a1a2a3

Rhywun Wrth y Drws (2004)

Henrik Johan Ibsen
add. John Lasarus Williams

Ⓗ 2004 John L Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2


YR AIL ACT

Lolfa fechan wedi'i dodrefnu'n hyfryd yn nhŷ Morris. Yn y cefn, drws gwydr yn arwain allan i'r feranda a'r ardd. Mae ffenest fae ar hytraws ar draws y gongl dde ac y mae byrddau blodau yno. Ar hytraws i'r gongl chwith mae mur ac ynddo ddrws bychan wedi'i bapuro yr un fath â'r mur. Drws cyffredin ar bob ochor. Ar y dde, yny ffrynt mae bwrdd wal gyda drych mawr. Digonedd o flodau a phlanhigion. Ym mlaen y llwyfan, chwith, soffa, bwrdd a chadeiriau. Ymhellach yn ôl, cwpwrdd llyfrau. O flaen y ffenest fae, bwrdd bychan a chadeiriau. Mae hi'n gynnar bore drannoeth.

Mae Morris yn eistedd wrth y bwrdd bach gyda ffolder Elwyn Meredith yn agored o'i flaen. Mae'n troi'r dyluniadau drosodd ac yn archwilio rhai ohonynt yn ofalus. Mae Mrs Gladys Morris yn cerdded o gwmpas yn ddistaw gyda chan dyfrio yn gofalu am ei blodau. Mae hi'n gwisgo dillad tebyg i rai'r noson cynt ac y mae ei het, ei chôt uchaf a'i hymbarel ar gadair ger y drych. Heb iddi hi ei weld mae Isaac Morris yn ei dilyn â'i lygaid yn awr ac yn y man. Nid yw'r un ohonynt yn siarad. Daw Gwyneth Parry i mewn yn ddistaw ar y chwith.

Morris

(Y'n troi ei ben a dweud mewn llais llipa a didaro.) O, chi sy' na?

Gwyneth

Dim ond gadael i chi wybod 'mod i wedi cyrraedd.

Morris

Ie, ie, popeth yn iawn. Ddaeth Elwyn ddim?

Gwyneth

Naddo, ddim eto. Roedd rhaid iddo fo aros nes dôi'r doctor. Ond mae o'n dod toc, i'ch holi chi ynghylch...

Morris

Sut mae'r hen ŵr heddiw?

Gwyneth

Ddim hanner da; mae o'n gofyn 'newch chi'i esgusodi o; rhaid iddo fo aros yn ei wely.

Morris

Yn hollol; mi fydd yn lles iddo fo gael gorffwys, ar bob cyfri'. Well i chi fynd ymlaen efo'ch gwaith.

Gwyneth

(Yn aros wrth y drws.) Ydych chi eisio sgwrs efo Elwyn pan ddaw o?

Morris

Na, wela' i ddim bod gen i ddim byd arbennig i'w dd'eud wrtho fo.



Gwyneth yn mynd allan i'r chwith. Deil Morris i eistedd a mynd drwy'r dyluniadau.

Mrs Morris

(Draw wrth y planhigion.) Synnwn i ddim petai ynta' hefyd yn marw.

Morris

(Yn edrych i fyny arni.) Ynta' hefyd? Pwy arall ydych chi'n ei feddwl?

Mrs Morris

Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld.

Morris

Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach?

Mrs Morris

Ie, hwyrach y dylwn i. (Yn dal i drin y blodau.)

Morris

(A'i ben yn y papurau.) Dal i gysgu mae hi?

Mrs Morris

(Yn edrych arno.) Breuddwydio am Miss O'Reilly ydych chi'n ei neud yn eistedd yn fan 'na?

Morris

(Yn ddidaro.) Cofio amdani hi yn sydyn 'nes i.

Mrs Morris

Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin.

Morris

O, ydy hi?

Mrs Morris

Pan ês i i mewn i'w gweld hi roedd hi'n brysur yn rhoi trefn ar ei phetha'. (Mynd at y drych a rhoi ei het yn araf.)

Morris

(Wedi saib fer.) Dyna un o'r stafelloedd plant wedi dod i mewn reit handi wedi'r cwbwl, Gladys.

Mrs Morris

Ie on'd e?

Morris

Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn.

Mrs Morris

Mae'r gwacter yma'n ofnadwy. Rydych chi'n iawn.

Morris

(Yn cau'r ffolder, yn codi a dod ati hi.) O hyn ymlaen Gladys mi fydd petha'n well, gewch chi weld. Mi fydd yn brafiach, mi fydd bywyd yn haws, yn arbennig i chi.

Mrs Morris

O hyn ymlaen?

Morris

Ie'n sicir i chi Gladys.

Mrs Morris

Am ei bod hi wedi dod yma ydych chi'n ei feddwl?

Morris

(Yn amddiffynnol.) Be' oeddwn i'n ei feddwl, wrth gwrs, oedd... wedi i ni symud i'r tŷ newydd.

Mrs Morris

(Yn codi ei chôt.) Ydych chi'n meddwl hynny, Isaac? Fydd hi'n well wedyn?

Morris

Mae'n rhaid iddi fod. Rydych chitha' 'n credu hynny debyg?

Mrs Morris

Fydda' i'n meddwl dim o gwbwl am y tŷ newydd. Morris (Wedi'i frifo.) Mae'n wirioneddol ddrwg gen i eich clywed yn d'eud hyn'na achos mi wyddoch mai er eich mwyn chi, yn bennaf, yr ydw i wedi'i 'neud o. (Cynigia ei helpu gyda'i chôt.) (Yn ei osgoi.) Y gwir ydy, rydych chi'n g'neud llawer gormod o betha' er fy mwyn i.

Morris

(Dan dipyn o deimlad.) Peidiwch, peidiwch â d'eud hyn'na er mwyn popeth, Gladys. Fedra' i ddim diodde' eich clywed chi'n d'eud y fath beth.

Mrs Morris

O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac.

Morris

Rydw i'n dal at be' dd'wedais i. Gewch chi weld y bydd hi'n brafiach o lawer arnoch chi yn y tŷ newydd.

Mrs Morris

Nefoedd annwyl, brafiach arna' i?

Morris

(Yn eiddgar.) Bydd wir, mi fydd hi. Mi ellwch fod yn berffaith siŵr achos mi fydd y lle'n llawn o betha' fydd yn eich atgoffa chi o'ch hen gartre'.

Mrs Morris

Hen gartre' 'nhad a mam a losgwyd i'r llawr?

Morris

(Mewn llais isel.) Ie, ie. Gladys druan, roedd honno'n ergyd drom iawn i chi.

Mrs Morris

(Yn torri allan i ochneidio.) Faint bynnag o dai godwch chi, Isaac, fedrwch chi byth 'neud lle fydd yn gartre' iawn i mi.

Morris

(Yn croesi'r stafell.) Wel yn enw'r nefoedd gadewch i ni beidio sôn dim mwy am y peth ynte'.

Mrs Morris

Fyddwn ni byth yn sôn amdano fo. Mi fyddwch chi, bob amser, yn gwrthod meddwl am y peth.

Morris

(Yn aros yn sydyn ac edrych arni.) Fydda' i? A pham y b'aswn i'n g'neud hynny, gwrthod meddwl am y peth?

Mrs Morris

O byddwch Isaac. Rydw i'n eich darllen chi fel llyfr. Rydych chi eisio f'arbed i a g'neud esgusion dros fy nhyflwr i gymaint ag a fedrwch chi.

Morris

(Gyda syndod yn ei lygaid.) Amdanoch chi, chi'ch hun ydych chi'n sôn Gladys?

Mrs Morris

Ie wrth gwrs, amdana' i fy hun.

Morris

(Wrtho'i hun.) Bobol annwyl.

Mrs Morris

Gyda golwg ar yr hen dŷ, roedd y tân i fod i ddigwydd. Does dim fedrwch chi ei 'neud yn erbyn ffawd.

Morris

Rydych chi'n iawn. 'Anodd atal anlwc,' chwedl yr hen air.

Mrs Morris

Ond, yr hyn a ddigwyddodd o achos y tân, y peth dychrynllyd a ddigwyddodd wedyn, dyna'r peth na alla' i byth, byth, byth...

Morris

(Gydag angerdd.) Peidiwch â meddwl amdano fo, Gladys.

Mrs Morris

Dyna'r union beth na fedra' i ddim peidio â meddwl amdano. A rŵan, rhaid i mi siarad amdano fo beth bynnag, achos 'dydw i ddim yn teimlo y medra' i ei ddal o'n llawer hwy; a finna' 'n gwybod na fedra' i byth fadda' i mi fy hun...

Morris

(Yn uchel.) Chi eich hun.

Mrs Morris

Ie, achos roedd gen i ddyletswydd at y ddwy ochor, atoch chi ac at y rhai bychain. Mi ddylwn i fod wedi bod yn galed. Peidio â gadael i'r arswyd fy llethu; na'r loes o golli 'nghartre efo'r tân chwaith. O Isaac, gresyn na faswn i wedi bod yn ddigon cryf.

