Anne Frank

Ciw-restr ar gyfer Peter

(Llais) %Mehefin 12, 1942.
 
(Margot) Charades?
(0, 3) 58 Ia!
(Margot) Anne?
 
(Anne) Dwi'n brysur.
(0, 3) 61 Plis Anne!
(Anne) Ma raid i mi orffen hwn.
 
(Margot) Dos di gynta!
(0, 3) 65 Di o'm run fath mond hefo dau.
(Margot) {Cyfeirio at PETER.}
 
(Margot) Geith Peter ddewis!
(0, 3) 73 Mots gynna i!
(0, 3) 74 Be sa ora gen ti Anne?
(Anne) Dyfalu cymyla!
 
(Margot) Pawb yn hapus hefo hynny?
(0, 3) 77 Mond bo fi ddim yn gorfod mynd gynta!
(Margot) Debyg i be di hwna ta?
 
(Anne) Ma'n amlwg!
(0, 3) 81 Ddim i mi!
(Margot) Crycha dy lygid a mi weli di'n syth!
 
(Anne) Sbia'n iawn!
(0, 3) 84 Na!
(Anne) Wel!
 
(Anne) Ers pryd ma gin gacan drwyn?
(0, 3) 90 Wela i!
(0, 3) 91 Donyt di!
(Margot) Da iawn Peter!
 
(Margot) Da iawn Peter!
(0, 3) 93 A jam yn i chanol hi!
(Margot) A siwgwr yn dew drosti!
 
(Margot) A siwgwr yn dew drosti!
(0, 3) 95 Ag wrth ti gymryd dy damad cynta ma'r jam yn diferu lawr dy en di!
(Margot) Ond ti'n i ddal o mewn digon o bryd ac yn llyfu dy fys a mwynhau pob diferyn!
 
(Anne) Sa ti'n rhoi tamad ohoni i mi?
(0, 3) 98 Tamad o be?
(Anne) O'r donyt de!
 
(Anne) O'r donyt de!
(0, 3) 100 Ond sgynna i'm un!
(Anne) Tasa gin ti un?
 
(Anne) Tasa gin ti un?
(0, 3) 102 Swn i'n ei rhannu hi hefo pawb.
(Margot) Be am hwn ta?
 
(Anne) Ma hi'n union run fath a Boche!
(0, 3) 107 Hi?
(Anne) Hi, fo, be bynnag ydi o!
 
(Anne) Hi, fo, be bynnag ydi o!
(0, 3) 109 Sa ti'n chwara efo'r gath sa ti'n gwbod yn iawn na hogyn ydi o!
(Anne) Wyt ti'n gallu gweld?
 
(Margot) Anne!
(0, 3) 112 Ma'i organ genehedlu fo i weld yn glir!
(Margot) Tyd Anne!
 
(Anne) Elli di ddangos i 'organ genhedlu' o i mi?
(0, 3) 116 Tyd i fyny i'r atig heno a mi gei di weld!
(Anne) Dyna ti'n ddeud ia?
 
(Anne) 'Organ genhedlu'?
(0, 3) 119 Wel…ia!
(Anne) Achos 'fagina' fydda i'n galw un merch!
 
(Margot) Mi a'i ddeud dy fod ti ar dy ffor!
(0, 3) 123 Mi o'n i'n gwbod hynny'n barod!
(Anne) Oes na air arall wyt ti'n ddefnyddio am organ genhedlu dyn?
 
(Anne) Oes na air arall wyt ti'n ddefnyddio am organ genhedlu dyn?
(0, 3) 125 Mmmm….
(Anne) Ti'n gwbod ─ gair go iawn!
 
(Anne) Ddim un babiaidd!
(0, 3) 128 Wel…
(Anne) Achos sut da ni fod i ddysgu'r geiria ma pan does na neb yn egluro'n gall!
 
(Anne) Does na neb yn son am y pethau wyt ti isio gwbod amdanyn nhw go iawn!
(0, 3) 131 Wrach sa well ti siarad hefo dy fam a dy dad?
(Anne) Fyddi di'n trafod petha felma hefo dy rai di?
 
(Anne) Fyddi di'n trafod petha felma hefo dy rai di?
(0, 3) 133 Pan fydda nhw isio!
(Anne) Hola nhw ta!
 
(Tad) Anne ddim yn dy boeni di gobeithio!
(0, 3) 142 Ddim o gwbwl!
(0, 3) 143 Dwi wrth y modd hefo hi…a Margot.
(Tad) Mond y'ch bod chi gyd yn ffrindiau!
 
(Tad) Mond y'ch bod chi gyd yn ffrindiau!
(0, 3) 145 Hoff iawn o'n gilydd!
(0, 3) 146 Y tri ohonan ni.
(Tad) Siwr sa well gen ti fod yng nghanol hogia run oed a ti.
 
(Tad) Siwr sa well gen ti fod yng nghanol hogia run oed a ti.
(0, 3) 148 Na!
(Tad) Chditha'n hogyn ifanc sy…bron yn ddyn.
 
(Tad) Chditha'n hogyn ifanc sy…bron yn ddyn.
(0, 3) 150 Fydda i'm yn teimlo ddim gwahanol i be o'n i.
(Tad) Na ti!
 
(Tad) Braf cael llonydd weithia dydi!
(0, 3) 154 Well gynna i fod efo rhywun.
(Tad) Ddigon ohonan ni yma cofia…i gadw cwmpeini.
 
(Tad) Ddigon ohonan ni yma cofia…i gadw cwmpeini.
(0, 3) 156 Da ni'n ffodus iawn Mr. Frank.
(Tad) Yndan y ngwas i.
 
