Rhys Lewis

Ciw-restr ar gyfer Mari

 
(1, 1) 16 Dyma Bob wedi colli eì waith, a Rhys yn cael dim ond digon i'w gadw mewn 'sgidiau.
(1, 1) 17 Mae'r streics 'ma yn bethe creulon.
(1, 1) 18 Dyden nhw ddim yn perthyn i ni,—y Cymry.
(1, 1) 19 Pethe wedi dwad oddiwrth y Saeson yde nhw.
(1, 1) 20 Fu 'rioed son am streics yma cyn i Abram Jones gael ei droi i ffwrdd.
(1, 1) 21 Wn i ddim be oedd yn corddi Bob ni i fynd i'r row heddyw o gwbl.
(1, 1) 22 Mae Bob yn rhy ddiniwed o lawer.
(1, 1) 23 Mae y lleill yn 'i stwffio fo ymlaen, ond Bob sydd yn colli ei waith, nid y nhw; a dyma ninne yn gorfod diodde.
(1, 1) 24 Oni bai mod i'n gwybod b'le i droi, wn i ddim be wnawn i, na wn i yn wir.
(Marged) Sut yr ydach chi, Mari Lewis?
 
(Marged) Sut yr ydach chi, Mari Lewis?
(1, 1) 27 Yr ydw i yn reit fflat, Marged Pitars, ydw'n wir.
(1, 1) 28 Steddwch i lawr.
(Marged) Na, rhaid i mi fynd, ond mod i jest yn troi i mewn i weld sut yr oeddech chi yn yr helynt yma, Mi na'th y dynion yn riol â Mr. Strangle.
 
(Marged) Dase nhw wedi hanner 'i ladd o, fase o niwed yn y byd——
(1, 1) 31 Be ydi'ch meddwl chi, Marged Pitars?
(Marged) Dim; ond fod yn hen bryd ì rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y |gwr acw| i beidio dweyd yr un gaìr, nac i wneyd ei hun |yn amlwg| mewn ffordd yn y byd.
 
(Marged) Dim; ond fod yn hen bryd ì rywun godi row, fod y cyflogau mor fychain, fel nad yw yn bosib cadw teulu; ond, yn wir, yr oeddwn wedi siarsio y |gwr acw| i beidio dweyd yr un gaìr, nac i wneyd ei hun |yn amlwg| mewn ffordd yn y byd.
(1, 1) 33 Felly, Marged Pitars, yr ydach chi yn awyddus i Bob ni ac ereill ymladd y frwydr, ac i |Wmphre|, eich gwr, a phawb arall sydd yn perthyn i chwi, fod fel y Dan hwnnw gynt, yn aros mewn llongau, a dyfod i mewn am ran o'r anrhaith wedi i'r rhyfel fynd drosodd.
(1, 1) 34 Mae yna lawer Dan yn ein dyddiau ninnau, fel yr oedd Mr. Davies, Nerquis, yn deyd.
(Marged) Gobeithio na chollith |Wmphra| mo'i waith, beth bynnag.
 
(Marged) Nos da.
(1, 1) 38 Nos da, a diolch i chi am alw.
(Bob) Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?
 
(Bob) Wel, mam, mae yn debyg eich bod wedi cael hanes yr helynt?
(1, 1) 42 Do, machgen i; ond wyt tì yn meddwl dy fod wedi gwneyd dy ddyledswydd?
(1, 1) 43 Mi ddaru mi dy siarsio di lawer gwaith i adael i'r lleill godlo hefo'r helynt, onid o?
(1, 1) 44 Mi wn o'r gore fod genoch chi, fel gweithwyr, le i gwyno, ac fod yn gywilydd fod rhyw Sais yn dwad ar draws gwlad i gym'ryd lle dyn duwiol fel Abram Jones, na fu 'rioed helynt efo fo; ond 'dwyt ti ddim ond ifanc, a pham na faset ti yn gadael i rywun fel Edward Morgan siarad a chodlo,—dyn sydd ganddo dy iddo fo'i hun, a buwch, a mochyn?
(1, 1) 45 Ond waeth tewi.
(1, 1) 46 Beth ddaw o honom ni ydi'r pwnc 'rwan?
(Bob) Mam! nid fel yna ddaru chi nysgu i.
 
