a1
Ⓗ 1928 Idwal Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1
Mrs Harris-Jones

(Yn gollwng ei gafael ar ysgwydd ei mab gyda hwrdd bach fel pe bai hi'n cychwyn olwyn i lawr y rhiw.) Nawr te, Bertie bach!

Bertie
"Os wyt Gymro hoff o'th iaith,
A hoff o'th dadau dewrion".

Mrs Harris-Jones
Nage Bertie, ─
"Os wyt Gymro hoff o'th iaith
A hoff o'th dadau dewrion".

Bertie
(Gyda'r un oslef.)
"Os wyt Gymro hoff o'th iaith
A hoff o'th dadau dewrion,
Gwisg genhinen yn dy gap
A gwisg hi yn dy galon".

Mrs Harris-Jones
"Gwisg genhinen yn dy (yn gosod ei llaw ar ei phen) gap!
A gwisg hi yn dy (yn gosod ei llaw ar ei bron) galon!"

Bertie
(Yn gwneuthur ystumiau tebyg.)
"Gwisg genhinen yn dy gap!
A gwisg hi yn dy galon!"



Cyn i Bertie lefaru'r ddwy linell ddiwaethaf daw dyn i mewn, a saif yn ymyl y drws. Y mae gwen, yn awgrymu rhywbeth rhwng rhyfeddod a gwatwar, ar ei wyneb. Er ei fod tu yma i'r deg-ar-hugain oed edrych yn hyn na hynny. Y mae penderfyniad a phrofiad yn ei holl osgo; ond yng nghymleth a hynny y mae rhyw sydynrwydd a direidi hollol blentynnaidd. Y mae Ifan yn fab i Mrs Harris-Jones. Ni ymddengys hi yn y modd lleiaf yn llawen o'i weled eithr nid ydyw hi yn y cywair ar hyn o bryd i awgrymu y cwbl o'r atgasedd a deimla tuag ato.

Ifan

Hylo, hylo, hylo! Be' sy'n mynd mlaen yma? Beth yw'r wynionyn yna sy genti yn dy got? Wyt ti'n mynd i ferwi cawl?

Mrs Harris-Jones

Evan. Rwy'n begian arnoch chi! Nawr, Bertie bach!

Bertie

Na - 'na i ddim nawr, Mamma. Well gen i neud yn nes ymlaen.

Mrs Harris-Jones

(Yn colli ei hamynedd.) Dyna fe! Dyna fe! Roedd popeth yn iawn nes i chwi ddwad i mewn, wrth gwrs... Rhaid i chi gael sarnu popeth wastad.

Ifan

Pam? Wnes i ddim ond gofyn iddo a oedd e'n mynd i ferwi cawl. Dere mlaen, dere mlaen. Gad cael clywed yr adroddiad:

"Os wyt Gymro hoff o'th iaith
A hoff o gawl a sucan,
Stwff genhinen yn dy gap,
A stwff hi yn y sospan".
Come on, boy!



Try Bertie yn ddiflas ac a i'r gadair ar y chwith.

Bertie

Na - 'na i ddim nawr.

Mrs Harris-Jones

(Ar derfyn ei hamynedd.) O ie! O ie! Dyna hi! Wyddwn i. A'r holl strain sydd ar 'y meddwl i'r dyddiau hyn, cha i ddim cymaint a dysgu pennill i'r bachgen i'w adrodd.

Ifan

(Gyda chysgod edifeirwch.) Bachgen! Dere mlaen! Fe alli di gymryd joc ond alli di? Adrodd y pennill eto.

David Henry

Ie, dere ngwas i. Paid ti a digalonni.

Mrs Harris-Jones

Digalonni! Beth dal i ddweud fel yna wrth y bachgen! Dylai fod cywilydd arnoch chwi, Ifan! A ninnau'n mynd i gadw coffadwriaeth eich tad.

Ifan

Wel, wnes i ddim ond gofyn beth oedd pwrpas y geninen yna yn i gap e. Beth mae e'n wneud, te?

Mrs Harris-Jones

(Yn wyllt.} Dysgu adrodd, mae e, gogyfer a'r unveiling ceremony sy'n cael ei gynnal yn y ty hwn, er cof am eich tad chwi, un o ddynion mwyaf Cymru!... Mi fyddai rhywun yn meddwl mai dad e (yn pwyntio at Bertie), ac nid eich tad chi sy'n cael ei anrhydeddu. Wedi'r cwbwl, roedd e'n dad i chwi. Dyw e'n ddim ond enw o lys-dad i Bertie.

Ifan

Wel? Idea dda! Gaiff Bertie anrhydeddu Nhad i, a mi gaf innau anrhydeddu tad Bertie. (Yn troi at ei lys-dad.) Be chi'n weyd, Napoleon? Hoffech chi gael cof-golofn i'ch coffadwriaeth?

David Henry

(More in sorrow, etc.) Nawr, nawr, Ifan, machgen i...

Mrs Harris-Jones

Pe baech chi'n hanner dyn, mi fysech yn i droi e allan o'r ty am siarad fel yna a chi.

David Henry

Wel... y... wel... ych mab chi yw e'n iawn, ynte? Wrth gwrs, 'dwy ddim am ddangos amharch...

Ifan

Ha! Ha! He! Go lew, Napoleon! Go lew, Nap! The outraged step-father, myn diawl i. Dewch ymlaen, Paterfamilias. Dewch lawr i'r pentre. (Yn winco a gwneuthur ystum tu ol i'w fam fel eiddo un yn yfed cwrw.) Does dim lle i chi a fi fan yma.

Mrs Harris-Jones

(Yn ei ganfod a chornel ei llygad.) David Henry! Sefwch fanlle'r ych chi. Mae eisiau'ch help chi arna i.

David Henry

All right, Deborah, all right.

Mrs Harris-Jones

Nawr Bertie, dewch i weud eich "pisyn" eto.

Bertie

Na, dim nawr.

Mrs Harris-Jones

Bertie! At once, if you please!

Bertie

(Am un tro yn ei fywyd.) Na... Well gen i... well gen i beidio. 'Weda i nes ymlaen.



Edrych Ifan yn hynod o foddhaus.

Mrs Harris-Jones

(Wrth Ifan.) I chi mae dioloh am hyn.

Ifan

Wel. 'Doeodd gen i ddim bwriad i stopio'r band, dyna fi'n dweud y gwir. (Croesa'n ddisymwth draw at Bertie.) (Yn lled dyner.) Bertie. Dere boi bach! Mae mwy o stwffin ynot ti na hyn. Wna i ddim sport ar dy ben di. Dere mlaen!



(Cwyd Bertie ac a ymlaen i ganol y llwyfan ar fedr dechreu eto.)

Mrs Harris-Jones

(Yn gynddeiriog.) Bertie! Dewch allan o'r rwm! Dewch allan! Ar unwaith! (Edrych Bertie yn hollol ddiamgyffred.) (Hanner wrthi ei hun.) Mi ddysga i chi i uffuddhau iddo fe, a dim i fi! (Arwain Bertie allan drwy'r drws ar y chwith.)

