Yr Orffiws

Ciw-restr ar gyfer Catrin

 
(1, 1) 18 O wel, dyna hwnna drosodd.
(1, 1) 19 Rhaglen reit dda y pnawn yma, Huw.
(Huw) Ia, Catrin, ardderchog.
 
(Huw) Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos.
(1, 1) 22 Pwy oedd y dyn yna, tybed?
(Huw) Pa ddyn?
 
(Huw) Pa ddyn?
(1, 1) 24 Wel hwnna oedd yn chware'r biano rwan.
(Huw) O wn i ddim.
 
(Huw) Fforinars ydy rhain i gyd.
(1, 1) 29 Hwyrach y gwelwn ni Gymro ar y blaen iddyn nhw rhyw ddiwrnod, Huw.
(Huw) Y?
 
(Huw) Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl.
(1, 1) 36 Mi gei di weld peth arall rhyw ddiwrnod.
(1, 1) 37 Os buasa Wili John ni'n cael tipyn o chware teg, mi fuasa'n gwneud ei enw ar y biano i ti!
(Huw) Y?
 
(Huw) Buasa—efo cyllell boced!
(1, 1) 40 O mae'n rhaid i ti gael taflu dŵr oer am ben bob dim.
(1, 1) 41 Mi ydw i'n dweud wrtha ti—mae Wili John yn gerddor o'i grud.
(Huw) Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag.
 
(Huw) Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag.
(1, 1) 43 Dyna chdi eto—mae'r peth bach yn cael ei anwybyddu.
(1, 1) 44 Oes gen ti ddim cywilydd dwad?
(1, 1) 45 Dy blentyn dy hun, yn byrlymu efo talent, a chditha'n chwerthin am ei ben a...
(Huw) Ond Catrin...
 
(Huw) Ond Catrin...
(1, 1) 47 Ia, ia, mae'n hen bryd i ti gael y gwir.
(1, 1) 48 Does yna ddim symud arnat ti erioed.
(1, 1) 49 Mi fuaset ar dy ben yn y wal ers talwm ond fy mod i y tu ôl i ti.
(Huw) Dim o gwbwl...
 
(Huw) Dim o gwbwl...
(1, 1) 51 O, fedri di ddim gwadu.
(1, 1) 52 Does gen ti ddim mymryn o ysfa i wella dy hun na dy deulu, dim ond mynd dow dow o ddiwrnod i ddiwrnod, run fath â hen geffyl gwedd.
(1, 1) 53 Mi fydda i'n mynd yn gynddeiriog weithia.
(1, 1) 54 Ond, yli, dydw i ddim yn mynd i adael i Wili John bach golli ei gyfle yn y byd yma...
(Huw) Ond dydw inna ddim yn...
 
(Huw) Ond dydw inna ddim yn...
(1, 1) 56 Mi ofala i na fydd o ddim yn mynd ar ôl ei dad.
(Huw) Does dim eisio taflu weips.
 
(Huw) Does dim eisio taflu weips.
(1, 1) 58 Mae o'n wir bob gair.
(Huw) Nac ydy.
 
(Huw) Nac ydy.
(1, 1) 60 Ydy.
(Huw) Nac ydy medda finna.
 
(Huw) Nac ydy medda finna.
(1, 1) 62 Ydy medda finna.
(Huw) O be ydy'r iws dadla!
 
(Huw) Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser.
(1, 1) 66 Mi fynna i gael chware teg i Wili John yn saff iti!
(Huw) Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o?
 
(Huw) Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o?
(1, 1) 68 Dwyt ti ddim yn edrach yn debyg.
(Huw) Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad.
 
(Huw) Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl.
(1, 1) 72 Mae'n hen bryd i ti ddangos rywfaint o siâp, yn lle gwneud sbort am bob dim.
(Huw) Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i.
 
