Panto

Ciw-restr ar gyfer Deiniol

 
(1, 0) 58 Pwy?...
(1, 0) 59 Be'?....
(1, 0) 60 Lle ma'n nhw?...
 
(1, 0) 63 Dach chi 'di malu'r blydi drws.
(Sera) 'Ti 'di mynd yn rhy bell rŵan, 'ngwas i.
 
(Maldwyn) 'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi?
(1, 0) 68 Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal.
 
(Elin) Tyd y clown!
(1, 0) 74 Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu...
(Maldwyn) Tyn y trowsus 'na.
 
(Maldwyn) Tyn y trowsus 'na.
(1, 0) 76 W!
(1, 0) 77 Dim rŵan, Maldwyn.
(Elin) Sgynnon ni ddim amser i dy jôc sglyfaethus di─gollwng o.
 
(Mici) Alla i fod o help?
(1, 0) 92 Gelli!
(1, 0) 93 Dos i ddal llygod bach.
 
(1, 0) 97 Un joch bach ac mi fydda i'n iawn.
(Sera) {Yn cipio'r botel.}
 
(Sera) Ca' warad o honna!
(1, 0) 102 Hold on, Defi John!
 
(1, 0) 104 Sticia di at dy lefrith, y pwsi meri mew diawl!
(Sera) {Yn gwylltio.}
 
(Sera) 'Tisio colli dy job?
(1, 0) 110 Mi'i colla i hi eniwê ar ôl heno.
 
(1, 0) 112 Mae'r sioe drosodd fy ffrind.
(Elin) Belt?
 
(1, 0) 117 Lle mae'r belt piws 'di mynd?
(1, 0) 118 Lle mae'r belt piws?
(Mici) Ddaru o 'i daflu o yn y matiné.
 
(Elin) I be' nath o beth felly?
(1, 0) 124 Ma'n nhw'n bwysig, dalltwch─nhw'n fan'na, ninna'n fan'ma─fy mhobol i!
(1, 0) 125 Mi fydda i'n rhoi rhyw swfanîr bach iddyn nhw weithia.
(Elin) O, damia chdi.
 
(Elin) O, damia chdi.
(1, 0) 127 Hebddyn nhw, dwi'n ddim!
(Mici) Mae tocyn o feltia yn fy stafall i.
 
(Sera) Nefoedd─ma' isio gras hefo chdi!
(1, 0) 132 Dyro i mi sws.
 
(1, 0) 137 Un bach!
(Sera) Pam na wnest ti nghyfarfod i i de fel y gwnest ti addo, 'ta?
 
(Sera) Pam na wnest ti nghyfarfod i i de fel y gwnest ti addo, 'ta?
(1, 0) 139 Sws!
(Sera) Y babi gwirion!
 
(Sera) Nefoedd yr adar─'ti'n drewi fel bragdy!
(1, 0) 143 Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd.
(Sera) Chdi ddaru ddim troi i fyny, llafn, nid fi!
 
(Sera) Chdi ddaru ddim troi i fyny, llafn, nid fi!
(1, 0) 145 Mi gysgis i, do!
(Sera) Mi feddwist ti'n dwll.
 
(Sera) Mi feddwist ti'n dwll.
(1, 0) 147 Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt.
(Sera) Uffernol o galad, dd'wedwn i, ac ma' gin i hwn yn fan'ma i brofi, toes?
 
(Sera) {Mae'n rhoi ei llaw ar ei bol.}
(1, 0) 150 Dwi'n gwbod...
(1, 0) 151 Blydi hel!
(Sera) Be' dan ni'n mynd i'w neud, 'ta?
 
(Sera) Be' dan ni'n mynd i'w neud, 'ta?
(1, 0) 153 Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi...
(Sera) Deud y bydda i'n olreit...
 
(Sera) 'Ti wedi deud hefyd dy fod ti'n mynd i ddeud wrthi hi.
(1, 0) 157 Do!
(1, 0) 158 Dallt hynny─ac mi 'na i hefyd.
(Sera) Cyn y noson ola─dyna ddudist ti.
 
(Sera) Cyn y noson ola─dyna ddudist ti.
(1, 0) 160 Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud.
(Sera) Ond ma' hi'n noson ola rŵan, 'tydi?
 