(Bob) Mae y'ch Llyfr chi,—y Beibl,—yn son llawer am aberthu er mwyn ereill—
(1, 1) 54 Taw a dy lol; fedra i ddim diodde dy glywed di yn siarad.
(1, 1) 55 'Does ene ddim son am streics coliars yn y Beibl; ac os wyt ti yn mynd i gymharu y row ene â dim sydd yn y Beibl, mae'n bryd i ti fynd i'r Seilam pan y mynnost.
(Bob) Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.
 
(Bob) Cymerwch bwyll, mam; os nad oes cymhariaeth, y mae yna gyfatebiaeth, ac am gyfatebiaeth yr ydw i yn son.
(1, 1) 57 Hwde di, paid di hel dy eirie mawr efo fi; dydi y gair cyfatebiaeth ddim yn y Beibl nac yn |'Fforddwr| Mr. Charles.
(Bob) Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth.
 
(Bob) Mi wn, mam, nad ydych wedi darllen 'Butler' ar Gyfatebiaeth.
(1, 1) 59 'Bwtler!'
(1, 1) 60 Be wyt ti yn son am dy fwtler wrthai?
(1, 1) 61 Rhyw bagan fel ene, nad ydi o byth yn mynd i le o addoliad, ond i'r Eglwys, ac na ŵyr o ddim ond am gario gwin i'w feistar.
(Bob) {yn chwerthin} Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol.
 
(Bob) {yn chwerthin} Nid bwtler y Plas oeddwn yn feddwl, ond yr Esgob Bwtler,—dyn da a duwiol.
(1, 1) 63 Wel, sut bynnag, yr wyt ti wedi ei gwneyd hi heddyw.
(1, 1) 64 Welest ti mo John Powell?
(1, 1) 65 Be oedd o yn feddwl o'r helynt?
(Bob) Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi.
 
(Bob) Roedd o yn ofnì y cai rhai o honom ein cospi.
(1, 1) 67 Wel, mae arna i ofn y canlyniadau.
(Bob) Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd.
 
(Bob) Beth bynnag fyddant, dydi ddim yn 'difar gen i mod i wedi gwneyd yr hyn nes i, a dase y dynion wedi cadw at fy nghyngor i, fuase'r ynfydwaith hwn ddim wedi ei wneyd.
(1, 1) 70 Mi ges brofedigaeth fawr hefo dy dad, ond yr oedd yn dda gen i 'i weld o'n ffoi o'r ardal, er mai 'y ngwr i oedd o; ond wn i ddim be wnawn i daset ti yn gorfod ffoi rhag dwad i helynt.
(Bob) 'Na i ddim, a 'na i mo'ch gadel chi chwaith, tra y caf aros.
 
(1, 2) 110 Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys?
(Rhys) Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail.
 
(Rhys) Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail.
(1, 2) 112 Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail.
(Rhys) 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam.
 
(Rhys) 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam.
(1, 2) 114 Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder.
(Wil) Pregethu?
 
(Marged) Wel, hwyrach na feder Mr. Brown ni wneyd fawr o'r pregethu 'ma, ond mae o'n berson da, anwedd.
(1, 2) 119 Mae hynny yr un peth yn union, Marged Pitars, a bydae chi'n deyd fod James Pwlffordd yn deiliwr da, ond na feder o ddim pwytho.
(1, 2) 120 Mi fydda i yn diolch llawer mai efo crefydd yr ydw i, ac nid yn Eglwys Loegr.
(Marged) Wel, gadewch iddo; mae Mr. Brown yn dda iawn wrtha i, yn neilltuol oddeutu'r Nadolig 'ma; a mi 'rydw i yn reit hapus yn yr Eglwys.
 