Morris

(Yn dyner, dan gryn deimlad, daw yn nes ati.) Gladys, rhaid i chi addo na 'newch chi byth feddwl am hyn eto. Newch chi addo f'annwyl i?

Mrs Morris

O'r nefoedd. Addo, addo. Mi all rhywun addo unrhyw beth.

Morris

(Yn gwasgu ei ddwylo'n ddyrnau a chroesi'r stafell.) O, mae hyn yn anobeithiol. Dim llygedyn o heulwen na gwawr fach o oleuni ar ein cartre' ni.

Mrs Morris

'Dydy hwn ddim yn gartre', Isaac.

Morris

O nâc ydy. Hawdd y gellwch chi dd'eud hynny. (Yn ddigalon.) A hwyrach eich bod chi'n iawn na fydd hi ddim gwell yn y tŷ newydd chwaith.

Mrs Morris

Fydd hi byth yn well. Yr un mor wag, yr un mor oeraidd ag ydy hi yma.

Morris

(Gydag angerdd.) Pam ar y ddaear yr ydyn ni wedi'i adeiladu o ynte'? Fedrwch chi dd'eud wrtha i?

Mrs Morris

Na fedraf. Mae'n rhaid i chi ateb hynny drosoch eich hun.

Morris

(Yn taflu golwg amheus arni.) Be' yn hollol ydych chi'n ei feddwl Gladys?

Mrs Morris

Be' ydw i'n ei feddwl?

Morris

Ie. Be' aflwydd ydych chi'n ei feddwl? Mi ddwed'soch chi'r peth mor rhyfedd fel 'tai rhyw ystyr gudd ynddo fo.

Mrs Morris

Nâc oedd, yn enw'r Tad, ar fy ngwir.

Morris

(Yn dod yn nes.) Dowch rŵan. Mi wn i be ydy be. 'Dydw i ddim yn ddall nâc yn fyddar.

Mrs Morris

Bobol annwyl; am be' ar y ddaear ydych chi'n siarad? Be' sy'?

Morris

(Yn sefyll o'i blaen.) Rydych chi'n gweld rhyw ystyr gudd a llechwraidd yn y petha' mwya' diniwed fydda' i'n ei ddeud, on'd ydych?

Mrs Morris

Fi? Ydych chi'n d'eud 'mod i'n g'neud hynny?

Morris

Ho, ho, ho. Mae o'n ddigon naturiol, debyg, a chitha' efo dyn sâl i edrych ar ei ôl.

Mrs Morris

(Yn bryderus.) Sâl; ydych chi'n sâl Isaac?

Morris

(Yn wyllt.) Dyn hanner call ynte', dyn wedi drysu. Galwch fi be' fynnoch chi.

Mrs Morris

(Yn palfalu am gadair ac yn eistedd i lawr.) Isaac, yn enw'r nefoedd...!

Morris

Ond rydych chi wedi methu, chi a'r doctor. Nid dyna sy' o'i le arna' i.



Yn cerdded yn ôl ac ymlaen a Mrs Morris yn ei ddilyn yn bryderus â'i llygaid. O'r diwedd mae'n mynd ati. Wedi dofi, dywaid:

Morris

Mewn gwirionedd 'does 'na ddim o gwbwl o'i le arna' i.

Mrs Morris

Nâc oes, wrth gwrs. Ond eto, be' sy'n eich poeni chi gymaint?

Morris

Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled.

Mrs Morris

Dyled? Ond 'does arnoch chi ddim i neb.

Morris

(Yn dawel a than deimlad.) Rydw i mewn dyled ddiderfyn i chi Gladys.

Mrs Morris

(Yn codi'n araf.) Be' sy' y tu ôl i hyn i gyd? Waeth i chi ddeud wrtha i ar unwaith.

Morris

Does yna ddim byd y tu ôl iddo fo. 'Dydw i erioed wedi g'neud dim drwg i chi, ddim o fwriad beth bynnag. Ac eto, mae fel petai yna euogrwydd mawr yn fy ngwasgu fi i lawr.

Mrs Morris

Euogrwydd o'm plegid i?

Morris

Ie, chi'n bennaf.

Mrs Morris

Felly mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl Isaac.

Morris

(Yn ddigalon.) Mae'n rhaid fy mod i, neu bod rhywbeth o'i le. (Yn edrych tua'r drws ar y dde sy'n agor y funud yma.) A, dyna hi'n goleuo rŵan.



Daw Helen O 'Reilly i mewn. Mae wedi newid dipyn ar ei dillad 1 rywbeth hwylus yn y tŷ yn y bore ond gan gofio nad oes ganddi lawer o ddillad efo hi.

Helen

Hiya, Mr Morris.

Morris

(Yn nodio.) Ddar'u chi gysgu'n iawn?

Helen

Ardderchog. Fel mewn crud. Mi orweddais ac ymlacio fel... fel tywysoges.

Morris

(Yn gwenu.) Roeddech chi'n berffaith gyffyrddus felly?

Helen

Great.

Morris

Ac mi ddar'u chi freuddwydio reit siŵr.

Helen

Do mi wnes i, ond roedd hynny'n ofnadwy.

Morris

O?

Helen

Oedd, achos mi freuddwydiais i 'mod i'n disgyn dros ymyl clogwyn uchel a serth. Fyddwch chi'n cael breuddwyd felly?

Morris

Byddaf, rŵan ac yn y man.

Helen

Mae o'n gyrru ias drwy rywun, mae o'n braf ofnadwy pan fyddwch chi'n disgyn a disgyn.

Morris

Iasa' nes bod rhywun yn teimlo'n oer drosto.

Helen

Fyddwch chi'n tynnu'ch coesa' i fyny o danoch chi pan fyddwch chi'n disgyn?

Morris

Byddaf cyn uched fyth ag a fedra' i.

Helen

A finna'.

Mrs Morris

(Yn codi ei hymbarel.) Rhaid i mi fynd i'r dre' rŵan, Isaac. (Wrth Helen.) Ac mi chwilia i am un neu ddau o betha' fydd yn ddefnyddiol i chi, Miss O'Reilly.

Helen

(Yn gwneud osgo fel petai am roi ei breichiau am ei gwddw.) O Mrs Morris annwyl, rydych chi'n werth y byd! Rydych chi'n rhy garedig wrtha i, wir... yn ffeind ofnadwy.

Mrs Morris

(Yn dibrisio'r peth a'i rhyddhau ei hun.) O, dim o gwbwl, dim ond fy nyletswydd i. Rydw i'n falch o gael g'neud.

Helen

O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i.

Mrs Morris

Mi edrycha' i am drowsus cynnes i'ch siwtio chi. Mae hi'n gallu mynd yn oer iawn yma yr adeg yma o'r flwyddyn.

Helen

Rydw i wedi arfer wyddoch chi.

Morris

(Heb fedru cuddio'r ffaith ei fod yn dal dig.) Ie, ond mi allai pobol gymryd yn eu penna' eich bod chitha' o'ch co', ydych chi'n gweld.

Helen

O 'ngho'? Oes 'na lawer o bobol wedi drysu yn y dre' yma ynte'?

Morris

(Yn pwyntio at ei dalcen.) Dyma i chi un beth bynnag.

Helen

Chi, Mr Morris?

Mrs Morris

O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl.

Morris

Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto?

Helen

Bobol bach, nâc ydw i. (Y mae'n ystyried ac yn chwerthin.) Ac eto, mewn rhyw un peth bach.

Morris

Glywsoch chi hyn'na Gladys?

Mrs Morris

A be' ydy'r un peth hwnnw, Miss O'Reilly? Helen O, 'dydw i ddim am dd'eud.

Morris

Dowch rŵan, allan â fo.

Helen

No way. 'Dydw'i ddim mor bell o 'ngho â hynny.

Mrs Morris

Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg.

Morris

Ydych chi'n meddwl hynny?

Mrs Morris

Ydw, siŵr. Achos roeddech chi'n ei nabod hi mor dda ers talwm; ers pan oedd hi'n blentyn, meddech chi. (Yn mynd allan drwy'r drws ar y chwith.)

Helen

(Ymhen ysbaid fer.) Ydy'ch gwraig chi'n fy nrwglecio i'n arw?

Morris

Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld rhyw arwydd o hynny o gwbwl?

Helen

Ddar'u chi ddim sylwi'ch hun?

Morris

(Yn osgoi.) Mae Gladys wedi mynd yn swil iawn efo pobol ddiarth y blynyddoedd d'waetha' 'ma.

Helen

Ydy hi wir?

Morris

Ond dim ond i chi ddod i'w nabod hi'n iawn, mae hi mor neis a charedig. Mae ganddi hi galon fawr.

Helen

(Yn ddiamynedd.) Ond os ydy hi mor dda, be wnaeth iddi hi sôn am ei dyletswydd?

Morris

Ei dyletswydd?

