a1a2a3

Rhywun Wrth y Drws (2004)

Henrik Johan Ibsen
add. John Lasarus Williams

Ⓗ 2004 John L Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 3


Y DRYDEDD ACT

Feranda fawr lydan yn rhan o dŷ Morris. Gwelir darn o'r tŷ a'r drws allan yn arwain i'r feranda. Mae canllaw ar hyd y feranda i'r dde. Yn y cefn, o ben draw'r feranda mae grisiau yn mynd i'r ardd islaw. Mae canghennau hen goed tal yn bargodi dros y feranda tua'r tŷ. Ymhell i'r dde, rhwng y coed, ceir cipolwg ar ddarn isa'r tŷ newydd gyda sgaffald o amgylch hynny a welir o'r tŵr. Yn y cefndir gwelir terfyn yr ardd, hen ffens goed. Tu allan i'r ffens, stryd a'i thai isel yn mynd â'u pen iddynt.

Yr ail ddiwrnod. Awyr fìn nos a'r cymylau dan olau haul. Ar y feranda mae sêt ardd ar wal y tŷ ac o'i blaen fwrdd hir. Yr ochor arall i'r bwrdd mae cadair freichiau a stolion. Dodrefn cansen sydd yno.

Mrs Morris yn gorffwyso ar ei heistedd yn y gadair freichiau a siôl fawr wen dros ei hysgwyddau ac yn syllu tua'r dde. Toc daw Helen O 'Reilly i fyny'r grisiau o'r ardd. Mae hi'n gwisgo ei dillad mynydda ond mae ganddi dusw bach o flodau cyffredin ar ei bron. Mae hi'n gwisgo trowsus cynnes.

Mrs Morris

(Yn troi ei phen ychydig.) Fuoch chi o gwmpas yr ardd, Miss O'Reilly?

Helen

Do, mi fûm i'n cael golwg arni.

Mrs Morris

A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld.

Helen

Do wir. Mae 'na glystyra' ohonyn nhw dan y llwyni.

Mrs Morris

Oes 'na wir? O hyd? Anaml iawn y bydda' i'n mynd yna, ydych chi'n gweld.

Helen

(Yn dod yn nes.) Be'? Fyddwch chi ddim yn picio i lawr i'r ardd bob dydd ynte'?

Mrs Morris

(Hanner gwên.) Fydda i ddim yn picio i unlle rŵan.

Helen

Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na?

Mrs Morris

Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn.

Helen

Eich gardd chi'ch hun?

Mrs Morris

Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach.

Helen

Be' ydych chi'n 'i feddwl?

Mrs Morris

Dydy hi ddim fel roedd hi yn amser nhad a mam. O, nâc ydy. Maen nhw wedi dwyn cymaint o'r ardd, Miss O'Reilly. Be 'ddyliech chi? Maen nhw wedi'i rhannu hi'n glytia' a chodi tai i bobol ddiarth yno, pobol nad ydw i ddim yn eu nabod nhw. Ac mi fedran nhw eistedd ac edrych i mewn i'r tŷ arna' i o'u ffenestri.

Helen

(Yn sirioli.) Mrs Morris.

Mrs Morris

Ie?

Helen

Ga' i aros yma efo chi am dipyn?

Mrs Morris

Cewch ar bob cyfri, os ydych chi eisio.

Helen

(Yn symud stôl at fraich y gadair freichiau ac yn eistedd.) A! Mi all rhywun 'i fwynhau ei hun fel cath yn yr haul yn fan 'ma.

Mrs Morris

(Yn rhoi ei llaw yn ysgafn ar wddw Helen.) Chwarae teg i chi am fod eisio eistedd efo mi. Roeddwn i'n meddwl mai i'r tŷ at y gŵr yr oeddech chi am fynd.

Helen

I be?

Mrs Morris

I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl.

Helen

Ddim diolch. A ph'run bynnag dydy o ddim yn y tŷ. Mae o draw yn fan'na efo'r gweithwyr. Ond roedd o'n edrych mor ffyrnig na feiddiais i ddim siarad efo fo.

Mrs Morris

Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi.

Helen

Tybed?

Mrs Morris

Dydych chi ddim yn ei nabod o eto, Miss O'Reilly.

Helen

(Yn edrych arni yn hoffus.) Ydych chi'n falch eich bod chi'n mynd i'r tŷ newydd?

Mrs Morris

Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris.

Helen

O, nid hynny'n unig, siŵr.

Mrs Morris

Wir, Miss OReilly. Oherwydd dyna 'nyletswydd i, cyd-dynnu efo fo. Ond yn amal mae'n anodd iawn eich gorfodi eich hun i ufuddhau.

Helen

Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn.

Mrs Morris

Ydy. Coeliwch fi. I rywun â chymaint o wendida' ag sy' gen i...

Helen

I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi...

Mrs Morris

Sut y gwyddoch chi am hynny?

Helen

Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i.

Mrs Morris

Prin iawn y bydd o'n sôn am y petha' yna efo mi. Ydw, o ydw, rydw i wedi bod drwy fwy na digon o drwbwl yn fy mywyd, Miss OReilly.

Helen

(Yn edrych arni yn llawn cydymdeimlad ac yn nodio'n araf.) Mrs Morris druan. I ddechra' mi fuo'r tân...

Mrs Morris

(Gydag ochenaid.) Do. Popeth oedd yn perthyn i mi wedi'i losgi.

Helen

A wedyn mi ddaeth rhywbeth gwaeth...

Mrs Morris

(Yn chwilio am eglurhad.) Gwaeth?

Helen

Gwaeth na'r cwbwl.

Mrs Morris

Be' ydych chi'n 'i feddwl?

Helen

(Y'n dyner.) Mi goll'soch chi'r ddau hogyn bach.

Mrs Morris

O, ie. Nhw. Ond roedd hynny'n beth gwahanol, wyddoch chi. Trefn rhagluniaeth oedd hynny ac felly fedar rhywun neud dim ond ymostwng a bodloni... Ie, a bod yn ddiolchgar hefyd.

Helen

Felly rydych chi'n teimlo, ie?

Mrs Morris

Nid bob amser, mae'n ddrwg gen i dd'eud. Mi wn i o'r gora' mai dyna ydy 'nyletswydd i. Ond er hynny fedra' i ddim.

Helen

Na fedrwch. 'Dydy hynny ddim ond naturiol.

Mrs Morris

Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi.

Helen

Am be?

Mrs Morris

Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd.

Helen

Ond wela' i ddim bod...

Mrs Morris

O, peidiwch wir, Miss OReilly. Peidiwch â siarad dim mwy am y ddau fachgen bach. Dim rhaid bod yn drist yn eu cylch nhw. Mae nhw'n hapus rŵan, y plant bach,... hapus rŵan. Na, y mân golledion mewn bywyd sy'n torri calon rhywun. Colli'r cwbwl o'r petha' nad ydy pobol yn meddwl dim ohonyn nhw.

