g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 6


Mae PETER yn gafael am ANNE ac yn edrych am allan drwy ffenest yr atig.

Peter

Gwena!

Anne

Mi ydw i!

Peter

Nagwyt!

Anne

Ddyliwn i fynd nol lawr.

Peter

Ddim eto!

Anne

Be am dy fam?

Peter

Ffysian ma hi.

Anne

Pam wyt ti isio mi wenu o hyd?

Peter

Ma'n y ngneud i'n hapus.

Anne

Gafael yn dynn.

Peter

Del wyt ti!

Anne

Nachdw!

Peter

Wyt Anne!

Anne

Be sy'n ddel amdana i?

Peter

Bob dim!

Anne

Y'n llygid i?

Peter

Ia!

Anne

Be arall?

Peter

Dy ddimpyls di!

Anne

Does gynna i'm dimpyls!

Peter

Oes wrth ti wenu!

Anne

Ma hynna'n hyll!

Peter

Fydda i'n meddwl amdana ti bob nos.

Anne

A finna!

Peter

Fysa ni… efo'n gilydd… tasa ni'm yn fama?

Anne

Cydia'n dynn!

Peter

Diolch Anne.

Llais

Dydd Gwener, Rhagfyr 24 1943. Mi fydda i'n meddwl weithiau os fydd na rywun yn fy nallt i byth. Be di'r ots os ydw i'n Iddewes neu beidio? Pam na allan nhw weld mai dim ond merch ifanc ydw i, a'r cwbl ydw i isio ydi mymryn o hwyl? Allwn i byth son am hyn hefo neb, neu mi fyddwn i'n siwr o grio. Mae crio yn gallu dwyn rhyddhad, ond i rywun beidio a gneud hynny ar ei ben ei hun.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17