Rhys Lewis

Ciw-restr ar gyfer Rhys

(Mari) {yn siarad wrthi ei hun} Wn i ddim be ddaw o honom ni 'rwan.
 
(Sgt Williams) Rhaid i ni wneyd ein dyledswydd, wyddoch; ac fel y dywedais, yr wyf yn gobeithio y bydd popeth yn reit dydd Llun.
(1, 1) 79 Mam!—— {yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod}
(Sgt Williams) Dowch, Robert Lewis, waeth i ni heb ymdroi, wna hynny les yn y byd.
 
(Mari) Be wyt ti'n ddeyd ddeydodd Abel Hughes wrthat ti neithiwr, Rhys?
(1, 2) 111 Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail.
(Mari) Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail.
 
(Mari) Mae'n dda gen i fod Abel Hughes yn dal i gredu mai ar gam yr anfonwyd Bob i'r jail.
(1, 2) 113 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam.
(Mari) Yr ydw i yn synnu fod Mr. Brown, y Person, yn gallu pregethu am gyfiawnder a thrugaredd, ac ynta'i hun wedi bod ar y fainc yn cytuno efo gwr y Plas i weinyddu anghyfiawnder.
 
(Mari) Be' na i iddo fo, Rhys?
(1, 2) 164 Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans.
(Mari) Ie, dyna hi; wneiff honno ddim pwyso arno fo.
 
(Wil) {wrth Rhys} Gai roi noled iddo fo?
(1, 2) 256 Cymer ofal, Wil.
(Mari) Cerwch i ffwrdd, James, fel 'rydw i yn gofyn i chi.
 
(Tomos) Rhaid i ni hastio; rhaid iti adel y llestri, Barbara.
(2, 2) 342 Dacw Wil Bryan yn dwad.
(2, 2) 343 Welodd o mona i.
(2, 2) 344 Mi drof yn f'ol.
(2, 2) 345 Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach.
(2, 2) 346 Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da.
(2, 2) 347 Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr.
(2, 2) 348 Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd, paham yr wyf yn ei osgoi.
(Wil) Holo! yr hen fil blynyddoedd!
 
(Wil) Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug.
(2, 2) 357 Beth oedd yr helynt, Wil?
(Wil) Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw?
 
(Wil) Ond honour brigh, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni?
(2, 2) 397 Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen?
(2, 2) 398 Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar.
(2, 2) 399 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad.
(2, 2) 400 Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg.
(2, 2) 401 Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil?
(Wil) Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed.
 
(Wil) Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed.
(2, 2) 403 Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar.
(Wil) Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis i salach lawer gwaith.
 
(Wil) Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o?
(2, 2) 406 Do siwr.
(Wil) Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di.
 
(James) Nei di ddim ysgwyd llaw efo mi?
(2, 2) 455 F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno.
(2, 2) 456 Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon.
(2, 2) 457 Gadewch i mi basio.
(James) Be' sy arnat ti, fachgen?
 
(James) Pam yr wyt ti yn fy nghashau i?
(2, 2) 461 Pam, yn wir!
(2, 2) 462 Gwyddoch yn burion.
(2, 2) 463 Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo.
(2, 2) 464 Chi ddysgodd fy nhad i boachio.
(2, 2) 465 Chi a'i dysgodd i segura.
(2, 2) 466 Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch?
(James) Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd.
 
(James) Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd.
(2, 2) 468 I ble?
(2, 2) 469 I'r Merica?
(James) Na, i le cynhesach o lawer.
 
(James) Na, i le cynhesach o lawer.
(2, 2) 471 Siaradwch yn eglur.
(2, 2) 472 Lle mae o?
(James) Sut y medra i ddeyd wrthat ti?
 
(James) Fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad 'rwan; y cwbwl fedra i ddeyd ydi fod o wedi cicio'r bwced.
(2, 2) 475 Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith?
(James) Fu 'rioed well gwir.
 
(Miss Hughes) Eistedd fan yna, Rhys.
(2, 3) 519 O'r gore, Tomos Bartley.
(2, 3) 520 Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld.
(Tomos) Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd.
 
