a1a2a3

Rhywun Wrth y Drws (2004)

Henrik Johan Ibsen
add. John Lasarus Williams

Ⓗ 2004 John L Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Stafell weithio wedi'i dodrefnu'n blaen yn nhŷ Isaac Ryan Morris. Drysau dwbwl yn arwain i gyntedd yn y mur chwith. Ar y dde, drws i stafelloedd mewnol y tŷ. Yn y mur cefn drws agored i'r swyddfa gynllunio. Ar y chwith, ym mlaen y llwyfan, desg gyda llyfrau, papurau ac offer sgrifennu a chyfrifiadur. Yng nghefn y llwyfan, lle tân. Yn y gornel dde, soffa gyda bwrdd a chadeiriau. Blaen y llwyfan, i'r dde, bwrdd bach, cadair siglo a chadair freichiau.

Y tu mewn i'r swyddfa, Owen Meredith a'i fab Elwyn yn brysur gyda chynlluniau a mesuriadau. Gwyneth Parry yn eistedd wrth ddesg yn y stafell weithio yn teipio ar brosesydd geiriau. Owen Meredith - hen ŵr tenau gyda gwallt gwyn a barf wen. Mae 'n gwisgo sbectol. Ei ddillad yn dwt ond wedi gwisgo. Elwyn Meredith, yn ei dri degau, yn drwsiadus; tuedda i wargrymu. Gwyneth Parry, merch ifanc yn ei hugeiniau. Mae'r tri yn gweithio'n ddistaw am ychydig.

Yn nhŷ Isaac Ryan Morris y digwydd y ddrama. Mae hi'n hwyr brynhawn. Owen Meredith yn codi'n sydyn o'i waith a golwg bryderus arno. Daw at y drws yn anadlu'n drwm a chydag anhawster.

Meredith

Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir.

Gwyneth

Teimlo'n sâl iawn heddiw, f'ewyrth?

Meredith

Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd.

Elwyn

Mi ddylech chi fynd adre nhad. Ceisiwch gysgu dipyn.

Meredith

Mynd i 'ngwely? Wyt ti am i mi fygu'n lân?

Gwyneth

Wel, ewch am dro bach ynte'.

Elwyn

Ie, dowch. Mi ddo' i efo chi.

Meredith

(Yn angerddol.) Dydw i ddim am fynd odd' 'ma nes y daw o. Rydw i'n benderfynol o setlo petha' heddiw (yn chwerw) efo fo,... efo'r mistar.

Gwyneth

O na f'ewyrth! Arhoswch am dipyn cyn g'neud hynny wir.

Elwyn

Ie, mi fasai'n well aros, 'nhad.

Meredith

(Yn anadlu'n llafurus.) Yh. Yh. Does gen i fawr o amser ar ôl i aros.

Gwyneth

(Yn gwrando.) Hsht. Mi clywa' i o ar y grisia'.



Â'r tri yn ôl at eu gwaith. Distawrwydd am ennyd. Daw Isaac Ryan Morris i mewn drwy ddrws y cyntedd. Mae'n ddyn yn ei anterth, yn iach ac egnïol gyda gwallt cyrliog cwta, mwstash tywyll ac aeliau trymion tywyll. Het trilbi am ei ben a dau neu dri ffolder dan ei fraich.

Morris

(Wrth y drws gan bwyntio at swyddfa'r cynllunwyr a gofyn mewn sibrydiad.) Ydyn nhw wedi mynd?

Gwyneth

(Yn isel gan ysgwyd ei phen.) Naddo.



Tyn hi ei sbectol. Morris yn mynd ar draws y stafell, yn taflu ei het ar gadair, yn rhoi'r ffolderi ar y bwrdd ger y soffa a dod at y ddesg. Gwyneth yn mynd ymlaen â'i theipio heb oedi ond mae'n edrych yn nerfus ac anniddig.

Morris

(Yn uchel.) Be. ydych chi'n ei deipio Miss Parry?

Gwyneth

O, dim ond rhywbeth a...

Morris

Gadewch i mi weld. (Mae'n plygu drosti yn cymryd arno edrych ar y teipio a sibrwd.) Gwyneth.

Gwyneth

(Y'n isel ac yn dal i deipio.) Wel?

Morris

Pam y byddwch chi'n tynnu eich sbectol bob tro y bydda' i'n cyrraedd?

Gwyneth

O, mae hi'n hyll i mi.

Morris

(Yn gwenu.) Wnâi hi mo'r tro i fod felly?

Gwyneth

Ddim am bris yn y byd, o'ch blaen chi.

Morris

(Gan dynnu ei law drwy ei gwallt yn dyner.) Gwyneth bach, annwyl.

Gwyneth

Hisht. Mi allan nhw'ch clywed chi.

Morris

(Yn mynd yn hamddenol ar draws y stafell i'r chwith; yn troi, ac aros wrth ddrws swyddfa'r cynllunwyr.) Alwodd rhywun i ngweld i?

Elwyn

(Yn codi.) Do y pâr ifanc sydd eisio cael codi tŷ draw ym Mrynfelin.

Morris

(Yn sgyrnygu.) O'r rheini. Rhaid iddyn nhw ddisgwyl. 'Dydw i ddim yn berffaith glir ynghylch y plania' eto.

Elwyn

(Yn dod ymlaen yn betrus.) Roedden nhw'n awyddus iawn i weld y cynllunia' ar unwaith.

Morris

O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd.

Meredith

Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw.

Morris

Ydyn, ydyn. Rydyn ni'n gwybod hynny. Yn fodlon derbyn beth bynnag a gynigir iddyn nhw debyg. Cael to uwch eu penna', ac enw, ond dim y medrwch chi ei alw yn gartre'. Ddim diolch. Os felly mae hi gadewch iddyn nhw chwilio am rywun arall! Mi ellwch dd'eud hynny wrthyn nhw y tro nesa' y galwan nhw.

Meredith

(Gwthia ei sbectol am ei dalcen ac edrych arno mewn syndod.) Rhywun arall? Fasech chi'n ystyried gollwng y job rŵan?

Morris

(Yn ddiamynedd.) B'aswn 'nenw'r Tad. A gwynt teg ar eu hola' nhw, os felly mae hi i fod. Mi fyddai hynny'n well na chodi tŷ heb wybod b'le rydw i'n sefyll. Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn.

Meredith

Mae'r bobol yn iawn. Mae Elwyn yn eu nabod nhw. Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest.

Morris

Gonest, o ddigon gonest. Nid dyna ydw i'n 'i feddwl. Duw annwyl, ydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith? (Yn flin.) 'Na i ddim byd â'r bobol ddiarth 'ma. Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i.

Meredith

Ydych chi o ddifri?

Morris

(Yn sorllyd.) Ydw ar ei phen, am unwaith.

Meredith

Ga' i air neu ddau efo chi?

Morris

Wrth reswm.

Meredith

(Wrth Gwyneth.) Dos di drwodd am funud Gwyneth.

Gwyneth

(Yn anesmwyth.) Ond f'ewyrth...

Meredith

Gwna fel rydw i'n d'eud wrthyt ti, 'ngeneth i. A chau'r drws ar d'ôl.



 Gwyneth yn anfoddog i swyddfa'r cynllunwyr gan daflu golwg bryderus a thaer ar Morris a chau'r drws.

Meredith

(Gan ostwng ei lais ychydig.) Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i.

Morris

Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma.

Meredith

Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan. Rydw i'n gwanio bob dydd.

Morris

Steddwch chi ddim?

Meredith

Os ca' i. Diolch.

Morris

(Yn gosod y gadair freichiau yn hwylusach.) Dyma chi. Cymerwch y gadair yma. A rŵan?

Meredith

(Wedi eistedd gydag anhawster.) Wel, fel hyn y mae hi, ydych chi'n gweld. Ynghylch Elwyn, dyna sy'n fy mhoeni fi fwya'. Be' ddaw ohono fo?

Morris

Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o.

Meredith

Ond dyna'r union beth na fynn o. Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy.

Morris

Tewch. Mae hi'n eitha' arno yma 'ddyliwn i. Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried...

Meredith

Na, na. Nid dyna sy'n bod. Ond yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd rhaid i'r hogyn gael cyfle i 'neud rhywbeth ar ei liwt ei hun.

Morris

(Heb edrych arno.) Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun?

Meredith

Wel, nâc ydw. Dyna sy'n dorcalonnus. Rydw i'n dechra' ama' gallu'r hogyn, achos 'dydych chi ddim wedi rhoi'r un gair da iddo fo; ac eto fedra' i yn fy myw lai na theimlo bod yna allu ynddo fo. Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i.

Morris

Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs.

Meredith

(Gan edrych arno â chasineb dirgel, dywaid yn gras.) Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni (yn anadlu'n drwm) a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill.

