g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2


Mae Anne yn darllen ei dyddiadur yn ddwys tra bo Margot yn ymdrechu i gael gweld y cynnwys.

Anne

Paid!

Margot

Gad mi gael golwg! Mond am funud!

Anne

Na!

Margot

Pam?

Anne

Dwi'm isio i ti weld.

Margot

Pam?

Anne

Sa ti'm yn licio'r petha dwi'n ddeud!

Margot

Hy!

Anne

Sut ti'n gwbod?

Margot

Mae o ddigon diniwed!

Anne

Wyt ti di bod yn'o fo'n barod?

Margot

Naddo!

Anne

Pam ti'n gwenu'n wirion ta? E?

Margot

Paid a gneud swn Anne!

Anne

Meiddia di osod blaen dy fys ar hwn!

Margot

Tempar Anne!

Anne

Dwi'n i feddwl o!

Margot

Ti mor hawdd dy weindio, dwyt?

Anne

A titha'n ast annifyr!

Margot

Ymddiheura rwan!

Anne

Na naf!

Margot

Ymddiheura!



Saib.

Margot

Mi gawn ni weld be sy gan Dad i'w ddeud!

Anne

Be am i ti sefyll ar dy draed dy hun am unwaith?

Margot

Dwi'm yn mynd i siarad efo ti os wyt ti fel hyn.

Anne

Dos o ma ta!

Margot

Mae gen ti lot i'w ddysgu Anne!

Anne

Twll dy din di!

Margot

Ti mor blentynaidd!

Anne

Tisio cweir?

Margot

Nes i'm dewis bod yn chwaer i ti.

Anne

Dos i chwilio am fwytha gan Mam! Dos!

Margot

Rhosa yma tan fydd na well hwylia arnat ti.



Saib.

Margot

Ag i ti gael dallt, ddim y fi sy di bod yn sbio drwy dy ddyddiadur di.

Anne

Pwy ta?

Margot

Ma isio ti ofalu be ti'n roi yno fo.



Margot yn gadael.

Anne

Margot tyd yn…



Ansicrwydd mawr yn dod dros ANNE.

Llais

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 11, 1942. Dwi ddim yn meddwl y do' i byth i deimlo'n gartrefol yn y ty yma ond dydi hynny ddim yn golygu fy mod yn ei gasau. Mae fel bod ar wyliau mewn rhyw westy digon od. Efallai fod hynny'n ffordd ryfedd o edrych ar bethau, ond felly dwi'n teimlo. Mae'n le perffaith i guddio. Efallai ei fod yn damp a'r waliau'n gam, ond go brin fod yna guddfan fwy cyfforddus yn unman.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17