Ifan

(Yn cau ei wefusau'n dyn ac yn ysgwyd ei ben yn araf.) Wel! Meddwl helpu own i nawr yn onest.

David Henry

(Yn llwytho'i bib.) Eistedd lawr, Ifan, eistedd lawr. Mae gen i eisiau siarad a thi. Ddaw hi ddim nol am spel.

Ifan

(Yn gwenu'n drist.) Cynghorion tadol, Nap? Mae heisiau nhw'n dost.

David Henry

Rwyt ti'n poeni braidd gormod ar dy fam, Ifan.

Ifan

(Yn llwytho'i bib yntau.) Dechreuad da.

David Henry

Rwyt ti'n poeni braidd mwy na sydd eisiau, Ifan. Treia'r baco yma sy gen i... Braidd mwy na sydd eisiau. Wrth gwrs, rwy'n dy edmygu di am wneud hynny, mewn ffordd o siarad. Mi fuasai'n dda iawn gen i fod yn berchen ar y gallu, ond dyna fe. Ches i ddim o'r dalent. Ond wedi'r cwbwl, dy fam di yw hi...

Ifan

"That dear old mother of mine". 'Dyw hi'n ffito dim mewn í'r pictiwr, Napoleon. Mi ddylai fod wedi gwisgo hen shol fagu a bonet, a spectol, nid low neck a short skirts. Mi adawes i gartre pan own i'n un-ar-bymtheg oed, ac o ran Mam fuodd fawr o awydd arna i ddwad nol byth wedyn.

David Henry

Dy dad, Ifan? Dy hen lys-dad! Rwyt ti'n bartners a fi, ifan! Paid ti ag anghofio hynny.

Ifan

Ry'm ni'n i tharo hi'n go lew, mae'n rhaid dweud.

David Henry

(Yn sentimental.) Dy hen lys-dad, Ifan! Paid ti ag anghofio dy hen lys-ddad!

Ifan

(Yn hanner ei watwar.) Ddysgodd i fi yfed y gwydraid cyntaf pan oedd Mam yn llywydd Urdd Dirwestol Cymru. Da ware, Napoleon l

David Henry

Rhyw greadur anfodddog wyt ti, Ifan. Dyna beth rhyfedd yw'r natur ddynol. Rwy'n meddwl llawer am y natur ddynol. Dyna ti. Mae genti ryw allu rhyfedd i droi pawb a phopeth oddeutu i ti yn dan gwyllt. Dyna finne wedyn, weldi, yn i hela hi yn y blaen (yn dechreu "canu grwndi") yn smo-co mhib, yn dawel fach, yn enjoyo... dim byth yn cynhyrfu neb... yn en-joyo...

Ifan

Rwy wedi blino ar bethau, Nap. Y gwisgo cennin yma, a'r bust yma (yn pwyntio at y mur tu ol iddo) i goffadwriaeth y Nhad, a'r ffys a'r bodder. Pryd mae'r seremoni yma i ddigwydd, a be ma nhw'n mynd I wneud?

David Henry

Mi fyddant yn dadorchuddio'r cof-golofn i dy dad - coffa da am dano... am hanner awr wedí dau, a mi fydd te i'r plant...

Ifan

Rwy'n gwybod hynny. Rwy wedi clywed hynny nawr rhyw gant o weithiau...

David Henry

Wel, ti ofynnodd, Ifan.

Ifan

Pam na allan' nhw adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd?

David Henry

Fyddai hynny ddim yn deg a dyn mawr... i adael iddo orwedd yn dawel yn i fedd. 'Dyn nhw byth yn gneud hynny a dynion mawr. (Yn rhoi gwen o foddhad.) Mi ga i orwedd yn dawel yn 'y medd, pan af i oddiyma... yn dewel fach. 'Roedd dy dad yn ddyn mawr, Ifan.

Ifan

(Yn chwerw.) Dwedwch yna eto! Dwedwch e eto! Mae e'n ddywediad mor arswydus o wreiddiol!

David Henry

Wel, ti ofynnodd y cwestiwn, Ifan.

Ifan

Ofynnes i ddim a oedd 'y nhad yn ddyn mawr. Rwy'n meddwl mod i wedi cael digon o gyfle i wybod hynny. 'Dwy ddim wedi clywed dim arall oddiar i'r syniad wawrio ar Mam. Bob man af i... "O, dyma fab Ifan Harris, aie... Yr anfarwol Ifan Harris. Felly wir! Ydych chwi'n mynd i fod yn ddyn mor fawr a'ch tad, machgen i?" Fel pe na bai enaid na phersonoliaeth gennyf i fy hun, a fel pe gallwn i lusgo oes allan yn marchogaeth ar gysgod 'y nhad,

David Henry

Rhaid i ti beidio a chymryd pethe fel yna...

Ifan

Wythnos ddwetha mi gwrdded ag un o'r slugs hyn. Yn union wedi iddo gael ei introdìwsio dyma fe'n dechreu, "Ydych chi, machgen i, yn ddyn mor fawr a'ch tad?" A mi atebais innau, "Dim o'r hanner, neu mi fuaswn wedi'ch llindagu chi cyn hyn", a mi gerddais i ffwrdd... (Yn philosophaidd.) Roedd Mam yn gweld chwith wrth gwrs.

David Henry

Wel, mi ddwedaist lawer o wir wrtho... fel rwy i'n cofio dy dad, beth bynnag. Ond 'dwy ddim yn deall pam rwyt ti'n cymryd pethe yn y wedd yna, Ifan. Cofia di, dim pob teulu all godi monument yn y ty...

Ifan

Dych chi ddim yn gweld ein bod ni i gyd yn byw mewn museum?

David Henry

Museum?

Ifan

le, museum. Dy' ni ddim ond ceidwaid mewn museum, a'r relics oddeutu ì ni er mwyn yr ymwelwyr. Edrychwch ar y gadair yna oddìtanoch chi. Paham mae'n cael ei chadw mor barchus? Er mwyn i chi gael bod yn gyfforddus? Dim perigl! Am mai cadair Ifan Harris yw hi! A'r sofa yne! Ydi hi wedi cael ei rhoi fanna er ych mwyn chi? Dim. Y sofa lle gorweddai'r anfarwol Ifan Harris yw hi!

David Henry

Ie, wel, edrych di mor lwcus wyf fi fod dy dad yn ddyn mawr. Dyna'r gadair a'r sofa fwyaf cysurus yn y wlad...

Ifan

Ond nid chi pia' nhw. Mae cysgod y marw ar bopeth yn y ty yma. Hyd yn oed y gwely 'rych chi'n cysgu ynddo. Dyna lle gorweddodd 'y Nhad...

David Henry

Paid nawr, wir, Ifan. Rwyt ti'n ngneud i'n nervous...

Ifan

Ond does dim eisiau mynd at y dodrefn. Beth y'm ni'n dau ond relics? Pwy wyf i? Mab i Ifan Harris! 'Does gen i ddim enw fy hun. Enw nhad sy arna i. 'Dwy i ddim yn bod fy hun...

David Henry

O wyt, Ifan, wyt. Rwyt ti'n bod, ac yn cadw tipyn o dwrw...

