a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2

Hamlet, Tywysog Denmarc (1864)

William Shakespeare
cyf. David Griffiths

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 2, Golygfa 2

GOLYGFA lI
Ystafell yn y Castell

Y BRENIN, y FRENINES, ROSENCRANTZ, GUILDENSTERN, a Gweinyddion, yn myned i fewn.

Brenin
Croesaw, gu Rosencrantz a Guildenstern!
Bu'm yn hiraethu am eich gwel'd yn hir.
'Roedd pwys y gwaith oedd genyf i chwi wneud
Yn peri imi anfon gyda brys.
Chwi glywsoch am drawsffurfiad Hamlet, gwn:
Efelly galwaf fi ef; gan nad yw
Nac yr allanol nac y mewnol ddyn
Yn debyg i'r hyn fyddai: pa beth yw
Yn amgen na marwolaeth brudd ei dad,
A barodd ei arweiniaw ef mor bell
O ddealltwriaeth iawn am dano ei hun,
Nis gallaf fi freuddwydio: erfyn 'r wyf
I chwi eich dau, yn gymaint ag eich bod
O ddyddiau mor ieuengaidd wedi eich dwyn
I fyny gydag ef; ac hefyd, gan eich bod
Mor gydnabyddus â'i ieuenctyd a'i
Dymherau ef,—fod i chwi orphwys am
Beth amser yn ein llys; fel galloch chwi
Trwy gwmni ei hudo i bleserau; ac
I gasglu hyd y byddo yn gyfleus,
A oes un dim, nas gwyddom ni, yn ei
Dristâu fel hyn, yr hyn pe 'i gwyddid sydd
Yn gorphwys yn ein gallu i'w wellâu.

Brenines
Foneddion da, siaradodd lawer iawn
Am danoch chwi; a sicr wyf nad oes
Dau ddyn yn fyw y glyna wrthynt fwy.
Os boddia chwi i ddangos atom ni,
Y fath foneddrwydd ac ewyllys da,
Fel ag i dreulio 'ch hamser gyda ni
Am enyd, er cyfnerthiad, ac er budd
I'n gobaith, ac am eich hymweliad caiff
Fath ddiolchgarwch ag a weddai i
Gof brenin.

Rosencrantz
Gallasai eich mawrhydi, eich dau,
Trwy yr awdurdod goruchelaidd a
Feddienwch arnom ni, amlygu eich
Hewyllys chwi 'n fwy mewn gorchymyn nag
Mewn ymbil.

Guildenstern
Ond ufuddâwn ill dau,
A rhown ein hunain yma i fyny 'n llwyr,
Hyd eitha 'n gallu i roi 'n gwasanaeth rhwydd,
Y rhai'n awyddus roddwn wrth eich traed,
Gorchmynwch ni.

Brenin
Ein diolch, Rosencrantz, gu Guildenstern.

Brenines
Ein diolch, Guildenstern, gu Rosencrantz,
Ac erfyn ydwyf arnoch i ymwel'd
Yn union â fy rhy-newidiol fab —
Ewch, rai o honoch, ac arweiniwch hwynt
I'r lle mae Hamlet.

Guildenstern
Nef wnelo fod ein presenoldeb a'n
Ymdrechion ni, yn profi, ac yn troi
Yn gysur ac yn gymhorth iddo ef.

Brenines
Amen! felly boed!


ROSENCRANTZ, GUILDENSTERN, a rhai Gweinyddion yn ymadael.
POLONIUS yn dyfod i fewn.

Polonius
Mae 'n negesyddion ni, fy arglwydd da,
O Norway 'n llawen, wedi d'od yn ôl.

Brenin
Ti fuost eto 'n dad newyddion da.

Polonius
A fum i, f' arglwydd? 'R wyf yn sicrâu
I chwi, benadur da, fy mod i yn
Dal fy nyledswydd, fel y daliaf fi
Fy enaid, sef i'm Duw a'm grasol deyrn;
A meddwl 'rwyf (os nad yw 'r menydd hwn
Yn dilyn ôl achosion mor ddiffael;
Ag yr arferai) fy mod wedi cael
Yr achos o orphwyllder Hamlet y pryd hwn.

Brenin
O adrodd hyny; 'rwy 'n awyddus iawn
Am glywed.

Polonius
Rhoddwch chwi yn gyntaf oll
Dderbyniad i'r cenadau; a'm newydd i
Gaiff fod yn ffrwyth [17] ar ol eu gorwledd hwynt

Brenin
Dos i'w moesgyfarch, dwg y ddau i fewn.


POLONIUS yn myned allan.

Brenin
Fe ddywed, anwyl Gertrude, iddo ef
Ddarganfod pen a ffynon holl an-hwyl
Eich mab.

Brenines
Yr wyf yn amheu; nid yw 'n ddim
Ond marw'i dad; a chyda hyny ein
Priodas fyrbwyll ni.


POLONIUS yn ailddyfod i fewn, gyda VOLTIMAND a CORNELIUS.

Brenin
Wel, ni a'i chwiliwn ef. Mawr groesaw i chwi,
Gyfeillion da! mynega, Voltimand,
Pa air oddiwrth ein brawd o Norway?

Voltimand
Mae'n
Dychwelyd yn bur deg eich hanerch chwi
A'ch dymuniadau. Gyrodd gyntaf peth,
Pan gyrhaeddasom ni, i atal gwaith
Ei nai yn gosod trethi; y rhai wnaent
Ymddangos iddo ef fel darpar at
Ymosod ar y Polack; ond ar ol
Ymchwiliad gwell, fe gafodd allan mai
Yn erbyn eich huchelder chwi yr oedd,
O achos hyn gofidiwyd ef,—am fod
Ei nai yn cym'ryd mantais ar
Ei oed, ei glefyd, a'i anellu, er
Ei dwyllo, ac anfonodd ef ei wys
I ddala Fortinbras; yr hon, ar fyr,
A ufuddäodd; yna derbyn wnaeth
Geryddiad oddiwrth Norway; ac efe
O'r diwedd addunedai o flaen ei ewythr,
Na wnai ef godi byth o hyny arf
Yn erbyn eich mawrhydi. Oherwydd hyn,
Hen Norway, wedi ei orchfygu gan
Ei fawr lawenydd, rhoddodd deirmil o
Goronau, fel ei flwydd-dâl ef, yn nghyd
A chenad i ddefnyddio 'r milwyr oll
Godasai ef yn erbyn gwlad y Pwyl,
Gan ddeisyf arnoch, fel dangosa hwn.—
(Yn rhoddi papyr iddo.)
Foddloni rhoi mynediad tawel trwy
Eich tiriogaethau, ar yr antur hon:
Ar yr amodau o ddiogelwch, ac
O ganiatâd, a nodir yna i lawr.

