Yr Arth

Ciw-restr ar gyfer Popofa

(Lwca) Thâl hyn ddim o gwbwl, mistras.
 
(Lwca) Wel, wir, pan gysidra i, fuoch chi ddim allan o'r tŷ ers blwyddyn agos iawn.
(1, 0) 10 'Ta i byth allan ohono fo, be di'r iws?
(1, 0) 11 Mae 'mywyd i wedi darfod.
(1, 0) 12 Mae o yn y bedd, a finnau wedi nghladdu rhwng muriau'r tŷ ma.
(1, 0) 13 'R ydan ni wedi marw ein dau, y naill fel y llall.
(Lwca) Rŵan, rŵan, mi fyddai'n well gin i beidio clywed geiriau fel'na.
 
(1, 0) 33 Peidiwch byth â gadael imi glywed geiriau fel yna eto.
(1, 0) 34 Mae bywyd wedi colli ei holl werth imi wedi imi golli Nicolai Michaelofìts; 'r wy'n edrych fel pe tawn i'n fyw, ond tydw i ddim, dim o'r fath beth!
(1, 0) 35 'R w i wedi cymyd fy llw i wisgo du hyd fy medd ac i beidio byth â mynd allan i'r byd eto, glywch chi?
(1, 0) 36 Bydded i'w gysgod yn y byd arall weld fel 'r ydw i yn ei garu o.
(1, 0) 37 Wrth gwrs, mi wn i'n ddigon da, ac mi wyddoch chithau hefyd, fydda fo ddim yn fy nhrin i'n deg bob amser, chwaith, ac mi fyddai weithiau'n ddigon ciaidd hefyd, ac yn anffyddlon imi o dro i dro; ond mi fydda i yn ffyddlon iddo fo hyd fy medd, iddo gael gweld sut y medra |i| garu.
(1, 0) 38 Er ei fod tu draw i'r bedd mi geith weld y medra i garu fel yr o'n yn ei garu cyn iddo farw.
(Lwca) Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau.
 
(Lwca) Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau.
(1, 0) 40 Ow, ow!
 
(1, 0) 42 Ow, ow!
(Lwca) Mistras bach, be sy'n bod?
 
(Lwca) Nefoedd fawr!
(1, 0) 45 'R oedd o mor ffond o Tobi!
(1, 0) 46 Hefo fo y byddai fo yn mynd i weld y Cortsiagins a'r Flasoffs.
(1, 0) 47 Ac mi fyddai'n dreifio mor ddel, a'i law yn dal y |reins| fel angel o'r nefoedd!
(1, 0) 48 Ydach chi'n cofio?
(1, 0) 49 Tobi annwyl!
(1, 0) 50 Rhowch ffiolad o geirch dros ben iddo heddiw.
(Lwca) O'r gora, mym.
 
(1, 0) 54 Pwy sy' na?
(1, 0) 55 Deudwch na fedra i weld neb!
(Lwca) Gna, mym.
 
(1, 0) 59 'R wyt ti'n gweld, Nicolai, fel y galla'i garu a maddau.
 
(1, 0) 61 Ond amdanat ti, oes arnat ti ddim cwilydd, fy mhwt clws i?
(1, 0) 62 Fy nhwyllo i, cadw reiat yn y tŷ, a'm gadael i ar ben fy hun am wythnosau!
(Lwca) {Yn dyfod i mewn yn ffwdanus.}
 
(Lwca) Mistras, mae'na rywun yna isio'ch gweld chi.
(1, 0) 65 Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr?
(Lwca) Do, mi ddeudais hynny, ond chymith o mo'i apad.
 
(Lwca) Mae o'n deud fod gynno fo neges bwysig!
(1, 0) 68 Cheith neb fy |ngweld i|!
(Lwca) Dyna ddeudais i, ond mae o fel y coblyn ei hun... yn rhegi fel cath ac yn gwthio ei hun i mewn ar draws popeth, mae o yn y dining-room.
 
(1, 0) 71 O'r gorau, o'r gorau, gadwch iddo ddŵad yma... y creadur difanars!
 
(1, 0) 73 Ond tydi pobol yn ddiflas?
(Smirnoff) {Ar y ffordd i mewn, wrth Lwca.}
 
(1, 0) 82 Be fynnwch chi?
(Smirnoff) Aeth eich diweddar ŵr... yr oedd yn anrhydedd gennyf ei adnabod... o'r byd yma, heb dalu ei ddyled imi, chwech igian o bunnoedd.
 
