a1a2
Ⓗ 1987 John Evans/Gwasg Carreg Gwalch
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2


GOLYGFA: Yr un ystafell, bore canlynol. Yn lân a thaclus. Charles yn eistedd wrth y bwrdd yn bwyta ei frecwast ─ ŵy wedi ei ferwi. Charles yn canu cloch ar y bwrdd unwaith. Daw Doris i mewn wedi ei gwisgo yn ddestlus fel morwyn. Ei hwyneb heb ei goluro.

Doris

Ia?

Charles

Ia, be?

Doris

(Ochenaid.) Ia, meistr?

Charles

Dyna welliant.

Doris

Be dach chi isio?

Charles

Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma.

Doris

Dyna wnes i.

Charles

Paid â deud celwydd. Mae'n amlwg i mi bod yr ŵy yma wedi bod yn y dŵr am beth bynnag bedwar munud a hanner. Dos â fo o 'ma a gwna un arall!

Doris

O-ce. (Yn mynd allan gyda'r ŵy.)



Charles yn canu y gloch ddwywaith. Daw Beti i mewn. Dillad du llaes ganddi, gwallt mewn 'bun'. Dim coluro)

Beti

(Yn wylaidd.) Be ga' i 'neud i chi, Charles?

Charles

Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau. Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job.

Beti

Ond Charles...

Charles

Dwi ddim isio esgusion. Gewch chi fynd rŵan.



Beti yn mynd allan, Charles yn canu'r gloch unwaith. Daw Doris i mewn.

Doris

Dim ond dwy funud mae o wedi bod!

Charles

Mae'r te yma yn oer. Cer i wneud peth ffres!

Doris

Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.} 'Di hwn byth yn fodlon.



Charles 'yn canu'r gloch deirgwaith. Daw Ben i mewn. Symud fel milwr. Wedi ei wisgo fel chauffer.

Ben

Ia, syr?

Charles

Mi fydda i isio'r car mewn hanner awr.

Ben

Syr! (Yn mynd allan.)



Y ffôn yn canu. Daw Beti i mewn yn gyflym. Mynd at y ffôn a dod â fo i Charles. Charles yn ei dderbyn heb edrych arni. Beti yn mynd allan.

Charles

Helo David, sut ydach chi? (Saib.) Wrth gwrs mi wna' i ei ddarllen o'n syth. Wnewch chi anfon o yma? (Saib.) Diolch yn fawr. Hwyl.



Charles yn canu y gloch ddwywaith a daw Beti i mewn a chymryd y ffôn oddi wrth Charles a'i roi yn ei le. Wedyn mynd allan. Charles yn canu'r gloch deirgwaith a daw Ben i mewn.

Ben

Syr!

Charles

Mae yna adroddiad pwysig ar y ffordd. Tyrd â fo i mi yn syth pan y daw o. Mi ddyle fod yma mewn tua dau funud.

Ben

Wrth gwrs, syr.



Mynd allan. Daw Doris i mewn gyda the ffres ac ŵy arall. Mae hi'n sefyll i edrych ar Charles yn torri'r ŵy a dechrau bwyta.

Doris

Ydi hwnna'n well!

Charles

Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro.



Doris yn troi a mynd allan. Siarad 'yn uchel wrthi ei hun.

Doris

Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn.



Daw Ben i mewn gydag amlen a'i roi i Charles.

Ben

Newydd gyrraedd, meistr.



Charles yn ei gipio heb ddiolch. Ben yn mynd allan. Charles yn agor cynnwys yr amlen a darllen.

Charles

Rargian fawr! (Mae yn canu'r gloch deirgwaith a daw Ben i mewn.) Car mewn pum munud.

Ben

Syr! (Ben yn mynd allan.)



Charles yn canu'r gloch unwaith a daw Doris i mewn.

Charles

'Rydw i ar frys. Tyrd â fy sgidie du newydd i mi.

Doris

Iawn. (Yn mynd allan.)



Charles yn canu'r gloch ddwywaith a daw Beti i mewn.

Charles

Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd.

Beti

Wrth gwrs, Charles.



Beti yn mynd allan. Daw Doris yn ôl i mewn gyda'r esgidiau.

Charles

Rho nhw ar fy nhraed i. Rydw isio cario ymlaen i ddarllen.

Doris

Be nesa! (Rhoi yr esgidiau am ei draed.)