(Sera) Ond ma' hi'n noson ola rŵan, 'tydi?
(1, 0) 162 Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné.
(Sera) Ond mi est ti ar y botal.
 
(1, 0) 165 Do!
(1, 0) 166 Do!
(1, 0) 167 Blydi do!
(Sera) {Yn gweiddi.}
 
(Sera) Be' dw i i fod i neud, ta?
(1, 0) 170 Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti.
(Sera) Hasyls─be' ddiawl 'ti'n 'i feddwl?
 
(Sera) Hasyls─be' ddiawl 'ti'n 'i feddwl?
(1, 0) 172 Rho amsar i mi.
(Sera) Mae o'n bedwar mis, wasi─mi fydd yma ym mis Mai.
 
(Sera) Mae o'n bedwar mis, wasi─mi fydd yma ym mis Mai.
(1, 0) 174 Dydi o ddim yn hawdd, dallt─chwartar canrif o fyw hefo rhywun a deud dy fod chdi wedi rhoi bynsan ym mhopty Dick Whittington.
(Sera) {Ar ôl saib o ddistawrwydd.}
 
(Sera) 'Ti ddim yn gall, yn nac wyt... ti'n hollol boncyrs.
(1, 0) 179 'Ti'n meddwl?
 
(Sera) Lle ma' hi rŵan?
(1, 0) 184 Pwy?
(Sera) Dy wraig di, pwy arall?
 
(Sera) Dy wraig di, pwy arall?
(1, 0) 186 Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr.
(Sera) Ac mi fydd yn y parti heno?
 
(Maldwyn) Dwi wedi newid y dechra.
(1, 0) 194 Gwatsia di rŵan, 'y ngwas i.
(1, 0) 195 Mi gei di berfformiad heno y gnei di'i gofio am byth.
(Maldwyn) {Wrth Sera.}
 
(1, 0) 199 A dyma chi unwaith eto, y feri dyn... a'r unig un─Robert Deiniol.
(Maldwyn) 'Nei di gau dy hopran!
 
(1, 0) 207 Y?
(Maldwyn) Mi ddudith y gath 'Miaw'─ne' 'Pyrr'... ne' rwbio... ne' beth bynnag uffern liciwch chi...
 
(Maldwyn) Mi ddudith y gath 'Miaw'─ne' 'Pyrr'... ne' rwbio... ne' beth bynnag uffern liciwch chi...
(1, 0) 209 Hei!
(1, 0) 210 Hold on am funud...
(Maldwyn) {Yn anwybyddu Deiniol yn llwyr.}
 
(Maldwyn) "Falla 'i bod hi 'di cael 'i dal yn rhwla."
(1, 0) 214 Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws...
(Maldwyn) Dos yn syth wedyn i'r gân gynta.
 
(Maldwyn) Dos yn syth wedyn i'r gân gynta.
(1, 0) 216 Pa gân gynta?
(Sera) Ia, ond sut gallai..?
 
(Sera) Ia, ond sut gallai..?
(1, 0) 218 'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta.
(Maldwyn) Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad.
 
(Sera) 'Ti'n deud 'mod i yn mynd i...
(1, 0) 221 Ond fedar hi ddim canu 'nghân i.
(Maldwyn) Dwi ddim yn sôn am dy gân di.
 
(Maldwyn) Dwi ddim yn sôn am dy gân di.
(1, 0) 223 Ond dyna'r gân gynta.
(Maldwyn) Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl.
 
(Sera) Ia, ond...
(1, 0) 226 Ond ma' honno'n dŵad yn syth ar ôl i mi waldio Dic a rhoi cic i'r gath, tydi...
(1, 0) 227 dwi o gwmpas 'y mhetha, dallt...
(1, 0) 228 paid â meddwl 'mod i'n dwlali tap...
(1, 0) 229 a 'di chân hi ddim yn mynd i neud sens, nac 'di, os na welith pawb mam Dic yn rhoi harnis iddo fo...
(1, 0) 230 ma' rhaid iddyn nhw 'ngweld i'n cam-drin yr hogyn.
(Sera) Ma' gynno fo bwynt yn fan'na.
 