Morris

Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi.

Meredith

Rydych chi'n iawn. Roedd popeth o'ch tu chi. Ond eto, sut yn eich byw y medrwch chi adael i mi fynd i 'medd heb weld be' fedr Elwyn ei 'neud. Ac wrth gwrs mi fyddai'n dda iawn gen i eu gweld nhw wedi priodi cyn imi fynd.

Morris

(Yn siarp.) Hi sy'n dymuno hynny?

Meredith

Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn. Mae o'n siarad am y peth bob dydd. Mae'n rhaid, ydy mae'n rhaid i chi helpu i gael rhyw waith ar ei ben ei hun iddo rŵan. Mae'n rhaid imi gael gweld rhywbeth y bydd yr hogyn wedi'i 'neud. Ydych chi'n clywed?

Morris

(Yn biwis.) Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr.

Meredith

Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr.

Morris

(Yn anesmwytho 'n gynhyrfus braidd.) Oes?

Meredith

Pe rhoech chi'ch caniatâd.

Morris

Sut fath o waith ydy o?

Meredith

(Yn betrus braidd.) Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin.

Morris

Hwnnw. Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun.

Meredith

Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi.

Morris

(Yn tanio.) Dim gwahaniaeth gen i. Nâc oes? Pwy sy'n meiddio d'eud hynny?

Meredith

Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'.

Morris

Twt, twt. Peidiwch â chymryd sylw o be' fydda' i'n ei dd'eud. F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn?

Meredith

B'asen. Mae o'n nabod y teulu ydych chi'n gweld. A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati...

Morris

Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'? Y bobol fydd yn mynd i fyw yno.

Meredith

Ydyn. Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd.

Morris

Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw?

Meredith

Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw.

Morris

Oho! gwreiddiol ai e? Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg.

Meredith

Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw.

Morris

(Yn atal ei lid.) Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan?

Meredith

Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith.

Morris

(Yn flin.) Rhoi'r gora' iddi.

Meredith

A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn...

Morris

Fi. Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi!

Meredith

Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl.

Morris

O, 'run peth yn union. (Chwerthin yn gas.) A felly mae hi ai e? Ydy hi'n bryd i Ryan Morris feddwl am hel ei bac i neud lle i ddynion fengach, y fenga un o bosib? Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle.

Meredith

Pam 'nenw'r Tad? Mae 'na le i fwy nag un, debyg.

Morris

O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith. Ond p'run bynnag, riteiria' i ddim byth. 'Ro' i 'mo fy lle i neb os medra' i beidio. Byth dragywydd hedd, wna i 'mo hynny.

Meredith

(Cyfyd gyda thrafferth.) Felly mi fydd rhaid i mi adael y byd 'ma heb ddim sicrwydd. Heb lygedyn o lawenydd? Heb hyder na ffydd yn Elwyn? Heb weld dim o'i waith o. Felly mae hi i fod?

Morris

(Yn lled-droi a mwmian.) Hm. Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan.

Meredith

Ond atebwch yr un cwestiwn yna. Fydd raid i mi farw mor druenus o dlawd â hynny?

Morris

(Yn edrych fel pe mewn ymdrech. O'r diwedd dywaid mewn llais isel ond cadarn.) Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi.

Meredith

Felly y bo hi ynte'. (Yn mynd tua phen draw'r stafell.)

Morris

(Yn ei ddilyn: mae'n ei chael hi'n anodd.) Fedrwch chi ddim deall nad oes gen i ddim help. Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur.

Meredith

Na fedrwch debyg. (Mae'n troi a hanner disgyn ond yn ei gynnal ei hun yn erbyn y bwrdd wrth y soffa.) Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda?

Morris

Wrth gwrs. (Yn llenwi gwydr o ddŵr a'i estyn iddo.)

Meredith

Diolch. (Yfed a rhoi'r gwydr i lawr.)

Morris

(Yn mynd draw ac agor drws swyddfa'r cynllunwyr.) Elwyn, gwell iti ddod i nôl dy dad a mynd â fo adre.

Elwyn

(Yn codi'n sydyn. Daw ef a Gwyneth i'r stafell.) Be' sy' 'nhad?

Meredith

Rho dy fraich i mi. Gad i ni fynd rŵan.

Elwyn

O'r gora'. Mi fyddai'n well i titha' wisgo amdanat hefyd Gwyneth.

Morris

Rhaid i Miss Parry aros, dim ond am funud. Mae na lythyr iddi i'w deipio.

Meredith

(Yn edrych ar Morris.) Pnawn da. Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi.

Morris

Pnawn da.



Meredith ac Elwyn yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd a Gwyneth at y ddesg. Saif Morris a'i ben i lawr i'r dde wrth y gadair freichiau.

Gwyneth

(Yn amheus.) Oes 'na lythyr?

Morris

Nâc oes wrth gwrs. (Edrych yn flin arni.) Gwyneth.

Gwyneth

(Yn bryderus mewn llais isel.) Ie.

Morris

(Pwyntia'n awdurdodol at lecyn ar y llawr.) Dowch yma. Ar unwaith.

Gwyneth

(Yn betrusgar.) le?

Morris

(Fel o'r blaen.) Yn nes.

Gwyneth

(Yn ufuddhau.) Be' sy' amoch chi ei eisio gen i?

Morris

(Edrych arni ennyd.) I chi y mae'r diolch am hyn i gyd?

Gwyneth

Nâc e. Nâc e. Peidiwch â meddwl hynny.

Morris

Ond waeth i chi gyfaddef rŵan; mae arnoch chi eisio priodi.

Gwyneth

(Yn isel.) Mae Elwyn a finna' wedi dyweddïo ers pedair neu bum mlynedd ac felly...

Morris

Felly rydych chi'n teimlo'i bod hi'n bryd i hynny ddod i ben. Onid fel 'na y mae hi?

Gwyneth

Mae Elwyn a f'ewyrth yn d'eud bod rhaid i mi. Felly 'fedra i 'neud dim ond bodloni debyg.

Morris

(Yn dynerach.) Gwyneth, mae gennych chi dipyn o feddwl o Elwyn hefyd on'd oes?

Gwyneth

Roeddwn i'n meddwl y byd o Elwyn unwaith, cyn i mi ddod yma atoch chi.

Morris

Ond rŵan 'does gennych chi fawr i'w dd'eud wrtho o gwbwl?

Gwyneth

(Yn llawn teimlad gan wasgu ei dwylo a'u hestyn allan tuag ato.) O! rydych chi'n gwybod yn iawn nad oes ond un yr ydw i'n ei garu rŵan. Un a dim ond un yn y byd i gyd. 'Na' i byth garu neb arall heblaw hwnnw eto.

Morris

Ie, rydych chi'n d'eud hynny ac eto rydych chi am fynd i ffwrdd a ngadael i yma fy hun a'r cwbwl ar f'ysgwydda' i.

Gwyneth

Ond, allwn i ddim aros yma efo chi, hyd yn oed petai Elwyn...?

Morris

(Yn ffieiddio'r syniad.) O na. Mae hynny'n hollol amhosib. Os ydy Elwyn am fy ngadael i a dechra' gweithio ar ei ben ei hun, yna, wrth gwrs, mi fydd eich angen chi arno fo.

Gwyneth

(Yn dirwasgu ei dwylo.) O, fedrwn i byth ddiodde' gwahanu. Mae'n gwbwl amhosib.

Morris

Yna gofalwch gael y syniada' 'ma o ben Elwyn. Priodwch o ar bob cyfrif. (Newid ei dôn.) Hynny ydy, peidiwch â gadael iddo roi'r gora' i'w swydd dda yma achos mi alla' i eich cadw chitha' wedyn, Gwyneth annwyl.

Gwyneth

O, ie. Mor braf fyddai hi pe gellid g'neud hynny.

Morris

(Gan afael yn ei phen â'i ddwy law a sibrwd.) Achos fedra' i ddim g'neud heboch chi ydych chi'n gweld. Mae'n rhaid i mi eich cael chi efo mi bob dydd.

Gwyneth

(Yn nerfus, orawenus.) O nefoedd ar y ddaear!

Morris

(Cusanna ei gwallt.) Gwyneth. Gwyneth.

Gwyneth

(Yn ymollwng i lawr o'i flaen.) O, rydych chi mor ffeind. Y tu hwnt o ffeind.

Morris

(Yn daer.) Codwch, bendith y Tad i chi. Rydw i'n meddwl i mi glywed rhywun!