Helen

Mi ddywedodd yr âi hi allan a phrynu rhywbeth i mi, am ei fod yn ddyletswydd ami. O, fedra' i ddim diodde''r hen air hyll yna.

Morris

Pam?

Helen

Mae o'n swnio mor oer, mor finiog a phigog. Dyletswydd, dyletswydd, dyletswydd! Ydych chi ddim yn cytuno? Ydy o ddim yn eich pigo chitha'?

Morris

Hm! Feddyliais i ddim llawer amdano fo.

Helen

Wel mae o! Ac os ydy hi mor neis, fel yr ydych chi yn deud, pam mae hi'n siarad fel na?

Morris

Ond nefoedd fawr, be' f'asech chi wedi hoffi iddi hi 'i ddeud ynte'?

Helen

Mi allai hi fod wedi d'eud ei bod yn g'neud am ei bod wedi cymryd ata' i'n arw. Mi allai hi fod wedi d'eud rhywbeth fel 'na, rhywbeth cynnes a serchog, ydych chi'n deall?

Morris

Felly yr hoffech chi?

Helen

Ie, yn hollol. (Crwydra o amgylch y 'stafell, aros wrth y cwpwrdd llyfrau ac edrych ar y llyfrau.) Ew, llawer o lyfra' sy' gennych chi!

Morris

Oes. Rydw i wedi hel cryn dipyn.

Helen

Fyddwch chi'n eu darllen nhw i gyd hefyd?

Morris

Mi fyddwn i'n arfer trïo. Fyddwch chi'n darllen llawer?

Helen

Na fydda' i, byth. Rydw i wedi rhoi'r gora' iddi. Mae'r cwbwl mor amherthnasol.

Morris

Dyna'n union fydda' inna' 'n ei feddwl.

Helen

(Yn symud o gwmpas, aros wrth y bwrdd bach ac edrych drwy'r ffolder.) Chi bia' 'r plania' yma i gyd?

Morris

Nâc e. Dyn ifanc sy'n gweithio i mi sy' wedi'i g'neud nhw.

Helen

Rhywun ydych chi wedi'i ddysgu?

Morris

Ydy, yn ddiama' mae o wedi dysgu dipyn oddi wrtha i.

Helen

(Yn eistedd.) Mae o'n glyfar iawn ynte', debyg? (Yn edrych ar y cynlluniau.) Ydy o ddim?

Morris

Dydy o ddim yn ddrwg, at be' ydw i ei angen.

Helen

O ydy wir, rydw i'n siŵr ei fod o'n glyfar ofnadwy.

Morris

Ydych chi'n medru gweld hynny o'r cynllunia'?

Helen

Na, twt, twt, ddim o'r sgribliada' yma. Ond os ydy o'n ddisgybl i chi...

Morris

Ond mae 'na ddigonedd o bobol sy' wedi dysgu efo mi ac wedi g'neud ychydig iawn o'u hôl er hynny.

Helen

(Yn edrych arno ac ysgwyd ei phen.) Fedra' i ddim deall sut y gellwch chi fod mor dwp.

Morris

Twp? Ydych chi'n meddwl 'mod i'n un gwirion iawn?

Helen

Ydw, sorry. Os ydych chi'n fodlon treulio'ch amser yn dysgu'r bobol yma...

Morris

(Yn troi ei ben yn sydyn.) Wel, a pham lai?

Helen

(Yn codi, hanner o ddifri a hanner chwerthin.) Na. Mr Isaac Ryan Morris, contractor mwya'r lle. Be' dâl hynny? Ddylai neb ond chi gael adeiladu. Mi ddylech chi sefyll yn hollol ar eich pen eich hun... g'neud y cwbwl eich hun. Dyna chi'n gwybod rŵan. Wel?

Morris

Sut ar y ddaear y daeth hyn'na i'ch pen chi?

Helen

Ydych chi'n meddwl 'mod i'n nuts ynte'?

Morris

Na, nid dyna ydw i'n ei feddwl. Ond rŵan mi dd'weda i rywbeth wrthych chi.

Helen

Wel?

Morris

Yma, ar fy mhen fy hun, mi fydda i'n synfyfyrio uwchben yr union syniad yna.

Helen

Mae hynny'n swnio'n hollol naturiol i mi.

Morris

(Yn edrych yn dreiddgar arni.) Ydych chi wedi sylwi'n barod, felly?

Helen

Nâc ydw, ddim o gwbwl.

Morris

Ond gynna' pan ddar'u chi dd'eud eich bod chi'n meddwl bod 'na ryw un peth od...

Helen

O, am rywbeth hollol wahanol yr oeddwn i'n meddwl.

Morris

Be' oedd o?

Helen

Dydw i ddim am dd'eud.

Morris

(Yn croesi'r stafell.) Iawn, fel y mynnoch chi. (Yn aros wrth y ffenest fae.) Dowch yma. Mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.

Helen

(Yn agosáu.) Be?

Morris

Welwch chi yn fan'cw, yn yr ardd?

Helen

Gwelaf.

Morris

(Yn pwyntio.) Reit uwchben y chwarel.

Helen

Y tŷ newydd yna ydych chi'n ei feddwl?

Morris

Ie, yr un sy'n cael ei adeiladu rŵan, bron wedi'i orffen.

Helen

Mae o'n edrych fel petai 'na dŵr uchel arno fo.

Morris

Mae'r sgaffald yn dal i fyny.

Helen

Eich tŷ newydd chi ydy o?

Morris

Ie.

Helen

Y tŷ yr ydych chi'n mynd i symud iddo fo yn fuan?

Morris

Ie.

Helen

(Yn edrych ar Morris.) Oes 'na stafelloedd plant yn y tŷ acw hefyd?

Morris

Oes, tair fel sy' yma.

Helen

A dim un plentyn?

Morris

Ie, a fydd yno byth un.

Helen

(Gyda hanner gwên.) Wel, ydy hi ddim yn union fel y dwedais i?

Morris

Sut felly?

Helen

Eich bod chi dipyn bach o'ch co' wedi'r cwbwl.

Morris

Hynny oedd y tu ôl i'ch meddwl chi?

Helen

Ie. Yr holl stafelloedd plant gwag yna lle bûm i'n cysgu.

Morris

(Yn gostwng ei lais.) Mi fu gan Gladys a finna' blant wyddoch chi.

Helen

(Yn edrych arno'n eiddgar.) Do wir?

Morris

Dau hogyn bach, yr un oed.

Helen

Twins.

Morris

Ie, gefeilliaid. Mae un mlynedd ar ddeg neu ddeuddeng mlynedd ers hynny rŵan.

Helen

(Yn ofalus.) Felly mae'r ddau ohonyn nhw... Rydych chi wedi colli'r ddau?

Morris

(Dan deimlad mawr.) Dim ond rhyw dair wythnos y buon nhw gennyn ni, prin hynny. (Yn angerddol.) O Helen, fedra' i ddim d'eud wrthych chi pa mor fendithiol ydy eich bod chi wedi dod. Achos, o'r diwedd mae gen i rywun y medra' i siarad efo hi.

Helen

Ellwch chi ddim siarad efo hi?

Morris

Ddim am hyn. Nid fel yr ydw i'n dymuno. Ac fel y mae'n rhaid i mi siarad. (Yn ddigalon.) Nâc am lawer o betha' eraill chwaith.

Helen

(Mewn llais gostyngedig.) Dyna'r cwbwl oeddech chi'n ei feddwl pan dd'wedsoch chi fod arnoch chi f'angen i?

Morris

Hynny'n fwy na dim. O leiaf, ddoe, achos erbyn heddiw dydw i ddim mor siŵr. (Yn tewi am funud.) Helen, dowch yma; mi eisteddwn ni. Eisteddwch chi yn fan'na lle medrwch chi weld yr ardd.



Helen yn eistedd ar gornel y soffa. Daw Morris â chadair yn nes.

Morris

Fasech chi'n hoffi clywed am y peth?

Helen

Mi f'aswn i wrth fy modd yn eistedd a gwrando arnoch chi.

Morris

(Yn eistedd.) Mi dd'weda' i'r cyfan wrthych chi ynte'. 'Helen Reit. Mi alla' i weld yr ardd a chitha. Away. (Yn pwyntio at y ffenest fae.) Draw ar y codiad tir acw... lle gwelwch chi'r tŷ newydd.

Helen

Ie.

Morris

Roedd Gladys a finna''n byw yn fan'na y blynyddoedd cyntaf ar ôl priodi. Roedd yno hen dŷ wedi bod yn perthyn i'w mam hi. Fe gafodd ei adael i ni a'r cwbwl o'r hen ardd i'w ganlyn o.

Helen

Oedd 'na dŵr ar y tŷ hwnnw hefyd?

Morris

Nâc oedd. Dim byd tebyg. O'r tu allan roedd o'n edrych fel bocs pren mawr tywyll ond oddi fewn roedd o'n ddigon clyd a chysurus.

Helen

Be ddar'u chi? Ei dynnu o i lawr?

Morris

Na. Mi aeth ar dân.