Brenin
Boddlona ni yn dda,
A phan y cawn gyfaddas amser, ni
Ddarllenwn, ac atebwn, yn ei bryd,
Ar ol rhoi dwys ystyriaeth idd y peth.
Yn y cyfamser, diolch wnawn i chwi
Am wneud eich gwaith mor brydlon ac mor dda.
Ewch i'ch gorphwysfa; heno ni a wnawn
Gydwledda: croesaw calon i chwi 'n ol.


VOLTIMAND a CORNELIUS yn ymadael.

Polonius
Y gorchwyl hwn ga'dd ei ddiweddu 'n dda.
Benadur, a rhïanes, byddai myn'd
I ymresymu beth a ddylai fod
Breniniaeth, beth yw dyledswyddau, pa'm
Mae dydd yn ddydd, a nos yn nos, ac amser
Yn amser yn gwastraffu nos, a dydd,
Ac amser. Felly, gan mai byrder yw
Enaid arabedd, nid yw meithder ond
Cangenau ac allanol wisg,—myfi
A fyddaf fyr: eich mab ardderchog sydd
Orphwyllog: ïe gorphwyllog galwaf ef;
Can's i egluro gwir orphwylledd, beth
Yw hyny yn amgenach na bod yn
Orphwyllog; ond gadawn i hyny fod.

Brenines
Rhowch fwy o sylwedd, gyda llai o gelf.

Polonius
Fy rhïan, tyngaf nad wy 'n arfer dim
Celfyddyd; ei fod yn ynfyd sydd
Yn wir, mae 'n wir, a gwir gresynus yw,
A gwir resynus yw ei fod yn wir.
Mae hwn yn ffigur ffol; Ffarwel, dim twyll.
Ei fod yn ynfyd, ynte, caniatâwn;
Yn awr, mae 'n aros i ni allan gael
Yr achos gwir, i'r effaith [18] hynod hwn,
Neu'n hytrach, d'wedwch chwi, yr achos o
Y diffyg [18] hwn; can's mae yr effaith, gan
Ei fod yn ddiffyg, wedi tarddu o ryw
Wir achos: dyma fel yr erys, a
Hyn ydyw 'r gweddill.
Ystyriwch hyn yn ddwys:
Mae genyf ferch; mae genyf, tra y bo
Yn eiddof fi; yr hon, o'i dyled a'i
Hufudd-dod, sylwch, roddodd i mi hwn:
Yn awr gwnewch gasglu a dyfalu 'n deg.
At y nefolaidd, ac eilun fy enaid, y brydferthedig Ophelia,
Dyna ymadrodd drwg, ymadrodd gwael; prydferthedig sydd ymadrodd gwael; ond chwi gewch glywed:— Fel hyn, — |Yn ei godidog fynwes wên, y pethau hyn, etc

Brenines
A ddaeth hyn oddiwrth Hamlet ati hi?

Polonius
Aroswch beth, fy rhïan; byddaf fi
Yn gywir.
(Yn darllen.)
Amau fod y ser yn dân,
Amau dori'r wylaidd wawr,
Amau'r gwir, fel celwydd glân,
Byth nac amau 'm cariad mawr.
O Ophelia anwyl! yr wyf yn syfrdanllyd gyda'r penillton hyn; nid oes genyf fedr i gyfrif fy ocheneidiau; ond fy mod yn dy garu yn oreu, O yn dra goreu, cred. Ffarwel. Yr eiddot am byth, foneddiges dra anwyl, tra y mae y peiriant hwn yn eiddo, HAMLET.
Hyn, mewn ufudd-dod, ddarfu i fy merch
Ei ddangos imi, a llawer mwy na hyn;
Bu i'w ymbiliau, fel y delent hwy
I'r golwg trwy amserau, moddion, lle,
Cyn hyn, fel ffrwd ymdywallt i fy nghlust.

Brenin
Ond sut dderbyniad roddodd hi i'w serch?

Polonius
Pa fodd meddyliwch chwi am danaf fi?

Brenin
Fel ffyddlawn a thra anrhydeddus ddyn.

Polonius
Mi fynwn felly fod. Er hyn pa beth
Feddyliech, pan y gwelais i 'r serch twymn
Ar chwim adenydd (fel y gwelais i
Cyn i mi gael ei glywed gan fy merch;
Mae 'n hollol iawn, hysbysu hyn i chwi), —
Beth feddyliasech chwi, neu ynte ei
Mawrhydi y frenines anwyl, pe
Buaswn i, yn chwareu yna yr
Ysgrifgist neu y tabl-lyfr; [19] neu roi
Fy nghalon ar lawn waith, yn fud, ddi-glyw;
Neu wel'd â golwg swrth y cariad hwn;—
Beth feddyliasech? Na, fe aethum i
Ar fyr i'r gwaith, ac â'r feistresan fach,
Ieuengaidd, y siaredais i fel hyn,—
"Mae arglwydd Hamlet yn dywysog, sydd
O radd uwchlaw dy gylch; ni chaiff hyn fod:"
Ac yna rhois orchmynion iddi hi,
Am gloi ei hun, rhag iddo dd'od i'w gwydd,
Heb dderbyn un negesydd, nac ychwaith
Anrhegion. Hyn, pan roddais iddi, a
Gymerodd ffrwyth fy nghyngor; ynteu wrth
Wel'd gael ei wrthod (i wneud 'stori fêr),
A syrthodd gyntaf oll i dristwch; yna i
Ymprydio; ac i wylio; wedi hyn
I wendid; wed'yn i ysgafnder gwag;
A thrwy y treigliad hwn, fe gwympodd i'r
Gorphwylledd yn yr hwn y mae yn awr,
A'r hwn o'i herwydd y galarwn ni.