Cynorthwya hi i godi; cerdda hi'n sigledig at y ddesg. Daw Mrs Gladys Morris i mewn drwy'r drws ar y chwith. Y mae'n edrych yn denau a chystuddiol gan ofìd, ond yn dangos atgof ô brydferthwch; mân gyrls modrwyog, melyn golau. Mae hi'n gwisgo dillad i awgrymu ei chyflwr digalon... yn chwaethus. Mae hi'n siarad braidd yn araf ac mewn llais dwys.

Mrs Morris

(O'r drws.) Isaac.

Morris

(Yn troi.) O chi sy' 'na 'nghariad i?

Mrs Morris

(Yn taflu ei golwg at Gwyneth.) Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn.

Morris

Ddim o gwbwl. Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl.

Mrs Morris

Oes, felly rydw i'n gweld.

Morris

Be' sy' Gladys?

Mrs Morris

Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma. Ydych chi ddim am ddod i'w weld o Isaac?

Morris

(Yn edrych yn amheus arni.) Hm. Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw?

Mrs Morris

Na ddim yn arbennig. I 'ngweld i y daeth o mewn gwirionedd ond na fasai 'fo ddim yn lecio mynd, heb gael gair efo chitha' hefyd.

Morris

(Yn chwerthin ynddo'i hun.) Ie debyg. Wel gofynnwch iddo fo aros am funud.

Mrs Morris

Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'?

Morris

'Ddo' i wedyn. Toc, fy nghariad i. Reit fuan.

Mrs Morris

(Yn taflu cipolwg arall ar Gwyneth.) Wel, cofiwch chi rŵan Isaac. (Yn mynd allan a chau'r drws ar ei hôl.)

Gwyneth

O'r argen annwyl. Rydw i'n siŵr bod Mrs Morris yn meddwl drwg rywsut.

Morris

Nâc ydy, ddim o gwbwl. Ddim mwy nag arfer beth bynnag. Ond mynd fyddai ora' i chi rŵan, p'run bynnag Gwyneth.

Gwyneth

Ie, ie. Rhaid i mi fynd rŵan.

Morris

(Yn ffyrnig bron.) A mi 'newch chi ymorol bod y mater yna wedi'i setlo i mi? Glywsoch chi?

Gwyneth

O, petai o'n dibynnu arna' i fy hun...

Morris

Mae'n rhaid i mi gael setlo'r peth, cofiwch: yfory, ddim hwyrach.

Gwyneth

(Wedi dychryn.) Os nad oes 'na ddim arall amdani hi rydw i'n berffaith fodlon i dorri f'amod i'w briodi o.

Morris

(Yn flin.) Ei thorri? Ydych chi o'ch co'? F'asech chi'n meddwl am y fath beth?

Gwyneth

(Yn ddryslyd.) Baswn petai angen hynny. Achos, rhaid i mi aros yma efo chi. Fedra' i 'mo'ch gadael chi; mae hynny'n gwbwl amhosib,

Morris

(Yn ffrwydro'n sydyn.) Ond Duw a'm helpo i! Be' am Elwyn wedyn? Elwyn sydd gen i...

Gwyneth

(Yn edrych arno a'i llygaid yn llawn arswyd.) Am Elwyn rydych chi'n...

Morris

(Yn dod ato'i hun ac ymatal.) Nâc e. Nâc e, wrth gwrs. Dydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith? Wrth gwrs chi sydd arna' i eisio ei chadw yn fwy na dim, Gwyneth. Ond am yr union reswm hwnnw rhaid i chi rwystro Elwyn rhag rhoi'r gora' i'w swydd. Dyna ni rŵan, dyna ni. Ewch adre rŵan.

Gwyneth

Ie mi a' i. Nos dawch.

Morris

Nos dawch. (Wrth iddi fynd.) O 'rhoswch am eiliad. Ydy cynllunia' Elwyn yma?

Gwyneth

Welais i mohono fo'n mynd â nhw efo fo.

Morris

Wel ewch i chwilio amdanyn nhw i mi ynte'. Hwyrach y medra' i daro golwg arnyn nhw wedi'r cwbwl.

Gwyneth

(Yn llawen.) O ie, os gwelwch chi'n dda.

Morris

Er eich mwyn chi Gwyneth f'anwylyd. Rŵan, gadewch i mi eu cael nhw ar unwaith os gwelwch chi'n dda.



Brysia Gwyneth i swyddfa'r cynllunwyr a chwilio'n bryderus mewn drôr. Caiff hyd i ffolder a daw ag ef allan.

Gwyneth

Dyma nhw'r plania' i gyd.

Morris

Da iawn. Rhowch nhw ar y bwrdd yn fan 'na.

Gwyneth

(Yn ei roi i lawr.) P'nawn da ynte'. (Yn daer.) A meddyliwch amdana' i, yn annwyl, os gwelwch chi'n dda.

Morris

O mi fydda' i'n g'neud hynny bob amser. P'nawn da, Gwyneth bach annwyl. (Teifl olwg i'r dde.) Ewch, ewch rŵan.



Daw Mrs Morris a Dr Hughes i mewn drwy'r drws ar y dde. Hen fachgen tew mewn tipyn o oed ac wyneb crwn rhadlon ganddo, wedi'i eillio'n lân; gwallt golau tenau ganddo ac y mae'n gwisgo sbectol.

Mrs Morris

(Yn y drws o hyd.) Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy.

Morris

Wel, ynte'; dowch i mewn yma.

Mrs Morris

(Wrth Gwyneth sy'n diffodd y lamp ar y ddesg.) Ydych chi wedi gorffen y llythyr yn barod Miss Parry?

Gwyneth

(Yn ffwdanus.) Y llythyr...?

Morris

Do, un byr oedd o.

Mrs Morris

Rhaid ei fod o'n fyr iawn.

Morris

'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry. Dowch yn gynnar yfory os gwelwch chi'n dda.

Gwyneth

Mi fydda' i'n siŵr o 'neud. P'nawn da Mrs Morris. (Yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd.)

Mrs Morris

Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma.

Morris

Ydy wir. Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd.

Mrs Morris

Felly mae'n edrych.

Dr Hughes

Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd?

Morris

Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma. A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd.

Mrs Morris

Ie. Rhaid bod hynny'n braf iawn.

Morris

Ydy, mae o. Yn enwedig os nad ydy dyn yn arfer cael rhyw lawer o hynny.

Mrs Morris

(Â sŵn cerydd ysgafn yn ei llais.) Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac?

Morris

Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl. Maddeuwch i mi.

Mrs Morris

Mae'n iawn. Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor?

Dr Hughes

Does gen i ond eisio galw mewn un lle. Mi ddo i yn ôl wedyn.

Mrs Morris

Diolch i chi. (Mae'n mynd allan drwy'r drws ar y dde.)

Morris

Ydych chi ar frys Doctor?

Dr Hughes

Ddim o gwbwl.

Morris

Ga' i sgwrs bach efo chi?

Dr Hughes

Can croeso.

Morris

Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'.



Dengys y gadair siglo i'r meddyg ac eistedd yn y gadair freichiau ei hun. Mae'n edrych yn dreiddgar arno.

Morris

D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys?

Dr Hughes

Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl?

Morris

Ie, yn ei hymddygiad ata' i. Ddar'u rhywbeth eich taro chi?

Dr Hughes

(Yn gwenu.) Wel, rhaid cyfadde', fedrai dyn ddim llai na sylwi bod eich gwraig... hm...

Morris

Wel?

Dr Hughes

Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry.

Morris

Ai dyna'r cwbwl? Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun.

Dr Hughes

A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i.

Morris

Be'?

Dr Hughes

Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd.

Morris

Nâc ydy siŵr. Rydych chi'n iawn ynglŷn â hynny ddyliwn, a Gladys hefyd. Ond mae unrhyw newid yn amhosib.

Dr Hughes

Allech chi ddim cyflogi clarc? Dyn felly?

Morris

Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun. Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi.

Dr Hughes

Ond os ydy'ch gwraig...? Meddyliwch am funud am y gwendid mae hi ynddo fo. Beth pe byddai hyn oll yn ormod iddi hi?

Morris

Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help. Rhaid i mi gadw Gwyneth Parry. Fedrai neb arall gymryd ei lle hi.

Dr Hughes

Neb arall?

Morris

(Yn gwta.) Na fedrai; neb.

Dr Hughes

(Yn tynnu ei gadair yn nes.) Yn awr, gwrandewch arna' i Mr Morris annwyl. Ga' i ofyn cwestiwn i chi, rhyngon ni'n dau yn unig?

Morris

Ar bob cyfri'.

Dr Hughes

Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'.

Morris

Oes wir. Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond...

Dr Hughes

D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma.

Morris

Ie. Be' wedyn?

Dr Hughes

Oes ganddi hi ddim, oes ganddi hi ddim,... wel... y mymryn lleia' o reswm dros y drwglecio greddfol yma?

Morris

(Yn edrych arno a chodi.) Oho!