(Sera) Ma' hynny'n ddigon gwir.
(1, 0) 237 Bolocs!
(Maldwyn) Hi sy'n canu gynta.
 
(Maldwyn) Hi sy'n canu gynta.
(1, 0) 239 Fi sy'n canu gynta, wasi bach...
(1, 0) 240 fi ma'n nhw'n 'i weld gynta ar y llwyfan 'na─ma' hynny yn 'y nghontract i, swîti pei!
(Maldwyn) Ydi o yn dy gontract di hefyd y gelli di fynd allan ar y llwyfan 'na'n feddw dwll beipan?
 
(Maldwyn) Ydi o yn dy gontract di hefyd y gelli di fynd allan ar y llwyfan 'na'n feddw dwll beipan?
(1, 0) 242 Gwatsia di be' 'ti'n 'i ddeud, coc oen...
 
(Sera) Reit, ar ôl yr intro, tipyn o ad-lib ac yn syth i'r gân gynta.
(1, 0) 247 Dim tra bydd chwythiad yno i─mi ddo i allan pan dwi i fod...
(1, 0) 248 ac os trïwch chi newid petha─mi sincia i'r lot ohonoch chi...
(1, 0) 249 mi a'i allan i fan'na a'ch gneud chi'n sbort...
(1, 0) 250 Fedra i drin cynulleidfa, dallt...
 
(Sera) Sglyfath!
(1, 0) 254 Mi fedra i 'u cael nhw'n fan'na, dalltwch...
 
(1, 0) 256 Mi o'n i ar y styllod 'na cyn dy fod ti o dy glytia, ledi myc.
 
(Maldwyn) {Mae'r Dyn Llwyfan yn mynd.}
(1, 0) 264 A be' mae |o|'n mynd i'w ddeud─'ti 'di meddwl am hynny?
(Maldwyn) Pwy 'di |o|?
 
(Maldwyn) Pwy 'di |o|?
(1, 0) 266 Yr awdur, mêt.
(1, 0) 267 Be' mae o'n mynd i'w neud pan glywith o dy fod ti'n poitsian 'i sgript o?
(Maldwyn) Clyw!
 
(Maldwyn) Doedd hwnnw ddim yn nabod 'i sgript 'i hun y noson gynta─heb sôn am be' dach chi 'di neud iddo fo wedyn.
(1, 0) 270 A be' am y cynhyrchydd?
(1, 0) 271 Mi eith hwnnw i fyny'r wal pan dduda i wrtho fo.
(Maldwyn) {Yn gwylltio.}
 
(Maldwyn) mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes!
(1, 0) 295 Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel?
 
(1, 0) 298 Ma' 'mhen i fel bwcad!
(Elin) Mi fasa'n help 'tasat ti'n yfad y coffi 'ma.
 
(Elin) Mi fasa'n help 'tasat ti'n yfad y coffi 'ma.
(1, 0) 300 Gas gin i'r dŵr golch!
(Elin) Ond mi helpith di i sobri─mi sobri rywfaint, gnei?
 
(Elin) Ond mi helpith di i sobri─mi sobri rywfaint, gnei?
(1, 0) 302 A!
 
(1, 0) 304 ... 'sa siwgwr yn help, falla.
(Elin) Ro'n i'n meddwl nad oeddat ti ddim yn cymryd siwgwr.
 
(Elin) Ro'n i'n meddwl nad oeddat ti ddim yn cymryd siwgwr.
(1, 0) 306 Gas gin i'r sglyfath─gas gin i goffi'n fwy.
(Elin) Nefoedd.
 
(Elin) Dria i rwbath.
(1, 0) 311 Os mêts.
 
(1, 0) 317 Ych-a-fi!
(Elin) Dim ond siwgwr lwmp ges i.
 
(Elin) {Yn cynnig llond dwrn iddo.}
(1, 0) 320 O!
(1, 0) 321 Fedra i ddim diodda siwgwr lwmp... mi gymera i'r llall ar binsh... ond byth siwgwr lwmp.
(Elin) Sdim gwahaniaeth, y diawl gwirion.
 