(Tad) Yndan y ngwas i.
(0, 3) 158 Oedda chi isio wbath o fama?
(Tad) Na…ma bob dim i weld yn ei le.
 
(Tad) Na…ma bob dim i weld yn ei le.
(0, 3) 160 Dwi am fynd at y lleill os ydi hynny'n iawn gynno chi!
(Llais) %Dydd Gwener, Tachwedd 20, 1942.
 
(Margot) Cael chydig o hwyl oeddan ni!
(0, 5) 238 Wrach sa'n well mi ddod nol wedyn!
(Anne) Sa croeso ti ddod i ddawnsio efo ni.
 
(Anne) Sa croeso ti ddod i ddawnsio efo ni.
(0, 5) 240 Na.
(Anne) Dwi'n siwr sa ti'n cael gwell hwyl arni na Margot!
 
(Margot) Anne!
(0, 5) 243 Isio…
(Anne) Ia…
 
(Anne) Ia…
(0, 5) 245 Isio deud…
(0, 5) 246 Penblwydd Hapus o'n i.
(Margot) Diolch!
 
(Anne) Tyd i ista.
(0, 5) 249 Dwi di deud be o'n i isio'i ddeud rwan.
(Margot) Mi o'n i am ddod fyny i'r atig i nol coffi.
 
(Margot) Mi o'n i am ddod fyny i'r atig i nol coffi.
(0, 5) 251 Ddo'i a fo lawr i ti.
(Anne) Ia!
 
(Anne) Dos di.
(0, 5) 266 Dwi di bod isio cael gair efo ti.
(Anne) Do?
 
(Anne) Do?
(0, 5) 268 Isio dy help di…
(Anne) Efo be?
 
(Anne) Efo be?
(0, 5) 270 Wel…
(Anne) Paid a bod yn swil!
 
(Anne) Paid a bod yn swil!
(0, 5) 272 Efo'n… Ffrangeg!
(Anne) {Siomedig.}
 
(Anne) O!
(0, 5) 275 Meddwl o'n… y bysa ti'n gallu dod i fyny… ata i i'r atig i helpu.
(Anne) Oddat ti wir!
 
(Anne) Oddat ti wir!
(0, 5) 277 'Si tu veut?'
(Anne) {Yn cau ei llygaid.}
 
(Anne) Duda wbath arall!
(0, 5) 282 Je m'appelle Peter!
(Anne) Oui!
 
(Anne) Oui!
(0, 5) 284 J'ai seize ans!
(Anne) Oui!
 
(Anne) Oui!
(0, 5) 286 J'habite a …
(Anne) Dos rwan.
 
(Anne) Dos rwan.
(0, 5) 288 Anne?
(Llais) %Dydd Gwener, Hydref 29 1943.
 
(Llais) %Fydda i ddim hyd yn oed yn trafferthu ateb bellach, dim ond gorwedd ar y gwely a chysgu er mwyn i'r amser, y tawelwch a'r arswyd dychrynllyd fynd heibio'n gynt, gan nad oes modd eu dileu.
(0, 6) 297 Gwena!
(Anne) Mi ydw i!
 
(Anne) Mi ydw i!
(0, 6) 299 Nagwyt!
(Anne) Ddyliwn i fynd nol lawr.
 
(Anne) Ddyliwn i fynd nol lawr.
(0, 6) 301 Ddim eto!
(Anne) Be am dy fam?
 
(Anne) Be am dy fam?
(0, 6) 303 Ffysian ma hi.
(Anne) Pam wyt ti isio mi wenu o hyd?
 
(Anne) Pam wyt ti isio mi wenu o hyd?
(0, 6) 305 Ma'n y ngneud i'n hapus.
(Anne) Gafael yn dynn.
 
(Anne) Gafael yn dynn.
(0, 6) 307 Del wyt ti!
(Anne) Nachdw!
 
(Anne) Nachdw!
(0, 6) 309 Wyt Anne!
(Anne) Be sy'n ddel amdana i?
 
(Anne) Be sy'n ddel amdana i?
(0, 6) 311 Bob dim!
(Anne) Y'n llygid i?
 
(Anne) Y'n llygid i?
(0, 6) 313 Ia!
(Anne) Be arall?
 
(Anne) Be arall?
(0, 6) 315 Dy ddimpyls di!
(Anne) Does gynna i'm dimpyls!
 
(Anne) Does gynna i'm dimpyls!
(0, 6) 317 Oes wrth ti wenu!
(Anne) Ma hynna'n hyll!
 
(Anne) Ma hynna'n hyll!
(0, 6) 319 Fydda i'n meddwl amdana ti bob nos.
(Anne) A finna!
 
(Anne) A finna!
(0, 6) 321 Fysa ni… efo'n gilydd… tasa ni'm yn fama?
(Anne) Cydia'n dynn!
 
(Anne) Cydia'n dynn!
(0, 6) 323 Diolch Anne.
(Llais) %Dydd Gwener, Rhagfyr 24 1943.
 
(Tad) Y Fuhrer i hun!
(0, 9) 485 Mae o dal yn fyw!
(Anne) Ond o leia ma na rywun di trio'i ladd o!
 
(Margot) Mond criw bach gymrith hi i droi'r rhyfel ma ar ei ben!
(0, 9) 490 Ma pobol dal i gredu ma Hitler sy'n iawn.
(Anne) Ma hi di cymryd mwy na un person i ddod mor agos a hyn at i ladd o.
 
(Anne) Be nown ni am feics?
(0, 9) 497 Anne!