Dr Hughes

Rŵan peidiwch â digio... ond oes 'na ddim?

Morris

(Yn gwta a phendant.) Nâc oes.

Dr Hughes

Dim math o reswm?

Morris

Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun.

Dr Hughes

Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes.

Morris

Do mi fûm i.

Dr Hughes

A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd?

Morris

O do, 'nâ' i ddim gwadu.

Dr Hughes

Ond ynglŷn â Miss Parry. Does dim byd felly yn ei hachos hi?

Morris

Na, dim o gwbwl o'm hochor i.

Dr Hughes

Ond o'i hochor hi?

Morris

Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor.

Dr Hughes

Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi.

Morris

Digon gwir. A chyn belled â hynny... (gostwng ei lais) mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth.

Dr Hughes

Aha. Dyna ni!

Morris

(Eistedd i lawr.) Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi.

Dr Hughes

Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd.

Morris

O'r gora' ynte'. Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt.

Dr Hughes

Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny.

Morris

Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar. Mae gan bob un ohonyn nhw, allu, yn ei ffordd ei hun. Ond mi gymerodd y mab yn ei ben i addo priodi, a'r peth nesa', wrth gwrs, oedd ei fod o eisio priodi, a dechra' adeiladu ar ei ben ei hun. Fel 'na mae'r bobol ifainc yma i gyd.

Dr Hughes

(Dan chwerthin.) Ie, on'd ydy o'n hen arferiad cas, yr hen awydd priodi 'ma?

Morris

Yn hollol. Ond, wrth gwrs, roedd hynny yn d'rysu fy nghynllunia' i. Achos roedd arna' i eisio Elwyn fy hun a'r hen ŵr hefyd. Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati.

Dr Hughes

Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir.

Morris

Yn bendant. Ond roedd Elwyn yn benderfynol o ddechra' gweithio iddo'i hun. 'Doedd wiw sôn am ddim arall.

Dr Hughes

Ond mae o wedi aros efo chi er hynny.

Morris

Ydy. Mi dd'weda' i wrthych chi sut y digwyddodd hynny. Ryw ddiwrnod, mi ddaeth yr hogan ma, Gwyneth Parry, i'w gweld nhw ar ryw neges neu'i gilydd. 'Doedd hi erioed wedi bod yma cyn hynny. A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd.

Dr Hughes

Syniad campus.

Morris

Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i. Wnes i ddim byd ond aros ac edrych arni hi a dal i feddwl yn galed mor braf fyddai ei chael hi yma. Yna siarad dipyn efo hi yn gyfeillgar... ynghylch hyn a'r llall. Wedyn mi aeth.

Dr Hughes

O, ac wedi hynny?

Morris

Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi.

Dr Hughes

Trefniant, ynghylch be'?

Morris

Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo. Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth.

Dr Hughes

Roedd hynny'n od iawn.

Morris

Oedd. On'd oedd o? A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati.

Dr Hughes

Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny?

Morris

Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn. Ond nid dyna oedd. Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i.

Dr Hughes

Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'.

Morris

Do'n gyfangwbwl. Os digwydd imi edrych ami hi pan fydd hi a'i chefn ata' i mi fedra' i dd'eud ei bod hi'n synhwyro hynny. Mi fydd yn crynu ac yn cynhyrfu y munud y bydda' i'n mynd yn agos ati hi. Be' 'ddyliech chi o hyn 'na?

Dr Hughes

Hm. 'Dydy hynny ddim yn anodd iawn ei egluro.

Morris

Ond be' am y peth arall? Ei bod hi'n credu 'mod i wedi d'eud wrthi yr hyn na wnes i ddim ond ei ddymuno a'i ewyllysio ynof fi fy hun; yn ddistaw oddi fewn. Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes?

Dr Hughes

Na, cheisia' i ddim g'neud hynny.

Morris

Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen. Ond yn y pen draw, mae o'r teimlad annifyrra dan haul i mi. Dyma fi'n gorfod dal ati i gymryd arnaf bob dydd... A mae o'n bechod trin yr hogan fel 'na, druan ohoni. (Gydag angerdd.) Ond fedra' i 'neud dim arall. Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd.

Dr Hughes

Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig?

Morris

Naddo.

Dr Hughes

Pam ar y ddaear na newch chi ynte'?

Morris

Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi.

Dr Hughes

'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl.

Morris

Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr.

Dr Hughes

I'ch gwraig?

Morris

Ie. A mae hynny bob amser yn help i dawelu dipyn ar feddwl dyn. Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld?

Dr Hughes

Nâc ydw. Y nefoedd a ŵyr. Dydw i ddim yn gweld o gwbwl...

Morris

(Yn rhoi'r gorau i'r testun a chodi eto.) Wel, wel, wel. Soniwn ni ddim mwy am y peth ynte'.



Cerdda'n hamddenol ar draws y stafell; daw yn ôl, ac aros wrth y bwrdd. Mae'n edrych ar y meddyg gyda gwên slei.

Morris

Rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi fy nhynnu i allan reit ddel, debyg gen i Doctor?

Dr Hughes

(Yn dechrau mynd yn bigog.) Eich tynnu chi allan? Unwaith eto rydw i yn y niwl Mr Morris.

Morris

Dowch. Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi.

Dr Hughes

Be' ydych chi'n ei weld?

Morris

(Yn araf mewn llais isel.) Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei.

Dr Hughes

Fy mod i? A pham ar y ddaear y g'nawn i hynny?

Morris

Am eich bod chi'n meddwl 'mod i... (Gydag angerdd.) Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i.

Dr Hughes

A be' mae hi'n ei feddwl amdanoch chi?

Morris

(Wedi ei adfeddiannu ei hun.) Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl.

Dr Hughes

Yn sâl? Chi? Ddar'u hi erioed gymaint ag awgrymu'r fath beth wrtha i. Be' all fod o'i le arnoch chi, gyfaill annwyl?

Morris

(Gan blygu dros gefn y gadair a sibrwd.) Mae Gladys wedi dod i'r penderfyniad 'mod i wedi d'rysu. Dyna be' mae hi'n ei feddwl.

Dr Hughes

(Yn codi.) O, chwarae teg Isaac Morris annwyl...

Morris

Ydy ar fy ngwir. Fel 'na mae petha', coeliwch chi fí. A mae hi wedi medru'ch perswadio chitha' i gredu'r un peth; yn bendifadda' Doctor. Rydw i'n ei weld o ar eich gwyneb chi mor glir â dim. Fedrwch chi 'mo 'nhwyllo i mor hawdd, cofiwch.

Dr Hughes

(Yn edrych arno mewn syndod.) Isaac Morris, wnes i erioed ddychmygu'r fath beth.

Morris

(Gyda gwên i ddangos nad yw'n coelio.) Ddar'u chi ddim? O ddifri?

Dr Hughes

Naddo erioed. A 'naeth eich gwraig ddim chwaith rydw i'n berffaith siŵr. Mi awn ar fy llw.

Morris

Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny. Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly.

Dr Hughes

Dowch rŵan. Mae'n rhaid i mi dd'eud...

Morris

(Ar ei draws gan chwifìo'i law.) Wel, wel Doctor annwyl, rhaid i ni roi'r gora' i siarad am y peth. Waeth i ni gytuno i anghytuno. (Newidia ei dôn i un Ion ond tawel.) Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm...

Dr Hughes

Wel?

Morris

Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen...

Dr Hughes

Be' wedyn?

Morris

Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni?

Dr Hughes

Nid camsyniad ydy hynny siŵr?

Morris

(Yn chwerthin.) Nâc e, wrth gwrs. Gwared y gwirion, meddyliwch am funud. Isaac Ryan Morris, adeiladwr a datblygwr pwysica'r ardaloedd yma. Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar.

Dr Hughes

Yn hollol. I bob golwg rydych chi wedi bod yn ffodus tu hwnt, rhaid i mi dd'eud.

Morris

(Gan guddio gwên brudd.) Ffodus, o do. 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny.

Dr Hughes

Yn y lle cynta' mi losgwyd yr hen hongo o dŷ mawr yna oedd gennych chi. Roedd hynny'n siŵr o fod yn ddigwyddiad lwcus iawn i chi.

Morris

Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch.

Dr Hughes

Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod.

Morris

'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg.

Dr Hughes

Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi.

Morris

Y ddau beth efo'i gilydd.

Dr Hughes

Ond o'r adfeilion hynny y dar'u chi godi. Mi ddechreusoch chi yn hogyn tlawd mewn pentref gwledig ond erbyn heddiw chi ydy prif adeiladwr y lle yma. Ydy wir, mae ffawd wedi bod o'ch plaid chi, yn ddi-os.

Morris

(Yn edrych yn amheus arno.) Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi.