Helen

(Yn rhoi ei breichiau ar liniau Mrs Morris ac edrych arni yn annwyl.) Mrs Morris annwyl. Dwedwch wrtha' i. Pa betha'?

Mrs Morris

Dim ond petha' bychain. Fel roeddwn i'n d'eud. Mi losgwyd yr hen lunia' i gyd ar y walia', a'r holl wisgoedd sidan oedd wedi bod yn y teulu ers cenedlaetha'. A lês mam a nain, y cwbwl wedi'u llosgi. A'r gema'. (Saib.) A'r dolia' i gyd.

Helen

Y dolia??

Mrs Morris

(Yn tagu gan ddagrau.) Roedd gen i naw o ddolia'; ddigon o ryfeddod.

Helen

Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd?

Mrs Morris

Bob un. Roedd hynny'n galed. O mi deimlais i'n arw.

Helen

Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach?

Mrs Morris

Wedi'u cadw, oeddwn. Ond nid eu rhoi o'r neilltu. Roedd y dolia' a finna' wedi dal i fyw efo'n gilydd.

Helen

Wedi i chi dyfu?

Mrs Morris

Ie, ymhell ar ôl hynny.

Helen

Wedi i chi briodi hefyd?

Mrs Morris

O, ie. Cyn belled na welai o mohonyn nhw. Ond mi llosgwyd nhw i gyd, y petha' bach. Feddyliodd neb am eu hachub nhw. Rydw i mor ddigalon yn meddwl am y peth. Wnewch chi ddim chwerthin am fy mhen i, na wnewch, Miss OReilly?

Helen

Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi.

Mrs Morris

Oherwydd, roedd 'na fywyd ynddyn hwytha', ydych chi'n gweld? Roeddwn i'n eu cario o dan fy nghalon, fel plant bach heb eu geni.

Dr Hughes

(Yn dod allan a'i het yn ei law. Mae'n gweld Mrs Morris a Helen.) Ydych chi'n eistedd allan, a hwyrach dal annwyd Mrs Morris?

Mrs Morris

Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw.

Dr Hughes

Ydy mae hi. Ond ydy popeth yn iawn yma? Mi ges i neges ffôn gennych chi.

Mrs Morris

(Yn codi.) Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi.

Dr Hughes

O'r gora'. Fyddai'n well i ni fynd i'r tŷ? (Wrth Helen.) Yn eich dillad mynydda o hyd, Miss O'Reilly?

Helen

(Yn codi ac ateb yn llon. Yn dangos ei hesgidiau a'i sanau, a chwiban a fflachlamp hwyrach.) Wrth gwrs. Yr offer a'r gêr i gyd. Ond heddiw 'dydw i ddim yn mynd i ddringo a thorri 'ngwddw. Mi arhoswn ni'n dau'n ddistaw yn y gwaelod a sbïo, Doctor.

Dr Hughes

Be gawn ni weld?

Mrs Morris

(Yn ddistaw ac wedi dychryn; wrth Helen.) Hsht, hsht. Yn enw'r nefoedd. Mae o'n dod. Ceisiwch gael y syniad 'na o'i ben o. A Helen, fedrwn ni ddim bod yn ffrindia', dwedwch?

Helen

(Yn taflu ei dwylo am wddw Mrs Morris.) O biti na fedren ni.

Mrs Morris

(Yn ymryddhau yn dyner.) Dyna ni. Dyna ni. Dyma fo'n dod Doctor. Ga' i air efo chi?

Dr Hughes

Amdano fo?

Mrs Morris

Ie wir. Dowch i mewn.



Y ddau yn mynd i'r tŷ. Yn union wedyn daw Morris i fyny'r grisiau o'r ardd. Golwg ddifrif ar wyneb Helen.

Morris

Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos?

Helen

Rydw i wedi sylwi eich bod chi'n cael effaith felly.

Morris

Hwyrach. Ond 'does gen i mo'r help. (Yn edrych yn graff arni.) Ydych chi'n oer, Helen? Rydych chi'n edrych felly.

Helen

Rydw i newydd ddod i fyny o blith y meirw.

Morris

Be' ydych chi'n 'i feddwl?

Helen

Bod iasa' oer wedi bod yn fy ngherdded i, Mr Morris.

Morris

(Yn araf.) Rydw i'n meddwl mod i'n deall...

Helen

Be' ddaeth â chi yma rŵan?

Morris

Mi gefais i gip arnoch chi o'r fan 'cw.

Helen

Ond rhaid eich bod chi wedi'i gweld hitha' hefyd.

Morris

Mi wyddwn i yr âi hi ar unwaith pan ddeuwn i yma.

Helen

Ydy o'n boenus iawn i chi ei bod hi'n eich osgoi chi fel hyn?

Morris

Mewn ffordd mae o'n rhyddhad hefyd.

Helen

Nad os raid i chi ei hwynebu hi.

Morris

Ie.

Helen

Rhag i chi orfod gweld yn gyson gymaint o loes ydy colli'r bechgyn bach iddi hi o hyd?

Morris

Ie, hynny'n bennaf.



Helen yn symud yn araf ar draws y feranda gyda'i dwylo tu ôl. Yn aros wrth y ganllaw ac edrych allan tua'r ardd.

Morris

(Ar ôl saib fer.) Gawsoch chi sgwrs hir efo hi? (Helen yn sefyll fel delw ac heb ateb.) Mi ofynnais i gawsoch chi sgwrs hir? (Helen yn ddistaw fel o'r blaen.) Am be' roedd hi'n siarad Helen? (Helen yn ddistaw o hyd.)

Morris; Gladys druan.

Am y bechgyn debyg gen i. (Rhyw gryndod nerfus yn cerdded corff Helen; mae'n nodio'n gyflym ychydig weithiau.)

Morris

Ddaw hi byth drosto fo. Byth, tra bo hi ar y ddaear 'ma. (Yn agosáu ati.) Rydych chi'n sefyll yn fan'na fel delw eto, yn union fel roeddech chi'n sefyll neithiwr.

Helen

(Yn troi ac edrych arno gyda llygaid mawr difri.) Rydw i'n mynd i ffwrdd.

Morris

(Yn siarp.) Mynd i ffwrdd?

Helen

Ydw.

Morris

Ond, 'na i ddim gadael i chi fynd.

Helen

Be' ydw i'n mynd i'w 'neud yma?

Morris

Dim ond aros yma Helen.

Helen

(Yn edrych arno'n amheus.) O, ie. Diolch yn fawr. Ond mi wyddoch chi'n iawn na fasai hi'n gorffen yn fan'no.

