Rhywun Wrth y Drws

Ciw-restr ar gyfer Elwyn

(Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
 
(Meredith) Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd.
(1, 0) 26 Mi ddylech chi fynd adre nhad.
(1, 0) 27 Ceisiwch gysgu dipyn.
(Meredith) Mynd i 'ngwely?
 
(Gwyneth) Wel, ewch am dro bach ynte'.
(1, 0) 31 Ie, dowch.
(1, 0) 32 Mi ddo' i efo chi.
(Meredith) {Yn angerddol.}
 
(Gwyneth) Arhoswch am dipyn cyn g'neud hynny wir.
(1, 0) 38 Ie, mi fasai'n well aros, 'nhad.
(Meredith) {Yn anadlu'n llafurus.}
 
(1, 0) 77 Do y pâr ifanc sydd eisio cael codi tŷ draw ym Mrynfelin.
(Morris) {Yn sgyrnygu.}
 
(1, 0) 83 Roedden nhw'n awyddus iawn i weld y cynllunia' ar unwaith.
(Morris) O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd.
 
(1, 0) 248 Be' sy' 'nhad?
(Meredith) Rho dy fraich i mi.
 
(Meredith) Gad i ni fynd rŵan.
(1, 0) 251 O'r gora'.
(1, 0) 252 Mi fyddai'n well i titha' wisgo amdanat hefyd Gwyneth.
(Morris) Rhaid i Miss Parry aros, dim ond am funud.
 
(2, 0) 1902 O mae'n ddrwg gen i, Mr Morris.
 
(Morris) Gad i ni ei gael o drosodd.
(2, 0) 1906 Ie wir.
(2, 0) 1907 Piti na fedren ni.
(Morris) Dydy dy dad ddim gwell rydw i'n deall.
 
(Morris) Dydy dy dad ddim gwell rydw i'n deall.
(2, 0) 1909 Mae 'nhad yn gwanio'n gyflym.
(2, 0) 1910 Am hynny rydw i'n gofyn ac yn erfyn arnoch chi, 'newch chi sgrifennu gair neu ddau o gymeradwyaeth ar y plania'.
(2, 0) 1911 Rhywbeth i 'nhad ei ddarllen cyn iddo...
(Morris) {Yn gadarn.}
 
(Morris) Wrandawa' i ddim mwy am y cynllunia' yma sy' gen ti.
(2, 0) 1914 Ydych chi wedi edrych arnyn nhw?
(Morris) Ydw.
 
(Morris) Ydw.
(2, 0) 1916 A dydyn nhw'n dda i ddim?
(2, 0) 1917 Na finna'n dda i ddim chwaith?
(Morris) {Rhag ateb.}
 
(Morris) Ond paid â meddwl am godi tai ar dy liwt dy hun.
(2, 0) 1923 Ah wel.
(2, 0) 1924 Felly mae'n rhaid i mi fynd adre a gadael i 'nhad wybod be' ydych chi'n ei dd'eud.
(2, 0) 1925 Dyna wnes i addo.
(2, 0) 1926 Dyna ydych eisio i mi dd'eud wrth fy nhad cyn iddo farw?
(Morris) {Yn griddfan y gair cyntaf.}
 
(Morris) Gwell peidio deud dim wrtho fo.
(2, 0) 1931 Ga' i'r plania' i fynd efo mi?
(Morris) Cei, cymer nhw ar bob cyfri.
 
(2, 0) 1935 Diolch.
(Helen) {Yn rhoi ei llaw ar y ffolder.}
 
(Morris) Gadael nhw yma ynte'.
(2, 0) 1943 O'r gora'.
(Morris) Gwell i ti fynd adre at dy dad ar d'union.
 
(Morris) Gwell i ti fynd adre at dy dad ar d'union.
(2, 0) 1945 Ie, rhaid i mi.
(Morris) {Bron â cholli arno'i hun.}
 
(Morris) Rhaid i ti beidio.
(2, 0) 1950 Wrth gwrs, maddeuwch i mi.
(Helen) {Yn edrych yn gas ar Morris.}
 
(Morris) O, chdi sy' wedi dod â hi Elwyn?
(3, 0) 2861 Roeddwn i wedi addo i'r fforman y g'nawn i.
(Morris) {Yn teimlo rhyddhad.}
 
(Morris) A mae dy dad yn well felly ynte?
(3, 0) 2864 Nâc ydy.
(Morris) Ddaru'r hyn sgrifennais i mo'i gysuro fo?
 