Brenin
A dybiwch chwi mai hyny yw?

Brenines
Gall fod, mae yn bur debyg.

Polonius
A fu rhyw dro
(Dymunwn wybod hyn) pan dd'wedais i,
"Efelly mae," na fu yn ol fy ngair?

Brenin
Erioed, hyd ag y gwyddom ni.

Polonius
Gymerwch hwn oddiwrth
Hwn yma, os fel arall mae yn bod.
(Yn cyfeirio at ei ben a'i ysgwydd.)
Os bydd i amgylchiadau f' arwain i,
Myfi a ddeuaf hyd i'r lle y bo
Gwirionedd wedi 'i gelu, er iddo 'n wir
Fod yn geledig yn y dyfnder cudd.

Brenin
Pa fodd y gallwn roddi mwy o brawf
I'r peth?

Polonius
Chwi a wyddoch, ambell dro
Ei fod yn rhodio am bedair awr yn nghyd,
O fewn y cyntedd hwn.

Brenines
Efelly gwna,
Yn wir.

Polonius
Ac ar yr adeg hon fe gaiff fy merch
Ollyngdod ato; byddwch chwi a mi 'n
Ymguddio tan y groglen eang hon,
A sylwn ar eu cyfarfyddiad hwynt,
Os nad yw yn ei charu, ac nad hyn
Fu'r achos iddo gwympo odd ei bwyll,
Na foed im' byth gael llais yn ngwaith y llys,
Ond cadw fferm, a chyda certwyr fod.

Brenin
Nyni
A fynwn wneuthur prawf o hono ef.


HAMLET yn dyfod i fewn dan ddarllen.

Brenines
Ond gwelwch, mor druenus mae yn d'od,
Yr adyn truan, ac yn darllen mae.

Polonius
I ffordd, dymunaf ichwi; ewch eich dau
I ffordd, mi a'i cyfarchaf ef cyn hir,
O rhowch im' ganiatâd.


Y BRENIN, y FRENINES, a Gweinyddion yn ymadael.

Polonius
Pa fodd y mae
Fy Arglwydd Hamlet?

Hamlet
Iach, trugarâed Duw.

Polonius
A ydych chwi yn fy adnabod i,
Fy arglwydd?

Hamlet
Wyf yn hynod dda; chwychwi
Sydd werthwr pysgod.

Polonius
F' arglwydd, nac wyf fi.

Hamlet
Wel, dymunaswn eich bod yn ddyn
Mor onest.

Polonius
Gonest, fy arglwydd?

Hamlet

Iê, syr; bod yn onest, fel y mae y byd hwn yn myned, yw bod yn un wedi ei bigo allan o ddeng mil.

Polonius

Mae hyna yn bur wir, fy arglwydd.

Hamlet

Canys os yw yr haul yn magu cynrhon mewn ci marw, gan fod yn dduw yn cusanu burgyn,— A oes genych ferch?

Polonius

Oes, fy arglwydd.

Hamlet

Na adewch iddi rodio yn yr haul: mae amgyffred [20] yn fendith; ond gan y gall eich merch feichiogi, [20] gyfaill, edrychwch ati.

Polonius

Beth a ddywedaf fi am hyn? (Wrtho ei hun.) O hyd yn siarad am fy merch. Eto nid adwaenodd fi ar y cyntaf; dywedodd mai gwerthwr pysgod oeddwn: mae wedi myned yn bur bell, yn bur bell: ac mewn gwirionedd, yn fy ieuenctyd dyoddefais inau lawer o galedi er mwyn cariad: yn bur agos gymaint a hyn. Mi a siaradaf âg ef eto.— Beth yr ydych yn ei ddarllen, fy arglwydd?

Hamlet

Geiriau, geiriau, geiriau!

Polonius

Beth yw y mater, fy arglwydd?

Hamlet

Rhwng pwy?

Polonius

Dyna yr wyf yn feddwl, y mater yr ydych yn ei ddarllen, fy arglwydd.

Hamlet

Enllibiau, syr; canys y mae y gwalch tuchanus hwn yn dywedyd yma, fod gan hen wŷr farfau llwydion; fod eu hwynebau yn rhychog; eu llygaid yn dyferu ambr tew, a glud pren eiryn; a bod ganddynt ddiffyg mawr o synwyr, yn nghyd a garau gweiniaid: yr oll o'r hyn, syr, er fy mod yn ei gredu yn dra chryf, a chadarn, eto nid wyf yn ystyried ei fod yn onestrwydd i'w roddi fel hyn arlawr; canys chwychwi eich hun, syr, a fyddech mor hen ag wyf finau, pe gallech, fel y môrgranc, ond myned tuag yn ôl.

Polonius

Er fod hyn yn orphwylledd, eto mae trefn yn perthyn iddo. (Wrtho ei hun.) A ddeuwch chwi o'r gwynt, fy arglwydd?

Hamlet

I fy medd?

Polonius

Yn wir, byddai hyny o'r gwynt.— Mor lawn o ystyr yw ei atebion weithiau! yr hapusrwydd y mae gorbwylledd, yn fynych, yn taro arno! tra nas gallai rheswm ac iawn bwyll fod yn alluog i lefaru mor lwyddianus. Mi a'i gadawaf, ac a ymdrechaf yn union i gael moddion i gyfarfod rhyngddo ef a fy merch.— Fy arglwydd anrhydeddus, mi a wnaf, yn ostyngedig, ganu'n iach a chwi.

Hamlet

Nis gellwch, syr, gymeryd oddiarnaf unpeth y byddaf mor ewyllysgar i ymadael âg ef; oddieithr fy mywyd, dieithr fy mywyd, oddieithr fy mywyd.

Polonius
Byddwch wych, fy arglwydd.

Hamlet
Yr hen ffyliaid blinderus hyn!


ROSENCRANTZ a GUILDENSTERN yn dyfod i fewn.

Polonius
A ydych chwi yn myn'd i chwilio am
Yr arglwydd Hamlet? wele, dyna fe.

Rosencrantz
(Wrth Polonius.)
Duw a'ch cadwo, syr.


Polonius yn ymadael.