Charles yn darllen. Daw Beti i mewn gyda'r gôt a'r tei.

Charles

Rhowch y tei ymlaen.



Beti yn ufuddhau. Beti gyda'r tei, Doris gyda'r esgidiau a Charles yn darllen yr un pryd.

Charles

Dwi ddim yn gallu darllen, Beti. Mae'ch breichiau chi ymhob man.

Beti

Sori, Charles.



Y ddwy yn gorffen. Charles yn codi. Y ddwy yn ei helpu gyda'i gôt. Charles yn dal i ddarllen.

Doris

'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr.

Charles

Tyrd a fo yma 'ta.



Doris yn cynnig y blât a'r ŵy arno iddo.

Charles

(Dal i ddarllen.) Fedri di ddim gweld, mae 'nwylo i yn llawn! Bwyda fi!

Doris

Wel, agorwch eich ceg 'ta.



Charles yn agor ei geg a darllen. Doris yn ei fwydo. Beti yn brwsio ei gôt.

Charles

(Dal i ddarllen.) Bowler!

Beti

Pardwn.

Charles

Yr het bowler. Estynnwch hi! (Beti yn estyn yr het.) (Dal i ddarllen.) Rhowch hi ar fy mhen.



Beti yn gwneud hynny. Daw Ben i mewn.

Ben

Car yn barod syr!



Charles yn rhoi'r gorau i ddarllen a cerdded allan. Ben yn ei ganlyn.

Beti

Welwn ni mono fo am rai oriau gobeithio. Ti'n cofio ein bod ni wedi gwadd mam a'i chwaer drosodd am baned a sgwrs.

Doris

Cofio? Wrth gwrs. A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw.

Beti

Well i ti osod y bwrdd yn barod.

Doris

Iawn.



Y ddwy yn mynd allan i'r gegin. Daw Doris yn ôl yn syth gyda llestri. Rhoi nhw ar y bwrdd a throi yn ôl at y gegin. Ar y ffordd 'yn ôl mae hi'n pasio Beti sydd wedi dod i mewn gyda thebot)

Doris

Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw?



Doris yn mynd allan. Dod yn ôl yn syth gyda theisen. Beti yn ei phasio ar y ffordd allan.

Beti

Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud.



Beti yn mynd allan. Dod yn ôl yn syth gyda rhywbeth arall i'w roi ar y bwrdd. Doris ar ei ffordd allan yn ei phasio eto.

Doris

Sut maen nhw'n dod?



Doris yn mynd allan a dod yn ôl yn syth gyda rhywbeth arall. Beti yn ei phasio.

Beti

Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros.



(Cloch y drws yn canu.)

Beti

(Ar ei ffordd yn ôl at y bwrdd.) Dyma nhw!

Doris

Mi a' i i'w ateb o.



Yn mynd allan. Beti yn gorffen gosod y bwrdd. Clywir lleisiau yn y cefndir.

Doris

Na, peidiwch â phoeni. Dydi o ddim yma.



Daw dwy ddynes i mewn. Doris tu ôl iddynt.

Doris

Hei, beth am eich cotiau chi. Dowch â nhw i mi.



Y ddwy yn diosg eu cotiau.

Beti

Sut 'dach chi mam? Hylo, Anti Jên.



Rhoi cusan i'r ddwy. Doris yn mynd â'r cotiau allan.

Beti

Dewch at y bwrdd. Mae'n siŵr bod chi isio paned.

Mam

A thamaid o darten afalau, Doris.

Jên

Ia wir, rydan ni ein dwy wedi mynd heb frecwast i fwynhau honno.



Beti yn tywallt te a thorri'r darten.

Beti

Does 'na neb i guro Doris am darten 'fala.

Mam

Rydw i jest â chlemio.



Daw Doris i mewn.

Doris

Sut mae'r darten yn plesio?

Jên

Dy ora di eto 'mach i.



Daw Ben i mewn.

Ben

Well i chi glirio o'r ystafell yma.

Doris

Pam?

Ben

Mae o yn ei ôl.

Beti

Yn barod?

Ben

Ia, mae o wedi trefnu i ddau ffrind ddod i'r tŷ.

Beti

Wel, mi gaiff o fynd i'r rŵm ffrynt. Dan ni ddim yn symud.

Doris

Da iawn, meistres. Mae'n bryd i rywun ddal ei dir yn ei erbyn.

