g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3


ANNE yn ysgrifennu yn ei dyddiadur, MARGOT a PETER yn edrych allan ar y cymylau.

Margot

Charades?

Peter

Ia!

Margot

Anne?

Anne

Dwi'n brysur.

Peter

Plis Anne!

Anne

Ma raid i mi orffen hwn.

Margot

Tyd ta Peter! Dos di gynta!

Peter

Di o'm run fath mond hefo dau.

Margot

(Cyfeirio at PETER.) Awn ni nol lawr ta?

Anne

Dwi bron a gorffen.

Margot

Mwya sydyn! Rhyfedd!

Anne

Be nown ni?

Margot

Geith Peter ddewis!

Peter

Mots gynna i! Be sa ora gen ti Anne?

Anne

Dyfalu cymyla!

Margot

Pawb yn hapus hefo hynny?

Peter

Mond bo fi ddim yn gorfod mynd gynta!



MARGOT yn cychwyn ar ei hunion heb roi cyfle i ANNE.

Margot

Debyg i be di hwna ta?

Anne

Ma'n amlwg!

Peter

Ddim i mi!

Margot

Crycha dy lygid a mi weli di'n syth!

Anne

Sbia'n iawn!

Peter

Na!

Anne

Wel! Gwyneb hen ddyn!

Margot

Paid a bod yn wirion! Cacan di!

Anne

Ers pryd ma gin gacan drwyn?

Peter

Wela i! Donyt di!

Margot

Da iawn Peter!

Peter

A jam yn i chanol hi!

Margot

A siwgwr yn dew drosti!

Peter

Ag wrth ti gymryd dy damad cynta ma'r jam yn diferu lawr dy en di!

Margot

Ond ti'n i ddal o mewn digon o bryd ac yn llyfu dy fys a mwynhau pob diferyn!

Anne

Sa ti'n rhoi tamad ohoni i mi?

Peter

Tamad o be?

Anne

O'r donyt de!

Peter

Ond sgynna i'm un!

Anne

Tasa gin ti un?

Peter

Swn i'n ei rhannu hi hefo pawb.



ANNE yn anfodlon a'r ateb. MARGOT yn cyfeirio at gwmwl arall.

Margot

Be am hwn ta?

Anne

Ma hi'n union run fath a Boche!

Peter

Hi?

Anne

Hi, fo, be bynnag ydi o!

Peter

Sa ti'n chwara efo'r gath sa ti'n gwbod yn iawn na hogyn ydi o!

Anne

Wyt ti'n gallu gweld?

Margot

Anne!

Peter

Ma'i organ genehedlu fo i weld yn glir!

Margot

Tyd Anne! Mi fydd Dad yn disgwyl amdano ni!

Anne

Elli di ddangos i 'organ genhedlu' o i mi?

Peter

Tyd i fyny i'r atig heno a mi gei di weld!

Anne

Dyna ti'n ddeud ia? 'Organ genhedlu'?

Peter

Wel…ia!

Anne

Achos 'fagina' fydda i'n galw un merch!

Margot

Mi a'i ddeud dy fod ti ar dy ffor!



MARGOT yn gadael.

Peter

Mi o'n i'n gwbod hynny'n barod!

Anne

Oes na air arall wyt ti'n ddefnyddio am organ genhedlu dyn?

Peter

Mmmm….

Anne

Ti'n gwbod ─ gair go iawn! Ddim un babiaidd!

Peter

Wel…

Anne

Achos sut da ni fod i ddysgu'r geiria ma pan does na neb yn egluro'n gall! Does na neb yn son am y pethau wyt ti isio gwbod amdanyn nhw go iawn!

Peter

Wrach sa well ti siarad hefo dy fam a dy dad?

Anne

Fyddi di'n trafod petha felma hefo dy rai di?

Peter

Pan fydda nhw isio!

Anne

Hola nhw ta! Ddoi fyny ata ti heno ma!

Tad

Fama da chi'n cuddio!

Anne

Ar y'n ffor o'n i.

Tad

Lawr a ti ta!

Anne

Cofia be ddudis i!



Saib anghyfforddus.

Tad

Anne ddim yn dy boeni di gobeithio!

Peter

Ddim o gwbwl! Dwi wrth y modd hefo hi…a Margot.

Tad

Mond y'ch bod chi gyd yn ffrindiau!

Peter

Hoff iawn o'n gilydd! Y tri ohonan ni.

Tad

Siwr sa well gen ti fod yng nghanol hogia run oed a ti.

Peter

Na!

Tad

Chditha'n hogyn ifanc sy…bron yn ddyn.

Peter

Fydda i'm yn teimlo ddim gwahanol i be o'n i.

Tad

Na ti!



Saib.

Tad

Braf cael llonydd weithia dydi!

Peter

Well gynna i fod efo rhywun.

Tad

Ddigon ohonan ni yma cofia…i gadw cwmpeini.

Peter

Da ni'n ffodus iawn Mr. Frank.

Tad

Yndan y ngwas i.

Peter

Oedda chi isio wbath o fama?

Tad

Na…ma bob dim i weld yn ei le.

Peter

Dwi am fynd at y lleill os ydi hynny'n iawn gynno chi!



PETER yn gadael a OTTO yn siomedig nad oedd wedi gallu cyfleu byrdwn ei sgwrs yn ddigon clir.

Llais

Dydd Gwener, Tachwedd 20, 1942. Beth bynnag dwi'n ei neud, alla i ddim peidio a meddwl am y rhai sydd wedi mynd. Rydw i'n dal fy hun yn chwerthin ac yn cofio nad oes gen i hawl bod mor hapus. Ond a ddyliwn i dreulio'r diwrnod cyfan yn crio? Na, alla i ddim gneud hynny, ac mae'r tristwch hwn yn siwr o fynd heibio.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17