Guildenstern
Fy anrhydeddus arglwydd!—

Rosencrantz
Fy anwylaf arglwydd!—

Hamlet

Fy nghyfeillion da godidog! Pa sut yr ydwyt, Guildenstern? Ah, Rosencrantz! Lanciau da, pa sut yr ydych eich dau?

Rosencrantz
Fel dibwys blant y ddaear.

Guildenstern
Hapus y'm,
Mewn peidio bod yn orhapusol, ar
Gap ffawd, nid ydym ni y botwm clir.

Hamlet
Na gwadnau ei hesgid chwaith?

Rosencrantz
Yr un o'r ddau, fy arglwydd.

Hamlet

Yna yr ydych yn byw o gylch ei gwasg, neu yn nghanol ei ffafrau?

Guildenstern

Myn ffydd! ei dirgeloedd ydym ni.

Hamlet

Yn nghuddranau ffawd? O, pur wir; dyhiren ydyw hi. Pa newydd.

Rosencrantz

Dim, fy arglwydd, ond fod y byd wedi troi yn onest.

Hamlet

Yna mae dydd brawd yn agos: ond nid yw eich newydd yn wir. Gadewch i mi holi yn fwy manwl: Pa beth a fu eich trosedd chwi, fy nghyfeillion, yn erbyn ffawd, fel ag iddi eich gyru i gar- char yma.

Guildenstern

Carchar, fy arglwydd?

Hamlet

Carchar yw Denmarc.

Rosencrantz

Yna y mae y byd yn un.

Hamlet

Un rhagorol; yn yr hwn y mae caethgelloedd, gwarchodgelloedd, a daeardai: a Denmarc yn un o'r rhai gwaethaf.

Rosencrantz

Nid ydym ni yn meddwl felly, fy arglwydd.

Hamlet

Ai ê, yna nid yw felly i chwi: canys nid oes dim nac yn dda nac yn ddrwg, nad ydyw meddwl yn ei wneud felly: i mi y mae yn garchar.

Rosencrantz

Yna ynte eich huchelfrydedd sydd yn ei wneuthur yn un: mae yn rhy gyfyng i'ch meddwl.

Hamlet

O Dduw! mi a allwn gael fy nghyfyngu mewn plisgyn cneuen, a chyfrif fy hunan yn frenin ar eangder diderfyn; pe na buasai fy mod wedi cael breuddwydion drwg.

Guildenstern

Pa freuddwydion ydynt, yn wir, uchelfrydedd; canys nid yw hyd yn nod sylwedd yr uchelfrydig ond megys cysgod breuddwyd.

Hamlet

Nid yw breuddwyd ei hun ond cysgod.

Rosencrantz

Gwir, ac yr wyf fi yn dal fod uchelfrydedd o ansawdd mor awyrol ac ysgafn, fel nad yw ond cysgod, cysgod.

Hamlet

Yna y mae ein cardotwyr yn fodau; a'n unbeniaid ni, a'n harwyr mawrion, [21] yn gardotwyr cysgod. A gawn ni fyn'd i'r llys? canys, myn fy ffydd, nid allaf ymresymu.

Rosencrantz, Guildenstern

Ni a weinyddwn arnoch.

Hamlet

Dim cymaint o bwys: nis gosodaf chwi gyda'r gweddill o'm gweision; canys, i ddywedyd wrthych fel dyn gonest, yr wyf yn cael gweinyddu arnaf yn dra dychrynllyd. [22] Ond, yn llwybr cyffredin cyfeillgarwch, beth ydych chwi 'n ei wneud yn Elsinore?

Rosencrantz

Ymweled â chwi, fy arglwydd; dim neges arall.

Hamlet

Cardotyn fel yr wyf, yr wyf yn dlawd, hyd yn nod mewn diolchgarwch; ond yr wyf yn diolch i chwi: ac yn sicr, gyfeillion anwyl, y mae fy niolchgarwch yn rhy ddrud am ddimai. Ai nis danfonwyd am danoch? Ai eich tueddiad chwi eich hunain ydoedd? A ydyw yn ymweliad rhyddfryd? De'wch, de'wch, ymddygwch yn gyfiawn tuag ataf; de'wch, de'wch, siaredwch.

Guildenstern

Beth a ddywedwn ni, fy arglwydd?

Hamlet

Unrhyw beth, ond ei fod i'r pwrpas. Fe ddanfonwyd am danoch; ac y mae math o gyffesiad yn eich golygon, y rhai nad oes gan eich gwyleidd-dra ddigon o fedrusrwydd i'w lliwio. Mi a wn mae 'r brenin a'r frenines a anfonodd am donoch.

Rosencrantz

I ba ddyben, fy arglwydd?

Hamlet

Fel y gallech fy nysgu i. Ond gadewch i mi eich tyngedu trwy hawliau ein cyfeillgarwch, trwy gydweddiad ein hieuenctyd, trwy rwymedigaeth ein cariad, a gadwyd rhyngom yn wastadol, a thrwy ba beth bynag mwy anwyl y gallai cynygydd gwell eich herchi, byddwch wastad ac uniongyrch gyda mi,—pa un a anfonwyd am danoch, ai naddo?

Rosencrantz

(wrth Guildenstern) Beth a ddywedwch chwi?

Hamlet

Na, yna y mae genyf olwg arnoch; (wrtho ei hun)—os ydych yn fy ngharu i, nac ateliwch.

Guildenstern

Fy arglwydd, anfonwyd am danom ni.

Hamlet

Mi a ddywedaf i chwi paham: felly bydd fy ngwaith i yn achub y blaen yn rhwystro eich darganfyddiad chwi, [23] ac ni bydd i'ch cyfrinach i'r brenin a'r frenines fwrw un bluen. Yr wyf yn ddiweddar (ond paham, nis gwn), wedi colli fy holl lawenydd, ac ymwrthod â holl ddefodau ymarferion; ac yn wir, y mae yn dygymod mor drymaidd gyda'm tueddfryd, fel y mae yr holl adeilad dda hon, y ddaear, yn ymddangos i mi fel penrhyn anffrwythlawn; y gortho godidog hwn, yr awyr, sylwch—y ffurfafen hardd a chrogedig hon—y tô mawreddog hwn sydd wedi ei orchuddio â thân euraidd, wele, nid yw yn ymddangos i mi yn ddim amgen na chynulliad ffiaidd a heintus o darthion. Y fath ddarn o waith yw dyn! Mor ardderchog mewn rheswm! mor annherfynol mewn cyneddfau! mewn ffurf, a symudiad, mor fynegiadol a rhyfedd! Mewn gweithred, mor debyg i'r angel! mewn amgyffred, mor debyg i dduw! prydferthwch y byd! un digymhar yn mhlith pob anifail! Ac eto, i mi, beth yw y sylwedd llwch hwn! nid yw dyn yn fy nifyru i, na dynes chwaith; er, wrth eich cilchwerthiniad chwi, yr ymddangoswch fel yn dweud felly.