Helen

Y cwbwl?

Morris

Ie.

Helen

W! dyna golled i chi.

Morris

Mae'n dibynnu sut yr edrychwch chi ar y peth. O ran busnes dyna'r peth gora' a ddigwyddodd i mi.

Helen

Sut hynny?

Morris

Yn fuan wedi geni'r ddau hogyn bach oedd hi.

Helen

Y twins bach druan?

Morris

Roedden nhw'n fabanod bach cryf, nobl. A thyfu yr oedden nhw. Mi fedrech chi weld y gwahaniaeth bob dydd.

Helen

Mae babis yn tyfu'n fuan ar y cychwyn.

Morris

Fel y byddai'r ddau'n gorwedd ym mreichia'u mam, ddela' welsoch chi erioed. Ond wedyn mi ddaeth noson y tân...

Helen

(Yn llawn cynnwrf.) Be ddigwyddodd? D'wedwch wrtha i. Anafwyd rhywun?

Morris

Naddo. Mi ddaeth pawb allan o'r tŷ yn ddiogel.

Helen

A wedyn?

Morris

Roedd Gladys wedi dychryn a chynhyrfu'n arw. Y corn tân, y rhuthro allan ar frys gwyllt ac ar ben hynny, awyr oer y nos... Achos mi fu'n rhaid eu cario allan yn union fel yr oedden nhw'n gorwedd, hi a'r plant.

Helen

Ac yr oedd hynny'n ormod iddyn nhw?

Morris

Na, doedden nhw ddim gwaeth. Ond mi gafodd Gladys dwymyn ac mi effeithiodd ar ei llaeth hi. Thalai dim ond iddi gael eu magu nhw ei hun, am mai dyna oedd ei dyletswydd hi, meddai hi. A mi ddaru ein dau blentyn bach ni... (Yn gwasgu ei ddwylo.) Mi fuon nhw...

Helen

Ddar'u nhw ddim dal hynny?

Morris

Naddo. Dyna sut y dar'u ni eu colli nhw.

Helen

Mi gawsoch chi amser caled ofnadwy ynte'.

Morris

Roedd hi'n ddigon drwg arna' i ond roedd hi'n saith gwaeth ar Gladys. (Yn gwasgu ei ddwylo mewn cynddaredd cuddiedig.) I feddwl bod y fath beth yn cael ei ganiatáu ar y ddaear yma. (Yn fyr a chadarn.) O'r diwrnod y collais i nhw 'doedd gen i ddim awydd i adeiladu eglwysi mwy.

Helen

Chawsoch chi ddim pleser yn codi tŵr ein heglwys ni?

Morris

Na doedd o ddim yn bleser. Mi wn i pa mor hapus a rhydd oeddwn i'n teimlo pan orffennwyd y tŵr hwnnw.

Helen

Mi wn inna' hefyd.

Morris

A rŵan, adeilada' i byth ddim byd fel 'na eto, byth eto. Nâc eglwysi na thyra' eglwysi.

Helen

(Yn nodio'n araf.) Dim heblaw tai i bobol fyw ynddyn nhw.

Morris

Cartrefi i foda' dynol Helen.

Helen

Ond cartrefi efo tyra' uchel a phinacla' arnyn nhw.

Morris

Ie, hwyrach. (Yn ysgafnu ei dôn.) Ond, fel yr oeddwn i'n d'eud, y tân roddodd fi ar fy nhraed, fel contractor ydw i'n ei feddwl.

Helen

Ydych chi ddim yn galw'ch hun yn architect fel y lleill?

Morris

Chefais i erioed yr addysg dechnegol. Petha' ydw i wedi ddysgu wrth fynd ydy'r rhan fwyaf o'r hyn a wn i.

Helen

Ond rydych chi wedi llwyddo'n eithriadol er hynny.

Morris

Do, diolch i'r tân. Mi rannais i bron y cwbwl o'r ardd yn blotia' a chodi tai ar y rheini yn ôl fy ffansi. Mi ddois i ymlaen yn wych.

Helen

(Yn edrych yn daer arno.) Mae'n rhaid eich bod chi'n ddyn hapus iawn fel mae petha' wedi troi allan?

Morris

(Yn ystyried yn ddwys.) Hapus? Ydych chitha'n d'eud hynny hefyd, 'run fath â'r lleill?

Helen

Mae'n rhaid eich bod chi, petaech chi'n gallu anghofio am y ddau blentyn bach.

Morris

(Yn araf.) Y ddau fachgen bach; 'dydyn nhw ddim mor hawdd eu hanghofio, Helen.

Helen

(Yn ansicr.) Ydych chi'n teimlo'u colli nhw gymaint â hynny ar ôl yr holl flynyddoedd?

Morris

(Yn sefydlu ei olwg arni ond heb ateb.) Dyn hapus dd'wedsoch chi?

Helen

Rydych chi'n hapus, mewn ffyrdd eraill, siŵr iawn?

Morris

(Yn dal i edrych arni.) Pan oeddwn i'n d'eud yr hanes am y tân...

Helen

Wel?

Morris

Ddaru 'na ddim byd eich taro chi'n arbennig?

Helen

(Yn ceisio meddwl.) Naddo. Be' sy' gennych chi mewn golwg?

Morris

(Gyda phwyslais tawel.) Y tân yna a hwnnw'n unig roddodd y cyfle i mi i neud cartrefi. Cartrefi clyd a chysurus a siriol lle gall tad a mam a phlant fyw'n ddiogel a llawen a theimlo ei bod hi'n braf bod yn fyw. A mwy na hynny bod yn perthyn y naill i'r llall mewn petha' bach a phetha' mawr.

Helen

(Yn frwd.) Wel, ydy o ddim yn destun hapusrwydd mawr i chi eich bod chi'n gallu g'neud cartrefi mor hyfryd?

Morris

Y pris Helen, y pris dychrynllyd y bu raid i mi ei dalu am hynny.

Helen

Ond ellwch chi ddim rhoi hynny o'r neilltu?

Morris

Na fedraf. Er mwyn g'neud cartrefi i bobol eraill roedd yn rhaid i mi fyw heb gartre' i mi fy hun,... am byth, hynny ydy cartre' i griw o blant ac i dad a mam.

Helen

(Yn ofalus.) Ond oedd rhaid i chi neud hynny, am byth?

Morris

(Yn nodio'n araf.) Dyna oedd pris yr hapusrwydd yma y bydd pobol yn sôn amdano. 'Doedd yr hapusrwydd yma ddim i'w gael yn rhatach Helen.

Helen

(Fel o'r blaen.) Ond, mi all petha' wella, hyd yn oed rŵan?

Morris

Byth yn y byd yma. Byth. Dyna un arall o ganlyniada'r tân. Ac o afiechyd Gladys ar ei ôl o.

Helen

(Yn edrych arno â golwg anniffìniadwy.) Ac eto rydych chi'n adeiladu'r holl stafelloedd plant 'ma.

Morris

(O ddifrif.) Ydych chi erioed wedi sylwi fel mae'r amhosib yn hudo dyn, yn codi'i law a galw'n daer ar rywun?

Helen

(Yn ystyried.) Yr amhosib. (Yn eiddgar.) O ydy wir! Ydych chitha'n teimlo hynny hefyd?

Morris

Ydw.

Helen

Mae'n rhaid bod rhyw ddewin o'ch mewn chitha' hefyd.

Morris

Dewin?

Helen

Be' fuasech chi'n ei alw ynte', witj?

Morris

(Yn codi.) Ie, hwyrach eich bod chi'n iawn. (Gydag angerdd.) Ond sut y medra i ddianc o afael yr ysbrydion yma, pan fo popeth yn troi allan fel hyn yn fy hanes i bob amser?

Helen

Be ydych chi'n 'i feddwl?

Morris

(Dan deimlad, yn weddol dawel.) Gwrandewch yn ofalus Helen. Mae'r cwbwl ydw i wedi llwyddo i'w 'neud, adeiladu tai, llunio cyfle llawenydd, ceisio darparu cysur, ie, a'r gwychter hefyd... (Yn gwasgu ei ddyrnau.) O, mae'n ofnadwy meddwl am y peth...

Helen

Be sy mor ofnadwy?

Morris

Bod rhaid i mi dalu'n ôl am hyn i gyd, talu, nid mewn arian ond mewn hapusrwydd. Ac nid fy hapusrwydd fy hun yn unig ond efo hapusrwydd pobol eraill hefyd. Welwch chi Helen? Dyna bris bod yn artist, y pris am lwyddo wrth gyflawni rhywbeth yn y byd 'ma, i mi ac eraill. A phob un dydd mae'n rhaid i mi wylio tra bo'r pris yn cael ei dalu drosta' i o'r newydd. Drosodd a throsodd a throsodd, am byth.

Helen

(Yn codi a sefydlu ei golwg arno.) Meddwl yr ydych chi amdani hi.