Morris

(Yn fyrbwyll.) Wel, gora' oll.

Helen

(Gydag angerdd.) Alla' i ddim g'neud drwg i rywun ydw i'n ei nabod. Alla' i ddim dwyn rhywbeth sy'n perthyn iddi hi.

Morris

Pwy sy'n sôn am hynny?

Helen

(Yn mynd ymlaen fel o'r blaen.) Rhywun diarth, OK. Achos mae hynny'n hollol wahanol. Rhyw berson na welais i erioed mohoni. Ond rhywun yr ydw i wedi dod yn agos ati hi. Na. No way.

Morris

Ie, ond wnes i erioed awgrymu y dylech chi.

Helen

O, Mr Morris. Mi wyddoch chi'n iawn be fyddai 'i diwedd hi. A dyna pam rydw i'n mynd i ffwrdd.

Morris

A be' ddaw ohonof fi wedi i chi fynd? Be' fydd gen i i fyw er ei fwyn o wedyn?

Helen

(Golwg annirnadwy yn ei llygaid.) Dim problem i chi. Mae gennych chi'ch dyletswydda' ati hi. Rhaid i chi fyw i'r rheini.

Morris

Rhy hwyr. Mae'r pwera' 'ma... yr... yr...

Helen

... Ysbrydion...

Morris

Ie, yr ysbrydion 'na. A'r dewin oddi mewn i mi hefyd. Mae nhw wedi sugno gwaed ei bywyd hi. (Yn chwerthin yn ei anobaith.) Er mwyn fy hapusrwydd i y gwnaethon nhw. Ie. (Yn drist.) A rŵan mae hi wedi marw... er fy mwyn i. A finna', yn fyw, ond wedi fy rhwymo wrth ddynes farw. (Poen meddwl amlwg.) Fi, na alla' i fyw heb sirioldeb mewn bywyd.



Helen yn cerdded o gwmpas y bwrdd ac yna'n eistedd ar y sêt, ei phenelinoedd ar y bwrdd a'i phen rhwng ei dwylo. Yn eistedd ac edrych arno am ysbaid.

Helen

Be' ydych chi am adeiladu nesa?

Morris

(Yn ysgwyd ei ben.) Dydw ddim yn credu yr adeilada' i lawer eto.

Helen

Ddim mwy o'r cartrefi clyd rheini i fam a thad a thyaid o blant?

Morris

Fydd 'na alw am dai felly yn y dyfodol, os gwn i?

Helen

Y contractor druan! A chitha' wedi bod wrthi am ddeng mlynedd. Wedi rhoi eich bywyd i hynny'n unig.

Morris

Ie, mae 'na lawer o wir yn yr hyn ydych chi'n 'i dd'eud.

Helen

(Yn uchel.) O! Mae'r cwbwl yn edrych mor wirion, mor hurt.

Morris

Be?

Helen

Na all rhywun afael yn dynn yn ei hapusrwydd ei hun. Am ddim rheswm ond bod rhywun ydych chi'n ei nabod yn digwydd bod yn y ffordd.

Morris

Rhywun nad oes gennych chi ddim hawl i'w wthio o'r neilltu.

Helen

Tybed, nad oes gan rywun yr hawl mewn gwirionedd? Ac eto, ac eto... O na f'asai rhywun yn gallu cysgu ac anghofio'r holl beth. (Helen yn rhoi ei breichiau yn fflat ar y bwrdd gan orffwys ochr chwith ei phen ar ei dwylo a chau ei llygaid.)

Morris

(Yn troi'r gadair freichiau ac eistedd i lawr wrth y bwrdd.) Oedd gennych chi gartre' cysurus hapus draw efo'ch tad Helen?

Helen

(Heb symud ac fel petai hi'n hanner cysgu.) Doedd gen i ddim byd ond carchar.

Morris

A rydych chi'n benderfynol nad ewch chi'n ôl iddo?

Helen

(Fel o'r blaen.) Fydd deryn gwyllt o'r coed byth eisio bod mewn cawell.

Morris

Gwell ganddo wibio drwy'r awyr agored...

Helen

(Fel o'r blaen.) Gwibio ydy natur yr hebog a'r barcud.

Morris

(Yn syllu arni.) Biti na bai ysbryd dewr yr hen anturwyr ynon ninna'.

Helen

(Yn ei llais arferol, yn agor ei llygaid ond heb symud.) A rhywbeth arall. D'wedwch be' oedd hwnnw.

Morris

Cydwybod gref.



Helen yn eistedd i fyny ar y sêt yn llawn edmygedd yr hen hoywder yn ei llygaid eto.

Helen

(Yn nodio arno.) Mi wn i be ydych chi'n mynd i adeiladu nesa'.

Morris

Mi wyddoch chi fwy nag a wn i ynte', Helen.

Helen

Wir. Mae'r contractors 'ma mor dwp.

Morris

Be' fydd o ynte?

Helen

(Yn nodio eto.) Y castell.

Morris

Pa gastell?

Helen

Fy nghastell i wrth gwrs.

Morris

Ydych chi eisio castell rŵan?

Helen

Rydych chi wedi addo teyrnas i mi.

Morris

Felly rydych chi'n dal i dd'eud.

Helen

Reit, rydych chi'n cyfadde'ch bod chi wedi addo teyrnas i mi. Wel, ellwch chi ddim cael teyrnas heb gastell.

Morris

(Yn bywiogi.) Ie. Maen nhw'n cyd-fynd fel arfer.

Helen

Da iawn. Adeiladwch o ynte'. Ar unwaith.

Morris

(Yn chwerthin.) Rŵan, y munud 'ma?

Helen

Wrth gwrs. Mae'r amser ar ben. Y deng mlynedd. A dydw i ddim am aros chwaneg. Y castell, Mr Morris!

Morris

Nid mater bach ydy bod yn eich dyled chi Helen. | Helen Ddylech chi fod wedi meddwl am hynny'n gynt. Mae'n rhy hwyr rŵan. (Yn tapio'r bwrdd.) Felly, y castell ar y bwrdd. Fy nghastell i ydy o. Rydw i eisio fo rŵan! | Morris (Yn fwy o ddifri, yn plygu tuag ati â'i freichiau ar y bwrdd.) Sut fath o gastell sy' gennych chi mewn golwg, Helen?

Helen

(Daw mwy o ddirgelwch i'w golwg fel petai hi'n syllu i mewn i'w phersonoliaeth ei hun. Siarad yn araf.) Mi fydd fy nghastell i'n sefyll ar le uchel, uchel iawn. Pob ochor yn glir. Fel y galla' i weld ymhell i'r pellter.

Morris

Efo tŵr uchel, 'does dim dwywaith.

