Rhywun Wrth y Drws

Ciw-restr ar gyfer Helen

(Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
 
(Morris) Dowch i mewn.
(1, 0) 711 Hiya.
(1, 0) 712 Long time no see.
(1, 0) 713 Sut ydych chi?
(Morris) {Yn edrych yn amheus arni.}
 
(1, 0) 717 'Dydych chi erioed wedi colli nabod arna' i?
(Morris) Ydw, rhaid i mi gyfadde'... am funud...
 
(1, 0) 722 O, chi oedd yn...
(Dr Hughes) Ie, wrth gwrs.
 
(Dr Hughes) Be' ddaeth o'r merched eraill?
(1, 0) 727 O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin.
(Dr Hughes) Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'...
 
(Dr Hughes) Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'...
(1, 0) 729 Oedden, 'dw i'n meddwl.
(Dr Hughes) {Gan godi ac ysgwyd ei fys.}
 
(Dr Hughes) A 'does dim gwadu na ddar'u chi fflyrtio dipyn bach efo ni.
(1, 0) 732 Wel, roedd hynny'n fwy o hwyl nag eiste' yno'n yfed te efo'r hen wragedd rheini.
(Dr Hughes) {Yn chwerthin.}
 
(Morris) Heno y daethoch chi i'r dre 'ma?
(1, 0) 736 Ie, newydd gyrraedd.
(Dr Hughes) Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly?
 
(Dr Hughes) Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly?
(1, 0) 738 Siwr iawn.
(Morris) O'Reilly, O'Reilly ydy'ch enw chi?
 
(1, 0) 741 le, wrth gwrs.
(Morris) Rhaid mai merch y doctor draw ym Mryn Padarn ydych chi felly?
 
(1, 0) 744 le, merch pwy arall allwn i fod?
(Morris) O wel.
 
(1, 0) 748 le wrth gwrs, yr adeg honno oedd hi.
(Morris) Wel, mae dipyn go lew o amser ers hynny.
 
(1, 0) 751 Deng mlynedd union yn ôl oedd hi.
(Morris) Rhaid nad oeddech chi ond plentyn bach yr adeg honno f'aswn i'n meddwil.
 
(1, 0) 754 Dim mor fach.
(1, 0) 755 Roeddwn i'n un deg tair.
(Dr Hughes) Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly?
 
(Dr Hughes) Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly?
(1, 0) 757 Yep.
(Morris) Dydych chi'n nabod neb yma chwaith?
 
(Morris) Dydych chi'n nabod neb yma chwaith?
(1, 0) 759 Neb ond chi.
(1, 0) 760 A'ch gwraig wrth gwrs.
(Morris) O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly?
 
(Morris) O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly?
(1, 0) 762 Ddim yn dda iawn.
(1, 0) 763 Ddar'u ni dreulio 'chydig ddiwrnodia' efo'n gilydd pan oedd hi yn y mynyddoedd er mwyn ei hiechyd.
(Morris) O, i fyny yno.
 
(Morris) O, i fyny yno.
(1, 0) 765 Mi ddwedodd hi wrtha i am alw os byth y down i i'r dre.
 
(1, 0) 767 Nid na f'aswn i wedi dod 'run fath, cofiwch.
(Morris) Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn.
 
(Morris) Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn.
(1, 0) 773 Wel rŵan rhaid i mi ofyn i chi.
(1, 0) 774 Ga' i aros yma dros nos, os gwelwch chi'n dda?
(Morris) Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr.
 
(Morris) Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr.
(1, 0) 776 Diolch yn fawr.
(1, 0) 777 Does gen i ddim Ilawer o ddillad eraill heblaw'r rhai sy' amdana i, ar wahan i ddillad isa sbar a mae'r rheini eisio'u golchi.
(1, 0) 778 Mae nhw'n fudron iawn.
(Morris) O mi ofalwn ni am hynny.
 
(Mrs Morris) Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg?
(1, 0) 813 Does gen i ddim |luggage|.
(Mrs Morris) Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr.
 
(1, 0) 826 Oes gennych chi lawer o stafelloedd plant?
(Morris) Mae yma dair yn y tŷ yma.
 
(Morris) Mae yma dair yn y tŷ yma.
(1, 0) 828 Ew! mae hynny'n Ilawer.
(1, 0) 829 Mae gennych chi lawer iawn o blant felly, debyg.
(Morris) Na 'does yma'r un plentyn.
 
(Morris) Ond rŵan mi gewch chi fod yn blentyn yma am dipyn.
(1, 0) 832 Am heno.
(1, 0) 833 OK.
(1, 0) 834 Wna i ddim crio.
(1, 0) 835 Mi gysga' i fel top.
(Morris) Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr.
 
(Morris) Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr.
(1, 0) 837 O naddo.
(1, 0) 838 Ond p'run bynnag mae hi'n braf ofnadwy; gorwedd a breuddwydio.
(Morris) Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos?
 
(Morris) Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos?
(1, 0) 840 O byddaf, bron bob amser.
(Morris) Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'?
 
(Morris) Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'?
(1, 0) 842 'Dydw i ddim yn mynd i dd'eud heno.
(1, 0) 843 Rywdro eto hwyrach.
 
(Morris) Ydych chi'n chwilio am rywbeth?
(1, 0) 847 Na, dim ond sbio ar yr holl betha' 'ma.
 
(1, 0) 849 Hwyrach na ddylwn i ddim?
(Morris) Twt, twt.
 
(Morris) G'newch ar bob cyfri.
(1, 0) 852 Chi fydd yn gweithio ar y cyfrifiadur 'ma?
(Morris) Nac e.
 
(Morris) F'ysgrifenyddes i.
(1, 0) 855 Merch felly?
(Morris) {Yn gwenu.}
 
(Morris) Wrth gwrs.
(1, 0) 858 Un o staff yr offis 'ma, ie?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Ie.
(1, 0) 860 Ydy hi wedi priodi?
(Morris) Na, sengal ydy hi.
 
(Morris) Na, sengal ydy hi.
(1, 0) 862 Wela i.
(Morris) Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl.
 
(Morris) Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl.
(1, 0) 864 Neis iawn iddi hi.
(Morris) Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn.
 
(Morris) Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn.
(1, 0) 866 Fedrwch chi ddim cael rhywun arall cystal â hi?
(Morris) Hwyrach y b'asech chi yn aros yma fel ysgrifenyddes?
 
(1, 0) 869 No way.
(1, 0) 870 Dim byd fel 'na i mi,
 
(1, 0) 872 achos mae'n rhaid bod 'na ddigon o betha' heblaw hynny i'w g'neud yma.
(1, 0) 873 Cytuno?
 
(1, 0) 878 Na, mi gaiff hynny ddisgwyl, 'dw i'n meddwl.
(Morris) O, felly wir.
 
(Morris) O, felly wir.
(1, 0) 880 'Does gen i 'run geiniog ar ôl, ydych chi'n gweld.
(Morris) {Yn chwerthin.}
 
(Morris) Na chesus na phres felly!
(1, 0) 883 'Run o'r ddau ond hidiwch befo; dim dam ots am hynny rŵan.
(Morris) Wel dyna hogan.
 
(Morris) Rydw i'n hoffi hyn'na ynoch chi.
(1, 0) 886 Hyn 'na'n unig?
(Morris) Hyn 'na ymhlith petha' eraill.
 
(Morris) Ydy'ch tad yn dal yn fyw?
(1, 0) 890 Ydy, mae o'n fyw.
(Morris) Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach?
 
(Morris) Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach?
(1, 0) 892 Na, feddyliais i ddim am hynny.
(Morris) Ond mi fyddwch yn aros am dipyn?
 
(Morris) Ond mi fyddwch yn aros am dipyn?
(1, 0) 894 Dibynnu.
 
(1, 0) 896 Mr Morris?
(Morris) Wel?
 
(Morris) Wel?
(1, 0) 898 Ydy'ch co' chi'n ddrwg iawn?
(Morris) Fy ngho' i'n ddrwg.
 
(Morris) Ddim hyd y gwn i.
(1, 0) 901 Does gennych chi ddim byd i'w dd'eud wrtha i am yr hyna ddigwyddodd i fyny yna?
(Morris) {Wedi'i synnu am eiliad.}
 
(1, 0) 907 Sut y medrwch chi eistedd i lawr a d'eud y fath beth?
(1, 0) 908 Mormis
(1, 0) 909 Wel, d'wedwch chi wrtha i am y Ile ynte'.
(1, 0) 910 Pan orffennwyd y tŵr mi gawson ni lawer o hwyl yn dathlu yn y dre.
(Morris) O do.
 
(1, 0) 914 Na 'newch?
(1, 0) 915 'Dydych chi ddim mor ddrwg felly, yr hen gariad.
(Morris) Drwg?
 
(Morris) Drwg?
(1, 0) 917 Roedd 'na ganu yn y fynwent, a channoedd lawer o bobol.
(1, 0) 918 Roedden ni'r genod ysgol mewn gwyn a roedden ni i gyd yn cario fflagia'.
(Morris) A! Ie, y baneri rheini.
 
(Morris) Rydw i'n cofio'r rheini, mi ellwch fentro.
(1, 0) 921 Wedyn mi ddar'u chi ddringo i fyny'r |scaffold| yn syth i ben ucha'r tŵr.
(1, 0) 922 Roedd gennych chi |wreath| fawr o floda' a mi rhoisoch chi hi i hongian reit ar ben y ceiliog gwynt.
(Morris) {Yn torri ar ei thraws yn gwta.}
 
(Morris) Roeddwn i'n g'neud hynny bob amser ers talwm; mae o'n hen arferiad.
(1, 0) 925 Roedd o'n exciting iawn i fod yn y gwaelod yn edrych i fyny arnoch chi.
(1, 0) 926 Dim ond meddwl... beth 'tai o'n disgyn, fo, y prif adeiladwr ei hun!
(Morris) {I'w harwain oddi wrth y testun.}
 
(1, 0) 931 Hwre i Mr Isaac Ryan Morris.
(1, 0) 932 Hwre i'r adeiladwr dewr!
(1, 0) 933 Ie?
(Morris) A roedd hi'n codi'i law a chwifio'i baner gymaint nes yr oeddwn i'n teimlo dipyn o bendro wrth edrych arni hi.
 
(1, 0) 936 Y g'nawes bach,... fi oedd honno.
(Morris) {Yn sefydlu ei olwg arni.}
 
(1, 0) 941 O, roedd hi mor wefreiddiol o braf.
(1, 0) 942 F'aswn i ddim wedi coelio bod yna adeiladwr yn y byd i gyd f'asai wedi gallu codi twr mor ofnadwy o uchel.
(1, 0) 943 A wedyn, i feddwl y b'asech chi'ch hun yn sefyll ar ben y tŵr yn gadarn.
(1, 0) 944 A dim arwydd o bendro arnoch chi.
(1, 0) 945 Roeddwn i'n teimlo'n reit wan wrth sbio.
(Morris) Sut roeddech chi'n medru bod mor siŵr nad oedd arna i...?
 
(1, 0) 948 Nâc oedd wir.
(1, 0) 949 O, nâc oedd.
(1, 0) 950 Roedd rhywbeth yn d'eud wrtha i; petai arnoch chi bendro, f'asech chi byth wedi gallu sefyll yno a chanu.
(Morris) {Mewn syndod.}
 
(Morris) Wnes i ganu?
(1, 0) 954 Do, mi f'aswn i'n meddwl wir.
(Morris) {Yn ysgwyd ei ben.}
 
(Morris) Chanais i erioed nodyn yn fy mywyd.
(1, 0) 957 Do wir.
(1, 0) 958 Mi ddar'u chi ganu'r adeg honno.
(1, 0) 959 Roedd o'n swnio fel telyna' yn yr awyr.
(1, 0) 960 Mortis
 
(1, 0) 962 Mae hyn i gyd yn rhyfedd iawn.
 
(1, 0) 964 Ond wedyn, wedyn y digwyddodd y peth mawr.
(Morris) Y peth mawr?
 
(1, 0) 967 Ie, 'does dim rhaid i mi'ch atgoffa chi o hynny, siawns.
(Morris) Oes wir.
 
(Morris) D'wedwch ychydig bach i'm hatgoffa i o hynny hefyd.
(1, 0) 970 Ydych chi ddim yn cofio bod cinio mawr yn y neuadd i'ch anrhydeddu chi?
(Morris) Ydw.
 
(Morris) Rhaid mai'r un pnawn oedd hi, achos mi es i odd'no'r bore wedyn.
(1, 0) 973 Ac ar ôl hynny mi gawsoch chi wadd i'n tŷ ni i swper.
(Morris) Rydych chi'n iawn Miss O'Reilly.
 
(Morris) Mae'n syndod gymaint o argraff y mae'r manion yma wedi'i 'neud arnoch chi.
(1, 0) 976 Manion!
(1, 0) 977 Wel dyna i ni.
(1, 0) 978 Peth bychan hefyd oedd fy mod i ar |fy mhen fy hun| pan ddaethoch chi i mewn debyg?
(Morris) Oeddech chi ar eich pen eich hun?
 
(1, 0) 981 Nid hen g'nawes bach ddar'u chi 'ngalw i yr adeg honno.
(Morris) Nac e debyg.
 
(Morris) Nac e debyg.
(1, 0) 983 Mi dd'wedsoch 'mod i'n ddel iawn yn fy ffrog wen a 'mod i'n edrych fel tywysoges fach.
(Morris) 'Dydw i ddim yn ama' nad oeddech chi, Miss O'Reilly.
 
(Morris) A pheth arall, roeddwn i'n teimlo mor rhydd a llon y diwrnod hwnnw.
(1, 0) 986 Wedyn dyma chi'n d'eud y cawn i fod yn dywysoges i chi wedi i mi dyfu.
(Morris) {Yn chwerthin.}
 
(Morris) Dd'wedais i hynny hefyd?
(1, 0) 990 Do, mi ddar'u chi.
(1, 0) 991 A phan ofynnais i pa mor hir y byddai raid i mi ddisgwyl, dyma chi'n d'eud y b'asech chi'n dod eto ymhen deng mlynedd,... fel dewin, a mynd â fi dros y môr i rywle.
(1, 0) 992 A mi ddar'u chi addo prynu teyrnas i mi yno.
(Morris) {Fel o'r blaen.}
 
(1, 0) 998 Do, a mi ddar'u chi dd'eud hefyd be' fyddai enw'r deyrnas.
(Morris) Wel, be' oedd o?
 
(Morris) Wel, be' oedd o?
(1, 0) 1000 Teyrnas y Cymyla' fyddai ei henw hi, meddech chi.
(Morris) Enw hyfryd iawn wir.
 
(Morris) Enw hyfryd iawn wir.
(1, 0) 1002 Na 'doeddwn i'n lecio dim arno fo; roedd o fel 'tâech chi'n g'neud sbort am fy mhen i.
(Morris) Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i.
 
