a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 2, Golygfa 2

Golygfa 2
—WIL BRYAN yn adrodd wrth RHYS LEWIS ei hanes yn glanhau y cloc, ac yn rhoddi cynghorion iddo ar bregethu.
—JAMES yn hysbysu RHYS fod ei dad wedi marw.

Rhys

Dacw Wil Bryan yn dwad. Welodd o mona i. Mi drof yn f'ol. Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach. Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da. Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr. Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd, paham yr wyf yn ei osgoi.

Wil

Holo! yr hen fil blynyddoedd! Sut sy ers cantoedd? Roeddwn i just a meddwl dy fod ti wedi mynd i'r nefoedd, ond y mod i yn credu na faset ti ddim yn mynd heb ddeyd goodbye wrth dy hen chum. Honour bright, rwan! Ydi'n ffaith dy fod di wedi cael diwygiad, ne ymweliad, ne be maen hw yn 'i alw fo? Wyst ti be? 'Rydw inne yn ddigon parod i fynd i'r nefoedd, ne' at y sowldiwrs, waeth gen i p'run, achos 'rydw i wedi glân flino gartref acw. Mae acw andros o row wedi bod yr wsnos yma, a hynny am ddim byd just, a dydw i ddim am ddiodde chwaneg o humbug.

Rhys

Beth oedd yr helynt, Wil?

Wil

Wel, mi wyddost am yr hen gloc wyth niwrnod sy yn y gegin acw? Roedd tipyn o natur colli yno fo yn ddiweddar,—a fault, by the way, not entirely unknown amongst other orders of swperior creatures. Yr oeddwn i yn credu o hyd y medrwn i ei giwrio fo bydaswn i yn cael amser, er na fues i 'rioed o'r blaen yn trio glanhau cloc, achos mi wyddost nad ydw i ddim yn un dwl at rywbeth felly. Wel i ti, mi aeth yr hen bobol i ffair Wrexham, with strict injunctions that Will, in the meantime, should diligently apply himself to weighing and wrapping sugar, which occupation the said Will considered unworthy of his admitted abilities; and the said Will, following his more congenial inclination, betook himself to clock cleaning, thinking that thereby he did not waste valuable time by putting the timekeeper to rights. Ond yr oedd hi yn fwy o job nag oeddwn i wedi feddwl, wel di; achos wrth 'i dynnu o yn dipia, yr oeddwn i yn gorfod gneyd notes o ble yr oedd pob darn yn dwad, ac i bwy 'roedd o yn perthyn. Ar ol i mi'i lanhau o i gyd, a rhoi tipyn o fenyn ar bob olwyn, screw a bar—doedd ene ddim oil yn y ty—'roedd hi wedi mynd ymhell i'r p'nawn, er i mi fod heb fy nghinio rhag colli amser, ac yr oedd hi yn hen bryd dechre ei roi o wrth 'i gilydd cyn i'r gaffer ddwad adre o'r ffair. So far,—good. Ond pan es i ati i roi yr hen wyth niwrnod yn 'i gilydd, ac i gonsyltio fy notes,—welaist ti 'rioed shwn beth,—roeddwn i 'run fath a Mr. Brown, y person, yn ffilio dallt fy notes fy hun! Ond mi ddysges hyn,—y dyle dyn sy'n mynd i lanhau clocie, 'run fath ag i bregethu, ' fedryd gneyd y job heb notes. Welest di 'rod'shwn helynt ges i. Ond rhaid i ti gofio y mod i yn labouring under great disadvaniages, achos cyllell ac efel bedoli oedd y nhŵls i. 'Roeddwn i yn chwys diferol rhag ofn y base yr hen Daith y Pererin yn dwad adre o'r ffair cyn i mi roi yr hen gloc wrth i gilydd. However i ti, mi weithies fel black, a mi ces o wrth 'i gilydd rywsut. Ond yr oedd gen i un olwyn yn spâr, na wyddwn i yn y byd mawr lle 'roedd o i fod, na be i neyd â fo, a mi rhois o yn y mhoced. (yn dangos yr olwyn) Wel, iti, mi 'sodes yr hen wyth yn 'i le, a mi weindies o, a'r peth cynta naeth my nabs oedd taro i lawr hyd i'r gwaelod. Mi darodd filoedd ar filoedd, a mi 'roedd swn y gloch yn y mhen i wedi ngneyd i reit syn; ac 'roedd o'n gneyd ffasiwn row fel yr oeddwn i yn ofni i'r cymdogion feddwl fod merch y Plas yn mynd i'w phriodi! Ar ol iddo daro gymin a fedra fo, y peth nesa naeth my nabs oedd stopio yn stond. Wrth i mi ddal ati i bwtian y pendil yr oedd yr hen wyth yn mynd yn go lew, ond gynted y stopiwn i bwtian, mi stopie fynte fynd. A deyd y gwir i ti, mi chwerthes nes oeddwn i yn rholio,—fedrwn i ddim peidio bydase rhwfun yn fy lladd i. So here endeth a true account of the clock-cleaning. Bul wait a bit. Toc i ti, fe ddaeth yr hen bererinion adre o'r ffair, a'r peth cynta naeth y mam oedd edrach be oedd y gloch. Roeddwn i wedi trio gesio faint o'r gloch oedd hi, a rhoi'r bysedd yn o agos i'w lle, bygswn i. Ond fe spotiodd yr hen wraig fod yr hen gloc wedi sefyll, a medde hi, "Be sy ar yr hen gloc yma, William?" "Ydi o wedi stopio?," medde finne. "Ydi, debyg, er's dwyawr, medde hithe, a mi roth bwt i'r pendil. Yr oeddwn just a marw eisio chwerthin. "Be-sy-ar-yr-hen-gloc-yma?," medde'r hen wraig wedyn, a mi roth shegfa iddo fo, fel y gweles di rai yn trio deffro dyn meddw wedi cysgu ar ochr y ffordd. Er mwyn i mi gael esgus i chwerthin, ebe fi, "Yr ydw i'n mawr gredu, mam, fod cwlwm ar 'i berfedd o, run fath a hunter gwr y Plas, a bydd raid i ni ei saethu o neu 'i agor o". Ond dyma'r forwyn i fewn, ac yn splitio'n syth mod i wedi bod drwy'r dydd yn glanhau yr hen wyth. Wel, weles di 'rod'shwn row. Mi ath y mam yn yfflon, a'r gaffer yn gynddeiriog. Yr ydw i'n mawr gredu y base yr hen law yn leicio rhoi cweir i mi, ond mi wydde na fedra fo ddim. And Will went to his boots. Drannoeth mi ddaryn yru am Mr. Spruce, y watchmaker, i roi'r hen wyth niwrnod i fynd; ond mi wyddwn na fedre fo ddim, achos 'roedd un olwyn ym mhoced Wil, a mi gafodd Wil ei revenge. "Give it up," ebe'r hen fenspring. Ond pan gaiff y chap yma gefn yr hen bobol am chwe awr, mae o'n bound o neyd gwyrthiau ar yr hen wyth niwrnod. Wel, dyna fi wedi deyd fy helynt i ti. Ond honour brigh, ydi'n ffaith fod ti wedi d'aileni?

Rhys

Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen? Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg. Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil?

Wil

Go on efo dy bregeth; "ni a sylwn yn yr ail le," dywed.

Rhys

Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar.

Wil

Wel, os nad pregeth ydi hi, mi glywis i salach lawer gwaith. Ond i fod yn sad; 'roeddwn i wedi spotio er's tipyn dy fod wedi mynd i'r lein yna, a mi ddeudis hynny wrthat ti, onid o?

Rhys

Do siwr.

Wil

Roeddat ti'n meddwl y baswn i'n gneyd sport am dy ben di. Far from it. Mae'n dda gan 'y nghalon i dy fod wedi cael tro. 'Rwyt ti am fod yn bregethwr, yn 'dwyt ti.



RHYS yn ysgwyd ei ben.

Wil

Waeth i ti heb ysgwyd dy ben, pregethwr fyddi di. Mi wyddwn pan oeddat ti'n kid mai dyna fyddet ti, a mi rof air o gyngor i ti. Wel, cofia fod yn true to nature. Ar ol i ti ddechreu pregethu, paid a newid dy wyneb a dy lais a dy got cyn pen y pythefnos. Os gnei di, mi fydda i'n bound o dy hymbygio di. Paid a thrio bod yn rhywun arall, ne fyddi di neb. Wyst ti be, mae ene ambell i bregethwr fel ventriloquist,—pan fydd o yn y ty, mae o 'run fath a fo'i hun; ond pan aiff o i'r pulpud, mi dynget mai rhwfun arall ydi o, a mae y rhwfun arall yn salach na fo'i hun, achos tydi o ddim yn true to nature. Paid a chanu wrth ymresymu, 'run fath a phydaet ti ddim yn dy sens, achos dydi'r ffaith dy fod ti yn y pulpud ddim yn rhoi licence iti fod yn wirionach nag yn rhywle arall. Pan ' fyddi di yn bregethwr, a mi 'rwyt yn bound o fod, (RHYs yn ysgwyd ei ben) waeth i ti heb ysgwyd dy ben,—paid a chymryd arnat fod ti yn fwy duwiol nag wyt ti, ne' mi fydd gan blant dy ofn di. Wyst ti be, 'roedd ene bregethwr yn lodgio yn ein ty ni y Cyfarfod Misol dweutha, a 'roedd gen i ofn o drwy nghalon. Roedd o'n reit iach, ac yn byta yn riol, ond 'roedd o'n ochneidio fel bydase'r ddannodd arno fo o hyd. Roedd o 'run fath a bydase geno fo blât arch ar 'i frest o hyd, a 'roeddwn i fel bydaswn i mewn claddedigaeth tra bu o acw. Mi gymra fy llw y baswn i yn fwy hy ar yr Apostol Paul pe basa fo acw. Doedd o ddim yn true to nature, wyddost. Os byddi di eisio rhoi rhyw airs fel yna i ti dy hun, cadw nhw nes byddi yn y ty 'rwyt yn talu rhent am dano fo. Cofia fod yn honourable. Pan fyddi di yn lodgio yn rhywle, cofio roi chwech i'r forwyn, bydae gen ti 'run chwech arall, ne chredith hi 'run gair o dy bregeth di. Os byddi di yn smocio,—a mae y prygethwrs mawr i gyd yn smocio,—cofia smocio dy faco dy hun, rhag iddyn nhw rwmblan ar ol i ti fynd i ffwrdd. Wrth bregethu, paid a beatio gormod o gwmpas y bush,—ty'd at y point, taro'r hoelen yn 'i phen, a darfod hefo hi. Cofia fod yn true to nature yn y ty, ac yn y pulpud, ac os na fedri di neyd i bob one yn y capel wrando amat ti, rhoi fyny am bad job, a cher i werthu calico. Os byddi yn mynd i'r College,—a mi fyddi, mi wn,—paid a bod 'run fath a nhw i gyd. Mae nhw'n deyd fod y students 'run fath a'u gilydd,—fel lot o postage stamps. 