(Elin) Sdim gwahaniaeth, y diawl gwirion.
(1, 0) 323 O, oes... o, oes ma' 'na.
(1, 0) 324 Ma' un yn sgwâr, 'tydi, ond ma'r llall yn betha bach, bach, bach crwn.
(Elin) {Yn chwerthin.}
 
(Elin) Ond 'run 'di'r blas.
(1, 0) 327 I bobol gyffredin, ia, falla... ond i'r conisiwar ma' 'na betha... prun bynnag.
 
(1, 0) 329 Tydi hwn ddim mor ddrwg bellach...
(1, 0) 330 'di dŵad i arfar â'r piso dryw, falla...
(1, 0) 331 ond ma' rhaid i mi drio, 'toes─ma' rhaid i mi drio'i gael o i lawr.
(Elin) Wel, diolch am rywfaint o sens o'r diwadd.
 
(1, 0) 334 Pawb â'i aberth...
 
(1, 0) 336 Hir oes i'r achos dirwestol!
(Elin) 'Na welliant─mi sobri di drwyddat ar ôl panad ne' ddwy o hwnna.
 
(Elin) 'Na welliant─mi sobri di drwyddat ar ôl panad ne' ddwy o hwnna.
(1, 0) 338 'Ti'n deud!
 
(Elin) Damia!
(1, 0) 341 Damia be'?
(Elin) 'Ti ddim yn gneud y sgets gynta rŵan, nac wyt?
 
(1, 0) 344 Nac dw─y llinyn trôns diawl!
(Elin) {Yn codi i nôl y dillad.}
 
(Elin) Aros yn llonydd.
(1, 0) 351 Neith y peth ddim gweithio heb 'y nghân i, dwi'n deud wrthat ti.
 
(Dic) O, di Mam ddim yma, pws.
(1, 0) 359 Nac di'r sguthan─dwi'n fan'ma!
(Dic) {Yn rhoi'r coed i lawr wrth y lle tân.}
 
(Dic) |
(1, 0) 372 Canu, i ni gael y peth drosodd.
(Dic) Petai hi ddim mor drwm ar y botal.
 
(Dic) Petai hi ddim mor drwm ar y botal.
(1, 0) 374 Y?
(Dic) Ma' hi'n feddw hannar yr amsar.
 
(Dic) Ma' hi'n feddw hannar yr amsar.
(1, 0) 376 Glywist ti hynna?
(Elin) {Yn ceisio pinio'r siôl.}
 
(Elin) Sa'n llonydd.
(1, 0) 380 'Di hwnna ddim yn y sgript... creulon ia, ond dim meddw─'di 'meddw' ddim yn y sgript o gwbwl.
(Dic) Ma' hi 'di mynd yn ddwy botal o wisgi'r dydd, pws.
 
(Dic) Ma' hi 'di mynd yn ddwy botal o wisgi'r dydd, pws.
(1, 0) 382 Hold on!
(Dic) Dwy botal o ddiod gadarn felltigedig.
 
(Dic) Dwy botal o ddiod gadarn felltigedig.
(1, 0) 384 Ia... ond dwy hannar... dwy hannar potal... a dim ond pan fydda i'n...
(Elin) {Yn cael trafferth gyda'r siôl.}
 
(Dic) Y wisgi sy'n rheoli 'i fywyd o... {mae'n sylweddoli ei bod wedi gwneud camgymeriad} ym... hi.
(1, 0) 390 A... ha... ha... clyfar... fi fawr faglodd... paid â galw fo ar dy fam!
(Dic) O, pwsi, pwsi, pwsi!
 
(1, 0) 400 Ma' hi 'di newid y blydi cân hefyd─
(1, 0) 401 ~
(1, 0) 402 'Y fi sy'n gorfod diodda
(1, 0) 403 Bob bora a phrynhawn.'
(1, 0) 404 ~
(1, 0) 405 Dyna oedd y geiria i fod─sdim byd am y fi yn llawn.
(Elin) Wnes i 'rioed ddallt hynny, eniwê─pam 'bore a phrynhawn'?
 
(Elin) Oedd o ddim yn diodda yn y nos, 'ta?
(1, 0) 408 Mi ca' hi am hyn!
(Elin) Yn y nos dwi'n diodda fwya, yn enwedig hefo ffernols boncyrs fel chi heb barch at ddyn nac anifail.
 