Dr Hughes

Ofn? Am fod ffawd o'ch plaid chi?

Morris

Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd. Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi.

Dr Hughes

Twt lol. Be' allai beri i'ch lwc chi droi?

Morris

(Yn gryf a sicr.) Y genhedlaeth newydd!

Dr Hughes

Y genhedlaeth newydd, twt. 'Dydych chi ddim yn mynd i lawr yr allt eisoes gobeithio. Na, mae eich safle chi yma yn gadarnach nag y bu hi erioed, siŵr o fod.

Morris

Bydd fy lwc yn troi. Rydw i'n gwybod hynny. Mi glywa' i'r diwrnod yn dod yn nes. Mi ddaw i feddwl rhywun neu'i gilydd i dd'eud: "Rhowch gyfle i mi," a wedyn bydd y lleill i gyd yn rhuthro ar ei ôl, yn crochlefain ac yn ysgwyd eu dyrna' a gweiddi arna' i "G'newch le, g'newch le, gnewch le!" Bydd, gewch chi weld Doctor. Yn fuan mi fydd y to ifanc yn dod i gnocio ar fy nrws i...

Dr Hughes

(Yn chwerthin.) Wel diar annwyl, os dôn nhw?

Morris

Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn. (Clywir cnoc ar y drws chwith; mae'n cynhyrfu.) Be' oedd na? Glywsoch chi ddim byd?

Dr Hughes

Mae rhywun yn curo.

Morris

(Yn uchel.) Dowch i mewn.



Daw Helen O 'Reilly i mewn drwy ddrws y cyntedd. Geneth o daldra canolig, yn denau ac ystwyth a lliw haul arni. Mae'n gwisgo dillad dringo yn cynnwys trowsus bach neu jeans. Hwyrach y byddai gwisg uchaf o liw coch yn taro'n dda ac y mae ganddi ffon ddringo a rucksack. Mae hi'n mynd ar ei hunion at Morris a'i llygaid yn ddisglair gan lawenydd.

Helen

Hiya. Long time no see. Sut ydych chi?

Morris

(Yn edrych yn amheus arni.) Sut ydych chi?

Helen

(Gan chwerthin.) 'Dydych chi erioed wedi colli nabod arna' i?

Morris

Ydw, rhaid i mi gyfadde'... am funud...

Dr Hughes

(Yn dod yn nes.) Ond rydw i'n eich cofio chi, 'ngeneth annwyl i.

Helen

(Yn falch.) O, chi oedd yn...

Dr Hughes

Ie, wrth gwrs. (Wrth Morris.) Mi ddar'u ni gyfarfod mewn gwesty yn y mynyddoedd yr ha' d'waetha'. Be' ddaeth o'r merched eraill?

Helen

O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin.

Dr Hughes

Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'...

Helen

Oedden, 'dw i'n meddwl.

Dr Hughes

(Gan godi ac ysgwyd ei fys.) A 'does dim gwadu na ddar'u chi fflyrtio dipyn bach efo ni.

Helen

Wel, roedd hynny'n fwy o hwyl nag eiste' yno'n yfed te efo'r hen wragedd rheini.

Dr Hughes

(Yn chwerthin.) Cytuno'n hollol.

Morris

Heno y daethoch chi i'r dre 'ma?

Helen

Ie, newydd gyrraedd.

Dr Hughes

Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly?

Helen

Siwr iawn.

Morris

O'Reilly, O'Reilly ydy'ch enw chi?

Helen

(Yn edrych arno gyda syndod direidus.) le, wrth gwrs.

Morris

Rhaid mai merch y doctor draw ym Mryn Padarn ydych chi felly?

Helen

(Fel o'r blaen.) le, merch pwy arall allwn i fod?

Morris

O wel. Rhaid ein bod ni wedi cyfarfod pan oeddwn i yno yn codi tŵr ar yr hen eglwys.

Helen

(Yn fwy o ddifri.) le wrth gwrs, yr adeg honno oedd hi.

Morris

Wel, mae dipyn go lew o amser ers hynny.

Helen

(Yn edrych arno'n galed.) Deng mlynedd union yn ôl oedd hi.

Morris

Rhaid nad oeddech chi ond plentyn bach yr adeg honno f'aswn i'n meddwil.

Helen

(Ffwrdd â hi.) Dim mor fach. Roeddwn i'n un deg tair.

Dr Hughes

Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly?

Helen

Yep.

Morris

Dydych chi'n nabod neb yma chwaith?

Helen

Neb ond chi. A'ch gwraig wrth gwrs.

Morris

O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly?

Helen

Ddim yn dda iawn. Ddar'u ni dreulio 'chydig ddiwrnodia' efo'n gilydd pan oedd hi yn y mynyddoedd er mwyn ei hiechyd.

Morris

O, i fyny yno.

Helen

Mi ddwedodd hi wrtha i am alw os byth y down i i'r dre. (Yn gwenu.) Nid na f'aswn i wedi dod 'run fath, cofiwch.

Morris

Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn.



Helen yn rhoi ei ffon wrth y Ile tan, yn tynnu ei rucksack a'i roi ar y soffa. Cynigia Dr Hughes ei helpu. Saif Morris a syllu arni. Mae hi'n mynd ato.

Helen

Wel rŵan rhaid i mi ofyn i chi. Ga' i aros yma dros nos, os gwelwch chi'n dda?

Morris

Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr.

Helen

Diolch yn fawr. Does gen i ddim Ilawer o ddillad eraill heblaw'r rhai sy' amdana i, ar wahan i ddillad isa sbar a mae'r rheini eisio'u golchi. Mae nhw'n fudron iawn.

Morris

O mi ofalwn ni am hynny. Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig.

Dr Hughes

Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion.

Morris

le, dyna chi. A dowch yn eich ôl wedyn.

Dr Hughes

(Yn chwareus, gyda chipolwg ar Helen.) O mi 'na' i hynny gellwch fod yn berffaith siŵr. (Yn chwerthin.) Mae'r hyn oeddech chi'n ei broffwydo wedi dod yn wir Mr Morris.

Morris

Sut felly?

Dr Hughes

Mae'r to ifanc wedi dod i guro ar eich drws chi.

Morris

(Yn siriol.) Do. Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg.

Dr Hughes

Ie, gwahanol iawn. Does dim gwadu hynny.



Mae 'n mynd allan drwy ddrws y cyntedd. Morris yn agor y drws ar y dde a siarad i mewn i'r stafell nesaf.

Morris

Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda. Dyma ffrind i chi, Miss O'Reilly.

Mrs Morris

(Yn ymddangos yn y drws.) Pwy ydych chi'n dd'eud sy' 'na? (Yn gweld Helen.) O, chi sy' 'na Miss O'Reilly? (Yn mynd ati a chynnig ei llaw.) Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl.

Morris

Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly. Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma.

Mrs Morris

Yma, efo ni? Cewch â chroeso.

Morris

Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld.

Mrs Morris

Mi 'na' i fy ngora' i chi. 'Dydy o ddim ond fy nyletswydd i. Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg?

Helen

Does gen i ddim luggage.

Mrs Morris

Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr. Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi.

Morris

Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi? Mae'r rheini yn barod eisoes.

Mrs Morris

O ie. Mae yna ddigon o le yn y fan honno. (Wrth Helen.) Eisteddwch rŵan a gorffwys dipyn. (Yn mynd allan i'r dde.)



Helen yn mynd o gwmpas y stafell yn hamddenol a'i dwylo tu ôl gan edrych ar wahanol bethau. Saif Morris wrth y bwrdd, yntau â'i ddwylo tu ôl, yn ei dilyn a'i lygaid.)

Helen

(Yn aros ac edrych ar Morris.) Oes gennych chi lawer o stafelloedd plant?

Morris

Mae yma dair yn y tŷ yma.

Helen

Ew! mae hynny'n Ilawer. Mae gennych chi lawer iawn o blant felly, debyg.

Morris

Na 'does yma'r un plentyn. Ond rŵan mi gewch chi fod yn blentyn yma am dipyn.

Helen

Am heno. OK. Wna i ddim crio. Mi gysga' i fel top.

Morris

Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr.

Helen

O naddo. Ond p'run bynnag mae hi'n braf ofnadwy; gorwedd a breuddwydio.

Morris

Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos?

Helen

O byddaf, bron bob amser.

Morris

Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'?

Helen

'Dydw i ddim yn mynd i dd'eud heno. Rywdro eto hwyrach. (Yn mynd o gwmpas y stafell eto, yn aros wrth y ddesg, troi papurau drosodd a chyffwrdd y cyfrifiadur.)

Morris

(Yn dynesu.) Ydych chi'n chwilio am rywbeth?

Helen

Na, dim ond sbio ar yr holl betha' 'ma. (Yn troi.) Hwyrach na ddylwn i ddim?

