a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 3

GOLYGFA III.
Ystafell yn Nhŷ Polonius.

LAERTES ac OPHELIA yn myned i fewn.

Laertes
Mae pob peth angenrheidiol yn y llong;
Yn iach. Fy chwaer, gan fod y gwynt yn deg,
A bod nawddlongau wrth ein galwad ni,
Na huna ddim. Rho air yn fynych im'.

Ophelia
A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn?

Laertes
Am Hamlet, ac y modd dangosa 'i ffafr,
Cyfrifa 'r cwbl yn arfer, tegan mewn
Gwaedoliaeth; a millynen dlos o fewn
Ieuenctyd, natur yn ei blodau yw,
Awyddus, nid safadwy; mwyn, nid yn
Barhâus; arogledd, a chyflenwad am
Un funyd; ond dim mwy.

Ophelia
Dim mwy na hyn?

Laertes
Na wna ei dybied ef yn fwy, can's pan
Gynyddo natur, ni thyf yn unig mewn
Cyhyrau, ac mewn maint; ond fel y gwna
Y deml hon fyn'd ar gynydd, yna bydd
Gwasanaeth mewnol meddwl, enaid, yn
Cynyddu 'n fawr. Fe allai y câr ef chwi
Yn awr; ac weithiau nid oes unrhyw laid,
Na thwyll, yn aflunieiddio rhinwedd ei
Ewyllys; ond mae 'n gweddu i chwi ofni,
Pan ddwys ystyriwn, yna diau ceir
Nad yw'r ewyllys ddim yn eiddo'i hun;
Can's rhwym i'w enedigaeth ydyw ef:
Nas gall, fel dynion o iselach radd,
Ddim dewis drosto 'i hun; can's ar ei ddoeth
Ddewisiad y dibyna iechyd a
Diogelwch yr holl deyrnas; felly rhaid
I'w ddewis ynte'n ddarostyngol fod
I lais a thuedd teulu i yr hwn
Y mae yn ben; am hyny, os dywed ei
Fod yn eich caru chwi, mae 'n gweddu i'ch
Doethineb beidio 'i gredu, ond mor bell
Ag y gall ef o ran ei uchel le,
Wneud gair yn weithred, ond yn hyn nid aiff
Ddim pellach nag yr ä llais Denmarc.
Ystyriwch hyn, y golled fawr a fydd
I'ch urddas teg, os a hygoelus glust,
Gwrandewch ei gân, ac wed'yn golli eich
Holl galon; neu eich diwair drysor roi 'n
Agored i'w aflywodraethus nwyd.
Ophelia, ofnwch—ofnwch, f' anwyl chwaer,
Ymgedwch chwi tu cefn i'ch cynes serch
O olwg holl beryglon nwyd a'i saeth,
Mae 'r wyryf fwya' gwilgar yn dra ffol,
Os dadorchuddia ei thegwch ger y lloer;
Ni ddianc rhinwedd deg ei hunan rhag
Ymosodiadau enllib: y cancr wna
Ddirboeni 'n fynych, ieuanc blant y fron,
Cyn bod, yn aml, fotwm ar eu gwisg;
Ac yn moreuddydd, ac yn nhyner wlith
Ieuenctyd, mae deifiadau llygrus yn
Fygythiol i'r gradd eithaf. Yna bydd
Ochelgar: mae y diogelwch mawr
Mewn ofn yn gorwedd; canys mynych mae
Yr ieuanc yn milwrio âg ef ei hun,
Pryd na ddygwyddo arall fod gerllaw.

Ophelia
Myfi a gadwaf effaith dda dy wers,
Fel gwyliwr ar fy nghalon: ond, frawd da,
Na fydd fel rhai bugeiliad llwyr di-ras,
Yn dangos im' yr erwin, ddreiniog ffordd
I'r nefoedd; tra'n anlladwr gwag ei hun,
Y rhodia ar friallaidd lwybr gwyn,
Heb ddysgu gair o'i foesol wers ei hun.

Laertes
Nac ofna ddim. 'R wy 'n aros yn rhy hir;—
Ond wele yma mae fy nhad yn d'od.


Polonius yn dyfod i fewn.

Laertes
Mae bendith ddyblyg, yn ddauddyblyg ras;
Achosa wenau wrth ro'i ail ffarwel.

Polonius
Ai yma fyth, Laertes? Dos i'r llong,
I'r llong, rhag c'wilydd; canys mae y gwynt
Yn eistedd ar ysgwyddau 'ch hwyl, a gwneir
Am danat aros; bendith gyda thi;
(Yn gosod ei law ar ben LAERTES.)
A'r 'chydig eiriau hyn gwna yn dy gof
Eu hysgrifenu. I'th feddyliau di
Na ddyro iaith, ac hefyd paid a throi
Un meddwl cas i fod yn weithred byth.
Bydd yn gyfeillgar, nid yn isel chwaith.
Cyfeillion fyddo genyt, ag y gwneist
Eu cariad brofi, ymafael ynddyut wrth
Dy enaid gyda bachau dur, ond na
Ddiwyna'th law trwy roddi croesaw i
Bob 'deryn newydd-ddeor a di-blyf.
Ymochel rhag myn'd i ymryson; ond,
Os byddi mewn un, ymddwyn fel y bo
Dy wrthwynebydd yn dy ofni di.
Rho i bob un dy glust, dy lais i neb,
Derbynia gerydd pawb, ond cadw 'th farn.
Boed gwerth dy wisg, yn ol a bryno 'th bwrs,
Ond nid yn ol dychymyg; gwerthfawr, nid
Yn goeg; can's mynych dengys gwisg y dyn;
A hwy yn Ffrainc, o oreu ystad a gradd,
Ynt dra dewisol a godidog—yn
Hynyma, maent yn wir yn benaf dim.
Nac arfer echwyn, na ddod fenthyg chwaith;
Gwna'r benthyg [7] fynych golli ei hun a'r ffrynd,.
Ac echwyn byla fin cynildeb doeth.
Uwchlaw pob dim,—bydd ffyddlawn it' dy hun,
Dilynir hyn, fel nos yn dilyn dydd,
Nas gelli fod yn ffals i unrhyw ddyn.
Ffarwel! fy mendith wreiddio hyn o'th fewn.