(Morris) Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i.
(1, 0) 1004 Nac e gobeithio, a chofio be' ddar'u chi wedyn...
(Morris) Be' ar y ddaear wnes i wedyn?
 
(Morris) Be' ar y ddaear wnes i wedyn?
(1, 0) 1006 Wel, dyna'r ora' eto.
(1, 0) 1007 Os ydych chi wedi anghofio hynny hefyd.
(1, 0) 1008 Mi f'aswn i'n disgwyl na allai neb lai na chofio peth felly.
(Morris) Ol reit.
 
(1, 0) 1013 Mi ddar'u chi 'nghusanu fi Mr Morris.
(Morris) {A i geg yn agored; yn codi o'i gadair.}
 
(Morris) Wnes i?
(1, 0) 1016 Do wir, mi ddar'u chi.
(1, 0) 1017 Mi roesoch chi'ch breichia' amdana i a phlygu 'mhen i'n ôl a 'nghusanu fi,... lawer gwaith.
(Morris) Rŵan, mewn difri', Miss O'Reilly...
 
(1, 0) 1020 'Dydych chi erioed yn mynd i wadu?
(Morris) Ydw.
 
(1, 0) 1024 O felly wir.
(Morris) {Yn mynd ati hi o'r tu ôl yn ofalus.}
 
(1, 0) 1051 Rydych chi'n cyfadde' rŵan ynte?
(Morris) Ydw, unrhyw beth leciwch chi.
 
(Morris) Ydw, unrhyw beth leciwch chi.
(1, 0) 1053 Roesoch chi'ch breichia' amdana' i?
(Morris) Do.
 
(Morris) Do.
(1, 0) 1055 A phlygu 'mhen i'n ôl?
(Morris) O, reit yn ôl.
 
(Morris) O, reit yn ôl.
(1, 0) 1057 A nghusanu fi?
(Morris) Do, mi wnes i.
 
(Morris) Do, mi wnes i.
(1, 0) 1059 Lawer gwaith?
(Morris) Gymaint o weithia' ag a fynnoch chi.
 
(1, 0) 1062 Wel, mi lwyddais i i'ch cael chi i gyfadde' o'r diwedd, on'd do?
(1, 0) 1063 Mornis
 
(1, 0) 1065 Do.
(1, 0) 1066 I feddwl 'mod i wedi anghofio peth fel'na.
 
(1, 0) 1068 O rydych chi wedi cusanu cymaint o ferched yn eich dydd, debyg.
(Morris) Na, rhaid i chi beidio meddwl hynny amdana i.
 
(Morris) Miss O'Reilly?
(1, 0) 1073 Ie?
(Morris) Be' ddigwyddodd?
 
(Morris) Be' ddaeth o hyn i gyd... rhyngon ni'n dau?
(1, 0) 1076 Ddaeth yna ddim byd ohono fo.
(1, 0) 1077 Mi wyddoch hynny'n iawn.
(1, 0) 1078 Achos mi ddaeth y bobol eraill i mewn a wedyn,... bah.
(Morris) Do wrth gwrs, mi ddaeth y Ileill i mewn.
 
(Morris) Pwy f'asai'n meddwl y b'aswn i'n anghofio hynny hefyd.
(1, 0) 1081 O, 'dydych chi ddim wedi anghofio dim byd mewn gwirionedd; dipyn o g'wilydd sydd arnoch chi, dyna'r cwbwl.
(1, 0) 1082 Rydw i'n sicr nad ydy pobol ddim yn anghofio petha' fel'na.
(Morris) Na, dyna fasai rhywun yn ei feddwl.
 
(1, 0) 1085 Hwyrach eich bod chi wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi, hyd yn oed?
(Morris) Pa ddiwrnod?
 
(Morris) Pa ddiwrnod?
(1, 0) 1087 Ie, pa ddiwrnod ddar'u chi osod y bloda' ar ben y tŵr...
(1, 0) 1088 Pa ddiwmod?
(1, 0) 1089 Come on.
(Morris) Hm.
 
(1, 0) 1095 le, deng mlynedd yn ôl oedd hi.
(1, 0) 1096 A'r dyddiad, Medi un deg naw.
(Morris) Ie, mae'n rhaid mai tua'r adeg honno oedd hi.
 
(Morris) Ie, y pedwerydd ar bymtheg o Fedi ydy hi heddiw.
(1, 0) 1103 Ie, mae'r deng mlynedd ar ben.
(1, 0) 1104 A ddaethoch chi ddim fel y dar'u chi addo i mi.
(Morris) Addo i chi?
 
(Morris) Bygwth ydych chi'n feddwl, debyg.
(1, 0) 1107 'Dydw i ddim yn meddwl bod 'na fygythiad o gwbwl yn hynny.
(Morris) Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach?
 
(Morris) Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach?
(1, 0) 1109 Dyna'r cwbwl oeddech chi eisio'i 'neud?
(1, 0) 1110 Cael hwyl am fy mhen i?
(Morris) Neu gael jôc bach.
 
(Morris) Wedi'r cwbwl, dim ond plentyn oeddech chi'r adeg honno.
(1, 0) 1114 Ddim cweit.
(1, 0) 1115 'Doeddwn i ddim cymaint o blentyn ag yr ydych chi'n ei ddychmygu.
(Morris) {Yn edrych yn dreiddgar arni hi.}
 
(1, 0) 1119 Oeddwn wir; hynny o leia'.
(Morris) Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi?
 
(Morris) Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi?
(1, 0) 1121 Ie, 'run fath â stori dylwyth teg.
(Morris) A'ch g'neud chi'n dywysoges?
 
(Morris) A'ch g'neud chi'n dywysoges?
(1, 0) 1123 Dyna ddar'u chi addo.
(Morris) A rhoi teyrnas i chi hefyd?
 
(1, 0) 1126 Pam lai?
(1, 0) 1127 Wrth gwrs 'doedd dim thaid iddi hi fod yn deyrnas go iawn, un gyffredin fel rhyw deyrnas arall.
(Morris) Ond rhywbeth lawn cystal?
 
(Morris) Ond rhywbeth lawn cystal?
(1, 0) 1129 O, gystal o leia'.
 
(1, 0) 1131 Roeddwn i'n meddwil, os oeddech chi'n gallu codi'r tŵr ucha'n y byd, y byddech chi'n siŵr o allu g'neud teyrnas o ryw fath neu'i gilydd hefyd.
(Morris) Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly.
 
(Morris) Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly.
(1, 0) 1133 Na wyddoch?
(1, 0) 1134 Mae'r cyfan yn edrych reit hawdd i mi.
(Morris) Na, fedra' i ddim penderfynu ydych chi'n golygu popeth ydych chi'n ei dd'eud ynte' dim ond gyboli ydych chi.
 
(1, 0) 1137 Tynnu coes hwyrach?
(1, 0) 1138 Finna' hefyd?
(Morris) le, yn hollol.
 
(Morris) Oeddech chi'n gwybod 'mod i'n briod?
(1, 0) 1143 Roeddwn i'n gwybod hynny o'r dechra'.
(1, 0) 1144 Pam rydych chi'n gofyn?
(Morris) O wel.
 
(Morris) Pam y daethoch chi?
(1, 0) 1149 Mae arna i eisio fy nheyrnas.
(1, 0) 1150 Mae'r amser ar ben.
(Morris) {Yn chwerthin heb feddwl.}
 
(1, 0) 1154 B'le mae 'nheynas i Mr Morris?
 
(1, 0) 1156 Y deyrnas ar y bwrdd.
(1, 0) 1157 Come on.
 
(1, 0) 1159 Deliver.
(Morris) {Yn gwthio'r gadair siglo'n nes ac yn eistedd.}
 
(Morris) Be' sy' arnoch chi ei eisio yma mewn gwirionedd?
(1, 0) 1163 Wel, i ddechra' mae gen i eisio mynd am dro i weld pob peth ydych chi wedi'i adeiladu.
(Morris) Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly.
 
(Morris) Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly.
(1, 0) 1165 Oes.
(1, 0) 1166 Mi wn i'ch bod chi wedi adeiladu peth wmbreth.
(Morris) Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma.
 
(Morris) Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma.
(1, 0) 1168 Llawer tŵr eglwys ymhlith petha' eraill?
(1, 0) 1169 Rhai uchel, uchel?
(Morris) Na.
 
(Morris) Fydda' i ddim yn codi tyra' eglwysi erbyn hyn, nac eglwysi chwaith.
(1, 0) 1172 Be' |fyddwch| chi'n ei adeiladu rŵan?
(Morris) Cartrefi i bobol.
 
(1, 0) 1175 F'asech chi ddim yn gallu codi rhyw fymryn bach o dŵr ar rai o'r cartrefi hynny hefyd?
(1, 0) 1176 Moris
 
(1, 0) 1178 Am be' ydych chi'n meddwl |rŵan|?
(1, 0) 1179 Rhywbeth yn pwyntio i fyny, i fyny i'r awyr agored, a cheiliog gwynt reit ar y copa.
(1, 0) 1180 Moms
 
(1, 0) 1182 Rhyfedd i chi dd'eud hyn 'na.
(1, 0) 1183 Achos dyna'r union beth sydd arna' i eisio'i 'neud fwyaf.
 
(1, 0) 1185 Pam na 'newch chi un ynte'.
(Morris) {Yn ysgwyd ei ben.}
 
(Morris) 'Does dim gofyn am betha' felly.
(1, 0) 1189 Neb eisio un?
(1, 0) 1190 Pwy f'asai'n meddwl?
(Morris) {Yn ysgafnach.}
 
(Morris) Ond rydw i'n g'neud tŷ newydd i mi fy hun, rŵan, dros y ffordd.
(1, 0) 1193 Ar eich cyfer chi'ch hun?
(Morris) Ie, mae o bron wedi'i orffen.
 
(Morris) Ac y mae yna dŵr arno fo.
(1, 0) 1196 Tŵr uchel?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Ie.
(1, 0) 1198 Uchel iawn?
(Morris) 'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ.
 
(Morris) 'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ.
(1, 0) 1200 Mi a' i allan y peth cynta' bore 'fory i'w weld o.
(Morris) {Yn eistedd a'i law dan ei foch a syllu arni hi.}
 
(Morris) D'wedwch i mi, Miss O'Reilly, be' ydy eich enw chi, eich enw cynta' chi ydw i'n el feddwl?
(1, 0) 1203 Ond Helen wrth gwrs.
(Morris) {Fel o'r blaen.}
 
(Morris) Ie wir?
(1, 0) 1207 Ydych chi ddim yn cofio |hynny|?
(1, 0) 1208 Helen ddar'u chi 'ngalw i y diwrnod hwnnw y buoch chi'n hogyn drwg.
(Morris) O, felly?
 
(Morris) O, felly?
(1, 0) 1210 Ond yr adeg honno, Helen bach ddar'u chi dd'eud a 'doedd hynny ddim yn plesio.
(Morris) O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen?
 
(Morris) O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen?
(1, 0) 1212 Na.
(1, 0) 1213 Nid ar adeg arbennig felly.
(1, 0) 1214 Ond 'Y Dywysoges Helen'.
(1, 0) 1215 Byddai hynny'n swnio'n dda iawn.
(Morris) Yn dda iawn wir, 'Y Dywysoges Helen'.
 
(Morris) O, ie, be' oedd enw'r deymas i fod?
(1, 0) 1218 Twt lol, 'na i ddim byd a'r deyrnas wirion honno.
(1, 0) 1219 Rydw i wedi rhoi 'mryd ar un wahanol iawn!
(Morris) {Wedi eistedd yn ôl yn y gadair; yn dal i syllu ar Helen.}
 
(Morris) Po fwya' y meddylia' i am y peth, tebyca'n y byd mae o'n edrych fel petawn i wedi bod yn poeni 'mhen ar hyd y blynyddoedd efo... hm...
(1, 0) 1223 Efo be'?
(Morris) Efo rhyw ymdrech i adennill rhywbeth, rhyw brofiad yr oeddwn i'n meddwl ei fod 0owedi mynd yn ango'.
 
(Morris) Ond fu gen i erioed syniad be' fyddai o.
(1, 0) 1226 Mi ddylech chi fod wedi rhoi cwlwm ar eich cadach poced Mr Morris, bach.
(Morris) A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg.
 
(Morris) A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg.
(1, 0) 1228 Hm.
(1, 0) 1229 Mae'n siwr bod 'na bobol bach neu dylwyth teg yn chwarae castia' felly yn y byd yma hefyd.
(Morris) {Yn codi'n araf.}
 
(1, 0) 1233 Ydy o'n beth da?
(Morris) Achos rydw i wedi bod mor unig yma.
 
(1, 0) 1240 Pyh.
(1, 0) 1241 Ydy'r bobol ifainc yn peri dychryn i chi?
(Morris) O, ydyn.
 
(Morris) Mi ruthran amdana' i.
(1, 0) 1247 Eisio i chi fynd allan ac agor y drws i'r ifainc sydd, yn fy meddwl i.
(Morris) Agor y drws?
 
(Morris) Agor y drws?
(1, 0) 1249 Ie siŵr, gadael iddyn nhw ddod i mewn atoch chi, yn gyfeillgar.
(1, 0) 1250 Moris
(1, 0) 1251 Bobol bach, nac e.
(1, 0) 1252 Wyddoch chi be' mae'r genhedlaeth ifanc yn ei gynrychioli?
(1, 0) 1253 Cosb, talu'n ôl.
(1, 0) 1254 Mae nhw'n dod o dan faner newydd, yn argoel bod fy Iwc i'n dod i ben.
 
(1, 0) 1256 Alla' i fod o unrhyw help ichi Mr Morris?
(Morris) Medrwch wir.
 
(Morris) Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'.
(1, 0) 1264 Hen a newydd.
(Dr Hughes) Ydych chi wir?
 
(Dr Hughes) Ydych chi wir?
(1, 0) 1266 Sôn am hwyl.
(1, 0) 1267 Mae gan Mr Morris 'ma gof mor wyrthiol.
(1, 0) 1268 Mae o'n cofio'r manion lleia' ar unwaith.
(Mrs Morris) Dyna ni.
 
(Mrs Morris) Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan.
(1, 0) 1272 Ew, rydych chi'n ffeind.
(Morris) {Wrth Mrs Morris.}
 
(1, 0) 1289 Ydy o'n wir be' ddar'u chi dd'eud?
(1, 0) 1290 Alla' i 'neud rhywbeth i chi, o ddifri'?
(Morris) {Yn cymryd y pethau oddi arni.}
 
(1, 0) 1294 O bendigedig!
(Morris) {Yn nerfus.}
 
(Morris) Sut?
(1, 0) 1297 Os felly rydw i wedi cael fy nheyrnas!
(Morris) {Heb feddwl.}
 
(1, 0) 1301 Bron... oeddwn i am dd'eud.
 