(Smirnoff) Rhaid imi dalu llog i'r banc yfory, ac felly, Madam, rhaid imi gael yr arian gynnoch chi heddiw.
(1, 0) 85 Chwech igian!
(1, 0) 86 Ond sut y gallai 'ngŵr i fod mewn cymint o ddyled i chi?
(Smirnoff) Mi werthais i geirch iddo fo.
 
(1, 0) 89 Lwca, peidiwch ag anghofio rhoi mwy o geirch nag arfer i Tobi!
 
(1, 0) 91 Os oedd ar Nicolai Michaelofits arian i chi, mi cewch nhw, wrth gwrs.
(1, 0) 92 Ond maddeuwch imi, 'd oes gin i ddim arian parod heddiw.
(1, 0) 93 Mi ddaw fy stiward yn ôl o'r dre, drennydd.
(1, 0) 94 Mi ddeuda i wrtho fo am dalu'r hyn sydd ddyledus, ond hyd hynny, fedra i neud dim ichi.
(1, 0) 95 A pheth arall i chi, bu fy ngŵr farw saith mis i heddiw ac yr wyf i wedi cynhyrfu cymint, 'd ydw i ddim mewn tymer i drin arian heddiw.
(Smirnoff) 'D ydw innau ddim mewn tymer i aros, ac os na thala i'r llog yfory, mi fydd raid imi saethu fy hun, a dyna ben ar bopeth.
 
(Smirnoff) Mi werthir fy holl eiddo hefyd.
(1, 0) 98 Mi gewch eich arian drennydd.
(Smirnoff) Rhaid imi eu cael nhw heddiw, nid drennydd.
 
(Smirnoff) Rhaid imi eu cael nhw heddiw, nid drennydd.
(1, 0) 100 Mae'n ddrwg gin i, ond fedra i ddim talu i chi heddiw.
(Smirnoff) Fedra innau ddim aros tan drennydd.
 
(Smirnoff) Fedra innau ddim aros tan drennydd.
(1, 0) 102 Ond 'd oes dim help amdani, 'd oes gin i mo'r arian.
(Smirnoff) Thalwch chi ddim felly?
 
(Smirnoff) Thalwch chi ddim felly?
(1, 0) 104 Fedra i ddim.
(Smirnoff) M...m...m!
 
(Smirnoff) A dyna'ch gair ola' chi?
(1, 0) 107 Ie, 'ngair ola' i.
(Smirnoff) Y gair ola' mewn difri?
 
(Smirnoff) Y gair ola' mewn difri?
(1, 0) 109 Mewn difri.
(Smirnoff) Diolch yn fawr i chi.
 
(Smirnoff) Sut y medra i beidio gwylltio?
(1, 0) 119 Mi rois i ateb ddigon plaen i chi; pan ddaw'r stiward yn ôl o'r dre, mi gewch yr arian.
(Smirnoff) Ond atoch chi y dois i, nid at y stiward.
 
(Smirnoff) Be gebyst, maddeuwch imi am arfer y fath air, be gebyst sydd a nelof |i| â'ch stiward chi?
(1, 0) 122 Esgusodwch fi, syr, 'd ydw i ddim yn arfer clywed y fath iaith, a'r fath dôn.
(1, 0) 123 Wna i ddim gwrando arnoch chi chwaith.
(Smirnoff) Glywoch chi rytsiwn beth erioed?
 
(Smirnoff) O, mi 'dw i'n ddig, mi leiciwn falu'r byd i gyd yn bowdwr mân.
(1, 0) 200 Syr, yn f'unigrwydd nid wyf wedi arfer clywed llais neb, a fedra i ddim diodde clywed neb yn gweiddi.
(1, 0) 201 'R wyf yn erfyn arnoch adael llonydd i mi.
(Smirnoff) Talwch i mi, mi af innau i ffwrdd.
 
(Smirnoff) Talwch i mi, mi af innau i ffwrdd.
(1, 0) 203 Mi ddeudais i heb flew ar fy nhafod nad oes gin i ddim arian parod rŵan, ond cewch nhw drennydd.
(Smirnoff) Mi gefais innau yr anrhydedd o ddeud wrthoch chithau heb flew ar fy nhafod fod arna' i isio arian heddiw, nid drennydd.
 
(Smirnoff) Os na thalwch i mi heddiw, mi groga i fy hun yfory.
(1, 0) 206 Ond be fedra i wneud, os nad oes gin i arian?
(1, 0) 207 Rhyfedd, yntê?
(Smirnoff) Thalwch chi ddim heddiw felly?
 
(Smirnoff) Thalwch chi ddim heddiw felly?
(1, 0) 209 Fedra i ddim.
(Smirnoff) Felly, mi rhosa i yma nes y caf yr arian.
 
