g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 11


ANNE a MARGOT yn cyrraedd Auschwitz. Swn tren. MILWYR yn gweiddi'n uchel dros ei gilydd.

Milwr 2

Dewch allan yn drefnus!

Milwr

Allan! Allan rwan!

Milwr 2

Dynion i'r dde a merched a phlant i'r chwith!

Milwr

Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig ar ol y siwrnai, dewch draw ffor hyn. Pawb mewn rhesi syth! Dwi isio gweld pawb yn symud! Symudwch! Merched a phlant i'r chwith! Dynion i'r dde! Does na'm amser i loetran! Pawb i symud!

Milwr 2

Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig, dewch draw ffor hyn!

Anne

Tyd Margot!

Margot

Aros lle wyt ti!

Anne

Alla i'm cerdded dim mwy!

Milwr

Mi gewch chi eich cofrestru a chael archwiliad meddygol. Yna cawod a chasglu eich gwisg briodol ar gyfer eich harosiad. Gadewch eich holl eiddo yma. Sbectols, dannedd gosod...

Milwr 2

Tynnwch eich dillad! Os oes gynnoch chi unrhyw beth gwerthfawr, dowch a nhw…



MILWR yn sylwi ar ANNE a MARGOT yn gafael yn ei gilydd.

Milwr

Rhosa! Ti'n hogan fawr i fod yn gafael llaw!



ANNE yn gollwng llaw MARGOT yn frysiog.

Milwr

S'ddim isio bod ofn! Isio mwytha ti?



ANNE yn ysgwyd ei phen yn bendant.

Milwr

Fama'n gallu bod yn le unig i hogan ifanc!

Margot

Da ni'n iawn diolch.

Milwr

Heblaw bo ti'n hogan sbesial! Gadwa i'n llygad arna ti yli!

Milwr 2

Symwch hi!

Milwr

Dowch!



ANNE a MARGOT yn mynd o'r golwg.

Milwr 2

Cadwa di at dy waith!

Milwr

Mond sbio dwi!

Milwr 2

Fydda nhw di colli u graen mewn wsnos.

Milwr

Dyna pam dwi'n licio rhai newydd. Neis gweld bach o gig arnyn nhw.

Milwr 2

Iddewon cachlyd ydyn nhw!

Milwr

Ma nhw dda i wbath!

Milwr 2

I losgi yn y ffwrnais na. Symwch ar y platform! Ma angen'u sortio nhw!

Milwr

Ma isio bach o hwyl! (Troi i weiddi ar y bobol.) Symwch hi!

Milwr 2

Dynion i'r dde, merched a phlant i'r chwith.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17