(Morris) A, dyna hi'n goleuo rŵan.
(2, 0) 1507 Hiya, Mr Morris.
(Morris) {Yn nodio.}
 
(Morris) Ddar'u chi gysgu'n iawn?
(2, 0) 1510 Ardderchog.
(2, 0) 1511 Fel mewn crud.
(2, 0) 1512 Mi orweddais ac ymlacio fel... fel tywysoges.
(Morris) {Yn gwenu.}
 
(Morris) Roeddech chi'n berffaith gyffyrddus felly?
(2, 0) 1515 Great.
(Morris) Ac mi ddar'u chi freuddwydio reit siŵr.
 
(Morris) Ac mi ddar'u chi freuddwydio reit siŵr.
(2, 0) 1517 Do mi wnes i, ond roedd hynny'n ofnadwy.
(Morris) O?
 
(Morris) O?
(2, 0) 1519 Oedd, achos mi freuddwydiais i 'mod i'n disgyn dros ymyl clogwyn uchel a serth.
(2, 0) 1520 Fyddwch chi'n cael breuddwyd felly?
(Morris) Byddaf, rŵan ac yn y man.
 
(Morris) Byddaf, rŵan ac yn y man.
(2, 0) 1522 Mae o'n gyrru ias drwy rywun, mae o'n braf ofnadwy pan fyddwch chi'n disgyn a disgyn.
(Morris) Iasa' nes bod rhywun yn teimlo'n oer drosto.
 
(Morris) Iasa' nes bod rhywun yn teimlo'n oer drosto.
(2, 0) 1524 Fyddwch chi'n tynnu'ch coesa' i fyny o danoch chi pan fyddwch chi'n disgyn?
(Morris) Byddaf cyn uched fyth ag a fedra' i.
 
(Morris) Byddaf cyn uched fyth ag a fedra' i.
(2, 0) 1526 A finna'.
(Mrs Morris) {Yn codi ei hymbarel.}
 
(2, 0) 1532 O Mrs Morris annwyl, rydych chi'n werth y byd!
(2, 0) 1533 Rydych chi'n rhy garedig wrtha i, wir... yn ffeind ofnadwy.
(Mrs Morris) {Yn dibrisio'r peth a'i rhyddhau ei hun.}
 
(Mrs Morris) Rydw i'n falch o gael g'neud.
(2, 0) 1537 O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i.
(Mrs Morris) Mi edrycha' i am drowsus cynnes i'ch siwtio chi.
 
(Mrs Morris) Mae hi'n gallu mynd yn oer iawn yma yr adeg yma o'r flwyddyn.
(2, 0) 1540 Rydw i wedi arfer wyddoch chi.
(Morris) {Heb fedru cuddio'r ffaith ei fod yn dal dig.}
 
(Morris) Ie, ond mi allai pobol gymryd yn eu penna' eich bod chitha' o'ch co', ydych chi'n gweld.
(2, 0) 1543 O 'ngho'?
(2, 0) 1544 Oes 'na lawer o bobol wedi drysu yn y dre' yma ynte'?
(Morris) {Yn pwyntio at ei dalcen.}
 
(Morris) Dyma i chi |un| beth bynnag.
(2, 0) 1547 Chi, Mr Morris?
(Mrs Morris) O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl.
 
(Morris) Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto?
(2, 0) 1550 Bobol bach, nâc ydw i.
 
(2, 0) 1552 Ac eto, mewn rhyw un peth bach.
(Morris) Glywsoch chi |hyn'na| Gladys?
 
(Morris) Dowch rŵan, allan â fo.
(2, 0) 1558 No way.
(2, 0) 1559 'Dydw'i ddim mor bell o 'ngho â hynny.
(Mrs Morris) Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg.
 
(2, 0) 1566 Ydy'ch gwraig chi'n fy nrwglecio i'n arw?
(Morris) Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld rhyw arwydd o hynny o gwbwl?
 
(Morris) Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld rhyw arwydd o hynny o gwbwl?
(2, 0) 1568 Ddar'u chi ddim sylwi'ch hun?
(Morris) {Yn osgoi.}
 
(Morris) Mae Gladys wedi mynd yn swil iawn efo pobol ddiarth y blynyddoedd d'waetha' 'ma.
(2, 0) 1571 Ydy hi wir?
(Morris) Ond dim ond i chi ddod i'w nabod hi'n iawn, mae hi mor neis a charedig.
 
(2, 0) 1575 Ond os ydy hi mor dda, be wnaeth iddi hi sôn am ei dyletswydd?
(Morris) Ei dyletswydd?
 
(Morris) Ei dyletswydd?
(2, 0) 1577 Mi ddywedodd yr âi hi allan a phrynu rhywbeth i mi, am ei fod yn |ddyletswydd| ami.
(2, 0) 1578 O, fedra' i ddim diodde''r hen air hyll yna.
(Morris) Pam?
 
(Morris) Pam?
(2, 0) 1580 Mae o'n swnio mor oer, mor finiog a phigog.
(2, 0) 1581 Dyletswydd, dyletswydd, dyletswydd!
(2, 0) 1582 Ydych chi ddim yn cytuno?
(2, 0) 1583 Ydy o ddim yn eich pigo chitha'?
(Morris) Hm!
 
(Morris) Feddyliais i ddim llawer amdano fo.
(2, 0) 1586 Wel |mae| o!
(2, 0) 1587 Ac os ydy hi mor neis, fel yr ydych chi yn deud, pam mae hi'n siarad fel na?
(Morris) Ond nefoedd fawr, be' f'asech chi wedi hoffi iddi hi 'i ddeud ynte'?
 
(Morris) Ond nefoedd fawr, be' f'asech chi wedi hoffi iddi hi 'i ddeud ynte'?
(2, 0) 1589 Mi allai hi fod wedi d'eud ei bod yn g'neud am ei bod wedi cymryd ata' i'n arw.
(2, 0) 1590 Mi allai hi fod wedi d'eud rhywbeth fel 'na, rhywbeth cynnes a serchog, ydych chi'n deall?
(Morris) Felly yr hoffech chi?
 
(Morris) Felly yr hoffech chi?
(2, 0) 1592 Ie, yn hollol.
 
(2, 0) 1594 Ew, llawer o lyfra' sy' gennych chi!
(Morris) Oes.
 
(Morris) Rydw i wedi hel cryn dipyn.
(2, 0) 1597 Fyddwch chi'n eu darllen nhw i gyd hefyd?
(Morris) Mi fyddwn i'n arfer trïo.
 
(Morris) Fyddwch chi'n darllen llawer?
(2, 0) 1600 Na fydda' i, byth.
(2, 0) 1601 Rydw i wedi rhoi'r gora' iddi.
(2, 0) 1602 Mae'r cwbwl mor amherthnasol.
(Morris) Dyna'n union fydda' inna' 'n ei feddwl.
 
(2, 0) 1605 Chi bia' 'r plania' yma i gyd?
(Morris) Nâc e.
 
(Morris) Dyn ifanc sy'n gweithio i mi sy' wedi'i g'neud nhw.
(2, 0) 1608 Rhywun ydych chi wedi'i ddysgu?
(Morris) Ydy, yn ddiama' mae o wedi dysgu dipyn oddi wrtha i.
 
(2, 0) 1611 Mae o'n glyfar iawn ynte', debyg?
 
(2, 0) 1613 Ydy o ddim?
(Morris) Dydy o ddim yn ddrwg, at be' ydw i ei angen.
 
(Morris) Dydy o ddim yn ddrwg, at be' ydw i ei angen.
(2, 0) 1615 O ydy wir, rydw i'n siŵr ei fod o'n glyfar ofnadwy.
(Morris) Ydych chi'n medru gweld hynny o'r cynllunia'?
 
(Morris) Ydych chi'n medru gweld hynny o'r cynllunia'?
(2, 0) 1617 Na, twt, twt, ddim o'r sgribliada' yma.
(2, 0) 1618 Ond os ydy o'n ddisgybl i chi...
(Morris) Ond mae 'na ddigonedd o bobol sy' wedi dysgu efo mi ac wedi g'neud ychydig iawn o'u hôl er hynny.
 
(2, 0) 1621 Fedra' i ddim deall sut y gellwch chi fod mor dwp.
(Morris) Twp?
 
(Morris) Ydych chi'n meddwl 'mod i'n un gwirion iawn?
(2, 0) 1624 Ydw, sorry.
(2, 0) 1625 Os ydych chi'n fodlon treulio'ch amser yn dysgu'r bobol yma...
(Morris) {Yn troi ei ben yn sydyn.}
 
(2, 0) 1629 Na.
(2, 0) 1630 Mr Isaac Ryan Morris, contractor mwya'r lle.
(2, 0) 1631 Be' dâl hynny?
(2, 0) 1632 Ddylai neb ond chi gael adeiladu.
(2, 0) 1633 Mi ddylech chi sefyll yn hollol ar eich pen eich hun... g'neud y cwbwl eich hun.
(2, 0) 1634 Dyna chi'n gwybod rŵan.
(2, 0) 1635 Wel?
(Morris) Sut ar y ddaear y daeth hyn'na i'ch pen chi?
 
(Morris) Sut ar y ddaear y daeth hyn'na i'ch pen chi?
(2, 0) 1637 Ydych chi'n meddwl 'mod i'n nuts ynte'?
(Morris) Na, nid dyna ydw i'n ei feddwl.
 
(Morris) Ond rŵan mi dd'weda i rywbeth wrthych chi.
(2, 0) 1640 Wel?
(Morris) Yma, ar fy mhen fy hun, mi fydda i'n synfyfyrio uwchben yr union syniad yna.
 
(Morris) Yma, ar fy mhen fy hun, mi fydda i'n synfyfyrio uwchben yr union syniad yna.
(2, 0) 1642 Mae hynny'n swnio'n hollol naturiol i mi.
(Morris) {Yn edrych yn dreiddgar arni.}
 
(Morris) Ydych chi wedi sylwi'n barod, felly?
(2, 0) 1645 Nâc ydw, ddim o gwbwl.
(Morris) Ond gynna' pan ddar'u chi dd'eud eich bod chi'n meddwl bod 'na ryw un peth od...
 
(Morris) Ond gynna' pan ddar'u chi dd'eud eich bod chi'n meddwl bod 'na ryw un peth od...
(2, 0) 1647 O, am rywbeth hollol wahanol yr oeddwn i'n meddwl.
(Morris) Be' oedd o?
 
(Morris) Be' oedd o?
(2, 0) 1649 Dydw i ddim am dd'eud.
(Morris) {Yn croesi'r stafell.}
 
(2, 0) 1656 Be?
(Morris) Welwch chi yn fan'cw, yn yr ardd?
 
(Morris) Welwch chi yn fan'cw, yn yr ardd?
(2, 0) 1658 Gwelaf.
(Morris) {Yn pwyntio.}
 
(Morris) Reit uwchben y chwarel.
(2, 0) 1661 Y tŷ newydd yna ydych chi'n ei feddwl?
(Morris) Ie, yr un sy'n cael ei adeiladu rŵan, bron wedi'i orffen.
 
(Morris) Ie, yr un sy'n cael ei adeiladu rŵan, bron wedi'i orffen.
(2, 0) 1663 Mae o'n edrych fel petai 'na dŵr uchel arno fo.
(Morris) Mae'r sgaffald yn dal i fyny.
 
(Morris) Mae'r sgaffald yn dal i fyny.
(2, 0) 1665 Eich tŷ newydd chi ydy o?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Ie.
(2, 0) 1667 Y tŷ yr ydych chi'n mynd i symud iddo fo yn fuan?
(Morris) Ie.
 
(2, 0) 1670 Oes 'na stafelloedd plant yn y tŷ acw hefyd?
(Morris) Oes, tair fel sy' yma.
 
(Morris) Oes, tair fel sy' yma.
(2, 0) 1672 A dim un plentyn?
(Morris) Ie, a fydd yno byth un.
 
(2, 0) 1675 Wel, ydy hi ddim yn union fel y dwedais i?
(Morris) Sut felly?
 
(Morris) Sut felly?
(2, 0) 1677 Eich bod chi dipyn bach o'ch co' wedi'r cwbwl.
(Morris) Hynny oedd y tu ôl i'ch meddwl chi?
 
(Morris) Hynny oedd y tu ôl i'ch meddwl chi?
(2, 0) 1679 Ie.
(2, 0) 1680 Yr holl stafelloedd plant gwag yna lle bûm i'n cysgu.
(Morris) {Yn gostwng ei lais.}
 
(2, 0) 1684 Do wir?
(Morris) Dau hogyn bach, yr un oed.
 
(Morris) Dau hogyn bach, yr un oed.
(2, 0) 1686 Twins.
(Morris) Ie, gefeilliaid.
 
(2, 0) 1690 Felly mae'r ddau ohonyn nhw...
(2, 0) 1691 Rydych chi wedi colli'r ddau?
(Morris) {Dan deimlad mawr.}
 
(Morris) Achos, o'r diwedd mae gen i rywun y medra' i |siarad| efo hi.
(2, 0) 1697 Ellwch chi ddim siarad efo |hi|?
(Morris) Ddim am hyn.
 
(2, 0) 1704 Dyna'r cwbwl oeddech chi'n ei feddwl pan dd'wedsoch chi fod arnoch chi f'angen i?
(Morris) Hynny'n fwy na dim.
 
(Morris) Fasech chi'n hoffi clywed am y peth?
(2, 0) 1713 Mi f'aswn i wrth fy modd yn eistedd a gwrando arnoch chi.
(Morris) {Yn eistedd.}
 
(Morris) Draw ar y codiad tir acw... lle gwelwch chi'r tŷ newydd.
(2, 0) 1722 Ie.
(Morris) Roedd Gladys a finna''n byw yn fan'na y blynyddoedd cyntaf ar ôl priodi.
 
(Morris) Fe gafodd ei adael i ni a'r cwbwl o'r hen ardd i'w ganlyn o.
(2, 0) 1726 Oedd 'na dŵr ar y tŷ hwnnw hefyd?
(Morris) Nâc oedd.
 
(Morris) O'r tu allan roedd o'n edrych fel bocs pren mawr tywyll ond oddi fewn roedd o'n ddigon clyd a chysurus.
(2, 0) 1730 Be ddar'u chi?
(2, 0) 1731 Ei dynnu o i lawr?
(Morris) Na.
 
(Morris) Mi aeth ar dân.
(2, 0) 1734 Y cwbwl?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Ie.
(2, 0) 1736 W! dyna golled i chi.
(Morris) Mae'n dibynnu sut yr edrychwch chi ar y peth.
 
(Morris) O ran busnes dyna'r peth gora' a ddigwyddodd i mi.
(2, 0) 1739 Sut hynny?
(Morris) Yn fuan wedi geni'r ddau hogyn bach oedd hi.
 