Ifan

Wel, 'dych chi ddim beth bynnag.

David Henry

Wel, rown i dan yr argraff mod i...

Ifan

Ydych chi'n cael eich adnabod fel "Mr Jones, Allt-wen"? Dim perigl. "Ail wr gwraig Ifan Harris"! Dyna pwy ych chi!

David Henry

(Yn anghysurus.) Rwyt tî'n ymylu, Ifan, at fod yn llym. Dipyn bach yn gas oedd beth ddwedest ti nawr.

Ifan

Pwy gas? 'Dwy ddim casach i chi nag wyf i i mi fy hun. 'Rym ni'n dau yn byw bywydau ail-law.

David Henry

(Yn ail-lonni.) Ie, wel. Mae rhyw wirionedd yn hynna. 'Rwyt ti'n rhoi dy hun yn yr un cyflwr. Mae hynny'n rhyw gysur.

Ifan

Yr un cyflwr yn hollol! Bore echdoe rown i'n clywed fod rhywun wedi dweud am dana i, "Mae e'n lwcus dychrynllyd i fod e'n fab i dad". Mi fyse'n well getyn gen i fod yn fab i Nhadcu... yr hen wr bach oedd yn gwneud coffine. 'Does fawr o son am hwnnw yn y ty hwn. 'Doedd e ddim yn anfarwol, mae'n debyg.

David Henry

Wel, fyddai hynny ddim yn good for trade, weldi, i ddyn oedd yn gwneud coffine.

Ifan

Napoleon! Dwedwch wrthw i'n onest... aiff e ddim pellach... beth yw'ch barn chi am 'y Nhad? Dych chi ddim yn blino weithe gyda'r holl ffys hyn am 'y Nhad, a chwithe'n... y... ail wr?

David Henry

(Yn bwyllog.) Wel Ifan, roedd dy dad... mae'n rhaid cyfaddef... yn ddyn mawr... O'r goreu, o'r goreu, Ifan, 'does dim eisie i ti wylltu!

Ifan

Ie, mlaen a chwì!

David Henry

O leia, mae pawb yn dweud hynny ers rhyw ugain mlynedd mwy neu lai.

Ifan

O ie, dyna beth arall oeddwn i am ofyn... Faint o'r bobol yma sy'n cadw'r holl swn yn awr oedd yn cydnabod mawredd 'y Nhad pan oedd e byw?

David Henry

Wel, rhaid i ti gofío fod llawer ohonyn nhw'n ifanc iawn bryd hynny.

Ifan

Ond y teip, rwy'n feddwl. 'Roedd yr un hen deip yng Nghymru ers oed Adda... Pobol y marwnadau! Beth oedd barn rheiny am 'y nhad?

David Henry

(Yn ystyried.) Pobol y marwnadau? Beth wyt tí'n feddwl wrth hynna, nawr?

Ifan

Wel, pobol o deip Gwilym Reynolds, sy'n dadorchuddio'r bust yma, a Walter Bevan, Llywydd Urdd y Dinasyddion bychain, a Rice Roberts, a Mrs Eurallt Morris, sy wedi gwasanaethu ar gymaint o bwyllgorau fel na phrynith hi ddim "pork chops" i ginio heb i'r mwyafrif o'r plant godi dwylo o blaid y peth. 'Rych chi'n gwybod pwy wy'n feddwl... boys y Pwyllgorau a hen wlad y menyg gwynion.

David Henry

Wel, os rwy'n dy ddeall di, 'roedd dy dad ddim yn rhyw wr mawr ìawn gyda'r teip yna.

Ifan

A mam? Beth am mam?

David Henry

(Yn anghysurus.) Wel, wrth gwrs... mor bell ag oedd y teulu yn y cwestiwn, do'wn i ddim mewn sefyllfa bryd hynny...

Ifan

Y peth wyf fi am wybod yw... a oedd Mam yn ystyried 'y Nhad yn ddyn mawr pan oedd e yma?

David Henry

Ddim yn hollol, Ifan... neu, a bod yn onest... 'dwy ddim yn meddwl y buasai hi wedi mhriodi i. Ifan, pe bai rhywun wedi dweud wrthw i pan oedd dy dad yn ein plith ni, y buaswn i'n ail wr i wraig Ifan Harrís mi fuaswn wedi dychrynu!

Ifan

Pam? Oedd ofn 'y Nhad arnoch chi?

David Henry

O cofia di, roedd dy dad a finnau'n í tharo hi'n burion pan fyddai digwydd i ni gyfarfod. Mi welais i e'n garedig iawn i fi, mae'n rhaid dweyd, ond dra bitsi! 'Doedd e ddim dyn a fyse'n dy demtio di i fynd yn ail wr iddo ar fyr rybudd!... Enaid aflonydd. Enaid aflonydd! Yn cynhyrfu pawb oddeutu iddo. Fuodd dim dyn a mwy o elynion mewn un man ar y ddaear.

Ifan

(Gyda diddordeb.) Naddo?

David Henry

Na ffrindie. 'Roedd pob un yn elyn neu yn ffrind iddo.

Ifan

Ond 'rych chi'n gadael y pwynt. Pryd dechreuodd Mam edrych arno fel dyn mawr?

David Henry

Wel, a bod yn onest... dim amharch cofia... does geni ddim cof i mi feddwl hynny'n hunan pan oedd e yma. Dim fel byddi di'n meddwl am ddyn mawr. Ifan Harris. Wel, Ifan Harris oedd e. Dim rhyw ffys felny yn i gylch e gyda neb. A hefyd roedd e'n adnabyddus drwy Gymru gyfan. Ond 'doedd neb ohono ni oedd yn i nabod e, allet ti weyd, yn son am dano fel dyn mawr. 'Roedd e'n un ohono ni. Ond diast, erbyn meddwl, roedd e'n wahanol i bob un arall rywsut!

Ifan

Ym mha ffordd?

David Henry

Roedd dy dad... dim amharch, cofia!

Ifan

(Yn ddiamynedd.) O, peidiwch a dweud felna o hyd! Mlaen a chi!

David Henry

'Roedd dy dad yn ddyn... wel, ddweda i ddim i fod e'n ddyn cas. Ond 'doedd e ddim yn ddyn oedd llawer o fobol yn ei hoffi. Roedd gydag e ryw fforddd o gynhyrfu pobol. Dyn disymwth, Ifan. Roedd e'n hela'r lle'n wenfflam weithie. O'r arswyd! Roedd e'n ddyn ddychrynllyd pan cynhyrfe fe!



Dyry Ifan rhyw wen braidd yn ddieflig.

David Henry

(Fel pe bai yn newid cwrs yr ymadrodd.) Pe bai dy dad yn gwneud tro caredig a thi mi gofiet hynny dy holl fywyd... (Y mae distawrwydd am ennyd fach.) Ond rwy'n cofio pan ddechreuodd dy fam edrych arno fel dyn mawr.

Ifan

(Gyda diddordeb.) Ydych chi?