Rosencrantz

Fy arglwydd, nid oes dim o'r fath sothach yn fy meddyliau i.

Hamlet

Paham y chwarddasoch, ynte, pan y dywedais, Nid yw dyn yn fy nifyru i?

Rosencrantz

Wrth feddwl, fy arglwydd, os nad ydych yn ymhyfrydu mewn dyn, y fath groesaw prin a dderbynia y chwareuwyr genych; ni a'u daliasom hwy ar y ffordd; ac y maent yn dyfod i gynyg i chwi eu gwasanaeth.

Hamlet

Yr hwn a chwareua y brenin, a fydd iddo groesaw; ei fawrhydi a gaiff deyrnged genyf fi: caiff y marchog anturus ddefnyddio ei gledd a'i darged: ni chaiff y carwr ocheneidio am ddim: caiff y dyn digrifol orphen ei ddarn mewn tangnefedd: y drelyn [24] a gaiff wneud i'r rhai hyny ag y mae eu hysgyfaint wedi eu goglais gan wywdra, chwerthin: a chaiff y foneddiges ddweud ei meddwl yn rhydd, neu caiff y gân ddiawdl aros am dani. Pa chwareuwyr ydynt hwy?

Rosencrantz

Y rhai hyny ag y cymerech y fath ddifyrwch ynddynt—prudd-chwareuwyr y ddinas.

Hamlet

Pa fodd y dygwydd eu bod yn crwydro? Yr oedd eu trigiad sefydlog yn well iddynt bob ffordd, mewn parch ac elw.

Rosencrantz

Yr wyf yn meddwl fod y gwaharddiad iddynt wedi tarddu oddiwrth y newydd-ddefod ddiweddar. [25]

Hamlet

A ydynt hwy yn dal mor enwog ag oeddynt pan oeddwn i yn y ddinas? A ddilynir hwy gymaint?

Rosencrantz

Nac ydynt, yn wir nid ydynt.

Hamlet

Pa fodd y mae hyny yn bod? A ydynt hwy yn myned yn rhydlyd?

Rosencrantz

Na, y mae eu hymgais yn dal yn y lle arferol: ond y mae, syr, y fath nythlwyth o blant, cywion bychain, sydd yn llefain allan hyd eithaf eu hysgyfaint, a hwy a glecir yn dra gormesol am dano: dyna ym y ffasiwn yn awr; a gwnant y fath dwrf a thrwst ar yr esgynloriau cyffredin (felly y galwant hwy), fel y mae llawer, sydd yn gwisgo hirgleddyfau, yn ofni cwils gwyddau, a phrin y meiddiant ddyfod yno.

Hamlet

Beth, ai plant ydynt? pwy sydd yn eu cynal? pa sut y telir iddynt? Ai nid ânt yn mlaen gyda'r alwedigaeth yn hŵy nag y gallant ganu? Ai ni ddywedant drachefn, os tyfant i fyny yn chwareuwyr cyffredin eu hunain (fel y bydd yn bur debyg, oni bydd eu moddion yn well), fod eu hysgrifenwyr yn gwneud cam â hwynt, fel ag i wneud iddynt waeddi yn erbyn eu holynwyr?

Rosencrantz

Yn wir, bu llawer i'w wneud o bob tu; ac nid yw y genedl yn ei gyfrif yn bechod i'w hanog yn mlaen i ddadleuaeth: nid oedd, am beth amser, ddim arian yn cael eu cynyg ar ddadl, os na byddai i'r bardd a'r chwareuydd fyned i baffio ar y pwnc.

Hamlet

A ydyw hyny yn bosibl?

Guildenstern

O, fe fu llawer o daflu ymenydd o gwmpas.

Hamlet

A ydyw y bechgyn yn cario y dydd?

Rosencrantz

Ydynt, felly y maent, fy arglwydd, Hercules a'i lwyth hefyd. [26]

Hamlet

Onid yw yn bur hynod: canys y mae fy ewythr yn frenin Denmarc, a'r rhai, tra yr oedd fy nhad yn fyw, a wnaent wynebau arno, a roddant ugain, deugain, haner cant, a chan ducat, [27] am ei arlun mewn bychandra. [28] Yn siŵr, y mae rhywbeth mwy na naturiol yn hyn, pe gallai athroniaeth ei gael allan.



Caniad udgyrn oddifewn.

Guildenstern

Dyna y chwareuwyr.

Hamlet

Foneddigion, croesaw i chwi i Elsinore. Rhoddwch eich dwylaw i mi. [29] De'wch ynte: perthynolion croesaw yw dullwedd a defod: gadewch i mi eich moesgyfarch yn y modd hwn; rhag ofn y bydd i fy helaethder gyda'r chwareuwyr—yr hwn, meddaf wrthych, a raid edrych yn deg oddiallan—ymddangos yn fwy fel croesaw na'r eiddoch chwi. Y mae i chwi groesaw: ond fy ewythr-dad, a'm modryb-fam, a gawsant eu twyllo.

Guildenstern

Yn mha beth, fy arglwydd?

Hamlet

Nid wyf yn orphwyllog ond i'r gogledd-ogledd-orllewin: pan fyddo y gwynt yn ddeheuol, mi adwaen hebog oddiwrth lawlif.



POLONIUS yn dyfod i fewn.

Polonius

Boed yn dda gyda chwi, foneddigion.

Hamlet

Gwrandewch, Guildenstern; a chwithau hefyd;—wrth bob clust boed gwrandawydd: y babi mawr hwna, a welwch yna, nid yw eto allan o'i gawiau.

Rosencrantz

Fe ddichon ei fod wedi dyfod iddynt yr ail waith; canys dywedant fod hen ddyn ddwywaith yn blentyn.