(Morris) Yn fuan wedi geni'r ddau hogyn bach oedd hi.
(2, 0) 1741 Y twins bach druan?
(Morris) Roedden nhw'n fabanod bach cryf, nobl.
 
(Morris) Mi fedrech chi weld y gwahaniaeth bob dydd.
(2, 0) 1745 Mae babis yn tyfu'n fuan ar y cychwyn.
(Morris) Fel y byddai'r ddau'n gorwedd ym mreichia'u mam, ddela' welsoch chi erioed.
 
(2, 0) 1749 Be ddigwyddodd?
(2, 0) 1750 D'wedwch wrtha i.
(2, 0) 1751 Anafwyd rhywun?
(Morris) Naddo.
 
(Morris) Mi ddaeth pawb allan o'r tŷ yn ddiogel.
(2, 0) 1754 A wedyn?
(Morris) Roedd Gladys wedi dychryn a chynhyrfu'n arw.
 
(Morris) Achos mi fu'n rhaid eu cario allan yn union fel yr oedden nhw'n gorwedd, hi a'r plant.
(2, 0) 1758 Ac yr oedd hynny'n ormod iddyn nhw?
(Morris) Na, doedden nhw ddim gwaeth.
 
(Morris) Mi fuon nhw...
(2, 0) 1765 Ddar'u nhw ddim dal hynny?
(Morris) Naddo.
 
(Morris) Dyna sut y dar'u ni eu colli nhw.
(2, 0) 1768 Mi gawsoch chi amser caled ofnadwy ynte'.
(Morris) Roedd hi'n ddigon drwg arna' i ond roedd hi'n saith gwaeth ar Gladys.
 
(Morris) O'r diwrnod y collais i nhw 'doedd gen i ddim awydd i adeiladu eglwysi mwy.
(2, 0) 1774 Chawsoch chi ddim pleser yn codi tŵr ein heglwys ni?
(Morris) Na doedd o ddim yn bleser.
 
(Morris) Mi wn i pa mor hapus a rhydd oeddwn i'n teimlo pan orffennwyd y tŵr hwnnw.
(2, 0) 1777 Mi wn inna' hefyd.
(Morris) A rŵan, adeilada' i byth ddim byd fel 'na eto, byth eto.
 
(2, 0) 1781 Dim heblaw tai i bobol fyw ynddyn nhw.
(Morris) Cartrefi i foda' dynol Helen.
 
(Morris) Cartrefi i foda' dynol Helen.
(2, 0) 1783 Ond cartrefi efo tyra' uchel a phinacla' arnyn nhw.
(Morris) Ie, hwyrach.
 
(Morris) Ond, fel yr oeddwn i'n d'eud, y tân roddodd fi ar fy nhraed, fel contractor ydw i'n ei feddwl.
(2, 0) 1787 Ydych chi ddim yn galw'ch hun yn architect fel y lleill?
(Morris) Chefais i erioed yr addysg dechnegol.
 
(Morris) Petha' ydw i wedi ddysgu wrth fynd ydy'r rhan fwyaf o'r hyn a wn i.
(2, 0) 1790 Ond rydych chi wedi llwyddo'n eithriadol er hynny.
(Morris) Do, diolch i'r tân.
 
(2, 0) 1795 Mae'n rhaid eich bod chi'n ddyn hapus iawn fel mae petha' wedi troi allan?
(Morris) {Yn ystyried yn ddwys.}
 
(Morris) Ydych chitha'n d'eud hynny hefyd, 'run fath â'r lleill?
(2, 0) 1799 Mae'n rhaid eich bod chi, petaech chi'n gallu anghofio am y ddau blentyn bach.
(Morris) {Yn araf.}
 
(2, 0) 1803 Ydych chi'n teimlo'u colli nhw gymaint â hynny ar ôl yr holl flynyddoedd?
(Morris) {Yn sefydlu ei olwg arni ond heb ateb.}
 
(Morris) Dyn hapus dd'wedsoch chi?
(2, 0) 1806 Rydych chi'n hapus, mewn ffyrdd eraill, siŵr iawn?
(Morris) {Yn dal i edrych arni.}
 
(Morris) Pan oeddwn i'n d'eud yr hanes am y tân...
(2, 0) 1809 Wel?
(Morris) Ddaru 'na ddim byd eich taro chi'n arbennig?
 
(2, 0) 1812 Naddo.
(2, 0) 1813 Be' sy' gennych chi mewn golwg?
(Morris) {Gyda phwyslais tawel.}
 
(2, 0) 1819 Wel, ydy o ddim yn destun hapusrwydd mawr i chi eich bod chi'n gallu g'neud cartrefi mor hyfryd?
(Morris) Y pris Helen, y pris dychrynllyd y bu raid i mi ei dalu am hynny.
 
(Morris) Y pris Helen, y pris dychrynllyd y bu raid i mi ei dalu am hynny.
(2, 0) 1821 Ond ellwch chi ddim rhoi hynny o'r neilltu?
(Morris) Na fedraf.
 
(2, 0) 1825 Ond oedd |rhaid| i chi neud hynny, am byth?
(Morris) {Yn nodio'n araf.}
 
(2, 0) 1830 Ond, mi all petha' wella, hyd yn oed rŵan?
(Morris) Byth yn y byd yma.
 
(2, 0) 1836 Ac eto rydych chi'n adeiladu'r holl stafelloedd plant 'ma.
(Morris) {O ddifrif.}
 
(2, 0) 1840 Yr amhosib.
 
(2, 0) 1842 O ydy wir!
(2, 0) 1843 Ydych chitha'n teimlo hynny hefyd?
(Morris) Ydw.
 
(Morris) Ydw.
(2, 0) 1845 Mae'n rhaid bod rhyw ddewin o'ch mewn chitha' hefyd.
(Morris) Dewin?
 
(Morris) Dewin?
(2, 0) 1847 Be' fuasech chi'n ei alw ynte', witj?
(Morris) {Yn codi.}
 
(Morris) Ond sut y medra i ddianc o afael yr ysbrydion yma, pan fo popeth yn troi allan fel hyn yn fy hanes i bob amser?
(2, 0) 1852 Be ydych chi'n 'i feddwl?
(Morris) {Dan deimlad, yn weddol dawel.}
 
(Morris) O, mae'n ofnadwy meddwl am y peth...
(2, 0) 1858 Be sy mor ofnadwy?
(Morris) Bod rhaid i mi dalu'n ôl am hyn i gyd, talu, nid mewn arian ond mewn hapusrwydd.
 
(2, 0) 1866 Meddwl yr ydych chi amdani hi.
(Morris) Ie, am Gladys yn bennaf.
 
(Morris) Roedd gan Gladys ddawn i adeiladu hefyd, cofiwch.
(2, 0) 1872 Hi, i adeiladu?
(Morris) {Yn ysgwyd ei ben.}
 
(Morris) Nid tai a thyra' a'r petha' y bydda' i yn gweithio arnyn nhw.
(2, 0) 1875 Be ynte'?
(Morris) {Yn dyner ac yn llawn teimlad.}
 
(Morris) A dyna hi'n gorwedd heb ei harfer, yn ddiffrwyth am byth... yn dda i ddim i neb,... yn union 'run fath â'r adfeilion ar ôl y tân.
(2, 0) 1880 Ie, ond hyd yn oed petai hyn yn wir...?
(Morris) Mae o'n wir.
 
(Morris) Mi wn i.
(2, 0) 1884 P'run bynnag, nid arnoch chi mae'r bai.
(Morris) {Yn sefydlu ei olwg arni a nodio'n araf.}
 
(Morris) Ama' hynny sy'n fy mwyta i nos a dydd.
(2, 0) 1888 Hynny?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Fy mai i oedd o mewn rhyw ffordd, cofiwch.
(2, 0) 1891 Eich bai chi?
(2, 0) 1892 Y tân?
(Morris) Y cwbwl, y tân a'r cwbwl.
 
(2, 0) 1896 O, Mr Morris, os gellwch chi siarad fel 'na, mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl, mae arna' i ofn.
(Morris) Hm.
 
(2, 0) 1937 Na, gadewch nhw yma.
(Morris) Pam?
 
(Morris) Pam?
(2, 0) 1939 Am fod arna' i eisio edrych arnyn nhw.
(Morris) Ond rydych chi |wedi bod|...
 
(2, 0) 1954 Roedd yn beth hyll iawn i'w ddweud.
(Morris) Ydych chi'n meddwl hynny?
 
(Morris) Ydych chi'n meddwl hynny?
(2, 0) 1956 Ydw, roedd o'n ofnadwy o hyll ac yn galed.
(2, 0) 1957 Ac yn ddrwg a chreulon hefyd.
(Morris) Dydych chi ddim yn deall fy sefyllfa i.
 
(Morris) Dydych chi ddim yn deall fy sefyllfa i.
(2, 0) 1959 Dim gwahaniaeth am hynny.
(2, 0) 1960 Ddylech chi ddim bod fel 'na.
(Morris) Mi dd'wedsoch eich hun gynna' na ddylai neb arall ond fi gael adeiladu.
 
(Morris) Mi dd'wedsoch eich hun gynna' na ddylai neb arall ond fi gael adeiladu.
(2, 0) 1962 Mi ga i dd'eud petha' fel 'na.
(2, 0) 1963 Chewch |chi| ddim.
(Morris) Siawns na cha' i, yn anad neb, fi sy' wedi talu mor ddrud am fy safle.
 
(Morris) Siawns na cha' i, yn anad neb, fi sy' wedi talu mor ddrud am fy safle.
(2, 0) 1965 O ie.
(2, 0) 1966 Efo cysur cartre ac ati.
(Morris) A thawelwch cydwybod yn y fargen.
 
(2, 0) 1969 Tawelwch cydwybod!
 
(2, 0) 1971 Ie.
(2, 0) 1972 Rydych chi'n iawn.
(2, 0) 1973 Y contractor druan!...
(2, 0) 1974 Rhaid eich bod chi'n meddwl...
(Morris) {Chwerthiniad bach gyddfol.}
 
(2, 0) 1979 OK.
(Morris) Mae o'n swnio'n beth bach mor wrthun; achos mae'r stori i gyd yn troi o gylch dim byd ond... crac mewn simdde.
 
(Morris) Mae o'n swnio'n beth bach mor wrthun; achos mae'r stori i gyd yn troi o gylch dim byd ond... crac mewn simdde.
(2, 0) 1981 Dim ond hynny?
(Morris) Ddim yn y dechra'.
 
(2, 0) 1985 Reit.
(2, 0) 1986 Rŵan am stori'r crac yn y simdde.
(Morris) Roeddwn i wedi sylwi ar y crac yn y simdde.
 
(Morris) Bob tro y byddwn i'n mynd i'r atig mi fyddwn i'n edrych oedd o'n dal yno.
(2, 0) 1990 A roedd o?
(Morris) Oedd, 'doedd neb arall yn gwybod amdano fo.
 
(Morris) Oedd, 'doedd neb arall yn gwybod amdano fo.
(2, 0) 1992 Ddar'u chitha' ddim d'eud?
(Morris) Dim gair.
 
(Morris) Dim gair.
(2, 0) 1994 Na meddwl am ei drwsio chwaith?
(Morris) O, do.
 
(Morris) Yn y diwedd chafodd o 'mo'i 'neud.
(2, 0) 2000 Pam yr oeddech chi yn ei roi o heibio o hyd fel 'na?
(Morris) Am fy mod i'n pendronni ynghylch rhywbeth.
 
(2, 0) 2005 Roedd y syniad yn eich hudo chi'n llwyr?
(Morris) Bron yn llwyr.
 
(Morris) Byddai'r forwyn, gartre', wedi g'neud tanllwyth o dân iawn i gynhesu'r tŷ.
(2, 0) 2012 Achos roedd hi i fod yn gafael o oer y diwrnod hwnnw.
(Morris) Yn oer iawn allan.
 
(Morris) A byddai'r forwyn yn awyddus i Gladys deimlo'r tŷ yn berffaith glyd a chynnes pan ddoen ni adre.
(2, 0) 2015 Mae hi'n teimlo'r oeri'n arw, ydy hi?
(Morris) Ydy, mae hi.
 
(Morris) Ac fel y bydden ni'n agosáu, roedden ni i weld mwg.
(2, 0) 2018 Dim ond mwg?
(Morris) Y mwg gynta'.
 
(Morris) Felly roeddwn i'n dychmygu sut y byddai hi, ydych chi'n gweld.
(2, 0) 2022 Pam ar y ddaear na allai hi fod wedi digwydd felly?
(Morris) Pam yn wir?
 
(Morris) Pam yn wir?
(2, 0) 2024 Ond 'rhoswch am funud, Mr Morris.
(2, 0) 2025 Ydych chi'n berffaith siŵr mai drwy'r crac bach 'na y digwyddodd y tân?
(Morris) Nâc ydw.
 
(Morris) I'r gwrthwyneb, rydw i'n hollol siŵr nad oedd a wnelo'r crac yn y simdde ddim byd o gwbwl â'r tân.
(2, 0) 2028 O ddifri?
(Morris) Mi wnaethpwyd yn berffaith siŵr mai yn y cwpwrdd dillad, mewn darn hollol wahanol o'r tŷ y cychwynnodd y tân.
 
(Morris) Mi wnaethpwyd yn berffaith siŵr mai yn y cwpwrdd dillad, mewn darn hollol wahanol o'r tŷ y cychwynnodd y tân.
(2, 0) 2030 Be ydych chi'n gyboli'n wirion am y crac yn y simdde ynte'?
(Morris) Ga' i ddal i siarad efo chi am dipyn, Helen?
 
(Morris) Ga' i ddal i siarad efo chi am dipyn, Helen?
(2, 0) 2032 OK.
(2, 0) 2033 Ond triwch siarad yn gall, plis.
(Morris) Mi wnâ i 'ngore.
 
(Morris) {Yn symud ei gadair yn nes.}
(2, 0) 2036 Reit; i ffwrdd â chi.
(Morris) {Yn gyfrinachol.}
 
(2, 0) 2042 Os felly, mi gawn ni weld un o'r dyddia' nesa 'ma, ydw i'n un o'r bobol arbennig.
(Morris) All rhywun ddim g'neud petha' mor fawr ohono'i hun yn unig, cofiwch.
 
(Morris) Galw oddi mewn iddo'i hun, ydych chi'n deall?
(2, 0) 2049 Be' ydy'r gweision a'r negeswyr 'ma?
(Morris) O mi gawn ni siarad am hynny rywdro eto.
 
(Morris) Ar hyn o bryd gadewch i ni gadw at fusnes y tân 'ma.
(2, 0) 2052 Ydych chi ddim yn meddwl y b'asai'r tân wedi digwydd 'run fath yn union, hyd yn oed pe baech chi heb ddymuno amdano fo?
(Morris) Petai'r tŷ wedi digwydd bod yn perthyn i'r hen Owen Meredith, fasai fo byth wedi mynd ar dân mor hwylus iddo fo.
 
