Yr Hen Deiliwr

Ciw-restr ar gyfer Scweier

(Sioni) Brau ac ansicr ydyw yr hen fywyd 'ma, ac i fynwent Llansilio y daw y trigolion o un i un.
 
(John) Dyna fel ma'r arian yn mynd, coste, coste, o hyd.
(1, 0) 47 Llai o sŵn, John; ma tafod ti rhy hir.
(1, 0) 48 Cerwch mlân, Jenkins.
(Ffeirad) "Penderfynwyd rhoi to newydd ar yr Eglwys o lechau Carnarfon, ac fod Mr.
 
(Ffeirad) Penderfynwyd fod Nansi Jac Potcher i ddod o flaen y Festri heno."
(1, 0) 54 Very good, very good.
(1, 0) 55 A fi'n cynnyg 'nawr, Mr. Chairman, fod ni'n câl report John a Dafi am y ffordd.
(1, 0) 56 Well i ti, Dafi, siarad, mi fydd John ding-dong, ding-dong drw'r nos yn gweyd 'i stori, a ma ladi yn disgwyl fi catre i cinio.
(Ffeirad) Eitha reit, Mr. Williams.
 
(Dafydd) Ma John a finne o'r farn unfrydol mai dyna'r ffordd rata, a dyna'r prif beth wedi'r cwbwl.
(1, 0) 64 Very good, Dafydd, a chi'n gweyd y gwir bob gair.
(1, 0) 65 Rown i ar cefen y cel glâs mas yn hela, ac wrth croesi yr hen ffordd y jafol 'na mi a'th troed y cel bach i hen twll, a finne tros i ben e' i'r mwt, nes o'dd cot fi'n plastar, ac wedi spwylo altogether.
 
(1, 0) 67 Helo, Siaci Felin, be sy arnat ti, gwêd?
(Siaci) O, mishtir bach, rwy' wedi gweld pethe rhyfedd heno.
 
(Siaci) Alle nhw ddim bod yn mynd i'r Felin, waeth chroesa nhw ddim dŵr, fel y gwyddoch.
(1, 0) 77 A fi'n synnu atat ti, Siaci, yn dod 'ma i weyd hen stori baganaidd fel 'na.
(1, 0) 78 Pam na chi, Jenkins, Ffeirad, peidio pregethu yn erbyn hen trash fel'na?
(1, 0) 79 Cŵn bendith y mamau, wir, digon tebyg mai haid o llygod ffrenig welest ti, ar 'i ffordd i whilio ydlan newy'.
(1, 0) 80 Os o'nhw'n mynd i'r Plâs, mi ro'i y cipar, a'r fferets, a'r tarriers ar 'u hol nhw, a mi 'na i |short work| o'r scamps.
(Ffeirad) You must understand, Mr. Williams, that these country people live very close to nature and its mysteries, which are closely allied to the supernatural.
 
(Ffeirad) Than are dreamt of in your philosophy."
(1, 0) 86 Jolly rot, I say.
(1, 0) 87 You are paid to knock this nonsense out of them, and see that you do it.
(Ffeirad) Rhaid mynd ymlaen â'r fusnes ar ol y digression yna.
 
(Nansi) Ond 'dyw Jac ddim wedi bod yn potchan eriod, nag yw, wirione i.
(1, 0) 106 O'dd Jac ddim yn potcher, Nansi, a'r bobol yn gweyd celwy ie.
(1, 0) 107 Wen i wedi specto 'rhen Jac os llawer dy' a fi a'r cipar yn 'i watcho fe, y scamp, a d'odd dim ishe gwell evidens na ges i.
(1, 0) 108 A fi yn paso tŷ ti, Nansi, un diwarnod, a 'ma fi yn dachre smelo, smelo.
(1, 0) 109 Ma cawl gweningen yn tŷ Nansi, medde fi.
(Nansi) Cawl gweningen, syr, phrofes i ddim cawl gweningen yn 'y mywyd.
 