(Morris) Ddaru'r hyn sgrifennais i mo'i gysuro fo?
(3, 0) 2866 Roedd hi'n rhy hwyr.
(Morris) Rhy hwyr!
 
(Morris) Rhy hwyr!
(3, 0) 2868 Pan gyrhaeddodd hi roedd o'n anymwybodol.
(3, 0) 2869 Wedi cael strôc.
(Morris) Gwell i ti fynd adre ato fo.
 
(Morris) Rhaid i ti fynd i edrych ar ôl dy dad.
(3, 0) 2872 'Dydy o mo f'angen i ddim mwy.
(Morris) Ond mi ddylet ti fod efo fo, debyg iawn.
 
(Morris) Ond mi ddylet ti fod efo fo, debyg iawn.
(3, 0) 2874 Mae hi'n eistedd wrth ei wely fo.
(Morris) {Yn ansicr braidd.}
 
(3, 0) 2878 Ie, Gwyneth.
(Morris) Dos di adre, Elwyn.
 
(3, 0) 2883 Dydych chi erioed yn meddwl g'neud hynny'ch hun?
(Morris) Rydw i eisio mynd â hi i lawr iddyn nhw fy hun.
 
(Morris) 'Dydyn ni mo d'angen di heddiw.
(3, 0) 2888 Rydw i'n deall na fyddwch chi mo' f'angen i yn y dyfodol.
(3, 0) 2889 Ond rydw i'n aros heddiw.
(Morris) O'r gora', aros.
 
(Helen) Rydw i'n meddwl y gallech chi, o leia', fod wedi diolch iddo fo.
(3, 0) 2902 Diolch.
(3, 0) 2903 Ddylwn i fod wedi diolch iddo fo?
(Helen) Wel, dylech wrth gwrs.
 
(Helen) Wel, dylech wrth gwrs.
(3, 0) 2905 Rydw i'n meddwl mai i chi y dylwn i ddiolch.
(Helen) Sut y gellwch chi dd'eud y fath beth?
 
(3, 0) 2908 Ond byddwch yn ofalus, Miss O'Reilly.
(3, 0) 2909 'Dydych chi ddim yn ei nabod o eto.
(Helen) {Gydag angerdd.}
 
(3, 0) 2913 Diolch iddo fo!
(3, 0) 2914 Y dyn gadwodd fi i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn.
(3, 0) 2915 Y dyn barodd i 'nhad golli ffydd yn fy ngallu i.
(3, 0) 2916 Wnaeth i mi golli ffydd ynof fi fy hun...
(3, 0) 2917 A'r cwbwl dim ond iddo fo...
(Helen) {Fel petai hi'n ffroeni rhywbeth.}
 
(Helen) D'wedwch, ar unwaith!
(3, 0) 2921 Iddo fo gael ei chadw hi efo fo.
(Helen) {Yn cychwyn ato'n sydyn.}
 
(Helen) Yr hogan 'na wrth y ddesg?
(3, 0) 2924 Ie.
(Helen) {Yn fygythiol, yn dangos ei dyrnau.}
 
(Helen) Rydych chi'n d'eud anwiredd amdano fo.
(3, 0) 2928 Roeddwn innau yn gwrthod credu hynny hyd heddiw... pan dd'wedodd hi ei hun.
(Helen) {Fel pe'n colli arni ei hun.}
 
(Helen) Y munud 'ma.
(3, 0) 2934 Mi dd'wedodd hi ei fod o wedi meddiannu ei meddwl hi... yn gyfangwbwl.
(3, 0) 2935 Wedi'i orseddu'i hun yn ei holl feddylia' hi.
(3, 0) 2936 Na fedrith hi ddim dianc.
(3, 0) 2937 ... Ei bod hi am aros yma, lle mae o...
(Helen) {A'i llygaid yn melltennu.}
 
(Helen) Chaiff hi 'mo'r cyfle!
(3, 0) 2940 Pwy sy'n d'eud?
(Helen) Mi fydd o'n d'eud.
 