(Morris) Na chafodd hi ddatblygu i'r ddynes allai hi fod a'r hyn yr oedd hi'n hiraethu am fod?
(2, 0) 2059 Ie, ond os mai gwaith y gweision a'r negeswyr ydy o i gyd?
(Morris) Pwy alwodd ar y gweision a'r negeswyr?
 
(2, 0) 2071 Rydych chi yn sâl, Mr Morris, bron na ddwedwn i, yn wael iawn.
(Morris) Wedi drysu, waeth i chi ddeud, achos dyna ydych chi'n ei feddwl.
 
(Morris) Wedi drysu, waeth i chi ddeud, achos dyna ydych chi'n ei feddwl.
(2, 0) 2073 Na, 'dydw i ddim yn credu bod 'na lawer o'i le ar eich meddwl chi.
(Morris) Ar be' ynte'?
 
(Morris) Allan â fo.
(2, 0) 2076 Os gwn i a ddaethoch chi i'r byd 'ma efo cydwybod giami.
(Morris) Cydwybod giami?
 
(Morris) Be goblyn ydy hynny?
(2, 0) 2079 Meddwl rydw i bod eich cydwybod chi'n wan, yn ddelicet felly, dim nerth ynddi hi i fynd i'r afael â phetha'; methu dal pwysa'.
(Morris) {Yn rwgnachlyd.}
 
(Morris) Ga' i ofyn, sut gydwybod ddylai fod gan ddyn?
(2, 0) 2083 Mi hoffwn i i'ch cydwybod chi fod yn gwbwl gadarn.
(Morris) Felly wir?
 
(Morris) Ydy'ch cydwybod chi'ch hun yn gadarn?
(2, 0) 2087 Rydw i'n meddwl ei bod hi.
(2, 0) 2088 Sylwais i erioed nad oedd hi ddim.
(Morris) Chafodd hi 'mo'i phrofi'n galed iawn 'ddyliwn.
 
(2, 0) 2091 Doedd gadael 'nhad ddim yn fater mor hawdd,... rydw i mor ofnadwy o hoff ohono fo.
(Morris) A hynny ddim ond am ryw fis neu ddau?
 
(Morris) A hynny ddim ond am ryw fis neu ddau?
(2, 0) 2093 'Dydw i ddim yn meddwl yr a' i adre byth eto.
(Morris) Byth?
 
(2, 0) 2097 Ydych chi wedi anghofio eto bod y deng mlynedd ar ben?
(Morris) Twt lol.
 
(2, 0) 2101 Rhywbeth oddi mewn i mi oedd yn fy ngyrru i, yn fy ngorfodi fi i ddod yma; ac yn fy nenu a'm hudo i hefyd.
(Morris) {Yn eiddgar.}
 
(Morris) A wedyn mae'n rhaid i ni ildio, hoffí hynny neu beidio.
(2, 0) 2107 Rydw i bron â meddwl eich bod chi'n iawn.
(Morris) {Yn cerdded o gwmpas y stafell.}
 
(Morris) Tylwyth na fyddwn i byth yn eu gweld nhw.
(2, 0) 2111 Be ydych chi'n ei feddwl?
(2, 0) 2112 Tylwyth?
(Morris) {Saib.}
 
(2, 0) 2121 Neu petai gan rywun gydwybod wirioneddol wydn fel y |meiddiai| rhywun neud be' fynnai o.
(Morris) {Yn aros wrth y bwrdd.}
 
(Morris) Rydw i'n credu erbyn hyn mai creaduriaid go wan fel finna' ydy'r rhan fwyaf o bobol yn hynny o beth.
(2, 0) 2124 Synnwn i ddim.
(Morris) {Yn pwyso ar y bwrdd.}
 
(Morris) Yn y llyfra' hanes,... ydych chi wedi darllen rhai ohonyn nhw?
(2, 0) 2127 Do, pan oeddwn i'n arfer darllen llyfra', mi...
(Morris) Yn y llyfra' hanes mae 'na sôn am y cenhedloedd duon yn hwylio ar longa', o wledydd y gogledd, i ysbeilio a llosgi a lladd...
 
(Morris) Yn y llyfra' hanes mae 'na sôn am y cenhedloedd duon yn hwylio ar longa', o wledydd y gogledd, i ysbeilio a llosgi a lladd...
(2, 0) 2129 A chipio'r merched i ffwrdd...
(Morris) A'u cadw'n gaeth...
 
(Morris) A'u cadw'n gaeth...
(2, 0) 2131 Mynd â nhw adre yn eu llonga'...
(Morris) Ac ymddwyn tuag atyn nhw fel... fel diawliaid.
 
(2, 0) 2134 W! Exciting iawn.
(Morris) {Chwerthiniad dwfn, byr.}
 
(Morris) Dwyn merched, ie?
(2, 0) 2137 |Cael| eich dwyn.
(Morris) {Yn edrych arni ennyd.}
 
(2, 0) 2141 Be 'naeth i chi sôn am y Vikings?
(Morris) Am fod rhaid bod gan yr hogia' yne gydwyboda' go wydn, beth bynnag.
 
(Morris) Fedrwch chi ddeall hynny Helen?
(2, 0) 2146 Mi fedra i ddeall y merched yn dda iawn.
(Morris) Oho!
 
(Morris) Hwyrach y b'asech chi'n medru g'neud yr un peth eich hun.
(2, 0) 2149 Pam lai?
(Morris) Fasech chi byth, o'ch bodd, yn dewis byw efo rhyw fwystfil fel 'na.
 
(Morris) Fasech chi byth, o'ch bodd, yn dewis byw efo rhyw fwystfil fel 'na.
(2, 0) 2151 Petawn i wedi dod i'w garu.
(Morris) Fedrech chi ddod i garu dyn fel 'na?
 
(Morris) Fedrech chi ddod i garu dyn fel 'na?
(2, 0) 2153 Nefi wen.
(2, 0) 2154 Mi wyddoch yn burion nad oes gan rywun ddim help pwy mae o'n mynd i'w garu.
(Morris) {Yn edrych yn fyfyrgar arni.}
 
(2, 0) 2159 A'r tylwyth bondigrybwyll 'na, y rhai tywyll a'r rhai gola', yr ysbrydion ydych chi'n eu nabod mor dda.
(Morris) {Yn ddistaw ac yn serchog.}
 
(Morris) Wel, rydw i'n gobeithio â'm holl galon y bydd yr ysbrydion yn dewis yn garedig drosoch chi, Helen.
(2, 0) 2162 Maen nhw wedi dewis drosta' i eisoes.
(2, 0) 2163 Unwaith ac am byth.
(Morris) {Yn edrych arni'n daer.}
 
(Morris) Helen, rydych chi fel deryn gwyllt o'r coed!
(2, 0) 2166 Ddim peryg.
(2, 0) 2167 Fydda' i byth yn cuddio dan y llwyni.
(Morris) Na.
 
(Morris) Dipyn o deulu'r barcud sy' ynoch chi.
(2, 0) 2170 Mae hynny'n nes i'r gwir hwyrach.
 
(2, 0) 2172 Pam nad yr hebog neu'r barcud?
(2, 0) 2173 Pam na ddylwn inna' fynd a hela gystal â nhw?
(2, 0) 2174 Cipio'r ysglyfaeth sy' ama' i ei eisio, cyn belled ag y galla' i gael fy nghrafanga' arno fo a chael fy ffordd fy hun efo fo.
(Morris) Helen, wyddoch chi be ydych chi?
 
(Morris) Helen, wyddoch chi be ydych chi?
(2, 0) 2176 Gwn.
(2, 0) 2177 Deryn go ryfedd ydw i debyg.
(Morris) Na.
 
(Morris) Pan fydda' i'n edrych arnoch chi mae fel petawn i'n gweld y dydd yn deffro.
(2, 0) 2181 Dwedwch wrtha i, y contractor clyfar, ydych chi'n siŵr na wnaethoch chi 'mo 'ngalw i atoch chi?
(2, 0) 2182 Ynoch eich hun, felly?
(Morris) {Yn ysgafn ac araf.}
 
(2, 0) 2189 Yr ie'nctid y mae gennych chi gymaint o'i ofn?
(Morris) {Yn nodio 'n araf.}
 
(2, 0) 2193 Am y plania' 'ma roedden ni'n siarad.
(Morris) {Yn gwta ac yn eu gwthio i ffwrdd.}
 
(Morris) Rydw i wedi gweld digon arnyn nhw.
(2, 0) 2197 Do, ond mi sgrifennwch chi air o gymeradwyaeth arnyn nhw.
(Morris) Cymeradwyaeth?
 
(Morris) Byth.
(2, 0) 2200 Ond mae'r hen ŵr druan ar farw.
(2, 0) 2201 Ellwch chi ddim rhoi cymaint â hynny o foddhad iddo fo a'i fab cyn iddyn nhw gael eu gwahanu?
(2, 0) 2202 A hwyrach y câi o'r job o godi'r tŷ wedyn.
(Morris) Ie, dyna'n union be' gâi o.
 
(Morris) Mae o wedi g'neud yn siŵr o hynny,... y dyn ifanc smart 'ma.
(2, 0) 2205 Os felly, ellwch chi ddim d'eud y mymryn lleia' o gelwydd am dro?
(Morris) Celwydd?
 
(2, 0) 2210 Hold on.
(2, 0) 2211 Dim rhaid i chi 'mrathu fi.
(2, 0) 2212 Sôn am ysbrydion.
(2, 0) 2213 Rydych chi'ch hun yn ymddwyn fel blymin ysbryd.
(2, 0) 2214 Oes gennych chi feiro?
(Morris) Ddim arna' i.
 
(2, 0) 2217 Yn yr offis lle mae'r hogan 'na...
(Morris) Arhoswch ble rydych chi, Helen.
 
(Morris) Achos mi wnes i ddrwg iddo fo, ei wasgu o i lawr.
(2, 0) 2222 Fo hefyd?
(Morris) Roedd arna' i angen lle í mi fy hun.
 
(Morris) Ond yr Elwyn ma, does wiw iddo fo ddechra' dod yn ei flaen.
(2, 0) 2225 Y dyn ifanc druan, 'does dim peryg o hynny siŵr, os nad oes 'na ddim byd yn ei ben o.
(Morris) {Yn nesáu, yn edrych arni a sibrwd.}
 
(Morris) Os daw Elwyn Meredith yn ei flaen mi fydd yn fy ngwthio i i lawr, yn rhoi'r farwol i mi.
(2, 0) 2228 O. Ydy o mor alluog â hynny?
(Morris) O ydy, mi ellwch fentro.
 
(2, 0) 2232 Ac eto roeddech chi eisio'i gau o allan.
(2, 0) 2233 Rhag cywilydd i chi Mr Morris.
(Morris) Mae'r frwydr y bûm i'n ei hymladd wedi costio'n ddrud iawn i mi eisoes.
 
(Morris) Ac y mae arna' i ofn na fydd y gweision a'r negeswyr yn ufuddhau i mi mwy.
(2, 0) 2236 Mi fydd rhaid i chi fynd yn eich blaen hebddyn nhw ynte'.
(2, 0) 2237 'Does dim arall amdani hi.
(Morris) Anobeithiol, Helen.
 
(2, 0) 2244 Peidiwch â siarad fel 'na.
(2, 0) 2245 Oes arnoch chi eisio fy lladd i?
(2, 0) 2246 Dwyn oddi arna' i yr hyn sy'n fwy na mywyd i?
(Morris) A be' ydy hwnnw?
 
(Morris) A be' ydy hwnnw?
(2, 0) 2248 Y dyhead am eich gweld chi yn eich gogoniant.
(2, 0) 2249 Eich gweld chi â bloda' yn eich llaw.
(2, 0) 2250 Yn uchel, uchel ar ben tŵr eglwys.
 
(2, 0) 2252 Dowch, ble mae'r beiro?
(2, 0) 2253 Mae'n rhaid bod gennych chi un.
(Morris) {Yn tynnu allan ei ddyddiadur.}
 
(2, 0) 2257 Da iawn.
(2, 0) 2258 Rŵan, gadewch i ni'n dau eistedd i lawr yn fan 'ma, Mr Morris.
 
(2, 0) 2260 A rŵan, gawn ni sgrifennu ar y cynllunia'?
(2, 0) 2261 Rhywbeth reit neis a charedig.
(2, 0) 2262 I'r Alwyn ofnadwy 'na, neu beth bynnag ydy ei enw fo.
(Morris) {Yn sgrifennu ychydig eiriau, yna'n troi ei ben ac edrych arni.}
 
(Morris) Dwedwch un peth wrtha i Helen.
(2, 0) 2265 Ie?
(Morris) Os ydych chi wedi bod yn disgwyl amdana' i ar hyd y deng mlynedd yma...
 
(Morris) Os ydych chi wedi bod yn disgwyl amdana' i ar hyd y deng mlynedd yma...
(2, 0) 2267 Wel?
(Morris) Pam na ddaru chi sgrifennu ata' i?
 
(2, 0) 2271 Na, na, na.
(2, 0) 2272 Dyna'r union beth nad oeddwn i eisio.
(Morris) Pam?
 
(Morris) Pam?
(2, 0) 2274 Roedd arna' i ofn i'r holl beth ddisgyn yn chwilfriw.
(2, 0) 2275 Ond mynd i sgrifennu ar y cynllunia' roedden ni, Mr Morris.
(Morris) Ie, siŵr.
 
(2, 0) 2278 Cofiwch rŵan, neis a charedig.
(2, 0) 2279 O mae'n gas gen i'r Aelwyn 'ma.
(Morris) {Yn sgrifennu.}
 
(2, 0) 2283 Be ddaru chi ddeud?
(Morris) Dim ond gofyn fuoch chi'n caru rhywun.
 
(Morris) Dim ond gofyn fuoch chi'n caru rhywun.
(2, 0) 2285 Rhywun arall ydych chi'n ei feddwl, debyg?
(Morris) {Yn edrych i fyny ati.}
 
(Morris) Erioed?
(2, 0) 2291 Do, yn awr ac yn y man.
(2, 0) 2292 Pan fyddwn i'n flin iawn efo chi am beidio dod.
(Morris) Roeddech ch'n cymryd diddordeb mewn bechgyn, felly?
 
(Morris) Roeddech ch'n cymryd diddordeb mewn bechgyn, felly?
(2, 0) 2294 Ychydig, am ryw wythnos neu ddwy.
(2, 0) 2295 Duwcs annwyl, rydych chi'n gwybod sut mae petha' fel 'na'n digwydd, debyg.
(Morris) Helen.
 
