Anne Frank

Ciw-restr ar gyfer Milwr

(Llais) %Mehefin 12, 1942.
 
(Anne) Dad?
(0, 10) 511 Mi fydda hi'n haws i chi, ac yn llai o waith i mi, pe byddech chi'n deud pob dim rwan, a wedyn mi gewch chi fynd nol at eich teulu.
(0, 10) 512 Mi gewch chi ddychwelyd at eich dwy ferch ar ol cyflwyno'r wybodaeth briodol.
(Tad) Lle mae ngwraig i?
 
(Tad) Lle mae ngwraig i?
(0, 10) 514 Dyna welliant!
(0, 10) 515 Mae hi'n dipyn haws cydweithredu tydi?
(0, 10) 516 Mae hi yma ond dydi hi ddim yn barod i'ch gweld chi eto.
(Tad) Ydi'n iawn?
 
(Tad) Ydi'n iawn?
(0, 10) 518 Mae hynny'n dibynnu arnoch chi.
(0, 10) 519 Rwan eich bod chi'n barod i siarad, mi gawn ni gychwyn ar y broses.
(0, 10) 520 Ers pryd fuoch chi'n cuddio?
(Tad) Bron i ddwy flynedd.
 
(Tad) Bron i ddwy flynedd.
(0, 10) 522 Da iawn.
(0, 10) 523 A phwy arall oedd yna heblaw am eich teulu chi?
(0, 10) 524 Dewch rwan!
(0, 10) 525 Waeth i chi heb a mynd yn groes i'n dymuniadau ni.
(0, 10) 526 Iawn, mi nawn ni holi eich gwraig.
(Tad) Mi oedd na un dyn arall.
 
(Tad) Mi oedd na un dyn arall.
(0, 10) 528 A'i enw fo?
(Tad) Ym…
 
(Tad) Ym…
(0, 10) 530 Waeth i chi heb a meddwl ein twyllo ni chwaith achos mi ydan ni yn tueddu i ffeindio bod merched yn plygu'n haws i dipyn o berswad.
 
(0, 10) 532 A'i enw fo?
(Tad) Dussel.
 
(Tad) Dussel.
(0, 10) 534 Enw cyntaf?
(Tad) Albert.
 
(Tad) Albert.
(0, 10) 536 A phwy arall oedd yno?
(Tad) Neb arall.
 
(Tad) Neb arall.
(0, 10) 538 Mi ydan ni'n gwbod be ydi enw'r hogyn.
(0, 10) 539 Hogyn gwan iawn.
(0, 10) 540 Mi fyddai ychydig o hyfforddiant milwrol yn help iddo fo.
(0, 10) 541 Mi ydach chi'n ddyn dipyn cryfach ar ol ymladd yn y rhyfel dwytha.
(0, 10) 542 Dallt sut mae'r pethau ma'n gweithio.
 
(0, 10) 544 Ddown ni'n ol at hynny.
(0, 10) 545 Pwy oedd yn dod a chyflenwadau i chi?
(Tad) Neb.
 
(Tad) Neb.
(0, 10) 547 Mi wnaethoch chi lwyddo i fyw am ddwy flynedd heb i neb ddod a bwyd i chi?
(Tad) Mi fuon ni'n byw ar fwyd sych.
 
(Tad) Mi fuon ni'n byw ar fwyd sych.
(0, 10) 549 Mae'r enwau'n ddigon.
(0, 10) 550 Mater bach ydi ffeindio lle mae'n nhw'n byw.
(0, 10) 551 Enwau!
 
(0, 10) 553 Os na fel hyn mae ei dallt hi, mi fydd raid i ni alw eich gwraig.
(Tad) Doedd na neb yn ein helpu ni!
 
(Tad) Doedd na neb yn ein helpu ni!
(0, 10) 555 Celwydd.
(Tad) Mi oeddan ni wedi bod yn hel y bwyd ers dros flwyddyn.
 
(Tad) Mi oeddan ni wedi bod yn hel y bwyd ers dros flwyddyn.
(0, 10) 557 Celwydd eto!
 
(0, 10) 559 Mi ydan ni angen y gwir.
(0, 10) 560 Mi ddowch chi i ddallt yn diwedd.
(Anne) Dad!
 
(Milwr 2) Dewch allan yn drefnus!
(0, 11) 577 Allan!
(0, 11) 578 Allan rwan!
(Milwr 2) Dynion i'r dde a merched a phlant i'r chwith!
 
(Milwr 2) Dynion i'r dde a merched a phlant i'r chwith!
(0, 11) 580 Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig ar ol y siwrnai, dewch draw ffor hyn.
(0, 11) 581 Pawb mewn rhesi syth!
(0, 11) 582 Dwi isio gweld pawb yn symud!
(0, 11) 583 Symudwch!
(0, 11) 584 Merched a phlant i'r chwith!
(0, 11) 585 Dynion i'r dde!
(0, 11) 586 Does na'm amser i loetran!
(0, 11) 587 Pawb i symud!
(Milwr 2) Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig, dewch draw ffor hyn!
 
(Anne) Alla i'm cerdded dim mwy!
(0, 11) 592 Mi gewch chi eich cofrestru a chael archwiliad meddygol.
(0, 11) 593 Yna cawod a chasglu eich gwisg briodol ar gyfer eich harosiad.
(0, 11) 594 Gadewch eich holl eiddo yma.
(0, 11) 595 Sbectols, dannedd gosod...
(Milwr 2) Tynnwch eich dillad!
 