Helen

Tŵr uchel ofnadwy. Ac ar ben ucha'r tŵr mi fydd 'na falconi. Ac yno'n uchel y bydda' i...

Morris

(Yn rhoi ei ddwylo ar ei ben heb feddwl.) O, fel y byddwch chi wrth eich bodd yn sefyll mewn lle mor beryglus o uchel...

Helen

Wrth gwrs. Mi safa' i yno ac edrych i lawr ar y lleill... y rhai sy'n codi eglwysi a chartrefi i fam a thad a phlant. ... A mi gewch chitha' ddod i weld hefyd.

Morris

(Yn isel.) Gaiff yr hen adeiladwr ddringo i fyny at y dywysoges?

Helen

Os bydd o'n dymuno.

Morris

(Yn dyner.) Felly, rydw i'n credu y daw'r adeiladwr.

Helen

(Yn nodio.) Daw, mi ddaw.

Morris

Ond wnaiff o byth adeiladu wedyn, yr hen adeiladwr druan.

Helen

(Yn llawn bywyd.) O g'naiff wir! Mi awn ni'n dau ati efo'n gilydd. A wedyn mi adeiladwn ni'r peth hardda'... yr hardda' yn yr holl fyd.

Morris

(Yn daer.) Helen, d'wedwch wrtha i, be' ydy hwnnw?



Helen yn edrych arno gan wenu. Mae'n ysgwyd ei phen, gwneud ceg blentynnaidd a siarad fel wrth blentyn.

Helen

Adeiladwyr. Bobol bach, mae nhw'n rhai twp, mor ofnadwy o dwp.

Morris

Ydyn, mwy na thebyg. Ond rŵan dwedwch wrtha' i be' ydy o. Y peth hardda' yn y byd. Yr un rydyn ni'n mynd i'w adeiladu efo'n gilydd?

Helen

(Yn ddistaw am ychydig. Yna dywaid â golwg bell yn ei llygaid.) Cestyll yn yr awyr.

Morris

Cestyll yn yr awyr?

Helen

(Yn nodio.) Ie. Cestyll yn yr awyr. Wyddoch chi sut beth ydy castell yn yr awyr?

Morris

Dyna'r peth hardda' yn y byd, meddech chi.

Helen

(Y'n codi'n wyllt a gwneud arwydd â'i llaw o daflu'r syniad i ffwrdd.) Ie, wrth gwrs. Cestyll yn yr awyr... maen nhw mor handi i ddianc iddyn nhw. Ac mor hawdd eu gwneud hefyd. (Yn edrych yn ddirmygus arno.) Yn enwedig i adeiladwyr efo nerfa' gwan.

Morris

(Yn codi.) Ar ôl heddiw mi adeiladwn ni'n dau efo'n gilydd Helen.

Helen

(Gyda gwên led amheus.) Castell go iawn yn yr awyr?

Morris

Ie. Un â sylfeini cadarn iddo fo.



Daw Elwyn Meredith allan o'r tŷ. Mae'n cario torch fawr werdd gyda blodau a rhubanau sidan arni.

Helen

(Cri o lawenydd.) Y wreath. O mi fydd hyn yn wych!

Morris

(Wedi'i synnu.) O, chdi sy' wedi dod â hi Elwyn?

Elwyn

Roeddwn i wedi addo i'r fforman y g'nawn i.

Morris

(Yn teimlo rhyddhad.) A mae dy dad yn well felly ynte?

Elwyn

Nâc ydy.

Morris

Ddaru'r hyn sgrifennais i mo'i gysuro fo?

Elwyn

Roedd hi'n rhy hwyr.

Morris

Rhy hwyr!

Elwyn

Pan gyrhaeddodd hi roedd o'n anymwybodol. Wedi cael strôc.

Morris

Gwell i ti fynd adre ato fo. Rhaid i ti fynd i edrych ar ôl dy dad.

Elwyn

'Dydy o mo f'angen i ddim mwy.

Morris

Ond mi ddylet ti fod efo fo, debyg iawn.

Elwyn

Mae hi'n eistedd wrth ei wely fo.

Morris

(Yn ansicr braidd.) Gwyneth?

Elwyn

(Yn edrych yn gyhuddgar braidd.) Ie, Gwyneth.

Morris

Dos di adre, Elwyn. I fod efo fo a hitha'. Dyro i mi'r wreath.

Elwyn

(Yn atal gwên wawdlyd.) Dydych chi erioed yn meddwl g'neud hynny'ch hun?

Morris

Rydw i eisio mynd â hi i lawr iddyn nhw fy hun. (Yn cymryd y dorch flodau oddi arno.) A rŵan, dos di adre. 'Dydyn ni mo d'angen di heddiw.

Elwyn

Rydw i'n deall na fyddwch chi mo' f'angen i yn y dyfodol. Ond rydw i'n aros heddiw.

Morris

O'r gora', aros. Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar hynny.

Helen

(Wrth ymyl y ganllaw.) Mr Morris. Mi arhosa' i yn fan 'ma i'ch gwylio chi.

Morris

Fy ngwylio i!

Helen

Mi fydd yn hollol wefreiddiol.

Morris

(Yn isel.) Mi siaradwn ni am hynny eto, Helen. (Yn mynd i lawr y grisiau trwy'r ardd gyda'r dorch flodau.)

Helen

(Yn edrych arno'n mynd ac yna'n troi at Elwyn.) Rydw i'n meddwl y gallech chi, o leia', fod wedi diolch iddo fo.

Elwyn

Diolch. Ddylwn i fod wedi diolch iddo fo?

Helen

Wel, dylech wrth gwrs.

Elwyn

Rydw i'n meddwl mai i chi y dylwn i ddiolch.

Helen

Sut y gellwch chi dd'eud y fath beth?

Elwyn

(Heb ei hateb.) Ond byddwch yn ofalus, Miss O'Reilly. 'Dydych chi ddim yn ei nabod o eto.

Helen

(Gydag angerdd.) Rydw i'n ei nabod o'n well na neb.

Elwyn

(Chwerthiniad chwerw.) Diolch iddo fo! Y dyn gadwodd fi i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Y dyn barodd i 'nhad golli ffydd yn fy ngallu i. Wnaeth i mi golli ffydd ynof fi fy hun... A'r cwbwl dim ond iddo fo...

Helen

(Fel petai hi'n ffroeni rhywbeth.) Dim ond iddo fo...? D'wedwch, ar unwaith!

Elwyn

Iddo fo gael ei chadw hi efo fo.

Helen

(Yn cychwyn ato'n sydyn.) Yr hogan 'na wrth y ddesg?

Elwyn

Ie.

Helen

(Yn fygythiol, yn dangos ei dyrnau.) Dydy hyn 'na ddim yn wir. Rydych chi'n d'eud anwiredd amdano fo.