(Tomos) Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd.
(2, 3) 522 Esgidie pwy yw y rhai yna?
(Tomos) 'Sgidie Wil Pont y Pandy, {gellir nodi unrhyw gymeriad lleol}—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da 'i byth o'r fan 'ma!
 
(Tomos) Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara?
(2, 3) 533 Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn.
(Tomos) Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni.
 
(Tomos) Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu?
(2, 3) 536 Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley.
(Tomos) O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i
 
(Tomos) Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno?
(2, 3) 541 Ieithoedd, Tomos Bartley.
(Tomos) Hyhy! Pw ieithoedd, dwed?
 
(Tomos) Hyhy! Pw ieithoedd, dwed?
(2, 3) 543 Lladin a Groeg.
(Tomos) Hoho! mi gwela hi 'rwan,—rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte?
 
(Tomos) Riol peth, yn wir.
(2, 3) 546 Nag ydw.
(Tomos) 'Roeddwn inne yn meddwl hynny.
 
(Tomos) Be daru ti galw nhw?
(2, 3) 550 Lladin a Groeg.
(Tomos) Tw bi shwar,—Lladin a Groeg.
 
(Tomos) Tw bi shwar,—Lladin a Groeg.
(2, 3) 552 Nage.
(Tomos) Iaith pwy, ynte?
 
(Tomos) Iaith pwy, ynte?
(2, 3) 554 O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd.
(Tomos) Ieithoedd pobol wedi marw!
 
(Tomos) Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed?
(2, 3) 558 Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt.
(Tomos) Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth.
 
(Tomos) Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed?
(2, 3) 563 Mathematics.
(Tomos) Mathew Matic!
 
(Tomos) Be ydi hwnnw, dywed?
(2, 3) 567 Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly.
(Tomos) Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs.
 
(Tomos) Be arall ma nhw yn 'i ddysgu?
(2, 3) 570 Saesneg a Hanesiaeth.
(Tomos) Eitha peth.
 
(Tomos) Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono?
(2, 3) 581 Nid ydynt yn profeidio i neb.
(2, 3) 582 Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun.
(Tomos) Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns?
 
(Tomos) Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw?
(2, 3) 585 Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno.
(Tomos) Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano.
 
(Tomos) Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn.
(2, 3) 594 Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi.
(Tomos) Wel, wel! Arnat ti mae'r bai.
 
(Tomos) Nos dawch.
(2, 4) 617 Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio.
(2, 4) 618 Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf?—dyna y cwestiwn.
(2, 4) 619 Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg.
(2, 4) 620 Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes.
(2, 4) 621 Mae hi wedi cynnyg cyflog dai mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth.
(2, 4) 622 Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg.
(2, 4) 623 Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y disgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref.
(2, 4) 624 Ond waeth tewi am hynny.
(2, 4) 625 Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny,—choelie nhw mona i.
(2, 4) 626 Beth wnai?
(2, 4) 627 Wn i ddim.
(2, 4) 628 Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi-adnoddau ydwyf.
(2, 4) 629 Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth.
(2, 4) 630 Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau.
(2, 4) 631 Be ydw i'n siarad?
(2, 4) 632 Y cwestiwn ydyw, "Beth a wna i am arian?"
(2, 4) 633 'Does gen i fawr; dyma nhw—{yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, etc.}—chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog!
(2, 4) 634 Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala. {yn dal ei arian yn ei law}
(Miss Hughes) Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys.
 
(Miss Hughes) Yr ydw i'n mynd i gadw 'rwan, Rhys.
(2, 4) 637 Arhoswch funud.
(2, 4) 638 Mae gen i eisio siarad gair efo chwi.
(2, 4) 639 Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen.
(2, 4) 640 Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes.
(2, 4) 641 Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw.
(2, 4) 642 Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes.
(2, 4) 643 Yr wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg.
(2, 4) 644 Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle.
(Miss Hughes) Yr ydw i wedi siarad yn gas iawn lawer gwaith wrthat ti, Rhys.
 