'Treia fod yn exception to the rule. Paid a gadael i'r blaenoriaid dy gyhoeddi yn wr ieuanc o'r Bala. Pregetha nes byddan nhw yn dy gyhoeddi 'Rhys Lewis,' heb son o ba le 'rwyt ti'n dwad. Pan fyddi di yn y college, beth bynnag arall fyddi di'n ddysgu, stydia Nature, Literature, a Saesneg, achos mi daliff rheiny am 'u bwyd iti rw ddiwrnod. Os byddi di yn dwad yn dy flaen,—ac yr wyt ti yn bound o ddwad,—paid a llyncu poker, ac anghofio dy hen chums. Paid a gwisgo spectols i dreio rhoi ar ddeall dy fod ti wedi stydio mor galed nes colli dy olwg, ac i gael esgus i beidio nabod dy hen chums, achos mi ŵyr pawb mai fudge ydi'r cwbl. Paid byth a thori dy gyhoeddiad er mwyn cael chwaneg o bres, neu mi nei fwy o infidels nag o Gristionogion. Er mwyn popeth, paid a bod yn bregethwr cybyddlyd, a bedyddio dy hun yn ddyn cynnil. Honour bright! gobeithio na chlywa i byth hynny am danat ti. Mi fuasa well gen i glywed dy fod wedi mynd ar dy spri, na chlywed dy fod yn gybydd. Weles i 'rioed gybydd yn altro, ond mi welis ugeinie yn sobri. Mae o'n stranger than fiction i mi; bydaet ti'n mynd ar dy spri dim ond unwaith, mi dy stopien di i bregethu; ond bydae ti'n mynd y cybydd mwya yn y wlad, mi lowian di bregethu yr un fath. Old fellow, wyt ti ddim yn meddwl mod i'n rhoi cynghorion go lew i ti, a chysidro pwy ydw i? Does gan y Cyfarfod Misol mo'r courage i roi cynghorion fel 'rydw i wedi roi. Ond mi wela dy fod ar frys. Give us thy paw, and wire in, old boy.



Exit WIL BRYAN. Enter JAMES.

James

Holo, Rhys! Sut yr wyt ti? Be? Nei di ddim ysgwyd llaw efo mi?

Rhys

F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno. Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon. Gadewch i mi basio.

James

Be' sy arnat ti, fachgen? Be' wyt ti mor groes? Pam yr wyt ti yn fy nghashau i?

Rhys

Pam, yn wir! Gwyddoch yn burion. Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo. Chi ddysgodd fy nhad i boachio. Chi a'i dysgodd i segura. Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch?

James

Na hidia son am dy dad; mae o wedi mynd i ffwrdd.

Rhys

I ble? I'r Merica?

James

Na, i le cynhesach o lawer.

Rhys

Siaradwch yn eglur. Lle mae o?

James

Sut y medra i ddeyd wrthat ti? Fum i 'rioed ar y grounds lle mae dy dad 'rwan; y cwbwl fedra i ddeyd ydi fod o wedi cicio'r bwced.

Rhys

Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith?

James

Fu 'rioed well gwir. Mi yfodd ormod o wisci, a mi gafodd stroc. (RHYS yn ceisio pasio.) Aros! thales di ddim am y newydd eto.



RHYS yn taflu darn o arian iddo, ac yn ymadael.

James

Dau swllt! Ho! Dase'i le fo hefo Abel gen i, nid dau swllt faswn i yn fedru roi i mherthynasau.



Exit JAMES.

CURTAIN

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3