Morris

Ie, am Gladys yn bennaf. Oherwydd roedd ganddi hitha' ei galwedigaeth mewn bywyd gymaint ag oedd gen i. (Cryndod yn ei lais.) Ond mi fu raid gwasgu ei gweledigaeth hi, ei malu a'i chwalu er mwyn i f'un i fedru gwthio'i ffordd i ryw fath o fuddugoliaeth fawr. Roedd gan Gladys ddawn i adeiladu hefyd, cofiwch.

Helen

Hi, i adeiladu?

Morris

(Yn ysgwyd ei ben.) Nid tai a thyra' a'r petha' y bydda' i yn gweithio arnyn nhw.

Helen

Be ynte'?

Morris

(Yn dyner ac yn llawn teimlad.) Llunio eneidia' plant bach, Helen; eu llunio nhw i dyfu'n gytbwys i fod yn bobol ifainc o gymeriad ac yna'n bobol dda, yn gryf ac yn annibynnol. Dyna oedd talent Gladys. A dyna hi'n gorwedd heb ei harfer, yn ddiffrwyth am byth... yn dda i ddim i neb,... yn union 'run fath â'r adfeilion ar ôl y tân.

Helen

Ie, ond hyd yn oed petai hyn yn wir...?

Morris

Mae o'n wir. O, ydy. Mi wn i.

Helen

P'run bynnag, nid arnoch chi mae'r bai.

Morris

(Yn sefydlu ei olwg arni a nodio'n araf.) A! Dyna ydy'r cwestiwn mawr, y cwestiwn brawychus. Ama' hynny sy'n fy mwyta i nos a dydd.

Helen

Hynny?

Morris

Ie. Fy mai i oedd o mewn rhyw ffordd, cofiwch.

Helen

Eich bai chi? Y tân?

Morris

Y cwbwl, y tân a'r cwbwl. Ac eto hwyrach 'mod i'n ddieuog.

Helen

(Yn edrych arno â golwg bryderus.) O, Mr Morris, os gellwch chi siarad fel 'na, mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl, mae arna' i ofn.

Morris

Hm. 'Dydw i ddim yn meddwl y bydda i byth yn iach,... mewn un ystyr.



Agorir y drws bychan yn y gornel chwith yn ofalus gan Elwyn Meredith. Helen yn mynd ar draws y stafell.

Elwyn

(Pan wêl Helen.) O mae'n ddrwg gen i, Mr Morris. (Yn gwneud osgo i droi'n ôl.)

Morris

Na, paid â mynd. Gad i ni ei gael o drosodd.

Elwyn

Ie wir. Piti na fedren ni.

Morris

Dydy dy dad ddim gwell rydw i'n deall.

Elwyn

Mae 'nhad yn gwanio'n gyflym. Am hynny rydw i'n gofyn ac yn erfyn arnoch chi, 'newch chi sgrifennu gair neu ddau o gymeradwyaeth ar y plania'. Rhywbeth i 'nhad ei ddarllen cyn iddo...

Morris

(Yn gadarn.) Wrandawa' i ddim mwy am y cynllunia' yma sy' gen ti.

Elwyn

Ydych chi wedi edrych arnyn nhw?

Morris

Ydw.

Elwyn

A dydyn nhw'n dda i ddim? Na finna'n dda i ddim chwaith?

Morris

(Rhag ateb.) Aros di yma efo mi, Elwyn. Gei di bopeth dy ffordd dy hun. Mi fedri di briodi Gwyneth wedyn a byw yn braf, yn hapus hwyrach, pwy a ŵyr. Ond paid â meddwl am godi tai ar dy liwt dy hun.

Elwyn

Ah wel. Felly mae'n rhaid i mi fynd adre a gadael i 'nhad wybod be' ydych chi'n ei dd'eud. Dyna wnes i addo. Dyna ydych eisio i mi dd'eud wrth fy nhad cyn iddo farw?

Morris

(Yn griddfan y gair cyntaf.) O, o. Dywed ti be' fynnot ti o'm rhan i. Gwell peidio deud dim wrtho fo.

Elwyn

Ga' i'r plania' i fynd efo mi?

Morris

Cei, cymer nhw ar bob cyfri. Maen nhw ar y bwrdd yn fan 'na.

Elwyn

(Yn mynd at y bwrdd.) Diolch.

Helen

(Yn rhoi ei llaw ar y ffolder.) Na, gadewch nhw yma.

Morris

Pam?

Helen

Am fod arna' i eisio edrych arnyn nhw.

Morris

Ond rydych chi wedi bod... (Wrth Elwyn.) Gadael nhw yma ynte'.

Elwyn

O'r gora'.

Morris

Gwell i ti fynd adre at dy dad ar d'union.

Elwyn

Ie, rhaid i mi.

Morris

(Bron â cholli arno'i hun.) Elwyn, rhaid i ti beidio gofyn i mi 'neud rhywbeth sy' y tu hwnt i ngallu i. Wyt ti'n clywed? Rhaid i ti beidio.

Elwyn

Wrth gwrs, maddeuwch i mi.



Yn mynd allan yn gwrtais drwy ddrws y gornel. Helen yn mynd ar draws ac eistedd ar gadair ger y drych.

Helen

(Yn edrych yn gas ar Morris.) Roedd yn beth hyll iawn i'w ddweud.

Morris

Ydych chi'n meddwl hynny?

Helen

Ydw, roedd o'n ofnadwy o hyll ac yn galed. Ac yn ddrwg a chreulon hefyd.

Morris

Dydych chi ddim yn deall fy sefyllfa i.

Helen

Dim gwahaniaeth am hynny. Ddylech chi ddim bod fel 'na.

Morris

Mi dd'wedsoch eich hun gynna' na ddylai neb arall ond fi gael adeiladu.

Helen

Mi ga i dd'eud petha' fel 'na. Chewch chi ddim.

Morris

Siawns na cha' i, yn anad neb, fi sy' wedi talu mor ddrud am fy safle.

Helen

O ie. Efo cysur cartre ac ati.

Morris

A thawelwch cydwybod yn y fargen.

Helen

(Yn codi.) Tawelwch cydwybod! (Teimlad yn codi.) Ie. Rydych chi'n iawn. Y contractor druan!... Rhaid eich bod chi'n meddwl...

Morris

(Chwerthiniad bach gyddfol.) Eisteddwch i lawr am funud eto Helen. Mi dd'weda' i rywbeth doniol wrthych chi.

Helen

(Yn eistedd gan ddangos diddordeb.) OK.

Morris

Mae o'n swnio'n beth bach mor wrthun; achos mae'r stori i gyd yn troi o gylch dim byd ond... crac mewn simdde.

Helen

Dim ond hynny?

Morris

Ddim yn y dechra'. (Yn symud cadair yn nes at Helen ac eistedd i lawr.)

Helen

(Yn tapio'i phen glin yn ddiamynedd.) Reit. Rŵan am stori'r crac yn y simdde.

Morris

Roeddwn i wedi sylwi ar y crac yn y simdde. O, ymhell cyn y tân. Bob tro y byddwn i'n mynd i'r atig mi fyddwn i'n edrych oedd o'n dal yno.

Helen

A roedd o?

Morris

Oedd, 'doedd neb arall yn gwybod amdano fo.

Helen

Ddar'u chitha' ddim d'eud?

Morris

Dim gair.

Helen

Na meddwl am ei drwsio chwaith?

Morris

O, do. Mi feddyliais i am 'neud ond dyna'r cwbwl. Bob tro y byddwn i'n bwriadu dechra' arni roedd yn union fel petai rhyw law yn fy nal i'n ôl. Ddim heddiw, meddwn i wrthyf fy hun,... yfory. Yn y diwedd chafodd o 'mo'i 'neud.

Helen

Pam yr oeddech chi yn ei roi o heibio o hyd fel 'na?

Morris

Am fy mod i'n pendronni ynghylch rhywbeth. (Yn araf mewn llais isel.) Mi fedrwn i, hwyrach, drwy'r crac bach yn y simdde, fy ngwthio fy hun i fyny... fel adeiladwr.

Helen

(Yn edrych yn union o'i blaen.) Roedd y syniad yn eich hudo chi'n llwyr?

Morris

Bron yn llwyr. Wel, yn llwyr. Achos yr adeg honno roeddwn i'n ei weld o'n fater syml a hawdd. Mi ddigwyddai yn y gaeaf,... ychydig cyn amser cinio. Mi fyddwn i allan am dro bach yn y car efo Gladys. Byddai'r forwyn, gartre', wedi g'neud tanllwyth o dân iawn i gynhesu'r tŷ.

Helen

Achos roedd hi i fod yn gafael o oer y diwrnod hwnnw.

Morris

Yn oer iawn allan. A byddai'r forwyn yn awyddus i Gladys deimlo'r tŷ yn berffaith glyd a chynnes pan ddoen ni adre.

Helen

Mae hi'n teimlo'r oeri'n arw, ydy hi?

Morris

Ydy, mae hi. Ac fel y bydden ni'n agosáu, roedden ni i weld mwg.

Helen

Dim ond mwg?