(Wil) Un gwahaniaeth mawr rhwng yr Eglwys a'r capel, Mari Lewis, yw fod pobol yr Eglwys yn meddwl eu hunain yn dda, a phawb yn gwybod eu bod yn ddrwg; a phobol y capel yn meddwl eu hunain yn ddrwg, a phawb yn credu eu bod yn dda, wyddoch.
(1, 2) 124 Wel, William, rhaid i ti gael cellwair efo popeth.
(1, 2) 125 Mi wnei di lawer o dda neu ddrwg yn y byd yma.
(1, 2) 126 Gobeithio'r 'ranwyl y cei di dipyn o ras.
(Wil) Mae digon o hono i'w gael, on' does, Mari Lewis?
 
(Wil) —ond fydda i byth yn leicio cymyd fwy na fy share o ddim, wyddoch.
(1, 2) 129 Paid a siarad yn ysgafn, William.
(1, 2) 130 Fedri di byth gael gormod o ras.
(Wil) Felly bydd y gaffer acw yn deyd.
 
(Wil) Felly bydd y gaffer acw yn deyd.
(1, 2) 132 Pwy ydi dy gaffer di, dywed?
(Wil) Ond "yr hen law" acw,—y nhad, —wyddoch.
 
(Wil) Ond "yr hen law" acw,—y nhad, —wyddoch.
(1, 2) 134 Wil, yr ydw i yn dy siarsio i beidio galw dy dad yn "gaffer" ac yn "hen law."
(1, 2) 135 Weles i 'rioed ddaioni o blant fydde'n galw eu tad a'u mam yn "hwn acw,' ac yn "hon acw," neu y "gaffer," "y gyfnor," ac enwau cyffelyb.
(1, 2) 136 Paid di a gadael i mi dy glywed di yn galw dy dad ar yr enwau gwirion ene eto, cofia di.
(Wil) All right.
 
(Wil) Ddaru mi ddim lladd neb, ai do?
(1, 2) 144 Naddo; ond mae eisio i ti ladd "yr hen ddyn."
(Wil) Pwy ydach chi'n feddwl, Mari Lewis?
 
(Wil) Mi fyddwn wedi llwgu.
(1, 2) 150 Nage, William, nid dy dad yr ydw i'n feddwl, ond yr "Hen Ddyn" sydd yn dy galon di."
(Wil) Does yma'r un, mi gymra fy llw.
 
(Wil) Does yma'r un, mi gymra fy llw.
(1, 2) 152 Oes, William bach, ac mi wyddost o'r gore mai yr "Hen Ddyn," —ydwpechod,—ydw i'n feddwl.
(Wil) O! yr ydw i'n y'ch dallt chi 'rwan.
 
(Wil) Ond dydi pechod yn y'n c'lonne ni i gyd, medde'r hen——y nhad acw.
(1, 2) 156 Ydi, machgen i, ac mae o'n dwad allan yn dy ben di hefo'r "Q.P." gwirion yna.
(1, 2) 157 Yr ydw i'n synnu fod dy dad yn gadael i ti droi dy wallt oddiar dy dalcen fel ene, a synnwn i ddim nad wyt ti'n mynd i edrach arnat dy hunan yn y glass bob dydd i borthi dy falchder.
(1, 2) 158 Diolch na fu yr un looking glass 'rioed yn ein teulu ni nes i Bob ddod ag un yma; a mi fase'n dda gan y nghalon í bydase hwnnw 'rioed wedi dwad dros y rhiniog.
(1, 2) 159 Mi fydde mam yn deyd fod pobl, wrth edrach i'r glass, yn gweld y gwr drwg, ac mi greda i hynny yn hawdd.
(1, 2) 160 Wn i ddim be' ddaw o'r bobl ifinc yma sydd yn gwneyd cymaint o shapri o'u gwalltie a'u dillad. {Y cloc yn taro un-arddeg; yn edrych at y cloc.}
(1, 2) 161 Mae hi yn un-ar-ddeg o'r gloch, a rhaid i mi dendio, ne mi ddaw Bob adre' cyn y bydd genna i damad yn barod iddo fo.
(1, 2) 162 Mae yn rhaid iddo gael rhyw amheuthyn.
(1, 2) 163 Be' na i iddo fo, Rhys?
(Rhys) Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans.
 
