a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1, Golygfa 5

GOLYGFA V
Rhan fwy neillduedig o'r Esgynlawr.

Yr YSBRYD a HAMLET yn ailfyned yno.

Hamlet
Pa le y myni di fy arwain i?
Siarada; nid af fi yn mhellach gam.

Ysbryd
Clyw fi.

Hamlet
Mi wnaf.

Ysbryd
Fy awr sydd bron a d'od,
Pan orfydd im' ddychwelyd eto i
Yr ufel, a'r poenydiol fflamau tân.

Hamlet
O, druan ysbryd wyt!

Ysbryd
Na wag dosturia wrthyf, eithr rho
Wrandawiad tra difrifol i'r hyn sydd
I'w draethu genyf.

Hamlet
Siarad, ydwyf rwym
O wrandaw.

Ysbryd
Felly wyt i ddial pan
Y clywi.

Hamlet
Beth?

Ysbryd
Ysbryd dy dad wyf fi;
Ddedfrydwyd dros ryw hyd, i rodio 'r nos,
Ac, yn y dydd, rhwym i ymprydio wyf
Mewn eirias dan, nes i'r beïau anfad a
Gyflawnais i yn nyddiau 'm cnawd, oll gael
Eu llosgi a'u glanâu.
Gwaherddir fi ddadguddio pethau cudd
Fy ngharchar caeth, ac onide mi ro'wn
Fath hanes it, y gwnai'r ysgafnaf air
Ddyrwygo 'th enaid; rhewi 'th ieuanc waed,
A gwneud i'th lygaid neidio megys ser,
Dy rwym gudynau i ymddatod, ac
I bob gwalltflewyn sefyll ar dy en
Fel pluen-fonion ar y draenog hyll;
Ond ni cheir gwneud yr erch ddadguddiad hwn,
O'r bythol fyd, i glustiau cig a gwaed:—
Gwna wrando, gwrando, O gwrando! os erioed
Y ceraist ti dy anwyl dad,—

Hamlet
O'r nefoedd fawr!

Ysbryd
Diala 'r mwrddrad annaturiol ac
Erchyllaidd hwn.

Hamlet
Mwrddrad?

Ysbryd
Mwrddrad erchyll ar
Y goreu; hwn yn fwy echryslon fyth,
Dyeithrol, a thra annaturiol oedd.

Hamlet
Prysura, d'wed, fel gallwyf fyned ar
Chwim edyn myfyr, neu feddyliau serch
I ddial hyn.

Ysbryd
Mi wela 'th fod yn barod, ac yn wir
Mwy llwrf y byddet nag yw 'r tewion chwyn
Sy'n braenu 'n dawel ar lân Lethe draw
Pe na wneit symud gyda hyn! Yn awr,
Clyw, Hamlet; d'wedir, tra yr hunwn yn
Fy mherllan, i sarph fy ngholynu 'n llym;
Mae holl glust Denmarc felly yn cael cam, [9]
Trwy hanes gau am fy marwolaeth i:
Ond gwel! a gwybydd di, ardderchog lanc,
Y sarph golynodd fywyd d' anwyl dad,
A geir yn awr yn gwisgo 'i goron ef.

Hamlet
O fy mhrophwydol enaid! f' ewythr oedd?