(Miss Hughes) Mi wn y gwnei di fadde i mi.
(2, 4) 647 Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi.
(Miss Hughes) Roeddwn i wastad yn dy leicio di, mi wyddost o'r gore.
 
(Miss Hughes) Y ti ŵyr ore, a mi wnaf fel wyt ti yn deyd.
(2, 4) 651 Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi.
(Miss Hughes) Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte?
 
(Miss Hughes) Bydawn i yn cael rhwfun yn dy le di, fy robio i wnai o, hwyrach, ynte?
(2, 4) 653 Wn i ddim yn wir.
(Miss Hughes) Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti?
 
(Miss Hughes) Oedd ar Abel rwbeth o gyflog i ti?
(2, 4) 655 Dim.
(2, 4) 656 Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf.
(Miss Hughes) Dyma ti, mi wn y cei yn y College bopeth fyddi di eisio; ond hwyrach na chei di fawr o boced-myni.
 
(Wil) Wel, aros di, welis i monot ar ol y seiat y ces di dy alw i bregethu, ond dyma ni, just y peth, 'roeddwn i eisio cael ymgom efo ti.
(2, 4) 667 Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt.
(2, 4) 668 Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan?
(Wil) Bydawn i yn rhoi verbatim report i ti, wnai o les yn y byd i ti.
 
(Wil) Glywes di am danom ni acw?
(2, 4) 697 Clywed be, Wil?
(2, 4) 698 Dydw i ddim yn dy ddailt di.
(Wil) Wel, mae hi yn "U P" acw, a mi fydd pawb yn gwybod hynny cyn wythnos i heddyw, a fedra i mo'i sefyll hi.
 
(Wil) Fum i 'rioed o'r blaen yn really down in the mouth.
(2, 4) 710 Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt!
(2, 4) 711 Sut y daeth pethau i hyn?
(Wil) Rhy faith i fynd drostyn nhw, was.
 
(Wil) Mae'n rhaid i mi fynd,—mae rhywbeth yn fy ngyrru.
(2, 4) 720 'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil.
(2, 4) 721 Wnei di dderbyn un cyngor?
(Wil) Beth ydi hynny, old fellow?
 
(Wil) Beth ydi hynny, old fellow?
(2, 4) 723 Treia newid dy ffordd o fyw.
(Wil) Fedra i ddim, Rhys.
 
(Wil) Yr wyf yn teimlo bron 'run fath a Wolsey,—"Had I but served my God,"—mi wyddost am y geirie.
(2, 4) 729 Wil bach——
(Wil) Waeth iti heb siarad!
 
(Tomos) Sut yr wyt ti ers cantoedd â miloedd?
(3, 1) 795 Reit iach, Tomos.
(3, 1) 796 Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala?
(Tomos) Tw bi shwar!
 
(Tomos) Lle 'roeddat ti wrthi ddoe?
(3, 1) 809 Trawsfynydd.
(Tomos) Trawsfynydd?
 
(Tomos) Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd?
(3, 1) 812 Ië.
(Tomos) Tw bi shwar!
 
(Tomos) Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan?
(3, 1) 832 Oes y mae, Tomos.
(Tomos) Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma!
 
(Tomos) Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed?
(3, 1) 841 Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos.
(3, 1) 842 Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi?
(Tomos) Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti.
 
(Tomos) Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain.
(3, 1) 847 Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos?
(Tomos) Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn,—yn ol y meddwl i,—i dre wedi 'i bildio ar ganol cae.
 
(Tomos) Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti amser?
(3, 1) 857 Oes debyg.
(3, 1) 858 Mi ddanghosaf gymaint ag allaf.
(3, 1) 859 Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd.
(Tomos) Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn.
 
(Tomos) Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn.
(3, 1) 861 Well i mi 'molchi.
(Tomos) 'Molchi! I be wyt ti isio molchi?
 
(Tomos) Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?
(3, 1) 866 Fydda i 'run dau funud. {Ymneillduo am funud.}
(Tomos) Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma.
 
(Tomos) Ches di ddim bwyd?
(3, 1) 869 Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen.
(Tomos) Rhyd-y-fen?
 
