g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 15


ANNE yn cario cerrig o un ochr i'r llall. Cyn iddi cyrraedd y cerrig mae'n cael gorchymyn newydd nes ei bod yn gwbwl simsan ar ei thraed.

Milwr

Ma raid i ti symud yn gynt! Cychwyn eto!

Milwr 2

Nol lle'r oeddan nhw! Tyd!

Milwr

Elli di gario mwy na hynna!

Milwr 2

Ddim digon da! Dos a nhw'n ol!



ANNE yn syrthio ar ei phenegliniau.

Milwr

Ar dy draed! Cwyd ar dy draed! Paid a sbio arna i! Dwyt ti ddim i sbio i'n llygid i! Ti'n y nghlywad i? Cwyd!



ANNE yn syrthio ar lawr a chael ei llusgo i ffwrdd gan MILWR 2.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17