Angel Pen Ffordd

Ciw-restr ar gyfer Doris

(Beti) Dyma'r bywyd yntê, Doris?
 
(Beti) Tydi'n braf heb Charles?
(1, 0) 13 Yn tydi, meistres.
(Beti) Mi fydd yn ôl yfory.
 
(Beti) Mi fydd yn ôl yfory.
(1, 0) 15 Yn ôl i'r rwtîn.
(Beti) Ia, treulio gyda'r nos yn gwrando ar simffoni neu gwrando arno fo yn darllen Shakespeare.
 
(Beti) Ia, treulio gyda'r nos yn gwrando ar simffoni neu gwrando arno fo yn darllen Shakespeare.
(1, 0) 17 Dim teledu.
(Beti) Na, dim ond pan mae o isio gweld y Proms.
 
(Beti) O, mae Charles yn medru bod yn boring.
(1, 0) 20 A chas.
(1, 0) 21 Mi rydan ni wedi cael amser da ers pan aeth o.
(Beti) Codi am un ar ddeg,..
 
(Beti) Codi am un ar ddeg,..
(1, 0) 23 ...âr ôl brecwast yn y gwely.
(Beti) Ie, mi 'rwyt ti wedi cael gormod o'r rheini.
 
(Beti) Fi ydi'r feistres cofia.
(1, 0) 26 A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'.
(Beti) A gadael dim dŵr poeth i mi.
 
(Beti) A gadael dim dŵr poeth i mi.
(1, 0) 28 Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol.
(Beti) Ac ar ôl pryd bach ysgafn o salad "smoked salmon," yn ôl i'r tŷ i orffwys cyn cinio nos.
 
(Beti) Colli pwysa?
(1, 0) 34 Wel, ia.
(1, 0) 35 Mae o wedi prynu hwn yn sbeshial i chi golli pwysa a dach chi ddim wedi bod arno fo yr un waith ers pan aeth o i ffwrdd.
 
(1, 0) 37 Dyna fi wedi cyffwrdd 30 eto!
(1, 0) 38 Dwi'n fodlon betio pum punt na wnewch chi mo hynna.
 
(Beti) Mae 'mhwysa i yn iawn, beth bynnag.
(1, 0) 43 Hy!
(1, 0) 44 Dach chi wedi gweld eich pen-ôl yn ddiweddar?
(Beti) Paid â bod mor bersonol.
 
(Beti) Paid â bod mor bersonol.
(1, 0) 46 Wel cerwch i jecio ar y glorian.
(Beti) Ew, ti'n iawn ─ mi rydw i wedi rhoi lot o bwysau ymlaen.
 
(Beti) Symud o'r ffordd.
(1, 0) 53 Hwre!
(1, 0) 54 Rydw i wedi colli pedwar pwys mewn wythnos.
 
(1, 0) 56 Be dach chi'n feddwl o'n ffigwr i, meistres?
(Beti) Ew, ti'n lwcus.
 
(Beti) Ew, ti'n lwcus.
(1, 0) 58 Gofalus, dim lwcus.
 
(1, 0) 60 Hei, dowch o'na.
(1, 0) 61 Dydach chi ddim yn cael stopio rŵan.
(1, 0) 62 Gamp i chi gyrraedd 30.
 
(1, 0) 65 Does gynnoch chi ddim clem ─ dach chi ddim wedi cyrraedd pymtheg eto!
 
(1, 0) 67 Dach chi'n cofio bod gynnoch chi broblem ariannol yn dydach?
(Beti) {Yn dal i bedlo.}
 
(Beti) Pa arian?
(1, 0) 71 Wel yr holl arian dach chi wedi'i wario ers pan aeth o.
(1, 0) 72 Bag lledr £100; pum pâr o esgidiau ugain punt yr un a'r fodrwy 'na yn werth pum cant.
(1, 0) 73 Ac oedd rhaid i chi roi tips mor uchel?
(Beti) Uchel?
 
(Beti) Be wyt ti'n feddwl?
(1, 0) 76 Wel, deg punt i'r hogan fach 'na am ddeud wrthach chi lle roedd y lle chwech, a deg punt i'r waiter 'na jest am i fod o'n debyg i'ch tad.
(Beti) {Stopio pedlo.}
 
(Beti) Ti'n siwr 'mod i wedi gwario'r holl arian 'na?
(1, 0) 80 Do, dros fil o bunnau mewn pythefnos.
 
(1, 0) 82 Hei, dewch o'na ─ dim slacio!
(Beti) O diar, be wna' i?
 