Ben

Wel, rydw i wedi'ch wamio chi. (Yn edrych trwy'r drws.) Mae o'n dŵad. Rydw i'n mynd. (Yn mynd allan.)



Daw Charles i mewn. Beti yn sgwario a mynd ato.

Beti

Gwrandwch arna' i, Charles.

Charles

Allan!

Beti

Ond...

Charles

Allan ddeudais i. Doris cliria'r bwrdd.



Doris 'yn ufuddhau.

Doris

(Wrthi ei hun.) Oedd Hitler yn waeth na hyn deudwch? (Yn mynd allan.)

Charles

(Yn helpu Mam ac Anti Jên i godi.) Reit, cym on ferchaid. Mae yna ddigon o ystafelloedd eraill yn y tŷ. (Rhoi eu paneidiau yn eu dwylo a'u hebrwng at y drws. Beti yn dilyn) (Wrth Beti.) Rydw i yn disgwyl dau ffrind. Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth.

Beti

Wrth gwrs, Charles. Yn mynd allan.}



Cloch y drws yn canu. Lleisiau yn y cefndir. Daw Doris i mewn gyda dau ddyn, Seimon Pyrs ac Emlyn Prydderch.

Charles

Hylo, Seimon. Hylo, Emlyn. Dowch i eistedd.



Y ddau yn tynnu eu cotiau a'u rhoi i Doris.

Charles

(Yn gwenu.) Diolch Doris.



Doris yn cychwyn allan.

Charles

Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris. Halen y ddaear wyddoch chi.

Doris

(Wrthi ei hun.) 'Welodd rywun un mor ddau wynebog â hwn. (Yn mynd allan.)

Charles

Eisteddwch, gyfeillion.



Y ddau yn eistedd.

Emlyn

Diolch C.J. Wel, mae golwg iach arnoch chi, ond does, Seimon.

Seimon

Mi fuasech chi'n meddwl 'i fod o ddeg mlynedd yn iau.

Charles

(Ffug wyleidd-dra.) Diolch, gyfeillion.

Emlyn

Be' ydi'r gyfrinach G.J.?

Charles

O, mi fuaswn i yn deud ─ bod yn garedig wrth bobol.

Seimon

Mae hynny yn siŵr o fod yn wir.

Charles

Reit gyfeillion, beth am drafod busnes.

Emlyn

Rydan ni yn gwrando C.J.

Charles

(Papur yn ei law.) Dyma blan o'r gwesty newydd, Bryn Awelon, fydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn nesaf ar gyrion y dref.

Seimon

Mae o'n edrych yn broject go fawr C.J.

Charles

Tua miliwn a hanner.

Emlyn

'Rargian fawr! Mi fydd eich ffî chi am y cynllun yma yn un sylweddol.

Charles

Wel, mae'n rhaid iddyn nhw dalu am y gorau.

Seimon

Rhaid yn wir.

Emlyn

Fedrwn ni gyfrannu i lwyddiant y fenter C.J.?

Charles

Wrth gwrs, wrth gwrs. Dyna pam fy mod i wedi eich gwadd chi yma heddiw. Dach chi'n gwerthu dodrefn da, Emlyn, a chitha garpedi gwych, Seimon.

Seimon

Oes posib rhoi gair i mewn drosom ni?

Charles

Wrth gwrs, ond mae yna un broblem bach.

Emlyn

Be ydi honno C.J.?

Charles

Meddwl bod hi'n bryd i ni feddwl am newid y dodrefn a'r carpedi yn yr hen dŷ yma.

Seimon

Say no more C.J.

Emlyn

Ie, wir.

Charles

Rydw i'n falch ein bod yn deall ein gilydd ffrindiau. Rŵan, rwy'n cynnig ein bod yn cael ychydig o fy ngwin cartref i ddathlu, (Yn gafael mewn gwydrau a photel o win ac arllwys.) Rydw i wedi cael hwyl ar wneud hwn. Fy un gorau i ers talwm.



Pawb yn cyffwrdd gwydrau.

Pawb

I Bryn Awelon.

Charles

'Dych chi ddim wedi cyfarfod y wraig yn naddo? Mi af i'w nôl hi, mi fydd wrth ei bodd eich cyfarfod chi. (Yn mynd allan.)

