g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 12


ANNE a MARGOT wedi newid i wisg y gwersyll. Blanced dros y ddwy. Swn crio a thagu.

Anne

Na'i byth gysgu!

Margot

Cau dy lygid.

Anne

Ma bob dim yn troi yn y meddwl i.

Margot

Tria gofio sud oedd hi!

Anne

Alla i ddim!

Margot

Cyn i ni fynd i guddio.

Anne

Dwi'm yn cofio dim byd!

Margot

Ti'n cael dy benbwydd, cacan, pawb yn hapus… a'r dyddiadur!

Anne

Be os ydyn nhw di ddarllen o?

Margot

Mam yn chwarae hefo dy wallt di.

Anne

Lle ma hi?

Margot

Ma na filoedd o bobl yma! Ma hi'n mynd i gymryd amser. Mi ddown ni o hyd iddi'n diwedd.

Anne

Ond dwyt ti'm yn gwbod hynny, nagwyt?

Margot

Fydd bob dim yn well fory ar ol ni gael bwyd a diod. Wyt ti isio mi wrando arnat ti'n deud dy bader?

Anne

Gafael yna i'n dynn.

Margot

Well fory sdi. Efo'n gilydd!

Anne

Am byth!

Margot

Ti a fi!

Anne

A Dad a Mam.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17