(Beti) Mi fydd y gosb yn waeth y tro yma.
(1, 0) 87 A dach chi'n gwybod amdano fo.
(1, 0) 88 Mae o'n tjecio'ch cyfri banc chi yn gyson.
(Beti) Rhaid i mi fenthyg o rywle.
 
(Beti) Rhaid i mi fenthyg o rywle.
(1, 0) 90 Peidiwch ag edrych arna' i.
(1, 0) 91 Dw i ddim wedi cael cyflog ganddo fo ers tri mis.
(1, 0) 92 Ddim ers y diwrnod hwnnw y gwnes i golli sŵp ar ben ei siwt ora fo.
(Beti) {Yn chwerthin.}
 
(1, 0) 96 Ew, oedd.
(1, 0) 97 Roedd o'n dawnsio o gwmpas y stafell 'ma fel dyn o'i go' hefyd.
 
(1, 0) 99 Hei, dim slacio ddeudais i.
(Beti) O, rydw i wedi blino.
 
(1, 0) 104 Doeddach chi rioed yn meddwl basach chi'n colli owns ar ôl hynna o ymdrech?
(1, 0) 105 Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma.
(Beti) Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer.
 
(Beti) Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer.
(1, 0) 108 Dach chi'n meddwl bod honno yn bwll diwaelod.
(1, 0) 109 Faint sydd arnoch chi iddi ers y llynedd?
(Beti) Dim ond tair mil.
 
(Beti) Dim ond tair mil.
(1, 0) 111 Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall...
(Beti) O taw, Doris bach, ─ ti'n ddigon i godi dychryn ar rywun.
 
(1, 0) 114 A beth am Tenerife?
(Beti) {Yn freuddwydiol.}
 
(Beti) Fan'no faswn i yn hoffi mynd, ond 'ddaw o byth gyda fi.
(1, 0) 118 Fan'no dach chi yn mynd, meistres...
(Beti) {Stopio pedlo.}
 
(Beti) Be' ddeudaist ti?
(1, 0) 122 Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith.
(Beti) Paid â chellwair, Doris.
 
(Beti) Pryd wnes i hynny?
(1, 0) 125 Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi.
(Beti) Dw i ddim yn cofio.
 
(Beti) Dw i ddim yn cofio.
(1, 0) 127 Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd.
(Beti) Fydda i byth yn yfed gormod o win.
 
(Beti) Fydda i byth yn yfed gormod o win.
(1, 0) 129 Mi wnaethoch y diwrnod hwnnw.
(1, 0) 130 Ar ôl cinio yn y Grand, mi aethoch chi'ch dwy i'r "Travel Agent" mewn tacsi i roi blaendal ar wyliau yn Tenerife.
(Beti) O diar, be wna i?
 
(Beti) Wnaiff o byth adael i mi fynd.
(1, 0) 133 Twt, mi feddyliwn ni am rhywbeth.
(1, 0) 134 Dowch i ni gael dawnsio.
 
(1, 0) 136 Dewch, meistres.
(Beti) O fedra i ddim, Doris.
 
(1, 0) 140 Cym on.
(1, 0) 141 Anghofiwch o.
(1, 0) 142 Mi gawn ni boeni amdano fo yfory.
 
(1, 0) 144 Wel, am wyneb hir.
 
(1, 0) 146 Beth am dipyn o wên?
 
(1, 0) 149 Ben!
(1, 0) 150 Tyrd, joinia i mewn.
(Ben) Ew!
 
(Ben) Dwi ddim mor ffit ag oeddwn i.
(1, 0) 156 Faint o'r gloch mae o'n cyrraedd yfory?
(Ben) Ddim syniad.
 
(Ben) Ugain mlynedd meistres, a rydw i'n dal i aros am y watsh aur roedd o wedi'i gaddo i mi.
(1, 0) 166 O, chefaist ti mohoni?
(Ben) Naddo, mi nath o ei chadw hi ar ôl i mi gael crash hefo'i gar newydd o.
 
(Ben) {Yn codi a mynd allan.}
(1, 0) 172 Meddyliwch am y meistr yn dawnsio i fiwsig fel yna.
 
(Beti) Mae'n 'sennau i yn brifo wrth feddwl am y peth.
(1, 0) 177 Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud?
(Ben) Newydd gofio.
 
(Beti) Dan ni ddim isio gadael pethau tan y funud ola'.
(1, 0) 187 Mi ddechreua i gyda'r llestri 'ma.
 
(Beti) Paid â deud ─ mae o'n siŵr o ofyn amdano fo.
(1, 0) 202 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma.
(Beti) Ben, plîs dos i'w nôl o y munud 'ma.
 