(Huw) Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin.
(1, 1) 76 Amyneddgar wir.
(1, 1) 77 Wyt ti'n meddwl y cei di biano wrth chwibanu?
(Huw) Dim o gwbwl.
 
(Huw) Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco.
(1, 1) 81 Pam na fuaset ti'n prynu un ers talwm pan oeddan nhw'n rhad?
(Huw) I be?
 
(Huw) Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno.
(1, 1) 84 Twt, paid â hel esgus.
(1, 1) 85 Pen yn y gwynt, dyna dy hanes di erioed.
(Huw) Aros am funud, da chdi.
 
(Huw) Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i.
(1, 1) 89 Wel?
(Huw) Uncle Enoc.
 
(Huw) Uncle Enoc.
(1, 1) 91 Uncle Enoc?
(1, 1) 92 Beth amdano fo?
(Huw) Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd.
 
(Huw) 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna.
(1, 1) 95 O chdi a dy Uncle Enoc!
(1, 1) 96 Os mai dyna ydy dy gynllun di...
(Huw) Aros am funud, paid â bod mor wyllt.
 
(Huw) Tri chant o bunna medda nhw.
(1, 1) 100 Twt, 'run peth roeddet ti'n ddweud ddeng mlynedd yn ôl.
(1, 1) 101 Hen longwr ydy o cofia.
(1, 1) 102 Mi fydd yn fyw i fynd yn gant oed mi gei di weld.
(Huw) Dim peryg i ti.
 
(Huw) Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma.
(1, 1) 106 Clyw!
(1, 1) 107 Dyna fel mae Wili John drwy'r dydd—yn llond ei groen o fiwsig.
(1, 1) 108 Mae'n bechod na fuasa fo'n cael piano.
(Huw) Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc.
 
(Huw) Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc.
(1, 1) 110 Weli di byth mo'i arian o Huw, tra bydd dy gefndar Dic Betsi o gwmpas, yr hen gyb dau-wynebog.
(Huw) Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg!
 
(Huw) Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg!
(1, 1) 112 O mae o'n ddigon gwir.
(1, 1) 113 Pam mae o'n hen lanc medda chdi?
(1, 1) 114 Am ei fod o'n ormod o gyb i gadw gwraig, dyna i ti pam.
(1, 1) 115 Mi ydw i'n nabod dy gefndar Dic Betsi'n reit dda erbyn hyn, o ydw!
(Huw) Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti.
 
(Huw) Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti.
(1, 1) 117 Nag ydan, diolch i'r tad.
(1, 1) 118 Ond os oes yna ddima i'w chael yn rhywle, mae'r llwynog yna'n saff ohoni.
(Huw) Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto.
 
(Huw) Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto.
(1, 1) 120 Wel?
(Huw) Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely.
 
(Huw) Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely.
(1, 1) 122 Be ydy dy gynllun di felly?
(Huw) Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
 
(Huw) Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
(1, 1) 124 Dwad yma?
(1, 1) 125 Na ddaw byth.
(1, 1) 126 Wyt ti'n drysu?
(Huw) Gwranda am funud
 
(Huw) {Huw yn eistedd i lawr.}
(1, 1) 129 Beth wyt ti'n feddwl ydy'r lle yma—hospital?
(1, 1) 130 Mae gen i ddigon i wneud fel mae hi heb gael yr hen gono blin yna ar draws y tŷ.
(1, 1) 131 Sôn am slafio wir...
(Huw) Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu.
 
(Huw) Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu.
(1, 1) 133 Pa ochor arall sydd yna?
(Huw) Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin.
 
(Huw) Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin.
(1, 1) 135 Waeth i ti roi'r ffidil yn y to ddim Huw.
(1, 1) 136 Weli di 'r un ddima, mae hynny'n saff.
(1, 1) 137 A pheth arall, rwan mae Wili John eisio piano, nid ymhen blynyddoedd.
(Huw) Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir?
 
(Huw) Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir?
(1, 1) 139 Y fi.
(1, 1) 140 Mae'r hen ddyn yn iach fel cneuan.
(1, 1) 141 Mi fydd yn rhaid ei saethu o.
(Huw) Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin.
 