Seimon

Ew, mae'r gwin 'ma yn ofnadwy.

Emlyn

Sôn am wenwyn.

Seimon

Lle gawn ni wared â fo dŵad?

Emlyn

Beth am y pot blodau?

Seimon

Syniad da.



Y ddau yn arllwys eu gwin i'r pot blodau. Daw Charles i mewn gyda Beti a'i fraich rownd ei chanol.

Charles

Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad. Gyfeillion, dyma fy annwyl wraig, Beti. Beti, dyma Emlyn Prytherch a Seimon Pyrs.

Beti

(Yn ddi-wên.) Falch o'ch cyfarfod chi.

Charles

Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd. Pob un ohonyn nhw y tu hwnt o hapus. Yntê, cariad?

Beti

(Heb wenu.) Ia, Charles.

Charles

Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag. Rhaid i chi gael mwy.

Emlyn

Na, dim diolch C.J.

Seimon

Rhaid ini fynd.

Charles

Twt lol, mae gennych chi ddigon o amser am wydriad bach arall. (Yn arllwys mwy o win iddynt.)

Emlyn

Rwy'n siŵr bod pob munud yn fêl gyda C.J., Beti?

Beti

(Yn sych.) Dach chi'n meddwl?

Charles

Wel, lawr â fo gyfeillion. Fe awn ni rŵan i weld perchennog y gwesty.

Emlyn

Iawn C.J.



Y ddau yn rhoi y gwydrau ar y bwrdd a throi at y drws.

Charles

Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi. Mae yna lot o win ar ôl yn eich gwydrau. Dewch rŵan, dach chi ddim yn mynd i wastraffu gwin da!

Seimon

Wel mi rydan ni ar fai C.J.

Emlyn

Ia wir, a'r gwin mor dda hefyd.

Seimon

Campus ydi'r unig air amdano fo.



Y ddau yn yfed. Y gynulleidfa yn unig yn gweld y diflastod ar eu hwynebau.

Charles

Dewch gyfeillion. (Rhoi cusan i Beit ar ei boch.) Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr.



Y tri yn mynd allan. Daw Doris i mewn.

Doris

Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei.

Beti

Wyddost ti beth nath y cena? Fy nghusanu i o flaen y dynion 'na.

Doris

Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly.



Daw Ben i mewn.

Ben

Wel, myn dian i. Sefyll fel ffŵl wrth ymyl y car yn disgwyl amdano fo ac yntau yn cerdded heibio i mi heb ddeud dim a mynd yng nghar ei ffrindiau.

Doris

(Yn edrych ar y bwrdd.) Mae o wedi gadael ei blan ar ôl.

Beti

Pa blan?

Doris

Hwn fan hyn.

Ben

Edrych yn debyg i'r gwesty newydd maen nhw yn mynd i'w adeiladu ger y traeth. Bryn Awelon.

Doris

Sut wyt ti'n gwybod am hwnnw?

Ben

Mae 'mrawd wedi rhoi cais i mewn i fod yn bensaer.

Beti

'Chaiff o mohoni mae'n debyg. Os nad ydi o yn nabod y bobol iawn.

Ben

Dyna'r gwir amdani. (Saib.) Hei, hold on, mae hwn yn debyg iawn i'r plan wnaeth fy mrawd.

Doris

Sut wyt ti'n gallu deud?

Ben

Wel, weli di y ffigwr 81 yn fan'na?

Doris

Ia.

Ben

'Rydw i bron yn sicr mai dyna'r union ffigwr oedd ar blan fy mrawd ac mae o'n anghywir. 'Ron i yno pan welodd o y mistêc ar ei gopi o.

Beti

Be ddylai o fod?

Ben

18. Ac mi aeth fy mrawd i'r swyddfa i nôl y plan i'w gywiro fo ar ôl sylweddoli hynny.

Beti

Ac mi roedd rhywun wedi copio y plan pan oedd o yn y swyddfa?

Ben

Oedd, ac wedi copio y mistêc hefyd.

Doris

Wel, y coblyn tywyllodrus.

Ben

'Rydw i am fynd â hwn at fy mrawd i jecio. (Mynd allan gyda'r cynllun.)

Doris

Reit ─ dyma'n cyfle ni.

Beti

Be wyt ti'n feddwl?

Doris

Ein cyfle ni i dalu'n ôl.

Beti

I Charles?

Doris

Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni.

