a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 2, Golygfa 1

CHWARYDDIAETH II
GOLYGFA I
Ystafell yn Nhŷ Polonius.

POLONIUS a REYNALDO yn myned i fewn.

Polonius
Rho'wch iddo 'r arian a'r llythyrau hyn,
Reynaldo.

Reynaldo
Mi wnaf, fy arglwydd.

Polonius
Chwi wnaech
Yn hynod ddoeth, Reynaldo, cyn ei wel'd,
I holi am ei ddull.

Reynaldo
F' arglwydd, mi
Fwriedais hyny.

Polonius
Yn wir, da yr y'ch
Yn d'wedyd: pur dda dywedwch chwi.
Edrychwch, syr, ymholwch gyntaf oll
Pa Ddaniaid sydd yn Paris; a pha ddull
A phwy, pa foddion, p' le y maent yn byw,
Pa gwmni, a pheth yw eu treulion; a
Chan gael, trwy 'r pethau amgylchynog hyn,
Eu bod mewn cydnabyddiaeth â fy mab,—
De'wch felly yn agosach nag y gwna
Eich neges benaf oddef, i chwi dd'od.
Gwnewch ffugio, megys, ryw wybodaeth bell
Am dano, megys, |Adwaen i ei dad,
Ei berthynasau, ac ei hun mewn rhan|;—
A ydych chwi, Reynaldo, 'n gweled hyn?

Reynaldo
Pur dda, fy arglwydd, ac efelly gwnaf.

Polonius
"Ac ef mewn rhan;"— ond, chwi a ellwch ddweud,
Ond os yw ef yr un a dybiaf fi,
Mae'n hynod wyllt, a gwna fel hyn a'r llall;—
A rhoddwch arno y fath ffugion ag
A fynoch, ond er hyny, dim mor ddrwg
Ac i'w anmharchu;—hyn gochelwch chwi;
Awgrymwch, syr, y fath lithriadau ffol,
Masweddol, ac arferol i ieuenctyd a
Phenrhyddid.

Reynaldo
Fel hapchwareu, f' arglwydd?

Polonius
Ië,
Neu yfed, ymgleddyfu, tyngu, neu
Gweryla, neu ymlochi â phuteiniaid, hyd
Hynyna gellwch fyn'd.

Reynaldo
Fy arglwydd, gwnai
Hyn ei ddianrhydeddu.

Polonius
Na wnai'n wir:
Chwi ellwch ei dymheru pan yn gwneud
Y cyhuddiadau. Ni raid i chwi ro'i
Difrïad arall arno, nac ei fod
Yn arfer anniweirdeb; hyn nid yw
Fr meddwl: ond anedlwch chwi ei fai
Mor goeg, ag yr ymddengys pob rhyw beth
Yn fwy fel rhyddid gwyllt, ac megys fflam
Neu doriad allan meddwl llawn o dân;
Gwylltineb gwaed heb gael ei ddofi âg
Ymruthrad cyffredinol.

Reynaldo
Ond, arglwydd da,—

Polonius
Paham y gwnelech hyn?

Reynaldo
Ië, f' arglwydd, mi
Ddymunwn wybod hyny.

Polonius
Yn wir, syr,
Dyma 'm hamcan; a gwir gredu 'r wyf ei fod
Yn dwyll a gyfiawneir; chwychwi yn rho'i
Y brychau ysgeifn hyny ar fy mab,
Fel peth a fo'n llychwino yn eí waith.
Ac hefyd manwl sylwch ar y gŵr
Yr hwn a fynech blymio, welodd ef
Y llanc a nodwch yn y beiau hyn?
Ac os yn euog, sicr y gellwch fod
Y cewch eich hanerch yn y geiriau hyn, —
Wych syr, neu gyfaill, neu foneddwr gwiw,
Fd yr arferir d'weud nen odid â
Gŵr da, neu ynte, fy nghydwladwr gwych.

Reynaldo
Pur dda, fy arglwydd.

Polonius

Ac yna, syr, efe a wna hyn,— Efe a wna.— Beth yr oeddwn yn myned i'w ddweud? Myn yr offeren, yr oeddwn yn myned i ddweud rhywbeth. Ymha le y gadewais?

Reynaldo
Yn Eich hanerch yn y geiriau hyn.

Polonius
Eich hanerch yn y geiriau hyn,—Ië 'n siŵr;
Anercha chwi fel hyn ,— Mi adwaen y
Boneddwr, doe neu echdoe gwelais ef,
Neu'r pryd a'r pryd, neu'r amser hwn neu'r llall,
A chyda hwn a hwn a'r lle a'r lle;
Hapchwareu 'r oedd; neu yn y fan a'r fan
Yn feddw fawr; neu yn ymgecru yn nghylch
Y tennis; neu, fel dichon fod, myfi
A'i gwelais ef yn myn'd i dŷ amheus
(Hyn ydyw putein-dŷ), neu felly ymlaen.
A welwch chwi yn awr; mae 'ch abwyd ffug
Yn gwisgo nodwedd yr abwydyn gwir.
Fel hyn trwy gynllwyn a doethineb dwfn,
A dyrwynlathau, [14] ac â phrofion [15] gŵyr,
Unochrog, trwy anuniongyrchedd cawn
Yr uniongyrchol allan; felly, trwy
Fy araeth i a'm cyngor hwn a gewch
Fy mab i'r goleu: 'n awr yr ydych yn
Fy neall, onid ydych?

