Rhys Lewis

Ciw-restr ar gyfer Marged

(Mari) {yn siarad wrthi ei hun} Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan.
 
(Mari) Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir.
(1, 1) 26 Sut yr ydach chi, Mari Lewis?
(Mari) Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir.
 
(Mari) Steddwch i lawr.
(1, 1) 29 Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma, Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle.
(1, 1) 30 Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd——
(Mari) Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?
 
(Mari) Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?
(1, 1) 32 Dim; ond fod yn hen bryd ì rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y |gwr acw| i beidio dweyd yr un gaìr, nac i wneyd ei hun |yn amlwg| mewn ffordd yn y byd.
(Mari) Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i |Wmphre|, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd.
 
(Mari) Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd.
(1, 1) 35 Gobeithio na chollith |Wmphra| mo'i waith, beth bynnag.
(1, 1) 36 Rhaid i mi fynd.
(1, 1) 37 Nos da.
(Mari) Nos da, a diolch i chi am alw.
 
(Wil) Ond mae o wrthi yn cabarddilio rhywbeth bob Sul.
(1, 2) 118 Wel, hwyrach na feder Mr. Brown ni wneyd fawr o'r pregethu 'ma, ond mae o'n berson da, anwedd.
(Mari) Mae hynny yr un peth yn union, Marged Pitars, a bydae chi'n deyd fod James Pwlffordd yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho.
 
(Mari) Mi fydda i yn diolch llawer mai efo crefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loegr.
(1, 2) 121 Wel, gadewch iddo; mae Mr. Brown yn dda iawn wrtha i, yn neilltuol oddeutu'r Nadolig 'ma; a mi 'rydw i yn reit hapus yn yr Eglwys.
(Wil) Fel hyn yr ydw i yn 'i gweld hi, Mari Lewis, —mae hi yn fwy cyfforddus yn yr Eglwys, ond yn fwy saff yn y capel.
 
(Mari) {yn paratoi bwyd} Marged, waeth i chi dynnu'ch pethe, ac aros yma i gael 'paned efo mi; mi fydd yn dda gan Bob eich gweld chi.
(1, 2) 178 Yr ydw i'n disgwyl fod dydd eich trafferthion chwithau wedi darfod pan ddaw Bob adref.
(Mari) Wedi i mi ddeall fod pawb yn credu fod Bob yn ddi-euog, yr wyf yn berffaith dawel.
 
(Mari) Wedi i mi ddeall fod pawb yn credu fod Bob yn ddi-euog, yr wyf yn berffaith dawel.
(1, 2) 180 Mae'r tren wedi dwad bellach, a dylai y bechgyn fod wedi cyrraedd y ty.
(Mari) O, mae'n debyg fod Bob yn gorfod siarad gydag amryw ar ei ffordd o'r relwe, ond dyma nhw'n dwad——
 
(Mari) Wel, do's mo'r help; fel hyn mae pethe i fod, a rhaid i ni ymostwng.
(1, 2) 192 Dase Mr. Brown yma, mi fase fo yn gallu'ch cysuro chi,—mae gyno fo ddigon i ddeyd ar adeg fel hyn.