(Morris) I be daethoch chi yma?
(2, 0) 2298 Peidiwch â gwastraffu amser yn siarad.
(2, 0) 2299 Mi allai'r hen ŵr farw.
(Morris) Atebwch, Helen.
 
(Morris) Be sy arnoch chi eisio gen i?
(2, 0) 2302 Rydw i eisio 'nheyrnas.
(Morris) H'm.
 
(Mrs Morris) Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly.
(2, 0) 2307 Rydych chi'n garedig dros ben.
(Mrs Morris) Twt, dim ond fy nyletswydd i.
 
(2, 0) 2321 O na, gadewch i mi gael y pleser o neud hynny.
 
(2, 0) 2323 Be ydy ei henw hi?
(Morris) Miss Parry.
 
(Morris) Miss Parry.
(2, 0) 2325 Mae hynny'n swnio mor oeraidd.
(2, 0) 2326 Ei henw cynta hi oeddwn i'n 'i feddwl.
(Morris) Gwyneth, rydw i'n meddwl.
 
(2, 0) 2329 Gwyneth, dowch i mewn yma.
(2, 0) 2330 Brysiwch, mae Mr Morris eisio siarad efo chi.
(Gwyneth) {Yn y drws a golwg wedi dychryn arni.}
 
(2, 0) 2334 Edrychwch yma Gwyneth.
(2, 0) 2335 Gewch chi fynd â'r rhain adre.
(2, 0) 2336 Mae Mr Morris wedi sgrifennu arnyn nhw.
(Gwyneth) O, o'r diwedd!
 
(2, 0) 2371 Wel, 'dydw i 'mo'r un i fod wrth y ddesg yna beth bynnag.
(Morris) Hidiwch befo, hidiwch befo.
 
(2, 0) 2380 Mi fydd yn wych eich gweld chi mor uchel unwaith eto!
(Morris) Fi!
 
(Mrs Morris) Ac ynta'n cael pendro mor ofnadwy!
(2, 0) 2385 Fo'n cael pendro!
(2, 0) 2386 Na, mi wn i'n iawn nad ydy o ddim!
(Mrs Morris) O ydy wir, mae o.
 
(Mrs Morris) O ydy wir, mae o.
(2, 0) 2388 Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel!
(Mrs Morris) Ie, mi glywais i bobol yn sôn am hynny ond mae'n amhosib.
 
(2, 0) 2409 Ydy hyn yn wir neu ydy o ddim?
(Morris) Mod i'n cael pendro?
 
(Morris) Mod i'n cael pendro?
(2, 0) 2411 Na |feiddia| fy arwr i, na |fedar| o, ddringo cyn uched ag y gall o adeiladu?
(Morris) Fel'na ydych chi'n ei gweld hi?
 
(Morris) Fel'na ydych chi'n ei gweld hi?
(2, 0) 2413 Ie.
(Morris) 'Does 'na 'run darn ohono i yn ddiogel oddi wrthych chi, 'ddyliwn.
 
(2, 0) 2416 I fyny acw.
(2, 0) 2417 Reit i fyny...
(Morris) {Yn mynd ati hi.}
 
(2, 0) 2422 Ie, dyna ddaru chi addo i mi.
(Morris) |Ddaru| mi?
 
(Morris) |Ddaru| mi?
(2, 0) 2424 Come on, Mr Morris.
(2, 0) 2425 Mi dd'wedsoch chi y byddwn i'n dywysoges.
(2, 0) 2426 Y b'asech chi'n rhoi teyrnas i mi.
(2, 0) 2427 Ac yna mi 'naethoch chi, a...
(2, 0) 2428 Wel?
(Morris) {Yn ofalus.}
 
(2, 0) 2432 Trïo gwadu ydych chi?
(2, 0) 2433 D'eud na ddaru chi ddim?
(Morris) Dydw i ddim yn gwybod yn iawn.
 
(Morris) Ond un peth a wn i rŵan, sef...
(2, 0) 2437 Sef be?
(2, 0) 2438 Dwedwch ar unwaith.
(Morris) Y dylwn i fod wedi g'neud.
 
(2, 0) 2441 F'asech |chi| byth yn cael pendro!
(Morris) Heno, mi rown i'r dorch floda' i fyny... Dywysoges Helen.
 
(2, 0) 2444 Uwchben eich cartre' newydd chi, on'd e?
(Morris) Uwchben tŷ newydd na fydd o byth yn gartre' i mi.
 
(Morris) {Yn mynd allan drwy ddrws yr ardd.}
(2, 0) 2449 ... dychrynllyd o wefreiddiol...
(Mrs Morris) {Yn troi ei phen ychydig.}
 
(Mrs Morris) Fuoch chi o gwmpas yr ardd, Miss O'Reilly?
(3, 0) 2473 Do, mi fûm i'n cael golwg arni.
(Mrs Morris) A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld.
 
(Mrs Morris) A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld.
(3, 0) 2475 Do wir.
(3, 0) 2476 Mae 'na glystyra' ohonyn nhw dan y llwyni.
(Mrs Morris) Oes 'na wir?
 
(3, 0) 2481 Be'?
(3, 0) 2482 Fyddwch chi ddim yn picio i lawr i'r ardd bob dydd ynte'?
(Mrs Morris) {Hanner gwên.}
 
(Mrs Morris) Fydda i ddim yn |picio| i unlle rŵan.
(3, 0) 2485 Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na?
(Mrs Morris) Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn.
 
(Mrs Morris) Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn.
(3, 0) 2487 Eich gardd chi'ch hun?
(Mrs Morris) Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach.
 
(Mrs Morris) Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach.
(3, 0) 2489 Be' ydych chi'n 'i feddwl?
(Mrs Morris) Dydy hi ddim fel roedd hi yn amser nhad a mam.
 
(3, 0) 2497 Mrs Morris.
(Mrs Morris) Ie?
 
(Mrs Morris) Ie?
(3, 0) 2499 Ga' i aros yma efo chi am dipyn?
(Mrs Morris) Cewch ar bob cyfri, os ydych chi eisio.
 
(3, 0) 2502 A! Mi all rhywun 'i fwynhau ei hun fel cath yn yr haul yn fan 'ma.
(Mrs Morris) {Yn rhoi ei llaw yn ysgafn ar wddw Helen.}
 
(Mrs Morris) Roeddwn i'n meddwl mai i'r tŷ at y gŵr yr oeddech chi am fynd.
(3, 0) 2506 I be?
(Mrs Morris) I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl.
 
(Mrs Morris) I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl.
(3, 0) 2508 Ddim diolch.
(3, 0) 2509 A ph'run bynnag dydy o ddim yn y tŷ.
(3, 0) 2510 Mae o draw yn fan'na efo'r gweithwyr.
(3, 0) 2511 Ond roedd o'n edrych mor ffyrnig na feiddiais i ddim siarad efo fo.
(Mrs Morris) Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi.
 
(Mrs Morris) Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi.
(3, 0) 2513 Tybed?
(Mrs Morris) Dydych chi ddim yn ei nabod o eto, Miss O'Reilly.
 
(3, 0) 2516 Ydych chi'n falch eich bod chi'n mynd i'r tŷ newydd?
(Mrs Morris) Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris.
 
(Mrs Morris) Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris.
(3, 0) 2518 O, nid hynny'n unig, siŵr.
(Mrs Morris) Wir, Miss OReilly.
 
(Mrs Morris) Ond yn amal mae'n anodd iawn eich gorfodi eich hun i ufuddhau.
(3, 0) 2522 Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn.
(Mrs Morris) Ydy.
 
(Mrs Morris) I rywun â chymaint o wendida' ag sy' gen i...
(3, 0) 2526 I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi...
(Mrs Morris) Sut y gwyddoch chi am hynny?
 
(Mrs Morris) Sut y gwyddoch chi am hynny?
(3, 0) 2528 Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i.
(Mrs Morris) Prin iawn y bydd o'n sôn am y petha' yna efo mi.
 
(3, 0) 2532 Mrs Morris druan.
(3, 0) 2533 I ddechra' mi fuo'r tân...
(Mrs Morris) {Gydag ochenaid.}
 
(Mrs Morris) Popeth oedd yn perthyn i mi wedi'i losgi.
(3, 0) 2537 A wedyn mi ddaeth rhywbeth gwaeth...
(Mrs Morris) {Yn chwilio am eglurhad.}
 
(Mrs Morris) Gwaeth?
(3, 0) 2540 Gwaeth na'r cwbwl.
(Mrs Morris) Be' ydych chi'n 'i feddwl?
 
(3, 0) 2543 Mi goll'soch chi'r ddau hogyn bach.
(Mrs Morris) O, ie.
 
(Mrs Morris) Ie, a bod yn ddiolchgar hefyd.
(3, 0) 2549 Felly rydych chi'n teimlo, ie?
(Mrs Morris) Nid bob amser, mae'n ddrwg gen i dd'eud.
 
(Mrs Morris) Ond er hynny fedra' i ddim.
(3, 0) 2553 Na fedrwch.
(3, 0) 2554 'Dydy hynny ddim ond naturiol.
(Mrs Morris) Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi.
 
(Mrs Morris) Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi.
(3, 0) 2556 Am be?
(Mrs Morris) Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd.
 
(Mrs Morris) Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd.
(3, 0) 2558 Ond wela' i ddim bod...
(Mrs Morris) O, peidiwch wir, Miss OReilly.
 
(3, 0) 2566 Mrs Morris annwyl.
(3, 0) 2567 Dwedwch wrtha' i.
(3, 0) 2568 Pa betha'?
(Mrs Morris) Dim ond petha' bychain.
 
(Mrs Morris) A'r dolia' i gyd.
(3, 0) 2576 Y dolia??
(Mrs Morris) {Yn tagu gan ddagrau.}
 
(Mrs Morris) Roedd gen i naw o ddolia'; ddigon o ryfeddod.
(3, 0) 2579 Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd?
(Mrs Morris) Bob un.
 
(Mrs Morris) O mi deimlais i'n arw.
(3, 0) 2583 Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach?
(Mrs Morris) Wedi'u cadw, oeddwn.
 
(Mrs Morris) Roedd y dolia' a finna' wedi dal i fyw efo'n gilydd.
(3, 0) 2587 Wedi i chi dyfu?
(Mrs Morris) Ie, ymhell ar ôl hynny.
 
(Mrs Morris) Ie, ymhell ar ôl hynny.
(3, 0) 2589 Wedi i chi briodi hefyd?
(Mrs Morris) O, ie.
 
(Mrs Morris) Wnewch chi ddim chwerthin am fy mhen i, na wnewch, Miss OReilly?
(3, 0) 2596 Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi.
(Mrs Morris) Oherwydd, roedd 'na fywyd ynddyn hwytha', ydych chi'n gweld?
 
(3, 0) 2612 Wrth gwrs.
(3, 0) 2613 Yr offer a'r gêr i gyd.
(3, 0) 2614 Ond heddiw 'dydw i ddim yn mynd i ddringo a thorri 'ngwddw.
(3, 0) 2615 Mi arhoswn ni'n dau'n ddistaw yn y gwaelod a sbïo, Doctor.
(Dr Hughes) Be gawn ni weld?
 
(3, 0) 2624 O biti na fedren ni.
(Mrs Morris) {Yn ymryddhau yn dyner.}
 
(Morris) Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos?
(3, 0) 2637 Rydw i wedi sylwi eich bod chi'n cael effaith felly.
(Morris) Hwyrach.
 
(Morris) Rydych chi'n edrych felly.
(3, 0) 2643 Rydw i newydd ddod i fyny o blith y meirw.
(Morris) Be' ydych chi'n 'i feddwl?
 
(Morris) Be' ydych chi'n 'i feddwl?
(3, 0) 2645 Bod iasa' oer wedi bod yn fy ngherdded i, Mr Morris.
(Morris) {Yn araf.}
 
(Morris) Rydw i'n meddwl mod i'n deall...
(3, 0) 2648 Be' ddaeth â chi yma rŵan?
(Morris) Mi gefais i gip arnoch chi o'r fan 'cw.
 
(Morris) Mi gefais i gip arnoch chi o'r fan 'cw.
(3, 0) 2650 Ond rhaid eich bod chi wedi'i gweld hitha' hefyd.
(Morris) Mi wyddwn i yr âi hi ar unwaith pan ddeuwn i yma.
 
(Morris) Mi wyddwn i yr âi hi ar unwaith pan ddeuwn i yma.
(3, 0) 2652 Ydy o'n boenus iawn i chi ei bod hi'n eich osgoi chi fel hyn?
(Morris) Mewn ffordd mae o'n rhyddhad hefyd.
 
(Morris) Mewn ffordd mae o'n rhyddhad hefyd.
(3, 0) 2654 Nad os raid i chi ei hwynebu hi.
(Morris) Ie.
 
(Morris) Ie.
(3, 0) 2656 Rhag i chi orfod gweld yn gyson gymaint o loes ydy colli'r bechgyn bach iddi hi o hyd?
(Morris) Ie, hynny'n bennaf.
 
(3, 0) 2674 Rydw i'n mynd i ffwrdd.
(Morris) {Yn siarp.}
 
(Morris) Mynd i ffwrdd?
(3, 0) 2677 Ydw.
(Morris) Ond, 'na i ddim gadael i chi fynd.
 
(Morris) Ond, 'na i ddim gadael i chi fynd.
(3, 0) 2679 Be' ydw i'n mynd i'w 'neud yma?
(Morris) Dim ond aros yma Helen.
 
(3, 0) 2682 O, ie.
(3, 0) 2683 Diolch yn fawr.
(3, 0) 2684 Ond mi wyddoch chi'n iawn na fasai hi'n gorffen yn fan'no.
(Morris) {Yn fyrbwyll.}
 
(3, 0) 2688 Alla' i ddim g'neud drwg i rywun ydw i'n ei |nabod|.
(3, 0) 2689 Alla' i ddim dwyn rhywbeth sy'n perthyn iddi hi.
(Morris) Pwy sy'n sôn am hynny?
 
(3, 0) 2692 Rhywun diarth, OK.
(3, 0) 2693 Achos mae hynny'n hollol wahanol.
(3, 0) 2694 Rhyw berson na welais i erioed mohoni.
(3, 0) 2695 Ond rhywun yr ydw i wedi dod yn agos ati hi.
(3, 0) 2696 Na.
(3, 0) 2697 No way.
(Morris) Ie, ond wnes i erioed awgrymu y dylech chi.
 
(Morris) Ie, ond wnes i erioed awgrymu y dylech chi.
(3, 0) 2699 O, Mr Morris.
(3, 0) 2700 Mi wyddoch chi'n iawn be fyddai 'i diwedd hi.
(3, 0) 2701 A dyna pam rydw i'n mynd i ffwrdd.
(Morris) A be' ddaw ohonof fi wedi i chi fynd?
 