Elwyn

Roeddwn innau yn gwrthod credu hynny hyd heddiw... pan dd'wedodd hi ei hun.

Helen

(Fel pe'n colli arni ei hun.) Be ddwedodd hi? Mae'n rhaid i mi gael gwybod. Ar unwaith. Y munud 'ma.

Elwyn

Mi dd'wedodd hi ei fod o wedi meddiannu ei meddwl hi... yn gyfangwbwl. Wedi'i orseddu'i hun yn ei holl feddylia' hi. Na fedrith hi ddim dianc. ... Ei bod hi am aros yma, lle mae o...

Helen

(A'i llygaid yn melltennu.) Chaiff hi 'mo'r cyfle!

Elwyn

Pwy sy'n d'eud?

Helen

Mi fydd o'n d'eud.

Elwyn

O, rydw i'n deall. Ar ôl hyn fasai hi ddim ond yn rhwystr iddo.

Helen

Dydych chi'n deall dim. Os ydych chi'n gallu siarad fel 'na. Na, mi dd'weda' i wrthych chi pam roedd o'n dal ei afael ynddi hi.

Elwyn

Pam, ynte'?

Helen

Er mwyn eich cadw chi.

Elwyn

Dd'wedodd o hynny wrthych chi?

Helen

Naddo. Ond dyna'r gwir. Felly roedd hi. Rydw i eisio iddi hi fod felly.

Elwyn

A'r funud y daethoch chi, mi adawodd o iddi hi fynd.

Helen

Na, chi. Gadael i chi fynd ddaru o. Pam y b'asa fo'n malio am ryw ferch fel hi?

Elwyn

(Yn dechrau meddwl.) Oes posib mai f'ofn i oedd arno fo drwy'r amser?

Helen

Ofn wir. Ofn arno fo? Peidiwch â bod mor hunan-dybus, bendith y Tad i chi.

Elwyn

Mae'n siŵr ei fod o wedi sylweddoli ers talwm fod gen i rywfaint o allu. P'run bynnag, ydych chi ddim yn gweld mai ofn sy' amo fo?

Helen

Fo? Peidiwch â malu awyr.

Elwyn

Yn ei ffordd ei hun mae o'n llwfr. Isaac Ryan Morris, Contractor! Does arno fo ddim ofn dwyn oddi ar bobol eraill,... eu hapusrwydd. Fel mae o wedi difetha bywyd 'nhad a finna'. Ond pan ddaw hi i ddringo rhyw fymryn o sgaffald, mae'n well ganddo fo 'neud unrhyw beth na hynny.

Helen

O, pe baech chi wedi'i weld o yn uchel, uchel, yn yr entrychion fel y gwelais i o.

Elwyn

Welsoch chi hynny?

Helen

O, do. Mor rhydd a balch. Yn sefyll reit ar y top a gosod y wreath ar y ceiliog gwynt.

Elwyn

Mi wn i iddo fo fentro yr un tro hwnnw yn ei fywyd. Dim ond un tro. Rydyn ni'r dynion ifainc wedi bod yn sôn am y peth. Ond 'does 'na 'run gallu ar y ddaear fedrai ei gael o i 'neud hynny eto.

Helen

Heddiw, mi fydd o'n g'neud hynny eto.

Elwyn

(Yn wawdlyd.) Gawn ni weld.

Helen

Mi gawn ni weld!

Elwyn

Welwch chi na finna' mo hynny. Bendant.

Helen

(Gydag angerdd arbennig.) Rydw i'n mynd i'w weld o. Mae'n rhaid i mi ei weld o. Ac mi ga' i.

Elwyn

Na, wnaiff o ddim. Feiddith o ddim. Dyna'r man gwan yn ei gymeriad o... y giaffar, er mor glyfar ydy o... y contractor pwysig.



Daw Mrs Morris o'r tŷ i'r feranda.

Mrs Morris

(Yn edrych o'i chwmpas.) Ydy o ddim yma? B'le mae o wedi mynd?

Elwyn

Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion,

Helen

Mae o wedi mynd â'r wreath.

Mrs Morris

(Wedi dychryn.) Mi aeth â'r wreath efo fo? O'r nefoedd! Duw a'n helpo ni. Meredith, ewch i lawr ato fo wir. Perswadiwch o i ddod yn ôl i fan 'ma.

Elwyn

Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris?

Mrs Morris

Ie. Nâc e. Na, peidiwch â d'eud bod arna' i eisio fo. D'wedwch fod 'na rywun yma ac iddo ddod ar unwaith.

Elwyn

O'r gora', mi 'na i hynny Mrs Morris. (Yn mynd i Iawr y grisiau ac allan drwy'r ardd.)

Mrs Morris

O, Miss O'Reilly fedrwch chi ddim dychmygu mor bryderus ydw i yn ei gylch o.

Helen

Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic.

Mrs Morris

Ydych hi ddim yn sylweddoli ngeneth i? Y peryg petai o'n g'neud hyn? Petai o'n cymryd yn ei ben i ddringo'r sgaffald?

Helen

(Yn eiddgar.) Ydych chi'n meddwl y gwnaiff o?

Mrs Morris

Does dim dal be' all o gymryd yn ei ben. Mi all o 'neud unrhyw beth dan haul.

Helen

Aha! Ydych chitha''n meddwl ei fod o... wel...?

Mrs Morris

Wn i ddim be' i'w feddwl ohono fo, wir. Mae'r doctor wedi bod yn d'eud pob math o betha' wrtha' i. Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud...



Dr Hughes yn rhoi ei ben i mewn drwy'r drws.

Dr Hughes

Ydy o'n dod yn o fuan?

Mrs Morris

Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag.

Dr Hughes

(Yn nesáu.) F'asai hi ddim gwell i chi fynd i'r tŷ, Mrs Morris?

Mrs Morris

Na, na. Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac.

Dr Hughes

Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi.

Mrs Morris

O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg.

Dr Hughes

Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni.

Mrs Morris

O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg. Mae'n ddyletswydd arna' i.

Dr Hughes

Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto?

Mrs Morris

Na. Wnâi hynny 'mo'r tro o gwbwl. Gan eu bod nhw yma, fy nyletswydd i ydy eu gweld nhw. Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o.

Dr Hughes

A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni.

Mrs Morris

Ia, os gwelwch chi'n dda. Miss O'Reilly, daliwch eich gafael yn dynn ynddo fo.

Helen

Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny.

Mrs Morris

Byddai, mae o'n ddyletswydd arna' i. Ond pan fo gan rywun ddyletswydda' mewn cymaint o gyfeiriada'...

Dr Hughes

(Yn edrych tua'r ardd.) Dyma fo, mae o'n dod.

Mrs Morris

A minna'n gorfod mynd i'r tŷ.