Laertes
Tra gostyngedig y cymeraf fi;
Fy nghenad, f' arglwydd.

Polonius
Yr amser eilw, dos.
Mae 'th weision bellach yn dy ddysgwyl di.

Laertes
Ffarwel, Ophelia; cofiwch hyny 'n dda
A ddywedais gyneu.

Ophelia
Mae 'n glöedig yn fy nghof,
A chwi eich hun gaiff gadw ei allwedd ef.

Laertes
Ffarwel.


LAERTES yn ymadael.

Polonius
Pa beth, Ophelia, a ddwedodd wrthych chwi?

Ophelia
Os boddlawn genych, rhywbeth yn ynghylch
Fy arglwydd Hamlet.

Polonius
Pur feddylgar yw
Y peth, yn wir: dywedwyd wrthyf fi
Ei fod ef yn ddiweddar yn bur aml
Yn treulio amser gyda chwi; a'ch bod
O'ch clustwrandawiad yn dra rhydd a hael:
Os felly, (fel y d'wedir wrthyf fi,
Mewn ffordd o rybudd,) rhaid im' ddweud nad y'ch
Yn deall mo eich hunan yn rhy glir,
Fel gweddai i fy merch, a'ch henw da:
Pa beth sydd rhyngoch? rho'wch i mi y gwir.

Ophelia
Fe roes i mi, fy arglwydd, amryw o
Gynygion yn ddiweddar o ei serch.

Polonius
Serch? pw! siaradwch fel genethig ffol,
Ddibrofiad yn y fath amgylchiad dwys:
A y'ch chwi yn credu ei gynygion ef,
Fel gelwch hwynt?

Ophelia
Nis gwn, fy arglwydd, beth
I'w feddwl.

Polonius
Ha! felly 'n siwr! mi'ch dysgaf chwi:
Meddyliwch mai rhyw faban ydych, am
Ich' dderbyn y cynygion fel aur da,
A hwythau ddim yn fathol.. Wele gwnewch
Gynygiaw eich hunan dipyn yn fwy drud;
Ac onidê (heb dori gwynt 'r hen air,
Trwy im' ei gamddefnyddio ef fel hyn),
Chwychwi a wnewch gynygiaw, i mi ffŵl.

Ophelia
Fy arglwydd, fe ymbiliodd â myfi
Mewn cariad pur, ac anrhydeddus ddull.

Polonius
A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd.

Ophelia
Fy arglwydd, rho'dd i'w eiriau gadarnâd,
A holl santeiddiaf addunedau 'r nef.

Polonius
O ïe, maglau i ddal ceiliogod coed.
Gwn, pan fo'r gwaed yn boeth, mor barod yw
Yr enaid i roi addunedau i
Y tafod: am y ffaglau hyn, fy merch,
Sy 'n rhoddi mwy o oleu, nag o wres,—
Ac a ddiffoddant hyd yn nod yn yr
Addewid, cystal ag mewn gweithred,—ni
Wna 'r tro i chwi eu derbyn yn lle tân.
O'r adeg yma byddwch yn fwy prin
O'ch presenoldeb gwiw-wyryfaidd, a
Rho'wch bris fo uwch ar eich cwmnïaeth na
Dymuniad i ymgomio gyda'r gŵr.
Am f' arglwydd Hamlet, credwch yn ei gylch,
Hynyma, sel, Ei fod yn ieuanc, ac
Y gall ef rodio gyda thenyn hŵy
Nag â gewch chwi; yn fyn Ophelia, na
Ro'wch gred i un o'i addewidion ef:
Llateïon ydynt hwy, heb fod o'r fath.
Ddangosir gan eu gwisgiad, dim ond rhyw
Ymbilwyr drygiawn, am anniwair gais,
Anadlant ffug-adduned santaidd a
Duwiolaidd, fel y gallont dwyllo yn well.
Hynyma am y cwbl,—Ni fynwn i,
Mewn geiriau plaen, i chwi o'r amser hwn,
Warthruddo un hamddenol foment i
Roi un ymddyddan na chael geiriau â
Fy arglwydd Hamlet; gofalwch chwi am hyn,
'R wyf fi yn eich tyngedu; de'wch i ffordd.

Ophelia
Myfi a wnaf, fy arglwydd, ufuddâu.


Ill dau yn ymadael.

Notes

7 Loan,—Yr hyn a fenthycir. replay
a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2