a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 4

GOLYGFA IV
Yr Esgynlawr.

HAMLET, HORATIO, a MARCELLUS, yn myned yno.

Hamlet
Yr awyr fratha 'n dost; mae 'n erwin oer.

Horatio
Y mae y gwynt yn ddeifiol a thra llym.

Hamlet
Pa awr yw hi?

Horatio
Meddyliwyf fi;
Ei bod yn fyr o haner nos.

Marcellus
Na, mae wedi taro 'r awr.

Horatio
Yn wir? ni chlywais i, mae'n tynu at
Yr amser pan y gwna yr ysbryd dd'od
I rodio 'n ol ei arfer yn y lle.


Canu udgyrn a saethu magnelau oddifewn.

Horatio
Pa beth, fy arglwydd, ydyw ystyr hyn?

Hamlet
Mae'r brenin heno'n effro, ac y mae'n
Cymeryd llymaid llawen; meddw yw,
Y corach rhwysgfawr, ac yn dawnsio mae;
A phan yr yf ei lwnc o win y Rhine,
Mae 'r tabwrdd pres a'r udgorn croch fel hyn
Yn brefu allan werth ei yfair ef.

Horatio
A ydyw yn arferiad.

Hamlet
Yn wir, y mae:
Ond i fy meddwl i—er i mi fod
Yn enedigol yma, ac felly yn
Anedig i'r arferiad—arfer i
A berchir wrth ei thori 'n llawer mwy
Nag wrth ei chadw. Mae y gloddest tra
Pendrymaidd hwn yn dwyn i ni sarâd
A drygedliwiad gan genedloedd sydd
I'r dwyrain a'r gorllewin: galwant ni
Yn feddwon, ac âg ymadroddion tra
Mochynaidd gwnant, ddirmygu 'n cynydd ni;
A hyn yn ddïau a isela ein
Holl orchfygiadau, er mor uchel y'nt,
A grym a mêr ein priodoledd ni.
Efelly dygwydd gydag aml ddyn,
Rhai am ryw ddiffyg gafwyd yn y tro
Na all'sant wrtho (am nad oes gan ddyn
Un llais yn ffurfiad cynta 'i natur wan)
Trwy dyfiant math o duedd, dora 'n aml
Amgaerau a chastellydd rheswm pur.—
Trwy ryw arferiad, orlefeinia ffurf
Defodau mwyaf teg—y dynion hyn,—
Gan gario arnynt, meddaf, argraff rhyw
Un diffyg—nodwisg natur, seren ffawd,—
Eu holl rinweddau eraill yn mhob peth
(Boent hwy mor bur a gras, a'u meddu mewn
Cyflawnder mor ddiderfyn ag all gael),
A lygrir, gan y farn gyffredin, am
Yr un bai hwnw; gwna un gronyn o
Ddrygioni 'n fynych, weithio allan y
Rhagoraf nodwedd, er difrïad dyn.


Yr YSBRYD yn dyfod.

Horatio
Fy arglwydd, gwelwch, y mae ef yn d'od.

Hamlet
Angelion a holl weinidogion gras
A'n cadwo ni!—ai ysbryd iechyd wyt
Neu ellyll damniol? a wyt ti yn dwyn
I'th ganlyn rai o fwyn awelon nef
Neu ryw fflachiadau o'r diwaelod bwll,
A yw dy amcan yn ddrygionus ai
Carnaidd? ti a ddeui mewn fath ddull
Ymgomgar, [8] fel gwnaf siarad gyda thi;
Mi'th alwaf di yn Hamlet, brenin, tad,
Breninol Ddaniad. O! ateba fi:
Na âd i mi, ymdori ar fy nhraws
Mewn anwybodaeth! ond mynega im'
Paham mae 'th esgyrn cysegredig di,
A rwymwyd mewn marwolaeth, erbyn hyn
Yn tori 'u cŵyr-lïeiniau! A phaham
Mae 'r beddrod yn yr hwn y gwelsom di
Yn cael dy roi yn dawel yn dy fedd,
Yn agor ei rwth fynor-enau i -
Dy fwrw allan! Beth arwydda hyn,
Tydi, gorff marw, eto 'n arfog oll,
Yn ail ymweled â th'wyniadau 'r lloer,
Gan wneud y nos yn echrys; a nyni,
Ynfydion natur, gawn ein dychryn i'r
Fath raddau nes cael llwyr wanychu 'n ffydd,
A'n llenwi â dychmygion uwch ein bryd?
D'wed, p'odd mae hyn? paham? beth ddylem wneud?

