g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 14


ANNE yn cadw llygad ar MARGOT ac yn ymateb i bob swn ma hi'n ei wneud.

Anne

Well rwan? Mi ga'i rywun i helpu mi fynd a ti at doctor.

Margot

Misio.

Anne

I ti gael gwella.

Margot

Na.

Anne

Wrach ge'i di ffisig. A fyddi di'm run un! Be ti'n ddeud? (ANNE yn mynd i afael am MARGOT.) Nghariad gwyn i.

Margot

Mam?

Anne

Naci, Margot.

Margot

Mam?

Anne

Paid rwan.

Margot

Isio…

Anne

Gawn ni weld Mam sdi…yn munud.

Margot

Boeth…

Anne

Gorwedd di rwan.

Milwr

Allan!

Milwr 2

Pawb allan!

Anne

Aros di'n fama ia? Fydda i'm yn hir.

Milwr

174, 175, 176…



ANNE yn hymian can y dawnsio nes mae ei rhif hi a MARGOT yn cael ei alw.

Milwr

182…182?

Anne

Ia.

Milwr

183…183

Anne

Ia.



MILWR 2 yn sylwi mai ANNE sydd wedi ateb y ddau rif. ANNE yn ofni cael ei chosbi.

MARGOT yn gorwedd yn farw ym mreichiau ANNE.

Anne

Gafael yn y mwg Margot rhag ofn i rywun ei ddwyn o. Sgin ti'm syched? Ma raid i ti yfed! Bwysicach na dim! Tyd rwan Margot! Tisio tamad o fara ta? Mi ges i hyd iddo fo tu ol i'r gegin. Agor dy geg rwan! Isio llonydd ti, ia? Isio mi adael ti gysgu i fod yn gry at fory? Ma raid ni gael ein cyfri yli! Tyd rwan! Rown ni ti i bwyso yn erbyn y wal lle gei di gysgod. E?

Isio mi fyta fo ti? Na ti bia fo! Da ni'n gofalu am ein gilydd dydan? Pawb arall ar ben u hunin yli! Ond ddim y ni! Tyd Margot fach, llynca fo! Plis Margot?

Milwr

Allan! Rwan!

Anne

Ma hi'n sal. Ellith hi'm symud.

Milwr

Dos di allan ta!

Anne

Y'n chwaer i di hi! Mi a'i nol rhywun i'n helpu i!

Milwr

Gad hi!

Anne

Fydd hi'n iawn yn munud. Plis? Mi oeddach chi'n arfer bod yn glen! Ddim fatha'r lleill!

Milwr

Allan!

Anne

Sbiwch! Ma hi'n styrio!



MILWR yn chwerthin. ANNE yn ymuno am rhywfaint.

Milwr

Allan!

Anne

Ma hi'n weithwraig dda!

Milwr

Rwan!



ANNE yn ddiymadferth. MILWR yn galw ar MILWR 2.

Milwr

Un arall di mynd!

Milwr 2

Swn i'm cyffwrdd yn hwnna. Mi ga'n nhw i symud hi u hunin.

Anne

Gadwch i mi neud.

Milwr

Rel madam fach dwyt? Isio ffor dy hun hefo bob dim!



MILWR ar fin gafael yn ANNE mewn ffordd rywiol. ANNE yn poeri yn ei wyneb.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17