(Helen) Mi fydd o'n d'eud.
(3, 0) 2942 O, rydw i'n deall.
(3, 0) 2943 Ar ôl hyn fasai hi ddim ond yn rhwystr iddo.
(Helen) Dydych chi'n deall dim.
 
(Helen) Na, mi dd'weda' i wrthych chi pam roedd o'n dal ei afael ynddi hi.
(3, 0) 2947 Pam, ynte'?
(Helen) Er mwyn eich cadw chi.
 
(Helen) Er mwyn eich cadw chi.
(3, 0) 2949 Dd'wedodd o hynny wrthych chi?
(Helen) Naddo.
 
(Helen) Rydw i eisio iddi hi fod felly.
(3, 0) 2954 A'r funud y daethoch chi, mi adawodd o iddi hi fynd.
(Helen) Na, |chi|.
 
(3, 0) 2959 Oes posib mai f'ofn i oedd arno fo drwy'r amser?
(Helen) Ofn wir.
 
(Helen) Peidiwch â bod mor hunan-dybus, bendith y Tad i chi.
(3, 0) 2963 Mae'n siŵr ei fod o wedi sylweddoli ers talwm fod gen i rywfaint o allu.
(3, 0) 2964 P'run bynnag, ydych chi ddim yn gweld mai ofn sy' amo fo?
(Helen) Fo?
 
(Helen) Peidiwch â malu awyr.
(3, 0) 2967 Yn ei ffordd ei hun mae o'n llwfr.
(3, 0) 2968 Isaac Ryan Morris, Contractor!
(3, 0) 2969 Does arno fo ddim ofn dwyn oddi ar bobol eraill,... eu hapusrwydd.
(3, 0) 2970 Fel mae o wedi difetha bywyd 'nhad a finna'.
(3, 0) 2971 Ond pan ddaw hi i ddringo rhyw fymryn o sgaffald, mae'n well ganddo fo 'neud unrhyw beth na hynny.
(Helen) O, pe baech chi wedi'i weld o yn uchel, uchel, yn yr entrychion fel y gwelais i o.
 
(Helen) O, pe baech chi wedi'i weld o yn uchel, uchel, yn yr entrychion fel y gwelais i o.
(3, 0) 2973 Welsoch chi hynny?
(Helen) O, do.
 
(Helen) Yn sefyll reit ar y top a gosod y |wreath| ar y ceiliog gwynt.
(3, 0) 2977 Mi wn i iddo fo fentro yr un tro hwnnw yn ei fywyd.
(3, 0) 2978 Dim ond un tro.
(3, 0) 2979 Rydyn ni'r dynion ifainc wedi bod yn sôn am y peth.
(3, 0) 2980 Ond 'does 'na 'run gallu ar y ddaear fedrai ei gael o i 'neud hynny eto.
(Helen) Heddiw, mi fydd o'n g'neud hynny eto.
 
(3, 0) 2983 Gawn ni |weld|.
(Helen) Mi |gawn| ni weld!
 
(Helen) Mi |gawn| ni weld!
(3, 0) 2985 Welwch chi na finna' mo hynny.
(3, 0) 2986 Bendant.
(Helen) {Gydag angerdd arbennig.}
 
(Helen) Ac mi ga' i.
(3, 0) 2991 Na, wnaiff o ddim.
(3, 0) 2992 Feiddith o ddim.
(3, 0) 2993 Dyna'r man gwan yn ei gymeriad o... y giaffar, er mor glyfar ydy o... y contractor pwysig.
(Mrs Morris) {Yn edrych o'i chwmpas.}
 
(Mrs Morris) B'le mae o wedi mynd?
(3, 0) 2998 Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion,
(Helen) Mae o wedi mynd â'r |wreath|.
 
(Mrs Morris) Perswadiwch o i ddod yn ôl i fan 'ma.
(3, 0) 3006 Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris?
(Mrs Morris) Ie.
 
(Mrs Morris) D'wedwch fod 'na rywun yma ac iddo ddod ar unwaith.
(3, 0) 3011 O'r gora', mi 'na i hynny Mrs Morris.
 
(Mrs Morris) Oes 'na fand hefyd?
(3, 0) 3236 Oes.
(3, 0) 3237 Band yr Undeb ydy o.
 
(3, 0) 3239 Mi ofynnodd y fforman i mi ddeud wrthych chi 'i fod o'n barod i fynd i fyny efo'r |wreath|.
(Morris) {Yn cymryd ei het.}
 
(3, 0) 3270 Miss O'Reilly.
(3, 0) 3271 Welwch chi'r dynion ifainc 'na i lawr yn y stryd?
(Helen) Gwelaf.
 
(Helen) Gwelaf.
(3, 0) 3273 Y gweithwyr ifainc a'r prentisiaid ydyn nhw, wedi dod i wylio'r bos.
(Helen) I be' mae nhw eisio'i wylio fo?
 
(Helen) I be' mae nhw eisio'i wylio fo?
(3, 0) 3275 Mae nhw eisio gweld cymaint o ofn arno fo na 'naiff o ddim dringo i ben ei dŷ ei hun.
(Helen) A dyna be mae'r hogia' eisio, ie?
 
(3, 0) 3278 Mae o wedi'n dal ni i lawr.
(3, 0) 3279 Rŵan, mi gawn ni ei weld o'i hun yn gorfod aros i lawr yn y gwaelod.
(Helen) Welwch chi mo hynny.
 
(3, 0) 3283 Felly wir.
(3, 0) 3284 B'le gwelwn ni o ynte'?
(Helen) I fyny reit ar y top, wrth y ceiliog gwynt.
 
(3, 0) 3288 Fo?
(3, 0) 3289 Dyna ydych |chi|'n ei feddwl.
(Helen) Mae o wedi rhoi ei feddwl ar gyrraedd pen y tŵr.
 
(Helen) A dyna lle gwelwch chi o, ar y copa.
(3, 0) 3292 Meddwl, ie.
(3, 0) 3293 Mi fedra' i gredu hynny'n hawdd.
(3, 0) 3294 Ond |fedrith| o ddim.
(3, 0) 3295 Mi gâi bendro... ymhell cyn cyrraedd hanner y ffordd.
(3, 0) 3296 Mi f'asai'n rhaid iddo gropian i lawr ar ei bedwar.
(Dr Hughes) {Yn pwyntio.}
 
(3, 0) 3303 Ond Duw annwyl... fo.
(Helen) {Yn torri allan mewn llawenydd.}
 
(3, 0) 3327 Rhaid iddo droi'n ôl rŵan.
(3, 0) 3328 ... 'Does dim arall amdani.
(Helen) Dringo... dal i ddringo!
 
(3, 0) 3345 Ond, mae hyn yn...
(Helen) Fel hyn yr ydw i wedi'i weld o drwy gydol y deng mlynedd.
 
(Helen) Rŵan mae o'n gosod y |wreath| ar y ceiliog gwynt!
(3, 0) 3350 Rydw i'n teimlo mod i'n gweld rhywbeth amhosib.
(Helen) Ie, yr amhosib!
 
(Helen) Welwch chi rywun arall i fyny 'na efo fo?
(3, 0) 3355 Na, does 'na neb arall.
(Helen) Oes.
 
(Helen) Mae 'na un, y mae o'n dadla' efo fo.
(3, 0) 3358 Does 'na neb yna.
(Helen) Ydych chi ddim yn clywed cân yn yr awyr chwaith?
 
(Helen) Ydych chi ddim yn clywed cân yn yr awyr chwaith?
(3, 0) 3360 Rhaid mai'r gwynt ydy o, ym mriga'r coed.
(Helen) Rydw i'n clywed cân orfoleddus.
 
(3, 0) 3390 Mae'n rhaid ei fod o wedi'i falu'n ddarna'.
(3, 0) 3391 Wedi'i ladd yn y fan.
(Un o'r merched) {Tra bod Mrs Morris yn cael ei chario i'r tŷ.}
 
(Un o'r merched) Rhedwch i lawr am y doctor...
(3, 0) 3394 Fedra' i ddim symud...
(Merch arall) Wel, gwaeddwch ar rywun ynte'!
 
(3, 0) 3397 Sut mae petha?
(3, 0) 3398 Ydy o'n fyw?
(Llais) {I lawr yn yr ardd.}
 
(Helen) Alla' i mo'i weld o i fyny na rŵan.
(3, 0) 3406 Mae hyn yn ofnadwy.
(3, 0) 3407 Methu ddaru o yn y diwedd.