Dr Hughes

(Wrth Helen.) Peidiwch â sôn wrtho fo 'mod i yma.

Helen

Na' i ddim. Gellwch fentro y ca' i rywbeth arall i siarad amdano fo efo Mr Morris.

Mrs Morris

A plis, gofalwch gadw'ch gafael yn dynn ynddo fo. Chi fedar 'neud hynny ora'.



Mrs Morris a Dr Hughes yn mynd i'r tŷ. Helen yn aros ar y feranda. Mr Morris yn dod i fyny'r grisiau o'r ardd.

Morris

Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i.

Helen

Oes. Fi, Mr Morris.

Morris

O! Chi sy 'na Helen? Roedd arna' i ofn mai'r doctor a Gladys oedd yma.

Helen

Ofn. Rydych chi'n hawdd iawn eich dychryn, mae'n rhaid.

Morris

Ydych chi'n meddwl?

Helen

Ydw, mae pobol yn d'eud fod arnoch chi ofn dringo, dringo i fyny sgaffald ac ati.

Morris

Mae hynny'n fater gwahanol. 'Helen Mae'n wir fod arnoch chi ofn ynte? Ydy.

Helen

Ofn disgyn i lawr, a'ch lladd eich hun.

Morris

Na, nid hynny.

Helen

Ofn be', ynte?

Morris

Ofn cosbedigaeth, Helen, ofn y farn.

Helen

Cosb? 'Dydw i ddim yn deall.

Morris

Eisteddwch i lawr, a mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi.

Helen

Ie, g'newch, ar unwaith. (Yn eistedd ar stôl ger y ganllaw gan edrych yn ddisgwylgar.)

Morris

(Yn taflu ei het ar y bwrdd.) Mi wyddoch chi mai drwy adeiladu eglwysi y dechreuais i.

Helen

(Yn nodio.) Mi wn i hynny.

Morris

Wel, hogyn o gartre duwiol yn y wlad oeddwn i, ydych chi'n gweld. Felly roeddwn i'n meddwl mai adeiladu eglwysi oedd y gwaith mwya' teilwng fedrwn i 'i neud.

Helen

Ie, ie.

Morris

A rydw i'n meddwl y medra' i dd'eud mod i wedi codi'r eglwysi bychain hynny mor onest a chywir a chyda cymaint o barch fel...

Helen

Fel be?

Morris

Fel y disgwyliwn i 'mod i wedi'i blesio Fo.

Helen

Plesio pwy?

Morris

Yr un roedd yr eglwysi er ei fwyn o, wrth gwrs. Hwnnw roedden nhw wedi'u cysegru i'w ogoniant o, ac er ei glod.

Helen

Wela' i. Ond ydych chi'n berffaith siŵr nad... nad oeddech chi wedi'i blesio fo?

Morris

(Yn ddirmygus.) Fo yn falch ohona' i? Sut y medrwch chi siarad fel 'na Helen? Yr un roddodd y dewin oddi mewn i mi i chwara' ei gastia'? Hwnnw barodd iddyn nhw fod wrth law ddydd a nos... nhw... tylwyth yr...

Helen

Yr ysbrydion?

Morris

Ie. Y ddau fath. O, na. Mi ddangosodd yn ddigon buan nad oeddwn i wedi'i blesio Fo. (Awgrym o ddirgelwch.) Dyna, mewn gwirionedd, pam y parodd o i'r hen dŷ fynd ar dân, ydych chi'n gweld.

Helen

O, dyna pam?

Morris

Ie. Ydych chi ddim yn deall? Roedd o eisio rhoi'r cyfle i mi ddod yn bencampwr yn fy ngwaith fel y b'aswn i'n adeiladu eglwysi mwy gogoneddus iddo Fo. Yn y dechra' 'doeddwn i ddim yn deall be' oedd ganddo Fo mewn golwg. Ond mi wawriodd arna i mewn amrantiad.

Helen

Pryd oedd hynny?

Morris

Pan oeddwn i'n codi tŵr yr eglwys i fyny ym Mryn Padarn.

Helen

Roeddwn i'n ama'.

Morris

Oherwydd, i fyny yno yn yr ardal anial honno mi fûm i'n crwydro gan fy holi fy hun. Yr adeg honno mi sylweddolais i'n glir pam roedd O wedi cymryd fy mhlant bach oddi arna' i. Rhag bod gen i ormod o feddwl o betha' eraill. Doedd dim byd fel cariad a hapusrwydd yn cyfri', ydych chi'n gweld? Adeiladwr oeddwn i i fod a dim arall. A thrwy gydol fy mywyd roeddwn i i fod i ddal ati i adeiladu iddo Fo. (Yn chwerthin.) Ond, mi fedra' i'ch sicrhau chi nad felly y bu hi.

Helen

Be 'naethoch chi?

Morris

I ddechra' mi holais fy hun... a phrofi fy hun...

Helen

A wedyn?

Morris

Yna... mi wnes i'r amhosib... fi gystal â Fo.

Helen

Yr amhosib?

Morris

'Doeddwn i erioed wedi medru dringo i unrhyw uchder. Ond y diwrnod hwnnw, mi lwyddais i.

Helen

(Yn neidio.) O do mi 'naethoch chi.

Morris

A phan oeddwn i'n sefyll yno yn uchel, reit ar y top, wrth i mi roi'r dorch floda' ar y ceiliog gwynt, mi dd'wedais i wrtho Fo: Clyw fi yn awr. Tydi yr Hollalluog. O'r dydd hwn ymlaen byddaf yn adeiladwr rhydd. Myfi yn fy myd fy hun fel yr wyt Ti yn dy fyd. Adeilada' i byth eglwysi i Ti eto... dim ond cartrefi i bobol.

Helen

(Ei llygaid yn ddisglair.) Dyna oedd y gân a glywais i yn yr awyr!

Morris

Ond wedi hynny mi ddaeth ei dro ynta'.

Helen

Be' ydych chi'n 'i feddwl?

Morris

(Yn edrych arni'n ddigalon.) Dydy codi tai i bobol yn dda i ddim, Helen.

Helen

Pam rydych chi'n d'eud hynny?

Morris

Oherwydd mod i'n gweld nad ydy pobol ddim yn medru defnyddio'r tai er mwyn eu hapusrwydd. A f'aswn inna' ddim chwaith petawn i wedi cael un. (Chwerthin tawel chwerw.) Wrth edrych yn ôl, be' sy' 'na? 'Dydw i wedi adeiladu dim byd. Na dim byd wedi'i aberthu chwaith er mwyn cael y cyfle i adeiladu. Dim. Dim oll!

Helen

Newch hi byth adeiladu dim byd eto felly?

Morris

(Yn fywiog.) O g'naf. Rydw i ar fin dechra'!