Morris

Twt, twt. G'newch ar bob cyfri.

Helen

Chi fydd yn gweithio ar y cyfrifiadur 'ma?

Morris

Nac e. F'ysgrifenyddes i.

Helen

Merch felly?

Morris

(Yn gwenu.) Wrth gwrs.

Helen

Un o staff yr offis 'ma, ie?

Morris

Ie.

Helen

Ydy hi wedi priodi?

Morris

Na, sengal ydy hi.

Helen

Wela i.

Morris

Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl.

Helen

Neis iawn iddi hi.

Morris

Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn.

Helen

Fedrwch chi ddim cael rhywun arall cystal â hi?

Morris

Hwyrach y b'asech chi yn aros yma fel ysgrifenyddes?

Helen

(Yn edrych yn ddirmygus arno.) No way. Dim byd fel 'na i mi, (Yn mynd eto ar draws y stafell ac yn eistedd yn y gadair siglo. Morris hefyd yn symud at y bwrdd.) achos mae'n rhaid bod 'na ddigon o betha' heblaw hynny i'w g'neud yma. Cytuno? (Gan wenu.)

Morris

Siŵr iawn. Yn gynta' peth mi fyddwch eisio mynd rownd y siopa' i brynu dillad newydd debyg?

Helen

(Yn llon.) Na, mi gaiff hynny ddisgwyl, 'dw i'n meddwl.

Morris

O, felly wir.

Helen

'Does gen i 'run geiniog ar ôl, ydych chi'n gweld.

Morris

(Yn chwerthin.) Na chesus na phres felly!

Helen

'Run o'r ddau ond hidiwch befo; dim dam ots am hynny rŵan.

Morris

Wel dyna hogan. Rydw i'n hoffi hyn'na ynoch chi.

Helen

Hyn 'na'n unig?

Morris

Hyn 'na ymhlith petha' eraill. (Mae'n eistedd yn y gadair freichiau.) Ydy'ch tad yn dal yn fyw?

Helen

Ydy, mae o'n fyw.

Morris

Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach?

Helen

Na, feddyliais i ddim am hynny.

Morris

Ond mi fyddwch yn aros am dipyn?

Helen

Dibynnu. (Mae'n eistedd a'i siglo ei hun gan edrych arno yn hanner difrif ond gyda hanner gwén; yn tynnu ei chap a'i roi ar y bwrdd o'i blaen.) Mr Morris?

Morris

Wel?

Helen

Ydy'ch co' chi'n ddrwg iawn?

Morris

Fy ngho' i'n ddrwg. Ddim hyd y gwn i.

Helen

Does gennych chi ddim byd i'w dd'eud wrtha i am yr hyna ddigwyddodd i fyny yna?

Morris

(Wedi'i synnu am eiliad.) I fyny ym Mryn Padarn yna? (Yn ddidaro.) 'Doedd yno ddim byd o bwys hyd y gwn i.

Helen

(Yn edrych yn flin.) Sut y medrwch chi eistedd i lawr a d'eud y fath beth? Mormis Wel, d'wedwch chi wrtha i am y Ile ynte'. Pan orffennwyd y tŵr mi gawson ni lawer o hwyl yn dathlu yn y dre.

Morris

O do. Anghofia' i 'mo'r diwrnod hwnnw'n hawdd.

Helen

(Yn gwenu.) Na 'newch? 'Dydych chi ddim mor ddrwg felly, yr hen gariad.

Morris

Drwg?

Helen

Roedd 'na ganu yn y fynwent, a channoedd lawer o bobol. Roedden ni'r genod ysgol mewn gwyn a roedden ni i gyd yn cario fflagia'.

Morris

A! Ie, y baneri rheini. Rydw i'n cofio'r rheini, mi ellwch fentro.

Helen

Wedyn mi ddar'u chi ddringo i fyny'r scaffold yn syth i ben ucha'r tŵr. Roedd gennych chi wreath fawr o floda' a mi rhoisoch chi hi i hongian reit ar ben y ceiliog gwynt.

Morris

(Yn torri ar ei thraws yn gwta.) Roeddwn i'n g'neud hynny bob amser ers talwm; mae o'n hen arferiad.

Helen

Roedd o'n exciting iawn i fod yn y gwaelod yn edrych i fyny arnoch chi. Dim ond meddwl... beth 'tai o'n disgyn, fo, y prif adeiladwr ei hun!

Morris

(I'w harwain oddi wrth y testun.) Ie, ie, ie. Mi allai hynny fod wedi digwydd yn hawdd achos roedd yno un g'nawes bach, yn ei ffrog wen, yn mynd trwy'i phetha'n ofnadwy, ac yn sgrechian cymaint ama' i...

Helen

(Ei llygaid disglair yn dangos ei llawenydd.) Hwre i Mr Isaac Ryan Morris. Hwre i'r adeiladwr dewr! Ie?

Morris

A roedd hi'n codi'i law a chwifio'i baner gymaint nes yr oeddwn i'n teimlo dipyn o bendro wrth edrych arni hi.

Helen

(Yn isel ac o ddifrif.) Y g'nawes bach,... fi oedd honno.

Morris

(Yn sefydlu ei olwg arni.) Rydw i'n siŵr o hynny rŵan. Mae'n rhaid mai chi oedd hi.

Helen

(Yn llawn bywyd eto.) O, roedd hi mor wefreiddiol o braf. F'aswn i ddim wedi coelio bod yna adeiladwr yn y byd i gyd f'asai wedi gallu codi twr mor ofnadwy o uchel. A wedyn, i feddwl y b'asech chi'ch hun yn sefyll ar ben y tŵr yn gadarn. A dim arwydd o bendro arnoch chi. Roeddwn i'n teimlo'n reit wan wrth sbio.

Morris

Sut roeddech chi'n medru bod mor siŵr nad oedd arna i...?

Helen

(Yn wfftio'r syniad.) Nâc oedd wir. O, nâc oedd. Roedd rhywbeth yn d'eud wrtha i; petai arnoch chi bendro, f'asech chi byth wedi gallu sefyll yno a chanu.

Morris

(Mewn syndod.) Canu? Wnes i ganu?

Helen

Do, mi f'aswn i'n meddwl wir.

Morris

(Yn ysgwyd ei ben.) Chanais i erioed nodyn yn fy mywyd.

Helen

Do wir. Mi ddar'u chi ganu'r adeg honno. Roedd o'n swnio fel telyna' yn yr awyr. Mortis (Yn feddylgar.) Mae hyn i gyd yn rhyfedd iawn. (Yn ddistaw am funud, yn edrych arno a dweud mewn Ilais isel.) Ond wedyn, wedyn y digwyddodd y peth mawr.

Morris

Y peth mawr?

Helen

(Yn llawn asbri a'i llygaid yn ddisglair.) Ie, 'does dim rhaid i mi'ch atgoffa chi o hynny, siawns.

Morris

Oes wir. D'wedwch ychydig bach i'm hatgoffa i o hynny hefyd.

Helen

Ydych chi ddim yn cofio bod cinio mawr yn y neuadd i'ch anrhydeddu chi?

Morris

Ydw. Rhaid mai'r un pnawn oedd hi, achos mi es i odd'no'r bore wedyn.

Helen

Ac ar ôl hynny mi gawsoch chi wadd i'n tŷ ni i swper.

Morris

Rydych chi'n iawn Miss O'Reilly. Mae'n syndod gymaint o argraff y mae'r manion yma wedi'i 'neud arnoch chi.

Helen

Manion! Wel dyna i ni. Peth bychan hefyd oedd fy mod i ar fy mhen fy hun pan ddaethoch chi i mewn debyg?

Morris

Oeddech chi ar eich pen eich hun?

Helen

(Heb ateb.) Nid hen g'nawes bach ddar'u chi 'ngalw i yr adeg honno.

Morris

Nac e debyg.

Helen

Mi dd'wedsoch 'mod i'n ddel iawn yn fy ffrog wen a 'mod i'n edrych fel tywysoges fach.

Morris

'Dydw i ddim yn ama' nad oeddech chi, Miss O'Reilly. A pheth arall, roeddwn i'n teimlo mor rhydd a llon y diwrnod hwnnw.

Helen

Wedyn dyma chi'n d'eud y cawn i fod yn dywysoges i chi wedi i mi dyfu.

Morris

(Yn chwerthin.) Bobol annwyl. Dd'wedais i hynny hefyd?

Helen

Do, mi ddar'u chi. A phan ofynnais i pa mor hir y byddai raid i mi ddisgwyl, dyma chi'n d'eud y b'asech chi'n dod eto ymhen deng mlynedd,... fel dewin, a mynd â fi dros y môr i rywle. A mi ddar'u chi addo prynu teyrnas i mi yno.

