a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 2, Golygfa 3

Y TWMPATH—ETO.

Golygfa 3

TOMOS BARTLEY ar y fainc grydd; hen esgudiau o'i ddeutu.
MISS HUGHES yn eistedd, a BARBARA yn glanhau.

Miss Hughes

Mae Rhys yn hir iawn yn dwad.

Tomos

O, mi ddaw o yn y munud, gellwch fod yn dawel. Mi gawsoch golled fawr wrth golli yr hen 'Sergia Majiar'.

Miss Hughes

Do, wir. Barbara Wn i ddim be ddaw o honoch; wyddoch chi, Tomos? Rhaid i mi ymddiried yn Rhagluniaeth.

Tomos

Weles i 'rioed ddioni o'r stori ene. Mae Rhagluniaeth yn gyfalu am bawb ofalith am dano'i hun. Roedd yma ddyn yn byw yn y gymdogaeth yma ystalwm,—cyn i chi ddwad yma,—a 'roedd o dipyn o grefyddwr hefyd, y dyn mwya di-sut at fyw welis i 'rioed, a mi fydde fynte'n wastad yn son am i ni myddiried yn Rhagluniaeth. A wyddoch chi lle bu o farw? Yn wyrcws Treffynnon, poor fellow. Wel, dewch i mi fesur y'ch troed chi, Miss Hughes bach, i aros i Rhys ddod. (Yn mesur y troed.) Wel, ma' gynoch chi droed del,—y dela weles i erioed,—ond un.

Miss Hughes

Tybed, Tomos Bartley. Troed pwy oedd hwnnw ynte?

Tomos

Wyddoch chi ddim, Miss Hughes.

Miss Hughes

Na wn i 'n siwr. Sut y gwn i, 'n te?

Tomos

Wel, y troed arall sy gynoch chi, tw bi shwar!



Enter Rnys, i eistedd yn ymyl Tomos.

Tomos

Wel, y machgen i, ddoist ti? Barbara 'Steddwch, Rhys.

Miss Hughes

Na wir, rhaid i ni fynd. Tomos Dewch chi ddim nes y ca i dipyn o ymgom efo Rhys. Eistedd fan yna, Rhys.

Rhys

O'r gore, Tomos Bartley. Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld.

Tomos

Ie, tw bi shwar, trwsio 'sgidie rhwfun o hyd.

Rhys

Esgidie pwy yw y rhai yna?

Tomos

'Sgidie Wil Pont y Pandy, (gellir nodi unrhyw gymeriad lleol)—welest ti fath draed erioed, ma' nhw fel cwarter i dri, da 'i byth o'r fan 'ma! A 'rwyt ti wedi pendrafynu mynd i'r Bala? Wyst tí be, mi fydd yn chwith gynnon am danat ti, yn fydd, Barbara? (BARBARA yn modio)Bydd, tw bi shwar. Fum i 'rioed yn y Bala, a dydw i ddim yn 'nabod neb ono, ond y ddau ddyn sydd yn dwad yma ar y ffeirie i werthu 'sane, a dynion digon clen ydi'r dynion. Mi faswn i yn leicio yn anwedd gweld y Llyn y daru dyn hwnnw gered ar 'i draws pan oedd o wedi rhewi. Tro garw oedd hwnnw. Pan ddalltodd o be oedd o wedi neyd, mi fu farw ar y spot. Mi fydde nhad yn deyd am rwbath reit saff,—"Fod o can sowndied a chloch y Bala". Just cymer notis o honi hi pan ei di ono. Wyst ti be, pan glywn ni am cheap trip, hidie Barbara a finne 'run bluen pwyntydd a dwad i edrach am danat ti, a hidien ni, Barbara?

Rhys

Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn.

Tomos

Mi wn o'r gore y leiciet ti'n gweld ni. Oes yno lawer o honyn nhw, dwed, yn y Bala yn dysgu pregethu?

Rhys

Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley.

Tomos

O wel, wir, dwed di hynny, achos mi glywais i rai o honyn nhw a doeddwn i yn gweld dim byd ynyn nhw,—i nhast i Well gen i William Hughes, Abercwmant, na'r gore o honyn nhw. Ond dydw i ddim llawer o judge, tw bi shwar. Wel, be yn y byd mawr mae nhw yn ddysgu yno?

Rhys

Ieithoedd, Tomos Bartley.

Tomos

Hyhy! Pw ieithoedd, dwed?

Rhys

Lladin a Groeg.

Tomos

Hoho! mi gwela hi 'rwan,—rhag ofn y bydd raid iddyn nhw fynd yn fisionaries, ynte? Riol peth, yn wir.

Rhys

Nag ydw.

Tomos

'Roeddwn inne yn meddwl hynny. le, am yr ieithoedd 'roeddem ni yn son. Be daru ti galw nhw?

Rhys

Lladin a Groeg.

Tomos

Tw bi shwar,—Lladin a Groeg.

Rhys

Nage.

Tomos

Iaith pwy, ynte?

Rhys

O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd.

Tomos

Ieithoedd pobol wedi marw! Wel, be ar affeth hon y ddaear sy eisio dysgu ieithoedd pobol wedi marw? Gneyd sport o hono i 'rwyt ti, dwed?

Rhys

Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt.

Tomos

Wel, da i byth gam i geibio os clywais i ffasiwn beth. Gwneyd sport o hono' i wyt ti, Rhys, fel y bydde Bob dy frawd. Cymer di ofal. Beth arall mae nhw yn 'i ddysgu ono, dwed?

Rhys

Mathematics.

Tomos

Mathew Matic! Mi glywes son am Ned Matio, ond wn i ddim byd am Mathew, tw bi shwar. Be ydi hwnnw, dywed?

Rhys

Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly.

Tomos

Dene rwbath digon handi, a dene'r rheswm, ddyliwn i ti, fod cymin o brygethwrs yn mynd yn ffarmwrs ac yn shopwrs. Be arall ma nhw yn 'i ddysgu?

Rhys

Saesneg a Hanesiaeth.

Tomos

Eitha peth. Mae Saesneg yn useful iawn y dyddie yma, a peth digon difyr ydi Hanesiaeth. James Pwlffordd ydi'r gore glywis i 'rioed am ddeyd stori. Pan fyddwn i yn arfer mynd i'r tafarne, mi fyddwn yn dotio ato fo, a 'does dim gwell gen i glywed mewn pregeth na dipyn o hanes. Pan fydd Barbara a finne wedi anghofio'r bregeth i gyd, mi fydd gennom ni grap go lew ar y stori fydd y pregethwr wedi deyd, yn bydd, Barbara?—(BARBARA yn nodio).— Tw bi shwar. Tydw i ddim yn gweld y stiwdents 'ma yn rw helynt am stori chwaith. Yr ydw i'n gweld William Hughes, Abercwmant, yn llawn top iddyn nhw. Wyst ti be, mi ddeydodd William stori y tro dwaetha 'roedd o yma, am eneth fach yn marw, anghofia i byth moni hi tra bo chwythiad yno i. Bydaswn i'n marw ar y clwt, faswn i ddim yn medryd peidio crio pan oedd o yn 'i deyd hi. Ond dywed i mi, ddyliwn fod y ffâr yn go lew ono?

Rhys

Nid ydynt yn profeidio i neb. Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun.

Tomos

Wel, sut yn y byd mawr mae'r bechgyn yn cael profisiwns? Ydyn nhw yn cael hyn a hyn yr wsnos at fyw?

Rhys

Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno.

Tomos

Wel, da i byth i Ffair Caerwys os nad y College ydi'r lle rhyfedda y clywis i son am dano. Wyst ti be? Mae o'n taro i meddwl i 'r munud yma fod pob un weles i yn dwad yma o'r College i brygethu a golwg eisio bwyd arno fo, a dydi o ryfedd yn y byd, erbyn i ti ddeyd fel mae nhw'n managio yno. "Hwya bydd dyn byw, mwya wel, mwya glyw."

Miss Hughes

Rhaid i ni fynd, yn wir.

Tomos

Wel, na i mo'ch stopio chi bellach. Aros, dyma ti, gan dy fod di wedi pendrafynu mynd i'r College, os na fydd o'n ormod trafferth gynnot i'w gario, mi gei ddarn o'r norob 'ma a chroeso. Mi fydd gynnon ni ddigon wedyn.

Rhys

Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi.

Tomos

Wel, wel! Arnat ti mae'r bai. Mi wyddost fod iti gan' croeso ohono. Nos dawch.



RHYS yn ffarwelio â ToMos, a Miss HUGHES â BARBARA.

CURTAIN

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3