Ysbryd
Ië, y bwystfil godinebus, ac
Ymlosgol hwnw, âg arabaidd swyn,
A rhoddion bradus (O arabedd tra
Drygionus! ac O roddion! feddent y
Galluoedd i hud-dwyllo i'r fath radd!)
Enillodd i'w drachwantau ewyllys fy
Mrenines dra rhinweddol, fel y gwnai
Ymddangos i fy ngolwg i fy hun;
O Hamlet, y fath godwm ydoedd hwn!
Oddiwrthyf fi, yr hwn â'm cariad oedd
O'r urddas hwnw, ag i fyn'd law yn llaw
A'r addunedau wnes wrth uno â hi;
A syrthio ar adyn gwael, nad ydoedd ei
Naturiol ddoniau ond tlawd i'r eiddof fi!
Ond rhinwedd, gan na fyn ei symud er
Ei charu hi gan anniweirdeb mewn
Ffurf nefol, felly chwant, er iddo gael,
Ei rwymo gydag angel claer, a wna
Foddloni 'i hunan mewn nefolaidd wely,
A hir ymborthi ar ysgarthion gwael.
Yn araf! tebyg ydyw hyn i sawr
Y bore wynt, rhaid im' fod yn fyr:—
Tra'n cysgu yn fy mherllan, f' arfer oedd
Ar bob prydnawn, ar fy niogel awr
Fe ddaeth dy ewythr mewn lladradaidd fodd,
A sudd y melldigedig bela [10] mewn
Costrelan fach, ac yna i ddorau 'm clust
Tywalltodd y distylliad mallus; hwnw sydd
A'i effaith mor elynol i waed dyn,
Fel, â chyflymdra arian byw, rhed trwy
Naturiol ddorau a rhodfeydd y corff;
A chyda dirfawr frys yn ebrwydd y
Posela ac y cawsia, fel y gwna
Defnyna egr droi y llaeth, y teneu a'r
Iachusol waed: efelly gwnaeth i mi,
Ac yn y man daeth clafr i godi mewn
Modd gwahanglwyfus, gyda drewllyd gên
Tra ffiaidd, tros fy llyfnaidd gorff i gyd.
Fel hyn bu i mi, yn cysgu, trwy law brawd,
O fywyd, coron, a brenines gall,
Ar unwaith fy nifuddio; a'm tori i lawr
Yn mlodau 'm pechod, heb gymuno, heb
Ymbarotoi, na derbyn cyn fy nhranc
Eneiniad olaf, heb gael ystyried dim,—
Fy ngyru ge's i'm cyfrif olaf â
Fy holl anmherffeithderau ar fy mhen:
O! erchyll! erchyll! tra erchyllaidd! Os
Oes natur ynot ti, na oddefa hyn;
Na oddef i deyrnwely Denmarc fod
Yn lwth trythyllwch, gyda llosgach drwg.
Ond pa fodd bynag äi trwy 'r weithred hon,
Na lygra'th feddwl, na âd i'th enaid wneud
Dim cynllun oll, yn erbyn dy hoff fam;
Gad hi i'r nefoedd, ac i'r drain sydd yn
Lletŷa yn ei bron, i'w phigo a'i
Cholynu hi. Ffarwel ar unwaith it'!
Mae 'r fagïen yn dangos nesrwydd gwawr,
A llwydo mae ei aneffeithiol dân:
Ffarwel, ffarwel, ffarwel! O cofia fi!
(Yn ymadael.)

Hamlet
O chwi, holl luoedd nef! O ddaear! A
Pheth arall? Gaf fi gyplu uffern ddofn?—
O ffei!—Dal, dal, fy nghalon, a chywchwi,
Fy holl ewynau, peidiwch myn'd yn hen
Mewn munyd, deliwch fi i fyny 'n gryf!
Dy gofio di? Gwnaf, ysbryd truan, tra
Y dalio cof eisteddle oddifewn
I'r belen wallgof hon. [11] Dy gofio di?
Gwnaf; canys oddiar lech fy nghof yn awr
Y sychaf ymaith bob cofnodion hoff,
Pob llyfr-ymadrodd, pob rhyw ffurfiau, a
Blaenorol argraffiadau gawsant eu
Copïo yno; a'th orchymyn di
Gaiff fyw o fewn i lyfr a chyfrol fy
Ymenydd, heb gymysgu â gwaelach beth:
Caiff, myn y Nef! O dra drygionus wraig!
O ti ddyhiryn! O ddyhiryn! O!
Tydi ddamniedig a gwenieithus ddyn!
"Fy nghoflyfr,"— gweddus yw ei roi i lawr,
Y gall un wenu, gwenu, a bod 'run pryd
Yn ellyll llwyr, o leiaf, sicr wyf
Y gall fod felly yn Denmarc.
(Yn ysgrifenu.)
Efelly, f' ewythr, dyna chwi. 'N awr at fy ngair;
Hyn yw,—Ffarwel, ffarwel! O cofia fi!
Myfi a'i tyngais.