Helen

Be' ydych chi am adeiladu? Dwedwch ar unwaith.

Morris

Does dim ond un trigfan i hapusrwydd pobol. A dyna ydw i am ei adeiladu rŵan.

Helen

(Yn sefydlu ei golwg arno.) Ein cestyll yn yr awyr ydych chi'n feddwl, on'd e?

Morris

Ie. Cestyll yn yr awyr.

Helen

Mae arna' i ofn y caech chi bendro cyn cyrraedd hanner y ffordd i fyny.

Morris

Nid os ca' i fynd i fyny law yn llaw efo chi, Helen.

Helen

(Yn methu cuddio eiddigedd.) Efo fi'n unig? Oni fydd 'na amryw ohonon ni?

Morris

Pwy arall?

Helen

O, y Gwyneth 'na. Yr hogan druan 'na wrth y ddesg. Ydych chi ddim am fynd â hi hefyd?

Morris

Oho! Amdani hi yr oedd Gladys yn siarad efo chi?

Helen

Ai dyna'r gwir? Ie neu nage?

Morris

(Yn flin.) Ateba' i 'mo'r fath gwestiwn. Rhaid i chi gredu ynof fi, yn llwyr.

Helen

Ar hyd y deng mlynedd d'waetha, rydw i wedi credu ynoch chi'n gyfangwbwl.

Morris

Rhaid i chi ddal i gredu ynof fi.

Helen

Gadewch i mi'ch gweld chi yn sefyll ar y top, yn ddyn rhydd ynte'.

Morris

(Yn drist.) Helen, nid bob dydd y medra' i neud hynny.

Helen

(Gydag angerdd.) Rydw i eisio i chi 'neud. (Yn erfyn.) Dim ond unwaith eto, plis. G'newch yr amhosib unwaith eto!

Morris

(Yn sefyll ac edrych yn ddwfn i'w llygaid.) Os ceisia' i Helen, mi safa' i fyny yn fan 'cw a siarad fel y gwnes i o'r blaen.

Helen

(Yn mynd yn fwy brwdfrydig.) Be dd'wedwch chi wrtho Fo?

Morris

Mi dd'weda' i wrtho Fo: Clyw fi, Arglwydd Hollalluog. Rhaid i Ti fy marnu i yn ôl dy ddoethineb. Ond o hyn allan, adeilada' i ddim ond y peth hardda' yn y byd...

Helen

(Wedi ymgolli.) Ie!... Ie!... Ie!

Morris

Ei adeiladu o gyda thywysoges a garaf.

Helen

Ie. D'wedwch hynny wrtho Fo. D'wedwch hynny wrtho Fo.

Morris

G'naf. Ac yna mi dd'weda' i wrtho Fo: Yn awr rwy'n mynd i lawr, rhoi fy mreichia' amdani hi a'i chusanu...

Helen

Lawer gwaith. D'wedwch hynny.

Morris

Laweroedd o weithia', dyna dd'weda' i.

Helen

A wedyn?

Morris

Yna mi chwifia' i fy het a dod i lawr i'r ddaear a g'neud fel y d'wedais i.

Helen

(Â'i breichiau allan.) Rŵan rydw i'n eich gweld chi eto fel y gwelais i chi pan oedd cân yn yr awyr!

Morris

(Yn edrych arni wedi plygu ei ben.) Sut ddar'u chi ddatblygu i'r hyn ydych chi, Helen?

Helen

Sut y g'naethoch chi fi yr hyn ydw i?

Morris

(Yn fyr a chadarn.) Mi gaiff y dywysoges ei chastell.

Helen

(Yn llawenhau a chlapio.) O fy adeiladwr arbennig i! Fy nghastell hardd. Ein castell yn yr awyr!

Morris

Ar ei sylfaen gadarn.



Trwy'r coed fe welir, yn aneglur, bod tyrfa wedi ymgasglu yn y stryd. Clywir sain band pres yn y pellter y tu ôl i'r tŷ newydd. Daw Mrs Morris gyda choler ffwr am ei gwddw, Dr Hughes gyda siôl wen, Mrs Morris ar ei fraich, ac amryw o ferched, allan ar y feranda. Yr un pryd daw Elwyn Meredith i fyny o'r ardd.

Mrs Morris

(Wrth Elwyn.) Oes 'na fand hefyd?

Elwyn

Oes. Band yr Undeb ydy o. (Wrth Morris.) Mi ofynnodd y fforman i mi ddeud wrthych chi 'i fod o'n barod i fynd i fyny efo'r wreath.

Morris

(Yn cymryd ei het.) Iawn. Mi a' i i lawr.

Mrs Morris

(Yn bryderus.) Pam mae eisio i chi fynd i lawr, Isaac?

Morris

(Yn gwta.) Rhaid i mi fod i lawr 'na efo'r dynion.

Mrs Morris

Ie, i lawr cofiwch. Dim ond ar lawr.

Morris

Dyna lle bydda' i bob amser. Fel arfer. (Yn mynd i lawr y grisiau a thrwy'r ardd.)

Mrs Morris

(Yn galw arno dros y ganllaw.) Da chi, perwch i'r dyn fod yn ofalus wrth fynd i fyny. Cofiwch, Isaac.

Dr Hughes

(Wrth Mrs Morris.) Mi welwch mod i'n iawn. Mae o wedi rhoi o'r neilltu'r syniad gwirion.

Mrs Morris

O'r fath ryddhad. Ddwy waith mae 'na ddynion wedi disgyn a chael eu lladd yn y fan. (Yr troi at Helen.) Diolch i chi, Miss O'Reilly, am ddal gafael yn dynn ynddo fo. Faswn i byth wedi medru g'neud hynny fy hun.

Dr Hughes

(Yn siriol.) Ie wir, Miss O'Reilly. Rydych chi'n gwybod sut i ddal eich gafael yn rhywun pan rowch chi'ch meddwl ar hynny.



Mrs Morris a Dr Hughes yn mynd at y merched sy'n sefyll wrth y grisiau yn edrych allan dros yr ardd. Helen yn sefyll wrth y ganllaw. Elwyn yn mynd ati hi.

Elwyn

(Yn mygu chwerthiniad a sibrwd yn isel.) Miss O'Reilly. Welwch chi'r dynion ifainc 'na i lawr yn y stryd?

Helen

Gwelaf.

Elwyn

Y gweithwyr ifainc a'r prentisiaid ydyn nhw, wedi dod i wylio'r bos.

Helen

I be' mae nhw eisio'i wylio fo?

Elwyn

Mae nhw eisio gweld cymaint o ofn arno fo na 'naiff o ddim dringo i ben ei dŷ ei hun.

Helen

A dyna be mae'r hogia' eisio, ie?