(Huw) Be ydy ei enw fo hefyd?
(1, 1) 146 Doctor James?
(Huw) Ia, dyna fo.
 
(Huw) Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor.
(1, 1) 150 Mi fyddi di a finna wedi cyrraedd y gwaelod o'i flaen o.
(Huw) Paid â siarad yn wirion Catrin.
 
(Blodwen) O dim ond ei fod o eisio barn Doctor James.
(1, 1) 169 Ei farn o ar be?
(Blodwen) Y "Sailor's Rest".
 
(Blodwen) {BLODWEN yn tynnu ei chôl.}
(1, 1) 176 Ple mae o?
(Blodwen) Dydw i ddim yn cofio'n iawn.
 
(Blodwen) Be sy Nhad?
(1, 1) 184 Dim byd Blodwen, ond ei fod o wedi colli lojiwr.
(1, 1) 185 Roedd dy dad yn meddwl gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma.
(Blodwen) O?
 
(Huw) Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma.
(1, 1) 191 Wel pwy ddynas fuasa'n lecio cael hen ddyn fel yna ar draws y tŷ?
(1, 1) 192 Am beth wyt ti'n chwilio Blodwen?
(Blodwen) Am y llyfr hwnnw oeddwn i'n ddarllen ddoe.
 
(Huw) Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin.
(1, 1) 203 Mi ydw i wedi dweud wrtha ti'n barod.
(1, 1) 204 Fedrwn i byth wneud efo fo.
(Blodwen) O dydy o ddim mor ddrwg â hynny, Mam.
 
(Blodwen) Mae ei galon o yn y lle iawn.
(1, 1) 208 Hy, dwyt ti ddim yn nabod dynion eto, ngeneth i.
(Blodwen) Wel dydy hi ddim yn rhy hwyr i mi ddechra, Mam.
 
(Huw) {Huw yn eistedd i lawr.}
(1, 1) 220 Chware teg iddi.
(1, 1) 221 Mae Doctor James yn ddyn ifanc neis iawn.
(Huw) Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly!
 
(Huw) Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed?
(1, 1) 225 Wel be sy'n fwy naturiol a hithau'n gweithio efo Huws y Chemist?
(Huw) Doctor James wir!
 
(Huw) Doctor James wir!
(1, 1) 227 O gad lonydd i'r hogan!
(1, 1) 228 Rwan mae ei chyfle hi.
(1, 1) 229 Wyt ti ddim yn falch o weld dy deulu'n gwneud mor dda dwad?
(Huw) Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin.
 
(Huw) Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin.
(1, 1) 231 Twt, mae Blodwen yn ddigon call i ti.
(Huw) Sgwn i!
 
(Huw) Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio.
(1, 1) 234 Roeddat ti wedi priodi yn ei hoed hi.
(Huw) Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw.
 
(Huw) Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio?
(1, 1) 238 Fedri di ddim nadu pobol ifanc syrthio mewn cariad, Huw.
 
(Huw) O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc.
(1, 1) 243 Wel ia, mae'n biti ei weld o'n mynd i ffwrdd i'r hen le yna.
(Huw) Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin!
 
(Huw) Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin!
(1, 1) 245 O na.
(1, 1) 246 Ond mae arna i ofn y bydd o'n fwy unig nag erioed yn y fan honno.
(Huw) Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr.
 
(Huw) Mae hi'n rhy hwyr rwan.
(1, 1) 251 Wn i ddim am hynny.
(Huw) Beth wyt ti'n feddwl?
 
(Huw) Beth wyt ti'n feddwl?
(1, 1) 253 Wel efalla nad ydy hi ddim yn rhy hwyr i ti ei berswadio fo i beidio mynd i ffwrdd.
(Huw) Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma?
 
