Yr Orffiws

Ciw-restr ar gyfer Blodwen

(Catrin) O wel, dyna hwnna drosodd.
 
(Huw) Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James?
(1, 1) 154 Oeddech chi'n sôn am Doctor James rwan, Nhad?
(Huw) Oeddwn Blodwen, pam?
 
(Huw) Oeddwn Blodwen, pam?
(1, 1) 156 Dyna i chi ryfedd, a finna'n siarad efo fo ryw chwarter awr yn ôl!
(Huw) O?
 
(Huw) O?
(1, 1) 158 Newydd fod yn gweld Uncle Enoc medda fo.
(Huw a Catrin) Be!
 
(Huw a Catrin) {Huw yn codi ar ei draed.}
(1, 1) 162 Na, dydw i ddim yn meddwl.
 
(1, 1) 166 Hm?
(Huw) Lle mae dy feddwl di dwad?
 
(Huw) Lle mae dy feddwl di dwad?
(1, 1) 168 O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James.
(Catrin) Ei farn o ar be?
 
(Catrin) Ei farn o ar be?
(1, 1) 170 Y "Sailor's Rest".
(Huw) "Sailor's Rest"?
 
(Huw) Be aflwydd ydy hwnnw?
(1, 1) 173 Rhyw fath o gartre i hen longwrs, rydw i'n deall.
(1, 1) 174 Ar ôl iddyn nhw reteirio o'r môr.
 
(Catrin) Ple mae o?
(1, 1) 177 Dydw i ddim yn cofio'n iawn.
(1, 1) 178 I ffwrdd yn rhywle, ond mae o'n le ardderchog, medda Doctor James.
(Huw) Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg?
 
(Huw) Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg?
(1, 1) 180 Ydy, medda fo.
(1, 1) 181 Wedi blino byw ar ei ben ei hun.
(Huw) Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt!
 
(Huw) Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt!
(1, 1) 183 Be sy Nhad?
(Catrin) Dim byd Blodwen, ond ei fod o wedi colli lojiwr.
 
(Catrin) Roedd dy dad yn meddwl gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
(1, 1) 186 O?
(1, 1) 187 Wel da iawn, Nhad!
(1, 1) 188 Mae'n biti gweld yr hen greadur ei hunan bach yn y tŷ yna.
(Huw) Ydy debyg iawn.
 
(Catrin) Am beth wyt ti'n chwilio Blodwen?
(1, 1) 193 Am y llyfr hwnnw oeddwn i'n ddarllen ddoe.
(1, 1) 194 Roedd o ar y cwpwrdd y bore yma.
(1, 1) 195 Ydy Wili John wedi bod efo fo eto?
(Huw) O, hidia befo fo am funud.
 
(Huw) O, hidia befo fo am funud.
(1, 1) 197 Ond mi ydw i eisio mynd â fo i'r llyfrgell y pnawn yma, Nhad!
(Huw) Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o?
 
(Huw) Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o?
(1, 1) 199 Naddo, ond yn reit fuan 'r 'wyn credu.
 
(1, 1) 201 A, dyma fo!
(Huw) Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin.
 
(Catrin) Fedrwn i byth wneud efo fo.
(1, 1) 205 O dydy o ddim mor ddrwg â hynny, Mam.
(1, 1) 206 Dipyn yn groes, dyna'r cwbwl.
(1, 1) 207 Mae ei galon o yn y lle iawn.
(Catrin) Hy, dwyt ti ddim yn nabod dynion eto, ngeneth i.
 
(Catrin) Hy, dwyt ti ddim yn nabod dynion eto, ngeneth i.
(1, 1) 209 Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam.
(Huw) Beth wyt ti'n feddwl?
 
(Huw) Beth wyt ti'n feddwl?
(1, 1) 211 O dim ond bod yna ryw ddyn ifanc wedi gofyn imi fynd efo fo i'r pictiwrs nos fory.
(Huw) Y?
 
(1, 1) 215 Doctor James, Nhad.