Morris

(Fel o'r blaen.) le, wel. Ar ôl cinio da, fydd dyn ddim yn dadla' ynghylch rhyw geiniog neu ddwy. Ond, ddar'u i mi dd'eud hyn 'na i gyd, o ddifri'?

Helen

(Yn chwerthin ynddi'i hun.) Do, a mi ddar'u chi dd'eud hefyd be' fyddai enw'r deyrnas.

Morris

Wel, be' oedd o?

Helen

Teyrnas y Cymyla' fyddai ei henw hi, meddech chi.

Morris

Enw hyfryd iawn wir.

Helen

Na 'doeddwn i'n lecio dim arno fo; roedd o fel 'tâech chi'n g'neud sbort am fy mhen i.

Morris

Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i.

Helen

Nac e gobeithio, a chofio be' ddar'u chi wedyn...

Morris

Be' ar y ddaear wnes i wedyn?

Helen

Wel, dyna'r ora' eto. Os ydych chi wedi anghofio hynny hefyd. Mi f'aswn i'n disgwyl na allai neb lai na chofio peth felly.

Morris

Ol reit. Rhowch ryw awgrym bach i mi, a wedyn, efallai.... Wel?

Helen

(Yn dal i edrych arno.) Mi ddar'u chi 'nghusanu fi Mr Morris.

Morris

(A i geg yn agored; yn codi o'i gadair.) Wnes i?

Helen

Do wir, mi ddar'u chi. Mi roesoch chi'ch breichia' amdana i a phlygu 'mhen i'n ôl a 'nghusanu fi,... lawer gwaith.

Morris

Rŵan, mewn difri', Miss O'Reilly...

Helen

(Yn codi.) 'Dydych chi erioed yn mynd i wadu?

Morris

Ydw. Rydw i'n gwadu'r cwbwl.

Helen

(Yn edrych yn ddirmygus arno.) O felly wir.



Yn troi a mynd yn araf at y lle tan b'le mae hi'n sefyll yn llonydd hollol, ei hwyneb wedi'i droi oddi wrtho, ei dwylo'r tu ôl. Saib fer.

Morris

(Yn mynd ati hi o'r tu ôl yn ofalus.) Miss O'Reilly...



Helen yn ddistaw heb symud.

Morris

Peidiwch â sefyll fel delw yn fan 'na. Rhaid eich bod chi wedi breuddwydio'r cwbwl. (Rhoi ei law ar ei braich.) Rŵan, gwrandewch.



(Helen yn gwneud symudiad diamynedd efo'i braich.)

Morris

(Mae rhywbeth yn gwawrio arno.) Neu...! 'Rhoswch am funud. Ma 'na rywbeth wrth wraidd hyn i gyd, mi ellwch fentro.



Helen yn aros yn llonydd.

Morris

(Mewn Ilais isel ond â phwyslais.) Mae'n rhaid fy mod i wedi meddwl hyn 'na i gyd. Rhaid fy mod i wedi'i ddymuno fo, ei ewyllysio, wedi ysu am gael g'neud y petha' yma. Ac yna... Ai dyna ydy'r eglurhad, o bosib?



Helen yn ddistaw o hyd. Moris (Yn ddiamynedd.) O, o'r gora', yn enw'r annwyl. Mi ddar'u mi ynte', mae'n siŵr.

Helen

(Yn troi ei phen ychydig ond heb edrych arno.) Rydych chi'n cyfadde' rŵan ynte?

Morris

Ydw, unrhyw beth leciwch chi.

Helen

Roesoch chi'ch breichia' amdana' i?

Morris

Do.

Helen

A phlygu 'mhen i'n ôl?

Morris

O, reit yn ôl.

Helen

A nghusanu fi?

Morris

Do, mi wnes i.

Helen

Lawer gwaith?

Morris

Gymaint o weithia' ag a fynnoch chi.

Helen

(Yn troi ato'n sydyn a'r llawenydd yn disgleirio ar ei hwyneb eto.) Wel, mi lwyddais i i'ch cael chi i gyfadde' o'r diwedd, on'd do? Mornis (Gydag addewid o wên.) Do. I feddwl 'mod i wedi anghofio peth fel'na. (Yn Ilyncu mul eto braidd; yn mynd yn ôl oddi wrtho.) O rydych chi wedi cusanu cymaint o ferched yn eich dydd, debyg.

Morris

Na, rhaid i chi beidio meddwl hynny amdana i.



Helen yn eistedd yn y gdair freichiau. Morris yn sefyll a phwyso yn erbyn y gadair siglo ac yn edrych arni'n daer.

Morris

Miss O'Reilly?

Helen

Ie?

Morris

Be' ddigwyddodd? Be' ddaeth o hyn i gyd... rhyngon ni'n dau?

Helen

Ddaeth yna ddim byd ohono fo. Mi wyddoch hynny'n iawn. Achos mi ddaeth y bobol eraill i mewn a wedyn,... bah.

Morris

Do wrth gwrs, mi ddaeth y Ileill i mewn. Pwy f'asai'n meddwl y b'aswn i'n anghofio hynny hefyd.

Helen

O, 'dydych chi ddim wedi anghofio dim byd mewn gwirionedd; dipyn o g'wilydd sydd arnoch chi, dyna'r cwbwl. Rydw i'n sicr nad ydy pobol ddim yn anghofio petha' fel'na.

Morris

Na, dyna fasai rhywun yn ei feddwl.

Helen

(Yn lawn asbri eto.) Hwyrach eich bod chi wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi, hyd yn oed?

Morris

Pa ddiwrnod?

Helen

Ie, pa ddiwrnod ddar'u chi osod y bloda' ar ben y tŵr... Pa ddiwmod? Come on.

Morris

Hm. Rhaid i mi gyfaddef 'mod i wedi anghofio yr union ddiwrnod. Mi wn i mai deng mlynedd yn ôl oedd hi. Rywdro yn yr Hydref.

Helen

(Yn nodio ei phen yn araf lawer gwaith.) le, deng mlynedd yn ôl oedd hi. A'r dyddiad, Medi un deg naw.

Morris

Ie, mae'n rhaid mai tua'r adeg honno oedd hi. Pwy fuasai'n meddwl y b'asech chi'n cofio hynny hefyd. O!... (Yn aros.) Ond 'rhoswch am funud... Ie, y pedwerydd ar bymtheg o Fedi ydy hi heddiw.

Helen

Ie, mae'r deng mlynedd ar ben. A ddaethoch chi ddim fel y dar'u chi addo i mi.

Morris

Addo i chi? Bygwth ydych chi'n feddwl, debyg.

Helen

'Dydw i ddim yn meddwl bod 'na fygythiad o gwbwl yn hynny.

Morris

Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach?

Helen

Dyna'r cwbwl oeddech chi eisio'i 'neud? Cael hwyl am fy mhen i?

Morris

Neu gael jôc bach. 'Does gen i ddim co' ond, mewn difri, rhaid mai felly roedd hi i radda'. Wedi'r cwbwl, dim ond plentyn oeddech chi'r adeg honno.

Helen

Ddim cweit. 'Doeddwn i ddim cymaint o blentyn ag yr ydych chi'n ei ddychmygu.

Morris

(Yn edrych yn dreiddgar arni hi.) Oeddech chi o ddifri calon yn disgwyl y down i'n ôl?

Helen

(Yn cuddio gwên led ddireidus.) Oeddwn wir; hynny o leia'.

Morris

Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi?

Helen

Ie, 'run fath â stori dylwyth teg.

Morris

A'ch g'neud chi'n dywysoges?

Helen

Dyna ddar'u chi addo.

Morris

A rhoi teyrnas i chi hefyd?

Helen

(Yn edrych i fyny ar y nenfwd.) Pam lai? Wrth gwrs 'doedd dim thaid iddi hi fod yn deyrnas go iawn, un gyffredin fel rhyw deyrnas arall.

Morris

Ond rhywbeth lawn cystal?

Helen

O, gystal o leia'. (Yn edrych arno am eiliad.) Roeddwn i'n meddwil, os oeddech chi'n gallu codi'r tŵr ucha'n y byd, y byddech chi'n siŵr o allu g'neud teyrnas o ryw fath neu'i gilydd hefyd.

Morris

Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly.

Helen

Na wyddoch? Mae'r cyfan yn edrych reit hawdd i mi.

Morris

Na, fedra' i ddim penderfynu ydych chi'n golygu popeth ydych chi'n ei dd'eud ynte' dim ond gyboli ydych chi.

Helen

(Yn gwenu.) Tynnu coes hwyrach? Finna' hefyd?