(Milwr 2) Os oes gynnoch chi unrhyw beth gwerthfawr, dowch a nhw…
(0, 11) 599 Rhosa!
(0, 11) 600 Ti'n hogan fawr i fod yn gafael llaw!
 
(0, 11) 602 S'ddim isio bod ofn!
(0, 11) 603 Isio mwytha ti?
 
(0, 11) 605 Fama'n gallu bod yn le unig i hogan ifanc!
(Margot) Da ni'n iawn diolch.
 
(Margot) Da ni'n iawn diolch.
(0, 11) 607 Heblaw bo ti'n hogan sbesial!
(0, 11) 608 Gadwa i'n llygad arna ti yli!
(Milwr 2) Symwch hi!
 
(Milwr 2) Symwch hi!
(0, 11) 610 Dowch!
(Milwr 2) Cadwa di at dy waith!
 
(Milwr 2) Cadwa di at dy waith!
(0, 11) 613 Mond sbio dwi!
(Milwr 2) Fydda nhw di colli u graen mewn wsnos.
 
(Milwr 2) Fydda nhw di colli u graen mewn wsnos.
(0, 11) 615 Dyna pam dwi'n licio rhai newydd.
(0, 11) 616 Neis gweld bach o gig arnyn nhw.
(Milwr 2) Iddewon cachlyd ydyn nhw!
 
(Milwr 2) Iddewon cachlyd ydyn nhw!
(0, 11) 618 Ma nhw dda i wbath!
(Milwr 2) I losgi yn y ffwrnais na.
 
(Milwr 2) Ma angen'u sortio nhw!
(0, 11) 622 Ma isio bach o hwyl!
 
(0, 11) 624 Symwch hi!
(Milwr 2) Dynion i'r dde, merched a phlant i'r chwith.
 
(Margot) Dwi'n mynd i fod yn sal.
(0, 13) 661 Cwyd ar dy draed!
(0, 13) 662 Mae pawb i sefyll i gael eu cyfri.
(Margot) Dwi'n mynd i fod yn sal.
 
(Margot) Dwi'n mynd i fod yn sal.
(0, 13) 664 Mi geith hi aros ei thro fel pawb arall.
(0, 13) 665 Saf yn syth!
 
(0, 13) 667 Y mochyn!
(0, 13) 668 Y sglyfath budur!
(0, 13) 669 Fydd y cwbwl ohonach chi'n sal rwan achos fod na un Iddew bach methu aros i gyrraedd y toilet.
(0, 13) 670 Welis i fwy o urddas mewn ci.
(0, 13) 671 Mi fydd raid i ti gael dy gosbi.
(0, 13) 672 Penlinia ar lawr a chwyd dy freichiau yn yr awyr.
(Anne) Tyd Margot.
 
(Anne) Fyddi di fawr hirach.
(0, 13) 675 Mae pob un ohona chi'n wan!
(Margot) Dangos iddyn nhw!
 
(Margot) Dangos iddyn nhw!
(0, 13) 677 Mi ydach chi gyd run fath!
(0, 13) 678 Pob un ohonach chi'n faw isa'r doman.
(Anne) Paid a sbio arno fo!
 
(Anne) Paid a sbio arno fo!
(0, 13) 680 Ddysgith hynna i ti fod yn ufudd!
(0, 13) 681 Fydda i'n cadw llygad arna ti.
(Margot) Helpa fi Anne!
 
(Anne) Gorwedd di rwan.
(0, 14) 702 Allan!
(Milwr 2) Pawb allan!
 
(Anne) Fydda i'm yn hir.
(0, 14) 706 174, 175, 176…
 
(0, 14) 708 182…182?
(Anne) Ia.
 
(Anne) Ia.
(0, 14) 710 183…183
(Anne) Ia.
 
(Anne) Plis Margot?
(0, 14) 738 Allan!
(0, 14) 739 Rwan!
(Anne) Ma hi'n sal.
 
(Anne) Ellith hi'm symud.
(0, 14) 742 Dos di allan ta!
(Anne) Y'n chwaer i di hi!
 
(Anne) Mi a'i nol rhywun i'n helpu i!
(0, 14) 745 Gad hi!
(Anne) Fydd hi'n iawn yn munud.
 
(Anne) Ddim fatha'r lleill!
(0, 14) 750 Allan!
(Anne) Sbiwch!
 
(Anne) Ma hi'n styrio!
(0, 14) 755 Allan!
(Anne) Ma hi'n weithwraig dda!
 
(Anne) Ma hi'n weithwraig dda!
(0, 14) 757 Rwan!
 
(0, 14) 760 Un arall di mynd!
(Milwr 2) Swn i'm cyffwrdd yn hwnna.
 
(Anne) Gadwch i mi neud.
(0, 14) 764 Rel madam fach dwyt?
(0, 14) 765 Isio ffor dy hun hefo bob dim!
 
(0, 15) 770 Ma raid i ti symud yn gynt!
(0, 15) 771 Cychwyn eto!
(Milwr 2) Nol lle'r oeddan nhw!
 
(Milwr 2) Tyd!
(0, 15) 774 Elli di gario mwy na hynna!
(Milwr 2) Ddim digon da!
 
(Milwr 2) Dos a nhw'n ol!
(0, 15) 778 Ar dy draed!
(0, 15) 779 Cwyd ar dy draed!
(0, 15) 780 Paid a sbio arna i!
(0, 15) 781 Dwyt ti ddim i sbio i'n llygid i!
(0, 15) 782 Ti'n y nghlywad i?
(0, 15) 783 Cwyd!