(1, 0) 414 Gaddo, dim, dallt─uffar o ddim.
(Dic) Ond torrodd bob addewid
 
(1, 0) 418 Dim dyna'r geiria o gwbwl─ma'r hulpan 'di mynd rownd y twist─colli 'i marblis i gyd!
(Elin) Cau dy geg ac yfa'r coffi 'na.
 
(Elin) Cau dy geg ac yfa'r coffi 'na.
(1, 0) 420 Desu, gnaf.
 
(Dic) Gwell byd i ti a mi.
(1, 0) 427 Ia... dos... mi geith ganu grwndi i ti ar hyd y ffordd... ewch!
 
(1, 0) 435 Y bastard bach blewog...
(Dic) {Llwyfan.}
 
(1, 0) 440 Slwt!
(Dic) {Llwyfan.}
 
(Dic) {Mae Robert Deiniol yn awr yn rhuthro'n ôl i'r Ystafell Newid.}
(1, 0) 445 Welist ti hynna, 'ta?
(Elin) Welis i be'?
 
(Elin) Welis i be'?
(1, 0) 449 Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud?
(Elin) Beth bynnag oeddan nhw'n 'i neud, ma'n nhw wedi 'i neud o drw'r tymor.
 
(Elin) Beth bynnag oeddan nhw'n 'i neud, ma'n nhw wedi 'i neud o drw'r tymor.
(1, 0) 451 Ond nid fel heno─ma'r Mici Tiwdor bach 'na rêl sglyfath.
(Elin) O! sbïwch pwy sy'n cael cynhyrfs!
 
(Elin) O! sbïwch pwy sy'n cael cynhyrfs!
(1, 0) 453 Dim bod ots gen i, dallt─malio dim blydi botwm corn.
(Elin) Wrth gwrs dy fod ti'n malio.
 
(Elin) Wrth gwrs dy fod ti'n malio.
(1, 0) 455 Pam ddylwn i?
(Elin) Malio nes bod dy geillia di'n sgrytian.
 
(Elin) Malio nes bod dy geillia di'n sgrytian.
(1, 0) 457 Malio dim ffuan, dallt.
(Elin) Dyn o dy oed ti.
 
(Elin) Dyn o dy oed ti.
(1, 0) 459 Be' ti'n 'i feddwl?
(Elin) Ti'n gwbod be' dwi'n 'i feddwl─digon hen i fod yn dad iddi.
 
(Elin) Ti'n gwbod be' dwi'n 'i feddwl─digon hen i fod yn dad iddi.
(1, 0) 461 Be' 'ti'n drio 'i ddeud, 'ta... be' 'ti'n 'i awgrymu?
(Elin) Dwi am ga'l gorffan dy wisgo di?
 
(Elin) Dwi am ga'l gorffan dy wisgo di?
(1, 0) 463 Na... na... be' 'ti'n 'i feddwl 'mod i'n ddigon hen i fod yn dad iddi?
(Elin) Mi rwyt ti'n dwyt, dros dy hannar cant, a hitha prin allan o'i chlytia.
 
(Elin) Mi rwyt ti'n dwyt, dros dy hannar cant, a hitha prin allan o'i chlytia.
(1, 0) 465 Ia... iawn... ond pam fi?
(1, 0) 466 Ma' digon arall yn y lle 'ma sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi... be' sgin..?
(Elin) Ond dim ond chdi sy'n 'i ffwcio hi!
 
(Elin) Ond dim ond chdi sy'n 'i ffwcio hi!
(1, 0) 470 Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud.
(Elin) O, wasi─paid â chwythu gasget... ma' pawb yn gwbod─'ti'n meddwl 'n bod ni'n blydi dwl?
 
(Elin) O, wasi─paid â chwythu gasget... ma' pawb yn gwbod─'ti'n meddwl 'n bod ni'n blydi dwl?
(1, 0) 472 Reit.
(1, 0) 473 Pwy ydi pawb?
(1, 0) 474 Dwi isio gwbod.
(1, 0) 475 Enwa pawb sy'n cario straeon.
(1, 0) 476 Pwy ydyn nhw?
(Elin) Yn union fel dudis i─pawb!
 
