Rhywun Wrth y Drws

Ciw-restr ar gyfer Meredith

 
(1, 0) 23 Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.
(Gwyneth) Teimlo'n sâl iawn heddiw, f'ewyrth?
 
(Gwyneth) Teimlo'n sâl iawn heddiw, f'ewyrth?
(1, 0) 25 Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd.
(Elwyn) Mi ddylech chi fynd adre nhad.
 
(Elwyn) Ceisiwch gysgu dipyn.
(1, 0) 28 Mynd i 'ngwely?
(1, 0) 29 Wyt ti am i mi fygu'n lân?
(Gwyneth) Wel, ewch am dro bach ynte'.
 
(1, 0) 34 Dydw i ddim am fynd odd' 'ma nes y daw o.
(1, 0) 35 Rydw i'n benderfynol o setlo petha' heddiw {yn chwerw} efo fo,... efo'r mistar.
(Gwyneth) O na f'ewyrth!
 
(1, 0) 40 Yh. Yh.
(1, 0) 41 Does gen i fawr o amser ar ôl i aros.
(Gwyneth) {Yn gwrando.}
 
(Morris) O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd.
(1, 0) 85 Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw.
(Morris) Ydyn, ydyn.
 
(1, 0) 94 Rhywun arall?
(1, 0) 95 Fasech chi'n ystyried gollwng y job rŵan?
(Morris) {Yn ddiamynedd.}
 
(Morris) Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn.
(1, 0) 101 Mae'r bobol yn iawn.
(1, 0) 102 Mae Elwyn yn eu nabod nhw.
(1, 0) 103 Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest.
(Morris) Gonest, o ddigon gonest.
 
(Morris) Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i.
(1, 0) 110 Ydych chi o ddifri?
(Morris) {Yn sorllyd.}
 
(Morris) Ydw ar ei phen, am unwaith.
(1, 0) 113 Ga' i air neu ddau efo chi?
(Morris) Wrth reswm.
 
(1, 0) 116 Dos di drwodd am funud Gwyneth.
(Gwyneth) {Yn anesmwyth.}
 
(Gwyneth) Ond f'ewyrth...
(1, 0) 119 Gwna fel rydw i'n d'eud wrthyt ti, 'ngeneth i.
(1, 0) 120 A chau'r drws ar d'ôl.
 
(1, 0) 123 Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i.
(Morris) Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma.
 
(Morris) Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma.
(1, 0) 125 Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan.
(1, 0) 126 Rydw i'n gwanio bob dydd.
(Morris) Steddwch chi ddim?
 
(Morris) Steddwch chi ddim?
(1, 0) 128 Os ca' i.
(1, 0) 129 Diolch.
(Morris) {Yn gosod y gadair freichiau yn hwylusach.}
 
(1, 0) 135 Wel, fel hyn y mae hi, ydych chi'n gweld.
(1, 0) 136 Ynghylch Elwyn, dyna sy'n fy mhoeni fi fwya'.
(1, 0) 137 Be' ddaw ohono fo?
(Morris) Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o.
 
(Morris) Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o.
(1, 0) 139 Ond dyna'r union beth na fynn o.
(1, 0) 140 Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy.
(Morris) Tewch.
 
(Morris) Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried...
(1, 0) 144 Na, na.
(1, 0) 145 Nid dyna sy'n bod.
(1, 0) 146 Ond yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd rhaid i'r hogyn gael cyfle i 'neud rhywbeth ar ei liwt ei hun.
(Morris) {Heb edrych arno.}
 
(Morris) Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun?
(1, 0) 149 Wel, nâc ydw.
(1, 0) 150 Dyna sy'n dorcalonnus.
(1, 0) 151 Rydw i'n dechra' ama' gallu'r hogyn, achos 'dydych chi ddim wedi rhoi'r un gair da iddo fo; ac eto fedra' i yn fy myw lai na theimlo bod yna allu ynddo fo.
(1, 0) 152 Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i.
(Morris) Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs.
 
(1, 0) 155 Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni {yn anadlu'n drwm} a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill.
(Morris) Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi.
 