(Huw) Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma?
(1, 1) 255 Mi gawn weld ymhellach ymlaen.
(Huw) Wyt ti o ddifri?
 
(Huw) Wyt ti o ddifri?
(1, 1) 257 Ydw, ond cofia di hyn Huw—meddwl am biano i Wili John rydw i.
(1, 1) 258 Mae hynny'n werth unrhyw aberth.
(1, 1) 259 A mi fydd hi'n aberth hefyd cael yr hen Enoc yma.
(Huw) Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin.
 
(Huw) Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin.
(1, 1) 261 Mi gei di weld peth arall.
(Huw) Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn.
 
(Huw) Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn.
(1, 1) 263 Mae o'n hen greadur croes, pigog hefyd, a'i lach ar bob dim yn ei dro, ac yn ddigon ffwndrus yn amal.
(Huw) Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin.
 
(Huw) O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─
(1, 1) 268 Aros am funud, mae Wili John yn dwad.
(1, 1) 269 Gofyn iddo fo be fuasa fo'n lecio gael ar ei ben-blwydd.
(Huw) I be?
 
(Huw) I be?
(1, 1) 271 Gofyn di iddo fo.
(1, 1) 272 Mi ddalia i am swllt mai piano fydd ei ateb o.
(Huw) Hei, llai o dwrw, boi bach.
 
(Wili John) {Cychwyn unwaith eto.}
(1, 1) 281 Dyna ddigon, Wili John.
(1, 1) 282 Allan mae eisio chware.
(1, 1) 283 Mae dy Dad eisio siarad efo ti.
(Wili John) Be sy Nhad?
 
(Huw) Be sy be?
(1, 1) 286 O bobol annwl, sôn am Blodwen mewn breuddwyd!
(1, 1) 287 Wyt ti wedi anghofio'n barod?
(Huw) O ia.
 
(Wili John) Gwn dŵr.
(1, 1) 293 Twt lol, Wili John, paid â siarad yn wirion.
(1, 1) 294 Miwsig, Wili John, miwsig—rwan be fuasat ti'n lecio?
(Wili John) Mouth Organ.
 
(Wili John) Mouth Organ.
(1, 1) 296 Mouth Organ, wir.
(1, 1) 297 Be sy ar yr hogyn!
(1, 1) 298 Fuaset ti'n lecio cael piano?
(Wili John) Piano go iawn?
 
(Huw) Ble rwyt ti'n mynd, Catrin?
(1, 1) 306 Mae gen i eisio picio i'r pentre am funud i wneud tipyn o negas.
(1, 1) 307 Fydda i ddim yn hir gobeithio.
(Wili John) Ga i ddwad, Mam?
 
(Wili John) Ga i ddwad, Mam?
(1, 1) 309 Cei am wn i.
(1, 1) 310 Aros, rhaid i mi roi cadach ar dy wyneb di.
 
(1, 1) 312 Saf yn llonydd da chdi, rwyt ti run fath â chynonyn!
(1, 1) 313 Rwan y tu ôl i'r clustia yma...
(1, 1) 314 Ple rwyt ti'n hel y fath faw dwad?
(1, 1) 315 Reit, estyn ei gap o Huw—dyna fo ar y soffa.
(Huw) Pa bryd fyddi di'n ôl tybed?
 
(Huw) Pa bryd fyddi di'n ôl tybed?
(1, 1) 318 Wel fydda i byth yn hir iawn, rwyt ti'n gwybod hynny.
(1, 1) 319 Ag yli, mae yna deisen yn y popty yn y cefn—mi fydd yn barod ymhen rhyw chwarter awr.
(1, 1) 320 Gofala ei thynnu hi allan os na fydda i wedi dwad yn ôl.
(Huw) Reit.
 
(Huw) Reit.
(1, 1) 322 Cofia di rwan—chwarter awr—ne mi fydd yma andros o row.
(Huw) O paid â phoeni.
 
(Huw) Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy.
(1, 1) 325 Tyrd Wili John.