(Tomos) Ydi hi'n daith?
(3, 1) 873 Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog.
(Tomos) Be, be?
 
(Tomos) Ond 'does dim harm yn y peth-ynddo'i hun, yn ol y meddwl i; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny.
(3, 1) 878 Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara.
(Tomos) Mae i ti groeso, machgen i.
 
(Tomos) {yn tanio ei getyn} Mi gychwynna i, fechgyn.
(3, 1) 881 Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos.
(Tomos) Oes drwg am hynny?
 
(Tomos) Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala?
(3, 1) 884 'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma.
(Williams) Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley.
 
(Williams) Mi fydde yn perfect treat.
(3, 1) 895 Fydde hynny ddim quite y peth.
(3, 1) 896 Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas.
(3, 1) 897 Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i.
(3, 1) 898 Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni.
(Williams) Paid a chyboli!
 
(Williams) Os cai, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico.
(3, 1) 904 Gei di, wir!
(3, 1) 905 Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd.
(Williams) Rhys Lewis sydd ar y ddau.
 
(Williams) Ydi hi'n iach?
(3, 1) 913 Paid a lolian, Williams.
(3, 1) 914 Edrych, beth ddyliet ti yw hwn?
(3, 1) 915 Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni.
(Williams) Llongyfarchiadau lond gwlad.
 
(Williams) Unpeth eto, Rhys.
(3, 1) 918 Beth ydi hwnnw, Williams?
(Williams) Gwraig reit dda.
 
(Williams) Pam mae dy wedd yn newid,—pa newydd drwg?
(3, 1) 922 Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld.
(Tomos) {oddiallan}
 
(Athraw) Mr. Evans of Denbigh, will you read?
(3, 2) 948 He is not here, sir.
(Athraw) Where is he?
 
(4, 1) 1019 Waeth i mi droi i edrych am lety.—{Clywed chwibiannu.}
(4, 1) 1020 Dyna'r hen "Gaersalem".
(4, 1) 1021 Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen.
(4, 1) 1022 Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma.
(Wil) Wel, yr hen ganfed!
 
(Wil) Wyddost ti pwy weles i rwan just?
(4, 1) 1030 Na wn i.
(Wil) Wel, mi weles yr hen Niclas yn dwad allan o'r lle yna, a mi canlynais o, a mi weles 'i fod o yn byw ar hyn o bryd yn 65 Gregg Street, ac mi ddois yn ol yma i edrych welwn i chwaneg o'r breed, a strange to tell, dyma tithe.
 
(Wil) Spowtia.
(4, 2) 1067 Wel, mi ges lythyr fod 'ne rywun yn y Carchar yna wedi marw, ac yn gofyn am danaf cyn marw.
(4, 2) 1068 Dois yma ar unwaith, ac aethum i'r Carchar, a phwy oedd yno ond fy ewythr James Lewis wedi marw.
(4, 2) 1069 Prin y medrwn i gredu ei fod wedi marw o ddifrif; ond mai rhyw gynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod allan o'r carchar.
(4, 2) 1070 Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt can oered a'r muriau llaith oedd o'n cwmpas.
(4, 2) 1071 Yr oedd cyn farwed a hoel, ac er ei fod yn ewythr i mi, frawd fy nhad, mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen.
(4, 2) 1072 Fedra i ddim llai na theimlo yn falch, nad all ef fy mlino i mwy.
(4, 2) 1073 Mi ddois allan o'r Carchar, ac mi wyddost y gweddill.
(Wil) Gwna dy hun gartref tra byddai yn ceisio'r grub yn barod.
 
(Wil) Wel, mi welaf fod ti'n cymeryd stoc.
(4, 2) 1078 Wel, Wil bach, wyt ti wedi dwad i hyn?
(Wil) Dwad i be?
 
(Wil) Dywed y gair, te neu goffi?
(4, 2) 1084 Te.
(Wil) Same here.
 