Hamlet

Mi a brophwydaf, mai wedi dyfod i ddweud wrthyf yn nghylch y chwareuwyr; sylwch chwi.— Yr ydych yn dweud yn gywir, syr: ar ddydd Llun y bore; y pryd hwnw yr oedd, yn wir.

Polonius

Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych.

Hamlet

Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych chwi. Pan oedd Rocius yn chwareuydd yn Rhufain,—

Polonius

Mae y chwareuwyr wedi dyfod yma, fy arglwydd,

Hamlet

Pw, pw!

Polonius

Ar fy anrhydedd,—

Hamlet

Yna daeth pob chwareuydd ar ei ful,—

Polonius

Y chwareuwyr goreu yn y byd, naill ai am bruddchwareu, gwawdchwareu, hanesiaeth, bugeilgerdd, bugeilgerddol-gwawd-chwareuol, hanesiol-bugeilgerddol, pruddchwareuol- hanesiol, pruddchwareuol-gwawdchwareuol-hanesiol-bugeilgerddol, golygfa anrhanadwy, neu gân ddiderfyn: nis gall Seneca fod yn rhy drwm, na Plautus yn rhy ysgafn. Am gyfraith ysgrifen, ac am y rhyddid. dyma yr unig ddynion.

Hamlet

O Jephthah, farnwr Israel!—y fath drysor oedd genyt ti!

Polonius

Pa drysor oedd ganddo, fy arglwydd?

Hamlet
Beth— Un ferch deg, dim mwy, yr hon
A garai yn rhagorol.

Polonius

(Wrtho ei hun.) Fyth yn nghylch fy merch.

Hamlet

Ai nid wyf yn iawn, yr hen Jephthah?

Polonius

Os ydych yn fy ngalw i yn Jephthah, fy arglwydd, y mae genyf fi ferch, yr wyf yn ei charu yn anwyl.

Hamlet

Na, nid yw hyna yn canlyn.

Polonius

Beth sydd yn canlyn ynte, fy arglwydd?

Hamlet

Wel, Fel dygwyddai, Duw a wyddai, ac yna, chwi wyddoch, Dygwydd wnaeth y rhod, Fel yn debyg 'r oedd yn bod,— Y rhes gyntaf o'r gân dduwiolaidd [30] a ddengys i chwi ychwaneg; canys gwelwch, mae fy myrhâd yn dyfod.



Pedwar neu Bump o Chwareuwyr yn dyfod i fewn.

Hamlet

Croesaw i chwi, feistri; croesaw oll:— Mae yn dda genyf dy weled yn iach:— Croesaw gyfeillion da.— O hen ffrynd! Beth, y mae dy wyneb yn sitrachog, er pan y gwelais di ddiweddaf; a wyt ti yn dyfod i fy marfu [31] yn Denmarc? — Beth, fy arglwyddes a'm meistres ieuanc! Myn eich rhïan, mae eich harglwyddesiaeth yn nês i'r nefoedd na phan eich gwelais ddiweddaf, o uchder clogsen. Duw a baro nad yw eich llais, fel darn o aur didrain, wedi colli ei swn.— Feistriaid, y mae i chwi groesaw bob un. Ni a redwn iddi fel hebogiaid Frengig, ehedeg at unrhyw beth a welwn; ni a fynwn araeth yn union; de'wch, rho'wch i mi brawf o'ch medr: dewch araeth gyffrous.

Chwareuwr 1

Pa araeth, fy arglwydd?

Hamlet

Mi a'th glywais yn traddodi araeth unwaith, —ond ni chafodd ei chwareu erioed; neu, os cafodd, ddim mwy nag unwaith: canys nid oedd y chwareuaeth, yr wyf yn cofio, yn boddio y miliwn; dysglaid anhyfryd [32] oedd i'r lluaws: ond yr oedd (fel y derbyniais i hi, ac eraill, y rhai yr oedd eu barn, ar y cyfryw bynciau, yn gwaeddi yn uwch na'r eiddof finau), yn chwareuaeth ragorol; wedi ei ddosbarthu yn dda yn y golygfeydd, ei gosod i lawr gyda chymaint o wylder ag o gallineb. Yr wyf yn cofio clywed un yn dweud nad oedd dim deiliach yn y llinellau, i wneud y mater yn flasus; na dim mater yn yr ymadroddion, a allai gyhuddo yr awdwr o fursendod; ond galwent ef yn ddull gonest, mor iachusol ag oedd o felus, ac yn llawer mwy prydferth na choeth. Un araeth ynddi yr oeddwn yn ei hoffi yn benaf: ystori Aeneas wrth Dido ydoedd; ac yn y fan hono o honi yn neillduol, lle y mae yn son am laddiad Priam: os ydyw yn fyw yn eich cof, dechreuwch yn y llinell hon; gadewch i mi weled, gadewch i mi weled;—
"Y gerwin Pyrrhus, fel Hyrcanaidd fwyst,"—
Nage, nid felly y mae; dechreua gyda Pyrrhus.
"Y gerwin Pyrrhus,—ef, yr hwn yr oedd
Ei arfau duon, llawn mor dywyll a'i
Amcanion, a thra thebyg oedd i'r nos,—
Fan y gorweddai, ar ei frochus farch,—
Yn n awr ddiwynodd y gwynebpryd du,
Ofnadwy hwn, âg arfbaus fil mwy erch;
O'i ben i'w draed y mae yn hollol goch;
Ac wedi 'i ddwbio yn ddychrynllyd â
Gwaed tadau, mamau, merched, meibion; rhai
A bobwyd ac a doeswyd gyda yr
Heolydd deifiol, roddant fenthyg gwawl
Ormesol a damnedig, tuag at
Lofruddio'u harglwydd. Wedi 'i rostio mewn
Llid, tân, a'i ludio drosodd gyda gwaed
Ceuledig, ac â llygaid megys y
Carbuncl, yr uffernol Pyrrhus oedd
Yn ceisio 'r hen daid Priam;"—
Felly ewch yn mlaen.

Polonius

Ger bron fy Nuw, fy arglwydd, dyna siarad yn rhagorol; âg aceniad a phwyll da.

Chwareuwr 1
"Buan cafodd ef,
Yn taro yn rhy fyr [33] ar Roegiaid, ei
Henafol gledd, gan wrthyfela â'i fraich,
Orwedda lle y cwympodd, yn anufudd i'w
Orchymyn ef; Er yr anghyfartaledd hwn,
Gwnai Pyrrhus ruthro ar Priam, ac mewn gwŷn,
Tarawodd ar ei gyfer; ond â chwyth
A chwa ei erchyll gledd, fe syrthiodd yr
Hen dad di-rym. Pryd hyny Iilum,
Yn annheimladol, ymddangosai fel
Yn teimlo am yr ergyd hwn, a gwnaeth—
O'i fflamawl ben ddygrynu hyd ei draed;
A chyda thwrf echryslawn, cymerth yn
Garcharor glust i Pyrrhw: canys wi!
Ei gledd yr hwn ogwyddai at laethog [34] ben
Y parchus Priam, ymddangosai fel
Yn glynu yn yr awyr; felly, fel
Gormeswr arliwiedig , Pyrrhus a
Wnai sefyll; ac, fel yn anmhleidiol i'w
Ewyllys ac ei ddefnydd, nis gwnaeth ddim,—
Ond fel y mynych welwn, cyn ystorm,
Dawelwch yn y nefoedd, ac y mân
Gymylau 'n sefyll, wyntoedd hyf yn fud,
A'r byd islaw yn ddystaw fel y bedd,—
Ac yn y man y daran echrys, groch,
Yn rhwygo'r wlad; 'run fath, mewn amnaid byr
I Pyrrhus, cyffroedig ddial wnai
Ei ddwyn i weithio o newydd, ac erioed
Ni syrthiodd trymforthwylion Cyclops ar
Arfogaeth Mawrth—a weithiwyd i ddal prawf
Tragwyddol—gyda llai tosturi nag
Y gwnelai cleddyf gwaedlyd Pyrrhus y
Pryd hwn ar Priam syrthio.—
Dos allan, allan, ti ddyhiren, Ffawd!
Chwychwi 'r holl dduwiau, mewn cymanfa fawr,
A chyffredinol, cydgymerwch ei
Holl allu oddiarni, torwch holl
Adenydd a chamogau 'i holwyn hi,
A threiglwch y foth gron â lawr o fryn
Y nef mor isel a'r ellyllon!"

Polonius
Mae hwn yn rhy hir.

Hamlet

Caiff fyned at yr eilliwr, gyda'th farf di.— Atolwg, ewch yn mlaen:— Mae efe am lamddawns, neu ystori anllad, onide y mae yn cysgu:— Ewch chwi yn mlaen, deuwch at Hecuba.

Chwareuwr 1
"Ond pwy, O ofid! ddarfu weled y
Frenines gudd," [35]

Hamlet

Y frenines gudd?

Polonius

Mae hyna yn dda; Brenines gudd, sydd dda.

Chwareuwr 1
"Yn rhedeg yn droed-noeth
I fyny ac i lawr, gan fwgwth yr
Holl fflamau â dyferwst llaethog; carp
Orchuddiai 'r pen, lle 'r hardd eisteddai gynt
Y goron; ac, yn lle hardd wisg o gylch
Ei lwynau teneu, a gwanychol trwy
Orhiliad, yr oedd gwrthban, gwael yr hwn
Yn frysiog a gymerodd yn ei hofn;—
Pwy ar a welodd hyn, na fuasai â
Throchedig dafod mewn rhyw wenwyn, yn
Llefaru 'n groew deyrnfradwriaeth, croes
Yn erbyn teyrnas Ffawd: ond pe yn wir
Y gwelsai 'r duwiau hi yr adeg hon,
Pan welodd Pyrrhus yn gwneud dygas wawd
Trwy ddarnio gyda'i gledd aelodau 'i gŵr,—
Y waedd a'r twrf disymwth a wnaeth hî,
(Os ydyw marwol bethau 'n eu cyffroi
O gwbl) a wnaethai'n ddall [36] lym lygad nef,
A chyffro yn y duwiau."

Polonius

Sylwch, os nad yw wedi troi ei liw, ac â dagrau yn ei lygaid.— Atolwg i ti, dim ychwaneg.

Hamlet

Pob peth yn dda; mi a fynaf genyt lefaru y gweddill o hyn yn fuan.— Fy arglwydd da, a wnewch chwi edrych fod y chwareuwyr yn cael pob cysur? A ydych chwi yn clywed, ymddyger yn dda tuag atynt; canys hwynt-hwy ydynt grynodeb a byr groniclau o'r amser. Byddai yn well i chwi gael beddargraff drwg ar ol marw, na chael eu hanair hwynt tra y byddoch byw.

Polonius

Fy arglwydd, mi a'u triniaf hwynt yn ol eu haeddiant.

Hamlet

Gwarchod pawb, ddyn, yn llawer gwell na hyny. Ymddyger at bob dyn yn ol ei haeddiant, a phwy a ddianc heb ei fflangellu? Ymddygwch tuag atynt yn ol eich hanrhydedd a'ch hurddas: po leiaf a haeddant, mwyaf o deilyngdod sydd yn eich caredigrwydd. Cymerwch hwynt i fewn.

Polonius

De'wch syrs.



POLONIUS a rhai o'r Chwareuwyr yn ymadael.

Hamlet

Dilynwch ef, gyfeillion; ni a wrandawn ar chwareuaeth yfory.— A wyt ti yn clywed, hen gyfaill; a fedri di chwareu llofraddiaeth Gonzago?

Chwareuwr 1

Medrwn, fy arglwydd.

Hamlet

Ni a'i mynwn nos yfory. Chwi a allech, mewn angen, astudio araeth o ryw ddwsin neu un ar bymtheg o linellau, y rhai a roddwn i lawr, i'w gosod ynddi? Onid allech?

Chwareuwr 1

Gallem, fy arglwydd.

Hamlet

O'r goreu.— Canlynwch yr arglwydd hwna; a gwelwch na watwaroch ef.



Y Chwareuwyr yn ymadael.

Hamlet

{Wrth Rosencrantz a Guildenstern.] Fy nghyfeillion da, mi a'ch gadawaf hyd y nos: croesaw i chwi i Elsinore.

Rosencrantz

Fy arglwydd da!