Morris

Y mwg gynta'. Ond pan fydden ni'n dod at giat yr ardd, mi fyddai'r hen dŷ i gyd ar dân a'r fflama' 'n rhuo drwy'r ffenestri. Felly roeddwn i'n dychmygu sut y byddai hi, ydych chi'n gweld.

Helen

Pam ar y ddaear na allai hi fod wedi digwydd felly?

Morris

Pam yn wir?

Helen

Ond 'rhoswch am funud, Mr Morris. Ydych chi'n berffaith siŵr mai drwy'r crac bach 'na y digwyddodd y tân?

Morris

Nâc ydw. I'r gwrthwyneb, rydw i'n hollol siŵr nad oedd a wnelo'r crac yn y simdde ddim byd o gwbwl â'r tân.

Helen

O ddifri?

Morris

Mi wnaethpwyd yn berffaith siŵr mai yn y cwpwrdd dillad, mewn darn hollol wahanol o'r tŷ y cychwynnodd y tân.

Helen

Be ydych chi'n gyboli'n wirion am y crac yn y simdde ynte'?

Morris

Ga' i ddal i siarad efo chi am dipyn, Helen?

Helen

OK. Ond triwch siarad yn gall, plis.

Morris

Mi wnâ i 'ngore. (Yn symud ei gadair yn nes.)

Helen

Reit; i ffwrdd â chi.

Morris

(Yn gyfrinachol.) Ydych chi ddim yn cytuno fod na rai pobol, rhai wedi cael eu dewis yn arbennig. Rhai'n meddu'r gallu a'r ddawn i ddymuno rhywbeth, awchu amdano, ewyllysio rhywbeth efo cymaint o ddyfalbarhad ac mor benderfynol, fel yn y diwedd bod yn rhaid i'r peth ddigwydd? Ydych chi ddim yn credu hyn na?

Helen

(Â golwg amhendant yn ei llygaid.) Os felly, mi gawn ni weld un o'r dyddia' nesa 'ma, ydw i'n un o'r bobol arbennig.

Morris

All rhywun ddim g'neud petha' mor fawr ohono'i hun yn unig, cofiwch. O na. Mae'n rhaid i'r rhai nad ydyn nhw ond gweision a negeswyr 'neud eu rhan hefyd,... i'r peth weithio. Ond fydd y rheini byth yn dod ohonyn nhw'u hunain. Mae'n rhaid i ddyn alw yn daer iawn arnyn nhw. Galw oddi mewn iddo'i hun, ydych chi'n deall?

Helen

Be' ydy'r gweision a'r negeswyr 'ma?

Morris

O mi gawn ni siarad am hynny rywdro eto. Ar hyn o bryd gadewch i ni gadw at fusnes y tân 'ma.

Helen

Ydych chi ddim yn meddwl y b'asai'r tân wedi digwydd 'run fath yn union, hyd yn oed pe baech chi heb ddymuno amdano fo?

Morris

Petai'r tŷ wedi digwydd bod yn perthyn i'r hen Owen Meredith, fasai fo byth wedi mynd ar dân mor hwylus iddo fo. Rydw i'n siŵr o hynny achos ŵyr o ddim sut i alw'r gweision a'r negeswyr. (Yn codi'n anniddig.) Felly fy mai i oedd o wedi'r cwbwl, bod rhaid aberthu bywyda'r bechgyn bach, ydych chi'n gweld, Helen? Ydych chi ddim yn meddwl, hefyd, mai arna' i mae'r bai am gyflwr Gladys? Na chafodd hi ddatblygu i'r ddynes allai hi fod a'r hyn yr oedd hi'n hiraethu am fod?

Helen

Ie, ond os mai gwaith y gweision a'r negeswyr ydy o i gyd?

Morris

Pwy alwodd ar y gweision a'r negeswyr? Fi! Ac mi ddaethon ac ufuddhau i'm hewyllys i. (Mwy o gyffro.) Bod yn lwcus, dyna fydd pobol yn galw hyn 'na. Ond mi dd'weda' i wrthych chi sut mae'r lwc 'ma'n teimlo. Mae o fel petai gen i ddarn mawr o gig noeth ar fy mrest. A'r gweision a'r negeswyr wrthi'n wastad yn plicio darna' o groen oddi ar gyrff pobol eraill i gau fy mriw i. Ond 'dydy'r briw ddim wedi'i gau byth. O, pe baech chi ond yn gwybod sut y mae o'n tynnu ac yn llosgi weithia'.

Helen

(Yn edrych yn bryderus arno.) Rydych chi yn sâl, Mr Morris, bron na ddwedwn i, yn wael iawn.

Morris

Wedi drysu, waeth i chi ddeud, achos dyna ydych chi'n ei feddwl.

Helen

Na, 'dydw i ddim yn credu bod 'na lawer o'i le ar eich meddwl chi.

Morris

Ar be' ynte'? Allan â fo.

Helen

Os gwn i a ddaethoch chi i'r byd 'ma efo cydwybod giami.

Morris

Cydwybod giami? Be goblyn ydy hynny?

Helen

Meddwl rydw i bod eich cydwybod chi'n wan, yn ddelicet felly, dim nerth ynddi hi i fynd i'r afael â phetha'; methu dal pwysa'.

Morris

(Yn rwgnachlyd.) Hm. Ga' i ofyn, sut gydwybod ddylai fod gan ddyn?

Helen

Mi hoffwn i i'ch cydwybod chi fod yn gwbwl gadarn.

Morris

Felly wir? Cadarn ai e? Ydy'ch cydwybod chi'ch hun yn gadarn?

Helen

Rydw i'n meddwl ei bod hi. Sylwais i erioed nad oedd hi ddim.

Morris

Chafodd hi 'mo'i phrofi'n galed iawn 'ddyliwn.

Helen

(Cryndod bach ar ei gwefus.) Doedd gadael 'nhad ddim yn fater mor hawdd,... rydw i mor ofnadwy o hoff ohono fo.

Morris

A hynny ddim ond am ryw fis neu ddau?

Helen

'Dydw i ddim yn meddwl yr a' i adre byth eto.

Morris

Byth? Wel pam y dar'u chi ei adael o ynte'?

Helen

(Hanner difri, hanner gwamal.) Ydych chi wedi anghofio eto bod y deng mlynedd ar ben?

Morris

Twt lol. Oedd 'na rywbeth o'i le gartre' ynte'?

Helen

(O ddifri.) Rhywbeth oddi mewn i mi oedd yn fy ngyrru i, yn fy ngorfodi fi i ddod yma; ac yn fy nenu a'm hudo i hefyd.

Morris

(Yn eiddgar.) Dyna chi wedi'i tharo hi, Helen. Mae yna ddewin neu witj yn eich corddi chi fel finna'. Oherwydd yr ysbryd mewn dyn sy'n galw ar y pwera' y tu allan iddo, ydych chi'n gweld. A wedyn mae'n rhaid i ni ildio, hoffí hynny neu beidio.

Helen

Rydw i bron â meddwl eich bod chi'n iawn.

Morris

(Yn cerdded o gwmpas y stafell.) Oes, mae na ysbrydion ar gerdded yn y byd 'ma, Helen. Tylwyth na fyddwn i byth yn eu gweld nhw.

Helen

Be ydych chi'n ei feddwl? Tylwyth?

Morris

(Saib.) Tylwyth teg a thylwyth drwg. Rhai pryd gola' a rhai pryd tywyll. Petai rhywun ddim ond yn gwybod pa fath sy' wedi gafael ynddo fo. (Yn cerdded o gwmpas.) Ho, ho. Mi fuasai'n reit hawdd wedyn.

Helen

(Yn ei ddilyn â'i llygaid.) Neu petai gan rywun gydwybod wirioneddol wydn fel y meiddiai rhywun neud be' fynnai o.

Morris

(Yn aros wrth y bwrdd.) Rydw i'n credu erbyn hyn mai creaduriaid go wan fel finna' ydy'r rhan fwyaf o bobol yn hynny o beth.

Helen

Synnwn i ddim.

Morris

(Yn pwyso ar y bwrdd.) Yn y llyfra' hanes,... ydych chi wedi darllen rhai ohonyn nhw?

Helen

Do, pan oeddwn i'n arfer darllen llyfra', mi...

Morris

Yn y llyfra' hanes mae 'na sôn am y cenhedloedd duon yn hwylio ar longa', o wledydd y gogledd, i ysbeilio a llosgi a lladd...

Helen

A chipio'r merched i ffwrdd...

Morris

A'u cadw'n gaeth...

Helen

Mynd â nhw adre yn eu llonga'...

Morris

Ac ymddwyn tuag atyn nhw fel... fel diawliaid.

Helen

(Yn edrych yn syth o'i blaen a'i llygaid yn hanner cau.) W! Exciting iawn.

Morris

(Chwerthiniad dwfn, byr.) Dwyn merched, ie?

Helen

Cael eich dwyn.

Morris

(Yn edrych arni ennyd.) O, felly wir.