Beti

Ond does 'na ddim wedi'i brofi.

Doris

Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser.

Beti

Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo.

Doris

Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo. Reit meistres, beth am bractis bach.

Beti

Practeisio be?

Doris

Beth i'w ddweud wrth y meistr.

Beti

Well gen i beidio.



Yn cychwyn allan. Doris yn sefyll yn ei ffordd.

Doris

'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres. Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus.



Beti yn meddwl.

Beti

Reit, be wyt ti isio imi ei wneud?

Doris

Gwych, meistres. Reit, deudwch ar fy ôl i ─ Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.

Beti

(Heb hunan hyder.) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.

Doris

Twt, twt, meistres. Fuasech chi ddim yn dychryn robin goch fel yna. Brest allan, ysgwyddau'n ôl. Triwch eto. Codwch eich llais.

Beti

(Yn ufuddhau, ond yn gweiddi gormod.) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.

Doris

Peidiwch â gweiddi gormod. Unwaith eto.

Beti

(Llais yn is.) Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.

Doris

Da iawn.



Daw Ben yn ôl i mewn.

Ben

Mae 'mrawd wedi cadarnhau'r peth. Ei gynllun o ydi o heb os nac onibai. A pheth arall, ar ôl iddo fo ei anfon o i mewn yr ail dro, mi aeth ar goll.

Doris

Yn y swyddfa?

Ben

Ia, mae'n debyg bod rhywun wedi'i golli o yn fwriadol.

Doris

Dyna fo wedi'i brofi. Mi fedrwn ni gario ymlaen rŵan.

Ben

Be' 'dach chi yn mynd i'w wneud?

Doris

Ei gyhuddo fo o dwyll. Ac os nad ydi o yn newid ei ffordd, mi rydan ni am ei riportio fo.

Ben

Sŵn car! Mae o wedi cyrraedd yn ôl.

Doris

Reit, pawb allan. Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo.



Y tri yn mynd allan. Daw Charles i mewn. Mae yn cicio cadair o'r neilltu. Yn taflu ei gôt a'i het ar gadair arall ac yn canu y gloch. Neb yn ateb.

Charles

Lle gebyst mae pawb? (Yn cerdded i fyny ac i lawr yr ystafell.) Lle mae'r merchaid 'ma?



Yn mynd allan i chwilio. Daw Beit i mewn ar frys.

Beti

Charles, rydan ni...



Stopio mewn syndod pan wêl neb yno. Daw Doris imewn.

Doris

Lle mae o?

Beti

Wn i ddim. Ella ei fod o wedi mynd i'r ystafell ffrynt.

Doris

Ar ei ôl o meistres.

Beti

Rydw i yn dechrau cael traed oer wsti.

Doris

(Yn ei thywys yn araf at y drws.) Nac ydych, siŵr. Mi wnewch chi'n iawn. Pob lwc.



Beti yn mynd allan. Doris yn gwneud ychydig o dacluso. Daw Ben i mewn. Pan wêl Doris sydd â'i chefn ato mae yn mynd ati ar flaenau ei draed ac yn rhoi ei freichiau o'i chwmpas.

Doris

(Gwaedd.) Pwy sydd 'na?

Ben

Tarsan.

Doris

(Tynnu ei hun yn rhydd.) Be sydd arnat ti dwad? Mae yna amser a lle i bopeth. Be wyt ti isio?

Ben

Dim ond un gusan fach.

Doris

Ddim yn fan hyn gwboi. (Daw Beti i mewn mewn dagrau.) Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres.

Beti

Ydw. Mi wrthododd o wrando, a'n anfon i oddi yna bron yn syth.

Ben

Be ddeudodd o am y plan?

Beti

Deud mai ei blan o ydi o, a neb arall.

Doris

Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo.

Beti

Be fedar o'i wneud?

Doris

Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o. Ac ar ben hynny, mae o'n ddyn papur newydd.

Ben

Ia, meistres ─ ewch. Dim ond drws nesa ond un mae o'n byw.

Beti

Iawn.



Yn mynd allan. Ben yn ceisio rhoi ei fraich rownd Doris.

Doris

Paid. Mae rhywun yn dod.



Daw Charles i mewn.

Charles

A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn. Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig.

Doris

Hy, be ydi cyflog?

Charles

Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl.

Ben

Sori syr. Wnawn ni byth eto.