Elwyn

(Yn ddirmygus a sbeitlyd.) Mae o wedi'n dal ni i lawr. Rŵan, mi gawn ni ei weld o'i hun yn gorfod aros i lawr yn y gwaelod.

Helen

Welwch chi mo hynny. Nid y tro yma.

Elwyn

(Yn gwenu.) Felly wir. B'le gwelwn ni o ynte'?

Helen

I fyny reit ar y top, wrth y ceiliog gwynt. Dyna lle gwelwch chi o.

Elwyn

(Yn chwerthin.) Fo? Dyna ydych chi'n ei feddwl.

Helen

Mae o wedi rhoi ei feddwl ar gyrraedd pen y tŵr. A dyna lle gwelwch chi o, ar y copa.

Elwyn

Meddwl, ie. Mi fedra' i gredu hynny'n hawdd. Ond fedrith o ddim. Mi gâi bendro... ymhell cyn cyrraedd hanner y ffordd. Mi f'asai'n rhaid iddo gropian i lawr ar ei bedwar.

Dr Hughes

(Yn pwyntio.) Edrychwch. Dacw'r fforman yn dechra' dringo'r ysgol.

Mrs Morris

A mae o'n cario'r wreath hefyd. O, gobeithio'r annwyl y bydd o'n ofalus.

Elwyn

(Yn llygadrythu'n anghrediniol a gweiddi.) Ond Duw annwyl... fo.

Helen

(Yn torri allan mewn llawenydd.) Fo'i hun ydy o. Mr Morris, y contractor!

Mrs Morris

(Yn sgrechian yn ei dychryn.) Ie, Isaac ydy o! O Dduw mawr! Isaac! Isaac!

Dr Hughes

Hsht, hsht. Peidiwch â gweiddi arno fo.

Mrs Morris

(Wedi colli arni ei hun.) Rhaid i mi fynd ato fo. Rhaid i mi ei gael o i lawr!

Dr Hughes

(Yn dal ei afael ynddi.) Peidiwch â symud. Yr un ohonoch chi. Dim smic.

Helen

(Heb symud ond yn dilyn Morris â'i llygaid.) Yn dringo a dringo. ... Yn uwch ac yn uwch! Edrychwch! ... Mewn difri'!

Elwyn

(Yn dal ei anadl.) Rhaid iddo droi'n ôl rŵan. ... 'Does dim arall amdani.

Helen

Dringo... dal i ddringo! Mae o bron ar ben y tŵr!

Mrs Morris

Mae'r ofn yn ddigon amdana' i. Fedra' i ddim diodde' edrych!

Dr Hughes

Gwell i chi beidio edrych.

Helen

Dyna i chi. Mae o'n sefyll ar y planc ucha. Reit yn y top!

Dr Hughes

Neb i symud. Ydych chi'n clywed?

Helen

(Yn dawel orfoleddus.) O'r diwedd! O'r diwedd! Unwaith eto. Y pencampwr yn rhydd!

Elwyn

(Bron methu cael geiriau.) Ond, mae hyn yn...

Helen

Fel hyn yr ydw i wedi'i weld o drwy gydol y deng mlynedd. Mor ddewr, yn sefyll yna. Dyna be' ydy gwefr. Rŵan mae o'n gosod y wreath ar y ceiliog gwynt!

Elwyn

Rydw i'n teimlo mod i'n gweld rhywbeth amhosib.

Helen

Ie, yr amhosib! Dyna'n union mae o'n ei 'neud rŵan! (Yr olwg bell yn ei llygaid.) Welwch chi rywun arall i fyny 'na efo fo?

Elwyn

Na, does 'na neb arall.

Helen

Oes. Mae 'na un, y mae o'n dadla' efo fo.

Elwyn

Does 'na neb yna.

Helen

Ydych chi ddim yn clywed cân yn yr awyr chwaith?

Elwyn

Rhaid mai'r gwynt ydy o, ym mriga'r coed.

Helen

Rydw i'n clywed cân orfoleddus. (Yn gweiddi mewn gorfoledd gwyllt.) Edrychwch! Edrychwch! Rŵan mae o'n chwifio'i het! Arnon ni i lawr yma mae o'n chwifio! O, chwifiwn, chwifiwn yn ôl arno fo! Mae o wedi concro! (Yn cipio'r siôl wen oddi ar y doctor, ei chwifìo a gweiddi.) Hwre i'r adeiladwr!

Dr Hughes

Peidiwch. Yn enw'r nefoedd, peidiwch...



Y merched ar y feranda yn chwifio eu hancesi. Y dyrfa yn y stryd yn ymuno yn y gymeradwyaeth. Hwre! hwre! Distawrwydd sydyn a'r dyrfa yn rhoi gwaedd o ddychryn. Yn aneglur, rhwng y coed, gwelir corff a phlanciau ac ati yn dymchwel.

Mrs Morris a'r merched

(Gyda'i gilydd.) Mae o'n disgyn! Mae o'n disgyn!



Mrs Morris yn gwegian, yn syrthio'n ôl mewn llewyg ac yn cael ei dal gan y merched yng nghanol ocheneidiau a chythrwfl. Mae'r dyrfa'n torri dros y ffens ac i'r ardd. Dr Hughes yn rhuthro yno yr un pryd. Saib fer.

Helen

(Yn dal i edrych i fyny heb symud amrant, wedi ei mesmereiddio.) Fy arwr. Fy mhencampwr i! Dyna ddyn!

Elwyn

(Yn pwyso ar ganllaw am gymorth ac yn crynu.) Mae'n rhaid ei fod o wedi'i falu'n ddarna'. Wedi'i ladd yn y fan.

Un o'r merched

(Tra bod Mrs Morris yn cael ei chario i'r tŷ.) Rhedwch i lawr am y doctor...

Elwyn

Fedra' i ddim symud...

Merch arall

Wel, gwaeddwch ar rywun ynte'!

Elwyn

(Yn ceisio gweiddi.) Sut mae petha? Ydy o'n fyw?

Llais

(I lawr yn yr ardd.) Mae Mr Morris wedi'i ladd.

Lleisiau eraill

(Yn nes.) Mae ei ben o wedi'i falu... Mi syrthiodd reit i'r chwarel.

Helen

(Yn troi at Elwyn a dweud yn ddistaw.) Alla' i mo'i weld o i fyny na rŵan.

Elwyn

Mae hyn yn ofnadwy. Methu ddaru o yn y diwedd.

Helen

(Yn dawel ac fel petai hi dan gyfaredd rhyw fuddugoliaeth.) Ond mi gyrhaeddodd reit i'r copa. Ac mi glywais i delyna' yn yr awyr. (Yn chwifio'r siôl a rhoi llef angerddol.) Fy arwr! Fy arwr i!

a1a2a3