(Rhys) Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans.
(1, 2) 165 Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo.
(1, 2) 166 Mae nhw yn deyd os caiff rhwfun fydd newydd ddwad o'r jail fwyd rhy drwm, yr aiff o'n sâl.
(1, 2) 167 Yr ydw i'n meddwl na cheiff o ddim byd gwell na phaned o de a chacen.
(1, 2) 168 Os rhedi di i Siop {gellir enwi siop rhywun yn yr ardal lle y perfformir "Rhys Lewis"} i nol gwerth tair ceiniog o'r peilliad gore, dimeiwerth o gapten soda, a chwarter o gyrans, fydda i dro yn 'i gneyd hi.
 
(1, 2) 170 Wyt ti'n meddwl, William, y bydd Bob yn edrach yn go dda?
(Wil) Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail.
 
(Wil) Wn i ddim, ond mae ene un fantais wrth i goliar gael ei gymryd i'r jail.
(1, 2) 172 Be' ydi hwnnw, William?
(Wil) Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo, achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o.
 
(Wil) Fedra nhw ddim rhoi y County crop iddo fo, achos mi ddyffeia i nhw i dorri 'i wallt o yn fyrrach nag ydi o.
(1, 2) 175 Well i chi'ch dau fynd i'r relwe 'rwan i gyfarfod Bob.
 
(Marged) Yr ydw i'n disgwyl fod dydd eich trafferthion chwithau wedi darfod pan ddaw Bob adref.
(1, 2) 179 Wedi i mi ddeall fod pawb yn credu fod Bob yn ddi-euog, yr wyf yn berffaith dawel.
(Marged) Mae'r tren wedi dwad bellach, a dylai y bechgyn fod wedi cyrraedd y ty.
 
(Marged) Mae'r tren wedi dwad bellach, a dylai y bechgyn fod wedi cyrraedd y ty.
(1, 2) 181 O, mae'n debyg fod Bob yn gorfod siarad gydag amryw ar ei ffordd o'r relwe, ond dyma nhw'n dwad——
(Wil) {yn sefyll} Nyth caseg, Mari Lewis!
 
(Wil) Dydi Bob ddim wedi dwad!
(1, 2) 185 Mi wyddwn na ddoi o ddim.
(1, 2) 186 'Roedd rhwbath yn deyd wrtha i.
(1, 2) 187 Mi wn fod rhwbeth wedi hapio iddo fo.
(Wil) Mae'r bechgyn yn deyd y daw o yn siwr efo'r tren nesa.
 
(Wil) Ty'd, Rhys, gad i ni fynd i'r stesion, mae hi jest yn amser.
(1, 2) 191 Wel, do's mo'r help; fel hyn mae pethe i fod, a rhaid i ni ymostwng.
(Marged) Dase Mr. Brown yma, mi fase fo yn gallu'ch cysuro chi,—mae gyno fo ddigon i ddeyd ar adeg fel hyn.
 