Helen

(Y'n torri ar rediad y sgwrs.) Be 'naeth i chi sôn am y Vikings?

Morris

Am fod rhaid bod gan yr hogia' yne gydwyboda' go wydn, beth bynnag. Ar ôl cyrraedd adre' roedden nhw'n medru bwyta ac yfed a bod yn hapus fel plant. Ac am y merched, roedden nhw'n gwrthod gadael wedyn ar unrhyw gyfri'. Fedrwch chi ddeall hynny Helen?

Helen

Mi fedra i ddeall y merched yn dda iawn.

Morris

Oho! Hwyrach y b'asech chi'n medru g'neud yr un peth eich hun.

Helen

Pam lai?

Morris

Fasech chi byth, o'ch bodd, yn dewis byw efo rhyw fwystfil fel 'na.

Helen

Petawn i wedi dod i'w garu.

Morris

Fedrech chi ddod i garu dyn fel 'na?

Helen

Nefi wen. Mi wyddoch yn burion nad oes gan rywun ddim help pwy mae o'n mynd i'w garu.

Morris

(Yn edrych yn fyfyrgar arni.) Ie. Mae'n debyg mai'r dewin tu fewn i rywun sy'n gyfrifol am hynny.

Helen

(Yn hanner chwerthin.) A'r tylwyth bondigrybwyll 'na, y rhai tywyll a'r rhai gola', yr ysbrydion ydych chi'n eu nabod mor dda.

Morris

(Yn ddistaw ac yn serchog.) Wel, rydw i'n gobeithio â'm holl galon y bydd yr ysbrydion yn dewis yn garedig drosoch chi, Helen.

Helen

Maen nhw wedi dewis drosta' i eisoes. Unwaith ac am byth.

Morris

(Yn edrych arni'n daer.) Helen, rydych chi fel deryn gwyllt o'r coed!

Helen

Ddim peryg. Fydda' i byth yn cuddio dan y llwyni.

Morris

Na. Dipyn o deulu'r barcud sy' ynoch chi.

Helen

Mae hynny'n nes i'r gwir hwyrach. (Gydag angerdd mawr.) Pam nad yr hebog neu'r barcud? Pam na ddylwn inna' fynd a hela gystal â nhw? Cipio'r ysglyfaeth sy' ama' i ei eisio, cyn belled ag y galla' i gael fy nghrafanga' arno fo a chael fy ffordd fy hun efo fo.

Morris

Helen, wyddoch chi be ydych chi?

Helen

Gwn. Deryn go ryfedd ydw i debyg.

Morris

Na. Rydych chi megis toriad gwawr. Pan fydda' i'n edrych arnoch chi mae fel petawn i'n gweld y dydd yn deffro.

Helen

Dwedwch wrtha i, y contractor clyfar, ydych chi'n siŵr na wnaethoch chi 'mo 'ngalw i atoch chi? Ynoch eich hun, felly?

Morris

(Yn ysgafn ac araf.) Bron na thybiwn i fod yn rhaid 'mod i wedi g'neud. 58 Helen Be' sy' arnoch chi ei eisio gen i? Chi ydy'r genhedlaeth ifanc, Helen.

Helen

(Yn gwenu.) Yr ie'nctid y mae gennych chi gymaint o'i ofn?

Morris

(Yn nodio 'n araf.) Ac yr ydw i'n hiraethu cymaint amdano yn fy nghalon.

Helen

(Codi, mynd at y bwrdd bach a chodi ffolder Elwyn Meredith.) Am y plania' 'ma roedden ni'n siarad.

Morris

(Yn gwta ac yn eu gwthio i ffwrdd.) Rhowch y petha' yna o'r neilltu. Rydw i wedi gweld digon arnyn nhw.

Helen

Do, ond mi sgrifennwch chi air o gymeradwyaeth arnyn nhw.

Morris

Cymeradwyaeth? Byth.

Helen

Ond mae'r hen ŵr druan ar farw. Ellwch chi ddim rhoi cymaint â hynny o foddhad iddo fo a'i fab cyn iddyn nhw gael eu gwahanu? A hwyrach y câi o'r job o godi'r tŷ wedyn.

Morris

Ie, dyna'n union be' gâi o. Mae o wedi g'neud yn siŵr o hynny,... y dyn ifanc smart 'ma.

Helen

Os felly, ellwch chi ddim d'eud y mymryn lleia' o gelwydd am dro?

Morris

Celwydd? (Yn gynddeiriog.) Helen, ewch â phlania'r diafol o 'ngolwg i.

Helen

(Yn tynnu'r ffolder yn ôl fymryn.) Hold on. Dim rhaid i chi 'mrathu fi. Sôn am ysbrydion. Rydych chi'ch hun yn ymddwyn fel blymin ysbryd. Oes gennych chi feiro?

Morris

Ddim arna' i.

Helen

(Yn mynd tua'r drws.) Yn yr offis lle mae'r hogan 'na...

Morris

Arhoswch ble rydych chi, Helen. Mi ddylwn i dd'eud celwydd, meddech chi. Wel, dylwn hwyrach er mwyn yr hen ddyn ei dad druan. Achos mi wnes i ddrwg iddo fo, ei wasgu o i lawr.

Helen

Fo hefyd?

Morris

Roedd arna' i angen lle í mi fy hun. Ond yr Elwyn ma, does wiw iddo fo ddechra' dod yn ei flaen.

Helen

Y dyn ifanc druan, 'does dim peryg o hynny siŵr, os nad oes 'na ddim byd yn ei ben o.

Morris

(Yn nesáu, yn edrych arni a sibrwd.) Os daw Elwyn Meredith yn ei flaen mi fydd yn fy ngwthio i i lawr, yn rhoi'r farwol i mi.

Helen

O. Ydy o mor alluog â hynny?

Morris

O ydy, mi ellwch fentro. Fo ydy'r genhedlaeth newydd sy'n barod i gnocio ar fy nrws i a rhoi diwedd am byth ar Isaac Ryan Morris, y contractor.

Helen

(Yn edrych arno gyda cherydd distaw.) Ac eto roeddech chi eisio'i gau o allan. Rhag cywilydd i chi Mr Morris.

Morris

Mae'r frwydr y bûm i'n ei hymladd wedi costio'n ddrud iawn i mi eisoes. Ac y mae arna' i ofn na fydd y gweision a'r negeswyr yn ufuddhau i mi mwy.

Helen

Mi fydd rhaid i chi fynd yn eich blaen hebddyn nhw ynte'. 'Does dim arall amdani hi.

Morris

Anobeithiol, Helen. Mae fy lwc i'n siŵr o droi. Yn hwyr neu'n hwyrach. Talu'r pris fydd raid. Y pris eithaf.

Helen

(Yn rhoi ei dwylo dros ei chlustiau rhag y boen.) Peidiwch â siarad fel 'na. Oes arnoch chi eisio fy lladd i? Dwyn oddi arna' i yr hyn sy'n fwy na mywyd i?

Morris

A be' ydy hwnnw?

Helen

Y dyhead am eich gweld chi yn eich gogoniant. Eich gweld chi â bloda' yn eich llaw. Yn uchel, uchel ar ben tŵr eglwys. (Yn dawel eto.) Dowch, ble mae'r beiro? Mae'n rhaid bod gennych chi un.

Morris

(Yn tynnu allan ei ddyddiadur.) Mae gen i un yn fan 'ma.

Helen

(Yn rhoi'r ffolder ar y bwrdd wrth y soffa.) Da iawn. Rŵan, gadewch i ni'n dau eistedd i lawr yn fan 'ma, Mr Morris. (Morris yn eistedd wrth y bwrdd, Helen y tu ôl iddo yn plygu dros gefn y gadair.) A rŵan, gawn ni sgrifennu ar y cynllunia'? Rhywbeth reit neis a charedig. I'r Alwyn ofnadwy 'na, neu beth bynnag ydy ei enw fo.

Morris

(Yn sgrifennu ychydig eiriau, yna'n troi ei ben ac edrych arni.) Dwedwch un peth wrtha i Helen.

Helen

Ie?

Morris

Os ydych chi wedi bod yn disgwyl amdana' i ar hyd y deng mlynedd yma...

Helen

Wel?

Morris

Pam na ddaru chi sgrifennu ata' i? Mi allwn i fod wedi ateb wedyn.

Helen

(Yn frysiog.) Na, na, na. Dyna'r union beth nad oeddwn i eisio.

Morris

Pam?

Helen

Roedd arna' i ofn i'r holl beth ddisgyn yn chwilfriw. Ond mynd i sgrifennu ar y cynllunia' roedden ni, Mr Morris.

Morris

Ie, siŵr.

Helen

(Yn plygu ymlaen ac edrych dros ei ysgwydd wrth iddo sgrifennu.) Cofiwch rŵan, neis a charedig. O mae'n gas gen i'r Aelwyn 'ma.

Morris

(Yn sgrifennu.) Fuoch chi erioed yn caru rhywun, Helen?