(3, 0) 2705 Dim problem i chi.
(3, 0) 2706 Mae gennych chi'ch dyletswydda' ati hi.
(3, 0) 2707 Rhaid i chi fyw i'r rheini.
(Morris) Rhy hwyr.
 
(Morris) Mae'r pwera' 'ma... yr... yr...
(3, 0) 2710 ... Ysbrydion...
(Morris) Ie, yr ysbrydion 'na.
 
(Morris) Fi, na |alla'| i fyw heb sirioldeb mewn bywyd.
(3, 0) 2724 Be' ydych chi am adeiladu nesa?
(Morris) {Yn ysgwyd ei ben.}
 
(Morris) Dydw ddim yn credu yr adeilada' i lawer eto.
(3, 0) 2727 Ddim mwy o'r cartrefi clyd rheini i fam a thad a thyaid o blant?
(Morris) Fydd 'na alw am dai felly yn y dyfodol, os gwn i?
 
(Morris) Fydd 'na alw am dai felly yn y dyfodol, os gwn i?
(3, 0) 2729 Y contractor druan!
(3, 0) 2730 A chitha' wedi bod wrthi am ddeng mlynedd.
(3, 0) 2731 Wedi rhoi eich bywyd i hynny'n unig.
(Morris) Ie, mae 'na lawer o wir yn yr hyn ydych chi'n 'i dd'eud.
 
(3, 0) 2734 O! Mae'r cwbwl yn edrych mor wirion, mor hurt.
(Morris) Be?
 
(Morris) Be?
(3, 0) 2736 Na all rhywun afael yn dynn yn ei hapusrwydd ei hun.
(3, 0) 2737 Am ddim rheswm ond bod rhywun ydych chi'n ei nabod yn digwydd bod yn y ffordd.
(Morris) Rhywun nad oes gennych chi ddim hawl i'w wthio o'r neilltu.
 
(Morris) Rhywun nad oes gennych chi ddim hawl i'w wthio o'r neilltu.
(3, 0) 2739 Tybed, nad oes gan rywun yr hawl mewn gwirionedd?
(3, 0) 2740 Ac eto, ac eto...
(3, 0) 2741 O na f'asai rhywun yn gallu cysgu ac anghofio'r holl beth.
 
(3, 0) 2746 Doedd gen i ddim byd ond carchar.
(Morris) A rydych chi'n benderfynol nad ewch chi'n ôl iddo?
 
(3, 0) 2749 Fydd deryn gwyllt o'r coed byth eisio bod mewn cawell.
(Morris) Gwell ganddo wibio drwy'r awyr agored...
 
(3, 0) 2752 Gwibio ydy natur yr hebog a'r barcud.
(Morris) {Yn syllu arni.}
 
(3, 0) 2756 A rhywbeth arall.
(3, 0) 2757 D'wedwch be' oedd |hwnnw|.
(Morris) Cydwybod gref.
 
(3, 0) 2761 Mi wn i be ydych chi'n mynd i adeiladu nesa'.
(Morris) Mi wyddoch chi fwy nag a wn i ynte', Helen.
 
(Morris) Mi wyddoch chi fwy nag a wn i ynte', Helen.
(3, 0) 2763 Wir.
(3, 0) 2764 Mae'r contractors 'ma mor dwp.
(Morris) Be' fydd o ynte?
 
(3, 0) 2767 Y castell.
(Morris) Pa gastell?
 
(Morris) Pa gastell?
(3, 0) 2769 Fy nghastell i wrth gwrs.
(Morris) Ydych chi eisio castell rŵan?
 
(Morris) Ydych chi eisio castell rŵan?
(3, 0) 2771 Rydych chi wedi addo teyrnas i mi.
(Morris) Felly rydych chi'n dal i dd'eud.
 
(Morris) Felly rydych chi'n dal i dd'eud.
(3, 0) 2773 Reit, rydych chi'n cyfadde'ch bod chi wedi addo teyrnas i mi.
(3, 0) 2774 Wel, ellwch chi ddim cael teyrnas heb gastell.
(Morris) {Yn bywiogi.}
 
(Morris) |Maen| nhw'n cyd-fynd fel arfer.
(3, 0) 2778 Da iawn.
(3, 0) 2779 Adeiladwch o ynte'.
(3, 0) 2780 Ar unwaith.
(Morris) {Yn chwerthin.}
 
(Morris) Rŵan, y munud 'ma?
(3, 0) 2783 Wrth gwrs.
(3, 0) 2784 Mae'r amser ar ben.
(3, 0) 2785 Y deng mlynedd.
(3, 0) 2786 A dydw i ddim am aros chwaneg.
(3, 0) 2787 Y castell, Mr Morris!
(Morris) Nid mater bach ydy bod yn eich dyled chi Helen.
 
(3, 0) 2800 Mi fydd fy nghastell i'n sefyll ar le uchel, uchel iawn.
(3, 0) 2801 Pob ochor yn glir.
(3, 0) 2802 Fel y galla' i weld ymhell i'r pellter.
(Morris) Efo tŵr uchel, 'does dim dwywaith.
 
(Morris) Efo tŵr uchel, 'does dim dwywaith.
(3, 0) 2804 Tŵr uchel ofnadwy.
(3, 0) 2805 Ac ar ben ucha'r tŵr mi fydd 'na falconi.
(3, 0) 2806 Ac yno'n uchel y bydda' i...
(Morris) {Yn rhoi ei ddwylo ar ei ben heb feddwl.}
 
(Morris) O, fel y byddwch chi wrth eich bodd yn sefyll mewn lle mor beryglus o uchel...
(3, 0) 2809 Wrth gwrs.
(3, 0) 2810 Mi safa' i yno ac edrych i lawr ar y lleill... y rhai sy'n codi eglwysi a chartrefi i fam a thad a phlant.
(3, 0) 2811 ... A mi gewch chitha' ddod i weld hefyd.
(Morris) {Yn isel.}
 
(Morris) Gaiff yr hen adeiladwr ddringo i fyny at y dywysoges?
(3, 0) 2814 Os bydd o'n dymuno.
(Morris) {Yn dyner.}
 
(3, 0) 2818 Daw, mi ddaw.
(Morris) Ond wnaiff o byth adeiladu wedyn, yr hen adeiladwr druan.
 
(3, 0) 2821 O g'naiff wir!
(3, 0) 2822 Mi awn ni'n dau ati efo'n gilydd.
(3, 0) 2823 A wedyn mi adeiladwn ni'r peth hardda'... yr hardda' yn yr holl fyd.
(Morris) {Yn daer.}
 
(Morris) Helen, d'wedwch wrtha i, be' ydy hwnnw?
(3, 0) 2828 Adeiladwyr.
(3, 0) 2829 Bobol bach, mae nhw'n rhai twp, mor ofnadwy o dwp.
(Morris) Ydyn, mwy na thebyg.
 
(3, 0) 2835 Cestyll yn yr awyr.
(Morris) Cestyll yn yr awyr?
 
(3, 0) 2838 Ie.
(3, 0) 2839 Cestyll yn yr awyr.
(3, 0) 2840 Wyddoch chi sut beth ydy castell yn yr awyr?
(Morris) Dyna'r peth hardda' yn y byd, meddech chi.
 
(3, 0) 2843 Ie, wrth gwrs.
(3, 0) 2844 Cestyll yn yr awyr... maen nhw mor handi i ddianc iddyn nhw.
(3, 0) 2845 Ac mor hawdd eu gwneud hefyd.
 
(3, 0) 2847 Yn enwedig i adeiladwyr efo nerfa' gwan.
(Morris) {Yn codi.}
 
(3, 0) 2851 Castell go iawn yn yr awyr?
(Morris) Ie.
 
(3, 0) 2857 Y |wreath|.
(3, 0) 2858 O mi fydd hyn yn wych!
(Morris) {Wedi'i synnu.}
 
(3, 0) 2893 Mr Morris.
(3, 0) 2894 Mi arhosa' i yn fan 'ma i'ch gwylio chi.
(Morris) Fy ngwylio i!
 
(Morris) Fy ngwylio i!
(3, 0) 2896 Mi fydd yn hollol wefreiddiol.
(Morris) {Yn isel.}
 
(3, 0) 2901 Rydw i'n meddwl y gallech chi, o leia', fod wedi diolch iddo fo.
(Elwyn) Diolch.
 
(Elwyn) Ddylwn i fod wedi diolch iddo fo?
(3, 0) 2904 Wel, dylech wrth gwrs.
(Elwyn) Rydw i'n meddwl mai i chi y dylwn i ddiolch.
 
(Elwyn) Rydw i'n meddwl mai i chi y dylwn i ddiolch.
(3, 0) 2906 Sut y gellwch chi dd'eud y fath beth?
(Elwyn) {Heb ei hateb.}
 
(3, 0) 2911 Rydw i'n ei nabod o'n well na neb.
(Elwyn) {Chwerthiniad chwerw.}
 
(3, 0) 2919 Dim ond iddo fo...?
(3, 0) 2920 D'wedwch, ar unwaith!
(Elwyn) Iddo fo gael ei chadw hi efo fo.
 
(3, 0) 2923 Yr hogan 'na wrth y ddesg?
(Elwyn) Ie.
 
(3, 0) 2926 Dydy hyn 'na ddim yn wir.
(3, 0) 2927 Rydych chi'n d'eud anwiredd amdano fo.
(Elwyn) Roeddwn innau yn gwrthod credu hynny hyd heddiw... pan dd'wedodd hi ei hun.
 
(3, 0) 2930 Be ddwedodd hi?
(3, 0) 2931 Mae'n rhaid i mi gael gwybod.
(3, 0) 2932 Ar unwaith.
(3, 0) 2933 Y munud 'ma.
(Elwyn) Mi dd'wedodd hi ei fod o wedi meddiannu ei meddwl hi... yn gyfangwbwl.
 
(3, 0) 2939 Chaiff hi 'mo'r cyfle!
(Elwyn) Pwy sy'n d'eud?
 
(Elwyn) Pwy sy'n d'eud?
(3, 0) 2941 Mi fydd o'n d'eud.
(Elwyn) O, rydw i'n deall.
 
(Elwyn) Ar ôl hyn fasai hi ddim ond yn rhwystr iddo.
(3, 0) 2944 Dydych chi'n deall dim.
(3, 0) 2945 Os ydych chi'n gallu siarad fel 'na.
(3, 0) 2946 Na, mi dd'weda' i wrthych chi pam roedd o'n dal ei afael ynddi hi.
(Elwyn) Pam, ynte'?
 
(Elwyn) Pam, ynte'?
(3, 0) 2948 Er mwyn eich cadw chi.
(Elwyn) Dd'wedodd o hynny wrthych chi?
 
(Elwyn) Dd'wedodd o hynny wrthych chi?
(3, 0) 2950 Naddo.
(3, 0) 2951 Ond dyna'r gwir.
(3, 0) 2952 Felly roedd hi.
(3, 0) 2953 Rydw i eisio iddi hi fod felly.
(Elwyn) A'r funud y daethoch chi, mi adawodd o iddi hi fynd.
 
(Elwyn) A'r funud y daethoch chi, mi adawodd o iddi hi fynd.
(3, 0) 2955 Na, |chi|.
(3, 0) 2956 Gadael i |chi| fynd ddaru o.
(3, 0) 2957 Pam y b'asa fo'n malio am ryw ferch fel hi?
(Elwyn) {Yn dechrau meddwl.}
 
(Elwyn) Oes posib mai f'ofn i oedd arno fo drwy'r amser?
(3, 0) 2960 Ofn wir.
(3, 0) 2961 Ofn arno fo?
(3, 0) 2962 Peidiwch â bod mor hunan-dybus, bendith y Tad i chi.
(Elwyn) Mae'n siŵr ei fod o wedi sylweddoli ers talwm fod gen i rywfaint o allu.
 
(Elwyn) P'run bynnag, ydych chi ddim yn gweld mai ofn sy' amo fo?
(3, 0) 2965 Fo?
(3, 0) 2966 Peidiwch â malu awyr.
(Elwyn) Yn ei ffordd ei hun mae o'n llwfr.
 
(Elwyn) Ond pan ddaw hi i ddringo rhyw fymryn o sgaffald, mae'n well ganddo fo 'neud unrhyw beth na hynny.
(3, 0) 2972 O, pe baech chi wedi'i weld o yn uchel, uchel, yn yr entrychion fel y gwelais i o.
(Elwyn) Welsoch chi hynny?
 
(Elwyn) Welsoch chi hynny?
(3, 0) 2974 O, do.
(3, 0) 2975 Mor rhydd a balch.
(3, 0) 2976 Yn sefyll reit ar y top a gosod y |wreath| ar y ceiliog gwynt.
(Elwyn) Mi wn i iddo fo fentro yr un tro hwnnw yn ei fywyd.
 
(Elwyn) Ond 'does 'na 'run gallu ar y ddaear fedrai ei gael o i 'neud hynny eto.
(3, 0) 2981 Heddiw, mi fydd o'n g'neud hynny eto.
(Elwyn) {Yn wawdlyd.}
 
(Elwyn) Gawn ni |weld|.
(3, 0) 2984 Mi |gawn| ni weld!
(Elwyn) Welwch chi na finna' mo hynny.
 
(3, 0) 2988 Rydw i'n mynd i'w weld o.
(3, 0) 2989 Mae'n |rhaid| i mi ei weld o.
(3, 0) 2990 Ac mi ga' i.
(Elwyn) Na, wnaiff o ddim.
 
(Elwyn) Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion,
(3, 0) 2999 Mae o wedi mynd â'r |wreath|.
(Mrs Morris) {Wedi dychryn.}
 
(Mrs Morris) O, Miss O'Reilly fedrwch chi ddim dychmygu mor bryderus ydw i yn ei gylch o.
(3, 0) 3014 Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic.
(Mrs Morris) Ydych hi ddim yn sylweddoli ngeneth i?
 
(3, 0) 3019 Ydych chi'n meddwl y gwnaiff o?
(Mrs Morris) Does dim dal be' all o gymryd yn ei ben.
 
(Mrs Morris) Mi all o 'neud unrhyw beth dan haul.
(3, 0) 3022 Aha!
(3, 0) 3023 Ydych chitha''n meddwl ei fod o... wel...?
(Mrs Morris) Wn i ddim be' i'w feddwl ohono fo, wir.
 
(Mrs Morris) Miss O'Reilly, daliwch eich gafael yn dynn ynddo fo.
(3, 0) 3047 Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny.
(Mrs Morris) Byddai, mae o'n ddyletswydd arna' i.
 
(Dr Hughes) Peidiwch â sôn wrtho fo 'mod i yma.
(3, 0) 3055 Na' i ddim.
(3, 0) 3056 Gellwch fentro y ca' i rywbeth arall i siarad amdano fo efo Mr Morris.
(Mrs Morris) A plis, gofalwch gadw'ch gafael yn dynn ynddo fo.
 