(Wil) Does gen i ddim llefrith chwaith,—ma'r tuberculosis yn enbyd ar y gwartheg yma, ac mae te heb laeth ynddo 'n torri syched yn well lawer, Rhys.
(4, 2) 1098 Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi.
(Wil) Wel, mi wyddost pan yr es i oddi cartre.
 
(Wil) Mae'r cwbl just a chael ei dalu rhyngom ni.
(4, 2) 1129 Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o.
(4, 2) 1130 Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref.
(Wil) Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir.
 
(Wil) Mi ddof rai o'r dyddiau nesaf yma, pan fydd yr accounts yn glir.
(4, 2) 1132 Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi.
(4, 2) 1133 A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni.
(Wil) Wait till the clouds roll by.
 
(Wil) Ddylies i'n siwr mai y got las oedd ene, having run us down to earth.
(4, 2) 1140 'O na, mae'n debyg ei fod yn gweld nad oeddym yn gwneyd drwg, ac wedi ein rhoi i fyny.
(Wil) Never be too sure!
 
(Wil) Os daw'r officer yma, be ddeydwn ni wrtho, dywed?
(4, 2) 1145 'Does dim i'w wneyd ond deyd y gwir, a chymeryd y canlyniadau.
(4, 2) 1146 Ond mi fynnaf wybod pwy oedd ar y gwely yn y ty yna, dae raid i mi fynd i ben y ffenestr eto.
(Wil) Deyd y gwir!
 
(Sgt Williams) Rhys, a ydych yn fy adnabod?
(4, 2) 1173 Nag ydw i'n wir.
(Sgt Williams) Bryan, a ydych chwi?
 
(Sgt Williams) Wyddoch chi pwy oedd yn y ty hwnnw, Rhys Lewis?
(4, 2) 1185 Mi wn fod yr hen Niclas yno.
(Sgt Williams) Ydi, ac y mae eich tad yno hefyd,—ar ei wely angau.
 
(Sgt Williams) Fuasech chi yn leicio ei weld?
(4, 2) 1190 Na fuaswn!
(4, 2) 1191 Ond yr ydw i wedi gwneyd addewid.
(4, 2) 1192 Buaswn.
(Wil) Ie, cyn iddo'i gloewi hi.
 
(Sgt Williams) Mi ddof hefo chwi.
(4, 2) 1195 Wel, mi awn; ond aros di, Wil, 'does gen i ddim llawer o amser i ddal y tren, achos rhaid i mi fynd yn ol i'r Bala yn ddiymdroi, am fod yr Exam gennon ni drwy'r wythnos nesaf.
(Wil) Wel, paid a synnu os bydd yours truly yn troi adref yn fuan, achos rydw i yn mawr gredu fod Wil Bryan yn dwad yn ei ol.
 
(Tomos) Dacw fo'n dwad ar y gair i ti.
(4, 3) 1214 Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw?
(Tomos) Digon symol ydi Barbara wir, wel di.
 
(Tomos) Wyst ti be, Rhys, mae 'i gweld hi yn sal fel hyn yn codi hireth arna i am Seth.
(4, 3) 1218 Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto.
(Tomos) Mae natur tranne yni hi heno, wel di; ac wrth feddwl am hynny, dene sy'n gneyd Barbara deimlo mor sal heno.
 
(Tomos) Mae un o'r moch ola ges i yn colli'i stumog bob amser cyn tranne.
(4, 3) 1221 Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell.
(4, 3) 1222 Mi ddowch |chi| i'r capel, Tomos?
(Tomos) Tw bi shwar.
 
(Wil) And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough-breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di.
(4, 3) 1231 Dowch i fewn.
(Tomos) Wel, William, mi 'rwyt ti'n edrych yn dda.
 
(Barbara) Ydi o'n wir, William, dy fod di yn mynd i briodi?
(4, 3) 1249 Rhaid i chi ddim swilio'ch dau.
(4, 3) 1250 Ydi o'n wir?
(Wil) Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys.
 
(Wil) Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma.
(4, 3) 1255 O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau.
(Wil) Well, that settles it.
 
(Wil) Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling?
(4, 3) 1260 Ydw.