Charles

A lle mae fy ngwraig i wedi mynd? Rydw i isio gair ymhellach gyda hi. Mae isio dysgu gwers iddi.

Ben

Newydd fynd allan meistr.

Charles

Pan ddaw hi'n ôl, dwedwch wrthi fy mod isio ei gweld hi yn syth.

Ben

Gwnawn wrth gwrs, syr.



Charles yn mynd allan. Daw Beti i mewn gydag Oscar ─ dyn mawr yn edrych yn fygythiol.

Doris

Mae o newydd fod yma yn gofyn amdanoch chi meistres.

Ben

Ia, ac mewn coblyn o dymer.

Oscar

Lle mae o! Fydda i ddim yn hir yn ei setlo fo!

Doris

Ffordd hyn.



Doris yn mynd allan gyda Oscar ─ y ffôn yn canu. Beti yn ateb.

Beti

Snwcer? Na, mae'n rhaid eich bod chi wedi gwneud camgymeriad ─ dydi Charles ddim yn chwarae snwcer. (Saib.) O, sori. Ben 'dach chi isio. Pwy sy'n siarad. (Saib.) Sion Powys, ia. Sut ydach chi, Mr Powys. Daliwch y lein, mi a'i i'w nôl o i chi rŵan. (Sibrwd.) Sion Powys sydd yna isio trefnu gem snwcer.

Ben

Ew, dw i heb gael cyfle i bracteisio. Dywedwch wrtho fo y gwna i ei ffonio fo'n ôl.

Beti

Gaiff o ffonio chi'n ôl Mr Powys? Diolch yn fawr. (Ffôn i lawr.)

Ben

(Chwerthin.) Powys ydi enw ei dy o! (Cloch y drws yn canu.) Mi a'i.



Yn mynd allan. Daw Doris yn ôl i mewn.

Doris

(Chwerthin.) Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na.

Beti

O diar, gobeithio na fydd yna ymladd.

Doris

Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar. (Daw Ben yn ôl i mewn.)

Ben

Mrs. Pryce-Smith sydd yna.

Beti

Be mae hi isio?

Ben

Dw i ddim yn siŵr ─ rhywbeth am Tenerife.

Beti

O! Tenerife.

Doris

Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr.

Beti

O, fedra i 'mo'i gweld hi. Be wna' i Doris?

Doris

Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni.

Beti

O Doris, rwyt ti'n werth y byd.



Doris yn mynd allan. Daw Oscar yn ôl i mewn.

Oscar

Chewch chi ddim mwy o drwbwl hefo fo. Dydd da.



Oscar allan. Doris i mewn.

Doris

'Dach chi'n lwcus meistres.

Beti

Lwcus?

Doris

(Yn chwerthin.) Ia, mae hi isio canslo y gwyliau. Gofyn os dach chi'n meindio.

Beti

(Yn chwerthin.) Dim o gwbwl.

Doris

Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro.

Ben

Sh... rydw i'n meddwl ei fod o yn dŵad.



Daw Charles i mewn yn cario côt ffyr, amlen a watsh aur.

Charles

(Gwên gyfeillgar.) Beti, Doris, Ben. Sut ydych chi erbyn hyn?

Doris

(Wrth Beti a Ben.) Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis.

Charles

Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw.

Doris

Tro cynta ers naintin-sicsti!

Charles

Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir. Na, fel mae Mr Davies y Gweinidog yn ei ddweud, rhaid maddau yn yr hen fyd 'ma. Felly dyma anrhegion i chi'ch tri. I chi, Beti ─ côt ffyr. I ti, Doris ─ cyflog tri mis a bonws o gan punt. Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur.

Doris

Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm.

Ben

Na finnau.

Doris

Beth am i ni gyd fynd allan i ginio.

Beti

Syniad gwych. Well ini fynd i newid yn sydyn.

Charles

Ardderchog. Mi ddo' i gyda chi.

Beti

(Yn ei wthio yn ôl.) Gewch chi aros adref Charles. Mae yna ddigon o fwyd yn y gegin.

Doris

Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union.

Ben

(Yn rhoi ei watsh aur ar y bwrdd.) A dyma chi fenthyg watsh i'w amseru o'n iawn.

Beti

Hwyl, Charles.



Y tri yn mynd allan. Charles yn sefyll yn geg-agored mewn syndod.

Y DIWEDD

a1a2