Yr Hen Deiliwr

Ciw-restr ar gyfer Dafi

(Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un.
 
(Nansi) {Yn crio.}
(1, 0) 120 Na chei di, Nansi, na'r plant ddim starvo tra bo Dafi'r Teiliwr yn gallu iwso nodwydd.
(1, 0) 121 Ar dy ffordd adre galw yn ein tŷ ni, a gwêd wrth Marged am roi cwded o flawd i ti, a phishyn o ham y mochyn coch.
(Nansi) Diolch yn fowr, Dafi; diolch yn fowr.
 
(Nansi) {Yn mynd allan.}
(1, 0) 124 Mae 'ngwâd i'n berwi wrth ych clwed chi, Mr. Williams, yn siarad fel 'na.
(1, 0) 125 Mi allem feddwl fod lladd gwningen yn fwy o bechod na lladd dyn neu blentyn.
(1, 0) 126 Mae'r ffermwyrs 'ma ag ofan siarad o'ch blaen chi.
(1, 0) 127 Mi wyddan mai notis ga nhw, ond diolch i'r nefoedd, 'rwyf i yn byw ar dir fy hunan, a does ofan na sgweier nac arglwydd arna i.
(1, 0) 128 Odi chi'n meddwl fod y Bod mowr wedi trefnu yr hen fyd 'ma i'r cyfoethog yn unig?
(1, 0) 129 Na, na, mi wela i bethe gwell yn dod; fe fydd y gweithiwr a'r tlawd, fel y gwna addysg ledaenu, yn dechreu gweld mai caethion ydynt, yn rhwym, gorff ac enaid, dan law dynion fel chi, a Duw'ch helpo chi a'ch sort y dyddiau hynny.
(1, 0) 130 Mi ellwch ddychrynu Nansi Jac Potcher a ffermwyrs Llansilio, ond mae Dafi'r teiliwr yn golygu bod yn ddyn rhydd, ac yn golygu pregethu rhyddid hefyd.
(Scweier) Dyma hi o'r diwedd.
 
(Tomos) Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth.
(1, 0) 164 Hwre, bendigedig!