(Marged) Dase Mr. Brown yma, mi fase fo yn gallu'ch cysuro chi,—mae gyno fo ddigon i ddeyd ar adeg fel hyn.
(1, 2) 193 Marged Pitars, peidiwch a son am y'ch Mr. Brown wrtha i.
(1, 2) 194 Dydw i yn gwybod am yr un dyn feder roi briw a'i wella fo, feder daflu i lawr a chodi i fyny,—cic a chusan ydw i'n galw peth fel ene.
(1, 2) 195 Fase Bob 'rioed wedi ei anfon i'r jail tase Mr. Brown wedi gwneyd ei ddyledswydd."
(Desc.) Re-enter Wil a Rhys.
 
(Wil) {wrth RHYS} Mae'r hen wraig yn sticio i fyny fel brick.
(1, 2) 198 Mi welaf mai newydd drwg sy gennoch chi eto, ond dydi o ddim ond y peth oeddwn i yn ei ddisgwyl.
(1, 2) 199 Mae rhwbeth wedi hapio iddo fo, ne mi fase adref cyn hyn.
(Wil) Peidiwch a rhoi'ch calon i lawr, Mari Lewis.
 
(Wil) Yr ydw' i yn credu y troiff Bob i fyny o rywle toc.
(1, 2) 202 Do's gennat ti ddim sail i obeithio am hynny, William.
(1, 2) 203 Y mae hi yr un fath arna i ag oedd hi ar Job.
(Wil) Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o?
 
(Wil) Ond doedd y pregethwr yn deyd y Sul o'r blaen, Mari Lewis, fod hi wedi dwad yn all right ar Job yn y diwedd, er yr holl hymbygio fu arno fo, ond oedd o?
(1, 2) 205 Oedd, William.
(1, 2) 206 A daswn inne cystal a Job, mi ddeuthai yn ol reit arna inne hefyd, wel di.
(Wil) Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw.
 
(Wil) Mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chi, Mari Lewis, achos yr ydach mor dduwiol a Job, mi gymra fy llw.
(1, 2) 208 Paid a rhyfygu a chablu, William.
(Wil) Yr ydw i yn deyd y gwir o nghalon; ac yn ol fel yr oedd y pregethwr yn deyd hanes Job, yr ydw i yn y'ch gweld chi'ch dau yn debyg iawn i'ch gilydd.
 
(Wil) Mi ddaru chi y'ch dau sticio at y'ch cylars yn first class, ac mae hi yn siwr o ddwad yn all right arnoch chithe.
(1, 2) 211 Yr ydw i yn begio arnat ti i dewi.
(1, 2) 212 Mi ddylet wybod nad ydw i ddim mewn tymer heno i wrando ar dy lol di.
(Wil) Lol! Nid lol ydyw at all.
 
(Wil) Mi fetia,—hynny ydi, mi gymra fy liw, y bydd hi yn all right arnoch chi yn y diwedd.
(1, 2) 215 William, oedd ene lawer o'r coliars yn y relwe?
(Wil) Miloedd ar filoedd.
 
(Wil) Miloedd ar filoedd.
(1, 2) 217 Dene ti eto; 'does dim ond tri chant yn gweithio yn y Caeau Cochion.
(Wil) Wel, ie, mewn ffordd o siarad, wyddoch, Mari Lewis.
 
(Wil) Yr ydw i yn siwr fod yno just i gant.
(1, 2) 220 Ddaru un o honoch chi ddim digwydd siarad efo John Powell?
(1, 2) 221 Beth oedd o yn 'i feddwl am fod Bob heb ddwad?
(Rhyshys a Wil) Doedd John Powell ddim yno!
 
(Rhyshys a Wil) Doedd John Powell ddim yno!
(1, 2) 223 Ddim yno!
(1, 2) 224 John Powell ddim yno!
(Wil) 'Roedd o'n gweithio stem y dydd.
 
(Wil) 'Roedd o'n gweithio stem y dydd.
(1, 2) 226 Pwy oedd yn deyd hynny wrthat ti, William?
(Wil) Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny.
 