(Morris) Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi.
(1, 0) 157 Rydych chi'n iawn.
(1, 0) 158 Roedd popeth o'ch tu chi.
(1, 0) 159 Ond eto, sut yn eich byw y medrwch chi adael i mi fynd i 'medd heb weld be' fedr Elwyn ei 'neud.
(1, 0) 160 Ac wrth gwrs mi fyddai'n dda iawn gen i eu gweld nhw wedi priodi cyn imi fynd.
(Morris) {Yn siarp.}
 
(Morris) Hi sy'n dymuno hynny?
(1, 0) 163 Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn.
(1, 0) 164 Mae o'n siarad am y peth bob dydd.
(1, 0) 165 Mae'n rhaid, ydy mae'n rhaid i chi helpu i gael rhyw waith ar ei ben ei hun iddo rŵan.
(1, 0) 166 Mae'n rhaid imi gael gweld rhywbeth y bydd yr hogyn wedi'i 'neud.
(1, 0) 167 Ydych chi'n clywed?
(Morris) {Yn biwis.}
 
(Morris) Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr.
(1, 0) 170 Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr.
(Morris) {Yn anesmwytho 'n gynhyrfus braidd.}
 
(Morris) Oes?
(1, 0) 173 Pe rhoech chi'ch caniatâd.
(Morris) Sut fath o waith ydy o?
 
(1, 0) 176 Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin.
(Morris) Hwnnw.
 
(Morris) Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun.
(1, 0) 179 Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi.
(Morris) {Yn tanio.}
 
(Morris) Pwy sy'n meiddio d'eud hynny?
(1, 0) 184 Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'.
(Morris) Twt, twt.
 
(Morris) F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn?
(1, 0) 188 B'asen.
(1, 0) 189 Mae o'n nabod y teulu ydych chi'n gweld.
(1, 0) 190 A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati...
(Morris) Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'?
 
(Morris) Y bobol fydd yn mynd i fyw yno.
(1, 0) 193 Ydyn.
(1, 0) 194 Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd.
(Morris) Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw?
 
(Morris) Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw?
(1, 0) 196 Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw.
(Morris) Oho! gwreiddiol ai e?
 
(Morris) Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg.
(1, 0) 199 Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw.
(Morris) {Yn atal ei lid.}
 
(Morris) Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan?
(1, 0) 202 Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith.
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Rhoi'r gora' iddi.
(1, 0) 205 A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn...
(Morris) Fi.
 
(Morris) Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi!
(1, 0) 208 Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl.
(Morris) O, 'run peth yn union.
 
(Morris) Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle.
(1, 0) 214 Pam 'nenw'r Tad?
(1, 0) 215 Mae 'na le i fwy nag un, debyg.
(Morris) O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith.
 
(1, 0) 221 Felly mi fydd rhaid i mi adael y byd 'ma heb ddim sicrwydd.
(1, 0) 222 Heb lygedyn o lawenydd?
(1, 0) 223 Heb hyder na ffydd yn Elwyn?
(1, 0) 224 Heb weld dim o'i waith o.
(1, 0) 225 Felly mae hi i fod?
(Morris) {Yn lled-droi a mwmian.}
 
(Morris) Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan.
(1, 0) 229 Ond atebwch yr un cwestiwn yna.
(1, 0) 230 Fydd raid i mi farw mor druenus o dlawd â hynny?
(Morris) {Yn edrych fel pe mewn ymdrech. O'r diwedd dywaid mewn llais isel ond cadarn.}
 
(Morris) Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi.
(1, 0) 233 Felly y bo hi ynte'.
 
(Morris) Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur.
(1, 0) 238 Na fedrwch debyg.
 
(1, 0) 240 Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda?
(Morris) Wrth gwrs.
 
(Morris) {Yn llenwi gwydr o ddŵr a'i estyn iddo.}
(1, 0) 243 Diolch.
 
(Elwyn) Be' sy' 'nhad?
(1, 0) 249 Rho dy fraich i mi.
(1, 0) 250 Gad i ni fynd rŵan.
(Elwyn) O'r gora'.
 
(1, 0) 256 Pnawn da.
(1, 0) 257 Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi.