a1

Panto (1986)

Gwenlyn Parry

Ⓗ 1986 Gwenlyn Parry
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Golygfa: Theatr

Amser: Y Presennol

Pan ddaw'r gynulleidfa i mewn i'r theatr, gwelant fod y llwyfan wedi ei rannu'n ddwy. Y rhan ar y dde (o safbwynt y gynulleidfa) yw Ystafell Newid Robert Deiniol, ac fe wêl y rhai sylwgar ein gwron yn eistedd ar soffa ddigon blêr yn yfed wisgi. Mae hanner potel hanner llawn ar y bwrdd coluro a gwelwn ef yn y man yn cerdded yn sigledig o'r soffa i'r bwrdd i lenwi ei wydryn. Daw â'r botel, chwarter llawn erbyn hyn, gydag ef a'i rhoi wrth ei draed ger y soffa. Ar ddechrau'r ddrama, mae Ystafell Newid Robert Deiniol yn hawlio tua chwarter gofod y llwyfan, a'r tri chwarter arall yw'r rhan lle perfformir y "panto".

Yn y rhan honno (lle mae'r llenni i lawr) gwelir pobl yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn brysur yn paratoi ar gyfer dechrau'r perfformiad ymhen rhyw hanner awr. (Gellir eu gweld trwy ddefnyddio llenni meinwe─gauze.) Y dyn amlycaf yn y paratoadau hyn yw'r Dyn Llwyfan sydd wedi ei wisgo mewn ofarôl ddu a chrys gwyn.

Gwelwn Robert Deiniol yn awr yn tollti gweddill yr hanner potel i'w wydryn ac yn cuddio'r botel wag y tu ôl i bentwr o offer llwyfan. Mae'n cerdded i ran arall o'r Ystafell Newid ac yn codi hanner potel arall sydd wedi ei chuddio. Rhydd gusan gariadus iddi a mynd â hi gydag ef at y soffa. Yn y man, bydd yn syrthio i gysgu gyda'i wydryn yn ei law, ond nid cyn gwneud ei farc ar yr hanner potel newydd yma.

Bydd rhan o'r gynulleidfa wedi sylwi hefyd ar gymeriad mewn siwt 'dici-bo' yn y cyntedd. Dyn bach ffyslyd iawn o'r enw Maldwyn Evans yw hwn. Fo yw'r Goruchwyliwr Llwyfan a byddwn yn ei weld yn y man ar y llwyfan. Ar hyn o bryd, mae'n goruchwylio'r cyntedd ac yn croesawu'r gynulleidfa. Pwrpas hyn i gyd yw cael y gynulleidfa, yn y man, i sylweddoli bod y ddrama wedi dechrau y foment y daethant dros drothwy'r theatr, a'u bod, mewn gwirionedd, yn actio ynddi.

Daw Sera Rees i mewn i'r llwyfan panto. Mae wedi ei gwisgo fel Dick Whittington─esgidiau uchel at y pen-glin; het a phluen ynddi ac ati. Gwelir hi'n rhoi gorchymyn i'r Dyn Llwyfan i symud dodrefnyn. Yn y man, daw Mici Tiwdor i'r llwyfan panto wedi ei wisgo fel cath. Mae'r ddau yn sgwrsio ac yn cyfeirio at ran arbennig o'r set─coeden bren neu rywbeth cyffelyb.

Yn yr Ystafell Newid, erbyn hyn, mae Robert Deiniol yn cysgu'n drwm. Yn y cefndir, gwelwn Ferch y Gwisgoedd, Elin Wyn, yn ceisio agor drws yr ystafell. (Dim ond ffrâm yw'r drws gan fod angen i ni weld pawb a fydd y tu allan iddo.) Wedi methu mynd i mewn, prysura Elin Wyn yn awr i'r llwyfan panto a gwelwn hi'n cael gair â Dick Whittington (Sera Rees). Mae'n amlwg mewn pryder am fod Robert Deiniol wedi ei gloi ei hun i mewn ac yn gwrthod agor. Mae'r ddwy ferch yn awr yn croesi at ddrws ystafell Robert Deiniol ac yn ei sgrytian a'i guro. Ceir rhyw fath o ymateb gan R.D., ond dim mwy na throi ei din at y gynulleidfa. Dywed Sera Rees rywbeth wrth Elin Wyn ac mae honno'n mynd ar draws y llwyfan panto ac i lawr grisiau bach i'r awditoriwm. Mae'n cerdded yn frysiog i fyny llwybr canol y theatr at y cyntedd.

Daw'r band i mewn a dechrau tiwnio, ond ni chlyw'r gynulleidfa 'run sŵn o gwbl. Yn wir, mae'n hollbwysig nad yw'r gynulleidfa yn y theatr hyd yma wedi clywed yr un sŵn na'r un gair o'r llwyfan─mae'r cyfan wedi bod fel meim iddynt.

Yn y man, gwelwn Maldwyn Evans, y Goruchwyliwr Llwyfan, yn cerdded yn frysiog gydag Elin Wyn tuag at y llwyfan. Maent yn dringo'r grisiau ac yn cerdded at ddrws yr Ystafell Newid. Dilyna Sera Rees hwy unwaith eto. Gwelwn Maldwyn Evans yn awr yn curo a sgrytian y drws. Mae pawb yn amlwg yn bur bryderus am gyflwr Robert Deiniol. Mae Maldwyn yn awr yn cerdded yn frysiog i'r llwyfan panto ac yn rhoi arwydd i'r Dyn Llwyfan ei ddilyn. Gwna hwnnw hynny yn hollol beiriannol. Yn wir, ni ddangosir unrhyw emosiwn gan y cymeriad hwn trwy gydol y ddrama─dim ond ufuddhau i bob gorchymyn fel robot. Saif Maldwyn eto o flaen drws yr Ystafell Newid a dywed rywbeth wrth y Dyn Llwyfan. Gwelwn ef yn pwyntio at y drws yr un pryd. Rhydd y Dyn Llwyfan un gic anferth i'r drws sy'n ei agor â chlec a glywir drwy'r theatr. Ar yr un eiliad yn union, mae goleuadau'r awditoriwm yn diffodd; golau'r Ystafell Newid yn codi a'r band yn dechrau canu.

Deiniol

(Yn neidio ar ei draed mewn dychryn.) Pwy?... Be'?.... Lle ma'n nhw?...



Rhuthra Maldwyn, Sera ac Elin i mewn.

Deiniol

(Yn edrych mewn syndod ar y drws.) Dach chi 'di malu'r blydi drws.

Sera

'Ti 'di mynd yn rhy bell rŵan, 'ngwas i.

Maldwyn

'Ti'n gwbod faint o'r gloch ydi hi?



Mae Elin yn mynd yn syth at y stand dillad a gafael mewn gwisg merch. Yn y panto, mam Dick yw Robert Deiniol.

Deiniol

Coed tân, myn diawl─dau swllt y bwndal. (Yn chwerthin.)

Sera

Mae o'n feddw gaib beipan.

Maldwyn

Llawn at 'i styds.

Elin

(Yn dal y ffrog o'i flaen.) Tyd y clown!

Deiniol

Nid fi ddaru... dwi ddim yn talu...

Maldwyn

Tyn y trowsus 'na.

Deiniol

W! Dim rŵan, Maldwyn.

Elin

Sgynnon ni ddim amser i dy jôc sglyfaethus di─gollwng o.

Sera

Tri munud sgin ti.

Maldwyn

Dau. Ma'r overture hanner ffordd drosodd... o, be 'na i? (Mae'n rhuthro allan; croesi'r llwyfan panto ac i lawr y grisiau at y band.) (Wrth un o'r band.) Elli di 'i strejio hi dipyn. (Mae meic yn codi'r frawddeg i fyny.) Dam!



Mae'n troi'r meic y ffordd arall. Ar yr un pryd, mae Deiniol yn ceisio tynnu ei drowsus, ond yn cael cryn drafferth i gadw cydbwysedd. Mae Elin a Sera yn ceisio'i wisgo. Daw Mici Tiwdor, y gath, i mewn.

Mici

Alla i fod o help?

Deiniol

Gelli! Dos i ddal llygod bach. (Mae'n chwerthin yn uchel am ben ei jôc ei hun.)

Mici

Ydi o 'di bod ar y coco?

Deiniol

(Yn ymestyn at y botel.) Un joch bach ac mi fydda i'n iawn.

Sera

(Yn cipio'r botel.) Dim cythral o beryg, cefndar! (Yn rhoi'r botel i'r gath.) Ca' warad o honna!

Deiniol

Hold on, Defi John! (Yn cipio'r botel.) Sticia di at dy lefrith, y pwsi meri mew diawl!

Sera

(Yn gwylltio.) 'Ti'n gall?... Wyt ti'n blydi call? (Mae'n ailafael yn y botel.) 'Tisio colli dy job?

Deiniol

Mi'i colla i hi eniwê ar ôl heno. (Yn canu.) Mae'r sioe drosodd fy ffrind.

Elin

Belt?

Sera

Be'?

Elin

Lle mae'r belt piws 'di mynd?

Deiniol

(Yn canu.) Lle mae'r belt piws 'di mynd? Lle mae'r belt piws?

Mici

Ddaru o 'i daflu o yn y matiné.

Elin

Be' ti'n 'i feddwl─taflu?

Mici

Yn y ffinale─mi daflodd o'i felt i'r gynulleidfa.

Sera

Do, dwi'n cofio.

Elin

I be' nath o beth felly?

Deiniol

Ma'n nhw'n bwysig, dalltwch─nhw'n fan'na, ninna'n fan'ma─fy mhobol i! Mi fydda i'n rhoi rhyw swfanîr bach iddyn nhw weithia.

Elin

O, damia chdi.

Deiniol

Hebddyn nhw, dwi'n ddim!

Mici

Mae tocyn o feltia yn fy stafall i.

Elin

Gad i mi 'u gweld nhw. (Mae'n brasgamu allan gyda Mici yn ei dilyn.)

Sera

Nefoedd─ma' isio gras hefo chdi!

Deiniol

Dyro i mi sws. (Mae'n ymbalfalu amdani.)

Sera

Cad dy facha a rho hwn am dy ben. (Mae'n rhoi wig am ei ben.)

Deiniol

(Yn gafael amdani o gylch ei chanol a'i thynnu'n dynn ato.) Un bach!

Sera

Pam na wnest ti nghyfarfod i i de fel y gwnest ti addo, 'ta?

Deiniol

Sws!

Sera

Y babi gwirion! (Mae'n ildio ac yn nesáu at ei wefus, ond caiff lond trwyn o ogla wisgi.) Nefoedd yr adar─'ti'n drewi fel bragdy!

Deiniol

Dim isio fi, 'ta─dim isio fi... dŵad y gwir, rŵan, i ni gael dallt 'n gilydd.

Sera

Chdi ddaru ddim troi i fyny, llafn, nid fi!

Deiniol

Mi gysgis i, do!

Sera

Mi feddwist ti'n dwll.

Deiniol

Ro'n i wedi blino, 'to'n─ma' hi 'di bod yn sison calad, dallt.

Sera

Uffernol o galad, dd'wedwn i, ac ma' gin i hwn yn fan'ma i brofi, toes? (Mae'n rhoi ei llaw ar ei bol.)

Deiniol

Dwi'n gwbod... Blydi hel!

Sera

Be' dan ni'n mynd i'w neud, 'ta?

Deiniol

Clyw!... dwi wedi deud wrthat ti, do... dwi wedi... dwi wedi...

Sera

Deud y bydda i'n olreit... Do! 'Ti wedi deud hefyd dy fod ti'n mynd i ddeud wrthi hi.

Deiniol

Do! Dallt hynny─ac mi 'na i hefyd.

Sera

Cyn y noson ola─dyna ddudist ti.

Deiniol

Ac mi wna i, gwnaf─dwi wedi deud.

Sera

Ond ma' hi'n noson ola rŵan, 'tydi?

Deiniol

Ro'n i wedi meddwl deud wrthi ar ôl y matiné.

Sera

Ond mi est ti ar y botal.

Deiniol

(Yn gweiddi.) Do! Do! Blydi do!

Sera

(Yn gweiddi.) Be' dw i i fod i neud, ta?

Deiniol

Cau dy geg am chydig─taswn i'n cael chydig llai o hasyls gin ti.

Sera

Hasyls─be' ddiawl 'ti'n 'i feddwl?

Deiniol

Rho amsar i mi.

Sera

Mae o'n bedwar mis, wasi─mi fydd yma ym mis Mai.

Deiniol

Dydi o ddim yn hawdd, dallt─chwartar canrif o fyw hefo rhywun a deud dy fod chdi wedi rhoi bynsan ym mhopty Dick Whittington.

Sera

(Ar ôl saib o ddistawrwydd.) O! (Mae'n dechrau chwerthin.) 'Ti ddim yn gall, yn nac wyt... ti'n hollol boncyrs.

Deiniol

'Ti'n meddwl? (Mae'n dechrau chwerthin hefyd.)

Sera

Dic yn pregyrs a'i fam yn cael y bai.



Mae'r ddau'n chwerthin ac yna'n difrifoli.

Sera

Lle ma' hi rŵan?

Deiniol

Pwy?

Sera

Dy wraig di, pwy arall?

Deiniol

Yn yr hotel... mi gyrhaeddodd neithiwr.

Sera

Ac mi fydd yn y parti heno?



Cyn iddo allu ateb daw Elin Wyn i mewn gyda belt gwyrdd.

Elin

Ma' hwn yn clashio 'dwi'n gwybod, ond mi geith neud y tro.



Mae'n rhoi'r belt am ganol Deiniol. Daw Maldwyn Evans i mewn yn nerfau i gyd.

Maldwyn

Reit! Dwi wedi newid y dechra.

Deiniol

Gwatsia di rŵan, 'y ngwas i. Mi gei di berfformiad heno y gnei di'i gofio am byth.

Maldwyn

(Wrth Sera.) Ar ôl yr agoriad, dwi am i chdi ddeud wrth y gath...

Deiniol

(Yn gweiddi.) A dyma chi unwaith eto, y feri dyn... a'r unig un─Robert Deiniol.

Maldwyn

'Nei di gau dy hopran! (Yn troi yn ôl at Sera.) Dwi am i ti ddeud wrth y gath... "O, 'di Mam ddim yma!"

Sera

(Yn ailadrodd.) "O, 'di Mam ddim yma!"

Deiniol

(Yn clywed hyn.) Y?

Maldwyn

Mi ddudith y gath 'Miaw'─ne' 'Pyrr'... ne' rwbio... ne' beth bynnag uffern liciwch chi...

Deiniol

Hei! Hold on am funud...

Maldwyn

(Yn anwybyddu Deiniol yn llwyr.) 'Gei di ddeud wedyn... "Falla 'i bod hi 'di cael 'i dal yn rhwla."

Deiniol

Dal yn lle... hei... gwranda'r weiran gaws...

Maldwyn

Dos yn syth wedyn i'r gân gynta.

Deiniol

Pa gân gynta?

Sera

Ia, ond sut gallai..?

Deiniol

'Ti'n boncyrs ne' rwbath─fedar hi ddim canu'r gân gynta.

Maldwyn

Wel, ma' hi'n mynd i blydi gneud heno, llafn, gydag arddeliad.

Sera

'Ti'n deud 'mod i yn mynd i...

Deiniol

Ond fedar hi ddim canu 'nghân i.

Maldwyn

Dwi ddim yn sôn am dy gân di.

Deiniol

Ond dyna'r gân gynta.

Maldwyn

Dim heno... 'i chân gynta hi dwi'n 'i feddwl.

Sera

Ia, ond...

Deiniol

Ond ma' honno'n dŵad yn syth ar ôl i mi waldio Dic a rhoi cic i'r gath, tydi... dwi o gwmpas 'y mhetha, dallt... paid â meddwl 'mod i'n dwlali tap... a 'di chân hi ddim yn mynd i neud sens, nac 'di, os na welith pawb mam Dic yn rhoi harnis iddo fo... ma' rhaid iddyn nhw 'ngweld i'n cam-drin yr hogyn.

Sera

Ma' gynno fo bwynt yn fan'na.

Maldwyn

Wnaiff o fawr o wahaniaeth... ma' cân Dic yn deud dy fod ti'n greulon, 'tydi?

Sera

Iawn!

Maldwyn

A dyna pam mae o'n 'i heglu hi i Lundain p'run bynnag.

Sera

Ma' hynny'n ddigon gwir.

Deiniol

Bolocs!

Maldwyn

Hi sy'n canu gynta.

Deiniol

Fi sy'n canu gynta, wasi bach... fi ma'n nhw'n 'i weld gynta ar y llwyfan 'na─ma' hynny yn 'y nghontract i, swîti pei!

Maldwyn

Ydi o yn dy gontract di hefyd y gelli di fynd allan ar y llwyfan 'na'n feddw dwll beipan?

Deiniol

Gwatsia di be' 'ti'n 'i ddeud, coc oen... (Mae'n siglo.)

Sera

Fedri di ddim sefyll yn iawn heb sôn am actio. (Mae'n troi at Maldwyn.) Reit, ar ôl yr intro, tipyn o ad-lib ac yn syth i'r gân gynta.

Deiniol

Dim tra bydd chwythiad yno i─mi ddo i allan pan dwi i fod... ac os trïwch chi newid petha─mi sincia i'r lot ohonoch chi... mi a'i allan i fan'na a'ch gneud chi'n sbort... Fedra i drin cynulleidfa, dallt... (Yn torri gwynt.)

Sera

Sglyfath!



Daw'r Cynorthwy-ydd llwyfan i mewn gyda myg a jygiad o goffi.

Deiniol

Mi fedra i 'u cael nhw'n fan'na, dalltwch... (Yn dangos cledr ei law.) Mi o'n i ar y styllod 'na cyn dy fod ti o dy glytia, ledi myc. (Yn cyfeirio at Sera.)



Mae Maldwyn yn cymryd y jygiad coffi a'r myg a'u rhoi i Elin.

Maldwyn

Stwffia hwnna i lawr 'i gorn claga fo─falla sobrith o ddigon i'r drydedd sgets. (Mae'n troi at y Dyn Llwyfan.) Reit! Munud i'r codi! (Mae'r Dyn Llwyfan yn mynd.)

Deiniol

A be' mae o'n mynd i'w ddeud─'ti 'di meddwl am hynny?

Maldwyn

Pwy 'di o?

Deiniol

Yr awdur, mêt. Be' mae o'n mynd i'w neud pan glywith o dy fod ti'n poitsian 'i sgript o?

Maldwyn

Clyw! Doedd hwnnw ddim yn nabod 'i sgript 'i hun y noson gynta─heb sôn am be' dach chi 'di neud iddo fo wedyn.

Deiniol

A be' am y cynhyrchydd? Mi eith hwnnw i fyny'r wal pan dduda i wrtho fo.

Maldwyn

(Yn gwylltio.) Mi geith hwnnw fynd i fyny unrhyw wal mae o isio. Fi sy wedi dal y sioe 'ma wrth 'i gilydd am y tri mis dwytha. Fi, dallt! Fi sy wedi gorfod delio hefo'ch tantryms chi. Fi sy di gorfod chwysu trwy pob creisys... a be' mae o'n 'i neud?... Dŵad wrtha i... gwneud blydi ffilm i S4C ar gweirio moch bach a ballu. Os dudith y bastard bach diegwyddor hwnnw air wrtha i, mi setla i o unwaith ac am byth hefo C.C.C. Chaiff o ddim digon o grant i gynnal penny reading... (Mae'n troi i fynd ond yn aros yn y drws a throi i wynebu Deiniol.) Ac os ei di'n agos i'r llwyfan 'na cyn y drydedd sgets... ne' os gnei di rwbath fydd yn stompio petha... mi fyddi di'n chwara extra yn Pobl y Cwm weddill dy oes!



Mae'n stompio allan a chroesi'r llwyfan panto. Gwelwn ef yn rhoi arwydd i'r band sydd, yr eiliad honno, yn cynyddu i ryw fath o ffanffer terfynol. Rhydd Maldwyn arwydd i'r tair dawnsferch ac y mae'r rheini'n cymryd eu lle. Mae'n rhoi un ciw arall ac fe gyfyd y llen ar y panto. Cynydda'r golau yn y rhan yma o'r llwyfan yr un pryd. Cawn y ddawns agoriadol yn awr.

Tra bo'r ddawns agoriadol yn digwydd, gwelwn Elin Wyn yr un pryd yn ceisio cymell Deiniol i yfed ei goffi. Mae'n amlwg o'i ystumiau ei fod yn casáu ei flas.

Deiniol

Oes rhaid i ni gael hwnna mor uchel?



Mae Elin yn troi botwm y speaker sydd yng nghornel y Stafell Newid. Fel y gwna hyn, mae'r golau a'r gerddoriaeth yn pylu ar y llwyfan panto.

Deiniol

Ma' 'mhen i fel bwcad!

Elin

Mi fasa'n help 'tasat ti'n yfad y coffi 'ma.

Deiniol

Gas gin i'r dŵr golch!

Elin

Ond mi helpith di i sobri─mi sobri rywfaint, gnei?

Deiniol

A! (Saib.)... ... 'sa siwgwr yn help, falla.

Elin

Ro'n i'n meddwl nad oeddat ti ddim yn cymryd siwgwr.

Deiniol

Gas gin i'r sglyfath─gas gin i goffi'n fwy.

Elin

Nefoedd. Dria i rwbath.



Mae'n cerdded allan o'r ystafell i nôl siwgr. Cyn gynted ag yr â Elin Wyn o'r stafell, mae Deiniol yn tynnu hanner potel arall o wisgi o guddfan y tu ôl i lyfrau neu rywbeth cyffelyb.)

Deiniol

Os mêts. (Mae'n rhoi cusan i'r botel.)



Gwelwn Deiniol yn awr yn tollti joch dda o wisgi i'w fyg coffi a'r gweddill i'r jwg coffi. Cymer gegiad o'i fyg ac yn awr daw gwên fawr dros ei wyneb. Y foment hon, daw Elin i mewn.

Deiniol

(Y wên yn diflannu.) Ych-a-fi!

Elin

Dim ond siwgwr lwmp ges i. (Yn cynnig llond dwrn iddo.)

Deiniol

O! Fedra i ddim diodda siwgwr lwmp... mi gymera i'r llall ar binsh... ond byth siwgwr lwmp.

Elin

Sdim gwahaniaeth, y diawl gwirion.

Deiniol

O, oes... o, oes ma' 'na. Ma' un yn sgwâr, 'tydi, ond ma'r llall yn betha bach, bach, bach crwn.

Elin

(Yn chwerthin.) Ond 'run 'di'r blas.

Deiniol

I bobol gyffredin, ia, falla... ond i'r conisiwar ma' 'na betha... prun bynnag. (Mae'n cymryd swig arall.) Tydi hwn ddim mor ddrwg bellach... 'di dŵad i arfar â'r piso dryw, falla... ond ma' rhaid i mi drio, 'toes─ma' rhaid i mi drio'i gael o i lawr.

Elin

Wel, diolch am rywfaint o sens o'r diwadd.

Deiniol

(Yn tollti llond ei fyg o'r jwg.) Pawb â'i aberth... (Mae'n codi'r jwg i'r awyr yn awr.) Hir oes i'r achos dirwestol!

Elin

'Na welliant─mi sobri di drwyddat ar ôl panad ne' ddwy o hwnna.

Deiniol

'Ti'n deud! (Mae'n cymryd swig arall.)

Elin

Damia!

Deiniol

Damia be'?

Elin

'Ti ddim yn gneud y sgets gynta rŵan, nac wyt?

Deiniol

(Yn gwgu.) Nac dw─y llinyn trôns diawl!

Elin

(Yn codi i nôl y dillad.) Dach chi'n fy nrysu i'n lân efo'ch giamocs─'tisio het a siôl i'r drydedd sgets.



Mae'r ddawns yn dod i ben a daw Dic a'r Gath i'r llwyfan. Gwelwn Deiniol yn troi'r speaker i fyny.

Elin

(Yn ceisio rhoi'r het am ei ben.) Aros yn llonydd.

Deiniol

Neith y peth ddim gweithio heb 'y nghân i, dwi'n deud wrthat ti. (Mae'n tynnu'r wig dros ei lygaid.)

Elin

(Yn sythu'r wig.) Nefoedd, ma' isio gras.

Dic

(Yn cario beth wmbredd o goed tân.) Dyma'r coed, Mam. (Mae'n edrych o gwmpas.)... O, di Mam ddim yma, pws.

Deiniol

Nac di'r sguthan─dwi'n fan'ma!

Dic

(Yn rhoi'r coed i lawr wrth y lle tân.) O, be wnawn ni, pws?... ma' hi mor greulon hefo ni.

Pws

Miaw!

Dic

Gweithio ni fel caethweision â'n curo ni.

Pws

Mi-a-w!

Dic

Mi oedd fy mam go iawn i mor garedig. O! Biti bod 'nhad wedi priodi wedyn ar ôl iddi farw o'i gwaeledd hir.

Pws

Mi-a-w!

Dic

A biti 'i fod ynta 'di cael ei saethu yn y rhyfel mawr tra'n ymladd dros ei wlad a'r brenin.

Pws

Mi-a-w!

Dic

O, pws, be' wnawn ni? |

Deiniol

Canu, i ni gael y peth drosodd.

Dic

Petai hi ddim mor drwm ar y botal.

Deiniol

Y?

Dic

Ma' hi'n feddw hannar yr amsar.

Deiniol

Glywist ti hynna?

Elin

(Yn ceisio pinio'r siôl.) Clwad be'? Sa'n llonydd.

Deiniol

'Di hwnna ddim yn y sgript... creulon ia, ond dim meddw─'di 'meddw' ddim yn y sgript o gwbwl.

Dic

Ma' hi 'di mynd yn ddwy botal o wisgi'r dydd, pws.

Deiniol

Hold on!

Dic

Dwy botal o ddiod gadarn felltigedig.

Deiniol

Ia... ond dwy hannar... dwy hannar potal... a dim ond pan fydda i'n...

Elin

(Yn cael trafferth gyda'r siôl.) Sa'n llonydd!

Dic

Fedar hi ddim gneud hebddo fo bellach, pws bach.

Pws

O...mi...a...w!

Dic

Y wisgi sy'n rheoli 'i fywyd o... (mae'n sylweddoli ei bod wedi gwneud camgymeriad) ym... hi.

Deiniol

A... ha... ha... clyfar... fi fawr faglodd... paid â galw fo ar dy fam!

Dic

O, pwsi, pwsi, pwsi!



Mae hyn yn giw i'r band ddechrau ar yr intro i'r gân.

Dic
(Llwyfan.)
O, pwsi bach be' wna i?
Mae'r byd yn greulon iawn,
Y fi sy'n gorfod diodda
Bob tro ma' hi/Mam yn llawn.



Mae Dic yn rhoi mwythau i'r Gath yn ystod y gerddoriaeth rhwng y penillion.

Deiniol

(Yn ei stafell.) Ma' hi 'di newid y blydi cân hefyd─

'Y fi sy'n gorfod diodda
Bob bora a phrynhawn.'

Dyna oedd y geiria i fod─sdim byd am y fi yn llawn.

Elin

Wnes i 'rioed ddallt hynny, eniwê─pam 'bore a phrynhawn'? Oedd o ddim yn diodda yn y nos, 'ta?

Deiniol

Mi ca' hi am hyn!

Elin

Yn y nos dwi'n diodda fwya, yn enwedig hefo ffernols boncyrs fel chi heb barch at ddyn nac anifail.

Dic
(Llwyfan.)
Mae'n gaddo petha, pwsi
I mi bob awr o'r dydd.

Deiniol

(Stafell.) Gaddo, dim, dallt─uffar o ddim.

Dic
Ond torrodd bob addewid
Mi gollais i bob ffydd.

Deiniol

(Stafell.) Dim dyna'r geiria o gwbwl─ma'r hulpan 'di mynd rownd y twist─colli 'i marblis i gyd!

Elin

Cau dy geg ac yfa'r coffi 'na.

Deiniol

Desu, gnaf. (Yn cymryd llwnc mawr o'i goffi.)

Dic
(Llwyfan.)
Ond mynd a wnaf i Lundain
A ddoi di gyda mi?
Aur pur yw'r palmant yno
Gwell byd i ti a mi.

Deiniol

Ia... dos... mi geith ganu grwndi i ti ar hyd y ffordd... ewch! (Mae'n rhuthro i'r esgyll yn awr─nid yw hyn ond drwy'r drws a throi i'r chwith.)

Elin

Dwi'n ildio. (Mae'n eistedd a thanio sigarêt.)

Dic
(Llwyfan.)
O, pwsi─rwy'n dy garu.
(Mae'r Gath yn rhwbio'i phen yn erbyn cluniau Dic.)

Deiniol

(Esgyll.) Y bastard bach blewog...

Dic
(Llwyfan.)
Sneb arall yn y byd.
(Mae Dic yn rhoi mwythau i ben ôl y Gath.)

Deiniol

(Esgyll.) Slwt!

Dic
(Llwyfan.)
Yn malio dim amdana i
Fel ti─o hyd! o hyd!
(Mae Robert Deiniol yn awr yn rhuthro'n ôl i'r Ystafell Newid.)

Deiniol

Welist ti hynna, 'ta?

Elin

Welis i be'?



Yn ystod hyn i gyd, mae Dic yn cerdded o'r llwyfan yn benisel o drist gyda'r Gath yn ei ddilyn. Daw Dawnswyr yn ôl i'r llwyfan yn awr i ddawnsio'n dawel a gwneud ambell dric acrobatig.

Deiniol

Be' oedd hi a'r gath yn 'i neud?

Elin

Beth bynnag oeddan nhw'n 'i neud, ma'n nhw wedi 'i neud o drw'r tymor.

Deiniol

Ond nid fel heno─ma'r Mici Tiwdor bach 'na rêl sglyfath.

Elin

O! sbïwch pwy sy'n cael cynhyrfs!

Deiniol

Dim bod ots gen i, dallt─malio dim blydi botwm corn.

Elin

Wrth gwrs dy fod ti'n malio.

Deiniol

Pam ddylwn i?

Elin

Malio nes bod dy geillia di'n sgrytian.

Deiniol

Malio dim ffuan, dallt.

Elin

Dyn o dy oed ti.

Deiniol

Be' ti'n 'i feddwl?

Elin

Ti'n gwbod be' dwi'n 'i feddwl─digon hen i fod yn dad iddi.

Deiniol

Be' 'ti'n drio 'i ddeud, 'ta... be' 'ti'n 'i awgrymu?

Elin

Dwi am ga'l gorffan dy wisgo di?

Deiniol

Na... na... be' 'ti'n 'i feddwl 'mod i'n ddigon hen i fod yn dad iddi?

Elin

Mi rwyt ti'n dwyt, dros dy hannar cant, a hitha prin allan o'i chlytia.

Deiniol

Ia... iawn... ond pam fi? Ma' digon arall yn y lle 'ma sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi... be' sgin..?

Elin

Ond dim ond chdi sy'n 'i ffwcio hi!



Mae'n pwysleisio bob gair. Mae saib hir o ddistawrwydd yn awr.

Deiniol

Yli... gwranda... dallta... nefoedd... ma' 'na ffasiwn beth ag enllib... gwatsia be' 'ti'n 'i ddeud.

Elin

O, wasi─paid â chwythu gasget... ma' pawb yn gwbod─'ti'n meddwl 'n bod ni'n blydi dwl?

Deiniol

Reit. Pwy ydi pawb? Dwi isio gwbod. Enwa pawb sy'n cario straeon. Pwy ydyn nhw?

Elin

Yn union fel dudis i─pawb!

Deiniol

Pawb?

Elin

Wel, pawb yn fan'ma─ma'ch tricia chi mor uffernol o hen ffash... dwi ddim yn blydi ffŵl, dallt. Dwi 'di cael 'n siâr yn y busnas yma fy hun. (Mae'n gwenu.) Robin Hood! Cofio cael uffar o affair unwaith hefo Friar Tuck... ond ro'n i'n gwbod, dallt, bod mei nabs yn cael 'i damad 'run pryd hefo Robin Hood. Pawb yn y bar yn 'i slochian hi... a hi wedyn, Robina Hwdina, yn codi. (Mae'n dynwared yn awr.) "O, hogia bach, ma' hi wedi bod yn ddiwrnod hir─rwy'n credu'r a' i i'r gwely." Fynta wedyn yn methu dal mwy na thri munud fel titha. "Ia wel, dwi'n credu yr a' inna i 'ngwely hefyd." Dy wely di o ddiawl!

Deiniol

Be' 'ti'n 'i feddwl?

Elin

'Ti'n gwbod lle'r oeddat ti'n mynd... mi oedd pawb yn gwbod lle'r oeddat ti'n mynd.

Deiniol

'Ti'n mynd yn rhy bell... un gair arall...

Elin

Pam dach chi'n dŵad i'n gwely ni'r genod bob amsar? Dach chi ofn i rywun arall droi i fyny i'ch stafall chi ne' rwbath? Dach chi ofn cael copsan yn y llorpia? Dan ni'n gwbod be' oedd yn digwydd, Falentino?

Deiniol

Yli─ ti'n gwbod sut ma' actorion am gario straeon, 'dwyt?

Elin

Fo gwelodd di gynta.

Deiniol

Pwy fo?

Elin

Miaw!

Deiniol

Y bastard─ma'r Mici Tiwdor 'na â'i gyllall ynai o'r dechra... 'ti ddim yn dallt hynny?

Elin

Ac mi welodd amryw arall chdi'n sleifio i'w stafall hi wedyn!

Deiniol

Fel pwy? Dŵad wrtha i. 'Swn i'n licio gwbod pwy.

Elin

Fi!

Deiniol

Chdi?

Elin

Fi! A dy weld ti'n sleifio allan wedyn lawar bora fel rhyw gi 'di bod yn lladd defaid.

Deiniol

(Ar ôl saib hir.) Dwi wedi bod yn 'i stafall hi weithia, do.

Elin

Droeon!

Deiniol

Trin sgript a ballu.

Elin

Mwy o'r 'ballu' ddwedwn i.



Daw Maldwyn i mewn ac mae Deiniol yn troi ei gefn ato i sipian ei goffi.

Maldwyn

Sut mae o rŵan?

Elin

Fel y gweli di o.

Maldwyn

Ydi o 'di yfad 'i goffi?

Elin

Mygeidia o'r sglyfath!

Maldwyn

(Wrth Deiniol.) Ti'n ffit?

Deiniol

(Yn ffyrnig.) Gwranda, coc oen! 'Tharith dy droed di ddim llwyfan theatr byth eto. Mi riportia i di i Equity, Writers' Guild, ac ACTT, dallt. Rhag ofn dy fod ti'n bwriadu gweithio i Barcud ne' ryw wancyrs bach annibynnol tebyg. Mi ca' i di, dallt. Mi gorffenna i chdi unwaith ac am byth!

Maldwyn

(Wrth Elin.) Roist ti goffi iddo fo?

Elin

Dwi 'di deud wrthat ti─mae o 'di yfad fel ych ar dranc.

Maldwyn

Ond mae o'n waeth rŵan nag oedd o gynna.

Deiniol

Ac mi wn i be' 'ti'n trio'i neud, wasi─o gwn. Paid ti â meddwl 'mod i'n dwp. Ches i ddim coleg drama fel y gweddill ohonach chi, ond dwi'n dallt, dallt.

Maldwyn

Wnaiff o byth y sgets nesa...

Deiniol

Fi i gario'r bwcad olch! Dyna'r sgîm, 'te? Ma'r tŷ wedi bod yn hanner gwag ers wsnosa. Rown ni'r bai ar Deiniol. Fo 'di'r drwg. Fo sy'n cambyhafings ac yn llawn o lysh. Ond dwi ddim am fod yn fwch dihangol i ryw wancyrs fel chi, dalltwch!

Elin

Mae o 'di mynd, dwi'n meddwl. Honci ponci pw!

Maldwyn

Ond ma' rhaid iddo fo ddal Dic yn y goedwig a mynd â fo'n ôl.

Deiniol

Ac mi 'na i 'i ddal o hefyd─yr hen slwt fach iddi. Glywist ti'r ad-libio gynna fel gweinidog sasiwn. Cheith hi ddim gneud hynna eto. (Mae'n cerdded at y drws.)



[Gweddill yr act gyntaf i'w ychwanegu]



a1