Reynaldo
Yr wyf, fy arglwydd.

Polonius
Duw fyddo gyda chwi, a byddwch wych.

Reynaldo
Da, fy arglwydd.

Polonius
A chofiwch sylwi ar
Ei dueddiadau drosoch chwi eich hun.

Reynaldo
Mi wnaf, fy arglwydd.

Polonius
A bydded iddo ef ei hun
I ffurfio 'r miwsic [16] gyda geiriau 'r gân.

Reynaldo
O'r goreu, f' arglwydd.


Yn ymadael.
OPHELIA yn dyfod i fewn.

Polonius
Dydd da!—pa fodd y mae Opheli»? beth
Yw 'r mater?

Ophelia
O, fy arglwydd, f' arglwydd, mi
A ge's fy nychrynu 'n fawr.

Polonius
A pha beth,
Yn enw'r nef?

Ophelia
Fy arglwydd, pan yr o'wn
Yn pwytho yn f' ystafell i fy hun,
F' arglwydd Hamlet, gyda'i wasgawd oll
Heb gael ei chau; heb het i guddio 'i ben;
Hosanau 'n fudron, heb ardysau, ac
Yn hongian fel cadwyni hyd ei ffêr;
Yn welw fel ei grys; ei liniau ef
Yn crynu yn nghyd; a chyda golwg mor
Druenus yn ei ystyr, a phe b'ai
Ef newydd d'od o uffern drist ei hun,
I ddweud ei dychrynfeydd, fe ddaeth o'm blaen.

Polonius
Yn ynfyd am dy serch?

Ophelia
Fy arglwydd, nis gwn i; ond wele, yn wir,
Yr wyf yn ofni hyn.

Polonius
Pa beth a dd'wedodd ef?

Ophelia
Gafaelodd yn fy ngarddwrn; daliodd fi
Yn galed; yna tynodd hŷd ei fraich
Yn ôl, a chyda ei law arall ef
Fel hyn uwchlaw ei ael, edrychai â
Y fath fanylrwydd i fy wyneb, fel
Pe buasai 'n meddwl ei arlunio. Hir
Arosodd felly; ac o'r diwedd âg
Ysgydwad ysgafn ar fy mraich, yn nghyd
A theirgwaith chwyfio i fyny ac i lawr
Ei ben,—fe ro'dd ochenaid oedd mor ddofn
A thruan, ag yr ymddangosai fel
Yn barod i deilchioni ei holl gorff,
A gorphen ei fodolaeth; wedi hyn
Gollyngodd fi; ac â'i ben wedi ei droi
Ar ei naill ysgwydd, ymddangosai fel
Yn gallu heb ei lygaid fyn'd i'w ffordd;
Aeth heb ddim cymhorth ganddynt drwy y drws,
Ac, hyd y diwedd, syllai arnaf fi.

Polonius
Tyrd gyda mi; myfi a geisiaf wel'd
Y brenin; dyma wir berlewyg serch;
Yr hwn y mae ei duedd ffyrnig ef
Yn llwyr ddyfetha ei hun; gan arwain yr
Ewyllys i'r eithafion mwyaf erch,
Mor fynych ag un nwyd o dan y nef,
A flina 'n natur ni. Drwg genyf hyn,—
Pa beth, a roisoch iddo eiriau cas,
Ei fod yn ymddwyn atoch chwi fel hyn?

Ophelia
Na ddo, fy arglwydd da, ond fel y gwnaech
Orchymyn, felly y gwrthodais ei
Lythyrau, gyda pheidio 'i dderbyn ef.

Polonius
Hynyna a'r gwnaeth yn ynfyd. Drwg yn wir
Yw genyf fi, na wnaethom â gwell pwyll
A barn, ei ddeall ef, ond ofni wnes
Nad oodd ond chwareu, ac yn meddwl dy
Andwyo; ond, rheg i'm drwgdybiaeth! mae 'n
Ymddangos ei fod mor dueddol i'm hoed ni,
I fyned yn ein tybiau yn rhy bell,
Ag yw 'n gyffredin i ieuengaidd rai
I fod heb bwyll. Tyr'd, ni a gerddwn at
Y brenin, rhaid hysbysu hyn; can's os
Ei gelu wnawn, gall beri mwy o ddrwg
Nac yw y casedd o amlygu serch.
Tyred.


Ill dau yn ymadael.

Notes

14 Hyny yw, fel y mae y dyst yn foddlon i godi pethau i fyny o'r pwll, felly y mae arfer geiriau, yn ol fel y cyngora Polonius, yn effeithiol i gael y gwirionedd i'r golwg. replay
15 ASSAY.— Profi fel y profir meteloedd ; a gwyredd neu unochrogedd yw yr hyn a arferir yma i'r pwrpas o brofì Laertes. replay
16 Hyny yw, caffed ddilyn ei arferion fel ar brydiau eraill, heb ei rwystro, ac felly beri iddo wisgo cymeriad gwell nag arfer am y pryd. replay
a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2