David Henry

Ydw. Wrth gwrs, 'roedd hynny flynyddau wedi iddo fynd i America i sefydlu'r wladwriaeth newydd hynny oedd e'n son cymaint am dano. Ar y cynta, weldi, 'doedd gyda hi gynnig i'r peth. 'Down i ddim wedi priodi pryd hynny. Rwy'n cofio iddi ffyrnigo'n enbyd pan ddaeth rhyw damed allan mewn papur... rhywbeth ynghylch "Syniadau Ifan Harris ar Foesoldeb". (Yn edrych eto at y drws.) Wrth gwrs, paid a son gair wrth... mm... mm... mm

Ifan

Fel y banc, Nap. Go on!

David Henry

O! Ffyrnigo'n enbyd! Ond o dipyn i beth, 'achan, wrth bod hwn a'r llall yn dwad i son am Ifan Harris, fod Ifan Harris yn ddyn mawr, a bod e o flaen i oes, a rhywbeth felny... wel, dwn i ddim,... fe ddechreuodd newid rywsut. Down i ddim yn i deall hi'n iawn...

Ifan

Rw i'n deall yn burion... Rhaid i bod hi'n fwy cysurus arnoch chi cyn i'r idea yma wawrio ar Mam.

David Henry

Wel Ifan, 'does gen i ddim lle i achwyn. Roeddwn i'n gwybod o'r dechreu mai Number Two fyddwn i... ond... (Yn rhoi ochenaid fechan eto.) Rhaid cyfaddef, mi es i'n dipyn bach mwy o Number Two nag own i wedi fargeinio am dano.



{Agorir y drws a daw Bertie i mewn. Cerdd ymlaen yn ddifrifol, ac eistedd i lawr braidd yn anghysurus. Nid yw'r cap a'r genhinen ganddo y tro hwn.

Ifan

Wel, Mussolini! Ddysgest ti dy "bisyn"?

Bertie

Fues i ddim yn treio nawr.

Ifan

Gwell i ti shapo! Mae'r llo aur yna (yn pwyntio at y gorchudd) yn cael ei ddadorchuddio y dìwmod ar ol fory,

Bertie

Ifan, a fyddech chi'n folon dysgu'r darn yna i fi?

Ifan

Fi? Pwna di arni, boy. Mae Mam wrth y gwaith ond yw hi?

Bertie

Gwell gen i 'se chi'n gneyd.

Ifan

Dim, dim. Os yw Mrs Harris-Jones wedi dechreu ar y gwaith wnaiff hi ddim o'r tro i fi roi mhig i mewn.

Bertie

Mae hi'n eitha bolon.

Ifan

Mam ddywedodd wrthyt ti am ofyn?

Bertie

le.

Ifan

Be sy'n bod, te?

Bertie

Dim byd, ond i bod hi am i ti wneud.

Ifan

Beth yw'r game?

Bertie

Dim byd. Mae'n dweud dy fod ti'n gwybod mwy am adrodd na hi.

Ifan

(Yn fyfyrgar.) Wel, mae hynny'n eitha gwir... Na, na. Gwna di fel mae hi'n dweud. (Yn wawdlyd.) Does gen i ddim o'r sel gwladgarol sydd gyda hi... Be wnest ti a'r genhinen? Roddest ti hi'n cawl?

Bertie

O gwna, Ifan! Well gen i.

David Henry

Man-a-man i ti wneud, Ifan. Fe wyddost tí lawer mwy am adrodd na'i fam.

Bertie

Ie, gwna, Ifan! Adrodda i'n dda wedyn, Ifan.

Ifan

'Dwyt ti ddim yn foneddigaidd iawn i dy fam.



Daw Mrs Harris-Jones i mewn. Edrych yn hunan-feddiannol a siriol. Cerdd yn ol ac ymlaen gan dwtian ychydig ar draws yr ystafell, a mwmian canu.

Mrs Harris-Jones

Ofynnest ti i Evan, Bertie?

Bertie

Mae e'n dweud na wnaiff e, Mamma.

Mrs Harris-Jones

Evan, rwy'n siwr y gwnewch chi gymaint a hynna i mhliso i... dysgu recitation bach i Bertie bach, gwnewch!

Ifan

Beth ar ddaear sy'n bod nawr te? Gynnau fach chawswn i ddim rhoi 'mhig i mewn.

Mrs Harris-Jones

Oh come, come, Evan! Roeddech chi'n gneud sport gynne ond oeddech chi? Dysgwch y darn iddo. 'Rych chi'n gwybod cymaint am reseito!

Ifan

Wel yn enw popeth! Pam nad ewch chi mlaen a'r gwaith wedi i chi ddechreu?

Mrs Harris-Jones

Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well.

Ifan

'Wn 'im. Chi sy a'r cennin yma a phethe ar hyd y ty. Mi ddylsech Cymraeg chi fod yn ddigon da.

Mrs Harris-Jones

O, rwy'n very Welsh o ran fy ideals. Ond ches i ddim o'r cyfle gawsoch chi.

Ifan

Do. Fe gawsoch fwy.

Mrs Harris-Jones

Ches i ddim o 'nwyn i fyny mewn Welsh atmosphere yn y cartref fel chi. Nawr, Evan, byddwch yn fachgen neis. Gnewch fel rwy'n gofyn i chwi.

Bertie

OH! Ifan. Oh! Gwna.

David Henry

Man-a-nman i ti wneud.



Gwelir Ifan mewn brwydr rhwng perffaith atgasedd at y gwaith a rhyw gysgod o duedd at wneud.

Ifan

(Yn llonni yn ddisymwth.) Gaf i ddewis y darn?

Bertie

O cewch. Ddysga i un newydd!

Mrs Harris-Jones

(Yn amheus.) Pa ddarn fyddech chi'n sujesto?

Ifan

Pryd mae e'n adrodd... o flaen y seremoni?

Mrs Harris-Jones

Ie. Just o flaen yr unveiling.

Ifan

Mae darn tarawiadol iawn gan Parry-Williams... rhywbeth am esgym y meirw.

Mrs Harris-Jones

(Yn gwrido.) Oh Evan! (Yn ei meddiannu ei hun.) Nawr Evan, rwy am siarad a chi. Nawr a fyddwch chi'n neis nawr a gwrando am dipyn bach, a pheido a bod yn brofoclyd? Rych chi am y mhliso i, ond ych chi?

Ifan

Beth ych chi eisiau?

Mrs Harris-Jones

Nawr, rych chi'n gwybod ond ych chi fod tipyn bach o sensation yn y pentre am yr unveiling yma... Pobol ddieithr yn dwad yma ac yn y blaen.

Ifan

Wel?

Mrs Harris-Jones

Nawr, mae e'n strain fawr ar fy meddwl i. Chysges i ddim hanner nos neithiwr.

Ifan

Wel, beth ych chi moyn codi rhyw stunt fel yma?

Mrs Harris-Jones

(Yn dyner.) 'Dych chi ddim yn meddwl fod eich tad annwyl yn haeddu peth parch?

Ifan

Parch be damned,...!

Mrs Harris-Jones

Evan! For shame... yn siarad fel yna am eich tad.

Bertie

Mi ddylai fod cywilydd amoch chi... siarad felna am y nada cynta i!