Morris

le, yn hollol. Yn chwara' castia'... ein dau. (Yn edrych arni.) Oeddech chi'n gwybod 'mod i'n briod?

Helen

Roeddwn i'n gwybod hynny o'r dechra'. Pam rydych chi'n gofyn?

Morris

O wel. Rŵan y trawodd o arna i. (Yn edrych yn ddifrifol arni a gofyn, mewn Ilais isel.) Pam y daethoch chi?

Helen

Mae arna i eisio fy nheyrnas. Mae'r amser ar ben.

Morris

(Yn chwerthin heb feddwl.) Wel, rydych chi'n goblyn o hogan!

Helen

(Yn llon.) B'le mae 'nheynas i Mr Morris? (Yn tapio'i bysedd ar y bwrdd.) Y deyrnas ar y bwrdd. Come on. (Gwneud siap pistol gyda'i bys.) Deliver.

Morris

(Yn gwthio'r gadair siglo'n nes ac yn eistedd.) Rŵan, a siarad o ddifri'; pam y daethoch chi? Be' sy' arnoch chi ei eisio yma mewn gwirionedd?

Helen

Wel, i ddechra' mae gen i eisio mynd am dro i weld pob peth ydych chi wedi'i adeiladu.

Morris

Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly.

Helen

Oes. Mi wn i'ch bod chi wedi adeiladu peth wmbreth.

Morris

Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma.

Helen

Llawer tŵr eglwys ymhlith petha' eraill? Rhai uchel, uchel?

Morris

Na. Fydda' i ddim yn codi tyra' eglwysi erbyn hyn, nac eglwysi chwaith.

Helen

Be' fyddwch chi'n ei adeiladu rŵan?

Morris

Cartrefi i bobol.

Helen

(Yn ystyried.) F'asech chi ddim yn gallu codi rhyw fymryn bach o dŵr ar rai o'r cartrefi hynny hefyd? Moris (Yn taflu golwg sydyn arni hi.) Am be' ydych chi'n meddwl rŵan? Rhywbeth yn pwyntio i fyny, i fyny i'r awyr agored, a cheiliog gwynt reit ar y copa. Moms (Yn pendronni.) Rhyfedd i chi dd'eud hyn 'na. Achos dyna'r union beth sydd arna' i eisio'i 'neud fwyaf. (Yn ddiamynedd.) Pam na 'newch chi un ynte'.

Morris

(Yn ysgwyd ei ben.) Na. 'Does dim gofyn am betha' felly.

Helen

Neb eisio un? Pwy f'asai'n meddwl?

Morris

(Yn ysgafnach.) Ond rydw i'n g'neud tŷ newydd i mi fy hun, rŵan, dros y ffordd.

Helen

Ar eich cyfer chi'ch hun?

Morris

Ie, mae o bron wedi'i orffen. Ac y mae yna dŵr arno fo.

Helen

Tŵr uchel?

Morris

Ie.

Helen

Uchel iawn?

Morris

'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ.

Helen

Mi a' i allan y peth cynta' bore 'fory i'w weld o.

Morris

(Yn eistedd a'i law dan ei foch a syllu arni hi.) D'wedwch i mi, Miss O'Reilly, be' ydy eich enw chi, eich enw cynta' chi ydw i'n el feddwl?

Helen

Ond Helen wrth gwrs.

Morris

(Fel o'r blaen.) Helen? Ie wir?

Helen

Ydych chi ddim yn cofio hynny? Helen ddar'u chi 'ngalw i y diwrnod hwnnw y buoch chi'n hogyn drwg.

Morris

O, felly?

Helen

Ond yr adeg honno, Helen bach ddar'u chi dd'eud a 'doedd hynny ddim yn plesio.

Morris

O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen?

Helen

Na. Nid ar adeg arbennig felly. Ond 'Y Dywysoges Helen'. Byddai hynny'n swnio'n dda iawn.

Morris

Yn dda iawn wir, 'Y Dywysoges Helen'. O, ie, be' oedd enw'r deymas i fod?

Helen

Twt lol, 'na i ddim byd a'r deyrnas wirion honno. Rydw i wedi rhoi 'mryd ar un wahanol iawn!

Morris

(Wedi eistedd yn ôl yn y gadair; yn dal i syllu ar Helen.) On'd ydy o'n rhyfedd? Po fwya' y meddylia' i am y peth, tebyca'n y byd mae o'n edrych fel petawn i wedi bod yn poeni 'mhen ar hyd y blynyddoedd efo... hm...

Helen

Efo be'?

Morris

Efo rhyw ymdrech i adennill rhywbeth, rhyw brofiad yr oeddwn i'n meddwl ei fod 0owedi mynd yn ango'. Ond fu gen i erioed syniad be' fyddai o.

Helen

Mi ddylech chi fod wedi rhoi cwlwm ar eich cadach poced Mr Morris, bach.

Morris

A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg.

Helen

Hm. Mae'n siwr bod 'na bobol bach neu dylwyth teg yn chwarae castia' felly yn y byd yma hefyd.

Morris

(Yn codi'n araf.) Dyna beth da eich bod chi wedi dod ata' i rŵan.

Helen

(Yn edrych i ddyfnder ei lygaid.) Ydy o'n beth da?

Morris

Achos rydw i wedi bod mor unig yma. Rydw i wedi bod yn syllu mor ddiymadferth ar y cwbwl. (Mewn Ilais is.) Mi dd'weda' i wrthych chi. Ers sbel rydw i wedi dechra' ofni, ie, ofni'n arw lawn, y to ifanc.

Helen

(Chwerthiniad bach gwawdlyd.) Pyh. Ydy'r bobol ifainc yn peri dychryn i chi?

Morris

O, ydyn. Dyna pam yr ydw i wedi fy nghloi a'm bario fy hun i mewn. (Awgrym o ddirgelwch.) Ryw ddiwmod mi ddaw'r genhedlaeth ifanc a tharanu ar fy nrws i. Mi ruthran amdana' i.

Helen

Eisio i chi fynd allan ac agor y drws i'r ifainc sydd, yn fy meddwl i.

Morris

Agor y drws?

Helen

Ie siŵr, gadael iddyn nhw ddod i mewn atoch chi, yn gyfeillgar. Moris Bobol bach, nac e. Wyddoch chi be' mae'r genhedlaeth ifanc yn ei gynrychioli? Cosb, talu'n ôl. Mae nhw'n dod o dan faner newydd, yn argoel bod fy Iwc i'n dod i ben. (Yn codi, edrych arno a dweud, gyda chryndod nerfus ar ei gwefus.) Alla' i fod o unrhyw help ichi Mr Morris?

Morris

Medrwch wir. Achos rydych chitha'n martsio dan faner newydd. Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc...



Daw Dr Hughes i mewn drwy ddrws y cyntedd.

Dr Hughes

Helo. Ydych chi a Miss O'Reilly yma o hyd?

Morris

Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'.

Helen

Hen a newydd.

Dr Hughes

Ydych chi wir?

Helen

Sôn am hwyl. Mae gan Mr Morris 'ma gof mor wyrthiol. Mae o'n cofio'r manion lleia' ar unwaith.



Daw Mrs Morris i mewn o'r dde.

Mrs Morris

Dyna ni. Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan.

Helen

Ew, rydych chi'n ffeind.

Morris

(Wrth Mrs Morris.) Un o stafelloedd y plant?

Mrs Morris

Ie, yr un ganol. Gadewch i ni fynd am swper gynta'.

Morris

(Yn nodio at Helen.) Mi gaiff Helen gysgu yn un o stafelloedd y plant.

Mrs Morris

(Yn edrych arno.) Helen?

Morris

Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly. Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn.

Mrs Morris

Oeddech chi wir, Isaac? Gawn ni fynd? Mae swper yn barod.



Mrs Morris yn gafael ym mraich Dr Hughes a mynd allan gydag ef i'r dde. Yn y cyfamser mae Helen wedi bod yn casglu ei hoffer dringo.

Helen

(Yn ysgafn a chflym wrth Morris.) Ydy o'n wir be' ddar'u chi dd'eud? Alla' i 'neud rhywbeth i chi, o ddifri'?

Morris

(Yn cymryd y pethau oddi arni.) Chi ydy'r union eneth yr ydw i wedi bod ei hangen hi fwyaf.

Helen

(Yn edrych arno gyda llygaid llawn syndod a hapusrwydd.) O bendigedig!

Morris

(Yn nerfus.) Sut?

Helen

Os felly rydw i wedi cael fy nheyrnas!

Morris

(Heb feddwl.) Helen.

Helen

(Ei gwefusau'n crynu eto.) Bron... oeddwn i am dd'eud. (Yn mynd allan i'r dde a Morris ar ei hôl.)

a1a2a3