Buchedd Garmon

Ciw-restr ar gyfer Illtud

(Hlin) Y RHAN GYNTAF
 
(Hlin2) AUXERRE, 429 A.D.
(1, 0) 3 |Sursum corda|, fy mrawd Paulinus.
(Paulinus) |Habeo ad Dominum|. Nid fy nghalon sy'n drom,
 
(Paulinus) Ni bu gan bechadur draed trymach.
(1, 0) 7 Dyma ninnau drwy borth Auxerre,
(1, 0) 8 A'r teithio blinderus dros fôr a thros diroedd ar ben.
(Paulinus) I Dduw y bo'r diolch;
 
(Paulinus) Mae'r cyrn yn gori ar fy nhraed.
(1, 0) 11 Ai gardd yw pob dinas yng Ngâl?
(1, 0) 12 Edrych y llannau hyn, a'r gwinwydd yn dringo'r llethrau
(1, 0) 13 O'r afon hyd at fur y fynachlog,
(1, 0) 14 Dirion gyfannedd Duw.
(Paulinus) Nid oes neb ar yr heol, a gweigion yw'r gwinllannoedd.
 
(Paulinus) Neu wledd, a dynnodd y trefwyr i neuadd neu eglwys?
(1, 0) 19 Arhoswn. Wele lidiart y clas.
(Paulinus) A drws y fynachlog.
 
(Paulinus) Bydd tynged gwlad y Brythoniaid yn ein haros ni yma.
(1, 0) 30 Ond pam y mae'r llwch yn llonydd a'r heolydd yn ddistaw?
(1, 0) 31 'Rwy'n ofni'r distawrwydd.
(Paulinus) Gwrando.
 
(Paulinus) A adweini di'r llais?
(1, 0) 37 Clywais gân esgob, sy newydd ei dywys i'w orsedd,
(1, 0) 38 Dair gwaith ar ei ddeulin ger uchel allor Crist
(1, 0) 39 Yn cyfarch y gwŷr a'i cysegrodd.
(Paulinus) A'r funud hon rhoir iddo gusan tangnefedd
 
(Paulinus) Trefnwyd awr dda inni ddyfod.
(1, 0) 44 Mihangel, y santaidd archangel, sy â'i gleddyf tros Gymru.
(1, 0) 45 Dacw sŵn traed yn dyfod at y drws;
(1, 0) 46 Mae'r bar mawr yn symud o'i fodrwy;
(1, 0) 47 Mae'r ddôr yn agor.
(Porthor) |Dominus vobiscum|.
 
(Y Tri) |Pax tecum|.
(1, 0) 62 Gynnau, pan safem yma yn heol amddifad y ddinas,
(1, 0) 63 Clywsom o allor yr eglwys gân un newydd eneiniog
(1, 0) 64 Yn deisyf am hir flynyddoedd i abadau Crist.
(Porthor) I Dduw y bo'r clod: heddiw'r bore
 
(Paulinus) Yn ôl dy air.
(1, 0) 225 I Dduw y bo'r diolch.