Ifan

O'r goreu! Paid ti a rhoi dy drwyn i fewn!

Mrs Harris-Jones

(Yn ei meddiannu ei hun.) Hush, Bertie! Gadewch rhyngof i ac Evan. (Yn hudolus.) Nawr, Evan, rwy'n gwybod eich bod chwi'n all right yn y gwaelod. Rych chi yn parchu coffadwriaeth ych tad. Rych chi am y mhliso i ond ydych chi?

Ifan

Wel, beth ych chi am i mi wneud?

Mrs Harris-Jones

Nawr, rwy am i chwi wneud favour fach a fi. Rwy'n siwr y gwnewch chi. Nawr, rych chi'n gwybod fod eich tad pan oedd e byw yn annwyl iawn i mi.

Ifan

Oedd e?

Mrs Harris-Jones

(Ymron a cholli thymer.) Oedd! Cyn eich geni chwi! A mae gen i barch i enw e ac i'w syniade fe.

Ifan

Beth oedd i syniade fe?

Mrs Harris-Jones

Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe.

Ifan

Gwn. Fe wn i. Ond ydych chi'n i gwybod nhw? I syniade cyhoeddus e... Syniadau a gyhoeddodd e yn y pamphledi a wrthodwyd gan bob cyhoeddwr yng Nghymru ond un? A oes un o'r gang fydd yn dwad yma Dydd Mercher i frolio yn i gylch e wedi dangos unrhyw barch i syniade fe yn i gweithredoedd? A feiddiai un ohonyn nhw?

David Henry

Ie, wel, mae yna bwynt fan yna...

Mrs Harris-Jones

All right, David Henry, rhyngwyf i ac Evan mae'r discussion yn awr. Fe adawn i hynna nawr, Evan. Falle eich bod chwi ddim yn gweld llawer o werth mewn commemoration ceremony fel yma i ddyn mawr. Very well. Gadawn i hynna. Nawr y peth wyf i am ofyn i chi yw hyn. Rwy am i chi wneud un favour fach... er y mwyn i,... er mwyn ych tad. Rych chi'n gwbod, Ifan, fod y gentlemen sy'n dwad yma i'r unveiling yn cymryd yn ganiataol y bydd i fab Ifan Harris wneud rhywbeth yn y seremoni...

Ifan

Mi ddwedes i'n ddigon plaun ar y dechreu nad own i ddim yn mynd i gymryd unrhyw ran...

Mrs Harris-Jones

Very well... gwrandewch funud...

Ifan

... dim un ran o gwbwl.

Mrs Harris-Jones

Very well. Very well. 'Hoswch funud nawr i fi gael explaino beth wy am i chi wneud. Dyna i gyd rwy eisieu i chi wneud yw rhoi un speech fach...

Ifan

Dw...

Mrs Harris-Jones

Un speech fach o flaen yr unveiling. Nawr a ydw i'n gofyn gormod i chwi wneud un favour fach a fì am unwaith yn y mywyd?

Ifan

Dim ffafr a chi yw'r pwynt. Dwi ddim yn mynd i sefyll i fyny fanna a'r bust hyll yna tu ol i mhen i, a rhyw ddynion samllyd yn gwenu ama i, a brolio rhyw blatitiwds am 'y nhad... dwy ddim yn mynd i wneud e!

Mrs Harris-Jones

Pam, Evan? Gwrandewch. Mae David Henry yn mynd i wneud. (Tarewir David Henry gan gymaint o syndod fel y neidia'n llwyr o'i gadair ac yn ol drachefn.)

Ifan

Pwy? Naroleon?

David Henry

Fi!?

Mrs Harris-Jones

Ie chwi, David Henry. 'Dych chi ddim yn mynd i wrthod cymaint a hynna.

David Henry

Ond y Mawredd! Wnes i ddim Speech erioed yn y mywyd!

Mrs Harris-Jones

All right, David Henry, fe ga i siarad a chi yn nes ymlaen.

David Henry

Ie, nage! Mae'n rhaid i fi gael gwybod nawr. O'r trugeredd! Alla i byth a gneud speech. (Yn undonog.) Gneud Speech! Gneud speech! Gneud speech! (Tarewir ef yn fud.)

Ifan

Hal Ha! Ha! Leicwn i weld Napoleon wrthi.

Mrs Harris-Jones

Wel dyna fe, Evan, os gwnewch chi, mae David Henry yn addo gneyd.

David Henry

Gneud speech! Fi?

Ifan

(Yn ddifrifol.) 'Dwy ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni.

Mrs Harris-Jones

Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni

Ifan

Nagw.

Mrs Harris-Jones

A ble mae'ch parch chi i'ch tad?

Ifan

'Dwn i ddim ymhle mae mharch i nhad, ond os na ddaeth e i'r golwg cyn hyn, 'dyw e ddim yn mynd i godi nawr i swn band y pentre ac areithiau Gwilym Reynolds,

Mrs Harris-Jones

Rhag ych cywilydd chi, Evan! Rhag ych cywilydd chi! Mae'ch tad yn gorwedd yn llonydd mewn mangre dawel ochr ddraw i'r Werydd.

Ifan

Gobeithio i fod e. Mae e'n cadw digon o stwr yr ochr hyn i'r mor.

Mrs Harris-Jones

Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair.

Ifan

Mae pobol lwcus yn America. Speech yr unveiling yw honna, mam?

Mrs Harris-Jones

(Yn colli ei thymer yn llwyr.) Yr hen un cas, brwnt, di-barch! Mae gas gen i am danoch chi... y... y...! Mae gas gen i ych bod chi'n fab i fi. Rhag ych cywilydd chi! (Yn myned at y drws.) Rwy wedi treio drwy mywyd i'ch cael chi i gredu mewn rhai o'n ideals i. Mae Bertie wedi treio gwneud. Wnaethoch chi ddim un cynnig erioed.

Ifan

Beth yw'ch ideals chi, Mam?

Mrs Harris-Jones

Os nad ych chi wedi i deall nw cyn hyn, ddeallwch chi ddim ohonyn nhw nawr.

David Henry

(Wrtho'i hun yn y comel, heb ddalu sylw i'r ymddiddan.) Gneud speech!

Ifan

Roeddech chi'n son gynne am barch. Ydych chi'n parchu coffadwriaeth 'y Nhad?

Mrs Harris-Jones

Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting.

Ifan

Ydych chi mewn gwirionedd? Ydych chi'n siwr nad cadw i enw e'n fyw er mwyn dwad ag enwogrwydd i'ch ty chi, ych chi? Er mwyn i chwi gael cadw mewn cyffyrddiad a'r bobol fawr yma...

Mrs Harris-Jones

Rych chi'n hollol insulting.

Ifan

Ydw. Ond rwy'n dweud llawer o wir. Mi ofynnes i i chi gynne beth oedd syniade Nhad. Ydych chi wedi darllen y cwbwl y gyhoeddodd ef... heb son am ysgrifau yn y ty hwn na welodd neb arall erioed? Dyma her i chwi! Treiwch hi roi rhai o syniade yr anfarwol Ifan Harris mewn gweithred a mi ddweda inne beth yn y byd a fynnoch chi yn y seremoni!