Horatio
(Oddifewn.)
Fy arglwydd, fy arglwydd,—

Marcellus
(Oddifewn.)
Fy arglwydd Hamlet,—

Horatio
(Oddifewn.)
Y Nef a'i amddiffyno!

Marcellus
(Oddifewn.)
Felly bo!

Horatio
(Oddifewn.)
Holo, ho, ho, fy arglwydd!

Hamlet
Holo, ho,
Ho, lanc! de'wch, de'wch, aderyn, de'wch. [12]


HORATIO a MARCELLUS yn dyfod ato.

Marcellus
Ardderchog arglwydd, sut yr ydych chwi?

Horatio
Pa newydd, f' arglwydd?

Hamlet
O rhyfeddol iawn!

Horatio
Fy arglwydd da, mynegwch ef.

Hamlet
Na, na;
Chwi a'i dadguddiwch.

Horatio
Yn enw 'r Nef, ni wnaf.
Fy arglwydd da.

Marcellus
Na minau, f' arglwydd, chwaith.

Hamlet
Pa fodd, atolwg, y dywedwch chwi?
A goeliai calon dyn, y peth ofnadwy?
Ond—mi gedwch oll yn gudd?—

Horatio, Marcellus
Gwnawn, f' arglwydd, myn y nef, mi wnawn.

Hamlet
Nid oes ddyhiryn o fewn Denmarc oll,
Nad ydyw yn garn cnaf.

Horatio
Nid ydoedd raid.
I ysbryd godi f' arglwydd, o ei fedd,
I dd'wedyd hyn.

Hamlet
Pur iawn; yr y'ch yn iawn;
Ac felly, heb amgylchu eto fwy,
Yr wyf yn cyfrif mai peth gweddaidd yw
I'n ysgwyd dwylaw, ac ymadael; chwi
Fel y gwna eich gorchwylion, neu yntê
Eich dymuniadau 'ch troi—mae gan bob dyn
Ryw orchwyl a dymuniad, o'r fath yw,—
Ac o fy rhan fy hunan, gwelwch, âf—
Atolwg.

Horatio
Rhyw eiriau gwylltion digysylltiad yw
Y rhai 'n, fy arglwydd.

Hamlet
Gofidus wyf
O ddyfnder calon bur, eu bod yn dramgwydd;
O'm calon gwir ofidus wyf.

Horatio
Nid oes,
Fy arglwydd, ynddynt unrhyw dramgwydd.

Hamlet
Oes y mae,
Myn Padrig Sant, Horatio, tramgwydd mawr.
Yn nghylch y weledigaeth hon, y mae
Yn ysbryd gonest iawn, gwybyddwch hyn;
Am eich dymuniad i gael gwybod beth
Fu rhyngom ni, meistrolwch hwnw, fel
Y mynoch. Ac yn awr, gyfeillion da,
Cyfeillion. ysgoleigion, milwyr y'ch,
Ac fel y cyfryw caniatewch i mi
Gael un dymuniad bach.

Horatio
Beth yw,
Fy arglwydd, gwnawn.

Hamlet
Na wneloch byth
Yn hysbys beth a welsoch y nos hon.

Horatio, Marcellus
Fy arglwydd, byth nis gwnawn.

Hamlet
Na; ond tyngwch hyn.

Horatio
Yn wir, fy arglwydd, nis
Gwnaf fi.

Marcellus
Na minau, f' arglwydd, chwaith, yn wir.

Hamlet
Ar fy ngeledd.

Marcellus
'Tyngasom hyn,
Fy arglwydd.

Hamlet
Yn wir, ac ar fy nghledd,
Yn wir.

