g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 13


ANNE a MARGOT yn sefyll i gael eu cyfri.MARGOT yn teimlo'n sal.

Milwr 2

634, 635, 636…

Margot

Ma raid mi gael mynd.

Anne

Mi gawn ni'n munud.

Milwr 2

637, 638, 639…

Margot

Alla i'm dal.

Anne

Rho dy ben i lawr.

Milwr 2

640, 641, 642…

Margot

Dwi'n mynd i fod yn sal.

Milwr

Cwyd ar dy draed! Mae pawb i sefyll i gael eu cyfri.

Margot

Dwi'n mynd i fod yn sal.

Milwr

Mi geith hi aros ei thro fel pawb arall. Saf yn syth!



MARGOT yn chwydu.

Milwr

Y mochyn! Y sglyfath budur! Fydd y cwbwl ohonach chi'n sal rwan achos fod na un Iddew bach methu aros i gyrraedd y toilet. Welis i fwy o urddas mewn ci. Mi fydd raid i ti gael dy gosbi. Penlinia ar lawr a chwyd dy freichiau yn yr awyr.

Anne

Tyd Margot. Fyddi di fawr hirach.

Milwr

Mae pob un ohona chi'n wan!

Margot

Dangos iddyn nhw!

Milwr

Mi ydach chi gyd run fath! Pob un ohonach chi'n faw isa'r doman.

Anne

Paid a sbio arno fo!

Milwr

Ddysgith hynna i ti fod yn ufudd! Fydda i'n cadw llygad arna ti.

Margot

Helpa fi Anne!

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17