(Elin) Yn union fel dudis i─pawb!
(1, 0) 478 Pawb?
(Elin) Wel, pawb yn fan'ma─ma'ch tricia chi mor uffernol o hen ffash...
 
(Elin) Dy wely di o ddiawl!
(1, 0) 492 Be' 'ti'n 'i feddwl?
(Elin) 'Ti'n gwbod lle'r oeddat ti'n mynd... mi oedd pawb yn gwbod lle'r oeddat ti'n mynd.
 
(Elin) 'Ti'n gwbod lle'r oeddat ti'n mynd... mi oedd pawb yn gwbod lle'r oeddat ti'n mynd.
(1, 0) 494 'Ti'n mynd yn rhy bell... un gair arall...
(Elin) Pam dach chi'n dŵad i'n gwely ni'r genod bob amsar?
 
(Elin) Dan ni'n gwbod be' oedd yn digwydd, Falentino?
(1, 0) 499 Yli─ ti'n gwbod sut ma' actorion am gario straeon, 'dwyt?
(Elin) Fo gwelodd di gynta.
 
(Elin) Fo gwelodd di gynta.
(1, 0) 501 Pwy fo?
(Elin) Miaw!
 
(Elin) Miaw!
(1, 0) 503 Y bastard─ma'r Mici Tiwdor 'na â'i gyllall ynai o'r dechra... 'ti ddim yn dallt hynny?
(Elin) Ac mi welodd amryw arall chdi'n sleifio i'w stafall hi wedyn!
 
(Elin) Ac mi welodd amryw arall chdi'n sleifio i'w stafall hi wedyn!
(1, 0) 505 Fel pwy?
(1, 0) 506 Dŵad wrtha i.
(1, 0) 507 'Swn i'n licio gwbod pwy.
(Elin) Fi!
 
(Elin) Fi!
(1, 0) 509 Chdi?
(Elin) Fi!
 
(1, 0) 513 Dwi wedi bod yn 'i stafall hi weithia, do.
(Elin) Droeon!
 
(Elin) Droeon!
(1, 0) 515 Trin sgript a ballu.
(Elin) Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i.
 
(1, 0) 525 Gwranda, coc oen!
(1, 0) 526 'Tharith dy droed di ddim llwyfan theatr byth eto.
(1, 0) 527 Mi riportia i di i Equity, Writers' Guild, ac ACTT, dallt.
(1, 0) 528 Rhag ofn dy fod ti'n bwriadu gweithio i Barcud ne' ryw wancyrs bach annibynnol tebyg.
(1, 0) 529 Mi ca' i di, dallt.
(1, 0) 530 Mi gorffenna i chdi unwaith ac am byth!
(Maldwyn) {Wrth Elin.}
 
(Maldwyn) Ond mae o'n waeth rŵan nag oedd o gynna.
(1, 0) 535 Ac mi wn i be' 'ti'n trio'i neud, wasi─o gwn.
(1, 0) 536 Paid ti â meddwl 'mod i'n dwp.
(1, 0) 537 Ches i ddim coleg drama fel y gweddill ohonach chi, ond dwi'n dallt, dallt.
(Maldwyn) Wnaiff o byth y sgets nesa...
 
(Maldwyn) Wnaiff o byth y sgets nesa...
(1, 0) 539 Fi i gario'r bwcad olch!
(1, 0) 540 Dyna'r sgîm, 'te?
(1, 0) 541 Ma'r tŷ wedi bod yn hanner gwag ers wsnosa.
(1, 0) 542 Rown ni'r bai ar Deiniol.
(1, 0) 543 Fo 'di'r drwg.
(1, 0) 544 Fo sy'n cambyhafings ac yn llawn o lysh.
(1, 0) 545 Ond dwi ddim am fod yn fwch dihangol i ryw wancyrs fel chi, dalltwch!
(Elin) Mae o 'di mynd, dwi'n meddwl.
 
(Maldwyn) Ond ma' rhaid iddo fo ddal Dic yn y goedwig a mynd â fo'n ôl.
(1, 0) 549 Ac mi 'na i 'i ddal o hefyd─yr hen slwt fach iddi.
(1, 0) 550 Glywist ti'r ad-libio gynna fel gweinidog sasiwn.
(1, 0) 551 Cheith hi ddim gneud hynna eto.