g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 9


TAD, ANNE a MARGOT yn gorfoleddu tra mae Peter yn dawedog.

Tad

Meddyliwch amdano fo'n gorwedd yn sbyty yn diawlio'i Swyddogion. 'Heil Hitler! Mistec bach oedd o chi Fuhrer! Doedd y bwled ddim i fod i'ch hitio chi!'

Margot

Siwr i fod o'n wallgo!

Tad

Y Fuhrer i hun!

Peter

Mae o dal yn fyw!

Anne

Ond o leia ma na rywun di trio'i ladd o!

Margot

A hwnnw'n Almaenwr!

Tad

Mi oeddan nhw siwr o weld trwy i gelwydda fo'n diwedd!

Margot

Mond criw bach gymrith hi i droi'r rhyfel ma ar ei ben!

Peter

Ma pobol dal i gredu ma Hitler sy'n iawn.

Anne

Ma hi di cymryd mwy na un person i ddod mor agos a hyn at i ladd o.

Margot

Be os fydd raid ni fynd nol i'r ysgol yn yr Hydref?

Anne

Fydd isio ffrogia a sgidia newydd!

Margot

A siaced newydd hefo felfet ar y goler!

Tad

Dwn i'm am hynny Margot!

Anne

Be nown ni am feics?

Peter

Anne!

Margot

Fydd y fflat dal yna i ni?

Tad

Agor y drws a mynd allan i'r awyr iach!

Anne

Gweld pawb eto!

Margot

Gorwedd mewn bath poeth!

Tad

Gawn ni barti i ddiolch i bawb am eu help!



Saib. Sylweddoliad fod yna bobol yn guddfan.

Anne

Dad?



Swyddogion SS yn dod i mewn i'r fflat a chludo pawb i ganolfan i'w creosholi. Y pedwar yn codi eu breichiau i ddangos nad ydynt am wrthwynebu'r arestio cyn gafael am ei gilydd yn dynn. Goleuo yn cryfhau yn sydyn a cherddoriaeth glasurol yn dwyshau tristwch y sefyllfa.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17