(Smirnoff) Ydach chi yn meddwl mai smalio yr ydw i?
(1, 0) 219 Syr, peidiwch â gweiddi.
(1, 0) 220 Nid stabal ydi'r tŷ ma.
(Smirnoff) Nid am stabal 'r ydw i'n sôn ond gofyn a oes rhaid imi dalu'r llog yfory ai peidio.
 
(Smirnoff) Nid am stabal 'r ydw i'n sôn ond gofyn a oes rhaid imi dalu'r llog yfory ai peidio.
(1, 0) 222 Wyddoch chi ddim sut i ymddwyn o flaen merched.
(Smirnoff) Celwydd.
 
(Smirnoff) Mi wn i'r dim sut i ymddwyn o flaen merched.
(1, 0) 225 Na, wyddoch chi ddim.
(1, 0) 226 Dyn coman ydach chi, chawsoch chi ddim addysg, wyddoch chi ddim be di be.
(1, 0) 227 Fydd neb neis yn siarad fel yna o flaen merched.
(Smirnoff) Dyma beth rhyfedd.
 
(Smirnoff) Mae dillad duon yn dygymod â chi.
(1, 0) 235 'D ydach chi ddim yn ddigri o gwbwl, ond yn bur anfoesgar.
(Smirnoff) {Yn e dynwared}
 
(Smirnoff) 'D oes yr un ohonyn nhw yn ddidwyll a ffyddlon ond hen wragedd hurt a di-lun; cynt y gwelir cath â chyrn neu fran wen na gwraig ddidwyll a ffyddlon.
(1, 0) 252 A ga i ofyn i chi yn ostyngedig: pwy yn eich barn chi sydd yn ddidwyll ac yn ffyddlon mewn cariad, nid y dynion ai e?
(Smirnoff) Ie'r dynion, mym.
 
(1, 0) 255 Y dynion yn ddidwyll a ffyddlon mewn cariad!
(1, 0) 256 Wel, dyma beth newydd!
 
(1, 0) 258 A pha hawl sydd gynnoch chi i ddeud hynna?
(1, 0) 259 Dynion yn ddidwyll a ffyddlon, wir!
(1, 0) 260 Gan i chi sôn am y peth, mi ddeuda i hyn wrthoch chi, o bawb a welais i erioed, fy ngŵr i oedd y gore o ddigon.
(1, 0) 261 'R oeddwn yn ei garu yn wyllt â'm holl galon, â'm holl einioes, fel na all neb ond geneth ifanc, ysbrydol garu.
(1, 0) 262 Rhoddais iddo fy holl ieuenctid, fy nedwyddwch, fy holl eiddo, fo oedd anadl fy einioes; 'r oeddwn yn ei addoli ar fy ngliniau fel pagan ger bron ei eilun, ac yntau yn fy nhwyllo bob munud awr; ie fo, y gorau o bawb yn y byd yn fy nhwyllo yn y modd mwyaf digwilydd.
(1, 0) 263 Wedi iddo farw mi eis i'w ddesg a chefais lond bocs o lythyrau serch.
(1, 0) 264 A phan oedd o'n fyw mi fyddai'n fy ngadael am wythnosau, yn canlyn merched eraill dan fy nhrwyn, yn fy mradychu i, yn sgwandro fy arian i, ac yn chwerthin am ben fy nheimladau i, Eto, serch hynny, 'r oeddwn yn ei garu ac yn para'n ffyddlon iddo; ac er ei fod wedi marw, 'r wy'n dal byth yn ffyddlon iddo.
(1, 0) 265 'R wyf wedi claddu fy hun rhwng muriau'r tŷ yma ac mi wisgaf ddillad galar hyd fy medd.
(Smirnoff) {Gan chwerthin yn wawdlyd}
 
(1, 0) 275 Be?
(1, 0) 276 Sut y medrwch chi ddeud peth fel'na wrtha i?
(Smirnoff) Claddu ei hun yn fyw, ond ddaru hi ddim anghofio rhoi powdwr ar ei gwymad!
 
(Smirnoff) Claddu ei hun yn fyw, ond ddaru hi ddim anghofio rhoi powdwr ar ei gwymad!
(1, 0) 278 Sut y medrwch siarad fel yna wrtha i?
(Smirnoff) Peidiwch â gweiddi, os gwelwch yn dda, nid eich stiward chi ydw i.
 
(Smirnoff) Byddwch cystal â pheidio gweiddi.
(1, 0) 283 Nid fi sy'n gweiddi; chi sy'n arthio.
(1, 0) 284 Gadwch lonydd i mi.
(Smirnoff) Talwch chi'r arian, mi â inna i ffwrdd.
 
