a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 3, Golygfa 1


ACT III

YMWELIAD TOMOS BARTLEY A'R BALA.

Golygfa 1
—Llety Rhys.
—TOMOS wedi cyd-deithio â'r students o Gorwen i'r Bala.—taro ar MR. WILLIAMS, cyd-letywr Rhys.
—RHYS yn dychwelyd o's gyhoeddiad, ac yn synnu wrth gyfarfod Tomos.
—Trawsfynydd.
—Hanes Morgan Llwyd.
—Tomos yn dweyd ei farn am y Bala, ac yn mynd am dro.
—WILLIAMS eisieu ei smyglo i'r class ŷr Coleg.
—RHYS LEWIS yn derbyn dau lythyr pwysig.


Enter WILLIAMS a TOMOS, a'i goler a's umbrella mawr, a'i barseli.

Williams

Wel, dyma ni o'r diwedd, Mr. Bartley.

Tomos

Tw bi shwar! Ond lle mae Rhys?

Williams

O, mi ddaw yn y munud. 'Steddwch i lawr.



Tomos yn dal y parseli. Enter y LETYWRAIG.

Williams

Dyma Mrs. Jones, gwraig y ty lodging.

Tomos

Sut yr ydach chi, etc?

Williams

Gwnewch fwyd i Mr. Bartley——

Tomos

O na, yn siwr; mi fytes i'r bara, a'r golwyth bacyn oedd Barbara wedi roi yn y mhoced i cyn cychwyn. Mi ges champion o bryd. Stwff wedi 'i besgi ar datws a blawd haidd, welwch chi.



Y LETYWRAIG yn ceisio cymeryd y parseli, TOMOS yn ei hatal. Exit LLETYWRAIG.

Tomos

A dene wraig y ty? Un glen anwedd ydi hi'n edrach. Mi glywes i James Pwlffordd yn deyd englyn i'r Bala o waith Robin Ddu: Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
A Llanfor eiff yn llyn.
ne rywbeth tebyg i hynne,—hwyrach y'ch bod wedi glywad o, Mr. Williams?

Williams

Do, neno dyn. (yn edrych drwy'r ffenestr) Dyma Rhys yn dwad.



Enter Rhys.

Tomos

Wel, fachgen? Sut yr wyt ti ers cantoedd â miloedd?

Rhys

Reit iach, Tomos. Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala?

Tomos

Tw bi shwar! Ond chwech o'r gloch bore heddyw, wel di, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y down i edrach am danat ti. Ond ddylies i 'rioed fod y Bala mor bell. Wyst ti be', mae ene gryn step oddacw yma; a roeddwn i'n meddwl fod ene dren ar hyd y ffordd; ond erbyn dallt, Corwen ydi'r stesion ola. Ond welest ti 'rioed mor lwcus fum i. Yng Nghorwen, mi ddaru Mr. Williams fy 'nabod i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngweld i yn y stesion acw, pan oeddat ti'n mynd i ffwrdd. A mi ges ride efo lot o stiwdents, a mi gawsom mygom reit difyr, ond do, Mr. Williams?

Williams

Campus.

Tomos

Tw bi shwar! Bechgyn clen ryfeddol yden nhw; ond 'rydech chi'n debyg i'ch gilydd,—yn od felly. Lle buost ti cy'd, dwad? Lle 'roeddat ti wrthi ddoe?

Rhys

Trawsfynydd.

Tomos

Trawsfynydd? Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd?

Rhys

Ië.

Tomos

Tw bi shwar! 'Roeddwn inne'n meddwl. Un garw ydi Morgan Llwyd. Mi fydda i'n wastad yn deyd, ydawn i'n hapno mynd i ryw drwbwl, mai Morgan Llwyd gymerwn. Glywsoch chi am y tro hwnnw yn Rhuthyn, Mr. Williams?

w

Naddo wir, Mr. Bartley.

Tomos

Naddo? Wel, mi ddeyda fo i chi,—mae o cyn wired a'r pader. Wel i chi, 'roedd ene ddyn,—adeg y Seisus oedd hi,—yn cael 'i dreial am ddwyn bacyn,—bacyn, dalltwch,—a 'roedd pawb yn ofni y cawse fo 'i dransportio. 'Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddi arno,—bacyn, cofiwch,—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio; a'r dyn, druan, wedi pluo Morgan Llwyd i 'myddiffyn o. Wel i chi, 'roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a 'roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y man, mi ddoth tyrn Morgan Llwyd,—a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynnodd iddo,—"Be' oedd o'n feddwl wrth facyn?" A 'be'r cigydd, "Bacyn ydi 'nhorob,—neu mochyn wedi 'i halltu a sychu,." "Tw bi shwar," ebe Morgan Llwyd; a mi alwodd y siopwr ymlaen, a mi 'fynnodd iddo fo, "Oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn,—a oedd o wedi halltu a sychu?" "Nag oedd," 'be'r siopwr. "Ffals deitment," 'be Morgan Llwyd; a mi 'nillodd y case yn syth! Un garw ydi Morgan Llwyd. Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan?