(Nansi) Ie, wirione fach annwl.
(1, 0) 113 Paid ti bod mor smart, Nansi.
(1, 0) 114 Ro'dd Carlo bach gyda fi, a ma' Carlo bach yn dachre smelo, a 'ma fe yn mynd miwn i gardd ti, Nansi, a 'ma fe'n dod 'nol â asgwrn gweningen yn 'i ben e'.
(1, 0) 115 A ma fe'n sefyll o mlan i ac yn edrych arna i, ac fel yn gweyd, Mistir, ma' fi wedi dala Jac Potcher o'r diwedd.
(1, 0) 116 Ie, Nansi, hen dyn drwg yw Jac, a hen potcher mowr hefyd, a fi'n falch fod e' yn y jâl.
(Nansi) O, syr, peidiwch bod mor galon galed; ma'r plant a finne heb fwyd yn y tŷ, ac heb dân ar y tywydd oer 'ma.
 
(Dafi) Mi ellwch ddychrynu Nansi Jac Potcher a ffermwyrs Llansilio, ond mae Dafi'r teiliwr yn golygu bod yn ddyn rhydd, ac yn golygu pregethu rhyddid hefyd.
(1, 0) 131 Dyma hi o'r diwedd.
(1, 0) 132 A fi a nhad a nhacu wedi tendo Festri Llansilio am ugeine o flynydde, a dyma fi, Scweier y plwy, yn gorffod grondo ar insults fel hyn 'da hen teilwr.
(1, 0) 133 Dyma be sy'n bod, Jenkins, Ffeirad, o câl hen deilwr i ddod i cymysgu â ffarmwyrs respectablyn y Festri.
(1, 0) 134 A fi dim yn aros rhagor, a fi'n mynd catre at y ladi, a cofia di, Dafi teilwr, cei di dim gwinio stitch mwy i'r Plâs, a ma ishe dillad newy' ar y cotchman a'r bwtler 'nawr.
(1, 0) 135 A fi'n mynd.
(Ffeirad) Dear me, Mr. Williams, rhaid i chi basio heibio i Dafi.
 
(Ffeirad) Come, Mr. Williams, sit down.
(1, 0) 142 Na, na, 'ma fi'n mynd.
 
(Dafydd) Mi shifftith â'r ddou leia wedyn gyda thipyn o help cymdogion.
(1, 0) 158 Dyma hi o'r diwedd.
(1, 0) 159 Mae'r byd ar ben; mae'r byd ar ben!
(1, 0) 160 Twm Cotchman, dere mlaen, tyn dy hat lawr, a gwêd wrth y Festri be' sy wedi hapno mewn plwy respectabl fel Llansilio.
(1, 0) 161 Tyn dy hat lawr a paid sefyll fel post fan 'na.
(1, 0) 162 Gwêd dy stori.
(Tomos) Ma'r si ar lêd, syr, fod Beca a'i merched ar garlam wyllt drwy y gymdogaeth.
 
(Dafi) Hwre, bendigedig!
(1, 0) 165 Dyna result dy hen tafod ti, Dafi teilwr, a fi'n gweyd yn blaen os clywa i fod un o tenants y Plâs yn y busnes hyn, "Notis to quit" fydd hi at once.
(1, 0) 166 Cer ymlaen â dy stori, Twm, yn lle sefyll fel mwlsin fan 'na.
(Tomos) 'Rodd y cipar a finne yn câl bob o beint yn Tafarn Spite heno, pan ddaeth gwas Hafod Isa miwn gan waeddi yn wyllt tros y lle fod Beca a'i merched ar gefen ceffyle ar garlam wyllt drwy y lle, eu bod nhw wedi torri gât New Inn, ac eu bod ar eu ffordd i dorri gât Drefach; eu bod wedi gyrru i dŷ Salmon y Cybydd a'i dynnu o'i wely, a bwgwth llosgi ei helem wenith os na addewai roi help i bobol dlawd y plwy.
 
(Tomos) Yna fe aethant—
(1, 0) 172 Dyna ddigon, dyna ddigon, mae'r byd ar ben.
(1, 0) 173 Mi fyddan yn dod i'r Plas nesa a hala ofn ar ladi, a llosgi y tai, a lladd y pheasants a'r gweningod, ond mi hala i yn straight at y Government i gal y soldiers lawr, a mi nawn cwnstebli newy'.
(1, 0) 174 A cofia di, Dafi teilwr, os clwa i dy fod ti yn torri y cyfreth mi cei di summons yn y fan.
(1, 0) 175 Mi dy ddysga i di i weyd hwre am fod Beca a'r set 'na yn gneud drwg.
(1, 0) 176 Ac os cei di dau neu dri diwarnod yn y stocs, falle na fydd dy hen dafod ti mor hir.
(1, 0) 177 Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli.