g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 8


ANNE yn penlinio a gweddio wrth ei gwely. OTTO'n ochneidio'n drwm cyn cael y nerth i ddod i mewn i'r ystafell.

Tad

Barod am dy wely? Ma hi di bod yn ddiwrnod hir.

Anne

Dad…

Tad

Mi yda ni gyd di tawelu rwan.

Anne

Di blino odda chi.

Tad

Gwres ma'n deud arna ni gyd.

Anne

Da chi'n gwbod efo…

Tad

Peter?

Anne

Mi fyddwn ni'n treulio dipyn o amser efo'n gilydd yn yr atig. Ydi hynny'n y'ch poeni chi?

Tad

Ma isio bod yn ofalus a ninna'n byw ar ben y'n gilydd fel hyn.

Anne

Da ni'm yn wirion!

Tad

Nagwyt siwr. Ond ma isio bod yn ddisgybledig.

Anne

Dad!

Tad

Dwi'n dallt sud ma hi ar y ddau ohono chi ond ma raid i ti fod yn bendant hefo fo. Peidio gneud mwy na sy raid.

Anne

Be da chi'n feddwl da ni'n neud?

Tad

Ti'n gweld ma hogia ifanc yn licio mentro a ma isio i'r hogan ddangos yn glir be di be. Ddau ohona chi yng nghwmni'ch gilydd o hyd a ma beryg i betha fynd yn fler. Mae isio ti fod yn ofalus Anne. Sa well ti gadw dy bellter.

Anne

Mae o'n hogyn call.

Tad

Ge'i di ddigon o gyfla ar ol i ni adael fama i gyfarfod hynny lici di o hogia. Hynny ydi, o fewn rheswm! Ti'n gweld, dydi Peter ddim yn gymeriad mor gry a ti. Ma hi'n hawdd iawn dylanwadu arno fo a dydi o'm o'r hogyn mwya siarp!

Anne

Snob da chi Dad!

Tad

Ddim o gwbwl! Isio'r gora i ti dwi.



ANNE yn cael ei chyfareddu gan awydd i afael am ei thad. Mae'r ddau yn dal ei gilydd yn dynn am yn hir.

Anne

Da chi werth y byd Dad!

Tad

Cysga'n dawel y nghariad i. Os ddaw na unrhyw…

Margot

Dad!

Tad

Gad mi orffen. Os lwydda nhw i'n ffeindio ni dydan ni…

Margot

Da ni di bod trw hyn.

Tad

Ma'n bwysig y'n bod ni'n barod am beth bynnag ddaw.

Margot

Deud dim.

Tad

Peidio enwi neb.

Margot

Na i'm plygu.

Tad

Ddim amdana ti dwi'n boeni. Ma hi'n gallu bod mor fyrbwyll a gwirion.

Margot

A di Anne fawr gwell!

Tad

Margot! Sensitif di dy fam! Does gynni'm help!

Margot

Does ddim isio iddi weiddi gymaint ar Anne chwaith.

Tad

Ma raid ti wastad gadw llygad ar y ddwy achos ga'i ddim aros efo chi. Dyna sy'n cael ei ddeud. Ma nhw'n gwahanu'r dynion a'r merched. Ond fyddwch chi'ch tair yn gry efo'ch gilydd. A ma'n bwysig y'ch bod chi'n cadw'ch ysbryd. Bach o dynnu coes bob hyn a hyn!

Margot

Di Mam ddim yn dallt jocs rwan yn fama heb son os ydan ni yn…

Tad

Peidio tynnu sylw neb a dangos dim. Ag os oes raid ti ddeud rw gelwydd gola i gael Anne i neud i gwaith wel…

Margot

Ma isio mi ddeud clwydda rwan! Dwi'n cael cychwyn yn fama?

Tad

Mi wyt ti mor …

Margot

Peidio dangos dim byd Dad!

Tad

Na mi ydw i isio…

Margot

Does ddim angen.

Tad

Oes.

Margot

Dad!

Tad

Dwi wastad di bod mor falch ohona ti. Wastad. Paid ag anghofio hynny.

Margot

Ydi'r straeon am y… camps yn wir?

Tad

Straeon ydyn nhw Margot.

Margot

Straeon di cychwyn yn rwla dydyn?

Tad

I be sa nhw isio lladd a nhwtha'n gallu defnyddio pobol i weithio! Ma hynny'n sefyll i rewsm siwr.

Margot

Sbiwch be ma nhw di neud i ni'n barod!

Tad

Pan fyddwn ni'n rhydd a nol efo'n gilydd yn un teulu hapus mi gawn ni…

Margot

Ddechra ffraeo'n iawn fel oedda ni adra!

Tad

Dyna ma dy fam yn neud yli! Practisio at hynny!

Margot

Na i'm o'ch siomi chi.

Tad

Da'r Hogan.

Llais

Dydd Sadwrn, Chwefror 12 1944. Mae'r haul yn disgleirio, yr awyr yn las dwfn, mae na awel fendigedig ac rydw i'n dyheu- yn dyheu yn wirioneddol ─ am bopeth; sgwrs, rhyddid, ffrindiau, bod ar fy mhen fy hun. Rydw i'n dyheu… am gael crio. Rydw i'n teimlo fel pe bawn i ar fin ffrwydro. Mi wn byddai crio o help, ond alla i ddim. Rydw i mewn stad o ddryswch llwyr, heb wybod be i ddarllen, beth i'w ysgrifennu, beth i'w neud. Y cyfan wn i ydi fy mod i'n dyheu am rywbeth.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17