Rhys

Oes y mae, Tomos.

Tomos

Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be', fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma; agor y ffenest yne, Rhys. Dydi o ryfedd yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd,—does yma lwchyn o wynt. Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn room fechan fel hon, ar drws wedi'i gau, a dim ar affeth hon y ddaear yn'i, 'blaw bwrdd a chadeirie a llyfre,— rydach chi'n bound o golli'ch iechyd! Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod, mî fyddwn farw ar y spot. Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen? Wyt ti'n leicio dy le? Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed?

Rhys

Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi?

Tomos

Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti. Mae hi'n cael ei thrwblo yn anwedd gan y riwmatis, a phoen yn 'i lode, a mi ges scyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw. Mae hi yn cofio atat ti yn ods. Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain.

Rhys

Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos?

Tomos

Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn,—yn ol y meddwl i,—i dre wedi 'i bildio ar ganol cae. Sut ar affeth hon y ddaear na thorren nhw'r coed ene? Ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dwed? Weles i 'rioed o'r blaen res o goed mawr fel coed y Plas ar ganol stryt. Ond 'ddyliwn nad oes gynnoch chi 'run Local Board yma?

Williams

Mae pobol y Bala yn meddwl llawer iawn o'r coed, Mr. Bartley.

Tomos

Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, synnwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel. Ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw. Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am 'y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre? Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti amser?

Rhys

Oes debyg. Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd.

Tomos

Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn.

Rhys

Well i mi 'molchi.

Tomos

'Molchi! I be wyt ti isio molchi? Ond wyt ti fel pin mewn papur! Does yna yr un specyn arnat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed?

Rhys

Fydda i 'run dau funud. (Ymneillduo am funud.)

Tomos

Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma. Ches di ddim bwyd?

Rhys

Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen.

Tomos

Rhyd-y-fen? Lle mae fan honno, dywed? Ydi hi'n daith?

Rhys

Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog.

Tomos

Be, be? Ydyn nhw'n lowio i brygethwrs fynd i dyfarne yn y wlad ucha yma? Ond 'does dim harm yn y peth-ynddo'i hun, yn ol y meddwl i; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny.



Tomos yn tynnu y fowl a'r bacyn i Rhys.

Rhys

Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara.

Tomos

Mae i ti groeso, machgen i. (yn tanio ei getyn) Mi gychwynna i, fechgyn.

Rhys

Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos.

Tomos

Oes drwg am hynny? Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala?

Rhys

'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma.

Williams

Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley. Mae Rhys yn hynod o gysetlyd.

Tomos

Hy-hy! a finne'n clwad mai rhai garw oeddach chi am smocio; ond bid a fynno am hynny, chwedl y dyn hwnnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn ni. Mae gen i eisio gweld tri pheth,—Green y Bala, y Llyn, a'r Gloch. Rydw i 'n cychwyn.



Exit Touos. Plant yn chwerthin oddi allan, a Tomos i'w glywed yn dweyd, "Welsoch chi erioed ddyn o'r blaen, blant?"

Williams

(Wedi ymlâdd yn chwerthin.) Rhys anwyl, dyma'r original mwya weles i 'rioed â'm llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen i'r Bala, a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am 'i gadw fo yma cyd ag y medri di. Fedren ni mo'i smyglo fo i'r class, dywed? Mi fydde yn perfect treat.

Rhys

Fydde hynny ddim quite y peth. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni.

Williams

Paid a chyboli! Fase fo ddim chwarter cystal heb y goler. Mae'r goler yn werth can punt. Ga i ddod hefo chi? Os cai, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico.

Rhys

Gei di, wir! Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd.



Y LETYWRAIG yn estyn dau lythyr. Williams yn eu cymeryd.

Williams

Rhys Lewis sydd ar y ddau. Hwde, Rhys, dau fil, mi wn.



Rhys yn darllen un dan wenu.

Williams

Pa newydd oddiwrth Mary Jane? Ydi hi'n iach?

Rhys

Paid a lolian, Williams. Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni.

Williams

Llongyfarchiadau lond gwlad. Unpeth eto, Rhys.

Rhys

Beth ydi hwnnw, Williams?

Williams

Gwraig reit dda.



Rhys yn darllen y llythyr arall ac yn gwelwi.

Williams

Pam mae dy wedd yn newid,—pa newydd drwg?

Rhys

Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld.

Tomos

(oddiallan) Ydach chi ddim yn dwad, fechgyn? 'Rydach chi'n hir iawn.


CURTAIN

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3