Ysbryd
(Odditanodd.)
Tyngwch.

Hamlet
Ha, ha. 'rhen fachgen! a
Ddywedi dithau felly? a wyt ti
Fan yna, gywir un? De'wch, de'wch,—chwychwi
A glywch hwnyna yn y seler,—de'wch
Gydsyniwch dyngu.

Horatio
Cynygiwch ffurf y llw,
Fy arglwydd.

Hamlet
Na wnewch byth son yn nghylch
Yr hyn a welsoch, tyngwch wrth fy nghledd.

Ysbryd
(Odditanodd.)
Tyngwch.

Hamlet
Hic et ubique? [13] — Am hyny, bydded i'n
Yn wir, ac ar fy nghledd,
I newid tir:—De'wch chwi yn mlaen hyd i'r
Fan yma, foneddigion, a gwnewch ro'i
Eich dwylaw wrth fy nghleddyf, tyngwch wrth
Fy nghledd, na wneloch yngan gair yn nghylch
Yr hyn a glywsoch yma, y pryd hwn.

Ysbryd
(Odditanodd.)
Tyngwch wrth ei gledd.

Hamlet
Da d'wedaist ti, hen dwrch! A elli di
Mor gyflym weithio yn y ddaear? Hen
Ragredegydd teilwng yw! eto gwnawn
Ymsymud unwaith, fy nghyfeillion da.

Horatio
O ddydd a nos! mae hyn yn ddyeithr iawn!

Hamlet
Ac felly fel dyeithrbeth dyro di
Groesawiad iddo. Y mae, Horatio, fwy
O bethau yn y nef a'r ddaear hon
Nag a freuddwydiodd eich hathroniaeth chwi.
Ond de'wch;—
Ac eto yma, fel o'r blaen, byth, byth—
Trugaredd rad a'ch cynorthwyo chwi!
Pa mor ddyeithr ac ôd bynag yr
Wyf fi yn ymddwyn, ac y gwelaf raid
I mi ymddangos mewn munudiol fodd
Rhyw amser pwysig eto sydd o'm blaen,
Ar y fath amser, na foed i chwi byth,
A breichiau llwythog wneud fel hyn, a'r llall,
Neu benysgydwad doeth, o'r fath a'r fath,
Neu trwy ro'i allan ymadroddion mwys—
Fel hyn, Wel, wel, fe wyddom ni;—neu, Ni a allem, a phe mynem;
Neu, Pe mynem ni siarad;—neu, Y mae, a phe gallent;—
Neu siarad dwbl ystyr o'r fath hyn;
I ddangos dim cy'byddiaeth â myfi:—
Hyn dyngwch chwi! a boed i fythol ras
A hael drugaredd, ro'i pob cymhorth i'ch.

Ysbryd
(Odditanodd.)
Tyngwch!

Hamlet
Wel, gorphwys, gorphwys bellach O tydi,
Derfysglyd ysbryd! Foneddigion, â'm
Holl gariad y cyflwynaf fi fy hun;
I chwi, a'r hyn all tlawd fel Hamlet, wneud
I ddangos cariad a chyfeillach wir,
Mewn dim ni phallaf, os fy Nuw a'i myn.
Gadewch i ni gydfyn'd i fewn, a chwi
A'ch bysedd ar eich gwefus, erfyn wyf.
Y mae yr amser yn annhrefnus; O
Ddygasedd melldigedig! I mi gael
Fy ngeni 'rioed i ddwyn y peth i drefn!
Na, deuwch, awn ein tri yn nghyd.


Oll yn ymadael.

Notes

9 Trwy orfod gwrando ar eudeb. replay
10 Hebenon, neu henbane, a elwir hefyd parfyg, llewyg yr ias, ffon y bugail, crys y brenin, a ffa y moch. replay
11 Ei ben. replay
12 Ymadrodd a ddefnyddid gan hebogwyr wrth alw eu hebog i lawr o'r awyr. replay
13 Yma a phobman. replay
a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2