a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 4, Golygfa 3

Y TWMPATH

Golygfa 3
—Lle mae Rhys Lewis yn ymweld a'r teulu.
—THOMAS BARTLEY yn gwneyd te a BARBARA yn llegach yn y gornel.
—WIL BRYAN a SUS yn dilyn.
—Ymgom.
—WIL yn mynd i briodi, ac o'r diwedd wedi dwad yn ei ol.

Tomos

Rhaid i ti styrio, Barbara, a dwad i'r capel heno. Wyddost ti fod Wil Bryan yn mynd i gael ei dderbyn yno heno?

Barbara

Tomos bach, fedra i ddim dwad heno,—mae fy lode i yn boenus ryfeddol.

Tomos

Peth od iawn na ddaethai Rhys Lewis i edrach am danat ti.

Barbara

O, dydw i ddim yn sâl felly chwaith, Tomos.

Tomos

Dacw fo'n dwad ar y gair i ti.

Rhys

Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw?

Tomos

Digon symol ydi Barbara wir, wel di. Wyst ti be, Rhys, mae 'i gweld hi yn sal fel hyn yn codi hireth arna i am Seth.



ToMos yn paratoi te.

Rhys

Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto.

Tomos

Mae natur tranne yni hi heno, wel di; ac wrth feddwl am hynny, dene sy'n gneyd Barbara deimlo mor sal heno. Mae un o'r moch ola ges i yn colli'i stumog bob amser cyn tranne.

Rhys

Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell. Mi ddowch chi i'r capel, Tomos?

Tomos

Tw bi shwar. Rhaid iti aros i gael paned o de efo fi, os gnei di fy sgiwsio i yn i neyd o,—feder Barbara ddim symud.



Cnoc ar y drws.

Tomos

Edrych pwy sydd yna, Rhys.



WIL a SUS wrth y drws.

Wil

Found at last. Mi fuon ni acw yn edrach am danat, a mi ddeydodd Miss Hughes dy fod wedi dwad yma. And to kill two birds with one stone, drwy ymweld â'r hen thorough-breds, mi ddeuthom yma ar dy ol di.

Rhys

Dowch i fewn.

Tomos

Wel, William, mi 'rwyt ti'n edrych yn dda. A mae Sus yn edrach yn reit hapus.

Wil

Wel, Mrs. Bartley, sut yr ydach chi?

Tomos

Dydi Barbara ddim fel hi ei hun heno. Feder hi ddim symud o'r gader. Mae hi cyn wanned a chyw giar. Rhaid i chi'ch dau gymeryd rhwbeth at y'ch penne; dowch at y bwrdd, closiwch Sus; dowch, peidiwch bod yn swil. Sut mae'r hen bobol, William? Hwdiwch, byclwch ati. Mae yma ddigon o fwyd fel y mae o.

Wil

Dydi'r gaffer ddim quite up to the knocker heno.

Tomos

Ho! y tywydd, debicin i. Fydda i'n wastad yn deyd fod y tywydd yn effeithio ar rai pobol. Lwc garw na phriododd Barbara mo dy dad, wel di. Cyn y prioda i eto,—Sus, 'dwyt ti'n byta dim,—mi ofala i gael gwraig nad ydi'r tywydd ddim yn effeithio ar 'i hiechyd hi. Nid am fod gen i ddim yn erbyn Barbara, cofia,—yr ydw i'n ffond iawn o Barbara,—mi feder hi ddeyd hynny, —achos, ar ol colli Seth, does gen i neb ond y ddau fochyn a'r ffowls ene, blaw Barbara.

Barbara

Ydi o'n wir, William, dy fod di yn mynd i briodi?

Rhys

Rhaid i chi ddim swilio'ch dau. Ydi o'n wir?

Wil

Fel secret, gan ddisgwyl nad eiff o ddim ymhellach, yr ydw i'n deyd wrthoch chi yma fod ene o'r diwedd definite understanding rhwng Sus a minne, ac yn wir ynglŷn â'r cwestiwn yna y daethom i yma i edrach am Rhys.

Tomos

Barbara, rhaid i ni ladd y mochyn cynffon gwta yna, er mwyn i ni fedru rhoi clamp o ddarn o asen fras iddyn nhw yn wedding present. Pryd yr ydach chi yn mynd, William?

Wil

Mae hynny yn dibynnu ar Rhys yma.

Rhys

O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau.

Wil

Well, that settles it. I will leave it to Sus to name the day. Rhys, dyma yr eneth ore fu 'rioed ar y ddaear yma. Wyt ti'n cofio mod i'n deyd wrthat ti mod i'n past feeling?

Rhys

Ydw.

Wil

Yr oedd hynny pan oeddwn i'n meddwl fod Sus wedi fy anghofio i. Ond pan ddois i adra, a ffeindio fod Sus, fel y deydodd yr hen wraig, yn ferch ifanc o hyd, mi es i edrych am dani, a phan ddalltodd hi mod i yn back-slider, be' ddaru hi ddyliet? Nid fel buase llawer o enethod yn gneyd, rhoi y cold shoulder i mi, ond mi fyclodd Sus ati hi, a mi ymresymodd â fi, a mi siaradodd yn ddifrifol a mi. Ond oeddwn i ddim yn meddwl am give in. Yr oeddwn i wedi sefyll tân yr hen Ddeg Gorchymyn, ac had got the best arnat tithe sydd yn bregethwr Methodus, a doeddwn i ddim yn leicio'r idea o gael fy mowlio allan gan eneth ifanc. Ond waeth hynny na chwaneg, mi ddaliodd Sus ati nes y bu raid i mi o'r diwedd throw up my colours, and make an unconditional surrender, ac y mae yn dda gen i ddeyd wrthoch i gyd heno, fod WIL BRYAN O'R DIWEDD WEDI DWAD YN EI OL.


CURTAIN

DIWEDD

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3