ROSENCRANTZ a GUILDENSTERN yn ymadael.

Hamlet
Ië, felly, Duw a fyddo gyda chwi:—
Yn awr yr wyf yn unig. O y fath
Anfadyn a gwerinol gaethwas wyf!
Ai nid yw yn wrthuni, y gall y
Chwareuwr hwn, yn unig mewn rhyw ffug,
Neu freuddwyd nwyd, gyffroi ei enaid fel
Y myno ei fryd, fel, oddiwrth ei waith,
Y gwelwa 'i holl wynebpryd, dagrau yn
Ei lygaid ef, gorphwylledd yn ei drem,
Llais wedi troi, a'i holl deithi yn
Agweddu gyda ffurfiau 'n ol ei fryd.
A'r oll am ddim! Am Hecuba!
Beth yw Hecuba iddo, neu efe
I Hecuba, fel yr wylai yn ei chylch?
Beth a wnai ef pe b'ai yn meddu y
Cymelliad a'r anogaeth feddaf fi
I nwyd? Fe foddai yr esgynlawr â
Heillt ddagrau, ac fe holltai glust y bobl
Ag echrys araeth; gwnai 'n orphwyllog yr
Euogion, synai 'r dynion rhydd, a gwnai
Ddyrysu 'r anwybodus; ac yn wir
Brawychai gyneddf clust a llygaid pawb.
Eto myfi,
Rhyw ddwl a lleidiog-feddwl adyn wyf
Yn nychu, fel rhyw Ioan fyddo yn
Breuddwydio, heb ofalu am f' achos i,
Heb allu dweud un dim; dim, hyd yn nôd
Dros frenin, 'r hwn ar ei feddianau ac
Ei anwyl fywyd gwnaed dinystriad mawr
Melldigus. A wyf fi yn llwfrddyn, wys?
Pwy a'm geilw i'n ddyhiryn? hollta'm pen?
A dỳn fy marf, a'i daflu i'm gwyneb i?
A'm gwasga yn fy nhrwyn, neu roi i mi
Y celwydd yn fy ngwddf, mor ddwfn ag i
Fy ymysgaroedd? Pwy wna i mi hyn?
Ha!
Mi a'i cymerwn; canys nis gall fod
Nad wyf yn dyner, ac yn fyr o fustl
I wneuthur trais yn chwerw; neu, cyn hyn,
Pesgwn i holl farcutanod gwlad
A syrth y caethddyn hwn: O waedlyd, ac
Anlladaidd adyn! O ddideimlad, a
Thwyllodrus, trythyll, annaturiol adyn!
O! 'r fath ful ydwyf! Y mae hyn yn ddewr,
I mi, mab anwyl dad lofruddiwyd, ac
Sy 'n cael fy anog i ddialedd gan
Y nef ac uffern, orfod megys rhyw
Garnbutain, i ddilwytho 'm calon lawn
A geiriau, gyda syrthio i regu, fel
Budrogyn neu geginwas!
Ffei arno! pw! Yn nghylch fy menydd i!
Ymff! Wele, mi a glywais cyn hyn fod
Y creaduriaid euog hyn, wrth eistedd mewn
Chwareuaeth, wedi cael trwy gallder yr
Olygfa eu taro hyd yr enaid, fel
Yn union gwnaethant oddef eu dryg-waith;
Can's gwna llofruddiaeth, er nas medda ar
Un tafod, siarad mewn rhyw wyrthiol fodd.
Mi fynaf gael gan y chwareuwyr hyn
I chwareu rhywbeth fyddo'n debyg i
Lofruddiad fy hoff dad, o flaen fy ewythr:
Mi sylwaf ar ei wedd; a chwiliaf i'w
Archollion hyd y byw; os cilia 'n ôl,
Neu neidio, mi a wn fy llwybr i.
Yr ysbryd welais, gall mai'r diafol oedd:
Y diafol fedda allu i wisgo mwyn-
Agweddiad. Ïe, ac fe ddichon, o
Fy ngwendid, a fy mhrudd-glwyf (gan ei fod
Yn dra galluog âg ysbrydion o'r
Fath hyn),—ei fod yn ceisio 'm blino, er
Fy namnio; mi a fynaf dir fo gwell
Na hyn: y chwareu ydyw 'r peth; trwy hwn
Y caf gydwybod ddrwg y brenin, gwn.
(Yn ymadael.)

Notes

17 Olbryd (desert), yr hwn a wneir i fyny o ffrwythau. replay
18 Mae gan Polonius yma chwareuad ar eíriau nad yw yn hawdd ei ddangos yn y Gymraeg. Effect yw y gair cyntwf, a defect yw yr ail. replay
19 Hyny yw, yn eistedd i lawr ac yn gwneud cyfrif o'r fantais, yr un modd ag y gwna anturiaethwr pan y cynyger rhyw anturiaeth newydd i'w sylw. replay
20 Yma eto y mae chwareuad ar eiriau nad yw y Gymraeg yn alluog i'w osod allan. Y gair cyntaf yw conception, a'r ail yw conceive. replay
21 Llythyrenol,—estynedig. replay
22 Hyny yw, yn ormod o lawer. replay
23 Yn ei wneuthur yn afraid. replay
24 Clown. replay
25 Mae Shakspeare yn gwneud i Rosencrantz yma gyfeirio at amgylchiad a ddygwyddasai ychydig yn flaenorol i'r amser yr ysgrifenodd efe. Cafodd amryw chwareuwyr, yn ei amser ef, eu hatal, oherwydd ou bod yn gwneud cyfeiriadau personol yn eu chwareuon. replay
26 Y belen ddaearol—y glôb—sef yr arwydd uwch ben chwareudŷ Shakspeare. replay
27 Darn bath tramor, gwerth 3s. 4c. yn arian, a 9s. 4c. yn aur. replay
28 Manddarlun (miniature). replay
29 Ysgwydwch ddwylaw. replay
30 Carol Nadolig. replay
31 Herio. replay
32 Caviare.—Dysgl Italaidd, a wneid o ronell pysgod. replay
33 Yn ddieffaith. replay
34 Pen gwyn. replay
35 Saes. mobled. Gorchuddiedig neu fygydol (muffled). replay
36 Gan ddagrau. replay
a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a2, g1a2, g2