(Wil) Neb, ond 'y mod i yn meddwl hynny.
(1, 2) 228 William, fyddet ti fawr o dro yn rhedeg can belled a thy John Powell, a deyd wrtho, os ydi o i mewn, y baswn i'n leicio 'i weld o.
(Wil) No sooner said than done.
 
(Wil) No sooner said than done.
(1, 2) 230 Mae hi yn dywyll iawn, William, ac mae o braidd yn ormod i mi ofyn i ti ddwad yn ol.
(1, 2) 231 Mi ddaw Rhys efo ti i gael gwybod rhywbeth gan John Powell, ac er mwyn i tithe gael mynd adre.
(Wil) Stand at ease; as you were!
 
(Wil) Os bydd y twllwch yn dew iawn, mi torra fo efo nghyllell. {Exit.}
(1, 2) 234 Mae ene rwbeth yn garedig iawn ac yn glen yn y bachgen ene, a fedra i yn y myw beidio'i hoffi o; ond mi hoffwn o yn fwy pydae o dipyn yn fwy difrifol ac yn siarad llai o Saesneg.
(1, 2) 235 Mi fydda i'n ofni llawer iddo fo dy neyd di, Rhys, yr un fath a fo'i hun; ac eto, dydw i ddim yn meddwl fod dichell yn 'i galon o.
(Wil) {wrth Rhys} Mi alwes i ddeyd wrth y gaffer acw mod i'n mynd i aros hefo ti heno.
 
(Wil) Rydan ni wedi colli sport iawn.
(1, 2) 239 Be' ddeydodd John Powell, William?
(Wil) Dydi o ddim gartre'.
 
(Wil) Mae ene gryn dair batel wedi bod, a Ned-un-llygad wedi ei gymryd i'r Rowndws; ond mi 'mladdodd fel llew efo'r plisman——
(1, 2) 243 William, mae'n amser i ti fynd adre, machgen i.
(Wil) Ddim yn mynd adre heno,—wedi deyd wrth y gaffer——
 
(James) {wrth y drws} Wel, Mari, sut yr ydach chi ers talwm?
(1, 2) 247 James, yr ydw i wedi deyd wrtho chi laweroedd o weithiau nad oedd gen i byth eisie gweld y'ch gwyneb chi, ac nad ydach chi ddim i ddwad i'r ty yma.
(James) Onid bachgen Hugh Bryan ydi o?
 
(James) Onid bachgen Hugh Bryan ydi o?
(1, 2) 249 Ie.
(James) Roeddwn i'n meddwl hynny ar 'i drwyn o.
 
(Wil) Be' ydach chi'n weld ar y nhrwyn i, yr angau pheasant gennoch chi?
(1, 2) 254 William, taw y munud yma, gore i ti.
(Wil) {wrth Rhys} Gai roi noled iddo fo?
 
(Rhys) Cymer ofal, Wil.
(1, 2) 257 Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi.
(James) Feder o ddal 'i dafod ar ol heno?
 
(James) Feder o ddal 'i dafod ar ol heno?
(1, 2) 259 O, meder, ond gore po leiaf weliff o arnoch chi.
(1, 2) 260 Well i chi fynd, mae rhywun arall yn siwr o ddwad——
(Bob) Holo! Gamekeeper, beth ydach chi eisio yma?
 
(Tomos) Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes?
(2, 1) 294 Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos.
(Tomos) Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro.
 
(Tomos) Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene.
(2, 1) 298 Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos.
(Tomos) Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus.
 
(Tomos) Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam.
(2, 1) 320 Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag.
(Barbara) Dowch, tipyn o'r ham a'r wye 'ma, Mari Lewis.
 
(Tomos) Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed.
(2, 1) 324 Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos.
(Tomos) Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality.
 
(Tomos) Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain?
(2, 1) 328 Na wn i.
(Tomos) Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta.
 
(Tomos) Wel, wfft i'w c'lonne nhw, meddwn inne.
(2, 1) 333 Bobol bach! mae hi yn amser y capel!