Mrs Harris-Jones

Peidiwch a siarad mor ffol. Sut gall benyw wan fel fi roi gweithred i syniadau dyn mawr fel efe!

Ifan

Pam ych chi'n codi stunt fel yma?

Mrs Harris-Jones

Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad.

Ifan

Wel, os ych chi am i fi siarad yn yr unveiling... mi wnaf.

Mrs Harris-Jones

(Yn sirioli.) Wel pam na ddywedsech chi fel yna ar unwaith?

David Henry

Does dim eisie i fi wneud speech, oes e?

Bertie

Ie, gwnewch, tada. Gwnewch.

Mrs Harris-Jones

(Yn gweled yr olwg sydd ar wyneb ei mab.) Beth ddywedwch chi?

Ifan

Gadewch chi hynny i fi.

Mrs Harris-Jones

(Yn ffromi eto.) O ie! O ie! Rhywbeth cas eto!

Ifan

Gaf i ddweud y gwirionedd am dano, mam?

Mrs Harris-Jones

(Yn wyllt.) Na chewch!... y... cewch... hynny yw...

Ifan

Wnaiff hi ddim o'r tro i ddweud y gwir am ddyn marw, mam!

Mrs Harris-Jones

Very cheap, Evan, very cheap. Does neb eisie clywe beth ych chi'n alw'n wirionedd. Peidiwch a dwad yn agos i'r seremoni! Gwell gen i chi gadw draw.

Ifan

Rwy'n folon dwad yna a rhoi eglurhad am y tro cyntaf yn i hoes i rai o'r bobol barchus yna beth oedd syniade Nhad mewn gwirionedd. Hyd y gwn i does neb arall yn i deall nw, a dw inne ddim yn honni mod i'n i credu nhw i gyd.

Mrs Harris-Jones

Ddewch chi ddim yn agos, Evan... dim ar ych perigl! Sefwch o'r ffordd, a rhowch le i bobl ddieithr i ddangos parch i'ch tad yn ei gartref. Fe gaiff 'i fab fod lawr yn y dafarn gyda scums y pentre.

Ifan

Gaf i wneud araith i Napoleon, te?

Mrs Harris-Jones

Na chewch! Fe wna i araith iddo fe.



Allan.

David Henry

Deborah! Rwy'n begian arnoch chi... (Yn gweled ei bod wedi myned.) O! Ifan, bachgen, cyffra! Mae peth fel hyn yn arswydus. Gneud speech! O!

Ifan

(A'i feddyliau ei hun.) Pam fues i mor ffol a dweud wrthi? Mi wnawn i araith pe bawn i'n cael cyfle!... Napoleon, peidiwch a gofidio! Fe wna i araith i chi!

David Henry

Nid gneud yr araith yw'r pwynt. I thraddodi ni ydi'r peth mawr. O dier, dier!

Ifan

Dewch allan am dro, Nap. (Cyn iddynt gyrraedd y drws clywir canu ar gloch y cy.) O diawch! Mae un o'r cigfrain wrth y drws eto. Dewch i mewn i'r rwm gefen. Fe gawn siarad fan honno. Bertie, dwed wrth Ann y forwyn fod rhywun wrth y drws.



A Bertie a'i dad allan drwy'r drws ar y chwith. Try Ifan yn ol yn ddisymwth ac i mewn drwy'r drws bach sydd ar ochr dde i'r llwyfan. Daw Mrs Harris-Jones i mewn mewn ennyd. Clywir y gloch yn canu eto.

Bertie

(Yn ymddangos yn y drws pellaf.) Mae Ann allan mam!

Mrs Harris-Jones

O'r goreu. Fe ateba i'r drws.



A allan ac ymhen ennyd daw yn ol a gwr dieithr yn ei dilyn.

Mrs Harris-Jones

(Yn hawddgar iawn.) Mr Inskip, ddyweddsoch chi?

Mr Inskip

le, Inskip. Enw Saesneg sydd arna i, ond Cymro wyf i serch hynny.

Mrs Harris-Jones

Oh really. O wel, Cymraeg yw'r cwbwl yn y ty hwn... Ewch i lan i'r llofft, Bertie bach, there's a good boy!



(A Bertie allan.)

Mrs Harris-Jones

Wel dyma rwm Mr Ifan Harris pan oedd e byw.

Mr Inskip

(Yn addolgar.) Felly wir! A dyma rwm yr anfarwol Ifan Harris?

Mrs Harris-Jones

Ie siwr. Fe dreuliodd 'y mhriod a minna lawer awr ddedwydd yn y rwm yma!

Mr Inskip

(Yn drist.) Debyg iawn! Debyg iawn! Dear me! Wel, rhaid i chwi fy esgusodi i am daro ar eich traws fel yma... dyn dieithr hollol, ond fedrwn i byth fynd adre heb alw i weld ty yr anfarwol Ifan Harris!

Mrs Harris-Jones

O, rych chi'n welcome. Ry ni, - y mab a minnau bob amser yn hoffi croesawu rhai fydd yn dwad yma i weld y ty mewn ysbryd o wir barch at 'y mhriod annwyl.



Agorir cil y drws bach ar y ddde a gwelir pen Ifan yn taflu cip-drem oddeutu'r ystafell.

Mr Inskip

Ie siwr, ie siwr, mae e'n gredud mawr i chi. Arhoswch chi, mae'r mab, Mrs Harris... y... Mrs Jones... y... na sefwch chi...

Mrs Harris-Jones

Mrs Harris-Jones, Mr Inskip.

Mr Inskip

(Yn gwenu'n wanllyd.) Ie siw... Mrs Harris Jones, mae'r mab gartref, ond ydi e, ar hyn o bryd?

Mrs Harris-Jones

Ydi siwr, Mr Inskip.

Mr Inskip

Dear me! Mae e'n siwr o fod a pharch mawr i enw ei dad.

Mrs Harris-Jones

Y... ydi... ydi. Mae e'n siarad llawer am i dad.

Mr Inskip

Debyg iawn. Debyg iawn. Pa ryfedd?

Mrs Harris-Jones

(Yn ennill gwroldeb.) O ydi. 'I dad yw'r cwbl gan Evan. (Yn taflu cip-drem dros yr ystafell.)

Mr Inskip

Ie siwr. Sefwch chi, Mrs Jones... y... Mrs Harris...

Mrs Harris-Jones

Mrs Harris-Jones.

Mr Inskip

(Yn gwenu'n wanllyd ac yn mwmian.) Ie siwr, Mrs Harris-Jones. Sefwch chi, welodd e erioed mo'i dad?

Mrs Harris-Jones

(Yn tynnu ei hanadl yn drwm.) Naddo siwr, na. (Yn ddistawach.) Roedd ei dad newydd groesi draw i'r America pan a gafodd Evan bach ei eni.

Mr Inskip

(Yn ochain.) Dear me! Dear me! Trist iawn. A 'dyw 'i dad yn ddim ond enw iddo?

Mrs Harris-Jones

Dim ond enw yn unig, Mr Inskip.