(Smirnoff) Talwch chi'r arian, mi â inna i ffwrdd.
(1, 0) 286 Thala i mo'r arian.
(Smirnoff) O, gnewch, mi wnewch, mym.
 
(Smirnoff) O, gnewch, mi wnewch, mym.
(1, 0) 288 Chewch chi'r un ddimai goch, tae hynny ddim ond i'ch sbeitio chi.
(1, 0) 289 Waeth i chi adael llonydd i mi.
(Smirnoff) 'D oes gin i mo'r hyfrydwch o fod yn ŵr i chi nac yn ddarpar-ŵr ichi ychwaith; felly, peidiwch â chodi'ch cloch a chadw reiat, os gwelwch chi'n dda.
 
(1, 0) 294 Ydach chi'n eiste'?
(Smirnoff) Ydwyf, yn eiste' i lawr.
 
(Smirnoff) Ydwyf, yn eiste' i lawr.
(1, 0) 296 'R wy'n gofyn i chi fynd.
(Smirnoff) Rhowch yr arian i mi, 'ta.
 
(Smirnoff) O, 'r ydw i'n ddig.
(1, 0) 300 Fynna i ddim siarad â phobol mor ddigwilydd.
(1, 0) 301 Byddwch cystal â mynd o'r tŷ ma.
 
(1, 0) 303 Ydach chi ddim am fynd?
(Smirnoff) Nag ydw i.
 
(Smirnoff) Nag ydw i.
(1, 0) 305 Nag ydach?
(Smirnoff) Nag ydw i.
 
(Smirnoff) Nag ydw i.
(1, 0) 307 O'r gora^ta.
 
(1, 0) 310 Lwca, ewch â'r gŵr bonheddig yma allan.
(Lwca) {Yn mynd af SMiRNOFF}
 
(Lwca) Fedra i ddim cael fy ngwynt.
(1, 0) 323 Lle mae Dasia?
 
(1, 0) 325 Dasia! Dasia! Pelagea! Dasia!
 
(Lwca) Dŵr!
(1, 0) 331 Byddwch cystal â mynd i ffwrdd.
(Smirnoff) Rhaid i chi ofyn yn neisiach na hynny.
 
(1, 0) 334 Y llabwst gwladaidd!
(1, 0) 335 Yr hen arth i chi!
(1, 0) 336 Yr anghenfil brwnt!
(Smirnoff) Sut?
 
(Smirnoff) Be ddeudsoch chi?
(1, 0) 339 Deud mai arth ac anghenfil ydach chi.
(Smirnoff) Sut y meiddiwch f'insyltio i fel'na, os gwelwch yn dda?
 
(Smirnoff) Sut y meiddiwch f'insyltio i fel'na, os gwelwch yn dda?
(1, 0) 341 Os ydw i yn eich insyltio chi, beth am hynny?
(1, 0) 342 Ydach chi'n meddwl fod arna' i eich ofn chi?
(Smirnoff) Ydach chi'n meddwl y gallwch insyltio pobol heb i neb daro'n ôl am eich bod yn freuddwyd y bardd?
 
(Smirnoff) Ie, i saethu'n gilydd.
(1, 0) 348 Os oes gynnoch chi ddwrn fel haearn a gwddw fel tarw, peidiwch â meddwl fod arna' i eich ofn chi.
(1, 0) 349 Yr hen fwli!
(Smirnoff) Dyna i chi sialens ta.
 
(1, 0) 353 le, arthiwch... yr hen arth, arth, arth!
(Smirnoff) Mae'n bryd i mi fwrw heibio hen ofergoelion gwirion, megis y dyb mai dyn yn unig a ddylai dalu am insyltio ei gymydog.
 
(Smirnoff) "I'r maes â ni".
(1, 0) 358 O, duel, felly wir.
(1, 0) 359 Lediwch y ffordd, 'ta.
(Smirnoff) Y munud ma.
 
(Smirnoff) Y munud ma.
(1, 0) 361 Y munud ma.
(1, 0) 362 'R oedd gan fy ngŵr ddau bistol; mi â i nhôl nhw rŵan.
 
(1, 0) 364 Mi fydd yn nefoedd i mi rhoi bwled yn eich talcen pres chi.
(1, 0) 365 A'ch cipio chi!
 
(Smirnoff) Mae hon yn ddigon o ryfeddod.
(1, 0) 396 Dyma'r ddau bistol.
(1, 0) 397 Ond cyn i ni fynd ati hi, dangoswch i mi sut i saethu, os gwelwch chi yn dda.
(1, 0) 398 Fu 'na rioed bistol yn fy llaw i.
(Lwca) Arglwydd annwyl, gwared ni a bydd drugarog!
 
