 807 Be mae hi isio?
(Ben) Dw i ddim yn siŵr ─ rhywbeth am Tenerife.
 
(Ben) Dw i ddim yn siŵr ─ rhywbeth am Tenerife.
(2, 0) 809 O!
(2, 0) 810 Tenerife.
(Doris) Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr.
 
(Doris) Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr.
(2, 0) 812 O, fedra i 'mo'i gweld hi.
(2, 0) 813 Be wna' i Doris?
(Doris) Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni.
 
(Doris) Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni.
(2, 0) 815 O Doris, rwyt ti'n werth y byd.
(Oscar) Chewch chi ddim mwy o drwbwl hefo fo.
 
(Doris) 'Dach chi'n lwcus meistres.
(2, 0) 823 Lwcus?
(Doris) {Yn chwerthin.}
 
(2, 0) 828 Dim o gwbwl.
(Doris) Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro.
 
(Doris) Beth am i ni gyd fynd allan i ginio.
(2, 0) 848 Syniad gwych.
(2, 0) 849 Well ini fynd i newid yn sydyn.
(Charles) Ardderchog.
 
(2, 0) 853 Gewch chi aros adref Charles.
(2, 0) 854 Mae yna ddigon o fwyd yn y gegin.
(Doris) Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union.
 
(Ben) A dyma chi fenthyg watsh i'w amseru o'n iawn.
(2, 0) 858 Hwyl, Charles.