Mr Inskip

Ond enw mawr iawn, serch hynny! Dim rhyfedd i fod e'n parchu goffadwriaeth e.

Mrs Harris-Jones

(Yn sydyn.) Dyma gadair Mr Ifan Harris.

Mr Inskip

(Yn adfywio.) Wel, wel! A dyma gadair yr anfarwol Ifan Harris? Wel, wel!

Mrs Harris-Jones

Ie, yn hon yr eisteddodd mhriod bob nos pan oedd e yma.

Mr Inskip

Wel, wel! A dyma gadair yr anfarwol ifan Harris?

Mrs Harris-Jones

Ie. Yn hon yr eisteddai y mhriod bob nos pan oedd e yma.

Mr Inskip

Wel, wel! A dyma...

Mrs Harris-Jones

Hoffech chi gael eistedd ynddi, Mr Inskip?

Mr Inskip

Mi fyddai'n anrhydedd fawr, Mrs Jones-Harris.

Mrs Harris-Jones

Eisteddwch te, Mr Inskip.



Cyfod Mr Inskip gynffonau ei got ac eistedd yn wyliadwrus fel pe yn eistedd ar nyth o wyau. Yna estyn ei goesau allan ac edrych i fyny at daflod yr ystafell fel un yn gorffwys o'i holl flinderau.

Mr Inskip

Wel, wel! A dyma gadair yr anfarwol Ifan Harris!

Mrs Harris-Jones

(Yn mwynhau ei hun.) Right opposite i chwi fanna mae pen ysgrifennu Mr Harris.



Neidia Mr Inskip yn syth i fyny fel pe bai rhywun wedi rhoi pin ynddo.

Mr Inskip

'Dych chi ddim yn dweud mai dyma ysgrifbin yr anfarwol ifan Harris?

Mrs Harris-Jones

A hwnna yr ysgrifennodd e rai o'i bethau goreu i'r Wasg.

Mr Inskip

(Yn tynnu hen amlen glas allan o'i logell.) Mrs Jones-Harris, a gaf i... a gaf i ysgrifennu nodyn a'm llaw fy hun a phen yr anfarwol Ifan Harris?

Mrs Harris-Jones

Wel, Mr Inskip, 'does neb wedi cyffwrdd a'r i pen yna ers blynyddau, a neb wedi newid y níb.

Mr Inskip

O! Gwell peidio te, Mrs Jones... y... Mrs Harris... Gwell peidio.

Mrs Harris-Jones

Ond fe gewch chi...

Mr Inskip

(Yn penderfynol.) Dim. Dim. Dim am y byd!

Mrs Harris-Jones

Fe gewch chi, Mr Inskip, ysgrifennu a phen 'y mhriod annwyl.

Mr Inskip

A gaf i?

Mrs Harris-Jones

Cewch.



(Dechreu Mr Inskip ysgrifennu.)

Mr Inskip

(Yn codi ei ben i fyny eto.) Mrs Jones-Harris.

Mrs Harris-Jones

(Yn felus.) Mrs Harris-Jones.

Mr Inskip

(Yn mwmian.) Ie, Mrs Haishjones... Mi fydda i'n mynd a'r nodyn hyn adre heno at y wraig a mi fydda i'n dweud wrthi... Mrs Inskip... dyma eiriau i chwì wedi eu hysgrifennu ag ysgrifbin yr anfarwoi Ifan Harris!



Dyry Mrs Harris-Jones nos o foddhad.

Mr Inskip

A mi fydda i'n galw'r plant ataf i ac yn dweud... "Cyril"... fydda i'n ddweud... "Eleanor Maude"! Dewch yma. Dyma note wedi ei ysgrifennu a phen ysgrifennu yr anfarwol Ifan Harris! (Yn ysgrifennu eto.)

Mrs Harris-Jones

Wel, rwy' bob amser yn dweud wrth Evan bach mod i'n leico gweld pobl ddieithr yn talu parch i'r pethau bach adawodd Evan ar ei ol.

Mr Inskip

(Yn ysgrifennu heb dalu rhyw lawer o sylw.) Ie siwr, ie siwr. Ie siwr, quite so. (Yn aros yn ddisymwth.) Mae rhywbeth wedi dyfod i' meddwl i, Mrs Harris... Jones. Mi leicwn gael gwybod un peth.

Mrs Harris-Jones

Wel?

Mr Inskip

Mi fyddai mhleser i lawer yn fwy pe cawn i wybod. A'i a'r ysgrifbin yma yr ysgrifennodd Ifan Harris y gwaith wyf i, fel un, yn edmygu fwyaf... gwaith wedi rhoi pleser mawr i mi. Rwy'n cyfeirio at awdl "Dinistr Jerusalem".



Edrych Mrs Harris-Jones yn ddiamgyffred.

Mrs Harris-Jones

(Yn gwta.) 'Dwy ddim yn meddwl mai Evan a ysgrifennodd hwnnw.

Mr Inskip

(Yn ddifles iawn.) O! (Yn llonni.) Be sy arna i, hawyr bach! Dear me! Dear me! Yr awdl ar "Heddwch" wyf yn feddwl!

Mrs Harris-Jones

(Yn fwy cwta byth.) Na'r darn yna chwaith.

Mr Inskip

(Gydag un ymdrech arall.) Wel, "Yr Eneth Gath 'i Gwrthod", te?

Mrs Harris-Jones

Dwy ddim yn meddwl i Evan ysgrifennu llinell o farddoniaeth yn ei fywyd.

Mr Inskip

O!

Mrs Harris-Jones

Prose yw i weithiau fe i gyd.

Mr Inskip

O!

Mrs Harris-Jones

(Yn gwta.) Dyna ddesc Mr Harris pan oedd e byw.

Mr Inskip

O!



Clywir Bertie o'r tuallan yn bloeddio "Mamma".

Mrs Harris-Jones

Rhaid i chwi fy esgusodi i am funud, Mr Inskip. Mi ddof yn ol ymhen tipyn bach.

Mr Inskip

O'r goreu. Certainly, Mrs Harris... y... Jones. Mi fyddaf i'n all right.



A Mrs Harrìs-Jones allan. Edrych Mr Inskip yn galed i'r eangderau am emyd. Yna dechreu gymryd diddordeb mewn bywyd unwaith eto. Cerdd ymlaen at y side-board a chymer rhyw degan i fyny yn ei law. Agorir y drws ar y dde yn ddisymwth, a daw Ifan i mewn.

Ifan

Hylo, hylo!



Neidia Mr Inskip yn frysiog fel pe delid ef yn lladrata.

Mr Inskip

O... y... Mr Inskip wyf i... ynte?

Ifan

Wel, chi ddylai fod yn gwybod.

Mr Inskip

Y... ie. Dwad i gael gweld ty Mr Ifan Harris oeddwn i. (Gyda'r hen nodyn o barch yn dyfod yn ol i'w lais.) Mab Mr Ifan Harris ych chwi?

Ifan

Ie.

Mr Inskip

(Yn dyfod ymlaen.) Wel, wel! A dyma fab yr anfarwol Ifan Harris! Wel, wel!