(Smirnoff) Gwna hon fi'n galon i gyd.
(1, 0) 410 Fel hyn?
(Smirnoff) Ie, i'r dim...
 
(Smirnoff) Triwch gadw'ch llaw rhag crynu.
(1, 0) 415 O'r gorau, well inni beidio saethu yn y tŷ, awn i'r ardd.
(Smirnoff) Ie, ond cofiwch mai saethu i'r awyr wna í.
 
(Smirnoff) Am fod... am fod... ond fy musnes i ydi hynny.
(1, 0) 422 Wedi troi'n llwfrgi, ai e?
(1, 0) 423 Waeth i chi heb â strancio, mae'n rhy hwyr i hynny rŵan.
(1, 0) 424 Dewch ar fy ôl i, cha i ddim munud o dawelwch nes y bydda i wedi gyrru bwled trwy'ch hen ben atgas chi.
(1, 0) 425 Wedi troi'n llwfrgi, ai e?
(Smirnoff) Ie, yn llwfrgi.
 
(Smirnoff) Ie, yn llwfrgi.
(1, 0) 427 Celwydd noeth!
(1, 0) 428 Pam na fynnwch chi gwffio?
(Smirnoff) Am... am... wel, am fy mod yn eich licio chi.
 
(1, 0) 431 Yn fy licio i!
(1, 0) 432 Pa hawl sy' gynno fo i ddeud ei fod yn fy licio i?
(1, 0) 433 Y dyn ei hun!
 
(1, 0) 435 Ewch trwyddo fo.
(1, 0) 436 Welwch chi'r drws na?
(Smirnoff) {Yn rhoi'r ryfolfar i lawr, yn codi ei gap ac yn cychwyn allan; yn sefyll wrth y drws.}
 
(Smirnoff) Mi 'dwi bron... yn eich caru chi.
(1, 0) 448 Ewch i ffwrdd.
(1, 0) 449 Mi 'dw i eich casâu chi.
(Smirnoff) Rargian fawr, y fath wraig!
 
(Smirnoff) Mae hi wedi darfod amdana i; dyma ben ar bopeth, wedi fy nal fel llygoden mewn trap!
(1, 0) 453 I ffwrdd â chi, neu mi saetha i.
(Smirnoff) Saethwch 'ta.
 
(1, 0) 461 Na, saethu.
(1, 0) 462 I'r maes...
(Smirnoff) 'R ydw i wedi gwallgofi... fedra i ddallt dim... dŵr!
 
(1, 0) 465 I'r maes!
(Smirnoff) 'R w i wedi gwallgofi, yn caru fel hogyn, fel llo gwirion.
 
(Smirnoff) {Gyfyd ac â yn frysiog tua'r drws.}
(1, 0) 478 Rhoswch!
(Smirnoff) {Ym aros}
 
(Smirnoff) Y?
(1, 0) 481 O, dim.
(1, 0) 482 Ewch i ffwrdd... na, rhoswch!...
(1, 0) 483 Na, na, i ffwrdd â chi!
(1, 0) 484 Ewch i ffwrdd!
(1, 0) 485 'R wy'n eich casâu chi.
(1, 0) 486 Taech chi'n gwybod mor ddig ydw i!
(1, 0) 487 O, mor ddig, mor ddig!
 
(1, 0) 489 Mae mysedd i wedi cyffio ar ôl gafael yn yr hen beth na.
 
(1, 0) 491 Pam 'r ydych chi'n sefyll yn y fan yna?
(1, 0) 492 Ewch i ffwrdd!
(Smirnoff) Da boch chi 'ta.
 
(Smirnoff) Da boch chi 'ta.
(1, 0) 494 Ie, ie, ewch i ffwrdd.
 
(1, 0) 496 Lle 'dach chi'n mynd?
(1, 0) 497 Rhoswch!...
(1, 0) 498 O ran hynny, mi ellwch fynd.
(1, 0) 499 O, 'r ydw i'n ddig!
(1, 0) 500 Peidiwch â dŵad yn agos ata i.
(Smirnoff) {Yn mynd ati}
 
(Smirnoff) .. Faddeua i byth i mi fy hun am hyn!
(1, 0) 510 Ewch i ffwrdd.
(1, 0) 511 Tynnwch eich breichiau.
(1, 0) 512 'R ydw i'n eich casâu chi.
(1, 0) 513 I'r maes!
 
(1, 0) 520 Lwca, deudwch wrthan nhw yn y stabal am beidio rhoi ceirch i Tobi rŵan.