(Beti) O diar, bydd yn ofalus Doris bach.
(1, 0) 208 Sori, meistres.
(Ben) Dyma fo, ond mae golwg blêr iawn arno fo.
 
(Ben) Fasach chi yn lecio i mi ei roi o yn y tymbyl dreiar hefyd?
(1, 0) 219 Rhaid i mi roi y jwg yma yn ôl.
 
(Ben) Ew, mae'n rhaid gen i bod hon ofn y meistr ─ mae hi'n nyrfs i gyd.
(1, 0) 228 Nac oes, sgen i ddim math o'i ofn o.
(Beti) O diar ─ tyrd i lawr Doris bach.
 
(Beti) Gad i Ben drio.
(1, 0) 231 Na rydw i'n iawn.
(Beti) Daria di Doris, mi rwyt ti yn lletchwith.
 
(Ben) {Ben yn mynd allan.}
(1, 0) 245 Ew, rydw i wedi blino ar yr hen glirio 'ma.
(1, 0) 246 Beth am gêm arall o tidli wincs?
(Beti) Ddim eto.
 
(Beti) Jest fel fo i drio rhyw dric fel yna.
(1, 0) 250 Ddaw o ddim tan yfory ─ peidiwch â phoeni.
 
(1, 0) 252 Ofn cael cweir 'dach chi 'te?
(Beti) Naci wir!
 
(Beti) Mi fu bron i mi dy drechu di tro dwytha.
(1, 0) 255 Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma.
(Beti) Dyro record arall i droi.
 
(1, 0) 263 Dach chi'n hopless Meistres.
(1, 0) 264 Methu bob tro.
(Beti) Gna di yn well 'ta.
 
(Beti) Ti ddim gwell na fi.
(1, 0) 269 Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben?
(Ben) {Yn uchel.}
 
(Ben) Na, well gen i snwcer.
(1, 0) 274 'Does gennoch chi ddim llawer o glem meistres.
(1, 0) 275 Rydw i yn ffansio gêm bach o snwcer.
 
(1, 0) 284 Cadw dy hen ddwylo i ti dy hun.
(1, 0) 285 Mi wna i yn iawn fy hun.
(Beti) Rydw i wedi cael tair i mewn ar ôl ei gilydd.
 
(1, 0) 289 Wel, mae rhaid i mi drio curo hynna.
(Ben) {Yn dal i chwarae.}
 
(Ben) Ti isïo siot bach eto Doris?
(2, 0) 311 Ia?
(Charles) Ia, be?
 
(2, 0) 314 Ia, meistr?
(Charles) Dyna welliant.
 
(Charles) Dyna welliant.
(2, 0) 316 Be dach chi isio?
(Charles) Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma.
 
(Charles) Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma.
(2, 0) 318 Dyna wnes i.
(Charles) Paid â deud celwydd.
 
(Charles) Dos â fo o 'ma a gwna un arall!
(2, 0) 322 O-ce.
 
(Charles) Gewch chi fynd rŵan.
(2, 0) 336 Dim ond dwy funud mae o wedi bod!
(Charles) Mae'r te yma yn oer.
 
(Charles) Cer i wneud peth ffres!
(2, 0) 339 Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.}
(2, 0) 340 'Di hwn byth yn fodlon.
(Ben) Ia, syr?
 
(Ben) Wrth gwrs, syr.
(2, 0) 372 Ydi hwnna'n well!
(Charles) Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro.
 
(Charles) Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro.
(2, 0) 376 Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn.
(Ben) Newydd gyrraedd, meistr.
 
(Charles) Tyrd â fy sgidie du newydd i mi.
(2, 0) 390 Iawn.
 
(Charles) Rydw isio cario ymlaen i ddarllen.
(2, 0) 399 Be nesa!
 
(Beti) Sori, Charles.
(2, 0) 413 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr.
(Charles) Tyrd a fo yma 'ta.
 
(Charles) Bwyda fi!
(2, 0) 419 Wel, agorwch eich ceg 'ta.
(Charles) {Dal i ddarllen.}
 
(Beti) Ti'n cofio ein bod ni wedi gwadd mam a'i chwaer drosodd am baned a sgwrs.
(2, 0) 438 Cofio?
(2, 0) 439 Wrth gwrs.
(2, 0) 440 A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw.
(Beti) Well i ti osod y bwrdd yn barod.
 
(Beti) Well i ti osod y bwrdd yn barod.
(2, 0) 442 Iawn.
 
(2, 0) 447 Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw?
(Beti) Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud.
 
(Beti) Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud.
(2, 0) 455 Sut maen nhw'n dod?
(Beti) Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros.
 
(Beti) Dyma nhw!
(2, 0) 462 Mi a' i i'w ateb o.
 
(2, 0) 466 Na, peidiwch â phoeni.
(2, 0) 467 Dydi o ddim yma.
 
(2, 0) 470 Hei, beth am eich cotiau chi.
(2, 0) 471 Dowch â nhw i mi.
(Beti) Sut 'dach chi mam?
 
(Mam) Rydw i jest â chlemio.
(2, 0) 485 Sut mae'r darten yn plesio?
(Jên) Dy ora di eto 'mach i.
 
(Ben) Well i chi glirio o'r ystafell yma.
(2, 0) 489 Pam?
(Ben) Mae o yn ei ôl.
 
(Beti) Dan ni ddim yn symud.
(2, 0) 495 Da iawn, meistres.
(2, 0) 496 Mae'n bryd i rywun ddal ei dir yn ei erbyn.
(Ben) Wel, rydw i wedi'ch wamio chi.
 
(2, 0) 511 Oedd Hitler yn waeth na hyn deudwch?
 
(2, 0) 536 'Welodd rywun un mor ddau wynebog â hwn.
 
(Charles) Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr.
(2, 0) 621 Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei.
(Beti) Wyddost ti beth nath y cena?
 
(Beti) Fy nghusanu i o flaen y dynion 'na.
(2, 0) 624 Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly.
(Ben) Wel, myn dian i.
 
(2, 0) 629 Mae o wedi gadael ei blan ar ôl.
(Beti) Pa blan?
 
(Beti) Pa blan?
(2, 0) 631 Hwn fan hyn.
(Ben) Edrych yn debyg i'r gwesty newydd maen nhw yn mynd i'w adeiladu ger y traeth.
 
(Ben) Bryn Awelon.
(2, 0) 634 Sut wyt ti'n gwybod am hwnnw?
(Ben) Mae 'mrawd wedi rhoi cais i mewn i fod yn bensaer.
 
(Ben) Hei, hold on, mae hwn yn debyg iawn i'r plan wnaeth fy mrawd.
(2, 0) 641 Sut wyt ti'n gallu deud?
(Ben) Wel, weli di y ffigwr 81 yn fan'na?
 
(Ben) Wel, weli di y ffigwr 81 yn fan'na?
(2, 0) 643 Ia.
(Ben) 'Rydw i bron yn sicr mai dyna'r union ffigwr oedd ar blan fy mrawd ac mae o'n anghywir.
 
(Ben) Oedd, ac wedi copio y mistêc hefyd.
(2, 0) 651 Wel, y coblyn tywyllodrus.
(Ben) 'Rydw i am fynd â hwn at fy mrawd i jecio.
 
(Ben) {Mynd allan gyda'r cynllun.}
(2, 0) 654 Reit ─ dyma'n cyfle ni.
(Beti) Be wyt ti'n feddwl?
 
(Beti) Be wyt ti'n feddwl?
(2, 0) 656 Ein cyfle ni i dalu'n ôl.
(Beti) I Charles?
 
(Beti) I Charles?
(2, 0) 658 Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni.
(Beti) Ond does 'na ddim wedi'i brofi.
 
(Beti) Ond does 'na ddim wedi'i brofi.
(2, 0) 660 Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser.
(Beti) Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo.
 
(Beti) Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo.
(2, 0) 662 Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo.
(2, 0) 663 Reit meistres, beth am bractis bach.
(Beti) Practeisio be?
 
(Beti) Practeisio be?
(2, 0) 665 Beth i'w ddweud wrth y meistr.
(Beti) Well gen i beidio.
 
(Beti) Well gen i beidio.
(2, 0) 669 'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres.
(2, 0) 670 Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus.
(Beti) Reit, be wyt ti isio imi ei wneud?
 
(Beti) Reit, be wyt ti isio imi ei wneud?
(2, 0) 673 Gwych, meistres.
(2, 0) 674 Reit, deudwch ar fy ôl i ─ Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(Beti) {Heb hunan hyder.}
 
(Beti) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(2, 0) 677 Twt, twt, meistres.
(2, 0) 678 Fuasech chi ddim yn dychryn robin goch fel yna.
(2, 0) 679 Brest allan, ysgwyddau'n ôl.
(2, 0) 680 Triwch eto.
(2, 0) 681 Codwch eich llais.
(Beti) {Yn ufuddhau, ond yn gweiddi gormod.}
 
(Beti) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(2, 0) 684 Peidiwch â gweiddi gormod.
(2, 0) 685 Unwaith eto.
(Beti) {Llais yn is.}
 
(Beti) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
(2, 0) 688 Da iawn.
(Ben) Mae 'mrawd wedi cadarnhau'r peth.
 
(Ben) A pheth arall, ar ôl iddo fo ei anfon o i mewn yr ail dro, mi aeth ar goll.
(2, 0) 693 Yn y swyddfa?
(Ben) Ia, mae'n debyg bod rhywun wedi'i golli o yn fwriadol.
 
(Ben) Ia, mae'n debyg bod rhywun wedi'i golli o yn fwriadol.
(2, 0) 695 Dyna fo wedi'i brofi.
(2, 0) 696 Mi fedrwn ni gario ymlaen rŵan.
(Ben) Be' 'dach chi yn mynd i'w wneud?
 
(Ben) Be' 'dach chi yn mynd i'w wneud?
(2, 0) 698 Ei gyhuddo fo o dwyll.
(2, 0) 699 Ac os nad ydi o yn newid ei ffordd, mi rydan ni am ei riportio fo.
(Ben) Sŵn car!
 
(Ben) Mae o wedi cyrraedd yn ôl.
(2, 0) 702 Reit, pawb allan.
(2, 0) 703 Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo.
(Charles) Lle gebyst mae pawb?
 
(Beti) Charles, rydan ni...
(2, 0) 717 Lle mae o?
(Beti) Wn i ddim.
 
(Beti) Ella ei fod o wedi mynd i'r ystafell ffrynt.
(2, 0) 720 Ar ei ôl o meistres.
(Beti) Rydw i yn dechrau cael traed oer wsti.
 
(2, 0) 723 Nac ydych, siŵr.
(2, 0) 724 Mi wnewch chi'n iawn.
(2, 0) 725 Pob lwc.
 
(2, 0) 731 Pwy sydd 'na?
(Ben) Tarsan.
 
(2, 0) 734 Be sydd arnat ti dwad?
(2, 0) 735 Mae yna amser a lle i bopeth.
(2, 0) 736 Be wyt ti isio?
(Ben) Dim ond un gusan fach.
 
(Ben) Dim ond un gusan fach.
(2, 0) 738 Ddim yn fan hyn gwboi.
 
(2, 0) 740 Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres.
(Beti) Ydw.
 
(Beti) Deud mai ei blan o ydi o, a neb arall.
(2, 0) 745 Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo.
(Beti) Be fedar o'i wneud?
 
(Beti) Be fedar o'i wneud?
(2, 0) 747 Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o.
(2, 0) 748 Ac ar ben hynny, mae o'n ddyn papur newydd.
(Ben) Ia, meistres ─ ewch.
 
(Beti) Iawn.
(2, 0) 754 Paid.
(2, 0) 755 Mae rhywun yn dod.
(Charles) A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn.
 
(Charles) Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig.
(2, 0) 759 Hy, be ydi cyflog?
(Charles) Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl.
 
(Ben) Gwnawn wrth gwrs, syr.
(2, 0) 771 Mae o newydd fod yma yn gofyn amdanoch chi meistres.
(Ben) Ia, ac mewn coblyn o dymer.
 
(Oscar) Fydda i ddim yn hir yn ei setlo fo!
(2, 0) 775 Ffordd hyn.
(Beti) Snwcer?
 
(2, 0) 802 Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na.
(Beti) O diar, gobeithio na fydd yna ymladd.
 
(Beti) O diar, gobeithio na fydd yna ymladd.
(2, 0) 804 Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar.
 
(Beti) Tenerife.
(2, 0) 811 Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr.
(Beti) O, fedra i 'mo'i gweld hi.
 
(Beti) Be wna' i Doris?
(2, 0) 814 Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni.
(Beti) O Doris, rwyt ti'n werth y byd.
 
(Oscar) Dydd da.
(2, 0) 822 'Dach chi'n lwcus meistres.
(Beti) Lwcus?
 
(2, 0) 825 Ia, mae hi isio canslo y gwyliau.
(2, 0) 826 Gofyn os dach chi'n meindio.
(Beti) {Yn chwerthin.}
 
(Beti) Dim o gwbwl.
(2, 0) 829 Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro.
(Ben) Sh... rydw i'n meddwl ei fod o yn dŵad.
 
(2, 0) 836 Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis.
(Charles) Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw.
 
(Charles) Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw.
(2, 0) 838 Tro cynta ers naintin-sicsti!
(Charles) Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir.
 
(Charles) Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur.
(2, 0) 845 Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm.
(Ben) Na finnau.
 
(Ben) Na finnau.
(2, 0) 847 Beth am i ni gyd fynd allan i ginio.
(Beti) Syniad gwych.
 
(Beti) Mae yna ddigon o fwyd yn y gegin.
(2, 0) 855 Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union.