Ifan

(Yn ysgwyd llaw yn serchog.) Ie siwr. Fi yw e, Mam ddywedodd wrthw i'ch bod chwi yma. Mi ddywedodd wrthw i'ch bod chwi wedi gweld y gadair a'r ysgrifbin. Rown i'n meddwl i bod hi'n drueni na chawsech chi ngweld innau... un o'r relics goreu adawodd 'y Nhad ar ei ol.

Mr Inskip

Y... Ie Siwr. Dear me. A dyma fab Ifan Harris?

Ifan

Dyma fe.

Mr Inskip

Ydych chi'n mynd i fod yn gymaint o ddyn a'ch tad, machgen i? Rych chi'n siwr o fod yn falch iawn o enw'ch tad.

Ifan

Wel, ambell waith rwy'n cael y cyfle o glywed i enw e, ond pan fydd digwydd i rywun, ar siawns weithiau, wneud rhyw gyfeiriad ato rwy'n pefreiddio drwyddo i gyd a pharchedig ofn!

Mr Inskip

Da iawn, machgen i, da íawn. Rwy'n falch i glywed hynna. Rwy'n falch i glywed. Parchwch i enw e beth bynnag a wnewch chi.

Ifan

Fydda i'n siwr o wneud, Mr Inskip, gan mai chwi sydd yn gofyn... Nawr, Mr Inskip, a ydyw Mam wedi dangos y relics i gyd i chwi?

Mr Inskip

Wel, fe welais i'r gadair...

Ifan

Twt! Twt, twt, twt!

Mr Inskip

A'r pen sgrifemnu.

Ifan

Twh! Twt, twt! A welsoch chwi'r warming-pan?

Mr Inskip

Y waming-pan?

Ifan

le, waming-pan 'y Nhad. Y warming-pan a fu'n twymno 'i draed e am yr holl flynyddau?

Mr Inskip

(Braidd yn wannaidd.) Naddo.

Ifan

O dier, dier. Mae Mam yn esgeulus. Mi ddylsai fod wedi dangos y warming-pan i chwi. Y relic mwyaf gwerthfawr adawodd 'y Nhad ar ei ol. Ond mae arna i ofn i fod e yn yr iws ar hyn o bryd.

Mr Inskip

O, na hidiwch Mr... Harris. Na nidiwch.

Ifan

Ond fe gewch chi weld yr aser, beth bynnag.



Egyr ddror bychan a dwg aser allan.

Ifan

(Mewn llais tyner.) Dyna aser 'y Nhad, Mr Inskip. Mae cyfeiriad at hwn yn un o'i weithie fe, Mr Inskip. Rych chi wedi darllen i weithiau fe i gyd.

Mr Inskip

(Yn edrych yn bryderus at y drws.) Y... ydw... y... rhan fwyaf... y...

Ifan

"Llyfr y tri aderyn", Mr Inskip!

Mr Inskip

Y... ie...

Ifan

"Theomemphus", Mr Inskip?

Mr Inskip

le siwr... ydw.

Ifan

A Chofiant Dic Aberdaron,

Mr Inskip

Ie siwr.

Ifan

(Yn beiddio ymhellach.) A "Drych y Prif Oesoedd", Mr Inskip.

Mr Inskip

Yn anghysurus.} Ie, ie siwr. A dyma'r aser, ie? Wel, wel, nid pawb all ddweud i fod e wedi gweld peth fel hwn.

Ifan

Ychydig iawn sydd wedi cael gweld yr aser yna.

Mr Inskip

Felly siwr. Felly siwr. Rhywbeth rhyfedd yw meddwl mai hon oedd gyda'ch tad yn eillio bob dydd...

Ifan

Eillio! Eillio!, weddsoch chi?

Mr Inskip

Ie.

Ifan

(Yn cymryd yr aser o'i law yn frysiog a'ì gosod yn ol yn y dror.) Ni chyfarfu hon erioed ag wyneb 'y Nhad!

Mr Inskip

(Yn syn.) O!

Ifan

Hon oedd ganddo yn torri 'i gyrn.

Mr Inskip

(Heb wybod yn iawn beth i wneud o'r sefyllfa.) O felly, o wir! Wel mae'n dda cael gweld pethau fel yma... relics un o arwyr Cymru... Wel, mae'n rhaid i mi fynd i ddal y tren, Mr Harris. (Yn estyn ei law allan.) Wel, good-bye, Mr Harris.

Ifan

(Yn sefyll yn ol.) "Mr Harris" wedsoch chi?



Agorir y drws a gwelir Mrs Harris-Jones yn sefyll ym mhen draw'r ystafell. Eithr ni chenfydd un o'r ddau hi.

Mr Inskip

le... y... ie... Mr Harris, ynte?

Ifan

Pwy Fister Harris?

Mr Inskip

(Yn methu a deall.) Ie... ynte... Mab Ifan Harris ych chwi?

Ifan

Wel, nage! Rych chi wedi dwad i'r ty wrong!

Mr Inskip

Wel, yn enw'r annwyl, ty pwy yw hwn?

Ifan

Jonathan Thomas.

Mr Inskip

Pwy Jonathan Thomas?

Ifan

Y trafaeliwr pop.

Mr Inskip

(Yn anadlu ei anadl olaf.) Trafaeliwr pop?

Ifan

le. Roedd e'n gwerthu ginger beer dros yr Hopkin Breweries...

Mrs Harris-Jones

(A barn dragwyddol yn ei llais a'i llygaid yn fflachio.) Evan!



Dyry'r ddau dro disymwth.

Mrs Harris-Jones

Evan! rhag ych cywilydd chwi!



Y mae hyd yn oed Ifan yn fud a braidd yn swil.

Mrs Harris-Jones

Mr Inskip, peidiwch a gwrando arno. Gneud ffwl ohonoch chi mae e. Rhag ych cywilydd chwi, Evan!

Mr Inskip

O... O, wel. 'Dwy ddim yn deall yn hollol...

Mrs Harris-Jones

Mae'n ddrwg gen i am hyn... fod Evan wedi bod mor ddiscourteous.

Mr Inskip

O, wel. Does dim i wneud... Mae'n all right, does dim gwahaniaeth. Mae'n rhaid i fi fynd... (Yn symud at y drws.)

Mrs Harris-Jones

Mae'n ddrwg iawn gen i. Dwy ddim yn gwybod beth arall ddywedodd e...

Mr Inskip

O wel, mae'n all right. Ond just mod i ddim yn deall... Wel, good-bye, Mrs Harris...y... Mrs Jones... good-bye.

Mrs Harris-Jones

Good-bye, Mr Inskip, good-bye. Mae'n ddrwg gen i am hyn.

Mr Inskip

O mae'n all right... popeth yn iawn.



Clywir ef yn mwmian i lawr drwy'r porth at y drws allan. Erys y papur glas ar y bwrdd. Daw Mrs Harris-Jones yn ol a chau'r drws o'i hol. Saif a'i chefn ato a'i hwyneb yn welw gan dymer, gan edrych ar ei mab. Saif Ifan a'i gefn at y bwrdd yn ceisio troi'r wyneb goreu ar bethau.

LLEN

a1