Horatio
Amneidia i chwi fyned gydag ef,
Fel pe b'ai ganddo ryw ddadguddiad i'w
Fynegu ichwi, ar eich pen eich hun.

Marcellus
Edrychwch, â'r fath weithred foesog mae
Yn ceisio 'ch gwahodd i ryw arall le
Mwy neillduedig: nac ewch gydag ef.

Horatio
Na, peidiwch myn'd, ar gyfrif yn y byd.

Hamlet
Ni sieryd; felly gwnaf ei ddilyn ef,

Horatio
Na, peidiwch, arglwydd.

Hamlet
Pa'm, pa beth a raid
Ei ofni? nid wyf fi yn gosod pris
Fy mywyd, mwy na phin; am f' enaid, beth
A all ef wneud i hwnw ag sydd yn
Anfarwol fel ei hunan? y mae yn
Fy ngalw eto;—âf, dilynaf ef.

Horatio
Beth os arweinia chwi tuag at y llif,
Fy arglwydd, ynte i echryslawn ben
Y clogwyn â fargoda at y môr?
Ac yno wisgo rhyw ofnadwy ffurf,
A'ch difeddiano o lywodraeth ar
Eich reswm, nes eich hyrddio 'n gwbl i
Orphwyllder. F' arglwydd, O! ystyriwch hyn.
Mae 'r lle ei hun, yn rho'i dych'mygion o
Anobaith yn mhob menydd, heb ddim mwy,
Tra 'n edrych o'r fath uchder ar y môr,
A chlywed ei ruadau yn mhell i lawr.

Hamlet
Mae'n galw eto:— dos, dilynaf di.

Marcellus
Ni chewch fyn'd, f arglwydd..

Hamlet
Hwnt â'ch dwylaw oll.

Horatio
Cyngorer chwi, nis cewch ddim myn'd yn wir.

Hamlet
Mae'm tynged i yn galw i mi fyn'd,
Nes gwneud pob mânwythïen yn fy nghorff
Mor gryfion a gewynau dur y llew.


Yr YSBRYD yn galw.

Hamlet
Fe 'm gelwir eto; foneddigion, gwnewch
Fy ngollwng i:—
(Yn tori oddiwrthynt.)
Myn nef, gwnaf ysbryd o'r
Hwn wna fy rhwystro:—meddaf, ewch i ffordd:—
Yn mlaen yn awr, mi a'th ddilynaf di.


Yr YSBRYD a HAMLET yn ymadael.

Horatio
Mae 'n myn'd yn ffyrnyg, trwy ddychymyg certh.

Marcellus
Dilynwn; nid yw 'n weddus i ni 'n awr
Fel hyn i'w archiad ufuddâu.

Horatio
Canlynwn:—i ba ddiwedd y daw hyn?

Marcellus
Rhyw beth yn nheyrnas Denmarc, sydd yn bwdr.

Horatio
Y Nefoedd fawr a'i gesyd oll yn iawn.

Marcellus
Na, na, dilynwn ef.


Ill dau yn ymadael.

Notes

8 Saes., questionable. Er mai amheus yw ystyr cyffredin y gair, eto tybir mai ymgomgar neu o duedd ymddyddanol yw ei ystyr yma. replay
a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2