(Morris) Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i.
(3, 0) 3063 Oes.
(3, 0) 3064 Fi, Mr Morris.
(Morris) O! Chi sy 'na Helen?
 
(Morris) Roedd arna' i ofn mai'r doctor a Gladys oedd yma.
(3, 0) 3067 Ofn.
(3, 0) 3068 Rydych chi'n hawdd iawn eich dychryn, mae'n rhaid.
(Morris) Ydych chi'n meddwl?
 
(Morris) Ydych chi'n meddwl?
(3, 0) 3070 Ydw, mae pobol yn d'eud fod arnoch chi ofn dringo, dringo i fyny sgaffald ac ati.
(Morris) Mae hynny'n fater gwahanol.
 
(Morris) Ydy.
(3, 0) 3075 Ofn disgyn i lawr, a'ch lladd eich hun.
(Morris) Na, nid hynny.
 
(Morris) Na, nid hynny.
(3, 0) 3077 Ofn be', ynte?
(Morris) Ofn cosbedigaeth, Helen, ofn y farn.
 
(Morris) Ofn cosbedigaeth, Helen, ofn y farn.
(3, 0) 3079 Cosb?
(3, 0) 3080 'Dydw i ddim yn deall.
(Morris) Eisteddwch i lawr, a mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.
 
(Morris) Eisteddwch i lawr, a mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.
(3, 0) 3082 Ie, g'newch, ar unwaith.
 
(3, 0) 3087 Mi wn i hynny.
(Morris) Wel, hogyn o gartre duwiol yn y wlad oeddwn i, ydych chi'n gweld.
 
(Morris) Felly roeddwn i'n meddwl mai adeiladu eglwysi oedd y gwaith mwya' teilwng fedrwn i 'i neud.
(3, 0) 3090 Ie, ie.
(Morris) A rydw i'n meddwl y medra' i dd'eud mod i wedi codi'r eglwysi bychain hynny mor onest a chywir a chyda cymaint o barch fel...
 
(Morris) A rydw i'n meddwl y medra' i dd'eud mod i wedi codi'r eglwysi bychain hynny mor onest a chywir a chyda cymaint o barch fel...
(3, 0) 3092 Fel be?
(Morris) Fel y disgwyliwn i 'mod i wedi'i blesio Fo.
 
(Morris) Fel y disgwyliwn i 'mod i wedi'i blesio Fo.
(3, 0) 3094 Plesio pwy?
(Morris) Yr un roedd yr eglwysi er ei fwyn o, wrth gwrs.
 
(Morris) Hwnnw roedden nhw wedi'u cysegru i'w ogoniant o, ac er ei glod.
(3, 0) 3097 Wela' i.
(3, 0) 3098 Ond ydych chi'n berffaith siŵr nad... nad oeddech chi wedi'i blesio fo?
(Morris) {Yn ddirmygus.}
 
(Morris) Hwnnw barodd iddyn nhw fod wrth law ddydd a nos... nhw... tylwyth yr...
(3, 0) 3104 Yr ysbrydion?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Dyna, mewn gwirionedd, pam y parodd o i'r hen dŷ fynd ar dân, ydych chi'n gweld.
(3, 0) 3111 O, dyna pam?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Ond mi wawriodd arna i mewn amrantiad.
(3, 0) 3117 Pryd oedd hynny?
(Morris) Pan oeddwn i'n codi tŵr yr eglwys i fyny ym Mryn Padarn.
 
(Morris) Pan oeddwn i'n codi tŵr yr eglwys i fyny ym Mryn Padarn.
(3, 0) 3119 Roeddwn i'n ama'.
(Morris) Oherwydd, i fyny yno yn yr ardal anial honno mi fûm i'n crwydro gan fy holi fy hun.
 
(Morris) Ond, mi fedra' i'ch sicrhau chi nad felly y bu hi.
(3, 0) 3128 Be 'naethoch chi?
(Morris) I ddechra' mi holais fy hun... a phrofi fy hun...
 
(Morris) I ddechra' mi holais fy hun... a phrofi fy hun...
(3, 0) 3130 A wedyn?
(Morris) Yna... mi wnes i'r amhosib... fi gystal â Fo.
 
(Morris) Yna... mi wnes i'r amhosib... fi gystal â Fo.
(3, 0) 3132 Yr amhosib?
(Morris) 'Doeddwn i erioed wedi medru dringo i unrhyw uchder.
 
(3, 0) 3136 O do mi 'naethoch chi.
(Morris) A phan oeddwn i'n sefyll yno yn uchel, reit ar y top, wrth i mi roi'r dorch floda' ar y ceiliog gwynt, mi dd'wedais i wrtho Fo:
 
(3, 0) 3144 Dyna oedd y gân a glywais i yn yr awyr!
(Morris) Ond wedi hynny mi ddaeth ei dro ynta'.
 
(Morris) Ond wedi hynny mi ddaeth ei dro ynta'.
(3, 0) 3146 Be' ydych chi'n 'i feddwl?
(Morris) {Yn edrych arni'n ddigalon.}
 
(Morris) Dydy codi tai i bobol yn dda i ddim, Helen.
(3, 0) 3149 Pam rydych chi'n d'eud hynny?
(Morris) Oherwydd mod i'n gweld nad ydy pobol ddim yn medru defnyddio'r tai er mwyn eu hapusrwydd.
 
(Morris) Dim oll!
(3, 0) 3158 Newch hi byth adeiladu dim byd eto felly?
(Morris) {Yn fywiog.}
 
(Morris) Rydw i ar fin dechra'!
(3, 0) 3162 Be' ydych chi am adeiladu?
(3, 0) 3163 Dwedwch ar unwaith.
(Morris) Does dim ond un trigfan i hapusrwydd pobol.
 
(3, 0) 3167 Ein cestyll yn yr awyr ydych chi'n feddwl, on'd e?
(Morris) Ie.
 
(Morris) Cestyll yn yr awyr.
(3, 0) 3170 Mae arna' i ofn y caech chi bendro cyn cyrraedd hanner y ffordd i fyny.
(Morris) Nid os ca' i fynd i fyny law yn llaw efo chi, Helen.
 
(3, 0) 3173 Efo fi'n unig?
(3, 0) 3174 Oni fydd 'na amryw ohonon ni?
(Morris) Pwy arall?
 
(Morris) Pwy arall?
(3, 0) 3176 O, y Gwyneth 'na.
(3, 0) 3177 Yr hogan druan 'na wrth y ddesg.
(3, 0) 3178 Ydych chi ddim am fynd â hi hefyd?
(Morris) Oho!
 
(Morris) Amdani hi yr oedd Gladys yn siarad efo chi?
(3, 0) 3181 Ai dyna'r gwir?
(3, 0) 3182 Ie neu nage?
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Rhaid i chi gredu ynof fi, yn llwyr.
(3, 0) 3186 Ar hyd y deng mlynedd d'waetha, rydw i wedi credu ynoch chi'n gyfangwbwl.
(Morris) Rhaid i chi ddal i gredu ynof fi.
 
(Morris) Rhaid i chi ddal i gredu ynof fi.
(3, 0) 3188 Gadewch i mi'ch gweld chi yn sefyll ar y top, yn ddyn rhydd ynte'.
(Morris) {Yn drist.}
 
(3, 0) 3192 Rydw i eisio i chi 'neud.
 
(3, 0) 3194 Dim ond unwaith eto, plis.
(3, 0) 3195 G'newch yr amhosib unwaith eto!
(Morris) {Yn sefyll ac edrych yn ddwfn i'w llygaid.}
 
(3, 0) 3199 Be dd'wedwch chi wrtho Fo?
(Morris) Mi dd'weda' i wrtho Fo:
 
(3, 0) 3205 Ie!... Ie!... Ie!
(Morris) Ei adeiladu o gyda thywysoges a garaf.
 
(Morris) Ei adeiladu o gyda thywysoges a garaf.
(3, 0) 3207 Ie.
(3, 0) 3208 D'wedwch hynny wrtho Fo.
(3, 0) 3209 D'wedwch hynny wrtho Fo.
(Morris) G'naf.
 
(Morris) Yn awr rwy'n mynd i lawr, rhoi fy mreichia' amdani hi a'i chusanu...
(3, 0) 3213 Lawer gwaith.
(3, 0) 3214 D'wedwch hynny.
(Morris) Laweroedd o weithia', dyna dd'weda' i.
 
(Morris) Laweroedd o weithia', dyna dd'weda' i.
(3, 0) 3216 A wedyn?
(Morris) Yna mi chwifia' i fy het a dod i lawr i'r ddaear a g'neud fel y d'wedais i.
 
(3, 0) 3219 Rŵan rydw i'n eich gweld chi eto fel y gwelais i chi pan oedd cân yn yr awyr!
(Morris) {Yn edrych arni wedi plygu ei ben.}
 
(Morris) Sut ddar'u chi ddatblygu i'r hyn ydych chi, Helen?
(3, 0) 3222 Sut y g'naethoch chi fi yr hyn ydw i?
(Morris) {Yn fyr a chadarn.}
 
(3, 0) 3226 O fy adeiladwr arbennig i!
(3, 0) 3227 Fy nghastell hardd.
(3, 0) 3228 Ein castell yn yr awyr!
(Morris) Ar ei sylfaen gadarn.
 
(Elwyn) Welwch chi'r dynion ifainc 'na i lawr yn y stryd?
(3, 0) 3272 Gwelaf.
(Elwyn) Y gweithwyr ifainc a'r prentisiaid ydyn nhw, wedi dod i wylio'r bos.
 
(Elwyn) Y gweithwyr ifainc a'r prentisiaid ydyn nhw, wedi dod i wylio'r bos.
(3, 0) 3274 I be' mae nhw eisio'i wylio fo?
(Elwyn) Mae nhw eisio gweld cymaint o ofn arno fo na 'naiff o ddim dringo i ben ei dŷ ei hun.
 
(Elwyn) Mae nhw eisio gweld cymaint o ofn arno fo na 'naiff o ddim dringo i ben ei dŷ ei hun.
(3, 0) 3276 A dyna be mae'r hogia' eisio, ie?
(Elwyn) {Yn ddirmygus a sbeitlyd.}
 
(Elwyn) Rŵan, mi gawn ni ei weld o'i hun yn gorfod aros i lawr yn y gwaelod.
(3, 0) 3280 Welwch chi mo hynny.
(3, 0) 3281 Nid y tro yma.
(Elwyn) {Yn gwenu.}
 
(Elwyn) B'le gwelwn ni o ynte'?
(3, 0) 3285 I fyny reit ar y top, wrth y ceiliog gwynt.
(3, 0) 3286 Dyna lle gwelwch chi o.
(Elwyn) {Yn chwerthin.}
 
(Elwyn) Dyna ydych |chi|'n ei feddwl.
(3, 0) 3290 Mae o wedi rhoi ei feddwl ar gyrraedd pen y tŵr.
(3, 0) 3291 A dyna lle gwelwch chi o, ar y copa.
(Elwyn) Meddwl, ie.
 
(3, 0) 3305 Fo'i hun ydy o.
(3, 0) 3306 Mr Morris, y contractor!
(Mrs Morris) {Yn sgrechian yn ei dychryn.}
 
(3, 0) 3322 Yn dringo a dringo.
(3, 0) 3323 ... Yn uwch ac yn uwch!
(3, 0) 3324 Edrychwch!
(3, 0) 3325 ... Mewn difri'!
(Elwyn) {Yn dal ei anadl.}
 
(Elwyn) ... 'Does dim arall amdani.
(3, 0) 3329 Dringo... dal i ddringo!
(3, 0) 3330 Mae o bron ar ben y tŵr!
(Mrs Morris) Mae'r ofn yn ddigon amdana' i.
 
(Dr Hughes) Gwell i chi beidio edrych.
(3, 0) 3334 Dyna i chi.
(3, 0) 3335 Mae o'n sefyll ar y planc ucha.
(3, 0) 3336 Reit yn y top!
(Dr Hughes) Neb i symud.
 
(3, 0) 3340 O'r diwedd!
(3, 0) 3341 O'r diwedd!
(3, 0) 3342 Unwaith eto.
(3, 0) 3343 Y pencampwr yn rhydd!
(Elwyn) {Bron methu cael geiriau.}
 
(Elwyn) Ond, mae hyn yn...
(3, 0) 3346 Fel hyn yr ydw i wedi'i weld o drwy gydol y deng mlynedd.
(3, 0) 3347 Mor ddewr, yn sefyll yna.
(3, 0) 3348 Dyna be' ydy gwefr.
(3, 0) 3349 Rŵan mae o'n gosod y |wreath| ar y ceiliog gwynt!
(Elwyn) Rydw i'n teimlo mod i'n gweld rhywbeth amhosib.
 
(Elwyn) Rydw i'n teimlo mod i'n gweld rhywbeth amhosib.
(3, 0) 3351 Ie, yr amhosib!
(3, 0) 3352 Dyna'n union mae o'n ei 'neud rŵan!
 
(3, 0) 3354 Welwch chi rywun arall i fyny 'na efo fo?
(Elwyn) Na, does 'na neb arall.
 
(Elwyn) Na, does 'na neb arall.
(3, 0) 3356 Oes.
(3, 0) 3357 Mae 'na un, y mae o'n dadla' efo fo.
(Elwyn) Does 'na neb yna.
 
(Elwyn) Does 'na neb yna.
(3, 0) 3359 Ydych chi ddim yn clywed cân yn yr awyr chwaith?
(Elwyn) Rhaid mai'r gwynt ydy o, ym mriga'r coed.
 
(Elwyn) Rhaid mai'r gwynt ydy o, ym mriga'r coed.
(3, 0) 3361 Rydw i'n clywed cân orfoleddus.
 
(3, 0) 3363 Edrychwch!
(3, 0) 3364 Edrychwch!
(3, 0) 3365 Rŵan mae o'n chwifio'i het!
(3, 0) 3366 Arnon ni i lawr yma mae o'n chwifio!
(3, 0) 3367 O, chwifiwn, chwifiwn yn ôl arno fo!
(3, 0) 3368 Mae o wedi concro!
 
(3, 0) 3370 Hwre i'r adeiladwr!
(Dr Hughes) Peidiwch.
 
(3, 0) 3386 Fy arwr.
(3, 0) 3387 Fy mhencampwr i!
(3, 0) 3388 Dyna ddyn!
(Elwyn) {Yn pwyso ar ganllaw am gymorth ac yn crynu.}
 
(3, 0) 3405 Alla' i mo'i weld o i fyny na rŵan.
(Elwyn) Mae hyn yn ofnadwy.
 
(3, 0) 3409 Ond mi gyrhaeddodd reit i'r copa.
(3, 0) 3410 Ac mi glywais i delyna' yn yr awyr.
 
(3, 0) 3412 Fy arwr!
(3, 0) 3413 Fy arwr i!