Helen

(Yn gas.) Be ddaru chi ddeud?

Morris

Dim ond gofyn fuoch chi'n caru rhywun.

Helen

Rhywun arall ydych chi'n ei feddwl, debyg?

Morris

(Yn edrych i fyny ati.) Rhywun arall, ie. Fuoch chi o gwbwl? Yn ystod y deng mlynedd? Erioed?

Helen

Do, yn awr ac yn y man. Pan fyddwn i'n flin iawn efo chi am beidio dod.

Morris

Roeddech ch'n cymryd diddordeb mewn bechgyn, felly?

Helen

Ychydig, am ryw wythnos neu ddwy. Duwcs annwyl, rydych chi'n gwybod sut mae petha' fel 'na'n digwydd, debyg.

Morris

Helen. I be daethoch chi yma?

Helen

Peidiwch â gwastraffu amser yn siarad. Mi allai'r hen ŵr farw.

Morris

Atebwch, Helen. Be sy arnoch chi eisio gen i?

Helen

Rydw i eisio 'nheyrnas.

Morris

H'm.



Yn taflu ei olwg tua'r drws ar y chwith, yna mynd ymlaen i sgrifennu. Yr un funud daw Mrs Morris i mewn â pharseli yn ei dwylo.

Mrs Morris

Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly.

Helen

Rydych chi'n garedig dros ben.

Mrs Morris

Twt, dim ond fy nyletswydd i. Dim mwy na hynny.

Morris

(Yn darllen yr hyn a ysgrifennodd.) Gladys.

Mrs Morris

Ie?

Morris

Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa?

Mrs Morris

Oedd, wrth gwrs ei bod hi yna.

Morris

(Yn rhoi'r cynlluniau yn y ffolder.) H'm.

Mrs Morris

Roedd hi wrth y ddesg fel y mae hi bob amser y bydda i'n mynd trwodd.

Morris

(Yn codi.) Wel mi ro' i hwn iddi hi ynte', a d'eud wrthi bod...

Helen

(Yn cymryd y ffolder oddi arno.) O na, gadewch i mi gael y pleser o neud hynny. (Yn troi'n ôl wrth y drws.) Be ydy ei henw hi?

Morris

Miss Parry.

Helen

Mae hynny'n swnio mor oeraidd. Ei henw cynta hi oeddwn i'n 'i feddwl.

Morris

Gwyneth, rydw i'n meddwl.

Helen

(Yn agor y drws a galw.) Gwyneth, dowch i mewn yma. Brysiwch, mae Mr Morris eisio siarad efo chi.

Gwyneth

(Yn y drws a golwg wedi dychryn arni.) Dyma fi...

Helen

(Yn rhoi'r ffolder iddi hi.) Edrychwch yma Gwyneth. Gewch chi fynd â'r rhain adre. Mae Mr Morris wedi sgrifennu arnyn nhw.

Gwyneth

O, o'r diwedd!

Morris

Rhowch nhw i'r hen ŵr cyn gynted ag y medrwch chi.

Gwyneth

Mi a' i adre'n syth efo nhw.

Morris

Mi gaiff Elwyn gyfle i godi tai ar ei ben ei hun rŵan.

Gwyneth

Well iddo fo ddod i ddiolch i chi am bob peth, ie...?

Morris

(Yn galed.) 'Does ama i ddim eisio diolch. D'wedwch 'mod i'n d'eud hynny.

Gwyneth

Mi 'na 'i...

Morris

A d'wedwch wrtho fo'r un pryd na fydda' i angen ei wasanaeth o o hyn ymlaen. Na chitha' chwaith.

Gwyneth

(Yn ddistaw a chrynedig.) Na finna' chwaith!

Morris

Mi fydd gennych chi betha' eraill i feddwl amdanyn nhw ac edrych ar eu hola' rŵan. Dyna'r ffordd ora' debyg. Adre â chi efo'r plania' rŵan, Miss Parry. Ar unwaith. Ydych chi'n clywed?

Gwyneth

(Fel o'r blaen.) Iawn Mr Morris. (Yn mynd allan.)

Mrs Morris

Mewn difri', on'd oes ganddi hi lygaid t'wyllodrus?

Morris

Hi? Y greadures fach yna?

Mrs Morris

O, 'dydw i ddim yn ddall Isaac... Ydych chi'n eu diswyddo nhw o ddifri?

Morris

Ydw.

Mrs Morris

Y ferch hefyd?

Morris

Dyna oeddech chi eisio Gladys. Rydw i'n gwybod.

Mrs Morris

Ond sut y medrwch chi 'neud hebddi hi? O, ie. Os ydw i'n eich nabod chi, mae gennych chi rywun arall mewn golwg.

Helen

(Yn llon.) Wel, 'dydw i 'mo'r un i fod wrth y ddesg yna beth bynnag.

Morris

Hidiwch befo, hidiwch befo. Mi fydd popeth yn iawn, Gladys. Yr unig beth sy' eisio i chi ei 'neud rŵan ydy meddwl am symud i'n cartre' newydd cyn gynted ag y medrwch chi. Heno mi rown ni'r dorch floda' i fyny. (Yn troi at Helen.) Reit ar binacl y tŵr. Be ydych chi'n dd'eud am hyn 'na, Miss Helen?

Helen

(Yn edrych arno gyda llygaid gloyw.) Mi fydd yn wych eich gweld chi mor uchel unwaith eto!

Morris

Fi!

Mrs Morris

Yn enw'r nefoedd, Miss O'Reilly, peidiwch â meddwl am y fath beth. Fy ngŵr i! Ac ynta'n cael pendro mor ofnadwy!

Helen

Fo'n cael pendro! Na, mi wn i'n iawn nad ydy o ddim!

Mrs Morris

O ydy wir, mae o.

Helen

Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel!

Mrs Morris

Ie, mi glywais i bobol yn sôn am hynny ond mae'n amhosib.

Morris

(Yn bendant.) Amhosib, ydy yn amhosib. Ond mi wnes i sefyll yno er hynny.

Mrs Morris

Sut y medrwch chi dd'eud hyn 'na Isaac? Gwarchod, fedrwch chi ddim diodde rhoi eich pen allan o ffenest y llofft ucha. Fel na y buoch chi erioed.

Morris

Hwyrach y gwelwch chi rywbeth gwahanol heno.

Mrs Morris

(Wedi dychryn.) Nâc e, nâc e, nâc e! O Dduw mawr, gobeithio na cha' i byth weld hynny. Rydw i'n gyrru am y doctor y munud 'ma. Wnaiff o byth ganiatâu'r fath beth.

Morris

Ond Gladys...!

Mrs Morris

Rhaid i mi 'neud. Oherwydd rydych chi'n sâl, Isaac. Mae hyn yn profi hynny. O Dduw, O Dduw! (Yn mynd allan ar frys i'r chwith.)

Helen

(Yn edrych yn galed arno.) Ydy hyn yn wir neu ydy o ddim?

Morris

Mod i'n cael pendro?

Helen

Na feiddia fy arwr i, na fedar o, ddringo cyn uched ag y gall o adeiladu?

Morris

Fel'na ydych chi'n ei gweld hi?

Helen

Ie.

Morris

'Does 'na 'run darn ohono i yn ddiogel oddi wrthych chi, 'ddyliwn.

Helen

(Yn edrych tua'r ffenest fae.) I fyny acw. Reit i fyny...

Morris

(Yn mynd ati hi.) Mi allech chi gael y stafell ucha yn y tŵr, Helen. Mi allech chi fyw fel tywysoges yno.

Helen

(Rhwng difri a chwarae.) Ie, dyna ddaru chi addo i mi.

Morris

Ddaru mi?

Helen

Come on, Mr Morris. Mi dd'wedsoch chi y byddwn i'n dywysoges. Y b'asech chi'n rhoi teyrnas i mi. Ac yna mi 'naethoch chi, a... Wel?

Morris

(Yn ofalus.) Ydych chi'n berffaith siŵr nad breuddwyd ydy hyn i gyd... rhyw ffansi yn eich pen chi?

Helen

(Yn siarp.) Trïo gwadu ydych chi? D'eud na ddaru chi ddim?

Morris

Dydw i ddim yn gwybod yn iawn. (Yn ddistawach.) Ond un peth a wn i rŵan, sef...

Helen

Sef be? Dwedwch ar unwaith.

Morris

Y dylwn i fod wedi g'neud.

Helen

(Yn orfoleddus.) F'asech chi byth yn cael pendro!

Morris

Heno, mi rown i'r dorch floda' i fyny... Dywysoges Helen.

Helen

(Braidd yn chwerw.) Uwchben eich cartre' newydd chi, on'd e?

Morris

Uwchben tŷ newydd na fydd o byth yn gartre' i mi. (Yn mynd allan drwy ddrws yr ardd.)



Helen yn edrych yn syth o'i blaen a golwg bell yn ei llygaid. Yr unig eiriau a glywir yw:

Helen

... dychrynllyd o wefreiddiol...

a1a2a3